Sut gallwch chi helpu a chefnogi pobl Wcráin.
Cynnwys
Trosolwg
Yn sgîl ymosodiad Rwsia ar Wcráin mae degau lawer o filoedd o bobl Wcráin wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. Mae’n bosibl mai dyma ddechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers degawdau.
Safwn gyda thrigolion Wcráin wrth iddynt ymladd yn ddewr yn erbyn yr ymosodiad rhyfelgar creulon a chwbl anghyfiawn hwn.
Deallwn y bydd llawer o bobl yng Nghymru am wneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu yn eu hangen.
Gyda llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau cludo o dan bwysau sylweddol, gallai anfon nwyddau corfforol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa ar lawr gwlad.
Rhoddion ariannol
Mae rhoddion arian parod i sefydliadau sy'n ymateb i'r argyfwng yn Wcráin yn caniatáu i nwyddau brys gael eu cyrchu yn lleol.
Gallwch helpu drwy roi rhodd ariannol i'r elusennau canlynol:
Cynnig cartref i ffoaduriaid o Wcráin sydd eisoes yng Nghymru
Rydym yn dal i fod angen cartrefi diogel, addas ar gyfer y llu o unigolion, cyplau a theuluoedd o Wcráin sydd wedi cyrraedd Cymru ac sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd.
Gallwch helpu drwy gynnig lle i aros yn eich cartref neu eiddo rydych yn berchen arno.
Noddi pobl yn Wcráin i ddod i'r DU
Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn galluogi pobl yn y DU i noddi fisa i rywun yn Wcráin ddod i fyw yn y DU.
Rhaid i chi allu darparu llety diogel ac addas ar eu cyfer am 6 mis neu fwy.
Rhagor o wybodaeth a chofnodi eich diddordeb yng nghynllun Cartrefi i Wcráin (ar GOV.UK).
Os nad ydych eisoes yn adnabod rhywun yn Wcráin i'w noddi, gall gwasanaeth Ailosod Cartrefi i Wcráin eich helpu i ddod o hyd i'r un gorau i'ch cartref a'ch cefnogi trwy'r broses.
Unwaith y byddwch yn gwybod pwy rydych am ei noddi, gallwch eu helpu i wneud cais am fisa o dan Gynllun Noddi Wcráin (ar GOV.UK).
Cynllun Teuluoedd o Wcráin
Cynllun i bobl o Wcráin sydd â chysylltiadau teuluol yn y DU yw Cynllun Teuluoedd o Wcráin.
Mae'n caniatáu iddynt ymuno ag aelodau o'u teulu neu ymestyn eu harhosiad yn y DU. Gellir gwneud cais am ddim a bydd pobl yn gallu byw, gweithio ac astudio yn y DU a chael gafael ar gyllid cyhoeddus.
Os oes gennych gysylltiad teuluol yn Wcráin, gallant wneud cais am fisa drwy Gynllun Teuluoedd o Wcráin (ar GOV.UK).
Arhosiad byr drwy wasanaeth Airbnb.org
Mae Airbnb.org yn gweithio gyda’r mudiad Cyfiawnder Tai Cymru i ddarparu tai am gyfnodau byr i bobl sy’n dod i Gymru o Wcráin.
Os oes gennych eiddo i’w gynnig, sydd ar wahân i’ch cartref chi, gallwch gynnig arhosiad dros dro am ddim neu am bris gostyngol drwy Airbnb.org.
Gwirfoddoli
Unwaith y bydd pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn setlo yn eu hardaloedd, efallai y bydd angen rhai eitemau neu gefnogaeth leol arall. Gallai fod gan gymunedau rôl i’w chwarae yn hyn o beth.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gofyn am wirfoddolwyr. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol i drefnu ffyrdd i bobl helpu. Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi mynegi diddordeb i weld sut y gallant helpu.
Er mwyn cofnodi diddordeb, anfonwch e-bost i refugees@gov.wales. Fe wnawn ni rannu eich manylion â phartneriaid fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Cymorth cyfieithu
Os gallwch gynnig cyfieithu i bobl o Wcráin, cofnodwch eich diddordeb ar wefan Gwasanaeth Cyfieithu Cymru.
Cofrestru busnes neu sefydliad i helpu
Os ydych chi'n gallu cynnig help fel busnes neu sefydliad, mae angen i chi ddweud wrthym am yr help y gallwch ei roi.
Cynnig swyddi
Sut y gall eich busnes chi gynnig swydd neu leoliad i’r rhai sy’n cyrraedd o Wcráin (ar Business Cymru).
Gwybodaeth am gyflogi pobl o Wcráin, gan gynnwys mynediad at addysg a hyfforddiant.
Chwiliwch am wybodaeth am gyflogi pobl o Wcráin mewn gofal cymdeithasol.
Llinellau cymorth a chefnogaeth
Gall noddwyr yng Nghymru ffonio’r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0808 175 1508. Mae'r Ganolfan Gyswllt yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwasanaeth olrhain rhwng 09:00 a 17:00.
I bobl o Wcráin a’u teuluoedd:
- Mae’r DU yn cynnig cymorth gyda fisâu ac adsefydlu gweler GOV.UK.
- I gael help i wneud cais i ddod i’r Deyrnas Unedig, gallant ffonio’r rhif hwn 24 awr y dydd yn rhad ac am ddim: +44 808 164 8810. Os ydynt yn y DU, dylent ffonio 0808 164 8810. Os na allant gysylltu â rhifau 0808 y DU, dylent ffonio +44 (0)175 390 7510.
I unrhyw un y mae’r sefyllfa yn Wcráin yn effeithio arnynt, gallant gysylltu â llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned). Mae ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cefnogaeth. Ffoniwch 0800 132737 neu tecstiwch HELP i 81066.