Yn y canllaw hwn
4. Sut mae ymgeisio
I wneud cais, rhaid i chi lenwi a chyflwyno'r ffurflen gais Cymorth i Aros.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i lenwi'r ffurflen gais ar y ffurflen ei hun.
Cyn cyflwyno ffurflen gais, rhaid i ymgeiswyr wneud yn siŵr eu bod:
- wedi darllen a dilyn y canllawiau yn y ddogfen Cymorth i Aros - Cymru: canllawiau i ymgeiswyr
- wedi cael cyngor ar ddyledion gan asiantaeth cyngor ar ddyledion ac wedi derbyn eich cynllun datrys dyledion ganddynt
- sicrhau bod holl berchnogion cofrestredig eich cartref wedi llofnodi'r ffurflen gais
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganllawiau'r cynllun neu am lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â ni drwy ceisiadau@cymorthiaros.cymru.