Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch mewn gofal iechyd
Sut i helpu pobl gydag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol i gael mynediad at ofal iechyd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben
Diben y safonau hyn yw sicrhau bod ein gwasanaethau gofal iechyd yn hygyrch i'r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Mae’r safonau ar gyfer darparu gwasanaethau i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol y dylid eu bodloni pan fyddant yn cael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru wedi'u nodi isod. Mae'r safonau hyn yn gymwys i oedolion, pobl ifanc a phlant.
Mae'r safonau hyn wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol (yn rhestru yn adran rhanddeiliaid). Byddant yn parhau i gael eu hadolygu yn unol â'r amserlen adolygu y cytunwyd arni.
Mae'r ddogfen hon yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd gan ei fod yn cyfeirio at y rhai sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn gwneud y gwahaniaeth pwysig rhwng "amhariad" ac "anabledd". Mae'n cydnabod bod pobl ag amhariadau[troednodyn 1] yn cael eu hanablu gan rwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas. Mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol, a rhwystrau ffisegol a sefydliadol, a all atal pobl anabl rhag cael eu cynnwys a rhag cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd.
Diffiniad
Defnyddir y term "pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol" yn y ddogfen hon drwyddi draw i gyfeirio at y canlynol:
- pobl sy'n F/fyddar, pobl sydd wedi colli eu clyw neu sy'n drwm eu clyw, ac arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (mae'n bwysig nodi hefyd y gwahaniaethau ieithyddol rhwng y gymuned arwyddo BSL Fyddar, a'r rhai sy'n fyddar, wedi colli eu clyw, neu'n drwm eu clyw)
- pobl ddall neu rannol ddall
- pobl ddall fyddar
- pobl sydd â rhwystrau mynediad oherwydd iaith a chyfathrebu sy'n deillio o anabledd (gan gynnwys dementia, anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl)
- pobl sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwroamrywiaeth
- pobl sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o lythrennedd isel
- rhieni a gofalwyr sy'n wynebu rhwystrau iaith neu gyfathrebu
- pobl nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith o ddewis (gan gynnwys pobl sy'n ceisio noddfa, ffoaduriaid ac ymfudwyr)
Dyletswydd gyfreithiol
Mae dyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau gofal iechyd. Mae'r ddyletswydd hon yn gofyn am rag-gynllunio ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fod yn rhagweithiol wrth wneud addasiadau er mwyn sicrhau bod yr holl anghenion mynediad a chyfathrebu yn cael eu diwallu. Mae cyfathrebu effeithiol a phriodol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd sy'n hybu urddas a pharch. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod cyfathrebu aneffeithiol hefyd yn fater a allai effeithio ar ddiogelwch cleifion, ac y gall arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth.
Mae creu cyfleoedd cyfathrebu hygyrch i gleifion yn y GIG yn cefnogi'n uniongyrchol egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y ddeddf) ac yn cyd-fynd â'r egwyddorion hynny. Mae'r ddeddf yn pwysleisio pwysigrwydd meddwl yn yr hirdymor a'i nod yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Trwy sicrhau bod cyfathrebu yn y GIG yn hygyrch i bob claf, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau dysgu neu rwystrau iaith, bydd GIG Cymru yn gallu darparu system gofal iechyd fwy cynhwysol a theg.
Un o brif amcanion y ddeddf yw creu "Cymru iachach”. Mae cyfathrebu hygyrch yn sicrhau bod pob claf, waeth beth fo'i anghenion cyfathrebu, yn gallu deall yn llawn ei gyflyrau iechyd, ei opsiynau triniaeth, a'i gynlluniau gofal. Mae'r grymuso hwn, trwy ddealltwriaeth, yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell, gan fod cleifion yn fwy tebygol o ddilyn cyngor meddygol, cadw at gyfundrefnau meddyginiaeth, a chymryd rhan mewn mesurau iechyd ataliol pan fyddant yn deall yn llawn y wybodaeth a ddarperir iddynt. Yn ogystal, mae cyfathrebu hygyrch yn meithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth a diogelwch yn y system gofal iechyd, gan annog cleifion i geisio gofal pan fo angen a chymryd rhan weithredol yn eu penderfyniadau gofal iechyd.
Ar ben hynny, mae'r ddeddf yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, sy'n elfennau hanfodol o ddatblygu cynaliadwy. Drwy ddarparu cyfathrebu hygyrch, mae GIG Cymru yn mynd i'r afael ag anghenion poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol, fel y rhai sydd ag amhariadau synhwyraidd, pobl niwrowahanol, y rhai ag anableddau dysgu, neu'r rhai sydd ddim yn medru’r Gymraeg neu'r Saesneg yn dda. Mae'r dull hwn yn sicrhau nad oes unrhyw glaf yn cael ei adael ar ôl oherwydd rhwystrau cyfathrebu, a thrwy hynny’n lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'n cefnogi lles diwylliannol Cymru hefyd trwy barchu a darparu ar gyfer amrywiaeth ieithyddol ei phoblogaeth, gan gynnwys y defnydd o'r Gymraeg, yn ogystal â BSL ac ieithoedd cymunedol.
Mae holl gyrff y GIG yng Nghymru yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau'r Gymraeg 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r safonau hyn yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru. Mae'r Safonau'n cyd-fynd yn uniongyrchol â nodau Mwy na Geiriau cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, mae gan y Safonau a nodau Mwy Na Geiriau flaenoriaethau yn gyffredin. Er enghraifft, o ran darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cefnogi mynediad at wasanaethau yn iaith o ddewis y person, a chofnodi anghenion iaith a chyfathrebu a ffefrir gan berson mewn cofnodion cleifion.
Cyflwynwyd y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal ar 1 Ebrill 2023 fel rhan o'r Ddyletswydd Ansawdd trwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Mae'r safonau'n gymwys i holl wasanaethau GIG Cymru ac maent yn cynnwys rhai ar gyfer gwasanaethau teg. Mae'r safonau'n gosod y disgwyliad y dylai pawb gyrraedd eu potensial llawn ar gyfer bywyd iach nad yw'n amrywio o ran ansawdd yn ôl sefydliad neu nodweddion personol. Mae cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'u hymgorffori yn ein system gofal iechyd.
Mae'r safonau'n cefnogi hefyd y gwaith o gyflawni Cymru Iachach, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys ymrwymiad penodol i "sicrhau y gall pob dinesydd gael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, waeth beth fo'i anghenion o ran iaith neu fformat cyfathrebu”.
Mae'r safonau hyn yn cyd-fynd yn uniongyrchol hefyd â Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan a gyhoeddwyd yn 2021. Yn benodol, mae safon 2 yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd gwasanaethau yn y mannau cysylltu yn darparu addasiadau rhesymol i ofal sy'n diwallu anghenion a bodloni dewisiadau personol yr unigolyn. Bydd hyn yn cynnwys pawb sy'n defnyddio gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol, gan gydnabod bod pobl â dementia yn grŵp agored i niwed.
Comisiynu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd/dehongli a chyfiethu
Mae comisiynu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd/dehongli a chyfieithu yn effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd.
Mae gwasanaethau cyfieithu ar y pryd/dehongli a chyfieithu yn darparu gwasanaeth i gleifion, gofalwyr a chlinigwyr i'w helpu i gyfathrebu pan nad ydynt yn siarad yr un iaith. Gall rhwystrau cyfathrebu rhwng darparwyr gofal iechyd a chleifion effeithio ar ddiagnosis, lleihau effeithiolrwydd ymgynghoriadau, niweidio profiad cleifion, effeithio ar ganlyniadau iechyd a chynyddu achosion o gleifion ddim yn mynd i apwyntiadau.
Mae’r ddogfen Gweithdrefn Weithredu Safonol: Comisiynu Gwasanaethau Cyfieithu ar y Pryd/Dehongli a Chyfieithu ym maes Gofal Iechyd Sylfaenol ac Argyfwng yn ddogfen sy'n eistedd ochr yn ochr â'r Safonau hyn. Nod y Weithdrefn Weithredu Safonol yw cefnogi gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng yng Nghymru wrth sicrhau gwasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd/dehongli neu wrth adolygu gwasanaethau presennol. Mae'n darparu canllawiau i wasanaethau GIG Cymru sy'n eu galluogi i sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth yr holl gleifion, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu'n rheolaidd ac yn gyson.
Mae'r weithdrefn gweithredu safonol wedi'i hysgrifennu gyda gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol (meddygfeydd teulu) a lleoliadau gofal brys mewn golwg, ond bydd y cynnwys hefyd yn berthnasol i leoliadau eraill, megis lleoliadau gofal sylfaenol eraill:
- fferyllfeydd cymunedol
- deintyddion
- optegwyr
- deietegwyr
- podiatreg a ffisiotherapi
- safleoedd cymunedol neu ysbytai
- lleoliadau gofal eilaidd, megis gwasanaethau bydwreigiaeth ac iechyd meddwl
Gwybodaeth cleifion
Cofnodi a chadw gwybodaeth
Mae cofnodi, cadw a rhannu gwybodaeth gywir am gleifion yn sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn hygyrch i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.
Rhaid i ddarparwyr gofal iechyd sydd eisoes yn ddarostyngedig i'r safon gwybodaeth hygyrch (AIS), yn ogystal â darparwyr gofal iechyd eraill sy'n ddarostyngedig i'r Safonau hyn, sicrhau eu bod yn cynnwys pob claf ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol wrth nodi, cofnodi, amlygu, rhannu a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a rhieni. Dylid cofnodi dewisiadau o ran y Gymraeg yn unol â nodau Mwy na Geiriau hefyd.
Bydd system 'amlygu' ar gofnod digidol neu bapur claf yn galluogi staff sylfaenol a chymunedol, derbynyddion adrannau argyfwng a derbynwyr galwadau ambiwlans i ddeall anghenion y claf pan fyddant yn mynychu'r practis neu'r gwasanaeth neu'n cysylltu â nhw. Bydd hyn yn gymwys hefyd i unrhyw apwyntiad claf sy'n cael ei gynnal yng nghartref y claf neu mewn lleoliad cymunedol, gan gynnwys mewn cartrefi gofal. Bydd hyn yn galluogi darparwyr i fodloni gofynion cyfathrebu pob claf.
Rhaid cymryd y camau canlynol:
- rhaid gwneud pob aelod o staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i gofnodi gwybodaeth o'r fath er mwyn cefnogi unigolion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol, lle mae'r unigolion hynny o fewn y cwmpas a amlinellir yn y ddogfen hon, a hynny ar unwaith
- rhaid i bob system yn y broses gaffael, neu systemau sydd i'w caffael yn y dyfodol, gydymffurfio â'r Safonau hyn ar unwaith
- rhaid cymryd yr holl gamau perthnasol er mwyn cydymffurfio â'r cynllun gweithredu ategol ar gyfer y Safonau ar unwaith
Dylid defnyddio technoleg ddigidol lle bo hynny'n bosibl i hwyluso'r broses o gofnodi a chadw gwybodaeth cleifion yn effeithlon ac yn effeithiol.
Darparu gwasanaethau
Asesu a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu
Rhaid i'r holl daflenni gwybodaeth a dogfennau a ddefnyddir yn aml sydd wedi’u bwriadu ar gyfer cleifion a'r cyhoedd fod ar gael mewn fformatau hygyrch (fel Braille, print bras, hawdd ei ddeall, sain) yn ogystal â BSL ac ieithoedd cymunedol eraill ar gyfer pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.
Rhaid asesu pob ardal gyhoeddus ac ardal ar gyfer cleifion i nodi anghenion pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Dylai hyn gynnwys wardiau ysbyty, ardaloedd cleifion allanol, adrannau damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Rhaid i'r asesiad gynnwys pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol a sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw gynigion i ddylunio, datblygu neu newid gwasanaeth. Mae ymgysylltu effeithiol yn hanfodol i ddatblygu cydberthnasoedd o ymddiriedaeth, a deall profiadau pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol fel derbynwyr gofal iechyd.
Bydd yr asesiadau hyn yn galluogi cyrff y GIG i ddeall a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol trwy gynlluniau gweithredu cadarn. Bydd cynllun gweithredu y cytunwyd arno yn cael ei arwain gan uwch swyddog dynodedig ym mhob corff y GIG a bydd yn nodi amserlenni a chamau gweithredu clir i'w cyflawni. Bydd y cynllun yn nodi ac yn ymdrin â'r polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau, sy'n bodoli eisoes a/neu sydd angen eu datblygu, er mwyn gweithredu'r newidiadau sy'n ofynnol i gyflawni'r Safonau. Dylid monitro'n rheolaidd gynnydd y gwaith o gyflawni'r cynllun ac adrodd arno’n ffurfiol i Fwrdd a Thîm Gweithredol corff y GIG.
Pwyntiau cyswllt cyntaf
Dylai ardaloedd derbynfa gynnwys gwybodaeth am hawl claf i gyfieithydd ar y pryd/dehonglwr , a dylai'r rhain fod ar gael mewn ieithoedd cymunedol, gan gynnwys gwasanaeth cyfnewid ar gyfer arwyddwyr BSL.
Dylid darparu adnodd mewn ardaloedd derbynfa sy'n caniatáu i bobl wneud staff yn ymwybodol o'u gofynion cyfathrebu, gan gynnwys BSL ac ieithoedd cymunedol, i gychwyn y broses o gael cymorth iaith.
Dylid darparu adnodd mewn ardaloedd derbynfa sy'n caniatáu i bobl wneud staff yn ymwybodol o'u fformat gofynnol ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig a gwybodaeth cleifion.
Rhaid i'r holl aelodau staff dderbyn hyfforddiant fel y gallant gofnodi gofynion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion yn gyfrinachol ar gofnod y claf. Dylid gwneud trefniadau i gasglu'r wybodaeth hon ar gyfer cleifion newydd a chleifion sydd eisoes wedi cofrestru hefyd.
Dylai pob ardal dderbynfa fod â system dolen sain neu fath arall o dechnoleg briodol, er enghraifft, dolenni sain cludadwy, fel y gall pobl â chymhorthion clyw wneud defnydd llawn o'u cymhorthion clyw mewn lleoliad a allai fod yn un swnllyd. Dylai'r staff fedru gwirio bod y dolenni sain yn gweithio'n iawn, a dylent wybod sut i'w defnyddio. Dylai arwyddion priodol fod ar gael mewn mannau amlwg fel bod cleifion yn gwybod bod system dolen sain ar gael yno.
Dylid hefyd ystyried pwyntiau cyswllt digidol wrth ddarparu gwasanaeth i'r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Byddai'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- ffonau cyfathrebu
- tudalennau cyswllt ar wefanau
- portiau a gwasanaethau negeseuon ar unwaith
- gwasanaethau fideo relay BSL
Dylai'r pwyntiau cyswllt hyn fod yn hawdd eu cael ac yn sicrhau eu bod yn:
- yn gydnaws â thechnoleg rhaglen darllen sgrin
- yn cynnwys lliwiau cyferbyniol priodol fel eu bod yn haws i’w darllen
- yn glir a chryno o ran cynllun
- yn osgoi cynnwys sy’n fflachio, gormod o animeiddiadau, fideos sy'n chwarae yn awtomatig, a chefndiroedd prysur
- yn dewis ffont priodol, yn ogystal â bylchau priodol rhwng testun a ffont sydd o'r maint priodol
- yn defnyddio iaith blaen a chlir
- yn defnyddio dolenni disgrifiadol
- yn dewis delweddau sy'n defnyddio testun amgen
- yn cynnig cynnwys mewn sawl fformat, fel testun, sain a fideo, i ddarparu ar gyfer gofynion hygyrchedd gwahanol
Gohebiaeth
Dylai unrhyw ohebiaeth fod yn hawdd ei deall, i'r pwynt, a chynnwys gwybodaeth a allai helpu rhywun i fynd i apwyntiad, er enghraifft llun o'r adeilad, y safle bws agosaf, beth ddylent ei wneud wrth gyrraedd, a fydd amseroedd aros ac ati. Dylid ystyried datblygu mapiau a chanllawiau cyn cyrraedd yn y dderbynfa neu fel cynnwys y gellir ei lawrlwytho o'r wefan sy'n hygyrch i bob darpar ymwelydd.
Dylid darparu pob dogfen gyfathrebu ysgrifenedig, er enghraifft, llythyrau apwyntiadau, mewn fformatau hygyrch i gleifion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol ac mewn Cymraeg clir/plain English i helpu'r rhai nad oes ganddynt Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf, gan gynnwys arwyddwyr BSL. Fel y nodir yn yr adran Gwybodaeth Cleifion, dylid gofyn i'r claf unigol nodi'r fformat a'r iaith briodol ar eu cyfer, a dylid cofnodi’r rhain ar eu cyfer a'u defnyddio fel mater o drefn.
Gall gohebiaeth ysgrifenedig gynnwys:
- llythyrau
- negeseuon e-bost
- negeseuon testun
- negeseua gwib
- gwybodaeth sy'n cael ei chyrchu drwy byrth ar-lein
Ar gyfer y cleifion a'r defnyddwyr gwasanaethau hynny sy'n ddall neu'n rhannol ddall, dylid anfon gwybodaeth yn y fformat o'u dewis (fel y’i nodir ar gofnod y claf). Gallai hyn olygu bod llythyrau'n cael eu hanfon yn awtomatig mewn fformatau hygyrch, er enghraifft mewn Braille, mewn print bras, fel neges destun, neges e-bost neu ffeil sain.
Dylid rhoi gohebiaeth hygyrch i gleifion â lefelau llythrennedd isel hefyd, a allai gynnwys gohebiaeth lafar neu ffeiliau sain.
Dylai gohebiaeth lafar dros y ffôn fod yn hygyrch hefyd yn unol â gofynion cyfathrebu'r claf, yn ogystal â defnyddio gwasanaeth cyfnewid ar gyfer arwyddwyr BSL.
Bydd yn ofynnol i bob aelod o staff sy'n gyfrifol am ddosbarthu gohebiaeth wirio cofnod y claf cyn dosbarthu unrhyw gyfathrebiadau er mwyn sicrhau bod y fformat a'r addasiadau gofynnol yn cael eu rhoi ar waith cyn cysylltu.
Cyfleusterau
Mae'n bwysig cydnabod y gall ffactorau amgylcheddol ddylanwadu ar gyfathrebu effeithiol i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Mae'n bwysig gwirio bod yr amgylchedd gofal iechyd yn hygyrch a'i fod yn annog cyfathrebu effeithiol. Er enghraifft, dylai hyn gynnwys goleuadau digonol, sydd wedi'u gwasgaru'n gyfartal, lliwiau cyferbyniol a chyfyngu ar sŵn cefndir trwy osod ffitiadau lleddfu sŵn lle bo modd. Dylai mannau preifat fod ar gael hefyd fel y gellir trafod materion sensitif i'r rhai sydd ei angen.
Dylai pob man ymgynghori fod â system dolen sain neu fath arall o dechnoleg briodol hefyd, er enghraifft, dolenni sain cludadwy, fel y gall pobl â chymhorthion clyw gael y defnydd gorau o'u cymhorthion clyw mewn lleoliad a allai fod yn un swnllyd.
Mae arwyddion graffig da yn bwysig wrth sicrhau bod pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn gallu cael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Er mwyn lleihau pryder y defnyddiwr gwasanaeth, dylai'r holl arwyddion fod yn glir ac yn hawdd eu deall yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Dylid darparu cymorth gweledol a gwybodaeth cleifion mewn ieithoedd cymunedol heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg mewn lleoliadau sydd â chyfran uchel o gleifion sy'n defnyddio'r ieithoedd hynny.
Mae arwyddion cyfeiriadol a lleoliadol, mat, cyffyrddol wedi'u gosod rhwng 1400mm a 1700mm o'r llawr yn bwysig er mwyn sicrhau bod pobl ddall a rhannol olwg yn gallu canfod eu ffordd yn ddiogel ac yn hyderus.
Ar gyfer pob neges a ddangosir ar sgriniau, dylid cael cyhoeddiadau a gwybodaeth sain i gyd-fynd â hi er mwyn diwallu anghenion pobl ddall a rhannol ddall.
Dylid ystyried gwasanaethau cyfieithu ar alw fel gwasanaethau cyfnewid dros y ffôn neu drwy fideo lle mae cleifion yn mynychu'n bersonol ac nad oes ganddynt Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf.
Dylid ystyried hefyd a oes angen Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), yn enwedig masgiau wyneb, gan y bydd y rhain yn effeithio ar gyfathrebu. Wrth brynu a defnyddio PPE, dylid ystyried hygyrchedd, er enghraifft trwy ddefnyddio masgiau wyneb tryloyw lle mae'r rhain yn bodloni safonau technegol.
Clinigol
Gofal sylfaenol
Yn aml, pwynt cyswllt cyntaf cleifion â'n systemau gofal iechyd yw pan fyddant yn cofrestru â meddyg teulu newydd. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gofyn i gleifion mewn fformat hygyrch i ddisgrifio eu hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth fel rhan o'r broses gofrestru. Dylid gwneud trefniadau i gasglu'r wybodaeth hon ar gyfer cleifion presennol hefyd. Mae'r AIS yn cyfarwyddo ac yn diffinio dull penodol a chyson o nodi, cofnodi, amlygu, rhannu a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhieni ar gyfer practisau meddygon teulu.
Rhaid i gyrff y GIG sicrhau bod eu contractwyr GMS yn cydymffurfio â'r gofynion a ddisgrifir yn adran 'Darparu Gwasanaethau' y Safonau hyn er mwyn sicrhau bod anghenion cleifion, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu wrth gael mynediad at leoliad gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'n bwysig bod staff gofal sylfaenol yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol neu'n cael rhywun sydd â’r sgiliau cywir i gyflawni hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfathrebu wedi'i golli.
Rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru ystyried dewisiadau iaith cleifion o ran cael mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg fel y nodir yn Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r Cynnig Gweithredol lle mae rhywun yn cael gwasanaeth yn y Gymraeg heb orfod gofyn amdano. Mae gwneud 'Cynnig Gweithredol' yn golygu peidio â gwneud rhagdybiaethau bod pob siaradwr Cymraeg yn siarad Saesneg. Mae'n sicrhau bod cleifion sy'n siarad Cymraeg yn cael eu trin gydag urddas a pharch trwy ofyn iddynt beth yw'r iaith o'u dewis a gweithredu ar hynny. Mae'n bwysig cydnabod hefyd unrhyw anghenion iaith eraill a allai fod gan glaf, er enghraifft BSL, ieithoedd cymunedol, neu ddewisiadau iaith nad ydynt yn cynnwys y Gymraeg neu'r Saesneg. Ym mhob achos mae'n bwysig gofyn i'r claf ddisgrifio ei anghenion. Dylai staff osgoi defnyddio rhaglenni cyfieithu peirianyddol ac yn hytrach dylent ddefnyddio cyfieithwyr neu ddehonglwyr proffesiynol i gyfleu unrhyw wybodaeth sensitif neu gymhleth.
Pan fydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol ar gyfer triniaeth yn y gymuned neu mewn gofal eilaidd, dylai eu hanghenion cyfathrebu gael eu trosglwyddo trwy ddefnyddio'r broses atgyfeirio. Ni ddylai cleifion orfod parhau i ailadrodd yr iaith o'u dewis a / neu fod ganddynt anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Mae angen i systemau sicrhau bod anghenion cyfathrebu yn glir.
Dylai pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol allu gwneud apwyntiad trwy ddulliau cyswllt amrywiol, gan y gallai system apwyntiadau dros y ffôn fod yn anhygyrch iddynt. Byddai hyn yn cynnwys:
- e-bost
- negeseuon testun
- ffonau testun
- gwasanaethau cyfnewid trwy fideo
- gwefannau
Pan fydd cleifion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn cyrraedd lleoliad gofal iechyd, rhaid bod trefniadau ar waith er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli eu hapwyntiadau. Er enghraifft, gallai aelod o dîm y dderbynfa wneud yn siŵr bod claf ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn cael ei wneud yn ymwybodol pan fo'r meddyg teulu yn barod i'w weld.
Rhaid i bob sgrin arddangos mewn ardaloedd aros sy'n hysbysu cleifion mai nhw sydd nesaf a pha ystafell i fynd iddi, fod â sain er mwyn sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu cael y wybodaeth hon.
Os oes unrhyw glaf neu ddefnyddiwr gwasanaethau angen cymorth cyfathrebu, rhaid sicrhau bod yr angen hwn yn cael ei ddiwallu, er enghraifft, trwy drefnu cyfieithydd ar y pryd/dehonglwr, gan gynnwys ieithoedd cymunedol a BSL, neu wefuslefarydd, neu ddarparu system dolen sain. Mae'n bwysig cael ymwybyddiaeth o ddulliau cyfathrebu eraill nad ydynt efallai mor adnabyddus, er enghraifft, llais-i-destun neu sgrindeitlo byw.
Dylid darparu cymorth cyfathrebu priodol hefyd i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol a allai fod yn mynd i apwyntiad fel gofalwr neu fel rhiant i blentyn.
Mae'n bwysig bod y gwahanol fathau o gyfathrebu yn cael eu hybu ymhlith cleifion a defnyddwyr gwasanaethau sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol, a'u bod yn cael eu hannog i'w defnyddio.
Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfrifoldeb i sicrhau bod cleifion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn gadael y lleoliad gofal iechyd wedi clywed a deall popeth sydd angen iddynt ei wybod am eu gofal iechyd. Dylid sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith er mwyn sicrhau bod unrhyw gyfathrebu a wneir yn ystod ymgynghoriad yn defnyddio dull cyfathrebu/iaith gyfathrebu o ddewis yr unigolyn a nodwyd.
Pan fydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau arbenigol eraill, er enghraifft gwasanaethau cwnsela, mae’n bwysig bod eu hanghenion gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu gan ddarparwyr gwasanaethau eraill. Ni ddylai cleifion brofi oedi afresymol wrth gael mynediad at ofal iechyd oherwydd bod angen cymorth cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch arnynt.
Gofal eilaidd
Fel rhan o'r broses atgyfeirio o ofal sylfaenol i ofal eilaidd, dylid cadw anghenion cyfathrebu pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol ar lefel gofal sylfaenol, a chymryd camau dilynol, gan sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer cyfathrebu priodol ac effeithiol pan fyddant yn ymweld â'r lleoliad gofal iechyd eilaidd. Unwaith eto, mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Mwy na Geiriau ar gyfer y Gymraeg hefyd. Gweler yr adran Gwybodaeth Cleifion am ragor o wybodaeth.
Dylai pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol allu gwneud neu newid apwyntiad trwy ddulliau cysylltu amrywiol, gan y gallai system apwyntiadau dros y ffôn fod yn anhygyrch iddynt. Gallai hyn gynnwys e-bost, negeseuon testun, ffonau testun, gwasanaethau cyfnewid a gwefannau.
Rhaid i bob lleoliad gofal eilaidd gadw at y gofynion a ddisgrifir yn adran darparu gwasanaethau y safonau hyn er mwyn sicrhau bod anghenion cleifion, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu wrth ddefnyddio lleoliadau gofal eilaidd yng Nghymru.
Dylai pob aelod o staff sy’n cael cysylltiad dyddiol â chleifion a defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys derbynyddion, nyrsys, meddygon, therapyddion, gweithwyr cymorth gofal iechyd a staff cymorth eraill gael eu hyfforddi ar sut i gyfathrebu'n effeithiol â rhywun sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Dylai'r hyfforddiant hwn adlewyrchu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n annog staff i ymateb yn briodol i anghenion unigol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio lleferydd clir, gofyn i gleifion beth yw eu gofynion cyfathrebu, cofnodi'r wybodaeth hon a gweithredu'r wybodaeth yn y fformatau hynny. Mae hyn yn gymwys yn arbennig i staff sy'n gweithio ar wardiau cleifion mewnol sydd â nifer sylweddol o gleifion hŷn.
Rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru ystyried dewisiadau iaith cleifion o ran cael mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg fel y nodir yn safonau'r Gymraeg. Mae'n bwysig cydnabod hefyd unrhyw anghenion iaith eraill a allai fod gan glaf, er enghraifft BSL, unrhyw ieithoedd cymunedol, neu ddewisiadau iaith nad ydynt yn Gymraeg neu Saesneg. Ym mhob achos, mae'n bwysig gofyn i'r claf unigol ddisgrifio ei anghenion, ac i wneud hynny gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol i ganfod ei ddewisiadau.
Mae'n bwysig sicrhau bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn ymwybodol bod y dulliau cyfathrebu hygyrch hyn ar gael.
Mae'n bwysig parchu ymreolaeth pob claf unigol a sicrhau bod y ffordd y darperir eu gofal iechyd yn hybu byw'n annibynnol. Weithiau, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan berson cymorth ar rai unigolion, er enghraifft os ydynt yn niwrowahanol, os oes ganddynt ddementia neu os oes ganddynt anabledd dysgu, er enghraifft wrth ddeffro ar ôl llawdriniaeth. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylid caniatáu i'r person cymorth aros gyda'r unigolyn y tu allan i oriau ymweld safonol.
Dylai pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen cymorth cyfathrebu gael yr angen hwn wedi'i ddiwallu trwy, er enghraifft:
- trefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu ddarllenwyr gwefusau
- darparu dolen glyw sefydlog
- cyfieithydd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb ar gyfer ieithoedd cymunedol
Mae'n bwysig bod ymwybyddiaeth o ddulliau cyfathrebu eraill nad ydynt efallai mor adnabyddus, er enghraifft:
- testun o leferydd
- capsiynau byw
Dylid darparu cymorth cyfathrebu priodol hefyd i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol a allai fod yn mynd i apwyntiad fel person cymorth, gofalwr, neu fel rhiant i blentyn.
Pan fydd pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn cyrraedd lleoliad gofal iechyd, rhaid bod trefniadau ar waith er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli eu hapwyntiad. Gallai aelod o dîm y dderbynfa, er enghraifft, hysbysu rhywun yn bersonol pan fydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn barod i'w weld.
Efallai y bydd darparwyr gwasanaethau yn ei gwneud hi’n ofynnol trefnu apwyntiadau ymlaen llaw, yn ogystal â threfnu amseroedd apwyntiadau hirach er mwyn sicrhau bod BSL neu fath penodol arall o ddehongli iaith ar gael.
Pan fydd angen gofal a thriniaeth ysbyty ar bobl sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol, dylid nodi eu hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth ar eu cynlluniau gofal a'u cofnodion meddygol. Dylai hyn ddisgrifio anghenion unigol y claf mewn modd ymarferol hefyd. Er enghraifft, dylai cofnod nodi nid yn unig bod claf yn ddall fyddar ond bod angen gwybodaeth ysgrifenedig arno hefyd mewn ffont Arial sydd ddim llai nag 14pt, a bod angen siarad yn glir. Rhaid i drefniadau fod ar waith er mwyn sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu yn ystod unrhyw arhosiad ar ward ysbyty.
Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfrifoldeb i sicrhau nad yw cleifion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn gadael y lleoliad gofal iechyd yn teimlo eu bod wedi colli unrhyw wybodaeth. Dylid rhoi gweithdrefnau priodol ar waith er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu'n glir i gleifion yn ystod ymgynghoriad.
Gofal Argyfwng a Heb ei Drefnu
Diffinnir gofal brys ac argyfwng fel a ganlyn:
- gofal brys: materion iechyd a llesiant a allai arwain at niwed sylweddol neu barhaol os na chânt eu trin o fewn yr 8 awr nesaf.
- gofal argyfwng: materion iechyd a llesiant a allai arwain at niwed sylweddol neu barhaol neu farwolaeth os na chânt eu trin ar unwaith.
Dylai staff ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd trwy hyfforddiant ochr yn ochr ag adnoddau wedi'u cynllunio'n benodol i helpu i gyfathrebu â phobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.
Dylid sicrhau bod cymorth cyfieithydd ar y pryd/dehonglwr ar gais ar gael ar gyfer cymorth cyfathrebu cyflym mewn achosion argyfwng/brys.
Mae'n bwysig bod y gwahanol fathau o gyfathrebu yn cael eu hybu ymhlith cleifion a defnyddwyr gwasanaethau sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol, a'u bod yn cael eu hannog i'w defnyddio.
Pan fydd cleifion yn cael eu cludo neu eu hatgyfeirio at ddarparwr gofal iechyd arall, dylid cyfleu anghenion cyfathrebu a gwybodaeth y claf, neu ei ofalwr, fel rhan o'r broses atgyfeirio neu drosglwyddo.
Dylai system 'amlygu' sydd ar gofnod digidol neu gofnod papur y claf alluogi staff i ddeall anghenion y claf. Yn achos galwadau 999, dylid cynnwys unrhyw wybodaeth am anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol sy'n codi yn ystod yr alwad ar gofnod y claf.
Dylai staff fynd ati i ofyn a yw cleifion yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg neu yn Saesneg, neu a oes angen cymorth ychwanegol arnynt. Dylai parafeddygon ar y safle sicrhau hefyd eu bod yn cofnodi anghenion cyfathrebu claf er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i staff adeg trosglwyddo’r claf.
Rhaid darparu'r holl wybodaeth ysgrifenedig mewn fformatau hygyrch, ar gyfer cleifion a gofalwyr ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol ac mewn Cymraeg clir / plain English er mwyn helpu'r rhai nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, gan gynnwys arwyddwyr BSL. Ym mhob achos, rhaid gofyn i'r unigolyn nodi'r fformat priodol ar ei gyfer.
Llywodraethiant
Monitro ac adolygu
Dylai'r Safonau hyn fod yn destun adolygu a monitro rheolaidd. Dylid gwneud trefniadau i uwch swyddog dynodedig ym mhob corff y GIG adrodd i'r Bwrdd ar y cynnydd a wnaed wrth wella mynediad at ofal iechyd i bobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.
Bydd y Safonau'n cael eu hadolygu bob 2 flynedd.
Bydd cyrff y GIG yn adrodd cynnydd yn erbyn y mesurau yn y Safonau hyn trwy eu hadroddiadau bob dwy flynedd ar eu cynllun cydraddoldeb strategol.
Pryderon ac adborth
Dylid darparu a hyrwyddo gwybodaeth ar sut i roi adborth neu godi pryderon mewn fformatau amlwg a hygyrch, er enghraifft:
- print bras
- clipiau fideo
- audio
- Cymraeg clir neu plain English
- ieithoedd cymunedol
Mae angen i'r broses o wneud cwyn fod yn hygyrch i bawb sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol hefyd. Dylid rhannu gwybodaeth am rôl Llais sydd â staff eirioli hyfforddedig ar gyfer cwynion.
Ym mhob achos, dylid gofyn i'r claf unigol nodi'r fformat priodol ar ei gyfer.
Mae'n bwysig cofnodi data monitro o bryderon, canmoliaethau, a phrofiad cleifion hefyd er mwyn nodi materion neu fylchau mewn darpariaeth gwasanaethau ac arferion da.
Dylid casglu gwybodaeth o adborth staff hefyd, gan gynnwys eu barn am ganllawiau, sut maent yn effeithio ar y gofal y maent yn ei ddarparu, ac unrhyw bryderon sy'n codi o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd mewn ffordd hygyrch.
Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff
Cymhwyso mewn gwasanaethau iechyd
Dylai'r holl staff (gan gynnwys contractwyr) gael eu hyfforddi mewn unrhyw systemau cyfathrebu a ddarperir gan gorff y GIG. Dylai hyn gynnwys datblygu eu hymwybyddiaeth o'r angen am wahanol fathau o gyfathrebu. Dylai unrhyw hyfforddiant sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u dyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Dylai'r holl hyfforddiant gael ei ddarparu gan unigolion neu sefydliadau sy'n gallu darparu hyfforddiant effeithiol ac addysgiadol am anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol unigol neu luosog. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys defnyddio stori claf sy'n ystyried anghenion cyfathrebu person ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Gallai'r hyfforddiant hwn fod yn rhan o raglen ehangach o hyfforddiant ar sgiliau cyfathrebu effeithiol hefyd.
Lle bo hynny'n briodol, dylai staff gael eu hyfforddi i ddefnyddio gwahanol systemau cyfathrebu, er enghraifft, defnyddio negeseuon testun, nodiadau llais, systemau dolen sain, neu ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid BSL. Dylai hyfforddiant sicrhau bod staff yn ymwybodol o wybodaeth gyd-destunol ehangach fel y model cymdeithasol o anabledd, gwahanol fathau o amhariadau a sut i gael mynediad at gymorth cyfathrebu/iaith er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y pwynt cyswllt cyntaf. Dylai hyfforddiant ymdrin â chyfleusterau hefyd fel arwyddion hygyrch, cyhoeddiadau sain, braille, sicrhau bod y gwydr mewn ardaloedd derbynfa ddim yn adlewyrchol neu fod modd ei symud er mwyn galluogi gwefusddarllen effeithiol, a sut mae cleifion yn cael eu galw i apwyntiadau mewn lleoliadau derbynfa.
Dylai pob aelod o staff gael ei hyfforddi ar sut i gyfathrebu'n effeithiol â rhywun sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Dylai'r hyfforddiant hwn adlewyrchu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n annog staff i allu adnabod ac ymateb yn briodol i'w hanghenion. Mae hyn yn arbennig o bwysig i staff clinigol, gan fod angen i gleifion a gofalwyr ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthynt, er enghraifft pan fyddant yn dod i gael ymgynghoriad. Mae hyfforddiant anabledd dysgu Paul Ridd ar gael ym mhob bwrdd iechyd.
Mae Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC) wedi datblygu modiwl e-ddysgu Gweithio gyda Chyfieithwyr a Chyfieithwyr ar y Pryd yn y Sector Cyhoeddus.
Dylid darparu hyfforddiant er mwyn sicrhau bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn ymwybodol o'r gwasanaethau arbenigol sydd ar gael, fel cwnsela mewn BSL.
Mesurau a dangosyddion
Bydd y 13 arwyddion canlynol yn cael eu defnyddio i fonitro ac evaluo cydymffurfiaeth â'r safonau gwybodaeth hygyrch ar draws GIG Cymru, gan sicrhau bod anghenion cyfathrebu cleifion yn cael eu hateb yn briodol a bod gwasanaethau'n parhau i fod yn hygyrch i bawb.
Cofnodion cleifion (AIS)
Rhif 1
Canran y bobl sydd â'u hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth (gan gynnwys y Gymraeg) wedi'u cofnodi gan eu lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur pa mor dda mae gofrestriadau gofreestr gyntaf a thiwtoriaeth cymunedol yn cofrestru anghenion cyfathrebu a gwybodaeth y cleifion, gan gynnwys eu dewisiadau iaith Gymraeg.
Rhif 2
Proportion of GP practices sharing specific patient communication requirements, including Welsh language, with wider healthcare settings in accordance with the AIS.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur yr ymhnithedd y mae practisiau Bydwreigiaeth yn rhannu gofynion cyfathrebu penodol cleifion, gan gynnwys dewis iaith Gymraeg, gydag wrthrychau iechyd ehangach fel y gofynnir gan y safon gwybodaeth hygyrch.
Cyfleusterau
Rhif 3
Ardaloedd derbynfa: cyfran yr ardaloedd derbynfa sy'n darparu adnoddau hygyrch i gefnogi cyfathrebu â chleifion h.y. dolenni clyw, system archebu aml-iaith, gwybodaeth hawdd ei deall.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur cyfran y meysydd derbyn sy'n darparu adnoddau hygyrch i gefnogi cyfathrebu claf, gan gynnwys cylchoedd clywed, systemau archebu am fwy nag un iaith, a gwybodaeth hawdd ei darllen.
Rhif 4
Ardaloedd ymgynghori[troednodyn 2]: cyfran yr ardaloedd ymgynghori sy'n darparu adnoddau hygyrch i gefnogi anghenion cyfathrebu cleifion drwy'r broses ymgynghori.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y gyfran o ardaloedd ymgynghori sy'n darparu adnoddau hygyrch i gefnogi anghenion cyfathrebu cleifion trwy gydol y broses ymgynghori.
Cydymffurfiaeth
Rhif 5
Mynediad at wasanaethau cyfieithu.
Mae'r dangosydd hwn yn cael ei fesur trwy 3 cydran:
- nifer yr apwyntiadau/gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a gyrchir trwy GCC
- nifer yr apwyntiadau o gwasanaethau mewn gofal eilaidd a gyrchir trwy GCC
- nifer y gwasanaethau apwyntiadau a gyrchir trwy'r gwasanaethau iaith ar alwad
Rhif 6
Cyfran yr apwyntiadau ar yr un diwrnod sy'n cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r ffôn.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y gyfran o apwyntiadau ar yr un diwrnod a wnaed gan bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r ffôn. Bydd hyn yn cael ei weithredu yn cham 2 ar ôl y prosiect gwelliannau ansawdd GMS.
Rhif 7
Cyfran yr Apwyntiadau Heb eu Mynychu (DNAs) a Methu â’u Mynychu (CNAs) a gofnodwyd yn erbyn pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.
Mae'r arwydd hwn yn mesur y cyfran o apwyntiadau a gollwyd (DNAs a CNAs) a gofrestrwyd ar gyfer pobl sydd â gofynion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith yn y cam 2 ar ôl y prosiect gwella ansawdd GMS.
Hyfforddiant
Rhif 8
Cymhareb staff NHS (gan gynnwys contractwyr) sy'n cymryd hyfforddiant sydd ei angen.
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cymhareb y staff NHS, gan gynnwys contractwyr, sydd wedi cwblhau:
- hyfforddiant gorfodol "traddodwch fi'n deg"
- hyfforddiant ar weithio gyda thdorwyr a thrawsgrifiadwyr yn y sector cyhoeddus (a ddarperir gan GCC)
Rhif 9
Cyfran staff y GIG (gan gynnwys contractwyr) sy'n datgan sgiliau iaith ychwanegol ar ESR y tu hwnt i'r Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys BSL[troednodyn 3].
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y gyfran o staff y GIG, gan gynnwys contractwyr, sydd wedi datgan sgiliau iaith ychwanegol y tu hwnt i'r Gymraeg a'r Saesneg (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain) ar y cof gwybodaeth electronig.
Rhif 10
Cyfran staff y GIG (gan gynnwys contractwyr) sy'n cwblhau gweithgareddau DPP ychwanegol sy'n berthnasol i'r Safonau.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y gyfran o staff y GIG, gan gynnwys contractwyr, sydd wedi cwblhau gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus ychwanegol sy'n berthnasol i'r standars.
Profiad pobl
Rhif 11
Canran y bobl sy'n derbyn gwybodaeth am eu gofal iechyd mewn fformat y gallant sy’n hygyrch ac yn ddealladwy iddynt (gan gynnwys y Gymraeg).
Mae'r arwydd hwn yn mesur canran y bobl sy'n adrodd bod ganddynt fynediad i wybodaeth am eu gofal iechyd mewn fformat y gallant ei ddeall, gan gynnwys y Gymraeg os ydynt yn ei ffafrio.
Rhif 12
Canran y bobl sy'n nodi eu bod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith o'u dewis (gan gynnwys y Gymraeg).
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y ganran o bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith a ffefrir, gan gynnwys Cymraeg os yw hynny'n cael ei ffafrio.
Rhif 13
Canran y bobl sy'n graddio eu profiad cyffredinol fel.
Mae'r dangosydd hwn yn mesur y ganran o bobl sydd yn gwerthuso eu profiad cyffredinol fel:
- gwael iawn
- gwael
- ddim yn dda nac yn wael
- da
- da iawn
Llywodraethiant
Bydd cyrff y GIG yn adrodd ar gynnydd ar y safonau hyn gan ddefnyddio data a gesglir yn unol â'r mesurau a'r dangosyddion yn Atodiad A, yn ogystal â thystiolaeth arall ar weithredu drwy eu hasesiad sicrhau polisi ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a gynhelir bob dwy flynedd.
Mae'r mesurau a'r dangosyddion yn y safonau hyn yn cyd-fynd hefyd â'r Arolwg Profiad Pobl a’r Fframwaith Profiad Pobl, sy'n cael ei arwain gan Weithrediaeth GIG Cymru sy'n darparu trefniadau goruchwylio ar gyfer y gwaith hwn. Ochr yn ochr â'r Arolwg Profiad Pobl Cenedlaethol, bydd cyrff y GIG yn darparu data ar yr Arolwg Profiad Pobl ddwywaith y flwyddyn drwy arolygon lleol ac yn adrodd i Weithrediaeth GIG Cymru.
Mae gwaith ar y gweill i adnewyddu'r broses gwyno Gweithio i Wella yn GIG Cymru, sy'n cynnwys ffocws ar gyflwyno egwyddor y Cynnig Rhagweithiol, a gofynion iaith a chyfathrebu priodol i unigolion wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd.
Yn ogystal ag adrodd bob dwy flynedd trwy asesiad sicrhau polisi ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, bydd craffu ar lefel sefydliadol yn cael ei wneud drwy'r prosesau Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) a'r Cyd-Dîm Gweithredol (JET) er mwyn ceisio sicrwydd o welliant parhaus.
Bydd Bwrdd Gweithredu a Herio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (HSCEYG) (dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru) yn monitro effaith y safonau ar lefel genedlaethol er mwyn ceisio sicrwydd eu bod yn cael yr effaith ddymunol o wella cydraddoldeb o ran mynediad a phrofiad cleifion, a thrwy hynny wireddu uchelgeisiau Cynlluniau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) a Cymru Iachach - ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Llywodraethiant
Mae gweithredu'r safonau gwybodaeth hygyrch yn gofyn am ymdrech gydweithredol a phenderfyniad gan y rhanddeiliaid allweddol canlynol ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynrychioli darparwyr iechyd, cyrff llywodraethol ac organau gweithredu sy'n cefnogi pobl gyda gofynion cyfathrebu amrywiol:
- Llywodraeth Cymru
- Gweithrediaeth GIG Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain
- Anabledd Dysgu Cymru
- Lleisiau Dementia
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar
- Prifysgol Abertawe
- Gwasanaeth Cyfieithu Cymru
Footnotes
[1] Mae amhariadau yn nodweddion person. Efallai y byddant yn nodweddion gydol oes neu beidio, ac efallai y byddant yn deillio o salwch neu anaf neu beidio. Gallant effeithio ar ymddangosiad person a/neu'r ffordd y maent yn gweithredu neu'n cyfathrebu a/neu gallant achosi amrywiaeth o anawsterau gan gynnwys poen a blinder.
[2] Mae'r 'ardal ymgynghori' yn gymwys yn y mannau canlynol:
- y gofod mewn ysbyty, clinig neu gartref lle mae cleifion yn preswylio, yn derbyn triniaeth neu'n ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau dyddiol.
- unrhyw ardal o fewn cyfleuster gofal iechyd y mae cleifion yn mynd iddi, gan gynnwys achosion dydd, presenoldeb argyfwng, wardiau cleifion mewnol, lleoliadau diagnostig, a chlinigau cymunedol
- adran neu wasanaeth sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â diagnosis, triniaeth neu adsefydlu cleifion
- ambiwlans
[3] Ni ddylai datgan sgiliau iaith yn y gweithle ei gwneud yn ofynnol na chreu disgwyliad bod staff yn ymgymryd â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd/dehongli fel rhan o'u gwaith proffesiynol oni bai bod hyn wedi'i nodi'n benodol yn eu swydd-ddisgrifiad; mae hyn yn ddewisol yn unol â hyder staff unigol. Nid yw hyn yn disodli gwasanaeth cyfieithu neu ddehongli proffesiynol.
