Rhaglen lywodraethu 2026 i 2030: Uchelgais newydd i Gymru - Pennod 3: Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
Cynlluniau gweithredu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfoeth a’i gadw o fewn ein cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.
Mae ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru yn dibynnu ar economi ffyniannus sy’n gyrru ein gwasanaethau cyhoeddus, yn creu swyddi gwerth chweil sy’n rhoi boddhad, ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dyfodol cryfach.
Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfoeth a’i gadw o fewn ein cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Mae twf economaidd yn cynyddu cyllid, drwy dderbyniadau trethi datganoledig, ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn dibynnu arnynt ac yn helpu’r llywodraeth i fuddsoddi mewn camau hirdymor ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi gweld digon o uchelgeisiau economaidd yn y gorffennol, ond heb y camau gweithredu sydd eu hangen i helpu ein heconomi i dyfu. Fel cymdeithas, rydym i gyd yn dibynnu ar economi gref. Byddwn yn tynnu ar dystiolaeth ryngwladol o’r hyn sy’n gweithio er mwyn buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru, gan eu helpu i dyfu a ffynnu. Byddwn yn defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod seilwaith ategol sy’n eu meithrin, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i gefnogi gweithlu iach a medrus. Yn gyfnewid, gall busnesau ein helpu i fuddsoddi yng ngwasanaethau ac economi’r dyfodol.
Cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant
Mae cynyddu cynhyrchiant wrth wraidd ein cynlluniau economaidd – gan roi terfyn ar genedlaethau o gynhyrchiant isel a haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd.
Mae economi sy’n elwa ar dwf cynhyrchiant iach yn creu mwy o werth o’r sgiliau, yr amser a’r adnoddau sydd ar gael iddi. Mae hyn yn helpu busnesau i dyfu, buddsoddi a chystadlu. Mae’n helpu i greu swyddi, cynyddu cyflogau a gwella safonau byw. Gall hefyd arwain at lefelau uwch o arloesi, entrepreneuriaeth a thwf busnes a all ddenu buddsoddiad preifat ar gyfer seilwaith lleol, cenedlaethol a digidol hanfodol.
Byddwn yn:
- datblygu ein cenhadaeth cynhyrchiant, a fydd yn ystyried holl weithgarwch y llywodraeth yng nghyd-destun cynyddu cynhyrchiant.
- sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol newydd i’n helpu i osod targedau, casglu data perthnasol a mesur cynnydd i wneud y llywodraeth yn fwy atebol dros ei phenderfyniadau economaidd.
Cefnogi busnesau Cymru
Mae gennym lawer o fusnesau yng Nghymru sydd eisoes yn rhagori ar y disgwyliadau, ond rydym yn gwybod bod ein heconomi yn llawn potensial nad ydym wedi manteisio arno eto.
Busnesau canolig (y rhai sy’n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl) yw asgwrn cefn ein cymunedau. Byddwn yn ceisio cynyddu nifer y busnesau hyn yng Nghymru mewn modd cynaliadwy. Byddwn yn creu’r amodau i ddatgloi’r potensial presennol a datblygu economi fwy cynaliadwy sy’n rhoi arian ym mhocedi pobl.
Byddwn yn:
- creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd, dan arweiniad byd busnes, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, i helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a masnachu’n rhyngwladol, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chynyddu nifer y swyddi o ansawdd da, sy’n talu’n dda ac sy’n gynaliadwy. Bydd yr asiantaeth yn gweithio i bobl ledled y wlad ac ar draws yr economi.
- diwygio Banc Datblygu Cymru a’r cynhyrchion ariannol y mae’n eu cynnig er mwyn helpu busnesau canolig i dyfu a sicrhau bod ei gyllid yn hyrwyddo ac yn ymgorffori gwaith teg a chyflog byw gwirioneddol.
Ailfuddsoddi yng Nghymru
Mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario mwy nag £11 biliwn bob blwyddyn yn caffael nwyddau a gwasanaethau.
Rydym am weld cymaint o’r arian hwn â phosibl yn cael ei wario gyda busnesau Cymru, gan danio ein cymunedau a thrawsnewid economïau rhanbarthol. Mae’n ffordd effeithiol inni fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru, gan gynyddu cystadleurwydd a chynaliadwyedd busnesau bach a chanolig a chefnogi’r gwaith o greu degau o filoedd o swyddi sy’n talu’n dda. Gall hefyd gyfrannu at ein nodau ehangach o degwch a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Byddwn yn:
- anelu at gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd. Byddwn yn cyflwyno mesur newydd o’r gwerth economaidd y mae Cymru’n ei gael o gaffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn rhoi’r budd economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i’r wlad.
- datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren Cymru, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi’r galw, a hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sector, gan gynyddu gwydnwch a chydweithio â’r sector i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru ar gyfer Pren.
- mabwysiadu dull Gwaith Teg yn Gyntaf o ran dyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau’r sector cyhoeddus.
Cefnogi busnesau bach a’r stryd fawr i ffynnu
Yng nghanol ein trefi mae busnesau llwyddiannus sy’n gwneud ein strydoedd mawr yn lleoedd bywiog i weithio a chymdeithasu.
Rhaid i ganol trefi a dinasoedd fod yn groesawgar, yn ffyniannus ac yn lleoedd da i fyw, a dim ond drwy ddefnyddio dull cyfannol ac integredig o ran cynllunio, polisi a chyllid y gellir cyflawni hyn.
Byddwn yn:
- diwygio ac yn ailgydbwyso ardrethi busnes i roi mwy o gefnogaeth i fusnesau’r stryd fawr ym maes lletygarwch, hamdden a manwerthu.
- defnyddio’r Tasglu Canol Trefi i archwilio’r opsiynau ynghylch adfywio canol ein trefi, gan gynnwys ailddefnyddio eiddo gwag fel tai cymdeithasol.
Creu mwy o gyfoeth cymunedol
Mae cymunedau ledled Cymru yn cymryd rheolaeth dros eu dyfodol economaidd eu hunain drwy sefydlu mentrau cymdeithasol, mentrau cymunedol a chwmnïau cydweithredol.
Ein huchelgais yw ei gwneud hi’n haws i asedau gwerthfawr lleol ddod yn eiddo i’r gymuned.
Byddwn yn:
- deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau lleol.
- darparu mwy o gymorth arbenigol i greu, tyfu a chynnal busnesau newydd – busnesau cydweithredol, cymdeithasol, a rhai sy’n eiddo i weithwyr – a’i gwneud yn haws iddynt gael mynediad at gyllid drwy Fanc Datblygu Cymru.
Y sgiliau sydd eu hangen ar Gymru
Mae system sgiliau effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth glir o’n gofynion sgiliau, gan sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant – gan gynnwys prentisiaethau – yn unol ag anghenion cyflogwyr a diwydiannau Cymru a’r rhai a fydd yn ein helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol gyda gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.
Gydag economi a chymdeithas sy’n newid yn gyflym, byddwn yn ddigon hyblyg i addasu’n sydyn i gyfleoedd ac anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Byddwn yn egluro i’n prifysgolion a’n colegau, conglfeini’r system sgiliau, beth yw’r anghenion hynny. Mae hefyd yn hanfodol bod gennym system sgiliau sy’n hawdd i ddysgwyr gael mynediad ati, gydag opsiynau addysg a hyfforddiant hygyrch i atal pobl rhag llithro i anweithgarwch economaidd neu ddod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).
Byddwn yn:
- datblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru, wedi’i llywio gan archwiliad sgiliau cenedlaethol, i sicrhau bod darpariaeth sgiliau, addysg alwedigaethol a chymwysterau yn cyd‑fynd ag anghenion economaidd Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- byddwn yn cefnogi system sy’n cryfhau llwybrau i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan helpu pobl i gael y sgiliau, y cymorth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i gael gwaith teg, diogel a chynaliadwy, i aros yn y gwaith hwnnw, ac i wneud cynnydd. Cymryd camau i greu system addysg drydyddol gynaliadwy yn ariannol, sy’n darparu addysg, sgiliau ac ymchwil o ansawdd uchel, yn cefnogi cydweithredu ar draws y sector, ac yn sicrhau gwerth hirdymor o fuddsoddiad cyhoeddus, gan ddechrau â’n hadolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch.
- gweithio i sicrhau bod pobl ifanc o Gymru yn gallu byw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys drwy wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru a fydd yn codi wrth i’r DU ailymuno â chynllun Erasmus+, ac archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y rhaglen Taith sy’n benodol i Gymru.
Cysylltedd digidol a thrawsnewid
Mae rhoi hwb i gysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn allweddol i ryddhau potensial economaidd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern ac effeithlon, ac yn ei dro yn codi ein safonau byw.
Ni allwn anwybyddu’r cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig bellach â deallusrwydd artiffisial (AI) ym mywydau bob dydd pobl. Rhaid inni fanteisio ar botensial arloesedd digidol ac AI, gan barhau i roi pwyslais clir ar fabwysiadu’r dechnoleg mewn ffordd ddiogel, foesegol a seiberddiogel, a sicrhau mynediad at gysylltedd cyflym iawn.
Byddwn yn:
- cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd a fydd yn cefnogi digideiddio ac arloesi yn economi Cymru, yn sbarduno trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu’r amodau ar gyfer mabwysiadu AI mewn ffordd ddiogel a moesegol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
- parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a darparwyr telathrebu i sicrhau bod busnesau a chartrefi yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf.
Trafnidiaeth
Rydym yn creu system drafnidiaeth fodern, integredig a chynhwysol, sy’n cael ei rhedeg er budd teithwyr, nid cyfranddalwyr. Bydd gwell cysylltedd yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol yn cefnogi ein huchelgeisiau economaidd drwy helpu busnesau i dyfu a’i gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at waith, a hyrwyddo tegwch mynediad at ddarpariaeth diwylliant, treftadaeth a chwaraeon.
Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru i ddarparu fframwaith clir ar gyfer cyflawni, gan sicrhau bod ein system drafnidiaeth yn cefnogi twf economaidd, yn gwella mynediad at gyfleoedd ac yn cysylltu cymunedau ledled Cymru yn well. Byddai cyflawni gweledigaeth Ymlaen, Gyda’n Gilydd gwerth £14 biliwn Trafnidiaeth Cymru, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w hariannu, yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ac yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at swyddi, addysg a gweithgareddau hamdden.
Byddwn yn:
- blaenoriaethu gwydnwch cysylltiadau ar draws Afon Menai drwy welliannau tymor byr a chanolig wrth gynllunio ar gyfer atebion hirdymor.
- gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â gwydnwch ffyrdd yng nghoridor De-ddwyrain Cymru.
- hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal yn ddiogel.
- cyflwyno cyfres wedi’i hadnewyddu o brosiectau rheilffyrdd sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
- creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig drwy ehangu’r system talu am docynnau drwy dapio i mewn ac allan, a chyflwyno prisiau symlach a thecach ar draws bysiau a threnau i wella gwasanaethau i deithwyr a chymunedau ledled Cymru, gan wneud teithio’n symlach ac yn fwy fforddiadwy.
- parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed a chadw pasys bws i bobl dros 60 oed a phobl anabl.
- trawsnewid gwasanaethau bysiau drwy fasnachfreinio, gan ddod â llwybrau, prisiau a safonau o dan un system atebol i’r cyhoedd sy’n rhoi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwella cysylltiadau rhwng cymunedau drwy’r gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De ac yn darparu rhwydwaith integredig sy’n gwella mynediad at wasanaethau, yn cefnogi twf economaidd, ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.
- cyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan (EV) wedi’i hadnewyddu ar gyfer Cymru.
- rhoi teithio llesol wrth wraidd system drafnidiaeth Cymru, gan ei wneud yn ddewis ymarferol, diogel a chynhwysol ar gyfer mwy o siwrneiau bob dydd. Byddwn yn lleihau rhwystrau i gerdded, olwyno a beicio i gefnogi ein cenhadaeth atal afiechyd, a hyrwyddo cyfleoedd o ran llesiant a’r economi.
- rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd dull cydgysylltiedig o deithio gan ddysgwyr, gan gryfhau gweithio trawslywodraethol fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i wella mynediad at addysg, gan gynnwys drwy fynd i’r afael â rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg.
- mynd ati’n strategol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd a gwneud y mwyaf o’i botensial economaidd.
- gweithio gyda phorthladdoedd Cymru i gryfhau eu gwydnwch a gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at economi Cymru, wrth fynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
Cymru wledig gryfach a mwy gwydn
Ffermwyr, pysgotwyr a’r sector bwyd yw asgwrn cefn yr economi wledig. Maen nhw’n cefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, yn gwarchod yr amgylchedd gwledig ac yn gwella diogeledd bwyd.
Rydym yn falch o’n traddodiad o gynhyrchu bwyd a chynnyrch o ansawdd uchel sy’n cael ei fwynhau ledled Cymru a’i allforio ledled y byd, gan greu swyddi a chodi proffil Cymru yn fyd-eang.
Mae ardaloedd gwledig yn wynebu heriau penodol, a byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fel bod cymunedau’n cael eu grymuso a busnesau’n cael eu cefnogi. Byddwn yn cefnogi economi wledig lewyrchus yn ogystal â chefnogi cymunedau i ffynnu, a chynnal y Gymraeg fel iaith fyw mewn llawer o ardaloedd gwledig.
Byddwn yn:
- cefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn ffordd sy’n sail i gynaliadwyedd hirdymor busnesau fferm ac yn diogelu dyfodol y fferm deuluol mewn hinsawdd sy’n newid. Byddwn yn datblygu ac yn mireinio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mewn cydweithrediad cryf â’r gymuned ffermio, fel ei fod yn cefnogi sector amaethyddol ffyniannus i gynhyrchu bwyd, gan gyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol hefyd, yn raddol.
- gweithredu dull newydd o reoli maethynnau ar draws dalgylchoedd, gan symud oddi wrth y dull “ffermio yn ôl y calendr” a chefnogi ffermwyr i leihau llygredd dŵr amaethyddol.
- cyflwyno cynllun newydd ar gyfer Twbercwlosis (TB) Gwartheg, gan fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â’i ddileu, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan gynnwys tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt.
- datblygu Cynllun Lles Anifeiliaid wedi’i adnewyddu sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy’n ymdrin â lles anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
- cefnogi diwydiant pysgota a dyframaethu cynaliadwy, a’r cymunedau sy’n dibynnu arno, fel rhan o’r system fwyd a’r economi.
- cyflawni Strategaeth Datblygu Gwledig i Gymru. Deddfu i’w gwneud yn ofynnol i gynlluniau gwario a rhaglenni polisi gwledig gael eu prawfesur o safbwynt gwledig er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig.
- cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr.
- archwilio opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer anheddau unigol a throsi adeiladau fferm ar gyfer defnydd preswyl i wella mynediad at dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
Y daith at annibyniaeth ynni
Bydd cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn sicrhau mwy o ddiogeledd ynni ond hefyd yn sail i’n dull o gyrraedd sero net erbyn 2040. Rydym yn paratoi cynllun hirdymor i ddarparu mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau, gan fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau gwyrdd sy’n dod i’r amlwg.
Byddwn yn sicrhau bod pobl a chymunedau Cymru yn berchen ar fwy o fentrau ynni adnewyddadwy a’u bod nhw a’u cymunedau yn cael eu cyfran deg o’r elw. Mae ein huchelgais ar gyfer datganoli Ystad y Goron hefyd yn ganolog i’r nod hwn.
Byddwn yn:
- datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol, gan fapio anghenion ynni Cymru heddiw ac yn y dyfodol a nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i’w diwallu.
- cydlynu gweithgarwch ar draws y llywodraeth a sectorau allweddol drwy gyflwyno Bargen Sector newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
- uno Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i greu cwmni ynni cenedlaethol cryfach i dyfu perchnogaeth gymunedol.
Sector twristiaeth mwy cynaliadwy
Mae Cymru yn gyrchfan dwristiaeth o’r safon uchaf, a byddwn yn ei hyrwyddo felly, gan ganolbwyntio ar gynyddu perchnogaeth leol yn y sector.
Byddwn yn sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar dwristiaeth ac ar unrhyw ardollau ymwelwyr, a bod diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw Cymru yn cael eu dathlu a’u cryfhau. Bydd hyn yn adeiladu ar arferion gorau fel 'Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035'.
Byddwn yn:
- adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau ac yn creu eithriadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai’r llety hwnnw yn gymwys i fod yn gartref preifat.
- gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd mesurau presennol ar ail gartrefi a llety gwyliau ac asesu pa gamau pellach y mae eu hangen i helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ac i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
- adolygu rôl Croeso Cymru ac ystyried ai dyma’r model gorau ar gyfer cefnogi twristiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant.
Cynllunio dan arweiniad y gymuned, a meithrin agwedd “gwnaed yng Nghymru” tuag at ddatblygu rhanbarthol
Rhaid i gynllunio adlewyrchu ac ymateb i anghenion lleol a bod wedi’i seilio ar system sy’n gyson, yn glir ac yn effeithlon ym mhob rhan o Gymru.
Mae system gynllunio effeithiol yn sail i’n huchelgeisiau ar gyfer Cymru, ac yn cefnogi ein hymgyrch cynhyrchiant, ein cymunedau bywiog, a dyfodol disglair i’r Gymraeg. Dros amser, mae clytwaith o wahanol fentrau a strwythurau datblygu rhanbarthol a gafodd y dasg o hyrwyddo datblygu rhanbarthol wedi ymddangos.
Er mwyn sicrhau bod prosesau cynllunio yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, mae angen fframwaith rhesymegol integredig newydd arnom ni, a fydd yn darparu goruchwyliaeth a gweledigaeth strategol, gan droi ein huchelgais yn realiti.
Byddwn yn:
- diwygio’r system gynllunio, fel ei bod yn gwasanaethu ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau yn well, gan adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a llewyrchus.
- ailwampio prosesau cynllunio gofodol a chreu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru sy’n darparu gweledigaeth a goruchwyliaeth newydd ar sail Cymru gyfan.
- disodli’r dulliau tameidiog presennol sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd o ran rheoli morol drwy gyflwyno Fframwaith Cynllunio Morol, wedi’i adeiladu ar sail cyd-reoli gwirioneddol gyda physgotwyr, rhanddeiliaid amgylcheddol a chymunedol a rhanddeiliaid y diwydiant.
