Yn y canllaw hwn
2. Cymhwysedd
Nod cynllun Cymorth i Aros - Cymru yw gweithio ochr yn ochr â chymorth a gynigir gan eich benthyciwr morgeisi ac yn unol â Siarter Morgeisi'r DU.
Mae'n rhaid i chi siarad â'ch benthyciwr morgeisi presennol i weld a all eich helpu cyn i chi wneud cais i gynllun Cymorth i Aros – Cymru.
Efallai y bydd y cynllun yn gallu eich helpu os ydych yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd.
- eich bod yn cael anhawster, neu'n wynebu anhawster i dalu eich morgais
- eich bod mewn perygl o golli eich cartref
- mai dim ond eich morgais presennol sydd wedi'i sicrhau yn erbyn eich eiddo
- bod gennych gyfanswm incwm cartref o lai na £67,000 y flwyddyn
Yn ogystal, mae'n rhaid i'r eiddo fod:
- yng Nghymru
- yn werth llai na £300,000
- yr unig eiddo rydych chi'n berchen arno
Ni fyddwch yn gymwys:
- os oes gennych fwy nag un benthyciad wedi'i sicrhau yn erbyn eich cartref, er enghraifft ail arwystl neu orchymyn arwystl
- os nad yw eich cais yn cael ei gwblhau gan holl berchnogion y cartref