Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

1. Trosolwg

Gyda chyfraddau llog cynyddol, costau ynni a chostau byw cyffredinol, mae nifer cynyddol o berchnogion tai yn wynebu'r gwir obaith o fethu â thalu eu had-daliadau morgais.

Mae cynllun Cymorth i Aros - Cymru yn cynnig cymorth i berchnogion tai o Gymru sydd mewn, neu'n wynebu, anhawster ariannol i dalu eu morgais. Mae cymorth ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir.

Nod y benthyciad ecwiti yw lleihau taliadau morgais misol presennol i lefel fforddiadwy. Bydd hyn yn galluogi perchnogion tai i barhau i fyw yn eu cartrefi a bod yn berchen arnynt. Bydd hefyd yn rhoi amser iddynt ddatrys eu problemau ariannol sylfaenol, a all leihau'r risg o adfeddiannu a digartrefedd.

Ar gyfer ymgeiswyr cymwys, bydd y cynllun yn cynnig asesiad ariannol gan Gynghorydd Morgeisi Annibynnol i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol. Bydd yr asesiad hwn yn seiliedig ar amgylchiadau penodol yr aelwyd.

Os daw’r Cynghorydd Morgeisi Annibynnol i’r casgliad mai’r opsiwn mwyaf priodol i’r ymgeisydd yw benthyciad ecwiti, yna bydd ei gais yn cael ei symud ymlaen o dan y cynllun.

Nid yw’r cymorth a ddarperir gan gynllun Cymorth I Aros – Cymru wedi’I ddiffinio fel cymhorthdal ac nid yw’n bodloni’r pedwar maen prawf a amlinellir yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.