Recriwtio i gael effaith: canllaw recriwtio llwyddiannus ym maes penodiadau cyhoeddus - Cynllunio eich proses a’ch amserlenni yn iawn
Yn darparu egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio penodiadau cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynllunio eich proses a’ch amserlenni yn iawn
Mae prosesau recriwtio sy’n cael eu rhuthro yn eithrio – yn anfwriadol – ymgeiswyr sydd angen mwy o amser, hyblygrwydd neu eglurder i gymryd rhan yn llawn.
Pethau i’w hystyried
- Paratowch amserlenni realistig sy’n cynnwys allgymorth cynhwysol ac ymgysylltu ystyrlon ag ymgeiswyr.
- Caniatewch amser ar gyfer ymgysylltu a chymeradwyo gan Weinidogion.
- Cynlluniwch ddigon o amser i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cod Llywodraethiant.
- Sicrhewch fod argaeledd y panel yn cael ei gytuno’n gynnar i atal newidiadau munud olaf.
- Cyfathrebwch amserlenni’n glir fel y gall ymgeiswyr gynllunio a pharatoi.
Pam mae’n bwysig
Mae cynllunio gofalus yn cynyddu tegwch, yn lleihau rhwystrau y gellir eu hosgoi, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i bob ymgeisydd – yn enwedig y rhai sy’n cydbwyso gwaith, cyfrifoldebau gofalu neu anghenion mynediad – i lwyddo.
