Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y newid i Reoliadau tai cyfyngedig eu hamser a wnaed eleni yng Nghymru. Mae Rheoliadau 2026 hyn yn diwygio'r prif reoliadau, sy'n helpu cynghorau i benderfynu pwy sy'n gymwys i gael tŷ wedi'i ddyrannu iddo neu gymorth tai. Mae Rheoliadau 2026 yn creu darpariaeth "argyfwng cyffredinol" sy'n gwneud rhai pobl sy'n dychwelyd i'r DU o ardaloedd o wrthdaro rhyngwladol yn gymwys ar unwaith i gael tŷ a chymorth. Ar hyn o bryd, gellir newid y Rheoliadau mewn argyfwng pan fydd angen i wladolion Prydeinig cymwys a phobl eraill sydd â chaniatâd i aros adael gwlad arall oherwydd argyfwng a dychwelyd i Gymru.

Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn cynnig gwneud y ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol" yn Rheoliadau 2026 yn un barhaol. Byddai hyn yn helpu gwladolion Prydeinig cymwys sy'n dychwelyd ac eraill sydd â chaniatâd i aros i gael cymorth pan fydd angen cael tŷ neu gymorth tai arnynt yng Nghymru. Byddai'n creu fframwaith clir i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu'n gyflymach a gwneud penderfyniadau cliriach. Byddai hefyd yn lleihau'r angen i ddiwygio'r prif Reoliadau bob tro y bydd argyfwng mewn gwlad neu diriogaeth arall lle mae gwladolion Prydeinig a dosbarthiadau penodol o bobl yn byw.

Byddai gwneud y Rheoliadau sy'n gyfyngedig eu hamser yn rhai parhaol gan wneud y sefyllfa yng Nghymru'n gyson â gweinyddiaethau eraill y DU, lle mae'r gyfraith eisoes wedi'i newid i ganiatáu i bobl gymwys gael cymorth. Byddai hynny'n creu cysondeb ledled y DU.

Ar ôl i'r ymgynghoriad gau, byddwn yn darllen ac yn ystyried yr holl ymatebion. Gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym ein helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf. Gallai hyn olygu diwygio Rheoliadau 2026 i'w gwneud yn barhaol, newid y cynllun, neu benderfynu peidio â mynd yn ein blaenau. Byddwn yn esbonio beth rydyn ni'n ei benderfynu a pham.

Sut i ymateb

Rydym yn croesawu ymatebion drwy'r ffurflen ymateb ar-lein neu ymatebion ysgrifenedig gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru. Gall ymatebion dynnu ar ddata ffurfiol, ymchwil gyhoeddedig, profiad sefydliadol, profiad byw, astudiaethau achos, enghreifftiau o arfer da neu gynigion ymarferol ar gyfer newid.

Rydym yn croesawu yn arbennig dystiolaeth glir ynghylch pa gamau sydd eu hangen, pwy sydd angen cymryd rhan, beth all y llywodraeth ei wneud yn wahanol, a sut y gellid mesur cynnydd. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u bwriadu fel man cychwyn a gellir eu datblygu ymhellach trwy ymgysylltu â phartneriaid.

Dylech gyflwyno’ch sylwadau erbyn 18 Rhagfyr 2026, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

Tîm Deddfwriaeth Atal Digartrefedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am y ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Deddfwriaeth Atal Digartrefedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: homelessnesspolicy@gov.wales

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd / This document is also available in English: Allocation of Housing and Homelessness (Wales) (Eligibility) (Amendment) Regulations 2026 | GOV.WALES

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb ac y byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan ymrwymiad cyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata eraill sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk

Geirfa

Rheoliadau

Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy’n gwneud Rheoliadau a’u diben yw disgrifio'n fanwl sut mae Deddf yn gweithio. Maent yn esbonio'r rheolau manwl y mae'n rhaid i bobl, cynghorau neu sefydliadau eu dilyn.

Prawf Preswylfa Fel Arfer

Mae'r Prawf Preswylio fel Arfer yn helpu cynghorau i benderfynu a yw rhywun yn gallu cael tŷ cymdeithasol neu gymorth digartrefedd. Gall hyn effeithio ar a allant ymuno â chofrestr dai neu gael cymorth digartrefedd.

Gwladolion Prydeinig

Mae gan wladolyn Prydeinig gysylltiad cyfreithiol o ran ei genedligrwydd â'r DU ac maent yn cynnwys dinasyddion Prydain. Ond ceir categorïau llai cyffredin eraill o wladolion Prydeinig, megis dinasyddion Tiriogaethau Tramor Prydain a gwladolion Prydeinig (Tramor).

Caniatâd i aros

Nid yw pobl sydd â 'chaniatâd i aros' yn ddinasyddion Prydeinig, ond mae ganddynt ganiatâd i fyw yn y DU ac mae'n bosib y bydd ganddynt yr hawl i gael cymorth tai neu ddigartrefedd yng Nghymru.

Ddim o dan ymgymeriad cynhaliaeth sy'n dal i fod yn gymwys

Mae 'Ddim o dan ymgymeriad cynhaliaeth sy'n dal i fod yn gymwys' yn golygu nad oes person arall wedi addo eu cynnal yn ariannol mewn ffordd a fyddai'n eu hatal rhag cael cymorth cyhoeddus.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru am dai, gan weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai. Mae swyddogaethau tai awdurdodau lleol yn gysylltiedig â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 ("Rheoliadau 2014") gan fod y Rheoliadau hynny'n helpu i benderfynu pwy sy'n gymwys i gael llety tŷ wedi'i ddyrannu iddynt neu i gael cymorth tai yng Nghymru. 

Rhaid i awdurdodau lleol gadw at y rheolau cymhwystra wrth asesu ceisiadau am dŷ a chymorth digartrefedd, gan gynnwys lle gall statws mewnfudo, hanes preswylio neu gysylltiad person â gwlad arall fod yn berthnasol. Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud hyn trwy ragnodi dosbarthiadau o bobl sy'n gymwys neu'n anghymwys i gael llety tai neu gymorth tai, gan gynnwys pobl sy'n destun rheolaeth mewnfudo, a phobl nad ydynt yn destun rheolaeth mewnfudo ond y gellir eu trin o hyd fel rhai anghymwys hyd yn oed os ydynt yn bodloni'r prawf preswylio arferol.

Mae Rheoliadau 2014 wedi cael eu diwygio dros amser i ymateb i argyfyngau dyngarol neu ryngwladol penodol lle mae dinasyddion Prydain wedi ymgilio o wlad neu diriogaeth neu eu cynghori i'w gadael. Mae hon yn ffordd adweithiol o ddelio ag argyfwng sy'n gofyn am reoliadau sy'n diwygio Rheoliadau 2014 bob tro y bydd amgylchiadau'n codi dramor. Gall y dull hwn arwain at oedi a chymhlethdod ac ansicrwydd i awdurdodau lleol ac ymgeiswyr yn enwedig pan all y sefyllfa dramor newid yn gyflym. 

Mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pwerau o dan Ddeddf Tai 1996 a Deddf Tai (Cymru) 2014 i wneud pob set o reoliadau diwygio. Mae angen adnoddau Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r polisi bob tro y caiff Rheoliadau 2014 eu diwygio. Gall hyn olygu gwaith i ystod eang o swyddogion ar draws gwahanol feysydd polisi. Lle bydd angen diwygiadau cyflym mewn ymateb i argyfwng rhyngwladol, rhaid cwblhau'r tasgau hyn yn gyflym, ynghyd â blaenoriaethau eraill.

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 ("Rheoliadau 2026") yn diwygio Rheoliadau 2014 i gyflwyno darpariaeth "argyfwng cyffredinol" cyfyngedig ei hamser fydd yn effeithio ar ddosbarthiadau penodol, gan eu gwneud yn gymwys i gael llety tai neu gymorth digartrefedd. Gwnaed y Rheoliadau 2026 hyn mewn argyfwng oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ac maent yn cynnwys cymal machlud sy'n cyfyngu ar effaith y ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol". Mae hyn yn golygu y bydd y ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol" yn Rheoliadau 2026 yn peidio â chael effaith ar 30 Mawrth 2027.

Mae'r ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol" yn hepgor y gofyniad prawf preswylio fel arfer arferol ar gyfer unrhyw berson a fyddai fel arall yn gymwys i gael llety tai neu gymorth tai yng Nghymru, pan fyddant yn gadael gwlad neu diriogaeth am fod Llywodraeth Ei Mawrhydi yn cynghori gwladolion Prydeinig i adael y wlad neu'r diriogaeth honno neu'n trefnu bod gwladolion Prydeinig yn ymgilio o'r wlad neu'r diriogaeth honno. Byddai angen i berson cymwys wneud ei gais am gymorth o fewn y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth ei Fawrhydi y cyngor hwnnw am y tro cyntaf neu ddiwrnod cyntaf ymdrech gweithgarwch Llywodraeth ei Fawrhydi i ymgilio, pa un bynnag sydd yn hwyraf.

Mae'r ddarpariaeth 'argyfwng cyffredinol' yn galluogi gwladolion Prydeinig, aelodau cymwys o'u teuluoedd a phobl sydd â chaniatâd i aros nad oes modd iddynt gael arian cyhoeddus nac ymrwymiad i'w cynnal, i gael dyraniad tai a chymorth digartrefedd yng Nghymru wrth ddychwelyd o wlad lle rhoddwyd cyngor ‘gadael nawr' gan Lywodraeth y DU neu lle cawsant ymgilio. Mae hyn yn golygu bod pobl o'r fath yn gymwys i gael llety tŷ wedi'i ddyrannu iddynt a chymorth digartrefedd ar ôl cyrraedd a byddant yn derbyn cymorth cyn belled â'u bod yn bodloni'r un amodau eraill sy'n berthnasol i bob person cymwys. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar statws mewnfudo ac maent ond yn berthnasol i wladolion Prydeinig a rhai personau sydd â chaniatâd i aros.

Y cynigion sydd dan sylw

Mae'r cynnig hwn yn ymwneud â gwneud y ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol" dros dro yn barhaol. Byddai gwneud y ddarpariaeth yn barhaol yn osgoi oedi, cymhlethdod ac ansicrwydd i awdurdodau lleol ac ymgeiswyr wrth benderfynu pwy sy'n gymwys. Byddai'n help hefyd i ddefnyddio adnoddau'n well trwy ganiatáu i ymgynghori a chraffu ddigwydd ymlaen llaw, yn hytrach na gofyn am waith adweithiol brys yn ystod argyfwng rhyngwladol, a byddai'n cynnig fframwaith sefydlog cliriach i awdurdodau lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae'r gwelliant hefyd yn debygol o arbed amser ac adnoddau trwy osgoi'r angen i ddatblygu diwygiadau brys ar wahân ar gyfer pob amgylchiad penodol, yn aml ar fyr rybudd ac o fewn amser tynn.

Asesiadau Effaith

Rydym wedi paratoi dau asesiad effaith drafft i gefnogi'r ymgynghoriad hwn. Sef yr Asesiad Effaith Integredig drafft a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft. Mae'r ddau yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn.

Mae'r Asesiad Effaith Integredig drafft yn edrych ar effeithiau ehangach gwneud Rheoliadau 2026 yn barhaol. Mae hyn yn cynnwys effeithiau posibl ar lesiant, cydraddoldeb a hawliau plant.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn esbonio pam mae'r newid hwn yn cael ei ystyried. Mae hefyd yn edrych ar yr opsiynau a'r effeithiau posibl ar gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Ar hyn o bryd, nid yw'r cynnig i ymgynghori yn creu costau uniongyrchol newydd. Bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i ddeall a oes unrhyw effeithiau ymarferol, ariannol neu o ran darparu cyn rhoi cyngor terfynol.

Cwestiynau'r Ymgynghoriad

Mae ymgynghori yn un o'r dulliau rydyn ni'n eu defnyddio i gysylltu â phobl a sefydliadau yng Nghymru, i ofyn iddynt am eu barn am ein cynigion. Mae'n hanfodol i ni allu gweithio'n effeithiol.

Gofynnir yn Atodiad A y cwestiynau isod i'n helpu i ddeall sut y gall y newid a gynigir effeithio ar bobl, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym am gasglu tystiolaeth am unrhyw fanteision, risgiau neu effeithiau anfwriadol tebygol cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r cynnig i wneud y ddarpariaeth "argyfwng cyffredinol" yn Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn barhaol?

Cytuno / anghytuno / ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Esboniwch eich ateb a rhowch unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau.

Cwestiwn 2: Pa effaith, os o gwbl, ydych chi'n meddwl y byddai'r cynnig yn ei chael ar allu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau amserol a chlir wrth ymateb i argyfwng rhyngwladol?

Cadarnhaol / negyddol / niwtral

Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fanteision, risgiau neu heriau ymarferol i awdurdodau lleol.

Cwestiwn 3: Pa effaith, os o gwbl, ydych chi'n meddwl y byddai'r cynnig yn ei chael ar allu pobl i gael cymorth tai a digartrefedd yng Nghymru pan fydd ei angen arnynt?

Cadarnhaol / negyddol / niwtral

Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fanteision, risgiau neu heriau ymarferol i ymgeiswyr.

Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fanteision, risgiau neu heriau ymarferol 

Cwestiwn 4: Beth yw eich barn chi bod Cymru'n dilyn yr un trywydd â rhannau eraill y DU?

Cytuno / anghytuno / ddim yn cytuno nac yn anghytuno 

Rhowch resymau.

Cwestiwn 5: A oes gennych unrhyw dystiolaeth bod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) cyfredol 2026 yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig?

Oes - Cadarnhaol

Oes - Negyddol 

Oes - Cadarnhaol a negyddol

Na 

Cynhwyswch unrhyw dystiolaeth sy'n ymwneud ag oedran, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, a phriodas neu bartneriaeth sifil.

Cwestiwn 6: A oes unrhyw dystiolaeth bod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar blant a phobl ifanc?

Oes - Cadarnhaol

Oes - Negyddol 

Oes - Cadarnhaol a negyddol

Na 

Rhowch unrhyw dystiolaeth. 

Cwestiwn 7: Oes gennych unrhyw dystiolaeth o effaith bosibl y cynnig ar ddyletswyddau awdurdodau lleol o ran y pwysau am dai, cynllunio llety, defnyddio tir, cyflenwi tai neu fioamrywiaeth?

Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fanteision, risgiau neu heriau ymarferol i awdurdodau lleol.

Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol gwneud y ddarpariaeth 'argyfwng cyffredinol' yn barhaol ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 9: Yn eich barn chi, a allai’r cynigion i wneud y ddarpariaeth 'argyfwng cyffredinol' yn barhaol, gael eu llunio neu eu newid, er mwyn gwneud canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol, ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi: