Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Abigail Cole (AC), Cyngor Sir Caerfyrddin

Alwyn Williams (AW), Cyngor Sir Ynys Môn

Anja Knox (AK), Llywodraeth Cymru

Bryn Jeffries (BJ), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Caitlin Theodorou (CT), Cyngor Sir Ceredigion

Eleri James (EJ), Comisiynydd y Gymraeg

Geeta Kerai (GK), Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Lleol

Geraint Morgan (GM), Cyngor Sir Powys

Henry Knowles (HK), Cyfoeth Naturiol Cymru

Janine Edwards (JE), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Jonathan Radcliffe (JRa), Chwaraeon Cymru

Kay Palmer (KP), Archwilio Cymru

Lee Clarke (LC), Cyngor Sir Caerdydd

Lloyd Fisher (LF), Cyngor Bro Morgannwg 

Lowri Wyn Morton (LWM), Cyngor Gwynedd

Megan Williams (MW), Llywodraeth Cymru, 

Morgan Lowden (ML), Cyngor Sir Ynys Môn 

Peter Davies (PD), Ymchwil y Senedd

Rachael Clifford (RC), MEDR

Rebecca Ann Williams (RAW), Cyngor Gwynedd

Richard Jones (RJ), Cyngor Sir Fynwy

Steve King (SK), Dinas a Sir Abertawe

Vicki Doyle (VD), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Siaradwyr

Brenna Organ (BO), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Jack Roberts (JR), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Jodi Massey (JM), Llywodraeth Cymru

Joy Preece (JP), SYG

Luned Jones (LJ), Llywodraeth Cymru

Martin Parry (MP), Llywodraeth Cymru

Nigel Henretty (NH), SYG

Paul Dingle (PDi), Llywodraeth Cymru

Rob Pascoe (RP), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Stephanie Harries (SHa), Llywodraeth Cymru

Stephanie Howarth (SH), Llywodraeth Cymru 

Will Parrott (WP), Llywodraeth Cymru

Y sawl sy’n cadw cofnodion

Jasmine Sears, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Andy Wilson, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Gwyneth Ayers, Cyngor Sir Caerfyrddin

Kate Jones, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru

Leanne John, Cyngor Abertawe

Manon Fflur Pritchard, Cyngor Gwynedd

Nathan Lester, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nia Wyn Vaughan, Cyngor Gwynedd

Paul Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflwyniad

Agorodd SH y cyfarfod, gan groesawu pawb a oedd yn bresennol, a chyflwynwyd y rhai a oedd yn bresennol am y tro cyntaf. Nododd SH nad oedd cyfieithu ar y pryd ar gael am nad oedd y cyfarfod yn cyrraedd y trothwy o 10% ar gyfer y Gymraeg. 

Cofnodion a chamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Ni wnaed unrhyw sylwadau ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Roedd y cam gweithredu i bob aelod a roddodd adborth ar wasanaeth newydd StatsCymru i lenwi ffurflen adborth StatsCymru wedi’i gwblhau.

Rhoddodd MP yr wybodaeth ddiweddaraf am y cam gweithredu i edrych ar wahanol rwydweithiau a grwpiau iechyd y gellid cyflwyno’r amcanestyniadau iddynt. Bydd y tîm mewn cysylltiad â’r grŵp Data Gofal Cymdeithasol yng Nghymru sy’n cynnwys aelodau o Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill. 

Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Brenna Organ, CLlLC)

Gweler y diweddariad a gyhoeddwyd gan CLlLC am ragor o wybodaeth 

Rhoddodd BO ddiweddariad ar CLlLC. Ar ôl uno Data Cymru a CLlLC, mae Data Cymru wedi cael ei rannu rhwng y tîm ymgysylltu a’r tîm digidol a data. Mae’r tîm digidol a data yn datblygu rhaglen waith ar gyfer data gan gynnwys prosiectau sy’n bodoli eisoes a chryfhau cysondeb ag egwyddorion gwella o dan arweiniad y sector. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda llywodraeth leol i helpu i lunio blaenoriaethau a sicrhau bod cymorth yn canolbwyntio ar ble mae fwyaf gwerthfawr. Yna amlinellodd BO y gwaith sy’n cael ei wneud i wella’r arolwg cenedlaethol o drigolion, gan gynnwys cysoni’r arolwg â’r holl gynghorau sy’n cymryd rhan, cryfhau cyfraddau ymateb a datblygu modiwl Cymraeg i wella’r broses o gasglu data ar gyfer y Gymraeg. 

Trafodaeth 

Trafododd MP a BO y gwaith sy’n cael ei wneud gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ehangu’r broses o gasglu data am y Gymraeg. Mae’r prosiect ar gam cynnar yn ei ddatblygiad a bydd cyfleoedd i roi mewnbwn yn barhaus a’i ddatblygu. Ychwanegodd EJ fod cysoni â safonau’r arolwg presennol a’r cwestiynau demograffig yn flaenoriaeth. 

Cam gweithredu 1: bydd MP yn sicrhau bod eitem ar yr agenda yn y cyfarfod rhwng tîm ystadegau’r Gymraeg a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y gwaith sy’n mynd rhagddo i gasglu data ar y Gymraeg.

Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru (Stephanie Howarth, Llywodraeth Cymru)

Gweler y cylchlythyr cyhoeddedig am ragor o wybodaeth 

Rhoddodd SH grynodeb o sawl eitem o’r diweddariad chwarterol.

O ran ystadegau economaidd, ar ôl y datganiad nesaf ym mis Gorffennaf, ni fydd y dangosyddion allbwn economaidd byrdymor yn cael eu cyhoeddi mwyach a bydd ffigurau CDG chwarterol rhanbarthol gan y SYG yn cael eu defnyddio yn lle hynny. Cyhoeddwyd blog ym mis Ebrill ar ansawdd yr ystadegau ar gyfer Cymru yn yr arolwg o’r llafurlu a’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth. Nododd SH fod y cyfraddau ymateb i’r arolwg yn isel o gymharu â safonau hanesyddol.

O ran ystadegau tai a digartrefedd, mae gwaith yn mynd rhagddo i newid o gasglu data cyfanredol i gasglu data ar lefel unigol ar gyfer digartrefedd. Mae’r tîm hefyd yn archwilio defnyddio ffynonellau data gweinyddol ar gyfer ystadegau adeiladu tai er mwyn gwella ansawdd yr ystadegau. 

O ran ystadegau iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r dangosfwrdd iechyd meddwl wedi’i ddiweddaru, ac mae cyhoeddiad misol newydd ar adnoddau a galw ym maes gofal cymdeithasol wedi’i lansio. 

O ran ystadegau tlodi ac amddifadedd, mae proffiliau amddifadedd ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi’u cyhoeddi ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi diweddaru methodoleg ystadegau tlodi gan ymgorffori data budd-daliadau gweinyddol. 

O ran ystadegau trafnidiaeth, mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei chwe mis cyntaf o ddata, gan roi ffynhonnell newydd ar gyfer dadansoddi trafnidiaeth.

Diweddariad demograffeg (Martin Parry, Llywodraeth Cymru)

Gweler y cylchlythyr cyhoeddedig am ragor o wybodaeth.

Rhoddodd MP yr wybodaeth ddiweddaraf o’r cylchlythyr. Mae’r SYG wedi cyhoeddi’r amcangyfrifon hirdymor diweddaraf o fudo rhyngwladol. Er nad yw’r rhain ar gael ar lefel Cymru, maent yn bwydo i mewn i’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Ym mis Mawrth cyhoeddodd y SYG ystadegau wedi’u diweddaru ynglŷn â’r gofrestr etholiadol. Nid ydynt eto’n cynnwys pobl 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. 

Trafodaeth

Gofynnodd LWM a oes cynlluniau i ddiweddaru amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn seiliedig ar amcangyfrifon 2024. Ymatebodd MP fod y tîm yn edrych ar opsiynau posibl ar gyfer y gyfres nesaf o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol a bydd yn rhoi mwy o fanylion yn fuan.

Archwiliad data o lywodraeth leol

Rhoddodd RP gyflwyniad ar yr archwiliad data o gynghorau. Crynhodd yr angen am archwiliad o ffurflenni data gan esbonio bod yr archwiliad yn anelu at ddeall y dirwedd adrodd data mewn cynghorau yng Nghymru. Mae’n edrych ar ba ddata sy’n cael eu casglu a pham maent yn cael eu casglu. Bydd adroddiad canfyddiadau yn cael ei baratoi a fydd yn ystyried sut a ble y gellir gwella prosesau casglu data. Y tro hwn mae’r archwiliad yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol, addysg a chynllunio. Bydd yr adroddiad yn rhoi argymhellion ar feysydd i’w gwella megis lle mae unrhyw ffurflenni’n cael eu dyblygu, terfynau amser sy’n gwrthdaro, a sut i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i gynghorau. Amlinellodd RP sut y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei baratoi a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y prosiect ar hyn o bryd. 

Trafodaeth

Tynnodd JE sylw at bwysigrwydd ystyried defnyddiau eilaidd o ddata, nid dim ond y prif ddiben casglu. Rhoddodd enghraifft o ddata gofal cymdeithasol yn cael eu hailddefnyddio ar gyfer amcangyfrifon o anghenion poblogaethau ac asesiadau llesiant. Cytunodd RP gan ychwanegu bod gwerth y data yn ymestyn y tu hwnt i’r tîm data i ddefnyddiau polisi a defnyddiau sefydliadol ehangach. 

Nododd JE y diddordeb deddfwriaethol cynyddol mewn gwaith monitro ac adrodd, gan gynnwys datblygu dangosfyrddau ac awgrymodd y gallai catalog gefnogi’r anghenion hyn.

Holodd SK am gynlluniau i ehangu’r gwaith i wasanaethau cyngor eraill fel tai ar ôl y tri maes cychwynnol. Ymatebodd RP nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar hyn eto a bod y camau nesaf yn debygol o gynnwys ymgysylltu â phobl i nodi meysydd â blaenoriaeth.

Cam gweithredu 2: bydd eitem yn cael ei chynnwys ar yr agenda ar ganfyddiadau’r adroddiad o’r archwiliad o lywodraeth leol yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru ym mis Hydref.

Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegau Llywodraeth Cymru

Rhoddodd LJ gyflwyniad ar y newidiadau arfaethedig i ystadegau Llywodraeth Cymru o’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Roedd yr ymgynghoriad yn cwmpasu chwe thema polisi, gan gynnig newidiadau megis lleihau hyd neu amlder allbwn a rhoi terfyn ar allbynnau dyblyg. Dangosodd yr adborth fod defnyddwyr yn deall bod angen blaenoriaethu a lleihau rhai allbynnau ond gwnaethant hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal data hygyrch i Gymru a chanllawiau clir.

Trafodaeth

Cododd JE bryder, pan ddaw ffynonellau data i ben, efallai na fydd rhai defnyddwyr yn sylwi am flynyddoedd am mai anaml y maent yn defnyddio’r ystadegau o bosibl. Pwysleisiodd JE hefyd bwysigrwydd cyfeiriadau clir lle mae adroddiadau wedi cael eu cwtogi neu wedi dod i ben er mwyn esbonio’r dewisiadau amgen sydd ar gael. Cydnabu LJ hyn gan nodi lle mae ymdrechion wedi’u gwneud i gyfeirio at ble mae newidiadau wedi’u gwneud mewn cyhoeddiadau, esbonio lefelau is, a chyfeirio defnyddwyr at ffynonellau data amgen.

Datblygiadau diweddaraf a map ffordd StatsCymru

Amlinellodd SH rai o’r diweddariadau diweddar i wasanaeth newydd StatsCymru. Mae nodwedd chwilio wedi cael ei lansio sy’n golygu bod defnyddwyr yn gallu chwilio am setiau data gan ddefnyddio allweddeiriau. Mae’r nodwedd hon wedi rhoi tystiolaeth o ba dermau sy’n cael eu defnyddio i chwilio am setiau data. Mae’r nodwedd newydd i greu tabl yn golygu bod defnyddwyr yn gallu gweld y data ar fformat tabl. Mae gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i gadernid y gwasanaeth.

Yna, aeth JM â’r grŵp drwy ymarfer i gasglu mewnbwn ar y rhannau canlynol o wasanaeth newydd StatsCymru: yr hafan, tacsonomeg, y nodwedd chwilio, gweld data, trin data, lawrlwytho data, metadata a rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau Bydd yr adborth o’r ymarfer hwn yn cael ei ddefnyddio i lunio’r map ffordd ar gyfer StatsCymru yn y dyfodol.

Diweddariad ar ystadegau poblogaeth a’r Cyfrifiad

Diweddariad ar Gyfrifiad ac amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y SYG (Nigel Henretty)

Cyflwynodd NH y diweddariad ar ystadegau ynglŷn â’r boblogaeth a’r Cyfrifiad. Rhoddodd NH y wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau ar gyfer Cyfrifiad 2031, gan gynnwys prawf yn 2027. Rhoddodd NH ddiweddariad hefyd ar amcangyfrifon poblogaeth. Mae’r SYG yn gweithio ar wella dulliau o baratoi amcangyfrifon mudo mewnol a rhyngwladol, a disgwylir i’r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith o amcangyfrifon canol 2026. Mae datganiadau sydd ar ddod yn cynnwys amcangyfrifon canol 2025 gyda diwygiadau yn dyddio’n ôl i 2022 i 2024 i adlewyrchu data mudo wedi’u diweddaru, ynghyd ag amcangyfrifon ar gyfer y DU gyfan a disgwylir ffigur poblogaeth dros dro ar gyfer y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Esboniodd NH fod adolygiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi canfod hyder da yn yr ystadegau ar lefel genedlaethol ond pryderon ynghylch cywirdeb ar lefel is-genedlaethol ac is-grŵp. Mae wedi pennu gofynion i wella tryloywder, sut i gyfleu ansicrwydd, a chanllawiau i ddefnyddwyr. Mae’r SYG yn bwriadu mynd i’r afael â’r rhain drwy ddogfennaeth well, esboniad cliriach o gryfderau a chyfyngiadau a chanllawiau wedi’u diweddaru ar ba amcangyfrifon i’w defnyddio. Esboniodd NH y bydd cynllun gwaith yn cael ei gyhoeddi a fydd yn amlinellu gwelliannau, gan ddangos sut y parheir i ddatblygu dullliau.

Trafodaeth

Gofynnodd JE a fydd y SYG bellach yn diwygio amcangyfrifon poblogaeth ymhellach yn ôl mewn amser pryd bynnag y bydd dulliau yn newid. Ymatebodd NH mai dim ond mor bell yn ôl ag sy’n angenrheidiol y gwneir diwygiadau a hynny er mwyn cynnal cysondeb, yn bennaf gyda data mudo rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae hyn yn gofyn am fynd yn ôl i 2022, nid y gyfres amser lawn. Nododd NH hefyd y dylai diwygiadau fod yn llai helaeth dros amser wrth i’r dulliau o baratoi’r amcangyfrifon ymsefydlogi.

Nododd JE y gall adolygiadau mynych ddrysu defnyddwyr a lleihau ymddiriedaeth, gan wneud iddi ymddangos fel pe bai’r data yn annibynadwy. Nododd NH hyn ac awgrymodd y dylid gwella’r ffordd y cyfathrebir ynghylch maint ac effaith diwygiadau er mwyn tawelu meddyliau defnyddwyr. Er bod diwygiadau yn bwysig o ran cywirdeb, mae’n hollbwysig rheoli disgwyliadau defnyddwyr ac esbonio newidiadau’n glir er mwyn cynnal hyder.

Holodd SK am gynnig blaenorol i gael amcangyfrifon rhagarweiniol, dros dro a therfynol bob blwyddyn. Ymatebodd NH fod y dull hwn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer amcangyfrifon poblogaeth sy’n seiliedig ar weinyddiaeth ac nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer yr amcangyfrifon canol blwyddyn.

Diweddariad ar amcanestyniadau poblogaeth (Stephanie Harries)

Cyflwynodd SHa yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Cyhoeddwyd yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 ar 28 Ebrill gan y SYG. Maent yn seiliedig ar dybiaethau am ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo, ac maent yn dwyn ansicrwydd. Yna amlinellodd SHa yr amcanestyniadau gan gynnwys y darlun cyffredinol i Gymru, newidiadau yn strwythur oedran, genedigaethau, marwolaethau a mudo. Cymharodd SHa yr amcanestyniadau ag amcanestyniadau blaenorol

Trafodaeth

Tynnodd JE sylw at y ffaith bod y gwahaniaeth rhwng amcanestyniadau 2022 a 2024 yn debygol o godi oherwydd tueddiadau anarferol yn ystod COVID sy’n effeithio ar y data. Cytunodd NH gan nodi yr amcanestynnir y bydd y DU yn gweld mwy o farwolaethau na genedigaethau o tua 2026 ymlaen.

Safon wedi’i chysoni o ran ethnigrwydd

Rhoddodd JP gyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud yng Ngwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i ddatblygu safon gyson newydd ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd sy’n anelu at wella cysondeb, y gallu i gymharu data ac ansawdd data.

Amlinellodd JP anghenion defnyddwyr a chyflwynodd rai o’r heriau a gododd wrth ddatblygu cwestiynau i gasglu data ethnigrwydd. Mae’r gwaith yn archwilio sut i lunio cwestiynau ac yn anelu at gydbwysedd rhwng defnyddioldeb a chynhwysiant. Esboniodd JP gamau nesaf y prosiect: bydd adroddiad manwl ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr haf, bydd yr opsiynau ymateb arfaethedig yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, a’r targed yw y bydd y safon derfynol i’r DU gyfan ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. 

Amcangyfrifon o anghenion tai

Cyflwynodd WP yr amcangyfrifon o anghenion tai yn seiliedig ar 2025. Mae’r rhain yn asesu’r anghenion tai yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf gan ddefnyddio amcanestyniadau tai wedi’u diweddaru. Mae anghenion tai yn cael eu rhannu rhwng angen presennol heb ei ddiwallu ac angen sy’n codi o’r newydd. Esboniodd WP y newidiadau i’r amcangyfrifon o anghenion tai o’u cymharu ag amcangyfrifon sy’n seiliedig ar 2019 ac eglurodd newidiadau methodolegol allweddol i’r ffordd y paratoir yr amcangyfrifon.

Unrhyw fater arall

Gofynnodd JE a oes cynlluniau ar gyfer grŵp cynghori i Gymru ar gyfer y Cyfrifiad.

Gofynnodd LWM i NH a yw’r SYG yn mynd i ddatblygu amcangyfrifon o incwm aelwydydd eto ar lefel ddaearyddol is. Ymatebodd NH y byddai’n holi a oes unrhyw gynlluniau ar waith.

Cam gweithredu 3: Bydd Nigel Henretty yn adrodd yn ôl ar gynlluniau i sefydlu grwpiau cynghori ar gyfer y Cyfrifiad.

Cam gweithredu 4: Bydd Nigel Henretty yn holi yn y SYG am y cynnydd presennol o ran amcangyfrifon o incwm aelwydydd ar gyfer ardaloedd daearyddol bach.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 13 Hydref 2026.

Pwyntiau gweithredu

Cam gweithredu 1bydd MP yn sicrhau bod eitem ar yr agenda yng nghyfarfod rheolaidd tîm ystadegau’r Gymraeg â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y gwaith sy’n mynd rhagddo i gasglu data ar y Gymraeg.

Cam gweithredu 2: bydd eitem yn cael ei chynnwys ar yr agenda ar ganfyddiadau’r adroddiad o’r archwiliad o lywodraeth leol yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru ym mis Hydref.

Cam gweithredu 3: bydd Nigel Henretty yn adrodd yn ôl ar gynlluniau i sefydlu grwpiau cynghori ar gyfer y Cyfrifiad.

Cam gweithredu 4: bydd Nigel Henretty yn holi yn y SYG am y cynnydd presennol o ran amcangyfrifon o incwm aelwydydd ar gyfer ardaloedd daearyddol bach.