Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ddylai wneud y profion a sut mae dehongli’r canlyniadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae profion llif unffordd yn cael eu defnyddio i ganfod pobl sydd â COVID-19.

Gall pob achos positif a nodir helpu i atal llawer mwy o heintiau

Mae profion llif unffordd yn hawdd eu defnyddio ac yn rhoi canlyniadau mewn 30 munud.

Sut mae profion llif unffordd yn gweithio

Mae llif unffordd yn dechnoleg sefydledig sydd wedi’i haddasu i ganfod proteinau sy’n bresennol pan fo gan rywun COVID-19. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus o brawf llif unffordd yw’r pecyn profi beichiogrwydd gartref.

Dyfais llaw yw’r pecyn prawf sydd â phad amsugnol ar y naill ben a ffenestr ddarllen ar y llall. Y tu mewn i’r ddyfais, ceir stribed o bapur profi sy’n newid lliw os oes proteinau COVID-19 yn bresennol.

Sut i gymryd prawf llif unffordd COVID-19

Gwyliwch fideo o sut i gymryd y prawf.

Fideo: sut i brofi eich hunan (fersiwn Iaith Arwyddion Prydain)

Mae cymorth fideo byw i bobl sydd wedi colli eu golwg ar gael nawr. Ffoniwch 119 i gael mynediad i'r gwasanaeth hwn.

Mae gwahanol fathau o brofion llif unffordd. Mae rhai yn defnyddio sampl o'r trwyn yn unig. Mae eraill yn defnyddio samplau o'r llwnc a'r trwyn. Mae pob un yn effeithiol iawn yn canfod pobl sy'n cario haint COVID-19.

Defnyddiwch y swab i gymryd sampl o gefn eich gwddf ac o’ch trwyn, neu o'ch trwyn yn unig, yn ddibynnol ar y math o brawf. Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau yn y pecyn.

Ar ôl cymryd y sampl, rydych yn rhoi’r swab mewn hylif echdynnu ac yna ar bad papur y prawf llif unffordd.

Byddwch yn gweld y canlyniad ar y ddyfais rhwng 15 a 30 munud ar ôl ichi roi’r sampl yn y ddyfais, yn dibynnu ar y math o brawf. Nid oes angen anfon y sampl i labordy.

Canlyniadau’r prawf

Image
Delwedd yn dangos canlyniadau posibl prawf llif unffordd COVID-19.


Canlyniad negatif: 1 llinell ger C

Canlyniad positif: 2 linell, 1 ger C ac 1 ger T

Mae hyd yn oed linellau gwan yn golygu’ch bod wedi profi’n bositif am COVID-19.

Rhaid i chi neu'ch darparwr prawf adrodd i'r GIG am ganlyniad y prawf hwn (cadarnhaol neu negyddol).

Annilys: dim llinellau, neu 1 llinell ger T. Mae hyn yn golygu bod y prawf yn annilys. Cymerwch y prawf eto gyda phecyn prawf newydd.

Nid yw canlyniad negatif yn gwarantu nad oes gennych y coronafeirws. Mae’n bosibl na fydd y prawf yn canfod y feirws os cawsoch eich heintio’n ddiweddar neu os ydych yng nghyfnod magu’r clefyd ar adeg y prawf.

Rhaid ichi barhau i ddilyn y rheolau coronafeirws, gan gynnwys:

  • golchi’ch dwylo’n rheolaidd
  • gwisgo gorchudd wyneb pan fo’n ofynnol

Beth i'w wneud os cewch chi ganlyniad prawf llif unffordd positif

Os cewch ganlyniad prawf llif unffordd positif, arhoswch adref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill am o leiaf 5 diwrnod. Peidiwch ag ymweld â chartrefi gofal, ysbytai na llefydd lle rydych yn gwybod y mae pobl sydd mewn mwy o berygl o ganlyniad i COVID-19. Darllenwch ein canllawiau ar bobl â heintiau anadlol gan gynnwys COVID19.

Rhoi gwybod am eich canlyniadau llif unffordd

Mae angen i chi roi gwybod am ganlyniadau pob prawf am ddim o fewn 24 awr, boed yn bositif, yn negatif neu'n amhendant.

Adrodd am eich canlyniadau ar GOV.UK neu drwy ffonio 119. Croesawir galwadau yn Gymraeg.

Pa mor fanwl gywir yw profion llif unffordd?

Mae technoleg profion llif unffordd wedi’i dilysu. Mae gwaith gwerthuso clinigol helaeth gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Phrifysgol Rhydychen yn dangos bod profion llif unffordd yn ddigon penodol a sensitif i gael eu defnyddio mewn profion torfol, gan gynnwys ar gyfer pobl asymptomatig.

Pa mor sensitif yw’r profion?

Ni all y profion llif unffordd ganfod lefelau isel iawn o’r coronafeirws mewn sampl. Mae hyn yn golygu na fydd y prawf o bosibl yn rhoi canlyniad positif os mai dim ond yn ddiweddar y cawsoch eich heintio, os ydych yng nghyfnod magu’r clefyd, neu os ydych fwy neu lai wedi gwella.

Mae sensitifedd profion llif unffordd hefyd yn dibynnu ar y person sy’n gwneud y prawf. Mae hyfforddiant a defnydd rheolaidd yn bwysig felly, gan helpu pobl i ddod yn fwy medrus o ran defnyddio profion llif unffordd.