Seilwaith ac Offer: canllawiau cyffredinol
Yn esbonio'r cynllun a'r gofynion cymhwyster ar gyfer Seilwaith ac Offer.
Ar y dudalen hon
Canllaw Cyflym
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer y rheini sy'n hawlio Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Beth yw'r grant hwn
Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ac offer fydd yn helpu i leihau'r risg o niweidio'r amgylchedd ac i reoli maethynnau'n well ar ffermydd.
Pa eitemau sy'n gymwys
Mae enghreifftiau o fuddsoddiadau cymwys yn cynnwys storfeydd slyri, storfeydd silwair, toeon dros iardiau, systemau trosglwyddo slyri, offer gwasgaru slyri a seilwaith arall a restrir yn y canllawiau technegol ar gyfer rheoli maethynnau
A allaf wneud cais
Allwch wneud cais os ydych chi wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF).
Faint o gyllid sydd ar gael
- bydd y grant yn cyfrannu at 40% neu 50% o'r costau cymwys, gan ddibynnu ar yr eitem
- y grant lleiaf y gellir ei roi yw £12,000.
- y grant mwyaf y gellir ei roi yw £50,000.
Pryd ca' i ymgeisio
Gallwch gyflwyno cais unrhyw adeg o'r flwyddyn
Gallwch gyflwyno mwy nag un cais yn ystod blwyddyn ariannol a gallwch gael hyd at ddau ddyfarniad grant yn fyw ar unrhyw adeg.
Cyn i chi wneud cais
✅ Darllenwch y Canllawiau Technegol i gadarnhau fod eich buddsoddiadau'n gymwys.
✅ Cadarnhewch faint o storfa slyri sydd ei angen a'ch bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
✅ Trafodwch y caniatâd cynllunio a gofynion y SAB gyda'ch awdurdod lleol yn fuan yn y broses.
✅ Casglwch gyfrifon y busnes a thystiolaeth bod cyllid ar gael ar gyfer y prosiect cyn gwneud cais.
✅ Sicrhewch fod y parseli tir perthnasol wedi cael eu mapio'n gywir ar RPW Ar-lein.
PWYSIG: peidiwch ag
❌ Archebu offer neu ddechrau ar y gwaith nes eich bod wedi cael Llythyr Dyfarnu Grant (GAL).
❌ Cymryd yn ganiataol nad oes angen caniatâd cynllunio.
❌ Cyflwyno cais heb gadarnhau'r gofynion o ran storio slyri.
❌ Newid y prosiect heb gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
❌ Colli dyddiadau cau ar gyfer hawlio.
❌ Cael gwared ar eitemau neu seilwaith sydd wedi'u cyllido o fewn pum mlynedd ar ôl ichi gael y taliad terfynol, heb gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
❌ Anghofio cadw cofnodion sy'n gysylltiedig â'r grant am 10 mlynedd.
Beth sy'n digwydd os bydd fy nghais yn llwyddiannus
Byddwch yn cael Llythyr Dyfarnu Grant trwy RPW Ar-lein.
Rhaid ichi:
- Gadarnhau'ch bod yn derbyn y grant a gynigir o fewn 21 diwrnod.
- Cwblhau'r holl fuddsoddiadau.
- Talu'n llawn am yr eitemau.
Cyflwyno'ch hawliad a thystiolaeth ategol cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
Beth sydd angen i mi ei gyflwyno gyda fy hawliad
Bydd angen y canlynol arnoch:
- anfonebau
- datganiadau banc sy'n profi taliad
- dogfennau caniatâd cynllunio
- dogfennau cymeradwyo SAB (os oes angen)
- ffotograffau â geotag lle rydyn ni'n gofyn amdanyn nhw
Adran A: cyflwyniad
Dim ond y rheini sy'n hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ddylai ddarllen y canllaw hwn.
Mae'r SFS yn gynllun ar gyfer y fferm gyfan. Mae'n cynnwys Haen Gyffredinol, gyda set o Weithredoedd Cyffredinol (UAs) y byddwn yn talu Taliad Cyffredinol ichi am eu cynnal.
Mae taliadau SFS ychwanegol ar gael yn yr Haen Opsiynol os ydych chi am wneud mwy na'r Haen Gyffredinol.
Mae'r Haen Opsiynol yn cynnwys gwahanol 'gategorïau', bob un yn cynnwys cyfres o eitemau neu weithredoedd unigol y gallwch i chi wneud cais amdanyn nhw.
O dan y categori Opsiynol hwn, mae grant cyfalaf ar gael i gefnogi eitemau seilwaith a chyfalaf sydd wedi'u nodi i fynd i'r afael ag effaith llygredd ar y fferm ac sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'ch busnes fferm a'r amgylchedd ehangach.
Darllenwch y canllaw hwn yn ofalus ynghyd â'r canllaw sut i wneud cais os ydych am wneud cais.
Gan adeiladu ar brofiad ac adborth cynlluniau blaenorol, dyma'r prif newidiadau rydyn ni wedi'u mabwysiadu ar gyfer yr SFS:
- gallwch gyflwyno cais unrhyw bryd yn y flwyddyn ariannol, nid oes ffenestri ymgeisio penodol
- gall mwy nag un cais a dyfarniad grant fod yn fyw ar unrhyw adeg, cyn belled â'ch bod yn cadw at amodau penodol
- byddwn yn sgorio ceisiadau sawl gwaith gydol y flwyddyn
- rhaid ichi gadarnhau'ch bod yn derbyn dyfarniad grant a gynigir ichi o fewn 21 diwrnod ar ôl ei gynnig. Wrth gadarnhau'ch bod yn derbyn y grant, bydd gofyn i chi gwblhau proffil talu bras, gan nodi pryd byddwch chi am gyflwyno'ch hawliad
Bydd y ffurflen gais ar gael o 29 Hydref 2026 a bydd ar agor tan fis Mawrth 2028. Wedyn bydd y cyfnod ymgeisio'n cau am gyfnod byr er mwyn i ni allu gwneud newidiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, ar Gwlad ac, os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Rydyn ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n falch o’u henw da, o'r hyn maen nhw’n ei gyflawni ac o'u hymddygiad. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant yn rhoi canllawiau i dynnu sylw at ac egluro’r mathau o ymddygiad, diwylliant a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rheini sy’n derbyn grantiau ganddi eu harddel.
Adran B: pwy sy'n gymwys
Byddwch yn cael eich ystyried yn gymwys i wneud cais os ydych wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ar eich SAF diweddaraf.
Dim ond ar ôl cael cadarnhad bod eich SFS yn gymwys y byddwn yn ystyried eich cais.
Eitemau cymwys
Dim ond eitemau sydd wedi'u rhestru yn y canllawiau technegol y bydd arian ar gael ar eu cyfer.
Dim ond os gallwch ddangos a phrofi'ch bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 y bydd cymorth ar gael ar gyfer eitemau nad ydynt yn seilwaith.
Mae angen i gapasiti'r eitem fod yn addas i faint y daliad a faint o dail neu slyri a gynhyrchir.
Rhaid i'r buddsoddiad fodloni'r fanyleb ofynnol a ddisgrifir neu ragori arni.
Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os gallwch ddangos y canlynol:
- ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch diweddaraf
- ei fod yn ateb y gofyn
- bod ganddo o leiaf bum mlynedd arall o fywyd
Rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir lle mae'r eitemau'n cael eu lleoli, am oes y dyfarniad grant.
Eitemau anghymwys
- eitemau sydd wedi'u cynnwys mewn dyfarniad grant ar gyfer NMIS, Grantiau Bach - Effeithlonrwydd, Grantiau Bach - Gorchuddio Iardiau, Cynhyrchu Cyfalaf ac Effeithlonrwydd, Seilwaith Bach
- buddsoddiadau i brynu eitemau i gymryd lle rhai a brynwyd gydag arian cyhoeddus, fel cymorth grant gan yr UE neu Lywodraeth Cymru (ar gyfer yr un busnes fferm)
- prynu tancer slyri neu beiriant gwasgaru tail a bod gennych offer tebyg eisoes wedi'i ariannu drwy gynlluniau / categorïau SFS Opsiynol canlynol Llywodraeth Cymru:
- Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau (NMIS)
- Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG)
- Grantiau Bach – Effeithlonrwydd
- Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd
- Seilwaith ac Offer
- prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant
- adeiladu siediau da byw
- addasu adeilad at ddiben arall y rhoddwyd cymorth ar ei gyfer trwy'r categori hwn e.e. sied da byw, storfa
- eitemau nad ydynt wedi'u lleoli ar eich daliad fel y mae wedi'i gofrestru gyda RPW neu ar dir lle nad oes gennych reolaeth lwyr drosto
- eitemau a fydd yn cael eu defnyddio i'w contractio neu eu llesio
- eich costau llafur eich hunan
Nid yw costau prynu eitemau'n gymwys am gymorth grant tan y bydd yr hawlydd wedi talu'r gost yn gywir ac yn llwyr cyn cyflwyno hawliad.
Adran C: cyfradd a throthwy uchaf y grant
Y gyllideb fras fydd yn cael ei dyrannu ar gyfer y categori hwn ym mlwyddyn ariannol 2027/2028 fydd £6.5m.
Diffinnir blwyddyn ariannol fel 1 Ebrill i 31 Mawrth.
Y grant mwyaf a delir bydd £50,000 fesul cais. Y grant lleiaf fydd £12,000 fesul cais.
Mae'r grant yn cyfrannu hyd at 50% o gost rhai eitemau, a bydd yn cyfrannu hyd at 40% o fuddsoddiad cyfalaf yr eitemau sy'n weddill (heb gynnwys TAW). Fe welwch y gyfradd grant ar gyfer pob eitem unigol yn y canllawiau technegol. Bydd y grant yn cyfrannu hyd at 50% neu 40% y gost go iawn ar y dderbynneb, gan ddibynnu ar yr eitem a ddewisir.
Er enghraifft, rydych yn cael llythyr dyfarnu grant sy'n cynnig grant tuag at brynu storfa slyri gwerth £100,000. Y grant mwyaf y gellir ei gynnig yw £50,000.
Efallai y bydd eich cais yn fwy na'r grant mwyaf. Os dewisir eich cais, bydd eich grant yn cael ei gapio i'r uchafswm o £50,000.
Er enghraifft, os bydd cost yr eitem ar ôl ei chwblhau yn fwy na £100,000, ni chaiff y grant fynd yn uwch na’r gost wreiddiol a nodwyd yn y cais h.y. 50% o £100,000.
Os bydd y gost ar ôl cwblhau'r eitem yn llai na’r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais (e.e. £80,000), caiff y grant ei leihau i £40,000 h.y. 50% o £80,000.
Pwysig: Ni fydd unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo o dan yr hen Gynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cyfrif tuag at uchafswm grant yr SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau
Gallwch wneud mwy nag un cais a chael eich dewis fwy nag unwaith; fodd bynnag, dim ond hyd at 2 lythyr dyfarnu byw y gallwch eu cael ar unrhyw adeg. Ar ôl i chi gyflwyno un cais, gallwch wneud cais arall ar ôl i'r cais cyntaf gael ei ddewis a llythyr dyfarnu grant gael ei roi. Unwaith y bydd gennych ddau lythyr dyfarnu byw, ni fyddwch yn gallu gwneud cais arall nes i chi gyflwyno'ch hawliad terfynol ar gyfer o leiaf un o'r llythyrau dyfarnu hynny.
Adran D: rheoliadau adnoddau dŵr (rheoli llygredd amaethyddol) (Cymru) 2021
Os caiff ei ddewis, rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau ddangos faint o gapasiti storio slyri sydd ganddynt a faint o slyri y bydd gofyn i'w fferm allu ei storio yn y dyfodol o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Gallwch weithio allan faint o slyri y bydd angen ichi allu ei storio drwy ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: gweithlyfr fferm. Cyn cwblhau'r templed, darllenwch y canllawiau i weld y cyfrifiadau mae angen eu defnyddio ar gyfer eich daliad chi: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr.
Dylai'r niferoedd o dda byw a ddefnyddir yn y cyfrifiadau gyd-fynd â'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais ar-lein a'r niferoedd ar y daliad sydd wedi'u cofnodi gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).
Os ydych yn cael eich dewis ac nad ydych yn bodloni gofynion y rheoliadau ar hyn o bryd, bydd angen ichi ddangos sut y bydd y grant yn eich galluogi i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau o ran y capasiti storio slyri.
I fod yn gymwys ar gyfer offer gwasgaru slyri, eitemau storio cemegau / plaladdwyr / tanwydd, neu eitemau cyffredinol eraill, rhaid ichi ddangos eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau ar hyn o bryd, neu y byddwch yn cydymffurfio â'r rheoliadau ar ôl ichi fodloni gofynion SFS Opsiynol: grant Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau.
Adran E: caniatadau a chymeradwyaethau
Caniatâd cynllunio
Bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno pob cais cynllunio perthnasol gyda'ch cais e.e. derbynneb gan yr awdurdod lleol yn cadarnhau bod eich cais cynllunio wedi'i dderbyn a'ch bod wedi talu amdano. Os nad oes angen caniatâd cynllunio, bydd angen i'r awdurdod lleol gadarnhau hynny.
Os na fydd Llywodraeth Cymru wedi cael tystiolaeth bod cais cynllunio wedi'i gyflwyno, neu dystiolaeth nad oes angen caniatâd cynllunio, bydd y cais yn cael ei wrthod.
Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich buddsoddiad, ni chaiff unrhyw grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo cynllunio wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.
Os yw'r awdurdod cynllunio yn credu nad oes angen caniatâd cynllunio ar y buddsoddiad, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hynny.
Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau (SAB) Draenio Cynaliadwy (SuDS)
Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar unrhyw un o'ch eitemau, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo'r SAB wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.
I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth o’r fath, a chanllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: Systemau draenio cynaliadwy (SuDS): canllawiau.
Os yw'r SAB lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r buddsoddiad, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn. Er bod cymeradwyaeth o’r fath yn wahanol i ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer delio â chaniatâd cynllunio.
Er efallai nad oes angen caniatâd cynllunio awdurdod cynllunio lleol ar gais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth SAB arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio.
Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol am nad oes angen caniatâd cynllunio, nad oes angen cymeradwyaeth SAB.
Cydsyniadau eraill
Eich cyfrifoldeb chi yw cael pob caniatâd, cydsyniad a thrwydded arall lle bo angen. Rhaid i chi gydymffurfio hefyd â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol sy'n ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol.
Adran F: hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Os ydych yn adeiladu storfa slyri neu silwair newydd, neu storfa sydd wedi cael ei hehangu neu ai hailadeiladu'n sylweddol, mae angen ichi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.
Pan fydd to yn cael ei adeiladu dros storfa silwair neu slyri, mae'n debyg y bydd yn cael effaith ar strwythur y storfa bresennol. Ar gyfer buddsoddiadau a gefnogir gan yr SFS Opsiynol: Categori Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau, rhaid i ymgeiswyr sy'n derbyn cymorth ar gyfer to dros storfa silwair neu slyri, ni waeth beth yw'r amgylchiadau, hysbysu CNC 14 diwrnod cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Er mwyn i do dros gladdfa silwair neu storfa slyri fod yn gymwys, dylai’r storfa fodloni’r gofynion rheoliadol neu’r gofyniad esemptio ar gyfer y storfa.
Argymhellir yn gryf eich bod yn lleihau'r risg o golli unrhyw esemptiad sydd gennych ar gyfer eich storfa ar hyn o bryd, ac yn lleihau'r risg o dderbyn hysbysiad gorfodi, drwy gynnwys CNC yn y broses yn gynnar. Gall gwneud hyn osgoi camgymeriadau costus.
Pwysig: os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, rhaid ymgynghori ag CNC fel rhan o'r broses gynllunio.
Adran G: y broses ymgeisio, dewis a dyfarnu grant
RPW Ar-lein
Er mwyn llenwi cais ar gyfer yr SFS Opsiynol: categori Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau, rhaid mynd ar RPW Ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein wefan.
Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Mae manylion sut i wneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dewis eitemau o'r canllaw technegol
Mae'r canllawiau technegol yn rhestru'r holl eitemau cymwys y gallwch wneud cais amdanynt o dan yr SFS Opsiynol: categori Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau
Cyn gwneud cais
Cyn gwneud cais, dylech ystyried yn ofalus pa mor gyflym y byddwch yn gallu cwblhau eitemau a chael yr holl gydsyniadau perthnasol yr hoffech eu cynnwys fel rhan o'ch cais. Os ydych chi'n teimlo na fyddwch yn gallu cynnal yr holl weithgareddau yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod blwyddyn ariannol yn y dyfodol ar gael i chi, dylech ddewis honno pan ofynnir i chi, cyn dechrau'r ffurflen.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch unrhyw beth am eich grant, mae'n hanfodol eich bod yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig eich bod yn gymwys amdano cyn ysgwyddo’r costau.
Adroddiad peiriannydd
Bydd angen adroddiad peiriannydd ar gyfer cais i godi to dros storfa slyri neu gladdfa silwair sy'n bod i gefnogi'r cais. Dylai'r adroddiad gadarnhau bod strwythur y gladdfa silwair neu'r storfa slyri yn ddiogel ac yn parhau i gydymffurfio â CoAPR ar ôl codi to.
Y diweddaraf am barseli tir
Rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir sydd wedi'i gynnwys yn eich cais. Rhaid i'r holl dir fod o dan eich rheolaeth lwyr a bydd wedi'i fapio'n gywir ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) RPW cyn i chi gyflwyno'ch cais. Os oes angen i chi gofrestru tir am y tro cyntaf, rhoi gwybod i RPW am dir sydd wedi'i drosglwyddo i chi (naill ai tir sy'n eiddo i chi neu dir sydd ar rent i chi) neu wneud newidiadau i barseli tir sy'n rhan o'ch cais, fel newid ffiniau, rhannu/uno caeau neu ychwanegu, dileu neu newid nodweddion parhaol, bydd angen i chi gyflwyno Rheoli Fy Nhir drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd angen i chi gyflwyno eich Rheoli fy Nhir mewn da bryd i sicrhau bod y tir wedi'i brosesu er mwyn i chi allu cyflwyno'ch cais.
Cyflwyno cais
Mae cais yr SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau ar gael trwy'r Dangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS.
Canllawiau ar sut i wneud a chyflwyno cais drwy RPW Ar-lein.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth i gefnogi’ch cais yn gywir.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lenwi'ch cais, cysylltwch â'r
Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 Bydd yn gallu'ch helpu a'ch cynghori gan gynnwys rhoi helpu digidol os oes angen.
Dogfennau ategol
Rhaid cyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol a restrir isod gyda'ch cais, neu o fewn 14 diwrnod ar ôl cyflwyno'r cais os yw'n cael ei anfon drwy'r post. Rhaid cyflwyno’r canlynol:
- tystiolaeth o gyfrifiadau i ddangos y gofynion o ran storio slyri ar y fferm mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Gallwch weithio allan faint o slyri y bydd angen ichi allu ei storio drwy ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: gweithlyfr fferm
- cyfrifon ardystiedig diweddaraf y busnes (ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol)
- dyfynbrisiau ar gyfer pob eitem, os ydyn nhw ar gael
- tystiolaeth bod arian ar gael gennych
- tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno'ch cais cynllunio
- caniatâd cynllunio, os yw hynny'n briodol ac ar gael
- cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo (SAB) Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) os yw'n briodol ac ar gael
- ffotograffau – os ydych chi'n gwneud cais am sianeli o dan y llawr, toeon dros fuarth ac adnewyddu iardiau da byw, cyflwynwch ffotograffau sy'n dangos eu lleoliad
- adroddiad peiriannydd os ydych yn gwneud cais am do dros storfa slyri neu gladdfa silwair sy'n bod
Efallai y bydd yn rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol i gefnogi'ch cais os bydd yr eitem yn gofyn am hynny. Nid yw hon yn rhestr lawn na therfynol;
- dogfennau technegol, fel dyluniadau a manylebau
- manylebau technegol ar gyfer cyfarpar a pheiriannau
Ni fyddwn yn cynnal asesiad llawn o'ch cais nes ei fod a’r holl ddogfennau ategol wedi dod i law Llywodraeth Cymru. Cewch gyflwyno dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi'ch cais.
Manylion dyfynbris
Gallwch gyflwyno'r dyfynbrisiau gofynnol naill ai gyda'ch cais, neu ar ôl i chi gael llythyr dyfarnu grant. Os nad oedd gennych ddyfynbrisiau pan wnaethoch chi gyflwyno'ch cais, rhaid i chi amcangyfrif gwerth yr eitemau yn y cais. Yna bydd gofyn i chi gyflwyno'r dyfynbrisiau gan ddefnyddio'r ffurflen cyflwyno gweithred, a fydd ar gael i chi trwy'ch cyfrif RPW ar-lein ar ôl i chi gael llythyr dyfarnu grant
Dim ond ar ôl ichi gyflwyno'r holl ddyfynbrisiau ac iddyn nhw gael eu dilysu y byddwch yn cael hawlio ar yr eitemau.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Adran I: Canllaw technegol Llywodraeth Cymru ar dendro cystadleuol a chaffael i gael rhagor o fanylion
Y broses asesu
Bydd eich cais yn cael ei archwilio i weld a yw'n gymwys. Os bernir ei fod yn gymwys, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i Gam 1 y broses asesu. Os nad yw'n gymwys, bydd eich cais yn cael ei wrthod a byddwch yn cael gwybod hynny trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein.
Bydd y broses asesu ceisiadau am SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau yn cael ei rhannu'n ddau gam.
Cam 1
caiff rhannau canlynol y cais eu hasesu a’u sgorio yn ôl y meini prawf ar gyfer dewis:
- eitem
- addasrwydd y buddsoddiad
- cyflawni Prosiect
Cam 2
Bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hystyried a dyna gwblhau'r asesiad llawn o'ch cais.
- cynaliadwyedd tymor hir
- eitemau/gwerth am arian
- risg a rheoli risg
- ariannol a chydymffurfio
- themâu trawsbynciol
Cam 1: asesu ar gyfer eich dewis
Ar gyfer cam 1, bydd pob cais yn cael ei asesu ar sail set o feini prawf ar gyfer dewis. Mae dau ddull o sgorio yn cael eu defnyddio yn y broses ddewis. Rydym yn eu disgrifio isod.
Mae’r dull cyntaf yn cyfrif sgôr yr eitem, lle mae gan bob Eitem sgôr benodedig. 'Sgôr yr eitem' yw ein henw ar hyn.
Mae pob eitem sydd ar gael ac sydd wedi'i rhestru yn y Canllaw Technegol wedi cael sgôr yn seiliedig ar y tair thema a phwysoliad canlynol:
- defnydd effeithlon o faethynnau: pwysoliad x3
- defnydd effeithlon o ynni: pwysoliad x2
- defnydd effeithlon o ddŵr: pwysoliad X1
Dangosir y sgôr a geir yn y canllawiau technegol wrth bob eitem unigol.
Yr ail ddull yw bod pob cais yn cael ei asesu yn ôl set o feini prawf ar gyfer dewis a'i sgorio gan ddefnyddio graddfa sgorio o 0 i 4. Sgôr y meini prawf ar gyfer dewis yw ein henw ar hyn.
Defnyddir y dull hwn i fesur:
- addasrwydd y buddsoddiad
- cyflawni’r prosiect
Ar gyfer pob maen prawf ar gyfer dewis, bydd yr asesiad yn cael ei wneud ar sail yr wybodaeth a'r esboniadau yn eich cais.
Bydd y sgoriau uchaf yn cael eu rhoi i’r rheini sy’n rhoi’r esboniadau llawnaf gydag enghreifftiau o’r gweithgareddau y byddan nhw am eu cynnal a sut y caiff y gweithgareddau hyn eu rheoli.
Bydd sgoriau is yn cael eu rhoi os nad yw'r esboniad yn fawr fwy na datganiad o fwriad.
Sgôriau
Sgôr 4
Diffiniad: tystiolaeth fanwl wedi'i darparu: wedi darparu tystiolaeth lawn a manwl i ddangos y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf o ran addasrwydd y buddsoddiad a chyflawni'r prosiect.
Sgôr 3
Diffiniad: tystiolaeth foddhaol wedi'i darparu: yn darparu lefel dderbyniol o dystiolaeth i ddangos y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf o ran addasrwydd y buddsoddiad a chyflawni'r prosiect.
Sgôr 2
Diffiniad: tystiolaeth yn annigonol: diffyg tystiolaeth i ddangos y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf o ran addasrwydd y buddsoddiad a chyflawni'r prosiect.
Sgôr 1
Diffiniad: tystiolaeth yn wan: dim tystiolaeth i brofi y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf o ran addasrwydd y buddsoddiad a chyflawni'r prosiect.
Sgôr 0
Diffiniad: ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth.
Bydd sgôr o 1 neu 0 (sero) yn golygu na chaiff y cais ei ystyried ar gyfer ei ddewis i fynd i gam 2 y broses, a chaiff ei wrthod.
Bydd cyfanswm sgôr eich cais yn seiliedig ar gyfanswm sgôr yr eitemau wedi'i rannu â nifer yr eitemau y gwneir cais amdanynt a rhennir hwnnw â gwerth grant eich cais heb ei gapio. Yna lluosir hyn â sgôr y meini prawf ar gyfer dewis. Er enghraifft, os gwnaethoch gais am y canlynol:
Storfa Slyri: sgôr yr eitem 428.75; amcangyfrif o'i werth £80,000 (gwerth y grant heb ei gapio £40,000)
Claddfa silwair: sgôr yr eitem 465, amcangyfrif o'i werth £20,000 (gwerth y grant heb ei gapio £10,000)
Cyfanswm gwerth yr eitemau fyddai 893.75, wedi'i rannu â nifer yr eitemau (2) sef 446.88. Yna rhennir hyn â gwerth y grant heb ei gapio £50,000, gan roi cyfanswm sgôr yr eitem o 0.0089376.
Yna lluosir cyfanswm sgôr yr eitem â chyfanswm sgôr y meini prawf ar gyfer dewis.
Er enghraifft:
Addasrwydd y buddsoddiad: sgôr o 2
Cyflawni'r prosiect: sgôr o 3
Cyfanswm sgôr y meini prawf ar gyfer dewis yw 5.
Yna lluosir sgôr yr eitem â'r 5 hwn, gan roi sgôr derfynol o 0.044688.
Bydd sgôr derfynol ymgeiswyr sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS yn cael pwysoliad ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth dros y rhai nad ydynt wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS.
Caiff sgôr drothwy ei gosod, ar sail y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y rownd dewis dan sylw a dewisir y ceisiadau sydd â'r sgôr uchaf.
Pan fydd ceisiadau wedi cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac ar yr un safle o ran trothwy’r gyllideb sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.
Dewis
Bydd y rownd ddewis gyntaf yn cael ei chynnal ddiwedd Ionawr 2027, ac wedi hynny byddwn yn anelu at gynnal rowndiau dewis bob mis.
Canlyniad dewis cam 1
Bydd 3 chanlyniad posibl i’r asesiad cam 1:
- gwrthodir y cais am nad yw wedi cael digon o sgôr o'r meini prawf ar gyfer dewis h.y. sgôr o 0 neu 1 yn y naill maen prawf neu'r llall. Byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy'ch cyfrif RPW ar-lein os bydd eich cais wedi'i wrthod
- cafodd y cais digon o sgôr o ran y meini prawf ar gyfer dewis, ond llai na throthwy dewis y rownd hon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy'ch cyfrif RPW ar-lein nad yw'ch cais wedi'i ddewis ond y cewch eich ystyried yn y rownd nesaf. Os nad ydych am i ni ystyried eich cais yn y dyfodol, gallwch dynnu'ch cais yn ôl
- cafodd y cais digon o sgôr o ran y meini prawf ar gyfer dewis ac y mae yr un faint neu'n uwch na'r trothwy ar gyfer y rownd hon. Bydd eich cais yn symud ymlaen i gam 2 y broses asesu
Cam 2: asesiad llawn o'r cais ar ôl ei ddewis
Ar gyfer yr asesiad cam 2, bydd yr wybodaeth gafodd ei rhoi yn y 5 adran arall yn cael ei hasesu yn unol â'r meini prawf sgorio canlynol. Penderfynir ar sail hynny p'un ai i roi grant i’r prosiect ai peidio:
- uchel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
- canolig: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
- isel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani
Y trothwy yw gradd ganolig ym mhob categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyniad hwn, mae’n bosibl y gofynnir ichi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os na fyddwch yn gallu cael sg֧ôr digon uchel, caiff eich prosiect ei wrthod.
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â chanllaw'r categori a chaiff gwiriadau diwydrwydd dyladwy eu cynnal hefyd (lle bo angen). Dim ond ar y pwynt hwnnw y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i gynnig cyllid grant neu wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cais ei gymeradwyo ar gyfer grant.
Ein nod yw asesu'r cais o fewn 90 diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais. Os ydych yn araf yn ymateb i gais gennym am ragor o wybodaeth, bydd hynny'n golygu y bydd angen mwy o amser arnon ni i asesu’ch cais.
Rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau’n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani gyda’r cais.
Canlyniad y broses asesu cam 2
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhoddir llythyr dyfarnu grant i chi.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.
Llythyr dyfarnu grant
Bydd y dyfarniad grant ar gyfer y prosiect yn para hyd at 24 mis.
Rhaid ichi gyflwyno'ch hawliad erbyn dyddiad diwethaf eich dyfarniad grant. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer hawlio.
Rhaid ichi gadarnhau’ch bod yn derbyn neu'n gwrthod y grant sydd wedi'i ddyfarnu i chi o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad y cynnig drwy bwyso ar y botwm glas yn hafan RPW Ar-lein. Os byddwch yn derbyn y grant, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau proffil talu bras i gadarnhau'r mis a'r flwyddyn pryd y byddwch am gyflwyno'ch hawliad.
Peidiwch â phrynu'r eitemau sydd yn eich cais nes eich bod wedi cael llythyr dyfarnu grant na dechrau unrhyw waith arno.
Os na fyddwch wedi cadarnhau'ch bod yn derbyn y grant o fewn 21 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Caiff manylion llawn pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi gwblhau'r eitemau a'u hawlio eu nodi yn eich llythyr dyfarnu grant.
Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.
Ni fyddwch yn cael newid eitemau neu leoliad eitemau, ar ôl i lythyr dyfarnu grant gael ei roi ichi.
Adran H: amodau’r grant
Ar ôl i chi gadarnhau'ch bod am dderbyn eich dyfarniad grant SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau, rydych yn ymrwymo i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ac felly'n rhywun sy'n dal cytundeb (deiliad cytundeb) at ddibenion Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
Mae cais yr SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer - Rheoli Maethynnau yn dod o dan nifer o ddeddfau perthnasol. Rhaid i Lywodraeth Cymru a deiliad y cytundeb weithredu yn unol â’r deddfau hynny.
Mae'r grant yn cael ei gynnig yn unol â’r telerau a'r amodau a fydd yn cael eu nodi yn eich llythyr dyfarnu grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod.
Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad grant arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi, neu leihau'r grant y byddwn yn ei dalu ichi.
Amodau
Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau y byddwch chi neu'ch cynrychiolwyr wedi'u gwneud. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newid perthnasol i’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i Lywodraeth Cymru arwain at derfynu'r contract a/neu adennill taliadau sydd wedi’u gwneud.
Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.
Rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r holl gyfreithiau neu reoliadau neu gyfarwyddebau domestig neu ryngwladol perthnasol.
Ni chewch newid yr eitemau sy'n cael eu disgrifio yn y llythyr dyfarnu grant, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.
Rhaid cadw a defnyddio'r eitemau a gwaith a ariennir drwy'r grant SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau at y diben bwriedig am bum mlynedd o ddyddiad diwedd dyfarniad eich grant.
Peidiwch â'u gwaredu, eu trosglwyddo, eu gwerthu na'u newid yn sylweddol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.
Rhaid ichi ddarllen a deall y canllawiau perthnasol.
Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.
Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r grant, ac mai chi sy’n llwyr atebol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.
Mae gofyn ichi gydymffurfio â’r rheolau ynghylch costau cymwys a nodir yn y Canllawiau.
Dylai buddsoddiadau gael eu cwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni â Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.
Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen o dan y categori.
Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr dyfarnu grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.
Bydd peidio â hawlio'r cyllid o fewn y Cyfnod pan fydd ar gael yn golygu y bydd yn peidio â bod ar gael ichi. Os na fyddwch wedi hawlio’r Cyllid yn unol â’r amserlen a nodir yn y Proffil Talu Bras, bydd unrhyw ran o’r Cyllid sydd heb ei hawlio ar gyfer y Cyfnod Ariannu perthnasol yn peidio â bod ar gael ichi.
Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi’i dalu y gellir rhoi’r grant, hynny yw, taliadau
sydd wedi clirio o gyfrif banc.
Rhaid i chi ymrwymo i gael unrhyw ganiatâd a chydsyniad sydd eu hangen.
Rhaid i chi gadarnhau nad oes eitemau yn y cais yn eitemau rydych yn eu hawlio o dan yswiriant.
Rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os daw'n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a'ch cosbi.
Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf deng mlynedd ar ôl y dyddiad gorffen ariannu.
Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy'n gymwys yn ystod cyfnod y dyfarniad grant hwn.
Mae pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen
Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, neu eu hasiant awdurdodedig priodol Archwilydd Cyffredinol Cymru neu eu cynrychiolwyr fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â'r dyfarniad grant hwn yn gywir. Os gofynnir, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r buddsoddiad.
Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.
Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich dyfarniad grant â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth yn ôl yr angen.
Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy'n briodol.
Rwy'n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Gall gwybodaeth arall a ddarperir hefyd cael ei datgelu lle caniateir hynny gan y gyfraith.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn dod o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).
Adran I: tendro cystadleuol a chaffael
Mae'n rhaid i chi ddilyn ein Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.
Rhan J: amgylchiadau'n newid
Yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r SFS, rhaid i chi roi gwybod i RPW cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, am unrhyw newid yn eich amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol iddo effeithio ar eich gallu i fodloni'r meini prawf a/neu amodau'r grant. Dylech wneud hyn o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r newid perthnasol yn eich amgylchiadau ddigwydd.
Pan fyddwch wedi rhoi gwybod i ni, gallwn gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:
- newid, dileu neu ddisodli amod, am gyfnod dros dro neu’n barhaol
- newid, dileu neu ddisodli unrhyw ofynion neu amserlenni, am gyfnod dros dro neu’n barhaol
- gosod cosbau a/neu leihau taliadau
- ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu rhai neu'r holl daliadau blaenorol a wnaed
Bydd Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y gallai cyfres o ddigwyddiadau sy'n gyfystyr ag Amgylchiadau Eithriadol eich rhwystro rhag cadw at ymrwymiadau penodol.
Ceir mwy o fanylion yn Adran L.
Adran K: tynnu cais yn ôl neu dynnu eitemau
Tynnu'r cais yn ôl
Ar ôl i chi gyflwyno cais am SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau, gallwch dynnu'ch cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael cynnig grant. Gallwch wneud hynny yn 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
Os ydych wedi dewis yr eitem anghywir neu'n newid eich meddwl am yr eitem rydych wedi'i dewis neu os na sylwoch chi bod yr eitem roeddech am ei chael ar y rhestr, yna gallwch dynnu'r cais yn ôl a gwneud cais arall.
Tynnu dyfarniad grant yn ôl
Os ydych yn derbyn dyfarniad grant ac am dynnu'ch dyfarniad grant yn ôl, rhaid i chi roi gwybod i RPW ar eich cyfrif RPW Ar-lein o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad diwedd eich dyfarniad grant.
Os na fyddwch wedi rhoi gwybod i RPW eich bod am i'ch dyfarniad grant gael ei dynnu'n ôl ac nad ydych wedyn yn cyflwyno hawliad, byddwch yn cael eich gwahardd rhag gwneud cais arall i'r SFS Opsiynol: categori Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau am gyfnod o 12 mis o'r dyddiad cau ar gyfer hawlio.
Tynnu eitemau
Os ydych am dynnu eitemau o'ch dyfarniad grant, rhaid i chi roi gwybod i RPW ar eich cyfrif RPW Ar-lein o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad diwedd eich dyfarniad grant.
Os na fyddwch wedi rhoi gwybod i RPW eich bod am dynnu eitemau ac nad ydych wedyn yn hawlio'r holl eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich dyfarniad grant, efallai y cewch eich cosbi (gweler adran L).
Adran L: taliadau
Hawliadau
Mae cais yr SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer - Rheoli Maethynnau ar gael i'w hawlio ar eich cyfrif RPW Ar-lein yn unig.
Gallwch gyflwyno sawl hawliad yn ystod eich dyfarniad grant, fesul cam, wrth i’ch buddsoddiad fynd yn ei flaen. Dylai hyn gael ei ddangos yn eich proffil talu bras.
Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau y bydd hawliadau’n cael eu talu.
Bydd taliadau’n cael eu talu i chi drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.
Er mwyn cael eich talu, byddwch:
- wedi cadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant o fewn 21 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a rhaid cadw at yr holl ofynion
- yn sicrhau nad ydych yn prynu'r deunyddiau nac yn dechrau gweithio ar yr eitemau a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant nes y caiff grant ei gynnig ichi
- yn sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu a'r gwaith wedi'i gwblhau yn unol â'r canllaw Tendro Cystadleuol Grantiau Gwledig
- yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cwblhau'r holl eitemau a restrir yn eich llythyr dyfarnu grant (gweler Adran K am Dynnu'n ôl a thynnu eitemau)
- yn cyflwyno'r hawliad a'r dogfennau ategol ar eich cyfrif RPW Ar-lein, yn unol â'r dyddiadau a nodir yn y proffil talu bras
Byddwn yn barod i dderbyn hawliadau a/neu ddogfennau ategol hwyr hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer hawlio. Bydd yna gosbau am hawlio'n hwyr fel hyn (gweler y Cosbau isod).
Nid oes cyfnod hawlio hwyr ar gyfer prynu a thalu am yr eitemau sydd wedi'u rhestru yn eich llythyr dyfarnu grant. Rhaid ichi gwblhau'r holl eitemau a thalu amdanyn nhw, erbyn dyddiad gorffen dyfarniad y grant (y dyddiad cau ar gyfer hawlio).
Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
Dogfennau ategol
Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda'ch hawliad:
- anfonebau ar gyfer pob eitem sy'n cael ei hawlio. Mae angen nodi'n glir pob eitem unigol a'i chost ar yr anfoneb. Rhowch y gair ‘anfoneb’ yn glir ar bob anfoneb a rhaid iddi gynnwys y canlynol:
- rhif adnabod unigryw
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cwmni
- enw a chyfeiriad y cwmni sy'n eich anfonebu
- disgrifiad clir o'r hyn y codir tâl arnoch amdano
- y dyddiad y darparwyd y nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
- dyddiad yr anfoneb
- y swm/symiau a godir
- y TAW os yw'n gymwys
- y cyfanswm sy'n ddyledus
- tystiolaeth bod yr arian ar bob eitem sy’n cael ei hawlio wedi'i wario
- mae angen atodi cyfriflenni banc fel prawf o daliadau. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyfateb i werth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn ymwneud â'r prosiect gan yr un cyflenwr) bydd angen dadansoddiad o'r taliad cyfan gydag anfonebau ategol. Os ydych yn talu â siec, bydd angen sgan neu ffotograff o'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc
- nid oes angen dogfennau cymeradwyo cynllunio na phrawf caniatâd cynllunio
- cymeradwyaeth gan SAB neu dystiolaeth nad oes ei angen
- mae angen ffotograffau geo-tag ar gyfer rhai eitemau. Mae gofynion manwl a chanllawiau ar gael yn Atodiad A
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr eitemau a brynwyd yn bodloni neu'n rhagori ar y fanyleb yn y canllawiau technegol a rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol sy'n cadarnhau hyn.
Dyfarniadau grant heb eu cwblhau
Os ydych wedi cael gwybod gan eich cyflenwr neu gontractwr na all wneud neu gwblhau'r gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, rhaid rhoi gwybod i RPW drwy'ch cyfrif RPW Ar-lein. Dylech ddangos prawf eich bod wedi'i archebu o fewn amserlen resymol a thystiolaeth ddogfennol gan y cyflenwr neu'r contractwr i gadarnhau nad yw'n gallu cyflenwi neu osod yr eitem.
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.
Bydd cais i dynnu eitem pan fyddwch yn cyflwyno hawliad yn arwain at gosbau.
Cosbau
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir ac wedi'i gyflwyno gyda'r dogfennau ategol.
Bydd eich hawliad yn anghywir a byddwch yn cael eich cosbi os:
- na fyddwch wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant
- byddwch yn cyflwyno'ch hawliad a/neu ddogfennau ategol ar ôl y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant
- ydych wedi prynu deunyddiau neu wedi dechrau gweithio ar eitemau cyn i'r dyfarniad grant gael ei gynnig
- nad ydych wedi cwblhau'r holl eitemau a restrir yn y llythyr dyfarnu grant ac nad ydych wedi gofyn am gael tynnu eitemau
- yw unrhyw un o'r eitemau a hawlir wedi'u rhestru o dan 'Costau Anghymwys' yn adran B
- ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn bodloni'r fanyleb ofynnol a nodir yn y canllawiau technegol
- nad ydych wedi talu'n llawn am yr eitemau
- nad yw pob un o'r eitemau a hawlir ar y safle pan fyddwn yn ymweld â'ch safle
Y gosb am hawlio’n hwyr
Os yw'ch hawliad a/neu ddogfennau ategol yn ein cyrraedd o fewn y cyfnod hawlio hwyr, bydd cosb hawliad hwyr o 1% am bob diwrnod gwaith yn cael ei rhoi ar eich taliad.
Bydd unrhyw hawliadau a/neu ddogfennau ategol a fydd yn cyrraedd ar ôl y cyfnod hawlio hwyr yn cael eu gwrthod.
Cosb am eitem(au) heb eu hawlio a/neu anghymwys
Os na fyddwch wedi hawlio ar yr holl eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich llythyr dyfarnu grant, bydd y taliad yn cael ei leihau i gyfateb i'r eitemau sydd wedi'u hawlio.
Os gwelir bod gwerth yr eitemau sydd heb eu hawlio yn fwy na 10% o gostau cymwys y grant, tynnir swm sy'n cyfateb i hanner gwerth yr eitemau sydd heb eu hawlio o'ch taliad.
Os bydd hawliad yn cynnwys eitem(au) nad ydynt yn bodloni'r fanyleb, eitemau sydd wedi'u prynu cyn i chi gael y llythyr dyfarnu grant, eitemau nad ydych wedi talu'n llawn amdanyn nhw neu nad ydyn nhw ar y safle pan fyddwch yn hawlio neu yn ystod archwiliad, bydd taliadau'n cael eu lleihau i swm yr eitemau sy'n gymwys.
Os gwelir bod gwerth yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o gostau cymwys y grant, tynnir swm sy'n cyfateb i hanner gwerth yr eitemau anghymwys o'ch taliad.
Os bydd eich hawliad yn cynnwys eitemau heb eu hawlio ac eitemau anghymwys, bydd eu gwerth yn cael ei adio at ei gilydd i gyfri'r gostyngiad yn y taliad ac i weld a fydd cosb.
Er enghraifft:
Mae gan ddeiliad cytundeb yr eitemau canlynol yn ei Lythyr Dyfarnu Grant sy'n werth grant o £42,000
| SFS Opsiynol: Eitemau Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau | Gwerth y Grant |
| Storfeydd a sianeli trosglwyddo/llif dan y llawr | £3,000 |
| Storfeydd slyri a phyllau derbyn cysylltiedig | £35,000 |
| To dros fan crynhoi da byw sy'n bod | £4,000 |
| Cyfanswm | £42,000 |
Nid yw'r to dros y man crynhoi, gwerth £4,000, yn cael ei hawlio. Y cyfanswm sy'n cael ei hawlio yw £38,000 (o gyfanswm grant o £42,000).
Gan fod y gwahaniaeth rhwng y swm a hawliwyd a chyfanswm gwerth y grant yn llai na 10%, cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £38,000.
Ond os na hawlir y to gwerth £4,000 dros y man crynhoi presennol, ac ystyrir bod y sianeli trosglwyddo/llif o dan y llawr gwerth £3,000 hefyd yn anghymwys, gwerth yr hawliad cymwys yw £35,000. Gan fod y gwahaniaeth rhwng yr hawliad cymwys a'r dyfarniad grant yn fwy na 10%, caiff swm sy'n cyfateb i hanner yr eitemau anghymwys/heb eu hawlio yn cael ei dynnu o'r hawliad.
Felly, cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £31,500 (gwerth hawliad cymwys o £35,000 minws £3,500 (50% o £7,000, cyfanswm gwerth eitemau anghymwys/heb eu hawlio).
Gwahardd
Os na fyddwch wedi hawlio unrhyw un o'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich llythyr dyfarnu grant, efallai y cewch eich gwahardd rhag cyflwyno rhagor o geisiadau i'r categori SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau am 12 mis o'r dyddiad cau ar gyfer hawlio a dyddiad diwethaf y dyfarniad grant.
Camgymeriadau amlwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig darpariaeth Camgymeriad Amlwg yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r cymorth. Bydd yn seiliedig ar asesiad cyffredinol o'r achos penodol, cyn belled â bod yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb wedi gweithredu gyda phob bwriad da.
Fel rheol gyffredinol, i gamgymeriad fod yn amlwg, byddwn wedi gallu ei ddarganfod gan ddefnyddio'r dogfennau a'r wybodaeth yr oeddech wedi'u cyflwyno i RPW fel rhan o'r cais neu wrth hawlio taliadau neu i'w cefnogi, gan gynnwys dogfennau ategol a hysbysiadau perthnasol, a hefyd trwy archwiliadau manwl o'r wybodaeth berthnasol arall a gedwir gan Lywodraeth Cymru. Mewn achosion o'r fath, gellir cywiro a / neu addasu'r cais am gymorth neu daliadau ar unrhyw adeg ar ôl ei gyflwyno.
Amgylchiadau eithriadol
Amgylchiadau Eithriadol yw amgylchiadau anarferol sydd y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, a oedd yn annisgwyl ac nad oedd modd eu hosgoi er gwaethaf pob gofal heb aberth ormodol ar ei ran. Mae enghreifftiau y gellir eu cydnabod yn cynnwys:
- digwyddiadau naturiol, fel cyfnod hir o dywydd drwg, llifogydd neu glefyd ar anifail neu blanhigyn
- salwch neu anaf difrifol neu farwolaeth sy’n effeithio ar y busnes
- colli rheolaeth ar y busnes mewn ffordd na ellid fod wedi’i ragweld er enghraifft bod tenantiaeth yn dod i ben neu oherwydd gorchymyn prynu gorfodol
- amgylchiadau ariannol fel methdalaeth
- problemau yn y gadwyn gyflenwi, gyda thystiolaeth
- difrod troseddol gan drydydd parti, fel tân troseddol neu fandaliaeth
Er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried a derbyn bod digwyddiad yn Amgylchiad Eithriadol, rhaid i fanylion ysgrifenedig ddod i'n llaw, o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, allu gwneud hynny.
Gall digwyddiad effeithio'n uniongyrchol ar un aelod yn unig o fusnes fferm neu sefydliad. Ond dylid esbonio sut mae'r digwyddiadau yn effeithio ar allu pawb yn y busnes neu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd i gwrdd â'u rhwymedigaethau. Gellir gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol a dylid ei darparu fel y bo'n briodol.
Mae'r ddarpariaeth amgylchiadau eithriadol ar gael mewn perthynas â’r canlynol:
- cyflwyno cais neu hawliad yn hwyr
- cyflwyno dogfennau ategol yn hwyr mewn perthynas â chais neu hawliad
- yr hawl am daliad mewn perthynas â thir cymwys gafodd ei ddatgan ar gais neu hawliad ond nad yw bellach ar gael i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb oherwydd digwyddiad amgylchiadau eithriadol
- yr anallu i gydymffurfio â gofynion y cynllun gan gynnwys amodau bod yn gymwys
- cosbau a osodir ar hawliadau. Y gofyn i ad-dalu'n rhannol neu'n llawn y taliadau a dderbyniwyd
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.
Troseddau
Mae rheoliad 19 o Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 yn sefydlu troseddau mewn perthynas ag agweddau penodol ar y cymorth ariannol a ddarperir o dan y rheoliadau hynny. Mae'r rheoliad hwnnw a'r troseddau hynny’n gymwys i'r SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar unrhyw adeg, peidio â darparu gwybodaeth, tystiolaeth neu gopïau o gofnodion pan ofynnir amdanynt ac atal neu rwystro archwiliad fel arall, gan gynnwys peidio â darparu cymorth rhesymol o gynnal archwiliad.
Pan fyddwn yn barnu eich bod wedi cyflawni trosedd yn unol â'r rheoliadau, gellir tynnu eich grant cyfan yn ôl neu ran ohono.
Ymddygiad annerbyniol
Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru nac unigolion neu sefydliadau sy’n gwneud dyletswyddau ar ran Llywodraeth Cymru ddioddef ymddygiad ymosodol, difrïol na sarhaus na gofynion afresymol a di-baid gan ymgeisydd neu ddeiliad cytundeb neu ei gynrychiolwyr. Ni ddylai aelodau’r Panel Apelio Annibynnol ddioddef ymddygiad o'r fath chwaith.
Mae dogfen Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n esbonio'r hyn yr ydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol.
Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.
Talu taliadau yn ôl
Os gwelir bod taliad anghywir wedi'i wneud, gellir gofyn ichi dalu'r arian hwnnw neu ran ohono, yn ôl.
Os bydd angen ichi ad-dalu arian, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi am y ddyled. Os na fyddwch wedi talu'r ddyled, caiff y swm llawn ei dynnu'n awtomatig o'r taliadau cymorth amaethyddol cyntaf ddaw'n ddyledus i chi yn y dyfodol o dan yr SFS neu unrhyw gymorth arall eraill a sefydlwyd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Adran M: archwiliadau
Gall dilysu amodau dyfarnu grant gan Lywodraeth Cymru gynnwys ymweld â safleoedd sampl o ddeiliaid cytundeb i sicrhau bod yr eitemau ar y safle ac yn eu lle, lle bo hynny'n briodol.
Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn gwneud taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn taliad.
Bydd yn archwilio holl fanylion eich cais, y manylion yn eich hawliad, a’r datganiad a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad.
Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau o fewn 5 mlynedd ar ôl dyddiad diwedd y dyfarniad grant.
Os byddwch yn gwrthod caniatáu ymweliad neu'n rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, gallai Llywodraeth Cymru wrthod eich hawliad neu ofyn ichi ad-dalu taliadau blaenorol.
Adran N: cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw am 10 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant, yr holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau.
Bydd yn ofynnol ichi hefyd:
- ddarparu unrhyw wybodaeth am eich SFS Opsiynol: grant Seilwaith ac Offer - Rheoli Maethynnau o fewn cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
- darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur, sy'n ymwneud â’ch grant SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer - Rheoli Maetholion
- bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono
Adran O: newidiadau i ddeddfwriaeth a'r rheolau
Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)
Mae rheolau'r SFS Opsiynol: Seilwaith ac Offer - Rheoli Maethynnau yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 rhif 1308 (Cy219).
Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau'r categorïau ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.
Newidiadau i'r rheolau neu ddyfarniad y grant
Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r grant a/neu eich llythyr dyfarnu grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r grant oherwydd newidiadau i'r ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein wefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.
Adran P: y drefn apelio a chwyno
Y drefn apelio
Cyn dyfarnu’r grant
Cam 1: asesu ar gyfer dewis
Nid oes sail dros apelio yn erbyn penderfyniadau yng ngham 1: asesu ar gyfer Dewis.
Cam 2: asesu
Cewch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad cam 2: asesu. Rhaid i chi gyflwyno’ch gwrthwynebiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol, o fewn 60 diwrnod ar ôl derbyn y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am iddo gael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein.
Bydd swyddogion yn adolygu'ch gwrthwynebiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol, a byddwch chi'n cael gwybod am y penderfyniad a'r rhesymau amdano.
Derbyn ar ôl cynnig dyfarniad grant
Mae apeliadau ynghylch penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i gadarnhad bod dyfarniad grant gael ei dderbyn yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig'. Mae’r broses yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â'r rheolau.
Mae dwy ran i’r broses apelio:
- cam 1: adolygiad gan swyddogion Llywodraeth Cymru
- cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1)
Mae’r Panel Apelio Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.
Rhaid i apêl, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.
Rhaid i apelwyr a’u cynrychiolwyr beidio â chysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. Efallai y gallwn ystyried bod hyn yn Ymddygiad Annerbyniol yn ôl y canllawiau ar rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru . Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais, hawliad neu apêl.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig:
Y drefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Complaints Advice Team
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
03000 251378
E-bost: complaints@gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
0300 790 0203
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: Ombwdsmon
Adran Q: monitro ac arfarnu
Beth yw monitro a gwerthuso
Mae monitro yn golygu casglu data, wrth ac ar ôl cynnal y cynllun, i helpu i wneud penderfyniadau gwell yn awr ac yn y dyfodol. Gweler hefyd ‘y Llyfr Gwyrdd (ar gov.uk)'.
Mae cysylltiad agos rhwng monitro a gwerthuso. Bydd gwerthusiad cyffredin yn dibynnu'n drwm ar ddata monitro.
Mae gwerthuso yn golygu asesu dyluniad, gweithrediad a chanlyniadau'r cynllun. Mae'n cynnwys deall sut mae'r cynllun cymorth yn cael neu wedi cael ei weithredu a beth yw ei effeithiau, i bwy a pham.
Mae gwerthuso yn golygu hefyd nodi'r hyn y gellir ei wella a sut, a hefyd amcangyfrif ei gost-effeithiolrwydd ac effaith y polisi.
Ni all data monitro ar ei ben ei hun ateb pob cwestiwn gwerthuso. Bydd gwerthuso felly yn defnyddio cymysgedd o ddulliau meintiol ac ansoddol yn unol â'r Llyfr Magenta (ar gov.uk).
Pam mae angen monitro a gwerthuso
Mae monitro a gwerthuso yn ffordd bwysig o weld y gwersi y gellir eu dysgu er mwyn dylunio a darparu cymorth yr SFS yn well yn y dyfodol.
Monitro a gwerthuso’r SFS
Llywodraeth Cymru fydd yn monitro a gwerthuso'r SFS ac yn adrodd arno, a hynny drwy:
- ofynion cyfreithiol Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, gan roi sylw arbennig i amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM), a
- gwerthuso'r cynllun
Gofynion Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023
O dan y Ddeddf, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fonitro a gwerthuso cyfraniad unrhyw gymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru at gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) ac i adrodd ar hynny.
Mae monitro yn hanfodol i Lywodraeth Cymru allu bod yn atebol trwy fesur ei pherfformiad ar sail amcanion SLM a dibenion y cymorth. Mae adroddiadau yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Senedd a'r cyhoedd i allu cadw golwg ar hynt y cynllun a'r hyn sy'n cael ei wneud trwyddo.
Mae'r Ddeddf yn pennu fframwaith monitro ac adrodd clir ar lefelau amcanion SLM a'r cynllun cymorth. Mae'n cynnwys pum lefel adrodd:
- y Cynllun Cymorth Amlflwydd, sef rhag-gynllun pum mlynedd sy'n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cymorth yn ystod cyfnod y cynllun i gyfrannu at gyflawni amcanion SLM. Cyhoeddwyd y Cynllun Amlflwydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2024
- mae'r datganiad dangosyddion a thargedau SLM yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar amcan SLM. Cyhoeddwyd y dangosyddion a'r targedau cyntaf ym mis Rhagfyr 2025
- mae'r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio'r cymorth ariannol ac anariannol a ddarperir o dan Adran 8 o'r Ddeddf yn ystod pob blwyddyn ariannol. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi hefyd fanylion y cymorth a ddarperir o dan bwerau eraill. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026
- bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Adroddiad Effaith bob pum mlynedd a fydd yn gwerthuso'r holl gymorth fydd wedi'i ddarparu. Bydd yn cynnwys asesiad o'i effaith ac o effeithiolrwydd y cymorth o ran cyflawni'i ddibenion, a'i gyfraniad at gyflawni'r amcanion. Bydd yr adroddiad effaith cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2030, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2029
- bydd Adroddiad Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) yn cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd i asesu effeithiolrwydd y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn unol â'u dyletswydd i gyflawni amcanion SLM. Bydd yn asesu cynnydd cronnus o ran cyflawni amcanion SLM (ers i'r ddyletswydd SLM ddod i rym) yn ogystal â'r cynnydd dros gyfnod yr adroddiad. Rhaid iddo hefyd asesu'r cynnydd ar sail dangosyddion a thargedau SLM ac esbonio a yw pob targed wedi cael ei gyflawni. Bydd yr adroddiad SLM cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2025
Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Rhif 1308 (Cy219)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynlluniau cymorth y mae Gweinidogion Cymru yn darparu cymorth trwyddynt. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cael cymorth o dan gynllun cymorth ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth i Weinidogion Cymru y gall fod ei hangen er mwyn, er enghraifft, wirio bod deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a sicrhau cydymffurfedd ag amodau’r cynllun:
- Rheoliad 8. Rhaid i ddeiliad cytundeb ddarparu, yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru, yr wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i:
- gwirio a yw deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth,
- gwirhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt,
- monitro i ba raddau y mae diben y cynllun cymorth wedi ei gyflawni, neu y bydd yn cael ei gyflawni, a
- adolygu neu werthuso:
- unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a gynhelir gan ddeiliad y cytundeb o dan y cynllun cymorth,
- llwyddiant y cynllun cymorth yn ei gyfanrwydd
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng monitro'r cymorth a ddarperir o dan gynllun a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o'r Ddeddf a'r fframwaith adrodd a gynhwysir yn y Ddeddf. Er mwyn bodloni'r gofynion adrodd, caiff yr holl gymorth a roddir ei fonitro i fesur effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, yn ogystal â sicrhau rheolaeth ariannol briodol ac effeithiol.
Bydd tystiolaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr neu ddeiliaid cytundebau yn cael ei defnyddio i fonitro effaith y cynlluniau cymorth ar draws y sector amaethyddol yng Nghymru, gan gynnwys asesu cyfraniad camau gweithredu â chymorth tuag at amcanion SLM. Gall hyn gynnwys data a gesglir trwy archwiliadau a datganiadau
neu wrth weinyddu cynlluniau a bydd gofyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a hysbysiadau preifatrwydd cynlluniau.
Gwerthuso'r SFS
Yr SFS fydd prif gyfrwng, ond nid unig gyfrwng Llywodraeth Cymru, i gyflawni amcanion SLM. Bydd yr SFS yn darparu cyfran sylweddol o'r fframwaith monitro, adrodd a gwerthuso, gan sicrhau y gellir asesu effeithiolrwydd a gwerth am arian y cynllun ei hun. Er mwyn helpu i werthuso, efallai y byddwn yn gofyn i'r rheini sydd ar y cynllun gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil. Bydd y wybodaeth a'r adborth a gesglir drwy'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol, a helpu i sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, yn ymatebol ac yn fuddiol i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.
Bydd strategaeth fonitro a gwerthuso yn y dyfodol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu asesu sut y bydd amcanion SLM a chynlluniau gan gynnwys yr SFS yn cael eu hasesu o ran gwerth am arian a'u canlyniadau i Gymru, gan gynnwys canlyniadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Bydd y strategaeth yn cydnabod natur hirdymor y canlyniadau a geisir ac yn nodi mesurau interim a all ddangos cynnydd ar sail data perfformiad a rheoli gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a darparwyr gwasanaethau eraill.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi a’ch data
Gallai Llywodraeth Cymru rannu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi iddi mewn cysylltiad â’ch hawliad am Haen Opsiynol yr SFS (gan gynnwys eich data personol) â chontractwyr trydydd parti er mwyn monitro a gwerthuso’r cynllun.
O ganlyniad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn ichi gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Byddwn yn esbonio diben yr ymchwil ichi, ond mater ichi yn llwyr fydd cymryd rhan. Bydd eich cyfraniad yn yr ymchwil yn ein helpu i sicrhau bod y cynlluniau’n parhau’n effeithiol.
Bydd contractwyr ond yn defnyddio’r data a ddarperir i gynnal gweithgareddau ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru a hynny'n unig, yn unol â GDPR y DU.
Adran R: hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data personol y byddwch yn ei roi inni wrth wneud cais am grant neu wrth ofyn am arian y grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn rhoi grant ichi, rydym yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae gofyn i ni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r grant presennol ichi.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.
Er mwyn asesu a ydych yn gymwys, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”)
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
- swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
- awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu
Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn targedu cymorth yn briodol.
Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 neu Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i ddeiliaid cytundeb sydd wedi derbyn cymorth o dan Reoliadau'r Cynllun Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Bydd data yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr a bydd yn cynnwys yr enw llawn, y dref bost ac ardal y cod post a'r ardal lle mae deiliad y cytundeb yn preswylio. Bydd yn cynnwys manylion y symiau a'r cynlluniau y cafodd taliad ei wneud ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gymwys i'r deiliaid cytundeb hynny sy'n derbyn llai na £1,250.00 o gymorth perthnasol yn y flwyddyn ariannol.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phan fydd pob taliad wedi'i wneud. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich manylion eu cadw am un flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
0330 414 6421
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Adran S: manylion cyswllt
Ymholiadau: Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW
Gallwch ofyn cwestiwn unrhyw bryd ar RPW Ar-lein.
Rhaid cael apwyntiad i ymweld â’n Swyddfeydd Rhanbarthol. Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi er mwyn ichi ymweld â Swyddfa Ranbarthol a chael help gan aelod o’r staff i wneud cais a/neu hawliad.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.
Gwlad
Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a'u deall.
I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).
Cyfoeth Naturiol Cymru
Manylion cywsllt Cyfoeth Naturiol Cymru:
Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
0300 065 3000 (Dydd Llun i Dydd Gwener, 8yb i 6yp)
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Atodiad A: ffotograffau â geotag i gefnogi'ch hawliad
Mae ffotograff â geotag yn cynnwys gwybodaeth am y lleoliad o fewn data'r ffotograff. Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a chamera yn cofnodi'r cyfesurynnau GPS yn awtomatig. Maen nhw hefyd yn cofnodi dyddiad ac amser tynnu’r ffotograff.
Am ganllawiau cyffredinol ar ffotograffau â geotag, gweler Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Rhaid i chi dynnu ffotograffau â geotag o'r eitem/eitemau perthnasol ar eich eiddo fel tystiolaeth ar gyfer eich hawliad. Ni fyddwn yn gallu talu’r grant ichi heb ffotograffau perthnasol â geotag. Bydd staff Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddata amser a lleoliad y ffotograffau â geotag er mwyn inni allu eu dilysu â'ch llythyr dyfarnu. Bydd hyn yn ein galluogi i ddilysu eich hawliad a gwneud yn siŵr bod y gweithgaredd cyfalaf wedi'i gwblhau fel y cytunwyd ac o fewn cyfnod y llythyr dyfarnu grant.
Rhaid cyflwyno ffotograffau â geotag fel tystiolaeth o'r canlynol:
- Storfeydd tail dan orchudd
- Dargyfeirwyr/hidlyddion pibellau dŵr glaw
- Gorchudd sefydlog ar gyfer tanc slyri sy'n bodoli eisoes ar ben tir
- Pilen blastig arnofiol sefydlog i orchuddio lagŵn.
- Gorchudd plastig sy'n arnofio'n rhydd ar gyfer storfeydd slyri ar ben tir.
- Storfa slyri integredig.
- Adnewyddu buarthau da byw a phibellwaith draenio tanddaear
- To dros fan bwydo sy’n bod eisoes
- To dros fan crynhoi sy’n bod eisoes
- To dros storfa dail sy’n bod eisoes
- To dros storfa silwair sy’n bod eisoes
- To dros storfa slyri sy’n bod eisoes
- Claddfeydd silwair
- Offer a gwahanydd slyri
- Storfeydd slyri a phyllau derbyn cysylltiedig
- Pad dŵr golchi/llenwi chwistrellwr
- Storfan ar gyfer cemegau
- Systemau ar gyfer rheoli slyri
- Tanciau ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt
- Storfeydd a sianeli trosglwyddo tanlawr
Gall peidio â darparu tystiolaeth ddigonol arafu'ch cais neu arwain at wrthod eich hawliad.
