Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ynghylch ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Ceir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau diweddaraf yn ein calendr o'r hyn sydd i ddod.

Ymgynghoriad ar allbynnau ystadegol

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad 12 wythnos ar allbynnau ystadegol, rhwng 19 Tachwedd 2025 a 11 Chwefror 2026. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ein gwefan ac roedd yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud ag ystod o gynigion ar draws pynciau ystadegol. Cafwyd cyfanswm o 59 o ymatebion i'r prif ymgynghoriad. Mae'r holl ymatebion wedi'u dadansoddi a'u hystyried, a chânt eu cyflwyno yn y crynodeb o'r ymatebion

Roedd yr ymatebion yn pwysleisio pwysigrwydd cyfeiriadau clir at ystadegau a gynhyrchir gan sefydliadau heblaw Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cefnogi defnyddwyr drwy gyhoeddi canllaw i lle i ddod o hyd i ystadegau am Gymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr ystadegau eraill ledled y DU i sicrhau eu bod yn deall anghenion defnyddwyr Cymru ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu hadroddiadau ystadegol.

Wrth inni weithredu'r newidiadau yn seiliedig ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym hefyd yn cymryd camau i sefydlu patrwm mwy cyson bob mis wrth gynhyrchu cyhoeddiadau i gefnogi'r capasiti a gwella profiad y defnyddiwr. Yn gyffredinol, caiff datganiadau blynyddol ac untro eu cyhoeddi yn hanner cyntaf y mis, a datganiadau misol neu chwarterol yn yr ail hanner, gydag eithriadau lle bo angen. 

Byddwn yn parhau i addasu ein hallbynnau ystadegol mewn ymateb i adborth defnyddwyr, gan sicrhau bod ein dull yn berthnasol ac yn ddefnyddiol. Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn hefyd yn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r anghenion ystadegol hynny sy'n flaenoriaeth i'r llywodraeth nesaf, gan gydbwyso'r gofynion sy'n datblygu â'r adnoddau sydd ar gael.

StatsCymru

Dros y chwarter diwethaf, mae ein ffocws ar gyfer StatsCymru wedi bod ar gyflawni gwelliannau wedi'u targedu i'r gwasanaeth, wrth roi sylfeini cryfach ar waith ar gyfer cynllunio yn y dyfodol. Rydym wedi parhau i fireinio defnyddioldeb, hygyrchedd a chysondeb ar draws y platfform, gan ymateb yn uniongyrchol i adborth cyhoeddwyr a defnyddwyr er mwyn lleihau rhwystrau mewn llifoedd gwaith lle bynnag y bo modd.

Rydym wedi rhyddhau gwelliannau i'r wefan sy'n wynebu defnyddwyr. Mae'r rhain wedi caniatáu i ddefnyddwyr greu eu tablau eu hunain a hidlo'n well, gan roi mwy o reolaeth iddynt dros y ffordd y maent yn archwilio data StatsCymru.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi newid y pwyslais tuag at gynllunio map trywydd a darganfod mewn modd mwy strwythuredig. Rydym yn paratoi i gynnal sesiynau ymgysylltu penodol i nodi'n glir beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd ddim yn gweithio, a meysydd lle mae ansicrwydd. Bydd y dull hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhoi darlun cliriach inni o flaenoriaethau a bydd yn llywio'n uniongyrchol fap trywydd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer cam nesaf y gwaith ar StatsCymru.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i statscymru@llyw.cymru 

Yr economi a'r farchnad lafur

Yr economi

Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymwneud â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Gellir dod o hyd i eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar-lein. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Hydref 2026. Rydym yn awyddus i estyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â digwyddiadauGGD@llyw.cymru.

Ym mis Ebrill, fe wnaethom gyhoeddi ein cyhoeddiad Dangosyddion allbynnau tymor byr: Hydref i Ragfyr 2025. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad. Fe wnaethom hefyd esbonio ein cynlluniau i gyhoeddi chwarter arall o ddata dangosyddion allbynnau tymor byr ym mis Gorffennaf 2026. Mae hyn oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn bwriadu cyhoeddi erthygl ddata sy'n cynnwys amcangyfrifon o gynnyrch domestig gros (GDP) rhanbarthol chwarterol wedi'u diweddaru yn yr haf, sef y cam nesaf yn eu cynlluniau i ailgyflwyno ffigyrau GDP rhanbarthol chwarterol yn llawn yn 2027. Ym mis Mai, fe wnaethom gyhoeddi ein cyhoeddiad Allforion blynyddol nwyddau bwyd a diod: 2025 ac, ym mis Mehefin, byddwn yn cyhoeddi ein Gwerthusiad economaidd o fwyd a diod: 2025.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.economi@llyw.cymru

Y farchnad lafur

Mae'r SYG wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach. Rydym yn parhau i argymell y dylid dehongli'r data hyn yn ofalus. 

Mae'r diweddariadau diweddaraf gan SYG ynghylch ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu (SYG) a'r gwelliannau arfaethedig ar gyfer ystadegau economaidd (SYG), a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2026, yn cynnwys gwybodaeth am y camau y mae SYG wedi'u cymryd ac yn parhau i'w cymryd i wella ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau'r farchnad lafur. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau y mae SYG wedi'u cyflwyno i wella ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu ac amcangyfrifon y farchnad lafur o dan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer Cymru, gweler diweddariad diweddaraf y Prif Ystadegydd: mesur y farchnad lafur yng Nghymru (Blog Digidol a Data) a ddiweddarwyd hefyd ym mis Ebrill 2026.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol ar drosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau ynghyd ynghylch y farchnad lafur. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru. 

Ym mis Ebrill, fe wnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer 2025 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. 

Roedd yr allbynnau eraill a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn cynnwys y diweddariad chwarterol ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) sy'n cyflwyno'r data ar gyfer 2025 ac yn rhoi ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc (unigolion rhwng 16 a 24 oed) NEET yng Nghymru. 

Cyhoeddwyd y diweddariad diweddaraf o'r datganiad Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio hefyd, sy'n cwmpasu data ar gyfer 2025. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio yng Nghymru ac mae'n rhoi gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol.

Roedd yr amcangyfrifon yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau'r samplau dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, mae'r achrediad hwn wedi'i atal dros dro, a chaiff yr amcangyfrifon eu dynodi'n ystadegau swyddogol (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) ar hyn o bryd. Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd uwch ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. 

Ym mis Mai, cyhoeddwyd data Cymudo yng Nghymru: 2025 ar StatsCymru sy'n dangos llifoedd cymudo o ardaloedd yng Nghymru i ardaloedd eraill (yng Nghymru a'r tu allan i Gymru). Cyhoeddwyd hefyd y data diweddaraf ar Wahaniaethau cyflog yn ôl anabledd ac ethnigrwydd ar gyfer 2025 sy'n darparu amcangyfrifon o'r enillion canolrifol fesul awr a'r gwahaniaethau cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yng Nghymru yn ôl statws anabledd ac yn ôl ethnigrwydd.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Masnach a Thablau Mewnbwn Allbwn

Arolwg Masnach Cymru

Mae'r dadansoddiad o Arolwg Masnach Cymru 2022 ar gael ar-lein. 

Mae gwaith paratoi ar gyfer gwaith maes i gasglu data 2025 ar y gweill ar ôl cwblhau arolwg peilot chwe wythnos ym mis Ebrill 2026. Disgwylir cynnal y gwaith maes rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2026 gyda ffeiliau data ac allbynnau terfynol i'w cyflwyno gan y contractwr ym mis Mawrth 2027. 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru

Cyhoeddwyd canlyniadau Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer 2025 ar 19 Mawrth 2026, a disgwylir i ddata'r chwarter nesaf gael eu cyhoeddi ar 11 Mehefin 2026. 

Cyhoeddodd CThEF rag-gyhoeddiad o gywiriadau sylweddol heb eu trefnu i ystadegau masnach tramor y DU mewn nwyddau ym mis Tachwedd 2025, gan effeithio'n benodol ar allforion 'Olew' (SITC 33) a 'Nwy' (SITC 34). Mae'r diwygiadau hyn bellach wedi'u gwneud i'r ystadegau masnach ranbarthol a'r ystadegau masnach tramor. 

Yn ein hymgynghoriad diweddar ar allbynnau ystadegol, fe wnaethom gynnig rhoi'r gorau i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar fasnach nwyddau rhyngwladol Cymru (ond parhau i gyhoeddi'r crynodeb chwarterol byr o'r prif bwyntiau i Gymru). Cefnogwyd y cynnig hwn gan ddefnyddwyr, fel y nodwyd yn y crynodeb o'r ymatebion. Felly, rydym wedi rhoi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad blynyddol ar unwaith. Gall defnyddwyr barhau i gael mynediad at y data mwyaf cywir ac amserol (sy'n ymgorffori'r holl ddiwygiadau) drwy'r prif ystadegau chwarterol a'n dangosfwrdd rhyngweithiol.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn Allbwn

Cyhoeddwyd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn ar gyfer 2019 fel ystadegau swyddogol a oedd wrthi'n cael eu datblygu ar 11 Mawrth 2025. Bydd tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn allbwn ar gyfer 2022 yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026, ynghyd â lluosyddion economaidd wedi'u diweddaru.

Os hoffech ddefnyddio'r tablau hyn ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun a'ch bod am gael cyngor ar sut i'w cymhwyso, mae croeso ichi gysylltu â ni.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru

Addysg

Ysgolion

Data presenoldeb

Fe wnaethom barhau i gyhoeddi data bob pythefnos ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor y gwanwyn. O 4 Mai 2026 ymlaen, caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi'n fisol ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis hyd at ddiwedd mis Awst 2026. Byddwn yn dechrau ei gyhoeddi eto yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi 2026.

Cyhoeddwyd y datganiad Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2024 i Awst 2025 ar 25 Mawrth 2026.

Datganiadau ystadegol i ddod

Caiff diweddariad ar y datganiad ystadegol sef Patrymau cyflawniad mewn darllen a rhifedd ei gyhoeddi ar 25 Mehefin 2026.

Bydd canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion ym mis Ionawr 2026 yn cael eu cyhoeddi ar 1 Awst 2026 a'r data ar gyfer Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol Ionawr 2026 yn ddiweddarach ym mis Awst 2026.

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Fe wnaethom gyhoeddi ein datganiadau blynyddol ar Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach) ac Addysg gychwynnol i athrawon

Er mwyn rhoi adborth, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.

Tai

Gwella casglu data ar Ddigartrefedd yng Nghymru

Ar hyn o bryd, caiff data ar ddigartrefedd yng Nghymru eu casglu drwy ddatganiadau cyfanredol gan awdurdodau lleol, sy'n rhoi gwybodaeth am aelwydydd sy'n gwneud cais am gymorth tai a chanlyniadau'r ceisiadau hynny. Mae gwaith yn parhau i drosglwyddo i ddull casglu data newydd a fydd yn cofnodi data ar ymgeiswyr digartrefedd ar lefel unigol. Credwn y bydd y newid hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ddigartrefedd yng Nghymru yn sylweddol ac y bydd, yn y pen draw, yn cefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i unigolion sy'n agored i niwed.

Ar ôl cwblhau cynllun peilot data a gynhaliwyd ar ddiwedd 2025 gyda detholiad bach o awdurdodau lleol, cytunwyd na fyddai'r casgliad data newydd yn 'mynd yn fyw' yn llawn ar y dyddiad lansio gwreiddiol ym mis Ebrill 2026. Yn lle hynny, byddwn yn parhau i dreialu'r casgliad newydd mewn camau graddol rhwng mis Ebrill 2026 a mis Ebrill 2027. Bydd hyn yn rhoi amser i wella ansawdd data, cwblhau gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), a datblygu systemau ymhellach.

Amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai 

Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi rhyddhau ei Hadolygiad cydymffurfiaeth o'r Amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau), yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf o'r Amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai ym mis Chwefror.

Defnyddio data gweinyddol ar gyfer yr ystadegau ar y cyflenwad o dai newydd

Yn ein cyhoeddiad diweddar, Dichonoldeb defnyddio data gweinyddol i fesur y cyflenwad o dai newydd, rydym wedi archwilio sut y gellid defnyddio ffynonellau data amgen i wella a sicrhau ansawdd ein Hystadegau presennol ar adeiladu tai newydd. Rydym yn croesawu unrhyw farn gan ddefnyddwyr ar y gwaith hwn a sut y gall gefnogi dealltwriaeth o'r cyflenwad o dai newydd.

Cyhoeddiadau tai

Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Hydref i Ragfyr 2025 (cyhoeddwyd 5 Mawrth 2026)

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Ionawr 2026 (cyhoeddwyd 26 Mawrth 2026)

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Chwefror 2026 (cyhoeddwyd 30 Ebrill 2026)

Digartrefedd: Ebrill i Fedi 2025 (cyhoeddwyd 2 Ebrill 2026)

Cymorth ar gyfer gwelliannau tai: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (cyhoeddwyd 14 Mai 2026)

Peryglon tai: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (cyhoeddwyd 14 Mai 2026)

Tai amlfeddiannaeth (HMO) trwyddedu: ar 31 Mawrth 2025 (cyhoeddwyd 14 Mai 2026)

Tai gafodd eu dymchwel: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (cyhoeddwyd 14 Mai 2026)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.tai@llyw.cymru.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Ystadegau ysbytai

Y chwarter hwn, fe wnaethom ddiweddaru'r crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG. Fe wnaethom hefyd ddiweddaru ein hallbwn chwarterol ar archwiliad dwfn o berfformiad y GIG ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.

Iechyd meddwl

Y chwarter hwn, fe wnaethom gyhoeddi diweddariad i'r Ystadegau iechyd meddwl: dangosfwrdd rhyngweithiol. Yn ogystal, diweddarwyd ystadegau iechyd meddwl chwarterol eraill yn ymwneud â Nifer y bobl a gadwyd o dan adran 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd MeddwlMesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Gofal sylfaenol ac iechyd cymunedol

Y chwarter hwn, fe wnaethom gyhoeddi'r datganiad ystadegol cyntaf ar gyfer y gweithlu practisau cyffredinol, yn seiliedig ar System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol newydd. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi diweddariadau i ystadegau gofal sylfaenol ar weithgarwch practisau cyffredinolgwasanaethau deintyddol y GIG ac ystadegau iechyd cymunedol ar Raglen Plant Iach Cymrubwydo ar y fron.

Gweithlu a gwariant y GIG

Y chwarter hwn, diweddarwyd ein data chwarterol ynghylch staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, absenoldeb salwch yn y GIG ac ystadegau swyddi gwag y GIG, fel un datganiad wedi'i grynhoi, sef Gweithlu'r GIG: staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.

Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Y chwarter hwn, diweddarwyd hefyd yn rheolaidd ystod o ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys Mesurau gofal llygaid a Gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Yn ogystal â hyn, diweddarwyd y data blynyddol ar Weithgarwch gwasanaethau cymdeithasol, sy'n darparu gwybodaeth am weithgarwch gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Cyhoeddir hefyd am y tro cyntaf ddata ar gapasiti a galw gwasanaethau cymdeithasol, sy'n darparu data misol o fis Mawrth 2024 ymlaen ar Nifer y cysylltiadau ac asesiadau a gwblhawyd gan y gwasanaethau oedolion (StatsCymru) a Nifer yr oedolion sy'n derbyn gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaethau oedolion (StatsCymru).

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y Wefan ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn adran iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Teithio Llesol

Ym mis Mawrth 2026, fe wnaethom gyhoeddi'r bwletin ystadegol Teithio Llesol. Mae'r bwletin hwn yn archwilio nodweddion y bobl sydd fwyaf tebygol o gerdded neu feicio wrth deithio, neu'r bobl y mae eu plant yn fwyaf tebygol o gerdded neu feicio i'r ysgol. 

Y Lluoedd Arfog

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi bwletin y Lluoedd Arfog ym mis Ebrill 2026. Mae'r bwletin hwn yn edrych ar nodweddion cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru, a theuluoedd y rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, neu sydd wedi gwneud hynny.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i arolygon@llyw.cymru.

Cyfiawnder cymdeithasol

Tlodi a chostau byw

Ar 26 Mawrth 2026, fe wnaethom gyhoeddi diweddariadau i grynodebau o ddata blynyddol ar gyfer Cymru ar dlodi incwm cymharol a thlodi parhaus, a oedd yn cynnwys y data diweddaraf yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chyfres wedi'i diweddaru o ddata lefel y DU ar dlodi incwm ac amddifadedd materol (yr Adran Gwaith a Phensiynau)tlodi parhaus (yr Adran Gwaith a Phensiynau) ac adnoddau teuluol (yr Adran Gwaith a Phensiynau), a diweddariad i'w hystadegau ar blant mewn teuluoedd incwm isel yn ôl ardal leol (yr Adran Gwaith a Phensiynau). Roedd hyn yn cynnwys nifer o ddatblygiadau a rhai diwygiadau i ddata'r blynyddoedd diwethaf (yn ôl i'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022), fel y'u disgrifir yn ein blog diweddar (Blog Digidol a Data).

Ar 28 Mai 2026, byddwn yn cyhoeddi diweddariad i ystadegau'r Gronfa Cymorth Dewisol, gyda dadansoddiadau yn ôl oedran ac awdurdod lleol. 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi rhai tablau MALlC newydd ar StatsCymru, gan gynnwys proffiliau amddifadedd ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, etholaethau seneddol y DU a dosbarthiadau trefol gwledig, yn ogystal â thabl data dangosyddion yn benodol ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru. 

Mae ein rhestr cyhoeddiadau MALlC yn catalogio popeth rydym wedi'i gyhoeddi a'r hyn sydd i ddod.

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru os hoffech ymuno â'n rhestr o danysgrifwyr i gael hysbysiadau am ddatganiadau newydd, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer sesiynau gwybodaeth MALlC 2025 dros yr haf.

Tân

Ar 16 Ebrill, cyhoeddwyd Bwletin ystadegol tanau glaswelltir, coetir a chnydau newydd, sy'n dadansoddi tueddiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025. Rydym yn croesawu adborth ar y fformat newydd hwn - cysylltwch ag ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.

Rydym hefyd wedi diweddaru ein setiau data tanau yn ôl mis ar StatsCymru gyda chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol 2025 i 2026:

Trafnidiaeth

Ym mis Mehefin, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad Gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau wedi'u cofnodi gan yr heddlu: 2025 ac yn diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap. Ym mis Mehefin, byddwn yn cyhoeddi ein datganiad Trafnidiaeth awyr: 2025 sydd wedi'i gwtogi yn dilyn canlyniad yr Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru. Rydym yn croesawu adborth ar y fformat newydd hwn.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Diweddariad Trafnidiaeth Cymru

Ar 23 Ebrill, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru y prif ddata o chwe mis cyntaf y gwaith o gasglu data fel rhan o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (Mawrth i Awst 2025).

Rydym wedi cyhoeddi'r tri adroddiad dadansoddi canlynol, ynghyd â thablau data cysylltiedig: 

  • Agweddau teithio
  • Ymddygiadau teithio
  • Ffactorau a fyddai'n annog newid i ddulliau teithio cynaliadwy

Mae'r data a gyhoeddwyd yn cynnwys:

  • Rhannu dulliau teithio a theithiau aml-ddull
  • Pellter cyfartalog a deithir
  • Dibenion teithiau
  • Boddhad yn ôl dulliau trafnidiaeth
  • Ffactorau a fyddai'n annog defnydd/defnydd pellach o ddulliau trafnidiaeth penodol

Bydd data dros 12 mis yn cael eu cyhoeddi yn hydref 2026, gyda data'n cael eu cyhoeddi'n flynyddol yn yr hydref wedi hynny.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni yn arolwgteithio@trc.cymru

Y Gymraeg

Cyhoeddwyd Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2025 ar 22 Ebrill. Fe wnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg).

Cyhoeddwyd erthygl ystadegol hefyd yn cyflwyno canfyddiadau arolwg byr ar anghenion data defnyddwyr mewn perthynas â'r Gymraeg y tu allan i Gymru ar 22 Ebrill. Mae hyn yn eistedd o fewn cynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r SYG i wella dealltwriaeth o ystadegau am y Gymraeg.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cyfanswm yr Incwm o Ffermio: 2025 

Gwybodaeth am allbwn amaethyddol, Gwerth Ychwanegol Gros o amaethyddiaeth a Chyfanswm yr Incwm o Ffermio ar gyfer 2025. Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Twbercwlosis Buchol 

Ar 11 Mawrth, fe wnaethom gynhyrchu'r Dangosfwrdd TB Gwartheg wedi'i ddiweddaru (data gwyliadwriaeth chwarterol ar glefydau, gyda thueddiadau a hidlyddion hanesyddol, gan gynnwys nifer yr achosion newydd ac agored, mynychder mewn buchesi, ac achosion o ailheintio ar gyfer gwartheg yng Nghymru hyd at Chwarter 3 2025.

Ar 18 Mawrth, fe wnaethom gyhoeddi'r prif ddata sy'n cwmpasu nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg yng Nghymru hyd at fis Rhagfyr 2025.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Tipio Anghyfreithlon

Ar 24 Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad Tipio anghyfreithlon a gofnodwyd gan awdurdodau lleol: Ebrill 2024 i Fawrth 2025. Fe wnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau ar StatsCymru tipio anghyfreithlon

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, anfonwch e-bost i: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Rheolaeth Awdurdodau Lleol o Wastraff Trefol

Nid ydym wedi cyhoeddi ystadegau gwastraff chwarterol ar gyfer 2025 i 2026 eto oherwydd adolygiad parhaus o drefniadau yn y dyfodol ar gyfer adrodd ar ailgylchu pren. Nid yw ystadegau ar Reolaeth awdurdodau lleol o wastraff trefol: Ebrill 2025 i Fawrth 2026 wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw am yr un rheswm.

Cyllid llywodraeth leol

Ym mis Mawrth, fe wnaethom gyhoeddi ein cyhoeddiad ynghylch Lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Poblogaeth a demograffeg

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau ystadegol cyffredinol

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 0300 025 5050

Pynciau penodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

X

@YstadegauCymru

Gwasanaeth hysbysiadau a newyddlenni e-bost Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost: gweinydduGGD@llyw.cymru