Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 4 Medi i adfer Pont y Borth (Pont Menai) i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn pryd ar gyfer ei 200mlwyddiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel ail gymal y gwaith, caiff rhodenni fertigol parhaol newydd eu gosod, hynny ar ôl cyfnod o ddatblygu a phrofi trylwyr, yn ogystal â gwaith peintio helaeth.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Spencer Group a’i oruchwylio gan UK Highways A55 Limited a Llywodraeth Cymru.

Penderfynwyd ar y dyddiad dechrau rhag amharu ar draffig gwyliau’r haf a disgwylir i’r gwaith ddod i ben ddiwedd haf 2025 – cyn 200mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026.

Mae’r rhaglen waith wedi’i threfnu fel na fydd angen cau’r bont yn llwyr a chaiff system rheoli traffig ei gweithredu i leihau’r anhwylustod i drigolion lleol.   

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters:

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i osgoi creu rhagor o anhwylustod i gymunedau bob ochr y bont ac rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am eu hamynedd. I wneud y siŵr bod y bont yn dal i’n gwasanaethu ar ôl ei 200fed flwyddyn, mae’n bwysig bod digon o amser yn cael ei roi i’r gwaith adfer. Byddwn yn dal i weithio gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaethau argyfwng, i greu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ac i wneud y gwaith mor gyflym a diogel ag y medrwn.

Mae cyhoeddiad heddiw’n cael ei wneud yn sgil gosod rhodenni fertigol dros dro yn gynharach eleni. Er mwyn gallu ei orffen mewn pryd, bydd y gwaith yn para dros wyliau Pasg, gwyliau hanner tymor a gwyliau haf. Bydd hynny’n cadw unrhyw oedi oherwydd y tywydd mor fach â phosibl.

Yn ystod yr wythnos, gweithir rhwng 7 y bore a 7 yr hwyr.  Dim ond un lôn fydd yn cael ei chau yn ystod oriau gwaith. Bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw yn ystod oriau brig er mwyn sicrhau bod y traffig yn llifo mor esmwyth â phosibl wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.