Rhaglen lywodraethu 2026 i 2030: Uchelgais newydd i Gymru - Pennod 4: Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
Cynlluniau gweithredu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Byddwn yn creu’r amodau i sicrhau bod llawer mwy o bobl ifanc yn gadael y system addysg wedi’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu taith, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ymuno â’r byd gwaith.
Sgiliau ein pobl yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhain yn cael eu datblygu ar bob cam mewn bywyd, ac maent yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yn gyrru ein heconomi ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd yr unigolyn. Gan adeiladu ar sail ein Cynnig Gofal Plant a ariennir, mae ein system addysg yn agor y drws i blant a phobl ifanc feithrin yr wybodaeth, i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau ac i fod yn rhan o’r dyfodol economaidd ffyniannus a welwn i Gymru.
Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a sgiliau cryf yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell, gan helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial wrth fynd i’r afael hefyd ag anghydraddoldeb mewn cymdeithas. Mae system addysg gydgysylltiedig, sy’n rhychwantu addysg blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd a thrydyddol, a hyfforddiant, yn rhoi’r cyfle gorau i bobl ifanc gael yr yrfa y maent ei heisiau yn y dyfodol.
Safonau ysgolion
Codi safonau llythrennedd a rhifedd yw un o’r heriau mwyaf brys y mae ein system addysg yn ei hwynebu.
Mae’r canlyniadau PISA diweddaraf yn dangos unwaith eto bod gormod o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb y sgiliau sylfaenol hyn. Byddwn yn creu’r amodau i sicrhau bod llawer mwy o bobl ifanc yn gadael y system addysg wedi’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu taith, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ymuno â’r byd gwaith.
Byddwn yn:
- cyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd ac yn codi safonau drwy sefydlu targedau cenedlaethol, gan gynnwys asesiad sylfaenol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau yn yr ysgol. Byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ddatblygu targedau unigol ar gyfer pob dysgwr.
- adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl.
Llesiant a chynhwysiant mewn ysgolion
Mae’r pandemig wedi cael effaith barhaol ar ein pobl ifanc, gyda llawer ohonynt yn profi’r effaith ar adeg allweddol o ran eu datblygiad. Os nad eir i’r afael â’r effaith barhaol hon ar eu gallu i ymgysylltu, bydd yn effeithio ar eu gallu i fyw bywydau iach a llewyrchus.
Mae cyfraddau absenoldeb cyson, ynghyd â heriau ymddygiad ac iechyd meddwl gwael, wedi golygu bod athrawon yn treulio gormod o amser yn rheoli’r amgylchedd dysgu a dim digon o amser yn addysgu. Byddwn yn cefnogi athrawon gydag ymagwedd gyfannol amlasiantaeth at ymddygiad a llesiant, ac yn rhannu data ac arferion gorau yn lleol ac yn genedlaethol.
Byddwn yn:
- datblygu fframwaith cydlynol sy’n dwyn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid ynghyd i fynd i’r afael ag ymddygiad, presenoldeb, llesiant ac anghydraddoldeb addysgol. Mae’r rhain hefyd yn adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach, a byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn gwella dysgu proffesiynol ac arferion adrodd am ddigwyddiadau a rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion, ac yn profi dulliau gweithredu drwy ein cynlluniau peilot Ysgolion Cymunedol a Mwy.
- cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gyda phartneriaid iechyd, i gryfhau eglurder y system, capasiti a hyder y gweithlu i ddarparu addysg gynhwysol yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion.
Llwybrau dysgwyr
Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau gydol oes a chamu ymlaen mewn gyrfa, gan arwain at gyfleoedd gyrfa newydd, cyflog uwch a llesiant gwell.
Mae colegau a phrifysgolion Cymru yn hwyluso amrywiaeth o lwybrau, o opsiynau galwedigaethol lefel 1 a 2 i gyrsiau academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Byddwn yn hyrwyddo’r opsiynau hyn, gan sicrhau bod gan ddysgwyr ddewis go iawn a’u bod yn cael eu cyfeirio’n glir.
Byddwn yn:
- datblygu system addysg drydyddol sydd â llwybrau dysgwyr clir a chydlynol, gan gefnogi dysgu gydol oes a galluogi pobl o bob oed i gamu ymlaen yn hyderus rhwng addysg, hyfforddiant a chyflogaeth drwy gydol eu bywydau ac i gyrraedd eu potensial llawn.
- diwygio Academi Seren, gan adeiladu ar ei helfennau cryfaf i gefnogi mwy o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, i gyflawni eu potensial a chamu ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gynnwys yma yng Nghymru.
- cryfhau cyfleoedd i bobl ifanc gyflawni eu potensial gan gynnwys ehangu mynediad at lwybrau galwedigaethol megis prentisiaethau iau a sicrhau bod cyfraniad gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall yn well.
Y Gymraeg mewn addysg
Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus, ac i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd sicrhau cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i bob dysgwr yn amcan canolog ar bob lefel o’r system addysg.
Rydym am wneud defnydd llawn o’r pwerau yn Neddf y Gymraeg ac Addysg. Drwy gyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a’r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru ar y daith i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn iddo adael yr ysgol.
Byddwn yn:
- cynyddu cyfran y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan osod targedau lleol i sicrhau twf cyson y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol.
- cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cael mynediad at lwybrau trydyddol yn y Gymraeg, gan gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio gyda’r Coleg a Medr i gynyddu cyfleoedd i astudio’r Gymraeg fel pwnc.
- cefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy hyrwyddo a datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a datblygu cyfleoedd sabothol newydd.
Cefnogi athrawon
Ni allwn gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer pobl ifanc heb gefnogaeth gan weithlu ysgol ymroddedig a llawn cymhelliant. Athrawon a staff cymorth yw sylfaen y system addysg ac maent yn bartneriaid hanfodol wrth ddarparu’r dechrau gorau i’n plant.
Byddwn yn:
- gweithio gyda’n gweithlu addysg a’n partneriaid cymdeithasol i wneud addysgu yn yrfa ddeniadol, uchel ei pharch sy’n dod â boddhad.
- gwella prosesau recriwtio a chadw staff drwy leihau llwyth gwaith, darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwaith cynllunio, paratoi ac asesu, a chefnogi datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i bob athro, arweinydd a chynorthwyydd addysgu.
- adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud i’r Cymelldaliad Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth o £15,000 i £20,000 i helpu i ddenu mwy o athrawon i bynciau lle mae prinder, ac archwilio cyfleoedd i gynyddu hyn ymhellach.
- cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu ar draws addysg drwy sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr yn gallu adnabod ac adrodd am achosion o grŵmio. Byddwn yn darparu addysg gynhwysfawr ar ddiogelwch digidol a llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn sicrhau bod safonau diogelu ac addysgol yn cael
