Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru yn rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd am brynu cartref ond nad ydynt yn gallu fforddio prynu 100% o'r cartref am y gwerth llawn ar y farchnad.

Sut mae'n gweithio

O ran Rhanberchnogaeth – Cymru:

  • gallwch brynu cyfran o'r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall
  • gallwch brynu cyfran gychwynnol a fydd yn cyfateb i rhwng 25% a 75% o werth yr eiddo yr ydych wedi'i ddewis
  • rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu
  • gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg

Enghraifft ariannol o brynu eiddo am y tro cyntaf

Gwerth y cartref pan gafodd ei werthu £200,000
Y gyfran ecwiti a brynwyd pan werthwyd y cartref 30%
Yr hyn a dalwyd i'r darparwr pan werthwyd y cartref £60,000
Y blaendal gofynnol £6,000
Y morgais gofynnol £54,000

Yr ad-daliad misol gofynnol ar gyfer y morgais

(Wedi'i seilio ar forgais 25 mlynedd yn ôl 4.5%)

£300 bob mis calendr (£69 yr wythnos)
Y gyfran eciwiti a gadwyd gan y darparwr 70%
Gwerth y gyfran a gadwyd gan y darparwr £140,000
Uchafswm y rhent blynyddol £3,850
Uchafswm y rhent misol £321 bob mis (£74 yr wythnos)
Cyfuniad o'r taliadau morgais a rhent bob mis £621 bob mis (£300 (morgais) + £321 (rhent)) 

Os oedd yr ymgeisydd wedi gallu talu'r morgais yn llawn bob mis ar sail blaendal o 10% (£20k) ar gyfer morgais 25 mlynedd yn ôl 4.5%, y taliad bob mis fyddai £1,000.

Enghraifft o gynyddu cyfran eich perchentyaeth

Cewch gyfle i brynu mwy o gyfrannau yn eich cartref, sef cynyddu cyfran eich perchentyaeth (a elwir yn 'staircasing' yn Saesneg).

Gwerth y cartref ar adeg cynyddu cyfran y berchentyaeth £220,000
Y gyfran eciwiti i'w phrynu i gynyddu cyfran y berchentyaeth 20%
Y taliad i'r landlord i gynyddu cyfran y berchentyaeth £44,000
Y gyfran sy'n eiddo ichi ar ôl cynyddu cyfran y berchentyaeth 50%
Y gyfran eciwiti a gedwir gan y landlord 50%
Y rhent a dalwyd cyn cynyddu cyfran y berchentyaeth £385 bob mis
Y rhent a dalwyd ar ôl cynyddu cyfran y berchentyaeth £275 bob mis