Canllawiau
Recriwtio i gael effaith: canllaw recriwtio llwyddiannus ym maes penodiadau cyhoeddus - Cyfathrebu’n glir ac yn dryloyw bob amser
Yn darparu egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio penodiadau cyhoeddus.
Tudalen bresennol
Tudalen: 10 o 11
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen
Ar y dudalen hon
Cyfathrebu’n glir ac yn dryloyw bob amser
Mae cyfathrebu clir ac amserol yn meithrin ymddiriedaeth ac yn cefnogi profiad cyfartal i ymgeiswyr.
Camau gweithredu
- Darparwch wybodaeth glir am gamau, meini prawf ac amserlenni disgwyliedig.
- Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i ymgeiswyr am gynnydd a chanlyniadau.
- Rhowch adborth adeiladol sy’n gysylltiedig â’r meini prawf.
- Gwnewch yn siŵr bod cyfathrebiadau yn hygyrch, mewn iaith heb jargon, ac ar gael mewn fformatau amgen os oes angen.
Pam mae’n bwysig
Mae tryloywder yn helpu ymgeiswyr i deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, yn lleihau pryder, ac yn rhoi arwydd o broffesiynoldeb a chynhwysiant ar bob cam.
