Yn y canllaw hwn
5. Y gallu i wrthsefyll y tywydd
Mae angen i wal gyflawni dwy swyddogaeth gyffredinol yn hyn o beth.
Dylai wrthsefyll lleithder o'r ddaear, ac fel rheol felly bydd angen cwrs atal lleithder arni i wneud hynny. Yn ogystal, dylai fod yn ddigonol i allu atal y tywydd rhag treiddio i du mewn yr adeilad o'r tu allan.
Yn gyffredinol, mae gwaith brics yn dda ar ei ben ei hun am wrthsefyll y tywydd.
Fel rheol, fodd bynnag, bydd angen rendro wyneb allanol gwaith blociau. Bydd trwch y rendro'n amrywio'n ôl y math o floc a ddefnyddir, ond dylai gyfateb i oddeutu 16mm o leiaf.