Neidio i'r prif gynnwy

Cynulleidfa: Bwriedir i'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan Awdurdodau Lleol. Dylid eu defnyddio wrth baratoi pob achos busnes o dan y Rhaglen Gyfalaf.

Rhagor o wybodaeth: Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon neu unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â'r rhaglen hon at eich Rheolwyr Cyfalaf yn yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Model Busnes Pum Achos a'r Canllawiau ar Gyfiawnhad Busnes ar wefan Llywodraeth y DU yn The Green Book: appraisal and evaluation in central government (on GOV.UK)

Dogfen gysylltiedig: Canllawiau ar Grantiau Bach, fersiwn mis Medi 2022

Cyflwyniad

Mae Rhaglen Gyfalaf newydd ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, sy'n werth £70m, yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru rhwng 2022-23 a diwedd 2024-25. Diben y cyllid cyfalaf hwn yw ategu meini prawf cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor hwn (gweler adran 3.1) a chynnal a gwella'r seilwaith gofal plant a Dechrau'n Deg presennol.

Datblygwyd y canllawiau hyn i ddangos y prosesau grantiau bach, rheoli prosiect ac achos busnes cyfalaf ar gyfer y Rhaglen. Dylai awdurdodau lleol eu defnyddio wrth baratoi achosion busnes a chynigion cyfalaf o dan y rhaglen hon.

Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Amcanion y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Prif amcanion y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yw sicrhau y caiff y sector gofal plant yng Nghymru ei gryfhau a'i gefnogi. Mae'r cyllid hwn hefyd yn cefnogi ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, sef:

  • Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith
  • Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • Parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau'n Deg blaenllaw

Byddwn yn parhau i gefnogi cyllid grantiau bach i awdurdodau lleol er mwyn galluogi darparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig i gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf bach.

Ar gyfer gwaith cyfalaf mawr, byddwn yn mabwysiadu dull strwythuredig o gyflwyno ceisiadau am gyllid wrth i'r prosiectau fynd drwy gamau gwahanol y broses ddatblygu. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i nodi darpar brosiectau cyfalaf a'u cwmpasu, cyn mynd ati i lunio'r achos busnes. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau mwy amserol yn cael eu gwneud am gyllid a bod cyllidebau'n cael eu rheoli'n dynnach, drwy sicrhau bod cynigion yn cael eu cymeradwyo'n agosach at y cam tendro a chyflawni.

Cyllid

Cyllid Grantiau Bach

Dyrennir Cyllid Grantiau Bach ar sail fformiwla er mwyn sicrhau y caiff cyllid ei rannu'n fwy cyfartal ledled Cymru yn unol â data diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'r fformiwla hon yn seiliedig ar nifer y darparwyr gofal plant a lleoedd gofal plant cofrestredig ym mhob awdurdod.

Mae'r canllawiau ar grantiau bach wedi'u diweddaru ar gyfer 2022-23 er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu a chynnydd yn nherfynau’r cyllid y gellir ei ddyrannu i ddarparwyr mewn unrhyw flwyddyn ariannol, ac mae'r dyblygiadau yn yr adran cymhwystra rhwng darparwyr gofal plant a gwarchodwyr plant wedi'u dileu.

Byddwn yn adolygu'r dyraniadau grantiau bach a'r canllawiau eto ar gyfer 2023-24 a 2024-25.

Costau Rheoli Prosiect

Fel rhan o'r trafodaethau rhaid i'r awdurdod lleol ddangos bod ganddo strwythur rheoli ar waith i oruchwylio'r gwaith o gynnal prosiectau hyd at eu cwblhau ac i reoli'r cynllun grantiau bach. Os nad oes trefniadau ar waith, byddai modd i'r awdurdod lleol wneud cais am gyllid i dalu costau rheoli prosiect.

Byddai angen i geisiadau am gyllid o'r fath nodi'n glir y gwaith y byddai'r rheolwr/rheolwyr prosiect yn ei wneud ym mhob maes gwaith, gan gynnwys y broses grantiau bach.

Dylai ceisiadau ar gyfer costau rheolwr prosiect fod yn gymesur â nifer y prosiectau arfaethedig a gall gynnwys gweinyddu'r grantiau bach. Os yw'r swydd(i) yn cynnwys cyfrifoldebau eraill, mae angen inni wybod yn fras faint o amser a neilltuir i'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar a'r gost pro rata y gwneir cais amdani hyd at 2024-25. Mae ein Hachos Busnes Rheoli Prosiect enghreifftiol yn cynnwys adrannau perthnasol er mwyn ichi gadarnhau'r manylion.

Ceisiadau a Chynigion Cyfalaf Mawr

Trosolwg o Gynigion Cyfalaf

Byddwn yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno rhestr o gynigion yn erbyn y meini prawf cyllido, yn nhrefn blaenoriaeth o ran yr hyn y maent yn debygol o allu ei gyflawni hyd at ddiwedd 2024-25. Gall y rhestr gynnwys prosiectau sydd eisoes wedi'u cwmpasu (ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cyllido) a/neu brosiectau newydd a nodwyd drwy Asesiadau/Adolygiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant (gall hyn gynnwys cynlluniau i ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg)

Bydd arweinwyr polisi ac arbenigwyr technegol yn Llywodraeth Cymru yn craffu ar y cynigion hyn a byddwn yn cydgysylltu â'r prif gysylltiadau mewn awdurdodau lleol i gytuno ar y prosiectau a fydd yn symud ymlaen i'r cam datblygu.

Cyllid: Gall awdurdodau lleol wneud cais yn erbyn dau gam cyllido, neu gallant ddewis gwneud cais yn uniongyrchol ar gyfer cam 3 yn dibynnu ar faint a statws presennol y prosiect:

  1. Cronfa Datblygu: Hyd at £50,000 i nodi darpar safleoedd, ar gyfer dyluniad cychwynnol prosiect newydd, cost datblygu achos busnes, ffioedd proffesiynol, arolygon, cynllunio a thendro. Noder y bydd angen inni gael dadansoddiad o'r costau amcangyfrifedig os bydd angen cyllid at y dibenion hyn.
  2. Cronfa Adeiladu: Y gost lawn (llai unrhyw gyllid y gwnaed cais amdano eisoes, e.e. cronfa datblygu)

Noder: Dim ond os gellir priodoli cyllid datblygu yn uniongyrchol i ddatblygu ased i gyflwr gweithio y gellir ei ddarparu, felly rhaid i'r awdurdod fod yn hyderus y bydd y cynnig hwn yn symud ymlaen i'r cam cyflawni. Gallai fod angen ad-dalu'r cyllid i Lywodraeth Cymru os na fydd y cynnid gwn yn symud ymlaen i'r cam cyflawni.

Achosion Cyfiawnhad Busnes

Meini Prawf Cyllido

Bydd Llywodraeth Cymru yn asesu prosiectau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Darpariaeth cyfrwng Cymraeg – Pe bai cynllun yn helpu i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn uniongyrchol, y pwysoliad ar gyfer darpariaeth drochi fyddai 30%, a'r pwysoliad ar gyfer darpariaeth ddwyieithog fyddai 20%.
  • Cydleoli – er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn Hybiau Cymunedol neu Iechyd – Pe bai cynllun yn helpu Llywodraeth Cymru i gydleoli'r agenda gwasanaethau yn uniongyrchol, y pwysoliad fyddai 25%.
  • Ehangu'r Cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg neu Ddysgu Sylfaen mewn lleoliad gofal plant – Y pwysoliad fyddai 10% ar gyfer pob agwedd ar y cynnig. Felly, pwysoliad cynllun sy'n cynnig dysgu sylfaen mewn lleoliad Dechrau'n Deg ac yn derbyn plant o dan y Cynnig Gofal Plant fyddai 30%. Ar gyfer y lleoliadau gofal plant hynny sy'n darparu'r Cynnig Gofal Plant, y pwysoliad fyddai 10%.
  • Ehangu lleoedd – Byddai'n rhaid i'r achos busnes dros gynllun nodi maint yr ehangu'n glir o gymharu â'r ddarpariaeth bresennol, er enghraifft byddai buddsoddiad cyfalaf yn cynyddu capasiti'r lleoliad o X i Y. Byddai'r pwysoliad yn cael ei gynyddu'n gymesur â'r cynnydd yn y ddarpariaeth, hyd at 15%.

Adran 1: Crynodeb

Dylai'r adran hon gynnwys enw, lleoliad a/neu gyfeiriad y prosiect, a'r cyllid y gwneir cais amdano. Ticiwch yr holl feysydd blaenoriaeth a/neu nodau perthnasol y cyfeirir atynt yn y cynnig hwn ac, os yw'n briodol, rhowch ddadansoddiad o nifer y lleoedd gofal plant sydd ar gael ar hyn o bryd ynghyd â chyfanswm nifer y lleoedd a gynigir gan y cynnig hwn.

Adran 1: Cronfa Datblygu a Chost Prosiect

Cronfa Datblygu

Gall awdurdodau lleol wneud cais am gronfa datblygu ar gam cychwyn y prosiect i gwmpasu rhywfaint o'r gwaith, er enghraifft i gynnal astudiaeth ddichonoldeb, ar gyfer arolygon ac ymchwiliadau tir cychwynnol ac ar gyfer ffioedd cyn adeiladu (dylunio, cynllunio, rheoli prosiect a rheoli costau). Y lwfans mwyaf y byddwn yn ei roi at ddibenion datblygu yw tua £50,000 a bydd angen i'r awdurdod lleol gwblhau Adran 1 ac Adran 2 (Achos Strategol) o'r Achos Cyfiawnhad Busnes a darparu dadansoddiad o'r costau amcangyfrifedig hyn.

Fodd bynnag, cofiwch mai dim ond y costau hynny y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i ddatblygu ased i gyflwr gweithio y gellir eu dosbarthu'n wariant cyfalaf, felly os na fydd y prosiect yn datblygu ymhellach, byddwn yn cymryd camau i adennill y costau neu eu gwrthbwyso â phrosiectau cyfalaf eraill a ariennir.

Cost Prosiect

Cost lawn y prosiect (llai unrhyw gyllid cronfa datblygu a ddyfarnwyd yn flaenorol, os yw'n berthnasol).

Adran 2: Achos Strategol

Mae'r adran hon yn cynnwys y pedwar maes canlynol:

  • Trosolwg
  • Effaith ar Randdeiliaid a'r Gymuned Ehangach
  • Polisïau a Strategaethau Ehangach
  • Cyllid
Achos Strategol: Trosolwg (hyd at 500 o eiriau)

Dylid rhoi trosolwg o'r hyn rydych yn dymuno ei wneud, pam y mae angen y gwaith hwn (h.y. yr achos dros newid), pa ddarpariaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r amrywiaeth o wasanaethau a fydd yn cael eu cynnig. Dylech esbonio sut mae eich cynigion yn cysylltu â'r meini prawf ar gyfer grant cyfalaf (darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ehangu darpariaeth gofal plant a chydleoli).

Gofynnwn ichi gynnwys gwybodaeth am y maes dan sylw, y cyfnod pontio rhwng Dysgu Sylfaen a gofal plant, a'r dystiolaeth ddiweddaraf o'ch Asesiad a/neu Adolygiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.

Achos Strategol: Effaith ar Randdeiliaid a'r Gymuned Ehangach (hyd at 750 o eiriau)

Dyma'r adran i gofnodi gwybodaeth am unrhyw waith ymgynghori a/neu ymgysylltu a wnaed gyda rhanddeiliaid, er enghraifft darparwyr gofal plant, partneriaid CWLWM, ysgolion, sefydliadau gofal plant a chwarae cenedlaethol a rhieni er mwyn nodi'r angen am wasanaethau gofal plant a'u lleoliad.

Gofynnir i awdurdodau lleol hefyd ddangos ystyriaeth i effaith y cynnig ar y gymuned leol a rhanddeiliaid.

Achos Strategol: Polisïau a Strategaethau Ehangach (hyd at 1,000 o eiriau)

Dylai eich achos busnes ddangos ystyriaeth i rai o flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru a/neu eich blaenoriaethau lleol chi, fel y bo'n berthnasol. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol | LLYW.CYMRU)
    • Mae'r nodau llesiant yn cynnwys Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach a Chymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Mwy o wasanaethau Cymraeg – (Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer eich awdurdod)
  • Strategaeth Tlodi Plant Cymru (Strategaeth Tlodi Plant Cymru: adroddiad | LLYW.CYMRU)
    • e.e. gofal plant i alluogi rhieni i weithio, meithrin sgiliau rhieni, gwella deilliannau addysgol a chanlyniadau iechyd plant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi a chreu swyddi a chyfleoedd newydd.
  • Cydleoli gwasanaethau allweddol, e.e. Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru
  • Sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol
  • Lleihau anghydraddoldebau addysgol a chodi safonau
  • Ystyried diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol
  • Trawsnewid Canol Trefi – gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt
    • Egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf – a yw'r prosiect arfaethedig wedi'i leoli mewn canol tref? Os nad yw, esboniwch pam na fyddai lleoliad canol tref yn briodol/bosibl. Sut mae'r cyfleusterau arfaethedig yn cyd-fynd ag unrhyw gyfleusterau presennol/lleol yn yr ardal?
  • Cysylltiadau â'r Cynllun Datblygu Lleol (gweler Cynlluniau datblygu | Is-bwnc | LLYW.CYMRU)
    • A yw'r safle wedi'i leoli o fewn Cynllun Datblygu Lleol?
    • Pa opsiynau eraill a ystyriwyd er mwyn sicrhau mai dyma'r lleoliad mwyaf cynaliadwy?
  • Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth (gweler Newid yn yr hinsawdd | Is-bwnc | LLYW.CYMRU a Cyflwyniad i Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau | LLYW.CYMRU) a Teithio Llesol a Seilwaith Gwyrdd
    • A fydd y prosiect yn cynnig llai/mwy o gyfleoedd i gerdded i'r lleoliad?
    • Opsiynau teithio sy'n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i gerdded a beicio
    • Cynlluniau ar gyfer creu ardaloedd bioamrywiaeth (i wella ansawdd aer a datgarboneiddio) e.e. nodweddion naturiol fel gwrychoedd, coed, cloddiau cerrig, gosod blychau adar mewn lleoliadau priodol
    • Sut y gellir gwella cysylltiadau â nodweddion yr amgylchedd naturiol, gan sicrhau y caiff cyn lleied o feysydd chwarae a mannau gwyrdd â phosibl eu colli
Achos Strategol: Cyllid (hyd at 500 o eiriau)

Rhowch fanylion am y cyllid sydd ei angen ac at ba ddiben. Hefyd, rhowch wybodaeth am unrhyw ffynhonnell arall o gyllid a ystyriwyd, ynghyd â manylion am unrhyw gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a'r effaith os na fydd y cais am gyllid ar gyfer y cynnig hwn yn llwyddiannus.

Ymhlith y ffynonellau eraill o gyllid gan Lywodraeth Cymru a allai fod yn berthnasol mae Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, addysg cyfrwng Cymraeg, Ysgolion Bro, Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyfleusterau Cymunedol a Thrawsnewid Trefi.

Adran 3: Achos Cyfiawnhad Busnes

Mae Adran 3 yn ymdrin â'r pedwar maes canlynol:

  • Achos Economaidd (gwerth am arian)
  • Achos Ariannol
  • Achos Masnachol
  • Achos Rheoli
Achos Economaidd (gwerth am arian) (hyd at 1,000 o eiriau)

Diben yr achos economaidd yw nodi eich rhestr o opsiynau ac, o blith y rhain, nodi'r opsiwn a ffefrir gennych a'ch cyfiawnhad dros hynny.

Dylech nodi prosiectau lle nad oes digon o gapasiti yn y farchnad ar hyn o bryd ac a fydd yn ymateb i'r angen hwnnw. Ar gyfer gofal plant, dylai gynnwys lleoliadau a gynhelir a nas cynhelir ym mhob rhan o'r sector cyfan (darparwyr awdurdod lleol, preifat a thrydydd sector). 

Gallai ffactorau llwyddiant hanfodol ar gyfer yr opsiynau gynnwys:

  • A ydynt yn cynnig gwerth da am arian?
  • A yw'r opsiynau yn gyflawnadwy?
  • A ydynt yn fforddiadwy?
  • A ellir cyflawni'r opsiynau o fewn y terfyn amser?
  • A ydynt yn sicrhau deilliannau a chanlyniadau gwell i blant a theuluoedd?

Os yw'n ymarferol, defnyddiwch ffigur meincnod, er enghraifft nifer y lleoedd gofal plant a grëir (os yw'n berthnasol) o gymharu â chost y prosiect = cost fesul lle gofal plant a/neu gost adeilad modiwlar o gymharu â chost adeilad solet/estyniad.

Dylech anelu at gynnwys 3-5 opsiwn a gwerthusiad risg ar gyfer pob un, gan gynnwys y canlynol o leiaf:

  • gwneud dim / busnes fel arfer
  • opsiwn gwneud y lleiaf posibl
  • un neu ragor o opsiynau posibl yn seiliedig ar gyfuniad mwy a/neu lai uchelgeisiol

Rhowch resymau clir dros yr opsiwn a ffefrir sy'n sicrhau'r gwerth gorau am arian. Hefyd, nodwch unrhyw gostau anarferol (er enghraifft tynnu asbestos, problemau o ran gwaith tir – cloddio, halogi, ac ati)

Achos Ariannol (hyd at 500 o eiriau)

Dylid nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol nad yw eisoes wedi'i chynnwys yn yr Achos Strategol. Gallai hyn gynnwys sut y cyfrifwyd y costau a chymhariaeth ag unrhyw brosiectau tebyg eraill ac amserlen ar gyfer y gwariant. 

A yw'r prosiect yn rhan o waith caffael mewn swp neu, fel arall, pa ystyriaeth a roddwyd i'r dull gweithredu hwn?

Gofynnwn ichi roi proffil amlinellol realistig o'r cynnig, gan ganiatáu amser i gael caniatâd cynllunio, cwblhau'r broses dendro, ac ati. Mae'r proffil hwn yn hanfodol er mwyn inni ragweld a rheoli'r gyllideb o flwyddyn i flwyddyn. Os caiff y prosiectau hyn eu hoedi, mae hyn yn rhoi pwysau ar gyllideb y flwyddyn ganlynol, felly rhowch broffil mor realistig â phosibl.

Achos Masnachol (hyd at 500 o eiriau)

Dylai'r holl waith caffael fod yn gyson ag egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru ac yn unol â rhwymedigaethau gweithdrefnol a chyfreithiol.

Er enghraifft, defnyddiwch fframwaith rhanbarthol ar gyfer gwaith adeiladu (drwy fframwaith a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru fel SEWSCAP, SWWRCF neu Fframwaith Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru neu drwy broses dendro gystadleuol OJEU) a/neu fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer dodrefnu lleoliadau addysgol.

Byddem yn annog awdurdodau lleol i ddewis dull gweithredu mwy cynaliadwy ac i weithio gyda mentrau cymdeithasol yng Nghymru er mwyn cynnal buddiannau economaidd yng Nghymru.

Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn dangos sicrwydd buddsoddiad, er enghraifft sut y byddwch yn sicrhau bod darparwyr yn parhau i gynnig lleoedd gofal plant a/neu Dechrau'n Deg? Os caiff lleoliad newydd ei ddatblygu (hyd yn oed ar dir ysgol), dylid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â'r sector gofal plant a dim ond lle nad oes opsiwn hyfyw arall y dylai fod yn lleoliad a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Gwyddom am achosion lle mae lleoliadau a gynhelir wedi cael hysbysiad yn nodi bod yn rhaid iddynt symud o ystafelloedd mewn ysgolion. Felly, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau darpariaeth gofal plant barhaus mewn ysgolion am gyfnod y cytunwyd arno?

Hefyd, dylech nodi na ddylech wneud cais am gyllid ar gyfer darpariaeth a fyddai'n cystadlu'n uniongyrchol â'r sector nas cynhelir ond hefyd y bydd angen ichi fod yn fodlon bod gan ddarparwyr preifat brosesau ar waith i gynnal sicrwydd y buddsoddiad. 

Achos Rheol (hyd at 500 o eiriau)

Dylai hwn esbonio’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn eich awdurdod, sut y caiff y prosiect ei reoli a'r adnoddau y bydd eu hangen i gyflawni prosiectau. Nodwch sut y caiff y buddsoddiad ei ddefnyddio'n llwyddiannus, gan gyfeirio'n benodol at y canlynol: 

  • Trefniadau rheoli prosiect;
  • Trefniadau sicrhau busnes;
  • Monitro buddiannau;
  • Rheoli risg;
  • Ôl-werthusiad o'r prosiect; 
  • Cynlluniau wrth gefn.

Gwariant Cymwys

Diffiniad

Mae gwariant cyfalaf wedi'i ddiffinio mewn statud drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Rydym yn defnyddio'r diffiniadau cyffredinol a ddarperir gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Gyfrifon Awdurdodau Lleol ym Mhrydain Fawr. Yn gyffredinol, mae'n cynrychioli gwariant mewn perthynas â'r canlynol:

  • Caffael neu greu ased newydd
  • Gwella asedau presennol

“Gwella”, mewn perthynas ag unrhyw ased, golyga’r gwaith a fwriedir:

  1. I ymestyn yn sylweddol fywyd defnyddiol ased; neu
  2. I gynyddu’n sylweddol gwerth marchnad agored yr ased; neu
  3. I gynyddu’n sylweddol i ba raddau y gall yr ased neu y bydd yn cael ei ddefnyddio at diben new mewn cysylltiad ȃ’r ysgol dan sylw.”

At ddiben y Rhaglen Grant Cyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, mae gwariant cyfalaf yn ymwneud â darparu neu wella asedau sefydlog pwysig, gan gynnwys tir, adeiladau a chyfarpar a fydd yn ddefnyddiol neu'n fuddiol i ddarparu gwasanaethu am fwy nag un flwyddyn ariannol. Mae gwariant yn cynnwys y canlynol:

  • Cost caffael tir ac adeiladau
  • Cost adeiladu o'r newydd
  • Cost estyn adeilad presennol
  • Gwella tir, ffyrdd neu adeiladau (o fewn ôl-troed gofal plant a Dechrau'n Deg)
  • Gellir cyfalafu prynu cyfrifiaduron/cyfarpar cyfrifiadurol os ydynt yn rhan o brosiect cyfalaf mawr, gan gynnwys ceblau a chaledwedd cysylltiedig

Costau Safonol ac Anarferol Gwaith Adeiladu ag Arian Cyfalaf

Isod ceir rhestr o'r elfennau y mae angen eu cynnwys yng nghost safonol gwaith adeiladu o'r newydd:

  • Arolygon
  • Ffioedd
  • Costau cynllunio
  • Costau dylunio
  • Gwaith cychwynnol
  • Gorbenion ac elw
  • Costau symud ac adleoli
  • Adeiladu (gan gynnwys is-strwythur, uwch-strwythur, gorffeniadau mewnol, gosodiadau a dodrefn sy'n sownd i'r adeilad a'r gwasanaethau)
  • Gwaith allanol (gan gynnwys ardaloedd chwarae awyr agored, cyfarpar chwarae, dodrefn yn yr awyr agored, ffensys cadarn, llwybrau, parcio a thirlunio)

Galla costau anarferol cymwys gynnwys:

  • Tynnu asbestos
  • Glanhau tir halogedig
  • Delio â phroblemau cloddio hanesyddol
  • Sylfeini wedi'u pentyrru neu unrhyw sylfeini eraill sydd eu hangen oherwydd cyflwr y tir
  • Lefelu'r safle o ganlyniad i dopograffi

Ffioedd Proffesiynol

Yn bennaf, dim ond y costau hynny y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i ddatblygu ased i gyflwr gweithio y gellir eu dosbarthu'n wariant cyfalaf.

Gall hyn gynnwys unrhyw ffioedd penseiri a syrfewyr sy'n arwain at gaffael neu godi adeilad. Fodd bynnag, os eir i'r ffioedd ar gamau cynnar iawn rhaglen gyfalaf, yn ymwneud â'r gwaith sefydlu a'r briff strategol (sy'n gyfystyr â Cham 0-1 RIBA adeilad ysgol), cânt eu hystyried yn weithgareddau refeniw. 

Os eir i gostau drwy ddefnyddio timau dylunio mewnol neu gwmnïau ymgynghori sy'n gysylltiedig ag awdurdodau lleol, mae'r rheolau canlynol yn gymwys:

  • Nid yw timau dylunio mewnol sydd â chyllideb ganolog wedi'i chlustnodi o fewn yr awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y grant cyfalaf hwn
  • O ran timau dylunio mewnol nad oes ganddynt gyllideb ganolog, ond sy'n codi ffioedd ar adrannau eraill sy'n defnyddio eu gwasanaethau, gellir adennill costau cyflogau'r tîm dylunio, tâl, Yswiriant Gwladol a chostau pensiwn. Ni fyddai'r argostau, sy'n cynnwys costau llety, cyflogres a chymorth ariannol, ac ati, yn gymwys.
  • O ran adrannau mewnol a sefydlir fel cwmni ymgynghorol, e.e. busnes ar wahân i'r awdurdod lleol sy'n gweithredu fel endid masnachol, byddai'r swm cyfan yn gymwys.

Mynediad oddi ar Briffyrdd

Darperir cyllid cyfalaf ar gyfer ailadeiladu neu ailfodelu cyfleusterau gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, felly gellir priodoli cyllid grant i'r seilwaith a geir o fewn ffiniau'r safleoedd hynny. Er enghraifft, os yw prosiect cyfalaf yn cynnwys gwaith i wella mynediad i'r safle oddi ar y briffordd, ni fyddai'r gwaith hwn yn gymwys ar gyfer grant gan Lywodraeth Cymru, a'r awdurdod lleol fyddai'n gyfrifol am ei ariannu.

Tir

Rydym yn ystyried ceisiadau am gyllid ar gyfer safleoedd newydd a chaffael tir fesul achos a byddem yn chwilio am dystiolaeth bod y safle a ddewiswyd yn opsiwn priodol a bod cytundebau priodol ar waith i sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar/gofal plant barhaus.

Gwerthu/Gwaredu Ased

Mae'r Amodau ar gyfer cynnig cyllid cyfalaf yn nodi'n glir fod yn rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru am 'ddigwyddiad hysbysu'. Mae un o'r digwyddiadau hyn yn cynnwys unrhyw gynlluniau i werthu, trosglwyddo, lesio neu waredu fel arall ran o eiddo sydd wedi elwa ar gyllid cyfalaf, neu'r eiddo cyfan. Os bydd un o'r digwyddiadau hyn yn digwydd, mae Amodau'r llythyr Dyfarnu Cyllid yn nodi y gall Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ad-dalu'r cyllid a gafwyd yn llawn neu'n rhannol. Felly, mae'n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn cysylltu â Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar cyn gynted ag y caiff unrhyw fater o'r fath ei nodi.

Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn ymateb yn gymesur i'r amgylchiadau penodol.

Y broses asesu

Mae'r broses o asesu a chymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes yn Llywodraeth Cymru wedi'i rhannu'n bedwar cam:

  • Asesiad Cychwynnol gan Reolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar
  • Grŵp Craffu ar Achosion Busnes
  • Panel Buddsoddi mewn Addysg
  • Cymeradwyaeth y Gweinidogion 

Asesiad Cychwynnol

Bydd y Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn asesu'r Achos Cyfiawnhad Busnes i ddechrau er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ofynnol wedi'i chyflwyno a bod yr achos yn ddigon cadarn i symud ymlaen i'r cam nesaf, h.y. Grŵp Craffu ar Achosion Busnes. Dylai'r wybodaeth a roddwyd ddangos y canlynol:

  • Bod amcanion buddsoddi clir sy'n gyson â'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (gweler adran 2.1 o'r Canllawiau)
  • Bod yr anghenion busnes wedi'u dangos yn glir
  • Bod pob opsiwn posibl wedi'i ystyried a'r costau wedi'u cymharu, gan ddangos mai'r opsiwn a ffefrir yw'r un mwyaf costeffeithiol
  • Bod cyllid amgen wedi'i geisio hefyd ac na all ffynonellau eraill ddarparu'r cyllid y gwneir cais amdano
  • Bod trefniadau rheoli a llywodraethu cadarn ar waith ar gyfer y rhaglen hon

Os oes angen, bydd y Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn gofyn i'r awdurdod lleol am esboniad a/neu wybodaeth ategol ychwanegol.

Grŵp Craffu ar Achosion Busnes

Cynhelir cyfarfodydd bob deufis, a chânt eu trefnu fel arfer ar gyfer canol y mis. Gellir gweld y dyddiadau drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Dyddiadau cyfarfodydd y Panel Craffu Achosion Busnes a'r Rhaglen Fuddsoddi | LLYW.CYMRU

Rhaid i achosion gael eu cyflwyno drwy'r Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar bythefnos cyn y dyddiad hwn er mwyn caniatáu digon o amser i aelodau'r grŵp asesu'r achosion.

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys arweinwyr polisi ac arbenigwyr technegol o bob rhan o Lywodraeth Cymru. Yn benodol, mae'r grŵp yn ystyried yr achosion ac yn eu hasesu am gysondeb â strategaeth Llywodraeth Cymru, y gallu i gyflawni, achos economaidd cadarn strategaeth fasnachol a fforddiadwyedd.

Os bydd y grŵp yn nodi mater sy'n debygol o effeithio ar allu'r Panel Buddsoddi i ddod i benderfyniad, bydd y Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn gofyn i'r awdurdod lleol am wybodaeth neu esboniad pellach.

Panel Buddsoddi

Mae'r grŵp hwn yn cwrdd bob deufis, a chaiff cyfarfodydd eu trefnu am yn ail fis i'r Grŵp Craffu ar Achosion Busnes (gweler y ddolen i'r dyddiadau yn adran 5.1 uchod). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw broblemau a nodwyd drwy'r Grŵp Craffu ar Achosion Busnes gael eu datrys cyn cyfarfod y Panel Buddsoddi.

Bydd y Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn cyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes yr awdurdod lleol a gaiff ei adolygu gan y Panel Buddsoddi, gan ystyried canfyddiadau'r Grŵp Craffu ar Achosion Busnes hefyd.

Os na chaiff achosion eu cymeradwyo gan y Panel, bydd y Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn hysbysu'r awdurdod lleol am hynny ac yn egluro rhesymau'r panel. Os bydd angen rhagor o wybodaeth er mwyn i'r achos symud ymlaen, gofynnir i'r awdurdod lleol am yr wybodaeth honno a chaiff ei chyflwyno i'r panel er mwyn iddo graffu arni a/neu ddod i benderfyniad.

Cymeradwyaeth y Gweinidogion

Cyfeirir yr achosion hynny a argymhellir i'w cymeradwyo gan y Panel Buddsoddi at y Gweinidogion am benderfyniad ffurfiol. Bydd Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn hysbysu'r awdurdod lleol am y penderfyniad hwnnw.

Prosesau Cymeradwyo a Dyfarnu Prosiect

Llythyr Cynnig Grant

Yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidogion, anfonir llythyr cynnig grant yn cadarnhau cyfanswm y dyraniad grant i'r awdurdod lleol. Bydd y llythyr hwn yn cynnwys Atodlen (Atodlen 1), sy'n dadansoddi'r dyraniad yn erbyn prosiectau cyfalaf penodol (os yw'r dyraniad cyffredinol yn ymwneud â mwy nag un)

Rhaid i gopi o'r llythyr cynnig grant wedi'i lofnodi gan ddau lofnodwr awdurdodedig ar ran yr awdurdod lleol ddod i law cyn y gellir hawlio'r cyllid.

Amodau

Mae'r llythyr cynnig grant yn cynnwys telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ac amodau penodol ar gyfer grantiau cyfalaf a delir o dan y rhaglen gyfalaf:

  • Gwerthu neu Waredu Asedau
  • Budd i'r Gymuned
  • Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) a Thystysgrifau Perfformiad Ynni

Os defnyddir grant Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adeiladu o'r newydd neu 'annibynnol', rhaid iddo sicrhau sgôr 'ardderchog' BREEAM (ystyr gwaith adeiladu annibynnol yw gwaith adeiladu nad yw'n cynnwys adnewyddu adeilad presennol na chodi estyniad, oni bai bod yr estyniad yn annibynnol).

Er enghraifft, ni fyddai angen i estyniad deulawr at ddibenion gofal plant sicrhau sgôr 'ardderchog' BREEAM, ond byddai angen iddo sicrhau sgôr EPC A. Fodd bynnag, os mai adeilad annibynnol yw'r strwythur arfaethedig sy'n hunangynhwysol ac sydd â'i wasanaethau cyfleustodau uniongyrchol ei hun, yna byddai BREEAM yn gymwys.

Os rhagwelir, wrth godi adeilad newydd ar gyfer darpariaeth gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, na lwyddir i sicrhau sgôr 'ardderchog' BREEAM, yna bydd angen i'r awdurdod lleol hysbysu'r Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar i ddechrau, oherwydd gallai effeithio ar y cyllid grant sydd ar gael. Byddai angen achos busnes i gefnogi unrhyw wyro oddi wrth y sgôr 'ardderchog'. Ym mhob achos, bydd angen cymeradwyaeth y Gweinidogion. Os na lwyddir i sicrhau sgôr 'ardderchog' BREEAM, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol adennill y cyllid yn llawn neu'n rhannol.

Mae gofynion BREEAM yn seiliedig ar yr arwynebedd llawr. Ewch i Safonau adeiladu cynaliadwy.

Hawliadau Ariannol a Gwaith Monitro Rheolaidd

Hawliadau Ariannol a Phroffiliau Cyllideb

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ffurflenni hawlio, adroddiadau cynnydd a phroffiliau cyllideb chwarterol i awdurdodau lleol.

Mae'r templed yn cynnwys adran i gofnodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y chwarter diwethaf ac unrhyw broblemau o ran y prosiect, risgiau ac oedi i'r prosiect(au). Dylai hawliadau fod yn seiliedig ar y gwariant yr aed iddo yn ystod y chwarter blaenorol. Mae'n bwysig bod yr awdurdod lleol yn cyflwyno'r hawliadau a'r adroddiadau inni erbyn y dyddiad y gofynnwyd amdanynt fel y gellir nodi unrhyw broblemau a mynd i'r afael â nhw ar y cyd â Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl.

Dylid nodi, yng ngoleuni pwysau cyllidebol sylweddol ar Lywodraeth Cymru a, gyda phroses strwythuredig o gyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes, y byddem yn disgwyl i awdurdodai lleol allu proffilio'r gwariant a chadarnhau'r proffiliau cyllideb fesul prosiect cyfalaf yn llawer mwy cywir.

Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd â meysydd polisi â buddiant fel y Gymraeg a Chymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu er mwyn trafod cynnydd prosiectau, proffiliau cyllideb ac unrhyw broblemau posibl. Bydd y rhain yn cael eu hategu gan ymweliadau safle hefyd.

 

Amrywiadau i gwmpas prosiectau

Yn sgil cyflwyno dull fesul cam o gyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes, rydym yn disgwyl llai o geisiadau i amrywio na'r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd achosion lle na fydd prosiectau'n mynd rhagddynt yn ôl y bwriad a lle y gallai fod angen gwneud newidiadau.

Dylai awdurdodau lleol gysylltu â'r Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar cyn gynted â phosibl. Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar unrhyw amrywiad cyn y caiff cyllid ei dalu. Ni all Llywodraeth Cymru warantu y caiff costau cynyddol eu talu o dan y rhaglen gyfalaf na'u hariannu mewn blynyddoedd ariannol i ddod, felly dylai'r awdurdod lleol ystyried sut y bydd yn rheoli gorwariant neu achosion o oedi sylweddol o'i gyllidebau ei hun. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir ceisiadau ôl-weithredol i amrywio.

Gall eich Rheolwr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar ddarparu ceisiadau enghreifftiol i amrywio a rhaid i gais gael ei wneud os bydd newid sylweddol i gwmpas y prosiect, er enghraifft: 

  • Newid i'r estyniad arfaethedig a/neu nifer y lleoedd gofal plant a gynigir neu leihad yn y gwasanaeth arfaethedig, er enghraifft lle nad yw darpariaeth gofal dydd llawn yn bosibl mwyach
  • Newid i leoliad y prosiect arfaethedig
  • Gwaith ychwanegol nas rhagwelwyd yn flaenorol
  • Costau tendro sy'n uwch na'r gyllideb
  • Oedi sylweddol a risgiau i brosiectau

Bydd ceisiadau i amrywio yn mynd drwy'r un broses asesu a chymeradwyo â'r un a nodir yn Adran 5 uchod, a bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod yn ffurfiol drwy lythyr p'un a yw'r cais wedi'i gymeradwyo ai peidio.

Archwiliadau

Bydd pob prosiect sy'n cael grant yn destun archwiliad blynyddol gan Archwilio Cymru. Noder y dylid cadw cofnodion priodol o wariant, gan gynnwys anfonebau, taflenni amser a thystiolaeth o gydymffurfiaeth prosesau caffael. 

Adroddiadau Terfynol a Buddiannau

Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio Adroddiad Terfynol ar gyfer pob prosiect. Dylai'r Adroddiad Terfynol gynnwys y buddiannau canlynol:

  • Cadarnhad bod ased wedi'i greu yn unol â'r Achos Busnes a gymeradwywyd a gwybodaeth am unrhyw fuddiannau arfaethedig cysylltiedig a wireddwyd
  • Trosolwg o'r ased, gan gynnwys cadarnhad o'r ddarpariaeth a gynigir a'r hyn sy'n wahanol rhyngddi a'r ddarpariaeth flaenorol
  • Sut mae'r prosiect wedi cyflawni blaenoriaethau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (lle y bo'n berthnasol) yn ogystal â blaenoriaethau lleol eraill o ganlyniad i'r buddsoddiad
  • Cyd-destun ehangach o ran sut y bydd y prosiect yn diwallu anghenion y gymuned drwy gefnogi polisïau a strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru (gweler Adran 3.2.2 Achos Strategol – Polisïau a Strategaethau Ehangach uchod)
  • Effaith ar randdeiliaid sy'n cael budd o'r ased
  • Unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a grëwyd (fel rhan o'r prosiect adeiladu ac fel rhan o'r ddarpariaeth gynyddol o wasanaethau)
  • Cadarnhad bod sgôr Ardderchog BREEAM wedi'i sicrhau (lle y bo'n gymwys)
  • Cadarnhad bod sgôr EPC 'A' wedi'i sicrhau (lle y bo'n gymwys)
  • Dyddiad dechrau a gorffen y gwaith adeiladu
  • Y dyddiad y daeth y cyfleuster yn weithredol

 

Cyhoeddusrwydd

Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a noddwyr prosiectau yn cydweithio i roi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl i brosiectau a thynnu sylw at y cyfraniad y mae'r rhaglen Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn ei wneud yng Nghymru.

Dylid cadw cofnodion o gyhoeddiadau ffurfiol ac anffurfiol, erthyglau yn y wasg ac mewn cyfnodolion a datganiadau i'r wasg, cyfweliadau â'r cyfryngau (y teledu a'r radio) a lansiadau ac achlysuron agor swyddogol er mwyn dangos y gwaith cyhoeddusrwydd a wnaed yn ystod cylch oes eich prosiect. 

Fel gofyniad sylfaenol:

  • Rhaid i bob arwydd, plac a datganiad i'r wasg yn cyfeirio at ffynhonnell y cyllid yn y paragraffau agoriadol, a rhaid i bob un gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.
  • Ar gyfer prosiectau mawr wedi'u cydleoli, rhaid i'r arwyddion a osodir ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu gydnabod prif ffynhonnell cyllid Llywodraeth Cymru
  • Rhaid i unrhyw gyhoeddiad am y prosiect gyfeirio at y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar
  • Rhaid i'ch gwefan gydnabod y cyllid a gafwyd gan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn glir
  • Rhaid ichi hysbysu'r Rheolwyr Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar am ddigwyddiadau ac achlysuron agor sydd i ddod sy'n gysylltiedig â'r prosiect, er mwyn rhoi cyfle i'r Gweinidogion fod yn bresennol
  • Dylid cyflwyno lluniau o brosiectau mawr – cyn ac ar ôl iddynt gael eu cwblhau – ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau at ddibenion cyhoeddusrwydd