Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae'r cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru bellach ar gau i’r landlordiaid sy'n cymryd rhan ac ni fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu hariannu.

Fodd bynnag, mae rhai cartrefi sydd i'w cynnig dan y cynllun Rhentu i Berchnogi –  Cymru yn dal i gael eu hadeiladu, ac felly gallent fod ar gael i ymgeiswyr newydd sy'n dymuno gwneud cais am gartref Rhentu i Berchnogi – Cymru. Cysylltwch â landlord sy’n cynnig cartrefi dan y cynllun yn eich ardal leol i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfeiriwch at dudalen we cynlluniau cymorth i brynu cartref er mwyn cael gwybodaeth am gynlluniau eraill i helpu pobl i berchnogi cartref.

Mae cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl i brynu cartref pan nad oes digon o gyllid ganddynt i gyfrannu at flaendal morgais. Mae'r cynllun yn helpu tenantiaid mewn eiddo rhent sy'n rhan o'r cynllun i gynilo cyfandaliad tuag at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna, gall y cyfandaliad tuag at flaendal gael ei ddefnyddio i sicrhau morgais er mwyn prynu cartref.

Sut mae'n gweithio

O ran Rhentu i Berchnogi – Cymru:

  • cewch gyfle i brynu'r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu'r cartref
  • byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gallwch gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – i’w defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo
  • bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.

Enghraifft ariannol 1: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a chynnydd o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad

  Gwerth marchnadol Rhent misol Rhent a dalwyd Blaendal a gronnwyd (£) Blaendal a gronnwyd (%)
Blwyddyn 1 (dechrau) £150,000 - - - -
Blwyddyn 1 (diwedd) £153,000 £600 £7,200 - -
Blwyddyn 2 £156,060 £600 £14,400 £6,630 4.2%
Blwyddyn 3 £159,181 £610 £21,720 £10,021 6.3%
Blwyddyn 4 £162,365 £610 £29,040 £13,442 8.3%
Blwyddyn 5 £165,612 £620 £36,480 £16,926 10.2%

Enghraifft ariannol 2: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a gostyngiad o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad

  Gwerth marchnadol Rhent misol Rhent a dalwyd Blaendal a gronnwyd (£) Blaendal a gronnwyd (%)
Blwyddyn 1 (Start) £150,000 - - - -
Blwyddyn 1 (End) £147,000 £600 £7,200 - -
Blwyddyn 2 £144,060 £600 £14,400 £3,600 2.5%
Blwyddyn 3 £141,179 £610 £21,720 £5,430 3.8%
Blwyddyn 4 £138,355 £610 £29,040 £7,260 5.2%
Blwyddyn 5 £135,588 £620 £36,480 £9,120 6.7%