Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynulleidfa
Darparwyr gwarchod plant a gofal dydd.
Pawb sydd â diddordeb mewn gwarchod plant a gofal dydd, rhieni a gofalwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau yn y sector gwarchod plant a gofal dydd.
Trosolwg
Mae 2 ran wahanol i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol:
- Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol
- Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol.
Mae’r ddogfen hon yn disodli’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.
Caiff y safonau yn y ddogfen hon eu defnyddio i benderfynu p'un a yw lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn darparu gofal digonol i blant hyd at 12 oed. Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Chwarae Mynediad Agored ar wahân.
Canllawiau statudol yw'r Safonau a gyhoeddwyd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). Lluniwyd y Safonau yn unol ag adran 30(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'u nod yw helpu darparwyr a lleoliadau i fodloni'r rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.
Maent i'w darllen yng nghyd-destun Rhan 2 (Gwarchod Plant a Gofal Dydd
i Blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010,
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016
a rheoliadau cysylltiedig, Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).
Arolygiaeth Gofal Cymru yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru.
Camau i'w cymryd
Rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd cofrestredig gadw at y safonau hyn. Bydd graddau'r cydymffurfio â'r Safonau yn cael ei ystyried gan y rheoleiddiwr wrth asesu p'un a yw darparwr yn cydymffurfio â'r gofynion rheoliadol perthnasol.
Rhagor o wybodaeth
Dylid anfon unrhyw gwestiynau i’r cyfeiriad canlynol:
Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: gofalplantachwarae@llyw.cymru
Dogfennau cysylltiedig
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022
