Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru er mwyn creu un system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol a fydd yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mehefin 2023

Rhagair y Gweinidog

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd ag egwyddorion cyfiawnder, gan gynnwys cydraddoldeb o dan y gyfraith a thriniaeth deg, ac mae’r egwyddorion hyn yn elfennau allweddol o wneud Cymru’n genedl gyfiawn, gyfartal, amrywiol a ffyniannus. Mae cyfiawnder yn treiddio i gymaint o agweddau ar fywydau pobl Cymru ac mae sicrhau cyfiawnder yn effeithiol yn ffordd hanfodol o sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed, a’n bod yn gallu gorfodi ein hawliau sylfaenol.

Am flynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau y dylid datganoli cyfiawnder i Gymru ac mae hyn yn parhau yn nod gennym fel rhan o’n rhaglen lywodraethu. Yn ein barn ni, bydd gwneud penderfyniadau am gyfiawnder yma yng Nghymru yn arwain at well canlyniadau, a hynny drwy gysoni cyfiawnder yn briodol â’n polisïau datblygol ein hunain ar gyfer cymdeithas, iechyd ac addysg, a’r corff cynyddol o gyfraith Cymru.

Yn ein cyhoeddiad Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, fe wnaethom amlinellu rhai o’r llu o ffyrdd arloesol mae cyfiawnder yn cael ei sicrhau yma yng Nghymru ar hyn o bryd, a pham mae sicrhau newid yn fater hollbwysig i Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, wrth inni ddadlau o blaid newid, rhaid inni hefyd ddefnyddio ein meysydd cyfrifoldeb presennol fel meincnodau ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni. Er nad yw’r system llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ar waith yng Nghymru wedi’i datganoli’n gyffredinol; mae gan Gymru ei chorff bach, ond arwyddocaol, o dribiwnlysoedd datganoledig. Fel y nododd y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:

“…dylai tribiwnlysoedd Cymru a'u gweinyddiaeth gael eu gweld a'u trin fel rhan o system farnwrol Cymru sy'n dod i'r amlwg” (Adroddiad Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru).

Mae tribiwnlys yn fforwm effeithlon a hygyrch ar gyfer datrys anghydfod. Mewn rhai achosion mae’n cynnig gwarchodaeth bwysig yn erbyn camau gweithredu annheg gan y wladwriaeth; dro arall mae’n ffordd i unigolion ddatrys eu hanghydfodau cyfreithiol preifat. Er eu bod yn fwy anffurfiol na llys yn aml, nid ydynt yn cael eu hystyried yn un o ganghennau’r llywodraeth mwyach. Yn hytrach maen nhw’n cael eu hystyried, yn gywir, yn rhan hollbwysig o’r system farnwrol.

Mae fframweithiau deddfwriaethol annibynnol yn rheoli ein holl dribiwnlysoedd datganoledig. Yn ymarferol, mae hyn wedi creu bylchau ac anghysondeb yn system dribiwnlysoedd Cymru fel y mae heddiw. Ond nid drwy fwriad. Y rheswm yw bod tribiwnlysoedd wedi datblygu’n dameidiog dros lawer o flynyddoedd. Un o’r datblygiadau diweddar yw creu swyddfa Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ond mae’r ddeddfwriaeth honno’n troshaenu’r fframweithiau sy’n bodoli eisoes ac nid yw’n creu cyfanwaith cydlynol.

Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr elfennau datganoledig o’r system gyfiawnder yn esiampl o’r hyn y gall Cymru ei gyflawni. Mae diwygio tribiwnlysoedd yn rhan hanfodol o’r uchelgais hon. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi amlinellu glasbrint ar gyfer diwygio (Comisiwn y Gyfraith, 2021 - Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru) ac mae’r cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn.

Rydym yn cynnig cyfuno ein tribiwnlysoedd datganoledig ar wahân mewn un strwythur unedig a chydlynol, sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac, am y tro cyntaf yn hanes cyfreithiol Cymru, Tribiwnlys Apêl Cymru. Bydd ein cynigion yn gwneud y system dribiwnlysoedd yn fwy hyblyg, felly wrth i gyfraith ddatganoledig barhau i dyfu, gellir ymgorffori llwybrau apelio pellach heb fawr o darfu, gan alluogi ein seilwaith cyfiawnder tribiwnlysoedd i dyfu a datblygu dros amser.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael eu trin yn deg ac yn gyfartal, a hynny wrth gael mynediad at gyfiawnder hefyd. Mae ein cynigion ar gyfer diwygio yn ategu’r ymrwymiad hwn. Wrth roi ein cynigion ar waith i greu strwythur newydd i dribiwnlysoedd Cymru, mae ein hamcan yn ddeublyg. Yn gyntaf, creu system dribiwnlysoedd fodern i Gymru, gan ganolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder ac ar anghenion defnyddwyr tribiwnlysoedd, a all fod yn hyderus bod y system yn gweithredu’n annibynnol ac mewn modd sy’n dyfarnu ar eu hanghydfodau yn gyfiawn, yn effeithlon ac yn brydlon. Yn ail, gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi’i ddatganoli ac mae Cymru’n gweinyddu ei system ehangach o lysoedd a thribiwnlysoedd.

Rydym yn edrych ymlaen at gael eich safbwyntiau ar ein cynigion, ac yn gwerthfawrogi eich barn.

Image

Mick Antoniw AS / MS
Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Image
Counsel General and Minister for the Constitution

Pennod 1: Cyflwyniad

Cyflwyniad

1. Mae’r papur gwyn hwn yn amlinellu nodau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r tribiwnlysoedd datganoledig ac i greu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, wedi’i rannu’n siambrau, a Thribiwnlys Apêl Cymru.

2. Mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a gyhoeddodd ei adroddiad ym mis Hydref 2019 (Cyfiander yng Nghymru dros bobl Cymru), a Chomisiwn y Gyfraith wedi dod i’r casgliad bod angen diwygio system y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Roedd adolygiad Comisiwn y Gyfraith yn canolbwyntio’n fanwl ar ddiwygio tribiwnlysoedd datganoledig ac roedd ei adroddiad (Comisiwn y Gyfraith, 2021 - Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru), a gyhoeddwyd ac a osodwyd gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021, yn cynnwys 53 o argymhellion a oedd, gyda’i gilydd, yn gosod patrwm ar gyfer strwythur tribiwnlysoedd modern, unedig a chydlynol yng Nghymru (mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn Atodiad 2 y papur gwyn hwn).

3. Ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith ar ei ganfyddiadau a’i gynigion rhwng 16 Rhagfyr 2020 a 19 Mawrth 2021. Roedd yr adolygiad wedi canfod bod y ddeddfwriaeth gyfredol mewn cysylltiad â’r tribiwnlysoedd datganoledig yn anaddas i’r diben ac y dylid creu gwasanaeth tribiwnlysoedd unedig.

4. Rydym yn defnyddio adolygiad Comisiwn y Gyfraith yn y papur hwn ac wedi cynnal dadansoddiad pellach lle bo’n briodol. Mae asesiad effaith integredig, sy’n darparu crynodeb o effeithiau’r cynigion, yn ategu’r papur hwn. Caiff hwn ei ddatblygu ymhellach ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth y bydd ei hangen ar gyfer y gwaith diwygio.

Y cefndir hanesyddol

5. Un o nodweddion y corff o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yw eu datblygiad tameidiog dros lawer o flynyddoedd, cyn ac ar ôl datganoli. Cafodd nifer o’n tribiwnlysoedd datganoledig eu sefydlu cyn datganoli gan lywodraeth y Deyrnas Unedig bryd hynny, a’u gweinyddu gan yr adrannau a sefydlodd nhw. Er enghraifft, roedd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn cael ei weinyddu gan Adran Iechyd Swyddfa Cymru.

6. Datganolodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 rai meysydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys swyddogaethau ar gyfer tribiwnlysoedd a oedd yn gysylltiedig â’r meysydd hynny. Y rheswm pennaf am hyn oedd bod tribiwnlysoedd bryd hynny yn cael eu hystyried yn un o swyddogaethau cangen weithredol y llywodraeth, wedi’u sefydlu gan yr adrannau llywodraeth y cawsant eu creu i’w gwasanaethu, yn hytrach na swyddogaeth farnwrol.

7. Wrth gydnabod bod tribiwnlysoedd yn cyflawni swyddogaethau barnwrol, mae camau wedi’u cymryd i wahanu’r tribiwnlysoedd datganoledig oddi wrth y meysydd y cawsant eu cynllunio i arfer barn drostynt. Cafodd swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yr uwch rôl farnwrol gyntaf sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â Chymru, ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017 i ddarparu arweinyddiaeth farnwrol ar gyfer grŵp o dribiwnlysoedd – “Tribiwnlysoedd Cymru” (Adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017). Fodd bynnag, mae tribiwnlysoedd eraill yn gweithredu yng Nghymru mewn meysydd datganoledig ond nad ydynt wedi’u diffinio fel Tribiwnlysoedd Cymru, ac sydd y tu allan i gylch gwaith Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

8. O ran Tribiwnlysoedd Cymru, mae camau gweinyddol wedi’u cymryd i sicrhau bod y cyfrifoldebau gweithredol o ddydd i ddydd yn annibynnol ar swyddogaethau polisi Llywodraeth Cymru, sef creu Uned Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’r Uned yn gyfrifol am gymorth gweinyddol a gweithredol i Dribiwnlysoedd Cymru. Fodd bynnag, yn strwythurol, mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru ac wedi’i gwreiddio ynddi.

9. Llwyddwyd i wneud i’r dull gweithredu cyfredol weithio. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw bryderon ymarferol sylweddol ynghylch effeithiolrwydd neu degwch Tribiwnlysoedd Cymru. Ond mae’n glir nad y trefniadau cyfredol yw’r rhai gorau posibl. Nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli pob tribiwnlys yng Nghymru yn cydnabod y ffordd yr ydym yn eu trin heddiw. Felly, mae gennym set o dribiwnlysoedd unigol yr ydym yn eu trin fel grŵp neu uned, er mai bodoli ar wahân oedd yr unig fwriad iddynt erioed.

10. Mae corff sylweddol o waith a’r gwaith diwygio mewn awdurdodaethau eraill wedi dylanwadu ar y cynigion yn y papur gwyn hwn, yn bennaf:

  1. yr adroddiad gan Syr Andrew Leggatt ("adroddiad Leggatt") a’r cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio tribiwnlysoedd datganoledig, eu rhoi ar waith gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 i sefydlu Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig ac Uwch Dribiwnlys apeliadol, a’r ddau wedi’u rhannu’n siambrau
  2. y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd Pwyllgor Cymru, Adolygiad o Dribiwnlysoedd sy’n Gweithredu yng Nghymru (y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Pwyllgor Cymru, 2010 - Adolygiad o Dribiwnlysoedd sy’n Gweithredu yng Nghymru, adolygodd Llywodraeth Cymru ei weithrediad yn 2014)
  3. adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Cymru ar sefyllfa cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru (Cyfiawnder gweinyddol: sylfaen cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru)
  4. adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Cyfiander yng Nghymru dros bobl Cymru)
  5. adroddiad Comisiwn y Gyfraith (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru).

11. Galwodd y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd am ddull cyson ac unedig ar draws tribiwnlysoedd datganoledig. Cafodd yr argymhelliad hwn ei adleisio gan y Pwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, ei gorff olynol, a alwodd am weithdrefn penodi safonol, yn ogystal ag uwch arweinydd barnwrol ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig. Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, fel yr amlinellir ym mharagraffau 8 a 9 uchod. Ond gellir gwneud rhagor, ac mae angen diwygio.

Pam y mae angen diwygio

12. Mae’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn darparu gwasanaeth teilwng i bobl Cymru ond mae’r fframweithiau deddfwriaethol sy’n sail iddi yn hen ac yn anhyblyg, ac nid ydynt yn gydlynol. Mae atebion wedi cael eu canfod ar gyfer gwahanol broblemau, ond ‘plaster’ dros dro ydynt, yn hytrach na gwellhad llwyr. Mae ffordd fwy clir, syml, effeithiol a chydlynol o weithredu system dribiwnlysoedd Cymru yn hollbwysig i’r achos o sicrhau cyfiawnder i bobl Cymru.

13. Bydd system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yn sylfaen gadarn ar gyfer newidiadau a datganoli swyddogaethau cyfiawnder i Gymru yn y dyfodol.  Nid dod o hyd i un ateb i bawb yw’r pwrpas, ond cael system unedig sy’n gallu darparu ar gyfer gwahaniaethau rhwng awdurdodaethau.

14. Mae prosesau diwygio tebyg wedi cael eu cynnal yng ngwledydd eraill y DU, lle mae rhagor o ddatganoli a hanes hirach o gyfrifoldeb dros eu sefydliadau a’u seilwaith cyfreithiol eu hunain. Drwy gerdded yn ôl traed rhannau eraill o’r DU, gall Cymru ddysgu o’u llwyddiannau ac, mewn rhai meysydd, fynd ymhellach i hybu proses deg, effeithiol ac annibynnol o sicrhau cyfiawnder.

Cynigion ar gyfer diwygio – crynodeb

15. Rydym yn cynnig creu system fodern ac unedig, sy’n annibynnol yn strwythurol, i ymgorffori awdurdodaethau tribiwnlysoedd datganoledig sy’n bodoli eisoes, ac i ymgymryd â rhagor o swyddogaethau dros amser. Ein cynigion yw creu un Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, wedi’i rannu’n siambrau, a Thribiwnlys Apêl Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r system cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru i ddarparu’n well ar gyfer datblygiadau sy’n deillio o ddeddfwriaeth yn y dyfodol, gan greu strwythur sy’n hyblyg ei natur ac sy’n gallu ymgorffori awdurdodaethau newydd heb fawr o darfu.

16. Dyma prif elfennau arfaethedig ein hagenda ddiwygio:

  1. fframwaith statudol ar gyfer un system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol wedi’i threfnu yn ôl y math o awdurdodaeth, gyda hawliau clir a chyson i apelio ymhellach, sy’n gallu darparu ar gyfer awdurdodaethau ychwanegol dros amser
  2. dyletswyddau statudol i gynnal annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd a rhagor o annibyniaeth strwythurol o ran y ffordd mae’n cael ei gweinyddu
  3. arweinyddiaeth farnwrol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd o dan nawdd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Llywyddion Siambr a Dirprwy Lywyddion
  4. prosesau clir ac effeithlon o osod rheolau gweithdrefnau ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd;
  5. dulliau gweithredu cyson ar gyfer penodi aelodau o dribiwnlysoedd a phrosesau clir ar gyfer pennu cydnabyddiaeth ariannol, neilltuo, a delio â chwynion a/neu faterion disgyblu.

17. Mae’r penodau canlynol yn amlinellu ein cynigion yn fanylach.

Pennod 2: Hyd a lled ein diwygiadau

Cynnig

Rydym yn cynnig bod hyd a lled ein cynigion i greu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol i Gymru yn ymestyn i’r “tribiwnlysoedd datganoledig” yng Nghymru fel y’u diffinnir gan adolygiad Comisiwn y Gyfraith o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

Cyflwyniad

18. Nod ein cynigion yw gwella a safoni strwythur a gweithrediad tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i'r tribiwnlysoedd hynny y cyfeirir atynt yn y gyfraith fel “Tribiwnlysoedd Cymru” ar hyn o bryd, ond i dribiwnlysoedd datganoledig eraill yng Nghymru hefyd. Bydd hyn yn cryfhau system y tribiwnlysoedd datganoledig o dan arweinyddiaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Pennu’r tribiwnlysoedd datganoledig

19. Mae bod yn glir o ran beth sydd yn dribiwnlys a beth nad yw’n dribiwnlys yn gam cyntaf tuag at nodi pa swyddogaethau dylai fod yng nghwmpas system dribiwnlysoedd fodern. Yn y dyfodol, bydd rhai swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni rywle arall ar hyn o bryd yn symud i’r system dribiwnlysoedd, ac efallai y bydd rhai swyddogaethau sy'n cael eu cyflawni gan dribiwnlysoedd ar hyn o bryd yn symud i fforymau eraill er mwyn datrys anghydfodau; ond ein man cychwyn yw edrych ar swyddogaethau tribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni mor effeithiol â phosibl.

20. Nid oes un diffiniad o “dribiwnlys” sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol. Nododd Comisiwn y Gyfraith nodweddion cyffredinol “tribiwnlysoedd”, sef eu bod yn gyrff sy’n gwrando ar anghydfodau rhwng partïon ac yn dyfarnu arnynt drwy wneud penderfyniadau sy’n rhwymo. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad mai tribiwnlysoedd datganoledig yw’r rhai sy’n cyd-fynd â’r diffiniad o “dribiwnlys datganoledig” fel y nodir ym mharagraff 9(2) o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sef tribiwnlys y mae ei swyddogaethau i gyd yn arferadwy mewn perthynas â Chymru yn unig ac nad yw’n ymwneud â materion a gedwir yn ôl.

21. Ar sail ei ddadansoddiad, ystyriodd Comisiwn y Gyfraith y cyrff hynny sy’n rhan o gwmpas ei adolygiad o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a’r rhai nad oedd felly yn rhan o’r cwmpas hwnnw.

22. Rydym yn cytuno’n gyffredinol â Chomisiwn y Gyfraith ar y cyrff hynny sy’n dribiwnlysoedd datganoledig ac felly yn rhan o’r cwmpas fel tribiwnlysoedd datganoledig sy’n bodoli eisoes, sef:

  1. Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
  2. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  3. Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (gyda thri thribiwnlys cyfansoddol: eiddo preswyl, prisio lesddaliadau; a phwyllgorau asesu rhenti)
  4. Tribiwnlys Addysg Cymru (sydd hefyd yn rheoli awdurdodaethau tribiwnlysoedd sydd wedi’u cyfansoddi i wrando ar apeliadau sy’n ymwneud â chofrestru arolygwyr ysgolion ac arolygwyr addysg feithrin)
  5. Panel Dyfarnu Cymru
  6. Tribiwnlys y Gymraeg
  7. Tribiwnlys Prisio Cymru
  8. paneli apêl derbyniadau i ysgolion
  9. paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

23. Caiff y tribiwnlysoedd yn is-baragraffau (a) i (f) uchod eu diffinio at ei gilydd fel “Tribiwnlysoedd Cymru” gan adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 o dan oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sydd a phwerau’n ymwneud â hyfforddiant, canllawiau a lles. Mae’r tribiwnlysoedd yn is-baragraffau (g) i (i) uchod yn dribiwnlysoedd datganoledig sydd y tu allan i oruchwyliaeth y Llywydd. Mae Atodiad 3 yn cynnwys rhagor o fanylion am gyfansoddiad a hanes yr holl dribiwnlysoedd datganoledig hyn sy’n rhan o gwmpas y prosiect diwygio tribiwnlysoedd hwn.

24. Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith ar y cyrff hynny nad ydynt yn dribiwnlysoedd datganoledig oherwydd eu bod yn gwneud argymhellion yn hytrach na phenderfyniadau sy’n rhwymo, nid ydynt yn dilyn proses ddyfarnu, a/neu nid yw eu swyddogaethau’n arferadwy mewn perthynas â Chymru’n unig. Nododd Comisiwn y Gyfraith ombwdsmyn (gan gynnwys Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru), yr Arolygiaeth Gynllunio (cafodd ei swyddogaethau yng Nghymru eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ar 1 Hydref 2021 ac mae adran o’r enw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn eu cyflawni bellach), paneli adolygu gofal iechyd parhaus y GIG, a Phwyllgorau Coedwigaeth Cymru.

25. Yr unig wahaniaeth barn rhyngom ni a Chomisiwn y Gyfraith yw ei gasgliad bod paneli Gofal Cymdeithasol Cymru yn “dribiwnlysoedd datganoledig” at ddibenion y prosiect diwygio tribiwnlysoedd. Yn ein barn ni, mae’r paneli hyn yn rhan o’r mecanweithiau mewnol sydd yn eu lle i sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru’n gwneud penderfyniadau teg a chytbwys ynghylch materion sy’n ymwneud â chofrestru – materion sydd â llwybr apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU
(Rhan 8 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

26. Yn ogystal â thribiwnlysoedd datganoledig sy’n bodoli eisoes ac sy’n rhan o'r cwmpas yn ein barn ni, ein bwriad yw sicrhau bod y system dribiwnlysoedd newydd yn hyblyg ac yn gallu darparu ar gyfer awdurdodaethau yn y dyfodol a allai neu a ddylid fod yn gyfrifoldeb tribiwnlys. Rydym yn ystyried strwythur arfaethedig y system dribiwnlysoedd newydd ym Mhennod 3, a’r awdurdodaethau sy’n trosglwyddo i’r system newydd ym Mhennod 4.

Cwestiwn ymgynghori 1

Ydych chi’n cytuno â’r hyn rydym wedi’i nodi fel tribiwnlysoedd datganoledig ym mharagraff 22?

Pennod 3: Strwythur newydd i system dribiwnlysoedd Cymru

Cynnig

Rydym yn cynnig creu system dribiwnlysoedd unedig i Gymru sy’n cynnwys dau dribiwnlys newydd, Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, o dan arweinyddiaeth farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Cyflwyniad

27. Yn y papur gwyn hwn, rydym wedi amlinellu cefndir hanesyddol y corff o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae natur dameidiog eu datblygiad, lle mae pob tribiwnlys wedi’i reoli gan ei fframwaith deddfwriaethol ei hun, yn golygu mai un o nodweddion ein system dribiwnlysoedd yn ei chyfanrwydd yw diffyg cysondeb a chydlyniaeth o ran gweinyddiaeth, arferion a gweithdrefnau. Fel yr ydym yn ei archwilio yn y Papur Gwyn hwn, mae’r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd wedi’u rheoli gan lywodraeth ganolog ac mae eraill, fel paneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion, yn dal yn gysylltiedig iawn â llywodraeth leol, ac mae strwythurau aelodaeth yn amrywio.

28. Er bod ein system dribiwnlysoedd yn rhoi mynediad effeithiol at gyfiawnder i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd ar y cyfan, gall y strwythur presennol fod yn anodd i ddefnyddwyr ei ddeall a byddai modd ei lunio’n well er mwyn i’r farnwriaeth reoli achosion ac adnoddau. 

29. Roedd Comisiwn y Gyfraith yn credu bod nifer o fanteision i uno’r tribiwnlysoedd datganoledig mewn un strwythur statudol:

  1. rhagor o gydlyniaeth drwy uno, gan alluogi tribiwnlysoedd i ddewis y gorau o’r trefniadau presennol a lleihau cymhlethdod i ddefnyddwyr ac aelodau tribiwnlysoedd
  2. codi proffil y corff o dribiwnlysoedd datganoledig fel ffordd o hwyluso mynediad at gyfiawnder i bobl Cymru
  3. gallu darparu ar gyfer datblygiadau tribiwnlysoedd datganoledig yn y dyfodol, yn benodol awdurdodaethau newydd neu ychwanegol.

30. Rydym yn credu y bydd un system dribiwnlysoedd i Gymru yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi’i ddatganoli mwy a mwy, ac mae Cymru’n gweinyddu ei system ehangach o lysoedd a thribiwnlysoedd.

System dribiwnlysoedd unedig i Gymru

31. Cafodd tribiwnlysoedd a gedwir a’u gweinyddiaeth eu diwygio’n helaeth yn dilyn adolygiad Syr Andrew Leggatt (“adroddiad Leggatt” - gweler Pennod 1: Cyflwyniad, paragraff 10), a ddaeth i’r casgliad canlynol:

Os yw am allu delio â’i lwyth gwaith yn effeithiol, ac i sicrhau bod y gyfraith yn datblygu’n gyson, rhaid i’r system dribiwnlysoedd gael strwythur cydlynol i’w gwneud yn bosibl rheoli llwyth gwaith yn effeithiol, hybu cysondeb, a hybu dull cyffredin o wneud penderfyniadau, o ddelio ag achosion, ac o reoli. (Report of the Review of Tribunals, paragraff 6.2)

32. O ganlyniad i Adroddiad Leggatt, ynghyd â’r gwaith o ddiwygio’r tribiwnlysoedd a gedwir o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 a ddarparodd y fframwaith ar gyfer llawer o argymhellion Adroddiad Leggatt, cafodd llawer o dribiwnlysoedd a gedwir eu gwahanu oddi wrth yr adrannau o’r llywodraeth a oedd yn eu noddi, a chael strwythur barnwrol ar wahân. Cafodd gweinyddiaeth ar wahân ei chreu i ddechrau hefyd, o dan gyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder.  Cafodd llawer o dribiwnlysoedd eu disodli â dim ond dau: Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig yn gwrando ar achosion o wahanol awdurdodaethau; a’r Uwch Dribiwnlys yn gwrando ar apeliadau o’r is dribiwnlys newydd. Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a’r Uwch Dribiwnlys wedi’u rhannu’n siambrau i reoli swyddogaethau penodol neu awdurdodaethau o’u tribiwnlys priodol. Cafodd y rôl Uwch Lywydd Tribiwnlysoedd ei chreu i arwain y farnwriaeth tribiwnlysoedd.

33. Nid oedd y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn rhan o gwmpas Adroddiad Leggatt na Deddf 2007.

34. Yn yr un modd, ni chafodd tribiwnlysoedd datganoledig yr Alban eu hystyried fel rhan o Adroddiad Leggatt. Roedd hi’n 2014 cyn y darparwyd ar gyfer strwythur tribiwnlysoedd newydd a oedd yn anelu at ddod â thribiwnlysoedd unigol (wedi’u rhestru yn Atodlen 1 i Ddeddf 2014) ynghyd mewn tribiwnlys haen gyntaf, sef “Tribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban”, a hynny ar ôl pasio Deddf Tribiwnlysoedd (yr Alban) 2014 (“Deddf 2014”). Mae Deddf 2014 hefyd yn darparu ar gyfer rhannu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban yn siambrau.

35. Argymhellodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, o darn gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr gynt (“Comisiwn Thomas”) y dylai’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd sy’n dyfarnu ar anghydfodau o dan y gyfraith sifil a gweinyddol berthyn i un system unedig yng Nghymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, argymhelliad 22, paragraff 5.56, tudalen 267). Roedd Comisiwn Thomas hefyd yn credu y dylai Uned Tribiwnlysoedd Cymru gael annibyniaeth strwythurol ac y dylid defnyddio tribiwnlysoedd Cymru i ddatrys anghydfodau sy’n ymwneud â deddfwriaeth Cymru yn y dyfodol (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, argymhelliad 27 a pharagraffau 6.59, 6.59.1 a 6.49.2, tudalen 291).

36. Gan adeiladu ar yr holl brofiadau hyn, yn ogystal â’i ymgynghoriad ei hun, mae Comisiwn y Gyfraith wedi argymell creu gwasanaeth tribiwnlysoedd ag annibyniaeth strwythurol i Gymru, sy’n cynnwys dau dribiwnlys cyffredinol newydd – un Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru a Thribiwnlys Apêl i Gymru (gweler Atodiad 2, argymhellion 1 ac 11 Comisiwn y Gyfraith). Caiff ein cynigion ar gyfer annibyniaeth strwythurol eu trafod ymhellach ym Mhennod 5 y Papur Gwyn hwn.

37. Rydym yn cynnig system dribiwnlysoedd unedig i Gymru sy’n cynnwys dau dribiwnlys cyffredinol newydd:

  1. Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, tribiwnlys y gwrandawiad cyntaf wedi’i rannu’n siambrau i fod yn gyfrifol am awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd a fydd yn trosglwyddo i’r strwythur unedig newydd, ac i ddarparu a chynnal arbenigedd barnwrol
  2. Tribiwnlys Apêl Cymru, y tribiwnlys apêl i wrando ar apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, hefyd wedi’i drefnu’n siambrau fel y bo’n briodol wrth i awdurdodaethau apêl gael eu trosglwyddo iddo a bod maint y gwaith apêl yn datblygu.

38. Rydym yn cynnig bod strwythur y system dribiwnlysoedd unedig yn hyblyg ei natur ac yn gallu darparu ar gyfer y canlynol:

  1. yr awdurdodaethau a drosglwyddir pan gaiff ei sefydlu
  2. creu siambrau newydd i fod yn gyfrifol am awdurdodaethau ychwanegol sy’n bodoli eisoes neu lwybrau apelio a drosglwyddir, neu lwybrau apelio newydd a gaiff eu creu gan newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol
  3. ychwanegu awdurdodaethau at siambrau sy’n bodoli eisoes
  4. trosglwyddo awdurdodaethau rhwng siambrau,

ac yn gallu gwneud hynny heb darfu gormodol.

39. Rydym yn cynnig bod strwythur cychwynnol y siambrau yn cael ei greu ar wyneb y Bil i ymgorffori awdurdodaethau tribiwnlysoedd penodol sy’n cael eu trosglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, fel yr amlinellir ym Mhennod 4. Wedi hynny, rydym yn cynnig y dylai strwythur y siambrau fod yn hyblyg er mwyn trefnu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru ymhellach, heb fod angen am ddeddfwriaeth sylfaenol bellach. Byddai hyn yn cynnwys pŵer i greu siambrau newydd ac i ddyrannu gwaith i’r siambrau hynny, ac i drosglwyddo awdurdodaethau iddynt a rhyngddynt, gan gynnwys trosglwyddo awdurdodaeth apeliadol i’r Tribiwnlys Apêl.

40. Rydym yn cynnig y dylid arfer y pŵer mewn cysylltiad â strwythur y siambrau drwy is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Y pŵer yw ychwanegu hyblygrwydd at y system dribiwnlysoedd newydd a sut mae ei gwaith yn cael ei drefnu. 

41. Y bwriad yw y bydd y pŵer yn cael ei arfer, er enghraifft, ar ôl sefydlu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru er mwyn trefnu awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru sy’n bodoli eisoes mewn strwythur sefydliadol. I gadw arbenigedd ac i wella’r gwasanaeth i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd, caiff awdurdodaethau eu rhoi mewn grwpiau er mwyn i farnwyr ac aelodau â'r sgiliau perthnasol ddelio â gwaith tebyg. Bwriad y system siambrau yw bod yn hyblyg er mwyn gallu gwneud newidiadau i’r ffiniau hynny yn hawdd wrth i lwyth gwaith y tribiwnlysoedd newid.

42. Rydym yn cynnig bod y pŵer yn ddarostyngedig i ddyletswydd i ymgynghori gydag, er enghraifft, Llywyddion Siambrau,  Dirprwy Lywyddion, aelodau eraill o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru/Tribiwnlys Apêl Cymru, aelodau o’r farnwriaeth ehangach, ymarferwyr a defnyddwyr tribiwnlysoedd, cyn gwneud yr offeryn statudol. Rydym yn croesawu safbwyntiau ynghylch a ddylai ymgyngoreion fod yn orfodol (ac os felly, pa rai) a’u henwi ar wyneb y Bil os felly, ynteu a fydd hi’n ddigonol mynnu bod Gweinidogion yn ymgynghori â’r sawl sy’n briodol yn eu barn nhw.

43. Rydym yn credu y bydd ein cynigion yn creu cydlyniaeth, symlder ac effeithlonrwydd yn y system gyfredol, yn cynyddu proffil cyhoeddus y tribiwnlysoedd, yn gwella profiad defnyddwyr tribiwnlysoedd ac, yn bwysig, yn gwella mynediad at gyfiawnder. Yn benodol, hoffwn sicrhau bod y strwythur sy’n cael ei fabwysiadu yn addas i’r diben heddiw ac yn ddigon hyblyg i fod yn barod at y dyfodol, gan allu darparu ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

44. Mae’r awdurdodaethau tribiwnlysoedd datganoledig i’w trosglwyddo i’r system newydd ar ôl ei sefydlu a’r amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud hyn wedi’u nodi ym Mhennod 4 (“Amserlen Diwygio”).

Cwestiwn ymgynghori 2

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer y system dribiwnlysoedd unedig i Gymru?

Barnwriaeth ac aelodaeth tribiwnlysoedd

45. Mae diffyg cysondeb o ran aelodaeth ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig sy’n bodoli eisoes.

46. Yn ymarferol, mae gan holl Dribiwnlysoedd Cymru (mae adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 yn rhestru’r tribiwnlysoedd sy’n cael eu hadnabod ar y cyd fel “Tribiwnlysoedd Cymru”) aelodaeth sy’n cynnwys deiliad swydd â rôl arweinyddiaeth farnwrol, ac aelodaeth ehangach y gellir ei rhannu’n aelodau cyfreithiol ac aelodau cyffredinol. Fodd bynnag, mae’r fframwaith deddfwriaethol a’r disgrifiad o gategorïau aelodau tribiwnlysoedd yn amrywio fesul tribiwnlys. Maent hefyd yn amrywio ar draws y tribiwnlysoedd eraill hynny nad ydynt yn rhan o gwmpas adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 ond sydd yn rhan o gwmpas y prosiect diwygio tribiwnlysoedd.

47. Er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o Dribiwnlysoedd Cymru Lywyddion sy’n aelodau barnwrol (bargyfreithwyr neu gyfreithwyr â phrofiad o gyfnodau penodol). Fodd bynnag, mae gan Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru Lywydd ac Is-lywydd. Mae aelodau o Dribiwnlys Addysg Cymru yn gymwys i ddelio ag unrhyw achos sy’n codi yn awdurdodaeth Tribiwnlys Apeliadau Cofrestredig Arolygwyr Ysgolion a Thribiwnlys Apeliadau Cofrestredig Arolygwyr Addysg Feithrin. Gwirfoddolwyr yw aelodau o Dribiwnlys Prisio Cymru. Yn gyffredinol, mae aelodau o’r tribiwnlysoedd adran 59 yn cael ffi, gyda nifer isel o aelodau cyflogedig. Nid oes yn rhaid i unrhyw aelod o’r Panel Apêl Derbyniadau i Ysgolion a’r Panel Apêl Gwaharddiadau o Ysgolion fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr.

48. Rydym yn cynnig y dylid sicrhau cydlyniaeth o ran aelodaeth tribiwnlysoedd yn strwythur unedig y system dribiwnlysoedd newydd. Er y bydd arweinyddiaeth farnwrol ym mhob siambr yn sicr o gynnal hunaniaeth ar wahân ar gyfer y siambr honno a gweithrediad ei hawdurdodaeth ar wahân o ddydd i ddydd, credwn y dylai hyn fod yn seiliedig ar gydlyniaeth strwythurol y system unedig sy’n gyson ag arferion da ar draws y system yn ei chyfanrwydd.

49. Felly, rydym yn cynnig y dylai Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru fod o dan arweinyddiaeth farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fel barnwr llywyddol, a bod Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn gallu eistedd fel barnwr yn y ddau dribiwnlys. Rydym hefyd yn cynnig y dylid cael strwythur aelodaeth cyson ar gyfer pob siambr:

  1. Rydym yn cynnig bod y strwythur ar gyfer aelodaeth pob un o siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru fel a ganlyn:
    1. Llywydd y Siambr
    2. Dirprwy Lywyddion Siambrau (lle bo angen, yn dibynnu ar ffactorau fel nifer y ceisiadau)
    3. Aelodau cyfreithiol
    4. Aelodau cyffredinol sy’n meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol yn seiliedig ar ofynion yr awdurdodaeth benodol.
  2. Rydym yn cynnig bod y strwythur ar gyfer aelodaeth Tribiwnlys Apêl Cymru fel a ganlyn:
    1. Llywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, yn rhinwedd eu swydd
    2. aelodau presennol Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr yn cael eu trawsneilltuo fel aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru yn ôl yr angen
    3. aelodau a benodir, fel yr amlinellir ym Mhennod 7.

Dylai fod lle i ddiwygio’r aelodaeth, er enghraifft wrth drefnu’r Tribiwnlys yn siambrau fel y bo’n briodol wrth i awdurdodaethau apêl gael eu trosglwyddo iddi, ac wrth i faint y gwaith apêl ddatblygu.

50. Mae aelodaeth gynaliadwy o dribiwnlysoedd sy’n adlewyrchu demograffeg ac amrywiaeth Cymru yn elfen allweddol o’r system dribiwnlysoedd newydd, ac mae Pennod 7 y Papur Gwyn hwn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer penodi i bob un o’r swyddfeydd uchod.

Cwestiwn ymgynghori 3

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer aelodaeth y tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig?

Pennod 4: Awdurdodaethau sy'n trosglwyddo i'r system dribiwnlysoedd

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • bod awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru, ynghyd ag awdurdodaethau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael eu trosglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, a’u trefnu’n siambrau fel y dangosir yn Ffigur 1
  • y dylid ystyried trosglwyddo awdurdodaethau ymhellach, boed yn rhai sy’n bodoli eisoes neu’n rhai a gaiff eu creu gan ddeddfwriaeth yn y dyfodol, fesul achos
  • y dylid trefnu Tribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau fel y bo'n briodol ac wrth i awdurdodaethau apêl gael eu trosglwyddo iddo, ac wrth i faint y gwaith apêl ddatblygu.

Cyflwyniad

51. Mae’r Bennod hon yn nodi pa rai o awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd datganoledig ddylai drosglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu. Ym Mhennod 2 rydym wedi nodi’r “tribiwnlysoedd datganoledig” sydd yn ein barn ni yn rhan o gwmpas ein cynigion i greu system dribiwnlysoedd unedig, ac ym Mhennod 3 rydym wedi nodi strwythur arfaethedig y system unedig honno sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

52. Bydd angen rheoli’n ofalus y broses o drosglwyddo awdurdodaethau tribiwnlysoedd datganoledig unigol i Dribiwnlys Haen Gyntaf newydd Cymru. Yn gyntaf, rhaid i’r broses o uno’r tribiwnlysoedd sy’n bodoli eisoes i’r tribiwnlys newydd osgoi tarfu ar weithrediad a busnes y tribiwnlysoedd hynny wrth iddynt drosglwyddo. Yn ail, rhaid i’r ffordd caiff y tribiwnlys newydd ei drefnu adlewyrchu arbenigedd pob awdurdodaeth a rhoi buddiannau defnyddwyr tribiwnlysoedd, a’u mynediad at gyfiawnder, wrth galon y gwaith diwygio.

Tribiwnlysoedd Cymru

53. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai Tribiwnlysoedd Cymru a ddiffinnir gan adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 (Pennod 2: Cwmpas ein diwygiadau, paragraffau 22 a 23) gael eu cyfuno mewn un tribiwnlys unedig. Rydym wedi nodi pam y mae angen diwygio ( Pennod 1: Cyflwyniad, paragraffau 12 i 14) ac mae ein cynigion ar gyfer system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol i Gymru wedi’u llywio gan gorff sylweddol o waith (Pennod 1: Cyflwyniad, paragraff 10). Cyn belled yn ôl â 2010, nod argymhellion Pwyllgor Cymru y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ar gyfer diwygio mewn perthynas â thribiwnlysoedd sy’n gweithredu yng Nghymru oedd “...hyrwyddo system fwy integredig sy’n canolbwyntio’n well ar ddefnyddwyr” (Y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Pwyllgor Cymru 2010 - Adolygiad o Dribiwnlysoedd sy'n Gweithredu yng Nghymru, tudalen 3). Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith y dylid trosglwyddo Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 4

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Tribiwnlys Prisio Cymru

54. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad, yn absenoldeb rhwystrau a phroblemau ymarferol sy’n dangos bod angen gweithredu’n wahanol, y dylid trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

55. Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith y dylid ymgorffori Tribiwnlys Prisio Cymru yn y system dribiwnlysoedd newydd. Nid yw natur ei awdurdodaeth yn golygu ei bod yn wahanol iawn i Dribiwnlysoedd Cymru nac yn cyfiawnhau ei fod yn parhau fel tribiwnlys annibynnol ar wahân.

56. Fodd bynnag, bydd angen delio â materion ymarferol sy’n gysylltiedig â chysoni Tribiwnlys Prisio Cymru â Thribiwnlysoedd Cymru yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Mae’r model ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau, er enghraifft, yn wahanol yn Nhribiwnlys Prisio Cymru o’i gymharu â Thribiwnlysoedd Cymru. Mae paneli’r Tribiwnlys Prisio wedi’u strwythuro mewn ffordd debyg i’r ynadaeth leyg ac maent yn cynnwys aelodau lleyg a gynghorir gan glerc arbenigol. Ar ben hynny, gwirfoddolwyr yw’r aelodau lleyg hynny ac nid ydynt yn cael tâl, yn wahanol i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru sydd i gyd bron yn cael ffi (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Judicial Daily Sitting Fees - mewn grym ers 1 Ebrill 2022 - a Judicial Daily Sitting Fees for Sitting in Retirement Posts - mewn grym ers 1 Ebrill 2022 - yn cynnwys cyfraddau i aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru). Hefyd, bydd angen asesu unrhyw rwymedigaethau a allai godi o drosglwyddo Tribiwnlys Prisio Cymru i’r system dribiwnlysoedd newydd (proses yr ydym wedi’i dechrau), ynghyd â’r goblygiadau i staff yn sgil cynigion yn y papur gwyn hwn i greu un corff hyd braich i weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd.

57. Credwn ei bod hi’n bosibl delio â’r materion ymarferol hyn. Mae’n bosibl, fel y dywedodd Comisiwn y Gyfraith, y gellid ymgorffori model cyfredol Tribiwnlys Prisio Cymru ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf pan gaiff ei sefydlu a gellid ystyried yr angen i’w ddiwygio yn y dyfodol fel rhan o ddatblygiad parhaus cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru. Ond bydd angen inni weithio drwy’r materion i benderfynu a oes unrhyw rai yn dirymu’r bwriad i drosglwyddo’r Tribiwnlys Prisio i’r system dribiwnlysoedd newydd neu’n awgrymu y byddai’n well pe bai hynny’n digwydd yn ddiweddarach. 

58. Pe na bai awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu, a chyn ei drosglwyddo i’r strwythur yn y dyfodol, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai, serch hynny, fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yr ydym yn cynnig y bydd ganddo ddyletswyddau a swyddogaethau statudol newydd. Bydd hyn yn cryfhau annibyniaeth farnwrol, yn cynyddu cydlyniant â’r system tribiwnlysoedd datganoledig ehangach, ac yn cynrychioli buddiannau’r tribiwnlys yn y Senedd. Rydym yn cytuno. Yn y sefyllfa hon, byddai’n rhaid ystyried perthynas y Llywydd â Chyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys Prisio.

Cwestiwn ymgynghori 5

Ydych chi’n cytuno y dylid, mewn egwyddor, trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn ymgynghori 6

Ydych chi’n cytuno, os na fydd awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, y dylai ddal i fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

59. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Roedd hyn yn dilyn argymhelliad tebyg gan Bwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Cymru a oedd, yn ei adroddiad yn 2016 ar y dirwedd cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, wedi argymell (Cyfiawnder gweinyddol: sylfaen cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, argymhelliad 24, tudalen 12) y dylai Llywodraeth Cymru archwilio rhinweddau ymestyn awdurdodaeth Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar y pryd, sef Tribiwnlys Addysg Cymru bellach, i fod yn dribiwnlys cenedlaethol ar gyfer apeliadau derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.

60. Dywedodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, (“Comisiwn Thomas”) hefyd:

Mae'n bryder gennym nad yw paneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion yn gweithredu heb unrhyw fath o graffu barnwrol, ar wahân i'r achosion prin iawn hynny lle bydd gwaharddiad yn arwain at gais am adolygiad barnwrol. Mae rôl barnwyr yn y gwaith o ddyfarnu ar anghydfodau'n ymwneud ag addysg disgyblion wedi cynyddu'n raddol dros amser wrth i swyddogaethau cyrff cyhoeddus gynyddu. Credwn fod angen arfarniad trwyadl o'r ffordd y gweithredir paneli apêl awdurdodau lleol, a goruchwyliaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru o'u prosesau gwneud penderfyniadau. (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 6.47, tudalen 287)"

61. Rydym yn cytuno â’r argymhellion hyn ac yn cynnig y dylai awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion gael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac y dylid dyfarnu arni fel rhan o system tribiwnlysoedd annibynnol Cymru. Nid ydym yn credu mai ar chwarae bach mae’r rhai sy’n ymwneud â gwahardd plentyn o ysgol yn ystyried y penderfyniadau hynny, ond mae canlyniadau gwahardd o’r ysgol i blentyn ac i ysgol o’r arwyddocâd mwyaf. Mae’n hanfodol bod y broses o wneud penderfyniadau yn gyson ac yn gwbl annibynnol.

Cwestiwn ymgynghori 7

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Paneli apêl derbyniadau i ysgolion

62. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad, am y tro o leiaf, y dylai paneli apêl derbyniadau i ysgolion, fel y disgrifir yn Atodiad 3, aros y tu allan i’r system dribiwnlysoedd unedig newydd a chael eu gweinyddu gan awdurdodau derbyn. 

63. Wrth ddod i’r casgliad hwn, tynnodd Comisiwn y Gyfraith sylw at wybodaeth leol a chyfnodau brig tymhorol mewn llwyth achosion fel y ffactorau sy’n pennu. Roedd hefyd yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd y dull hwn yn cadw’r system mewn sefyllfa is-optimaidd o ran annibyniaeth ar gyfer apeliadau derbyniadau i ysgolion, sy’n nodwedd ddylunio allweddol mewn tribiwnlysoedd eraill. Yn rhannol, ac i liniaru goblygiadau’r sefyllfa hon, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

64. Rydym wedi cyfeirio at y corff o waith sydd wedi argymell diwygio paneli apêl derbyniadau i ysgolion a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion(gweler paragraff 60 o’r Bennod hon o’r Papur Gwyn). Rydym hefyd yn nodi’r cymhlethdodau logistaidd a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith o ran trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion.

65. Ein casgliad yw y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion, yn yr hirdymor, gael ei hymgorffori yn y system dribiwnlysoedd newydd yn y pen draw. Bwriad y strwythur yr ydym yn ei gynnig ar gyfer ein system dribiwnlysoedd yw bod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion. Fodd bynnag, mae’n bwysig ar sail ymarferol bod y broses o gronni awdurdodaethau newydd yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn cael ei chyflwyno’n raddol a bod rhywfaint o flaenoriaethu, yn seiliedig ar bwysigrwydd y pwnc a’r cymhlethdod logistaidd ymysg ffactorau eraill. Felly, rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith y dylai paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael eu gweinyddu gan awdurdodau derbyn ar hyn o bryd, ond y dylid cael hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ar bwyntiau cyfreithiol.

Cwestiwn ymgynghori 8

Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael ei gweinyddu gan awdurdodau derbyn am y tro?

Cwestiwn ymgynghori 9

Ydych chi’n cytuno y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Trefnu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

66. Ym Mhennod 3 rydym wedi cynnig y dylid trefnu gwaith y ddau dribiwnlys newydd yn siambrau. Bydd strwythur y siambr yn darparu ar gyfer yr awdurdodaethau sy’n trosglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd. Felly, mae angen eu hadeiladu’n ofalus i ddarparu ar gyfer natur arbenigol pob awdurdodaeth. Dylid cyfuno awdurdodaethau mewn siambrau unigol lle mae synergedd a lle mae’n briodol gwneud hynny’n ymarferol ac yn weithredol.

67. Mae ein strwythur arfaethedig ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd wedi’i ddylunio gyda digon o hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer trosglwyddo awdurdodaethau, creu siambrau newydd a dyrannu’r gwaith rhwng siambrau. Ein bwriad, gan weithio gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac uwch gyd-weithwyr barnwrol y Llywydd yn y system dribiwnlysoedd newydd, yw parhau i adolygu trefniadaeth y system dribiwnlysoedd newydd. Mae hyn yn golygu y bydd lle i ychwanegu awdurdodaethau sy’n bodoli eisoes yn ddiweddarach os nad ydynt yn cael eu trosglwyddo pan gaiff y system newydd ei sefydlu, i greu siambrau newydd ac i newid dyraniad y gwaith rhwng siambrau.

68. Ar ben hynny, rydym yn cynnig y bydd yr hyblygrwydd sydd wedi’i ddylunio fel rhan o’r system dribiwnlysoedd newydd i ddarparu ar gyfer awdurdodaethau yn gallu ymgorffori awdurdodaethau yn y system gyfiawnder yng Nghymru a allai godi yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’r Comisiwn ar Ddyfodol y DU (y cyfeirir ato’n gyffredin fel Comisiwn Brown) a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU wedi argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru (A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy. Gweler “Enhancing Wales’ powers of self-government” ac argymhelliad 24, tudalennau 112 -113). Mewn sawl ffordd, gallai lleoliad tribiwnlys fod yn well na llys ar gyfer materion cyfiawnder ieuenctid, gan fod tribiwnlysoedd yn ddull mwy anffurfiol o ddyfarnu ar faterion o’u cymharu â llysoedd. Felly, rydym yn cynnig parhau i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a sut byddai’n gweddu i’r system dribiwnlysoedd newydd, er enghraifft plethu cyfiawnder ieuenctid ag ystod ehangach o faterion sy’n ymwneud â’r plentyn gan gynnwys lles, iechyd ac addysg.

69. Rydym yn cynnig y dylid nodi’r strwythur siambr cychwynnol ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru mewn deddfwriaeth sy’n sefydlu’r system dribiwnlysoedd newydd. Mae’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig wedi’i amlinellu yn Ffigur 1 isod.

Strwythur siambr cychwynnol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

  • Tribiwnlys Tir Amaethyddol a Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn symud i Eiddo
  • Panel Dyfarnu Cymru yn symud i Safonau
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn symud i Iechyd Meddwl
  • Tribiwnlys y Gymraeg yn symud i'r Gymraeg
  • Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig, Tribiwnlys Addysg Cymru, Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion, Apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol gan baneli apêl derbyniadau i ysgolion yn symud i Addysg
  • Tribiwnlys Prisio Cymru yn symud i Trethu
  • Ni chynigir trosglwyddo unrhyw awdurdodaethau sy’n bodoli eisoes ond cynigir creu siambr hollgynhwysfawr i’w sefydlu eisoes ac sy’n gallu ymgorffori awdurdodaethau eraill nad ydynt yn cyd-fynd â’r Siambrau eraill, e.e. diogelu data a materion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 - yn symud i Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol.

Cwestiwn ymgynghori 10

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Yr egwyddor ar gyfer llwybrau apêl mewn deddfwriaeth Gymreig ddatganoledig

70. Un o egwyddorion allweddol y system dribiwnlysoedd newydd i Gymru yw y bydd yn gallu addasu i ofynion sy’n newid heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth sylfaenol. Er ein bod yn cynnig y bydd y strwythur ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu yn cael ei roi ar waith gan y ddeddfwriaeth sy’n creu’r system newydd, darperir ar gyfer natur ac amseriad newidiadau i’r system yn y dyfodol yn y strwythur yr ydym wedi’i nodi ym Mhennod 3.

71. Dywedodd Comisiwn Thomas nad yw tribiwnlysoedd Cymru wedi cael eu defnyddio’n ddigonol fel ffordd o orfodi deddfwriaeth Cymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 16, tudalen 13). Ym marn y Comisiwn:

Dylai tribiwnlysoedd Cymru gael eu defnyddio i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth Gymreig yn y dyfodol. Bu tuedd yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad iddi nodi y dylid mynd ati i ddatrys anghydfodau yn y Llys Sirol neu yn y llysoedd a'r tribiwnlysoedd nad ydynt wedi'u datganoli. Ystyriwn fod hyn yn anghyson pan fo tribiwnlysoedd arbenigol yn bodoli yng Nghymru sydd â'r cymhwysedd a'r gallu i ddyfarnu ar anghydfodau. (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 6.59.2, tudalen 291)

72. Rydym yn cynnig mai ein hegwyddor arweiniol yw y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru fel rheol gyffredinol, oni bai fod amgylchiadau sy’n mynnu fel arall wedi’u nodi gan ddadansoddiad llawn a manwl o bob cynnig.

73. Yn ogystal ag awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd datganoledig yr ydym wedi’u nodi ym Mhennod 2, mae nifer o lwybrau apêl i lysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, er enghraifft i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Yn unol â’n hegwyddor arweiniol, rydym o’r farn y dylid symud llwybrau apêl o’r fath yn raddol i’r system newydd yng Nghymru. Er enghraifft, gwneir apeliadau sy’n ymwneud â threthi datganoledig (y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi) i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU (Siambr Dreth) ac i Uwch Dribiwnlys y DU (Siambr Dreth a Siawnsri), ac yn fan yno y gwrandewir arnynt, cyn mynd ymlaen i’r Llys Apêl perthnasol. Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar drosglwyddo’r awdurdodaethau hyn i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, o bosibl Siambr Drethi Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, fel rhan o sefydlu’r system dribiwnlysoedd unedig yng Nghymru. Mae nifer yr achosion sy’n dod gerbron tribiwnlysoedd y DU ar hyn o bryd yn gyfyngedig ac felly rydym yn cynnig ystyried y mater hwn maes o law. Bydd ystyriaethau mewn perthynas â’r llwybr apêl ar gyfer unrhyw drethi Cymreig yn y dyfodol yn cael eu hystyried fesul achos.

74. Y pŵer yr ydym yn ei gynnig i Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i drefnu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau yw’r mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i addasu’r system dribiwnlysoedd newydd i ymgorffori llwybrau apêl ychwanegol dros amser. I ddechrau, efallai y bydd llwyth gwaith Tribiwnlys Apêl Cymru yn golygu na fydd angen siambrau ar wahân.

Cwestiwn ymgynghori 11

Ydych chi’n cytuno, fel egwyddor arweiniol, y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru?

Cwestiwn ymgynghori 12

A oes unrhyw fathau penodol o anghydfod o dan gyfraith ddatganoledig sydd, yn eich barn chi, yn arbennig o addas i gael eu datrys gan dribiwnlys?

Tribiwnlys Apêl Cymru

75. Elfen allweddol o strwythur unedig a chydlynol y system dribiwnlysoedd newydd arfaethedig yw Tribiwnlys Apêl Cymru, y corff apeliadol cyntaf yng Nghymru yn ei hanes cyfreithiol. Rydym yn ystyried Tribiwnlys Apêl Cymru yn gyfrwng i ddatblygu cyfraith ddatganoledig Cymru mewn ffordd gydlynol ac unigryw i Gymru.

76. Mae’r llwybrau apêl cyfredol o’r tribiwnlysoedd datganoledig wedi datblygu’n dameidiog dros amser ac maent i raddau helaeth yn gynnyrch datblygiad hanesyddol y tribiwnlysoedd datganoledig, yn hytrach na chynnyrch dull gweithredu cydlynol ar gyfer system Cymru o dribiwnlysoedd datganoledig, y mae llwybrau apêl yn rhan annatod ohonynt. Yn ei ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, dywedodd Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y pryd:

... nid oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol dros apeliadau o rai tribiwnlysoedd (lleiafrif) yn mynd i’r Uchel Lys tra bo apeliadau o’r tribiwnlysoedd sy’n weddill (y mwyafrif) yn mynd i Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr. Yn fy marn i, mae’r llwybrau apêl presennol yn ganlyniad i ddatblygiadau hanesyddol a gynhaliwyd fesul tipyn a heb gyfeirio at yr amcan cyffredinol o gael strwythur tribiwnlysoedd cydlynol ar waith, gyda llwybrau apêl yn rhan annatod ohonynt. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.12, tudalen 60)

77. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid creu Tribiwnlys Apêl i Gymru (gweler Atodiad 2, argymhellion 11 Comisiwn y Gyfraith) ac y dylid ychwanegu awdurdodaethau at y Tribiwnlys Apêl dros amser. Hefyd, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai’r mecanwaith ar gyfer hyn fod yn bŵer i Weinidogion Cymru, drwy offeryn statudol, sefydlu siambrau’r Tribiwnlys Apêl a throsglwyddo awdurdodaethau apeliadol iddo dros amser (gweler Atodiad 2, argymhellion 12 Comisiwn y Gyfraith).

78. Ond roedd Comisiwn y Gyfraith hefyd yn cydnabod mai lleoliad priodol apeliadau o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru oedd un o’r pynciau anoddaf a gafodd sylw yn ei adolygiad. Gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ganddo i lywio ei argymhellion, dywedodd Comisiwn y Gyfraith:

Mae nifer o arweinwyr presennol tribiwnlysoedd adran 59 wedi ymateb i’r ymgynghoriad gan egluro bod eu llwybr apêl presennol yn gweithio’n dda i’w tribiwnlys, ac y dylid ei gadw. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso’r awydd hwn i gadw llwybrau apêl cyfredol yn erbyn yr angen i sicrhau bod y system yn gydlynol ac yn gweithio’n dda yn ei chyfanrwydd; ei bod yn gallu datblygu a darparu ar gyfer llwybrau apêl newydd. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.47, tudalen 69)

79. Mae safbwyntiau ar ddiogelu’r llwybrau presennol ar gyfer apeliadau pellach hefyd wedi cael eu cyfleu i ni yn y trafodaethau yr ydym wedi’u cynnal ag Arweinwyr Barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’r rhain yn amlwg yn safbwyntiau sydd wedi cael eu hystyried yn ofalus ac maent wedi’u gwneud gan arweinwyr barnwrol sydd â phrofiad sylweddol.

80. Ym marn Comisiwn y Gyfraith, mae cyflwyno Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig yn creu ysgogiad cryf ar gyfer un llwybr apêl i Dribiwnlys Apêl Cymru. Dywedodd Comisiwn y Gyfraith:

Yn ddiau, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i greu system sy’n syml, yn reddfol ac yn gydlynol, tra bod creu llwybrau apelio gwahanol o’r cychwyn yn peryglu’r amcan hwnnw. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.47, tudalen 69)

81. Er bod Comisiwn y Gyfraith yn argymell deddfu i greu Tribiwnlys Apêl i Gymru, mae’n dweud y dylem wneud hynny:

…gyda’r bwriad o ddod â’r darpariaethau hynny i rym a sefydlu tribiwnlys pan fydd gan Lywodraeth Cymru ddarlun cliriach o sut mae’r system dribiwnlysoedd yn debygol o ddatblygu. Dylai’r ddeddfwriaeth gynnwys pwerau i drosglwyddo awdurdodaethau i’r Tribiwnlys Apêl… Byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn gallu dod â Thribiwnlys Apêl Cymru i fodolaeth a’i roi ar waith pan fydd hynny’n briodol.

82. Rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith i greu Tribiwnlys Apêl i Gymru a’r ffordd y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i’r Tribiwnlys Apêl, a’u trefnu’n siambrau. Ein dyhead, os yw’n bosibl, fyddai i Dribiwnlys Apêl Cymru fod yn weithredol mewn o leiaf rhai awdurdodaethau o’r un adeg y daw Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i fodolaeth.

83. Er amlygrwydd y rhai sy’n mynegi barn groes, nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hi’n synhwyrol yn y pen draw cael llwybrau apelio gwahanol o wahanol siambrau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Gallai hyn danseilio cydlyniaeth a hygyrchedd y system, a statws a hygrededd y sefydliadau newydd, yn ogystal ag apêl y rolau ynddynt. Yn ein barn ni, Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud.

84. Ond wrth gwrs mae’n hanfodol nad yw Tribiwnlys Apêl Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau nad yw’r farnwriaeth yn hyderus ei fod wedi’i baratoi’n briodol ar eu cyfer. Felly, rydym yn cynnig y dylai pŵer Gweinidogion Cymru i drosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru drwy is-ddeddfwriaeth fod gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 13

Ydych chi’n cytuno y dylid cael Tribiwnlys Apêl i Gymru?

Cwestiwn ymgynghori 14

Ydych chi’n cytuno mai Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud?

Cwestiwn ymgynghori 15

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru dros amser ac y dylid eu trefnu’n siambrau drwy is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

Pennod 5: Annibyniaeth

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • y dylai pawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod o dan ddyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • creu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Cyflwyniad

86. Annibyniaeth farnwrol yw’r egwyddor sy’n llywio’r ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi ac a fydd yn parhau i gael eu cefnogi yng Nghymru. Er bod ein dull o weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru drwy Uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi datblygu dros amser, mae’r Uned yn dal yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae diogelu annibyniaeth farnwrol a rhoi rhagor o annibyniaeth strwythurol i weinyddu cyfiawnder yn un o amcanion allweddol y diwygiadau strwythurol yr ydym yn eu cynnig i foderneiddio ein system dribiwnlysoedd yng Nghymru.

Dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth

87. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith ddyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth y tribiwnlysoedd datganoledig (gweler Atodiad 2, argymhelliad 52 Comisiwn y Gyfraith). Roedd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) o’r farn ei bod hi’n hanfodol bod gan y farnwriaeth a sefydliadau eraill berthynas annibynnol â Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ac y dylai dyletswydd statudol o ran annibyniaeth fod ar waith (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 12.177). Mae Statud yn gwneud darpariaeth sydd wedi’i dylunio i sicrhau annibyniaeth farnwrol barhaus ar lefel y DU,  ond nid oes amddiffyniad statudol ar hyn o bryd ar gyfer annibyniaeth sy’n berthnasol ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig. Rydym o’r farn bod dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth yn gyson â datblygiad parhaus ein system o dribiwnlysoedd datganoledig fel conglfaen system gyfiawnder eginol Cymru.

88. Rydym yn cynnig y gallai dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth farnwrol fod yn berthnasol i bawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder gan fod hynny’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig ac i aelodau’r tribiwnlysoedd newydd. Felly, gallai’r ddyletswydd fod yn berthnasol o bosibl i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol ac unrhyw unigolion eraill sy’n cyflawni cyfrifoldeb mewn cysylltiad â’r tribiwnlysoedd newydd.

89. Dylai’r ddyletswydd gynnwys dyletswydd i roi sylw i’r angen i roi’r lefel angenrheidiol o gymorth i aelodau’r tribiwnlysoedd i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau.

90. Gallai’r ddyletswydd hefyd fod yn berthnasol i bob Aelod o’r Senedd, gan mai’r Senedd sy’n bennaf gyfrifol am drefniadau cyfansoddiadol Cymru ac am benderfyniadau ar wariant cyhoeddus, gan gynnwys lefel y cyllid a fyddai ar gael ar gyfer gweithredu’r tribiwnlysoedd. Nodwn fod dyletswydd debyg yn berthnasol i Aelodau o Senedd yr Alban. Fodd bynnag, er ein bod yn gobeithio y byddai bob Aelod o’r Senedd yn cefnogi annibyniaeth y farnwriaeth, mae cwestiynau dilys y gellid eu gofyn am oblygiadau ymarferol dyletswydd o’r fath ac a allai effeithio ar ryddid mynegiant yn ystod trafodion y Senedd. Felly, byddem yn credu mai cyfrifoldeb Comisiwn y Senedd fyddai ystyried a fyddai’n briodol cynnwys dyletswydd o’r fath.

Cwestiwn ymgynghori 16

Ydych chi’n cytuno y dylai’r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol fod yn berthnasol i bawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae hynny’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

Cwestiwn ymgynghori 17

Pwy, yn eich barn chi, y dylid eu cynnwys ar y rhestr o’r rhai sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

Llw barnwrol

91. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai pob aelod yn y system dribiwnlysoedd newydd orfod tyngu llw neu gadarnhad barnwrol (gweler Atodiad 2, argymhelliad 53 Comisiwn y Gyfraith).

92. Ar hyn o bryd, dim ond Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru sy’n gorfod tyngu’r llw teyrngarwch a’r llw barnwrol fel y nodir yn adrannau 2 a 4 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868 (paragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf Cymru 2017). I’r gwrthwyneb, mae gofynion cyfreithiol tebyg yn berthnasol i holl aelodau Tribiwnlysoedd yr Alban (paragraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (yr Alban) 2014) ac i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, ac i holl aelodau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU (paragraff 11 o Atodlen 1, paragraff 9 o Atodlen 2, paragraff 10 o Atodlen 3 a pharagraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007). Mae ffurf y llw barnwrol yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon (Adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2002).

93. Mae gan lwon arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd clir ar draws systemau cyfiawnder y DU. Mae ganddynt hefyd arwyddocâd ymarferol o ran y canfyddiad o annibyniaeth farnwrol. Wedi dweud hynny, mae dadl resymegol na ddylai system gyfiawnder fodern ddibynnu ar ddeiliaid swyddi’n tyngu llwon i gadarnhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau priodol o dan arweiniad egwyddorion cydraddoldeb, triniaeth deg a rheolaeth y gyfraith. Byddai gofynion ar unigolion i weithredu mewn ffyrdd penodol yn fwy clir o ran bod yn draddodadwy pe baent wedi’u hysgrifennu’n uniongyrchol mewn statud neu’n fater o gontract a ymgorfforir gan delerau ac amodau penodiad unigolyn fel aelod o’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru.

94. Fodd bynnag, os bydd yn rhaid i holl aelodau’r system dribiwnlysoedd newydd dyngu llw neu gadarnhad er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o annibyniaeth farnwrol, credwn y bydd llunio ffurf fodern ar lw neu gadarnhad yn gydnaws ag ethos system dribiwnlysoedd fodern newydd Cymru. Gallai llw neu gadarnhad o’r fath fod yn debyg i’r canlynol yn fras:

Yr wyf i .… yn tyngu [neu yn cadarnhau’n ddifrifol ac yn ddiffuant ac yn gywir] y byddaf yn gwasanaethu’n gymwys ac yn ffyddlon yn swydd .… ac y byddaf yn delio’n gywir â phob math o bobl heb ofn na ffafr, na hoffter na drwgdeimlad, yn unol â chyfreithiau ac arferion y deyrnas hon.

Cwestiwn ymgynghori 18

A oes angen i holl aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru dyngu llw neu gadarnhad o’u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol?

Cwestiwn ymgynghori 19

A oes gennych farn ar ffurf arfaethedig y llw neu’r cadarnhad, os caiff un ei fabwysiadu?

Annibyniaeth strwythurol

95. Mae ailfodelu gweinyddiaeth ein system gyfiawnder eginol yng Nghymru yn rhan angenrheidiol o’r daith tuag at adeiladu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy’n gallu mabwysiadu awdurdodaethau a thyfu ac esblygu dros amser.

96. Daeth Comisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith i’r casgliad nad yw’r trefniadau presennol ar gyfer gweinyddu Tribiwnlysoedd Cymru, lle mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru, sydd wedi’i gwreiddio yn Llywodraeth Cymru ac sy’n rhan ohoni, yn darparu gwasanaethau cymorth gweinyddol, yn sefydlu’r canfyddiad o annibyniaeth farnwrol yn ddigonol.

97. Roedd hi’n well gan Gomisiwn Thomas weld cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu tribiwnlysoedd datganoledig yn cael ei ddiwygio ar sail model Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraffau 12.162 i 12.165) sy’n gorff corfforedig a sefydlwyd drwy statud. Argymhellodd y Comisiwn y dylai Uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn strwythurol annibynnol ar Lywodraeth Cymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraffau 6.58 i 6.59).

98. Hefyd, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith annibyniaeth strwythurol ar gyfer gweinyddu system y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol (gweler Atodiad 2, argymhelliad 51 Comisiwn y Gyfraith). Er bod Comisiwn y Gyfraith yn cynnig rhai egwyddorion cyffredinol i lywio’r gwaith o ddylunio a sefydlu corff, nid oedd Comisiwn Thomas na Chomisiwn y Gyfraith yn cynnig unrhyw argymhellion manwl ynghylch strwythur, cyfansoddiad a swyddogaethau’r corff (er iddynt fynegi barn ar ei statws, a drafodir ymhellach isod).

99. Rydym yn cytuno bod yn rhaid i’r farnwriaeth fod yn annibynnol ar ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y llywodraeth, a bod hynny i’w weld yn glir. Y cwestiwn sylfaenol i’w ateb felly yw ai’r peth gorau ar gyfer annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd yw bod swyddogaethau gweinyddu’r system yn rhan o Lywodraeth Cymru ynteu ar wahân iddi.

100. Mae dau brif fodel y gellid eu defnyddio i weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, gan ddarparu ar gyfer rhagor o annibyniaeth strwythurol hefyd:

  1. Gellid gwneud trefniadau gweinyddol, er enghraifft drwy ddogfen fframwaith. Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF), er enghraifft, wedi’i sefydlu mewn statud. Caiff ei ddisgrifio’n gyffredin fel asiantaeth weithredol sy’n gyfrifol am swyddogaethau gweinyddol llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, ac mae’n rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae GLlTEF bellach yn cael ei reoli ar y cyd gan y weithrediaeth a’r farnwriaeth  gydag Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn eistedd ar y bwrdd, gan gryfhau’r annibyniaeth farnwrol wrth weinyddu tribiwnlysoedd (Caiff GLlTEF ei rheoli gan ddogfen fframwaith sy’n nodi trefniadau partneriaeth rhwng yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd).
  2. Fel arall, gellid pennu lefel yr annibyniaeth drwy statud. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yn enghraifft o gorff corfforedig statudol (Rhan 4 ac Atodlen 3 Deddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008) sy’n annibynnol ar Lywodraeth yr Alban, ac sydd â’r swyddogaeth o ddarparu cymorth gweinyddol i lysoedd a thribiwnlysoedd yr Alban.

101. Wrth gynnig model, ein hamcan yw creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb dros swyddogaethau gweithredol a gweinyddol y system dribiwnlysoedd newydd (gyda lefel briodol o gyfranogiad barnwrol yn hynny o beth), a swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn y drefn honno. Er bod y swyddogaethau gweithredol a gweinyddol hyn yn rhai gweithredol yn hytrach na barnwrol, ar y cyfan credwn ei bod hi’n briodol bod y swyddogaethau hyn yn cael mwy o wahaniad oddi wrth y llywodraeth nag y gellir ei ddarparu os ydynt yn parhau i gael eu cyflawni gan gangen o lywodraeth, er enghraifft gan asiantaeth weithredol.

102. Felly, rydym yn cynnig deddfu i greu corff corfforedig fel endid cyfreithiol ar wahân, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd. Credwn y bydd y model hwn yn darparu’r gwahaniad strwythurol a’r annibyniaeth oddi wrth y Llywodraeth sy’n cyd-fynd â’r egwyddor arweiniol o annibyniaeth farnwrol, a chryfder y farn a fynegwyd gan Gomisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith.

Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales

103. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” yw ein henw ar gyfer y corff statudol arfaethedig. Bydd ei enw’n cael ei ystyried a’i gadarnhau’n ffurfiol maes o law.

104. Wrth gwrs, bydd perthynas barhaus rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a bydd ei natur yn seiliedig ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei sefydlu.

105. Pwrpas Tribiwnlysoedd Cymru fydd ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros y gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd drwy arfer y swyddogaethau a’r pwerau a roddir iddo gan ddeddfwriaeth sylfaenol o fewn y gyllideb a bennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fframweithiau deddfwriaethol a llywodraethu a roddir ar waith yn diffinio i ba raddau y mae Gweinidogion Cymru yn atebol dros Dribiwnlysoedd Cymru.

106. Mae ein strwythur a’n trefn lywodraethu arfaethedig ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru wedi’u nodi yn Nhabl 1 isod. Yn wahanol i’r trefniadau presennol, rydym yn cynnig ei fod yn cael ei lywodraethu gan fwrdd. Byddai gan y Bwrdd gyfuniad o aelodau gweithredol, anweithredol a barnwrol. Ei brif swyddogaeth fyddai goruchwylio’r gwaith o lywodraethu a gweithredu’r corff.

107. Mae ein cynigion yn cynnwys gofyniad i’r Bwrdd gynhyrchu cynllun corfforaethol a chyhoeddi adroddiad a chyfrifon blynyddol, fel sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau yn gyffredinol. Byddai disgwyl i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am berfformiad gweithredol y tribiwnlysoedd a’u siambrau – gan gynnwys mesurau sy’n ymwneud â’r effeithlonrwydd gweithredu a pha mor aml mae penderfyniadau pob siambr yn cael eu hapelio neu eu newid ar sail adolygiad mewnol. Byddem hefyd yn disgwyl i’r adroddiad gynnwys mesurau boddhad defnyddwyr (lle bo hynny’n bosibl).

108. Mae creu Bwrdd sy’n cynnwys goruchwyliaeth farnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd yn darparu’r sylfaen ar gyfer casglu gwybodaeth perfformiad allweddol am weithrediad y system. Byddai mesurau perfformiad allweddol i’w monitro gan y Bwrdd yn cael eu pennu maes o law. Rydym yn ystyried bod y rhain yn cynnwys materion fel defnyddio’r Gymraeg yn y system dribiwnlysoedd, profiadau gwahaniaethol defnyddwyr tribiwnlysoedd o wahanol gefndiroedd, ac amrywiaeth aelodau tribiwnlysoedd.

109. Mae’r cynigion yn Nhabl 1 yn cynnwys pŵer cyfyngedig i Lywodraeth Cymru bennu gofynion ar gyfer y Bwrdd; er enghraifft, gallai’r rhain gynnwys darpariaethau y mae’r llywodraeth yn credu y byddai’n ddefnyddiol eu cynnwys yn ei adroddiad blynyddol.

110. Adroddiadau blynyddol yw un o’r ffyrdd y cynhelir deialog rhwng gwahanol ganghennau’r llywodraeth – ond nid dyma’r unig ffordd y byddem yn disgwyl i’r ddeialog honno barhau. Er enghraifft, mae’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cwrdd yn rheolaidd â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a byddem yn disgwyl i hynny barhau. Mae’n bwysig cyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd am weithrediad y gyfraith ac effaith penderfyniadau’r llywodraeth.

111. Yn yr un modd, er nad yw’r rhain oll yn faterion i’r llywodraeth, rydym wedi croesawu’r arfer o wahodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rheolaidd i ymddangos gerbron un o Bwyllgorau’r Senedd i drafod ei adroddiad blynyddol, ac o drafod yr adroddiad hwnnw yn y Senedd. Byddem yn croesawu arfer tebyg yn datblygu mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol Tribiwnlysoedd Cymru.

112. Un pwynt penodol i dynnu sylw ato yw ein bod yn cynnig y dylai Cadeirydd Bwrdd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn aelod anweithredol a ddewisir drwy broses benodi gyhoeddus agored a theg. Yn ei sesiwn dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 13 Mawrth 2023, dywedodd Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y pryd, ei fod yn ffafrio barnwr yn gweithredu fel Cadeirydd oherwydd byddai hynny, o ran canfyddiad, yn sicrhau bod annibyniaeth yn cael ei chynnal (Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, paragraff 15).

113. Mae’r ddwy enghraifft yn bodoli mewn mannau eraill ym maes arweinyddiaeth sefydliadol cyrff cyfiawnder. Cadeirydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yw’r Arglwydd Lywydd, y barnwr uchaf yn yr Alban. Mae cadeirydd GLlTEF yn anweithredol ond yn unigolyn sydd wedi dal swyddi busnes uwch ac wedi arwain sefydliadau (wedi’i ddewis drwy gystadleuaeth agored sy’n canolbwyntio ar sgiliau cadeirio ac arwain, yn hytrach na’r broses lle dewisir uwch farnwyr sydd o reidrwydd yn rhoi pwys sylweddol ar ffactorau eraill).

Statws Tribiwnlysoedd Cymru

114. Bydd annibyniaeth strwythurol Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei sicrhau drwy ei sefydlu mewn statud a’r swyddogaethau, y dyletswyddau a’r pwerau a roddir iddo gan y statud hwnnw, fel y nodir yn Nhabl 1.

115. Mae gan bob corff cyhoeddus statws hefyd, ac mae dau brif statws i gyrff statudol datganoledig yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad yw’r naill fodel na’r llall yn fwy annibynnol na’r llall yn ei hanfod. Ar wahân i’r nodweddion o ran a yw eu staff yn weision sifil ai peidio, mae’n ymddangos i ni fod y ddau fodel isod yn gydnaws â’r trefniadau yn Nhabl 1.

  1. Y model posibl cyntaf yw y gellid sefydlu Tribiwnlysoedd Cymru fel Adran Anweinidogol. Dyma’r model a argymhellwyd gan Gomisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith. Gweision sifil yw staff Adrannau Anweinidogol. Un enghraifft yng Nghymru yw Awdurdod Cyllid Cymru.
  2. Model posibl arall yw Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac un enghraifft sy’n gweithredu yn y maes cyfiawnder yw Tribiwnlys Prisio Cymru (“y Tribiwnlys Prisio”). Sefydlwyd y Tribiwnlys Prisio a’i Gyngor Llywodraethu drwy is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru (heoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru OS 2010 Rhif 713 Cy.69). Mae dogfen fframwaith (Dogfen Fframwaith Tribiwnlys Prisio Cymru) yn nodi’r fframwaith eang y mae’r Tribiwnlys Prisio yn gweithredu oddi tano ac yn darparu manylion y telerau a’r amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu dilyn wrth ddarparu cyllid iddo. Mae ei staff yn weision cyhoeddus ond nid yn weision sifil.

116. Fel y nodwyd uchod, mae’n ymddangos i ni fod gan y ddau fodel hyn y potensial i ddarparu annibyniaeth strwythurol ddigonol. Y brif effaith rydym wedi’i phennu yn sgil penderfynu rhwng y ddau opsiwn yw’r goblygiadau ar gyfer rheoli’r sefydliad ac ar gyfer ei staff. Gallai penderfyniad ar y model i’w ddilyn effeithio ar staff Uned Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru, ac ar y gallu i ddenu a gwobrwyo staff yn y dyfodol. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn am oblygiadau’r penderfyniad hwn ac yn wir a oes ffyrdd eraill o ddarparu annibyniaeth strwythurol sydd â manteision y tu hwnt i’r ddau fodel hyn. Bwriadwn ddefnyddio’r cyfnod ymgynghori i ymgysylltu â staff ac undebau llafur, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni ddatblygu deddfwriaeth ar gyfer diwygio.

Cwestiwn ymgynghori 20

Ydych chi’n cytuno â chreu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru?

Cwestiwn ymgynghori 21

Ydych chi’n credu y dylai’r corff statudol arfaethedig gael ei gyfansoddi fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fel Adran Anweinidogol, neu fel rhywbeth arall? Pam?

Cwestiwn ymgynghori 22

Yn eich barn chi, a ddylai Cadeirydd Bwrdd y corff statudol fod yn benodiad gan Weinidogion Cymru, neu a ddylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn Gadeirydd yn rhinwedd ei swydd?

Cwestiwn ymgynghori 23

Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y trefniadau ar gyfer gweinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yn Nhabl 1?

Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales, corff corfforedig hyd braich arfaethedig: strwythur a threfniadau llywodraethu arfaethedig

Maes:

Gweld mewn fformat bwrdd

Sefydlu

Darpariaeth statudol: Ymgorffori

Corff corfforedig o’r enw “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” (enw arfaethedig at ddibenion gwaith yn unig). Yn creu corff statudol â phersonoliaeth gyfreithiol.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Wedi’i bennu gan y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru.

Darpariaeth statudol: Statws

Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad y dylai gweinyddiaeth y system dribiwnlysoedd gael ei staffio gan weision sifil, sef statws staff a gyflogir gan Adran Anweinidogol fel arfer. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Bydd Gweinidog Cymru’r portffolio yn atebol i’r Senedd, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol, y Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd.

Pwrpas

Darpariaeth statudol: Amcan

Ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd ac arfer ei swyddogaethau i ddarparu gwasanaethau i sicrhau bod Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu gweinyddu’n effeithiol, ac i gefnogi aelodau i gyflawni eu swyddogaethau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Yn creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, sy’n perthyn i Dribiwnlysoedd Cymru, a swyddogaethau polisi, sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru.

Darpariaeth statudol: Swyddogaethau a phwerau

Statud i fanylu ar swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru a’i bwerau cyffredinol ac ategol.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Atebol am berfformiad cyffredinol Tribiwnlysoedd Cymru.

Darpariaeth statudol: Polisi’r llywodraeth

Dyletswydd ar Dribiwnlysoedd Cymru i arfer ei swyddogaethau i roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru ac i unrhyw faterion eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Nid cyfrifoldeb Gweinidogion fydd y weinyddiaeth o ddydd i ddydd. Nid yw hyn yn bŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau penodol i Dribiwnlysoedd Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau.

Darpariaeth statudol: Cyngor i Weinidogion Cymru

Dyletswydd i roi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn; pŵer i gynnig cyngor ar faterion polisi sy’n ymwneud â materion lle mae Tribiwnlysoedd Cymru yn arfer swyddogaethau neu weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Mecanwaith i Weinidogion Cymru ddefnyddio arbenigedd perthnasol Tribiwnlysoedd Cymru ac iddo allu cynnig cyngor i Weinidogion yn unol â’i swyddogaethau.

Darpariaeth statudol: Pŵer diofyn

Pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru pan fo Gweinidogion o’r farn bod y corff yn methu cyflawni ei swyddogaethau i gyflawni ei ddiben, neu’n gwneud hynny mewn modd sy’n creu risg sylweddol i weithrediad y system dribiwnlysoedd.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Yn cyfateb i adran 70 o Ddeddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008.

Bwrdd

Darpariaeth statudol: Cadeirydd

Cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru, neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Rôl Gweinidogion Cymru wrth benodi cadeirydd os nad yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dal swydd y cadeirydd yn rhinwedd ei swydd.

Darpariaeth statudol: Aelodau

Aelodau barnwrol

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd (os nad yw’n Gadeirydd); un aelod barnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer Cymru a ddewisir gan y Llywydd.

Aelodau anfarnwrol

Dim llai na thri a dim mwy na chwe unigolyn arall a benodir gan Weinidogion Cymru.

Aelodau gweithredol

Prif Swyddog Gweithredol yn rhinwedd ei swydd; un aelod arall o staff a benodir gan y Prif Swyddog Gweithredol.

(Mae hyn yn creu Bwrdd sy’n cynnwys rhwng 8 ac 11 unigolyn).

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru i fod o dan ddyletswydd “rhoi sylw i” er mwyn sicrhau bod gan y rhai a benodir brofiad o faterion sy’n berthnasol i bwrpas a swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru, a sicrhau amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ymysg yr aelodau (ee unigolyn sy’n cynrychioli defnyddwyr tribiwnlysoedd, neu gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd â phrofiad o dribiwnlysoedd datganoledig).

Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gorff rheoleiddiedig gyda phenodiadau iddo yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Darpariaeth statudol: Deiliadaeth (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a lywodraethir gan ddeddfwriaeth ar wahân)

Pedair blynedd. Yn gymwys i gael ei ailbenodi. Mae angen darpariaeth ar gyfer ymddiswyddiadau a diswyddo hefyd.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Sicrhau bod penodiadau’n bodloni’r Cod Ymarfer, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar ailbenodiadau.

Darpariaeth statudol: Taliad cydnabyddiaeth

Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a threuliau i aelodau o’r Bwrdd, ac i unrhyw aelodau cyfetholedig o bwyllgorau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau.

Darpariaeth statudol: Pwyllgorau

Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru sefydlu pwyllgorau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt.

Darpariaeth statudol: Trafodion

Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys pwyllgorau), ei ddull pleidleisio ac ati.

Darpariaeth statudol: Dirprwyo

Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaeth i aelod, pwyllgor, cyflogai neu unrhyw unigolyn, corfforaeth neu endid statudol arall, ond peidio â gwaredu ei gyfrifoldeb dros y swyddogaeth a ddirprwyir.

Staff

Darpariaeth statudol: Prif Swyddog Gweithredol

Y Prif Swyddog Gweithredol cyntaf i’w benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y maent yn penderfynu eu bod yn briodol.

Bydd Prif Swyddogion Gweithredol dilynol yn cael eu penodi gan Fwrdd Tribiwnlysoedd Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y mae, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu eu bod yn briodol.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru sy’n penodi Prif Swyddog Gweithredol am y tro cyntaf ac mae’n ofynnol iddynt gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad hwnnw a phenodiadau dilynol.

Darpariaeth statudol: Staff arall

Gall Tribiwnlysoedd Cymru benodi staff fel y credir y bo’n briodol i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Os yw’n Adran Anweinidogol, bydd hyn yn amodol ar Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau. Sicrhau bod y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd yn cael eu recriwtio o dan y Cod Ymarfer.

Cyllid

Darpariaeth statudol: Cyllid

Ffynonellau cyllid ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru: incwm o ffioedd; a chymorth grant gan Weinidogion Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau ac yn ddarostyngedig i amodau y mae gweinidogion yn eu hystyried yn briodol.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru wedi’i ategu gan ddogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol sy’n nodi prosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru, a lywodraethir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Gweinidogion yn gyfrifol am benderfynu ar ddyraniad y gyllideb.

Tribiwnlysoedd Cymru i gydweithredu â gweinidogion drwy ddarparu’r holl gymorth, gwybodaeth a rhagolygon cyllidebol angenrheidiol i lywio penderfyniadau cynllunio cyllideb y llywodraeth.

Dyraniadau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol i’w cadarnhau mewn llythyr cylch gwaith blynyddol.

Darpariaeth statudol: Swyddog Cyfrifyddu

Y Prif Swyddog Gweithredol i fod yn Swyddog Cyfrifyddu Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb am neilltuo adnoddau yn unol ag amodau cyllido a bennir gan Weinidogion Cymru, gan lofnodi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol ac ati.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi rolau a chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu, a’r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru.

Darpariaeth statudol: Archwilio

Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru.Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am faterion sy’n ymwneud ag archwilio mewnol ac archwilio allanol.

Llywodraethu corfforaethol

Darpariaeth statudol: Cynllun Corfforaethol

Tribiwnlysoedd Cymru i baratoi cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac y mae’n rhaid i’r corff wedyn ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid iddo nodi amcanion strategol y corff ar gyfer y cyfnod cynllunio a’r mesurau perfformiad y gellir eu defnyddio i fesur cyflawniad yr amcanion.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi’r fframwaith cynllunio ar gyfer llywodraethu corfforaethol: Llythyr cylch gwaith Tymor Llywodraethu (yn amodol ar broses ar gyfer addasu os bydd blaenoriaethau’r llywodraeth yn newid); cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol; cynllun busnes blynyddol; cyfrifon ac adroddiad blynyddol.

Gellid rhagnodi’r cyfnod cynllunio y mae’n rhaid i’r cynllun corfforaethol roi sylw iddo mewn deddfwriaeth sylfaenol (ee cyfnodau o dair blynedd yn dechrau ar ddyddiad penodol) neu mewn is-ddeddfwriaeth gyda phŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod fel y maent yn ei ystyried yn briodol.

Darpariaeth statudol: Cyfrifon ac adroddiad blynyddol

Tribiwnlysoedd Cymru i gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi datganiad blynyddol o gyfrifon yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion y gofynion adrodd a chyfrifyddu statudol.

Darpariaeth statudol: Darparu gwybodaeth

Tribiwnlysoedd Cymru i gyflenwi Gweinidogion Cymru ag unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r corff, yn amodol ar gyfrinachedd gwybodaeth sy’n ymwneud â cheisiadau i’r tribiwnlysoedd.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am fynediad Gweinidogion Cymru at wybodaeth sy’n cael ei dal gan Dribiwnlysoedd Cymru.

Trosglwyddo staff

Darpariaeth statudol: Cynllun trosglwyddo i staff

Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo staff a gyflogir ganddynt i Dribiwnlysoedd Cymru.

Pŵer i Weinidogion Cymru secondio staff i Dribiwnlysoedd Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru sy’n atebol am staffio Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.

Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau

Darpariaeth statudol: Cynllun trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau

Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo a rhwymedigaethau i Dribiwnlysoedd Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru sy’n atebol am eiddo a rhwymedigaethau Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.

Materion canlyniadol

Darpariaeth statudol: Diwygio deddfwriaeth

Bydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gynnwys mewn atodlenni perthnasol fel corff cyhoeddus, gan gynnwys, ee:

  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
  • Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Tabl 1: Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales, corff corfforedig hyd braich arfaethedig: strwythur a threfniadau llywodraethu arfaethedig

Maes Darpariaeth statudol Manylion Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Sefydlu Ymgorffori Corff corfforedig o’r enw “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” (enw arfaethedig at ddibenion gwaith yn unig). Yn creu corff statudol â phersonoliaeth gyfreithiol. Wedi’i bennu gan y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru.
Statws Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad y dylai gweinyddiaeth y system dribiwnlysoedd gael ei staffio gan weision sifil, sef statws staff a gyflogir gan Adran Anweinidogol fel arfer. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau. Bydd Gweinidog Cymru’r portffolio yn atebol i’r Senedd, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol, y Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd.
Pwrpas Amcan Ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd ac arfer ei swyddogaethau i ddarparu gwasanaethau i sicrhau bod Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu gweinyddu’n effeithiol, ac i gefnogi aelodau i gyflawni eu swyddogaethau. Yn creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, sy’n perthyn i Dribiwnlysoedd Cymru, a swyddogaethau polisi, sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru.
Swyddogaethau a phwerau Statud i fanylu ar swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru a’i bwerau cyffredinol ac ategol. Atebol am berfformiad cyffredinol Tribiwnlysoedd Cymru.
Polisi’r llywodraeth Dyletswydd ar Dribiwnlysoedd Cymru i arfer ei swyddogaethau i roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru ac i unrhyw faterion eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru. Nid cyfrifoldeb Gweinidogion fydd y weinyddiaeth o ddydd i ddydd. Nid yw hyn yn bŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau penodol i Dribiwnlysoedd Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau.
Cyngor i Weinidogion Cymru Dyletswydd i roi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn; pŵer i gynnig cyngor ar faterion polisi sy’n ymwneud â materion lle mae Tribiwnlysoedd Cymru yn arfer swyddogaethau neu weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mecanwaith i Weinidogion Cymru ddefnyddio arbenigedd perthnasol Tribiwnlysoedd Cymru ac iddo allu cynnig cyngor i Weinidogion yn unol â’i swyddogaethau.
Pŵer diofyn Pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru pan fo Gweinidogion o’r farn bod y corff yn methu cyflawni ei swyddogaethau i gyflawni ei ddiben, neu’n gwneud hynny mewn modd sy’n creu risg sylweddol i weithrediad y system dribiwnlysoedd. Yn cyfateb i adran 70 o Ddeddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008.
Bwrdd Cadeirydd Cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru, neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd. Rôl Gweinidogion Cymru wrth benodi cadeirydd os nad yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dal swydd y cadeirydd yn rhinwedd ei swydd.
Aelodau

Aelodau barnwrol

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd (os nad yw’n Gadeirydd); un aelod barnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer Cymru a ddewisir gan y Llywydd.

Aelodau anfarnwrol

Dim llai na thri a dim mwy na chwe unigolyn arall a benodir gan Weinidogion Cymru.

Aelodau gweithredol

Prif Swyddog Gweithredol yn rhinwedd ei swydd; un aelod arall o staff a benodir gan y Prif Swyddog Gweithredol.

(Mae hyn yn creu Bwrdd sy’n cynnwys rhwng 8 ac 11 unigolyn).

Gweinidogion Cymru i fod o dan ddyletswydd “rhoi sylw i” er mwyn sicrhau bod gan y rhai a benodir brofiad o faterion sy’n berthnasol i bwrpas a swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru, a sicrhau amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ymysg yr aelodau (ee unigolyn sy’n cynrychioli defnyddwyr tribiwnlysoedd, neu gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd â phrofiad o dribiwnlysoedd datganoledig).

Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gorff rheoleiddiedig gyda phenodiadau iddo yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Deiliadaeth (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a lywodraethir gan ddeddfwriaeth ar wahân) Pedair blynedd. Yn gymwys i gael ei ailbenodi. Mae angen darpariaeth ar gyfer ymddiswyddiadau a diswyddo hefyd. ESicrhau bod penodiadau’n bodloni’r Cod Ymarfer, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar ailbenodiadau.
Taliad cydnabyddiaeth Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a threuliau i aelodau o’r Bwrdd, ac i unrhyw aelodau cyfetholedig o bwyllgorau. Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau.
Pwyllgorau Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru sefydlu pwyllgorau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt.  
Trafodion Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys pwyllgorau), ei ddull pleidleisio ac ati.  
Dirprwyo Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaeth i aelod, pwyllgor, cyflogai neu unrhyw unigolyn, corfforaeth neu endid statudol arall, ond peidio â gwaredu ei gyfrifoldeb dros y swyddogaeth a ddirprwyir.  
Staff Prif Swyddog Gweithredol

Y Prif Swyddog Gweithredol cyntaf i’w benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y maent yn penderfynu eu bod yn briodol.

Bydd Prif Swyddogion Gweithredol dilynol yn cael eu penodi gan Fwrdd Tribiwnlysoedd Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y mae, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu eu bod yn briodol.

Gweinidogion Cymru sy’n penodi Prif Swyddog Gweithredol am y tro cyntaf ac mae’n ofynnol iddynt gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad hwnnw a phenodiadau dilynol.
  Staff arall Gall Tribiwnlysoedd Cymru benodi staff fel y credir y bo’n briodol i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Os yw’n Adran Anweinidogol, bydd hyn yn amodol ar Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau. Sicrhau bod y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd yn cael eu recriwtio o dan y Cod Ymarfer.
Cyllid Cyllid Ffynonellau cyllid ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru: incwm o ffioedd; a chymorth grant gan Weinidogion Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau ac yn ddarostyngedig i amodau y mae gweinidogion yn eu hystyried yn briodol.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru wedi’i ategu gan ddogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol sy’n nodi prosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru, a lywodraethir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Gweinidogion yn gyfrifol am benderfynu ar ddyraniad y gyllideb.

Tribiwnlysoedd Cymru i gydweithredu â gweinidogion drwy ddarparu’r holl gymorth, gwybodaeth a rhagolygon cyllidebol angenrheidiol i lywio penderfyniadau cynllunio cyllideb y llywodraeth.

Dyraniadau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol i’w cadarnhau mewn llythyr cylch gwaith blynyddol.

Swyddog Cyfrifyddu Y Prif Swyddog Gweithredol i fod yn Swyddog Cyfrifyddu Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb am neilltuo adnoddau yn unol ag amodau cyllido a bennir gan Weinidogion Cymru, gan lofnodi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol ac ati. Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi rolau a chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu, a’r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru.
Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru. Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am faterion sy’n ymwneud ag archwilio mewnol ac archwilio allanol.
Llywodraethu Corfforaethol Cynllun Corfforaethol Tribiwnlysoedd Cymru i baratoi cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac y mae’n rhaid i’r corff wedyn ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid iddo nodi amcanion strategol y corff ar gyfer y cyfnod cynllunio a’r mesurau perfformiad y gellir eu defnyddio i fesur cyflawniad yr amcanion.

Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi’r fframwaith cynllunio ar gyfer llywodraethu corfforaethol: Llythyr cylch gwaith Tymor Llywodraethu (yn amodol ar broses ar gyfer addasu os bydd blaenoriaethau’r llywodraeth yn newid); cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol; cynllun busnes blynyddol; cyfrifon ac adroddiad blynyddol.

Gellid rhagnodi’r cyfnod cynllunio y mae’n rhaid i’r cynllun corfforaethol roi sylw iddo mewn deddfwriaeth sylfaenol (ee cyfnodau o dair blynedd yn dechrau ar ddyddiad penodol) neu mewn is-ddeddfwriaeth gyda phŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod fel y maent yn ei ystyried yn briodol.

Cyfrifon ac adroddiad blynyddol Tribiwnlysoedd Cymru i gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi datganiad blynyddol o gyfrifon yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru. Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion y gofynion adrodd a chyfrifyddu statudol.
Darparu gwybodaeth Tribiwnlysoedd Cymru i gyflenwi Gweinidogion Cymru ag unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r corff, yn amodol ar gyfrinachedd gwybodaeth sy’n ymwneud â cheisiadau i’r tribiwnlysoedd. Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am fynediad Gweinidogion Cymru at wybodaeth sy’n cael ei dal gan Dribiwnlysoedd Cymru.
Trosglwyddo staff Cynllun trosglwyddo i staff

Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo staff a gyflogir ganddynt i Dribiwnlysoedd Cymru.

Pŵer i Weinidogion Cymru secondio staff i Dribiwnlysoedd Cymru.

Gweinidogion Cymru sy’n atebol am staffio Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.
Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau Cynllun trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo a rhwymedigaethau i Dribiwnlysoedd Cymru. Gweinidogion Cymru sy’n atebol am eiddo a rhwymedigaethau Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.
Materion canlyniadol Diwygio deddfwriaeth

Bydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gynnwys mewn atodlenni perthnasol fel corff cyhoeddus, gan gynnwys, ee:

  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
  • Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019
 

Pennod 6: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny
  • y dylid ychwanegu at rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy roi swyddogaethau a dyletswyddau statudol newydd i’r swydd.

Cyflwyniad

117. Cafodd swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017. Mae dwy ran i swyddogaethau’r Llywydd o dan y Ddeddf (Adran 60(5) o Ddeddf Cymru 2017). Yn gyntaf, mae’r Llywydd yn gyfrifol am gynnal y tribiwnlysoedd (Adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 - gweler hefyd Pennod 2: Cwmpas ein diwygiadau) gyda’r adnoddau sydd ar gael gan Weinidogion Cymru. Mae hyn yn ymestyn i hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau’r tribiwnlysoedd hynny. Yn ail, mae’r llywydd yn gyfrifol am gynrychioli barn aelodau’r tribiwnlysoedd i Weinidogion Cymru ac i’r Senedd. Gwnaeth Syr Wyn Williams, Llywydd cyntaf Tribiwnlysoedd Cymru, hyn yn rhannol drwy ei adroddiadau blynyddol a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol, ac a osodwyd gerbron y Senedd.

118. Nid yw Deddf Cymru yn diffinio dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau’r Llywydd yn llwyr, ac mae rhai ohonynt yn ymhlyg. Er enghraifft, derbynnir yn gyffredin mai’r Llywydd yw'r ffigwr barnwrol uchaf o fewn y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, gyda rôl oruchwylio ategol dros y tribiwnlysoedd y mae gan y Llywydd swyddogaethau statudol mewn cysylltiad â hwy. Fodd bynnag, mae'r swyddogaethau hynny wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd i faterion hyfforddiant, canllawiau a lles.

119. Mae rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi’i chymhlethu gan natur y fframweithiau deddfwriaethol cyfredol ar gyfer y tribiwnlysoedd o dan oruchwyliaeth y Llywydd. Y rheswm am hyn yw bod Deddf Cymru 2017 wedi cael ei gosod ar draws deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes ac sy’n rhychwantu’r cyfnodau cyn ac ar ôl datganoli. Ar ben hynny, mae tribiwnlysoedd datganoledig o fewn cwmpas ein cynigion nad ydynt o fewn cwmpas rôl y Llywydd.

120. Credwn fod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn elfen allweddol o’n system o dribiwnlysoedd datganoledig. Mae angen yr uwch arweinyddiaeth farnwrol y mae’r swydd yn ei darparu wrth i’n system dribiwnlysoedd newydd gael ei chreu ac wrth iddi ddatblygu yn y dyfodol. Ond rydym yn credu bod potensial i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, potensial y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddeall hefyd wrth wneud Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn awdurdod penodi ar gyfer swyddfeydd eistedd mewn ymddeoliad ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru. Fodd bynnag, mae unrhyw benodiadau o’r fath yn dal i fod angen cytundeb yr awdurdod penodi ar gyfer y swydd farnwrol wreiddiol, sef naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Arglwydd Ganghellor (Adran 124 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022).

Rôl farnwrol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru

121. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny (gweler Atodiad 2, argymhellion 17 ac 18 Comisiwn y Gyfraith). 

122. Nid yw Deddf Cymru 2017 yn rhoi rôl farnwrol yn benodol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru eistedd fel barnwr yn Nhribiwnlysoedd Cymru. Mae’r swydd hon yn wahanol i rolau arwain uwch cyfatebol y tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban, lle mae gan Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd a Llywydd Tribiwnlysoedd yr Alban rolau barnwrol a ragnodir mewn statud (Adrannau 4(1)(c) a 5(1)(a) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 ac adran 17(5) o Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014). Gwnaeth Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sylwadau am rôl farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ei adroddiad blynyddol cyntaf:

Er nad yw Ddeddf Cymru 2017 yn trafod y pwynt, ymddengys yn glir fod gan y Llywydd, fel uwch farnwr, hawl i eistedd fel cadeirydd cyfreithiol pob un o Dribiwnlysoedd Cymru. Wedi dweud hynny, rwyf fi o’r farn na ddylai’r Llywydd eistedd fel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys oni bai fod Arweinydd Barnwrol y Tribiwnlys hwnnw a’r Llywydd yn cytuno bod amgylchiadau achos penodol yn ei gwneud yn amhriodol i’r Arweinydd Barnwrol wneud hynny. (Adroddiad Blynyddol Cyntaf Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru tudalen 3)”

123. Ar hyn o bryd, er ei bod ymhlyg y gall Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru eistedd fel barnwr yn un o’r tribiwnlysoedd sydd o fewn cylch gwaith y Llywydd, nid oes mecanwaith cydnabyddedig ar gyfer y trefniant hwn yn ymarferol, nac unrhyw ddarpariaeth mewn cyfarwyddiadau na rheolau gweithdrefnol sy’n nodi’r ymarfer a’r weithdrefn o ran sut y dylai’r Llywydd eistedd.

124. Rydym o’r farn bod manteision ymarferol clir i wneud darpariaeth statudol benodol ar gyfer rôl farnwrol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru. Yn gyntaf, bydd yn egluro sail gyfreithiol bresennol rôl farnwrol y Llywydd. Yn ail, ynghyd â rheolau gweithdrefnol addas, bydd yn rhoi sicrwydd ynghylch yr ymarfer a’r weithdrefn i’w dilyn ar yr adegau hynny y bydd y Llywydd yn eistedd fel barnwr. Yn drydydd, bydd yn sicrhau bod adnoddau barnwrol uwch ar gael i system gyfiawnder eginol Cymru, yn enwedig pan fydd materion yn codi sy’n ymwneud â chymhwyso deddfwriaeth ddatganoledig ar draws y tribiwnlysoedd yn gyffredinol. Yn bedwerydd, bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i’r Llywydd ar weithrediad y tribiwnlysoedd a’r dyraniad o adnoddau ar eu traws. Yn olaf, bydd rôl farnwrol benodol i’r Llywydd yn cynyddu atyniad y swydd i ddarpar ddeiliaid swydd yn y dyfodol.

125. Er eglurder, rydym hefyd yn cynnig darpariaeth statudol benodol sef y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 24

Ydych chi’n cytuno y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny?

Dyletswyddau a swyddogaethau statudol newydd

126. Rydym wedi trafod y darpariaethau statudol sy’n sail i swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a natur a chwmpas cyfyngedig swyddogaethau’r Llywydd ar hyn o bryd. Er bod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi ychwanegu gwerth sylweddol iawn at y system cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru ers ei sefydlu o dan Ddeddf Cymru 2017, rydym o’r farn y dylid ychwanegu at y swydd a rhoi rhagor o sylwedd iddi.

127. Yn ogystal â darpariaeth statudol benodol sy’n sail i rôl farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, rydym o’r farn y dylai swyddogaethau a dyletswyddau statudol pellach gael eu rhoi i’r swydd i gryfhau ei rôl arwain ar draws y tribiwnlysoedd newydd, ac er budd annibyniaeth farnwrol. Trafodir llawer o’r dyletswyddau a’r swyddogaethau hyn ym mhenodau eraill y Papur Gwyn hwn. Maent wedi’u nodi’n gryno yn y tabl isod:

Dyletswyddau a swyddogaethau arfaethedig

  • Goruchwyliaeth farnwrol o strwythur sefydliadol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 3
  • Goruchwyliaeth farnwrol o gynigion i ychwanegu awdurdodaethau at y system dribiwnlysoedd newydd - Pennod 3
  • Aelod barnwrol neu Gadeirydd Bwrdd Tribiwnlysoedd Cymru (“Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” yw enw gwaith y corff statudol newydd y bwriadwn ei greu – gweler Pennod 5: Annibyniaeth), y corff corfforedig newydd, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd - Pennod 5
  • Awdurdod penodi ar gyfer aelodau cyfreithiol a chyffredinol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru - Pennod 7
  • Goruchwyliaeth a chydsyniad barnwrol ar gyfer penodiadau Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, ac aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru, gan Weinidogion Cymru - Pennod 7
  • Awdurdodi trawsneilltuo aelodau tribiwnlysoedd ar draws Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 7
  • Dyfarnu ar gwynion am aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru - Pennod 8
  • Goruchwyliaeth a chydsyniad barnwrol ar gyfer dyfarniadau ar gwynion am aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 8
  • Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, y cyfrifoldeb dros benodi aelodau i’r Pwyllgor a dros wneud rheolau gweithdrefnol ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 9

128. Nid yw’r rhestr o ddyletswyddau a swyddogaethau arfaethedig a nodir uchod yn hollgynhwysfawr. Rydym yn bwriadu sicrhau bod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn seiliedig ar fframwaith statudol sy’n arfogi’r Llywydd i ddarparu arweinyddiaeth farnwrol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd wrth iddi gael ei chreu ac wrth iddi ddatblygu yn y dyfodol.

Cwestiwn ymgynghori 25

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy gyflwyno dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau statudol i’r swydd, fel y nodir yn y papur gwyn hwn?

Pennod 7: Penodi a neilltuo

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • dull cydlynol o benodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • wrth wneud penodiadau, dylid ystyried yr angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir yn aelodau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • bod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliadau cydnabyddiaeth, yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru
  • system ar gyfer neilltuo aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd.

Cyflwyniad

129. Rydym wedi nodi ym Mhennod 5 ein cynigion i gefnogi annibyniaeth farnwrol yn y system dribiwnlysoedd newydd. Gydag annibyniaeth daw atebolrwydd, ac nid yw’r rhain yn gynigion anghydnaws. Mae’r Bwrdd Gweithredol Barnwrol wedi crynhoi atebolrwydd barnwrol fel a ganlyn:

Mae barnwyr unigol yn ddarostyngedig i system gref o atebolrwydd mewnol mewn perthynas â chamgymeriadau cyfreithiol ac ymddygiad personol...[ac] yn atebol i’r cyhoedd yn yr ystyr bod eu penderfyniadau yn gyhoeddus yn gyffredinol ac yn cael eu trafod, yn aml yn feirniadol, yn y cyfryngau a gan grwpiau buddiant ac adrannau o’r cyhoedd y maent yn effeithio arnynt. Yn yr un modd, mae’r farnwriaeth yn atebol yn sefydliadol mewn perthynas â phenderfyniadau cyntaf a phenderfyniadau apeliadol.

Nid yw barnwyr unigol na’r farnwriaeth, ac ni ddylent fod, yn atebol i gangen weithredol y wladwriaeth oherwydd mae hynny’n groes i’r annibyniaeth farnwrol sy’n ofyniad angenrheidiol i farnwyr gyflawni eu cyfrifoldeb craidd i ddatrys anghydfodau yn deg ac yn ddiduedd. (The Accountability of the Judiciary)

130. Mae annibyniaeth ac atebolrwydd barnwrol yn gweithredu mewn cydbwysedd. Er bod y penodiadau ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru ar hyn o bryd yn dilyn prosesau dethol tryloyw, mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer penodiadau yn anghyson. Bydd dull cydlynol o benodi aelodau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw, yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn. Felly, mae ein cynigion ar gyfer penodi i’r system dribiwnlysoedd newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  1. dylai prosesau a gweithdrefnau ddiogelu annibyniaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r system dribiwnlysoedd newydd
  2. dylai’r awdurdod penodi fod yn gyson er mwyn sicrhau tegwch
  3. dylai penodiadau fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw.

Cwestiwn ymgynghori 26

Ydych chi’n cytuno â’n hegwyddorion arweiniol ar gyfer penodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

Y trefniadau ar gyfer penodi ar hyn o bryd

131. Mae’r cyfrifoldeb dros benodi aelodau i dribiwnlysoedd datganoledig, a’r broses o wneud hynny, yn anghyson. Dyma un o ganlyniadau datblygiad tameidiog Tribiwnlysoedd Cymru ac mae wedi codi nid oherwydd penderfyniadau polisi i drin penodiadau ar draws tribiwnlysoedd mewn ffyrdd gwahanol, ond yn bennaf oherwydd treigl amser a gan fod y safbwyntiau ynghylch natur farnwrol tribiwnlysoedd wedi datblygu. Mae gweithdrefnau gwahanol eto yn berthnasol i aelodau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.

132. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer penodiadau i’r tribiwnlysoedd datganoledig, gan gynnwys ar gyfer swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wedi’u nodi yn y tabl isod:

Penodiadau

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Deddfwriaeth: Adran 60 o Ddeddf Cymru 2017 ac Atodlen 5 iddi

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Brif Ustus, ymgyngoreion - Yr Arglwydd Ganghellor, Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn).

Panel Dyfarnu Cymru

Deddfwriaeth: Adran 75 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Deddfwriaeth: Adran 73 o Atodlen 9 i Ddeddf Amaethyddiaeth 1947

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor

Tribiwnlys Addysg Cymru

Deddfwriaeth: Adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Awdurdod penodi: Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi: y Llywydd, y panel cadeirydd cyfreithiol.

Gweinidogion Cymru yn penodi panel lleyg gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru

Deddfwriaeth: Adran 65 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac Atodlen 2 iddi

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

Deddfwriaeth: Adran 229 o Ddeddf Tai 2004, adran 173 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2022 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor yn penodi aelodau cyfreithiol. Gweinidogion Cymru yn penodi: aelodau cyffredinol, Is-lywydd, Llywydd o blith y sawl a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor.

Tribiwnlys y Gymraeg

Deddfwriaeth: Adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac Atodlen 11 iddo

Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru

Tribiwnlys Prisio Cymru

Deddfwriaeth: Rheoliadau 9, 11 a 12 o Reoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 ac Atodlen 2 iddynt

Awdurdod penodi:

Panel Penodi Cyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys:

  • Aelodau
  • Cadeiryddion

Etholiad drwy bleidlais gan holl aelodau’r Tribiwnlys:

  • Llywydd

Nodyn: Mae gan Weinidogion Cymru bwerau diofyn os na wneir y penodiadau uchod o fewn tri mis i’r dyddiad pan ddaw’r swydd yn wag.

Derbyn i ysgol

Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl

Gwahardd o’r ysgol

Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003

Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl

133. Gydag eithriadau cyfyngedig (gweler Pennod 6: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, paragraff 112), nid oes gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyfrifoldebau dros benodiadau i Dribiwnlysoedd Cymru. Mae’r cyfraniad a’r oruchwyliaeth farnwrol gyfyngedig ar gyfer penodiadau i dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd yn cyferbynnu â’r sefyllfa yn system Cymru a Lloegr ac yn yr Alban, a’r swyddogaethau a roddir yn y drefn honno i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 1) ac i Arglwydd Lywydd a Llywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 2).

Y trefniadau arfaethedig ar gyfer penodi

134. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio’r prosesau penodi cyfredol yn cynnig awdurdodau penodi newydd ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru (gweler Atodiad 2, argymhellion Comisiwn y Gyfraith 31 i 37). Gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:

  1. ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i’w penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
  2. Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru i’w penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

135. Rydym yn cytuno ag egwyddor cynigion Comisiwn y Gyfraith.  Gellid rhoi cyfrifoldebau’r awdurdod penodi i Weinidogion Cymru, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, neu i weinidog penodol megis y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol. O dan y trefniadau ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldebau penodi ar gyfer rhai o Dribiwnlysoedd Cymru yn perthyn i weinidog penodol (yr Arglwydd Ganghellor) sydd â dyletswyddau statudol penodol mewn perthynas ag annibyniaeth y farnwriaeth. Yn gyffredinol, nid yw swyddogaethau’n cael eu rhoi i Weinidogion unigol Cymru.

136. Rydym yn ystyried y bydd dull gweithredu cydlynol ar gyfer penodiadau ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, yn enwedig y rôl ehangach i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yn cyfrannu at annibyniaeth farnwrol. O dan y cynigion hyn, ni fydd modd gwneud unrhyw benodiadau heb gyfraniad barnwrol, a hynny ar ffurf y Llywydd yn gweithredu fel awdurdod penodi neu’n cydsynio i benodiadau lle bo Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod penodi.

137. Wrth gwrs, pwy bynnag yw’r awdurdod penodi, yr elfen bwysicaf yw y dylai penderfyniadau penodi fod yn seiliedig ar argymhellion sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw. Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gorff statudol ac yn gyfrifol am ddewis pobl ar gyfer penodiadau barnwrol i Dribiwnlysoedd Cymru lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi ar hyn o bryd. Lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi, y Comisiwn Penodiadau Barnwrol sy’n rheoli’r prosesau dethol o dan delerau trefniant o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

138. Rydym yn cynnig y dylai penodiadau barhau i fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw. Ar y cyd â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a Llywodraeth y DU, rydym yn archwilio’r ystyriaethau ymarferol o gadw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol i ymgymryd â phrosesau dethol ac i wneud argymhellion ar gyfer penodi aelodau i’r system dribiwnlysoedd newydd.

139. Canlyniad derbyn y cynigion hyn fyddai na fyddai’r Arglwydd Ganghellor yn cadw rôl fel awdurdod penodi yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Ymddengys i ni fod hyn yn briodol: mae’r Arglwydd Ganghellor yn gyfrifol am farnwriaeth awdurdodaeth Cymru a Lloegr, a gedwir yn ôl, ac nid oes ganddo swyddogaethau cymesur mewn perthynas â’r farnwriaeth mewn sefydliadau datganoledig, megis llysoedd yr Alban, fel arfer.

Cwestiwn ymgynghori 27

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer awdurdod penodi aelodau’r tribiwnlysoedd newydd:

  1. ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, bydd aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
  2. bydd Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Meini prawf ar gyfer penodi

140. Un o ganlyniadau pellach datblygiad tameidiog y tribiwnlysoedd datganoledig yw bod diffyg cydlyniaeth yn y meini prawf ar gyfer penodi aelodau tribiwnlysoedd y mae’n rhaid i ddarpar ymgeiswyr eu bodloni, a’u bod yn amrywio o dribiwnlys i dribiwnlys, yn hytrach na bod yn gyson ar draws y system. Ar hyn o bryd, er enghraifft, ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru dim ond drwy statud y mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol (Adran 50(5) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007) yn berthnasol i rolau cyfreithiol yn Nhribiwnlys y Gymraeg, Tribiwnlys Addysg Cymru a Thribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru.

141. Mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol yn gosod gofyniad statudol ar gyfer o leiaf 5 neu 7 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac mae’n nodi’r cymhwyster cyfreithiol perthnasol y mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu arno ar gyfer penodiad i rôl gyfreithiol. Mae’r cymwysterau hynny’n cynnwys, er enghraifft, bargyfreithiwr, cyfreithiwr, neu Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r rhai sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn gymwys i wneud cais am ystod fwy cyfyngedig o rolau cyfreithiol yn awdurdodaeth ehangach Cymru a Lloegr o’u cymharu â’r rhai sydd wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr. Rydym yn nodi'r hyblygrwydd sydd ar gael i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, a gaiff benodi barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw'n bodloni amod cymhwysedd y penodiad barnwrol (Paragraff 2(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007).

142. Mae rolau cyffredinol yn cwmpasu ystod ehangach ac amrywiol o feysydd. Ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru, mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl, amaethyddiaeth a safonau moesegol llywodraeth leol, ymysg eraill. Felly, mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rolau cyffredinol yn amrywio lle bo hynny’n briodol, yn dibynnu ar awdurdodaeth y tribiwnlys y mae rôl gyffredinol yn berthnasol iddo.

143. Mae meini prawf clir a chyson ar gyfer penodi yn un rhan o’r hafaliad ar gyfer adeiladu a chynnal corff yr aelodau ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd. Rhan arall yw amrywiaeth. Dywedodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, (“Comisiwn Thomas”):

Mae gan bobl Cymru hawl i gael system gyfiawnder sy'n diwallu eu hanghenion penodol ac yn ystyried demograffeg, daearyddiaeth, amrywiaeth a chydraddoldeb. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 12.3.2, tudalen 466)

144. Mae’r ystadegau swyddogol blynyddol ar amrywiaeth farnwrol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022, sy’n cwmpasu’r farnwriaeth bresennol, penodiadau barnwrol a phroffesiynau cyfreithiol, yn dangos, er enghraifft, bod tua hanner barnwyr tribiwnlysoedd yn ferched, ond bod y gyfran yn is ym marnwriaeth y llysoedd, yn enwedig mewn rolau uwch. Ar ben hynny, ar gyfer penodiadau barnwrol, roedd y cyfraddau argymell o’r gronfa gymwys ar gyfer ymgeiswyr ethnig leiafrifol 37% yn is nag ar gyfer ymgeiswyr gwyn, gwahaniaeth a ddisgrifir yn yr ystadegau swyddogol fel un ystadegol arwyddocaol (Diversity of the judiciary: Legal professions, new appointments and current post-holders - 2022 Statistics).

145. Nodwn fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynigion i ehangu’r rolau cyfreithiol sydd ar gael i weithwyr cyfreithiol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol i gynnwys Barnwr Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr, ymysg eraill (Datganiad Llywodraeth y DU i’r wasg, 11 Mai 2023). Bydd ehangu’r gronfa y gellir gwneud penodiadau ohoni yn hybu rhagor o amrywiaeth yn y farnwriaeth dros amser. Roedd Comisiwn Thomas o’r farn bod Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn cynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, gyda thua 75 y cant o’i aelodau’n ferched a 70 y cant o’i aelodau dan 44 oed (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.20, tudalen 391). Mae’n cynnig llwybr mwy hygyrch at gymhwyster i lawer yng Nghymru:

Mae llwybr at gymhwyso fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yn fwy hygyrch, hyblyg a fforddiadwy... Mae'n darparu llwybr nad yw drwy'r brifysgol i gyflawni cam academaidd yr hyfforddiant cyfreithiol. Gall myfyrwyr astudio, yn aml ar sail rhan amser, drwy golegau lleol neu drwy ddysgu o bell ac ar gyflymder o'u dewis; gallant fod mewn cyflogaeth berthnasol wrth wneud hynny. Mae'r Sefydliad yn amcangyfrif ei bod yn costio llai na £10,000 ar gyfartaledd i rywun gymhwyso fel Gweithredydd Cyfreithiol Siartredig sef llai o lawer na chost cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.45, tudalen 401)

146. Ar hyn o bryd, dim ond mewn perthynas â phenodiadau i un o Dribiwnlysoedd Cymru y mae’n ofynnol i’r awdurdod penodi roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir. Tribiwnlys y Gymraeg yw’r tribiwnlys hwnnw, a Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi (Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) OS 2013 Rhif 3139 (Cy.312), Rheoliad 4.). Yn yr un modd, rydym yn ystyried y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir.

147. Rydym hefyd yn credu y dylai’r gronfa o ymgeiswyr sy’n gymwys i gael eu penodi fod yn un eang er mwyn annog pobl sydd â’r profiad, y cymwysterau a’r sgiliau priodol, gan gynnwys, er enghraifft, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Proffesiynol, i ymgeisio i ymuno â’r system dribiwnlysoedd newydd. Bydd casglu data ar ddangosyddion perfformiad allweddol a’u monitro yn un o swyddogaethau Bwrdd y corff hyd braich newydd. Credwn y dylai hyn gynnwys dangosyddion ar amrywiaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r Gymraeg ar draws y system dribiwnlysoedd.

Cwestiwn ymgynghori 28

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

Cwestiwn ymgynghori 29

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

Telerau ac amodau penodi

148. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i osod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliad cydnabyddiaeth, ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru o dan y gwahanol fframweithiau deddfwriaethol sy’n llywodraethu pob un ohonynt. Rydym yn cynnig bod gan Weinidogion Cymru bŵer cyfatebol mewn perthynas â holl aelodau’r tribiwnlysoedd newydd, gan ei gwneud hi’n bosib rhoi sylw i wneud telerau ac amodau’n gyffredin, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, ar draws yr amrywiol awdurdodaethau, yn ogystal â hwyluso trawsneilltuo.

Cwestiwn ymgynghori 30

Ydych chi’n cytuno y dylai Gweinidogion Cymru osod telerau ac amodau penodi ar gyfer aelodau o’r gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd?

Neilltuo

149. Mae trawsneilltuo, neu drawsdocynnu, yn ddull sy’n galluogi aelod o un o Dribiwnlysoedd Cymru i eistedd a gwrando ar achosion yn un o Dribiwnlysoedd Cymru ar wahân i’r un y penodwyd yr aelod iddo (Adran 62 o Ddeddf Cymru 2017). Mae hon yn ffordd hyblyg o neilltuo adnoddau i ddiwallu anghenion Tribiwnlysoedd Cymru sy’n bodoli eisoes. Nid yw’r system hon o neilltuo adnoddau’n hyblyg yn berthnasol ar draws yr holl dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ar hyn o bryd.

150. Gellir hefyd trawsneilltuo rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU, ac fel arall, os yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn cytuno (Adran 63 o Ddeddf Cymru 2017).

151. Er mwyn hwyluso’r gwaith o leoli aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru ac ar draws y system ehangach o dribiwnlysoedd a gedwir, rydym yn cynnig y dylai system o drawsneilltuo aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol weithredu yn y system dribiwnlysoedd newydd a’r system dribiwnlysoedd sydd ar waith yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Dylai fod yn amodol ar gymeradwyaeth briodol gan yr uwch arweinwyr barnwrol ar gyfer pob system dribiwnlysoedd. Yng Nghymru, ar Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru fydd y cyfrifoldeb hwn.

152. Rydym yn cynnig bod pwerau trawsneilltuo wedi’u cyfyngu i neilltuo i dribiwnlysoedd ar yr un lefel, ac felly, er enghraifft, gellid neilltuo barnwr neu aelod arall o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i safle cyfatebol mewn awdurdodaeth wahanol i awdurdodaeth y Siambr y mae wedi’i benodi iddi, ond ni ellir eu trawsneilltuo i Dribiwnlys Apêl Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 31

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau â system o drawsneilltuo ar gyfer aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol yn y system dribiwnlysoedd newydd?

Penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

153. Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn benodiad gan yr Arglwydd Brif Ustus ac mae’r Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion yn hynny o beth. Mae gan yr Arglwydd Ganghellor swyddogaethau mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd hefyd (Adran 60 a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 5 i Ddeddf Cymru 2017).

154. Rydym wedi ystyried y rhesymeg sy’n sail i’r trefniadau presennol ac a ydynt yn dal yn ddelfrydol ar gyfer swydd y Llywydd yn y system dribiwnlysoedd newydd. Rydym yn cynnig yn y paragraffau isod, mewn perthynas â phenodi aelodau tribiwnlysoedd, na ddylid cadw swyddogaethau awdurdod penodi presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â’r tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Yn yr un modd, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â phenodi’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.

155. Ein rhesymeg dros y cynnig hwn yw mai swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r barnwr uchaf yn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Dylai’r swyddogaeth weithredol yn y broses o benodi’r Llywydd, sef cadarnhau cytundeb i’r Arglwydd Brif Ustus benodi person i’r swydd, gael ei harfer gan Weinidogion Cymru yn unig, sef ar y cyd â’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidogion yw Llywodraeth Cymru, gweithrediaeth Cymru.

156. Rydym o’r farn y dylid cael synergedd a chydlyniaeth rhwng prosesau penodi a disgyblu, fel y nodir yn y paragraffau isod. Felly, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.

157. Fel y nodwyd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yw'r awdurdod penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. O fewn hierarchaeth barnwyr, mae'n rhesymegol bod Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn eistedd o dan yr Arglwydd Brif Ustus, gan gynnwys o fewn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Mae hefyd yn rhesymegol bod gan yr Arglwydd Brif Ustus rôl ym mhenodiad y Llywydd ac mewn materion sy'n ymwneud â disgyblaeth, yn enwedig o ran diswyddo. Ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Llywydd o reidrwydd gael ei benodi gan yr Arglwydd Brif Ustus. Felly, yn y system dribiwnlysoedd newydd, gallai’r trefniadau o ran awdurdod penodi'r Llywydd barhau fel y maent, neu gellid cael awdurdod penodi Cymreig.

158. Croesawn eich sylwadau ar y broses ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac a ddylai a sut y dylai ddatblygu fel rhan o’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru.

Cwestiwn ymgynghori 32

Ydych chi’n meddwl y dylai’r prosesau penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael eu newid mewn unrhyw ffordd fel rhan o’r diwygiadau arfaethedig a nodir yn y papur gwyn?

Troednodiadau

1. Gweler, er enghraifft, adran 4 a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, sy’n rhoi’r swyddogaeth i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd benodi aelodau cyffredin ac aelodau cyfreithiol Tribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Yn ôl i destun.

2. Gweler, er enghraifft, adrannau 22 a 32 a pharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014. Gweinidogion yr Alban yw’r awdurdod penodi ar gyfer penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban a rhaid iddynt: ymgynghori â’r Arglwydd Lywydd cyn penodi Llywyddion Siambrau; a phenodi Dirprwy Lywyddion y Siambr os gofynnir iddynt wneud hynny gan Lywydd y Tribiwnlysoedd. Yn ôl i destun.

Pennod 8: Cwynion a disgyblu

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion a disgyblu mewn cysylltiad ag ymddygiad holl aelodau tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd newydd
  • gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am weinyddiaeth y gwasanaeth tribiwnlys newydd.

Cyflwyniad

159. Yn yr un modd ag y mae dull cydlynol o benodi i’r system dribiwnlysoedd newydd yn cyfrannu at y cydbwysedd rhwng annibyniaeth farnwrol ac atebolrwydd barnwrol, felly hefyd mae system gwyno a disgyblu sy’n deg, yn gadarn ac yn dryloyw, gan fodloni disgwyliadau defnyddwyr tribiwnlysoedd a diogelu annibyniaeth farnwrol.

160. Mae’r gweithdrefnau cwyno a disgyblu presennol ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig yn anghyson. Mae gan rai tribiwnlysoedd bolisïau sy’n ymdrin â chwynion am ymddygiad aelodau tribiwnlysoedd, mae gan rai bolisïau sydd hefyd yn cynnwys cwynion am weinyddiaeth tribiwnlysoedd, ac nid oes gan rai bolisïau i fynd i’r afael â’r naill fater na’r llall.

161. Mae ein hamcan wrth gynnig gweithdrefnau diwygiedig i’w cymhwyso i’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru yn ddeublyg: yn gyntaf, gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am ymddygiad holl aelodau’r tribiwnlys; ac yn ail, gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am weinyddiaeth y gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd, a weinyddir gan Dribiwnlysoedd Cymru (“Tribiwnlysoedd Cymru” yw’r corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru yr ydym yn cynnig sy’n gyfrifol am weinyddiaeth weithredol y system dribiwnlysoedd newydd. Gweler Pennod 5: Annibyniaeth, ar gyfer ein cynigion manwl).

Cwynion am aelodau tribiwnlysoedd

162. Rydym yn cynnig gweithdrefn gyson ar draws holl siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac ar gyfer Tribiwnlys Apêl Cymru ar sail argymhellion Comisiwn y Gyfraith (gweler Atodiad 2, argymhellion 39 i 50 Comisiwn y Gyfraith).

163. Ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, rydym yn cynnig:

  1. y dylai Llywyddion Siambr fod yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am ymddygiad aelodau cyfreithiol ac aelodau cyffredinol eu siambrau, ac y dylai corff neu unigolyn annibynnol fod yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am Lywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau
  2. Ar ôl cael adroddiad ac argymhellion ymchwiliad, y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn gyfrifol am ddisgyblu a diswyddo, os oes angen, aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Rydym yn cynnig y dylid cael cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddiswyddo Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau.

164. O ran Tribiwnlys Apêl Cymru, rydym yn cynnig bod corff neu unigolyn annibynnol yn ymchwilio i gwynion am aelodau. Rydym yn cytuno â dadansoddiad Comisiwn y Gyfraith o’r dull o sancsiynu aelodau’r Tribiwnlys Apêl, sef ar sail adroddiad ac argymhellion yr ymchwilydd annibynnol, sancsiynau nad ydynt yn cynnwys diswyddo i’w gosod gan y Prif Weinidog gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru; pwerau diswyddo wedi’u breinio yn y Prif Weinidog yn unig i osgoi’r posibilrwydd o sefyllfa ddiddatrys rhwng y weithrediaeth a’r farnwriaeth yn yr achosion mwyaf difrifol.

165. Mae ein cynigion a amlinellir uchod yn rhag-weld rôl ymchwilio i gorff neu unigolyn annibynnol. Rydym wedi ystyried cyfrifoldeb yr Arglwydd Ganghellor dros ddisgyblaeth farnwrol fel y rhoddir gan statud a’r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn y gellir ei dilyn wrth ddelio â materion disgyblu (Adran 115 a 116 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005). Mae’r Arglwydd Ganghellor, gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus, Arglwydd Lywydd Llys y Sesiwn ac Arglwydd Brif Ustus Gogledd Iwerddon, wedi penodi swyddogion er mwyn arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â disgyblaeth farnwrol. Y Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Barnwrol yw’r enw ar gyfer y swyddogion a ddynodir felly gyda’i gilydd. Yn dechnegol, mae’n un o adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

166. Yn ymarferol, mae’r Swyddfa’n cael ei thrin fel corff hyd braich ac mae’n gweithredu fel swydd annibynnol sy’n helpu’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus i reoli cwynion am ddeiliaid swyddi barnwrol. Mae hyn yn ymestyn i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi ar hyn o bryd, ond nid lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi. Nid oes trefniant ffurfiol ar waith ar hyn o bryd i’r Swyddfa helpu Gweinidogion Cymru i reoli cwynion am ddeiliaid swyddi barnwrol y mae Gweinidogion Cymru yn eu penodi, os bydd unrhyw gwynion o’r fath yn codi (mae hyn yn cyferbynnu’r prosesau ar gyfer dewis ac argymell unigolyn i’w benodi lle mae trefniant o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar waith rhwng Gweinidogion Cymru a’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol er mwyn i’r Comisiwn arfer y swyddogaethau hynny ar ran Gweinidogion Cymru - gweler paragraff 137).  Rydym yn archwilio, gyda’r Swyddfa a Llywodraeth y DU, y materion ymarferol sy’n ymwneud â’r Swyddfa’n cefnogi’r broses gwyno ac yn enwebu unigolyn neu unigolion i gyflawni’r rôl ymchwilio yr ydym yn ei chynnig. Rydym hefyd yn edrych ar opsiynau eraill o ran y corff neu’r unigolyn fyddai orau i ymgymryd â’r rôl hon.

Consultation question 33

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion a gwneud penderfyniadau disgyblu ynghylch aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

Consultation question 34

Ydych chi’n cytuno â’r rôl ymchwilio arfaethedig i gorff neu berson annibynnol? Pwy ddylai’r corff neu’r person fod yn eich barn chi?

Cwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd

167. Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith y dylid cael gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd gan Dribiwnlysoedd Cymru (gweler Atodiad 2, argymhelliad 40 Comisiwn y Gyfraith). 

168. Fel y trafodir ym Mhennod 5, rydym yn cynnig creu corff corfforedig, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd (gweler Pennod 5: Annibyniaeth, tudalennau 36-49 ar “Annibyniaeth statudol”, lle rydym yn cynnig bod corff hyd braich o’r fath yn cael ei greu naill ai fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru neu fel Adran Anweinidogol). Rydym yn cynnig y dylai Tribiwnlysoedd Cymru ddelio yn y lle cyntaf â chwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd, gan gynnwys cwynion am Aelodau Bwrdd a staff Tribiwnlysoedd Cymru. Mae mecanweithiau cwyno mewnol priodol yn rhan allweddol o system effeithiol ar gyfer gwneud iawn a goruchwylio, a dylai Tribiwnlysoedd Cymru allu arloesi i sefydlu polisi cwynion unffurf a ddylai fod ar gael yn rhwydd i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd ac sy’n nodi’n glir y weithdrefn y mae’n rhaid i achwynydd ei dilyn (gweler Public Administration and a Just Wales).

169. Rydym hefyd yn cynnig y dylai Tribiwnlysoedd Cymru, wrth arfer ei swyddogaethau i weinyddu’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru, fod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nid ydym yn cynnig y dylai awdurdodaeth yr Ombwdsmon ymestyn i gynnwys cwynion am aelodau barnwrol neu aelodau cyffredinol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru neu Dribiwnlys Apêl Cymru.

Consultation question 35

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd?

Pennod 9: Rheolau gweithdrefnol

Cynnig

Rydym yn cynnig y canlynol:

  • dylid cael rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd cyn belled ag y bo hynny’n briodol, ond gan gofio bod angen darparu ar gyfer gwahaniaethau rhwng awdurdodaethau
  • dylai pob siambr Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gael ei set ei hun o reolau gweithdrefnol
  • sefydlu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd i Gymru, o dan gadeiryddiaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, i ddatblygu a diweddaru rheolau gweithdrefnol a fyddai’n cael eu gwneud gan y Llywydd, ar yr amod eu bod yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Cyflwyniad

170. Mewn penodau blaenorol o’r Papur Gwyn hwn, rydym wedi trafod datblygiad tameidiog y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, sy’n arbennig o amlwg yn rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd datganoledig. Mae rhai rheolau gweithdrefnol yn dyddio’n ôl i ddeddfwriaeth cyn datganoli o’r 1970au na gafodd eu hysgrifennu gyda Chymru nac arferion modern tribiwnlysoedd mewn golwg. Ar ben hynny, nid yw’n help bod y defnydd o derminoleg mewn gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yn anghyson wrth gyfeirio at y pŵer i wneud “rheolau”, “rheoliadau”, “darpariaeth ar gyfer gweithdrefn” a “rheoliadau gweithdrefn”.

171. Mae’r rheolau gweithdrefnol presennol sydd ar waith ar hyn o bryd yn y tribiwnlysoedd datganoledig sydd o fewn cwmpas y prosiect diwygio tribiwnlysoedd yn anghyson, yn gymhleth ac yn hen. Mae hyn yn achosi anawsterau i farnwyr ac i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd. Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith bod angen rhoi sylw i gydlyniaeth rheolau gweithdrefnol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.

172. Felly, rydym yn cynnig creu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb dros adolygu a diweddaru gweithdrefnau i’w galw’n “Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd”, gyda rheolau cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd fel rhan o reolau pwrpasol sydd wedi’u teilwra i awdurdodaeth pob un o siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

173. Rydym yn cynnig creu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb dros adolygu a diweddaru gweithdrefnau o’r enw “Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd”, i fynd i’r afael â chydlynu rheolau gweithdrefnol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd yn hytrach na’r hen reolau anghyson a chymhleth sydd ar waith ar hyn o bryd yn y tribiwnlysoedd datganoledig sydd o fewn cwmpas prosiect diwygio’r tribiwnlys.

174. Mae’r model hwn yn rhannol yn adlewyrchu’r dull a fabwysiadwyd mewn perthynas â Thribiwnlys Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU. Mae’r cyfrifoldeb dros wneud y rheolau sy’n llywodraethu’r ymarfer a’r weithdrefn yn y tribiwnlysoedd hynny wedi’i freinio yn y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, corff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol, a sefydlwyd gan Adran 22 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, ac a noddir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn gwneud y rheolau gweithdrefnol gyda’r nod o sicrhau bod tribiwnlysoedd yn hygyrch ac yn deg; bod achosion yn gyflym ac yn effeithlon; a bod y rheolau’n syml ac yn glir. Mae’r Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn adolygu’r rheolau gweithdrefnol yn gyson, yn enwedig yng ngoleuni hawliau newydd i apelio a newid deddfwriaethol.

175. Rydym yn credu ei bod yn bwysig cael corff goruchwylio i sicrhau cysondeb y rheolau lle bo angen; i gydnabod yr angen i ddiogelu nodweddion ac anghenion unigryw tribiwnlysoedd unigol lle bo hynny’n briodol; ac i sicrhau bod y rheolau gweithdrefnol yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd.

176. Rydym yn cynnig y bydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn bwyllgor statudol, a fydd yn cael ei gadeirio gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a fydd hefyd yn gyfrifol am benodi aelodau’r pwyllgor, a fydd yn cael ei arwain yn y broses hon gan ffactorau a nodir mewn deddfwriaeth. Rydym yn cynnig y dylai aelodaeth Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru adlewyrchu gwahanol awdurdodaethau/siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac y dylai hefyd gynnwys cynrychiolwyr o ddefnyddwyr tribiwnlysoedd.

177. Mae ein strwythur arfaethedig ar gyfer Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, gan gynnwys materion fel ei aelodaeth, sut mae aelodau’n cael eu penodi, a deiliadaeth aelodau, ymysg materion eraill, wedi’u nodi yn Nhabl 4 isod.

Cwestiwn ymgynghori 36

Ydych chi’n cytuno y dylid creu pwyllgor statudol sy’n gyfrifol am ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, fel y nodir ym mharagraffau 173-177 ac isod?

Pŵer i wneud rheolau gweithdrefnol


178. Mae Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007) yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud Rheolau Gweithdrefn Tribiwnlysoedd y Tribiwnlys Haen Gyntaf a’r Uwch Dribiwnlys. Yn fras, mae’r rheolau gweithdrefnol hyn yn cael eu gwneud gan Bwyllgor Gweithdrefn Tribiwnlysoedd y DU, yn dilyn cytundeb mwyafrif ei aelodau (paragraff 28(2)(a) o Ran 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007) ac, ymysg pethau eraill, ar ôl ymgynghori ag unigolion priodol yn eu barn nhw (gan gynnwys Llywyddion Siambrau)(Paragraff 28(1)(a) o Ran 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007). Cyflwynir y rheolau drafft i’r Arglwydd Ganghellor, a all eu cymeradwyo neu eu gwrthod (paragraffau 28(2)(b) a 28(3) Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007). Os cymeradwyir y rheolau, maent yn cael eu gwneud gan y Pwyllgor drwy offeryn statudol (paragraffau 28(5) a 28(6) o Ran 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007). Mae Rheolau Gweithdrefnol y Tribiwnlys yn cael eu llunio gan y Pwyllgor yn unol ag amcanion statudol, ac egwyddorion arweiniol pellach sy’n seiliedig ar yr amcanion statudol sylfaenol.

179. Mae Cyngor Cyfiawnder Sifil yr Alban, corff a sefydlwyd ym mis Mai 2013, yn gyfrifol am baratoi rheolau gweithdrefn drafft ar gyfer llysoedd sifil yn yr Alban, a gyflwynir i Lys y Sesiwn sydd wedyn yn creu’r rheol drwy Ddeddf Eisteddiad (Act of Sederunt). Roedd Deddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014 yn diwygio swyddogaethau Cyngor Cyfiawnder Sifil yr Alban i gynnwys dyletswydd i “adolygu’r arfer a’r weithdrefn a ddilynir mewn achosion yn Nhribiwnlysoedd yr Alban” (Deddf Cyngor Cyfiawnder Sifil yr Alban a Chymorth Cyfreithiol Troseddol 2013 adran 2 (1)(ba) (fel y’i diwygiwyd gan baragraff 13 o Atodlen 9 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014)). Nid yw’r diwygiad mewn grym eto; yn y cyfamser, Gweinidogion yr Alban sy’n gwneud rheolau tribiwnlysoedd.

180. Roedd Comisiwn y Gyfraith yn gofyn am farn ar sut dylai rheolau gweithdrefnol tribiwnlysoedd datganoledig gael eu creu (Comisiwn y Gyfraith (2020) Papur Ymgynghori Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, Cwestiwn Ymgynghori 34, Paragraffau 5.109 (tudalen 106) ac 11.33, tudalen 215). Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn y dylai’r rheolau gael eu gwneud gan fwyafrif o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, roedd bron i draean o’r ymatebwyr yn cefnogi cyfuniad, bod y rheolau’n cael eu gwneud gan fwyafrif o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, neu gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Roedd hyn yn cynnwys Syr Wyn Williams, sef Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar adeg ymateb.

181. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad mai’r dull gorau oedd yr un a awgrymwyd gan Syr Wyn Williams: bod y rheolau’n cael eu gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, dim ond ar ôl iddynt gael eu llunio a’u derbyn gan fwyafrif y Pwyllgor. Roedd Comisiwn y Gyfraith o’r farn y dylai’r dull hwn fodloni dymuniad aelodau tribiwnlysoedd i gael trefniadau cadw cydbwysedd ar waith. Dylai atal mwyafrif o’r Pwyllgor rhag gorfodi eu barn, a byddai hefyd yn helpu i rymuso a sicrhau hygrededd y Pwyllgor. Yn olaf, gan fod telerau’r rheolau gweithdrefnol yn gallu arwain at oblygiadau o ran costau, mae Comisiwn y Gyfraith o’r farn y dylai’r rheolau hefyd gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Rhoddodd Comisiwn y Gyfraith grynodeb o’i gasgliad yn Argymhelliad 25 (gweler Atodiad 2, argymhelliad 25 Comisiwn y Gyfraith) yn ei adroddiad terfynol. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith rhoi dyletswydd arall ar y Pwyllgor i ymgynghori â phwy bynnag y mae’n ei ystyried yn briodol cyn i’r rheolau gael eu gwneud (gweler Atodiad 2, argymhelliad 26 Comisiwn y Gyfraith).

182. Rydym wedi ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith a’r casgliadau a wnaed. Rydym yn cytuno ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith ac yn cynnig bod Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd datganoledig yn cael eu gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ar ffurf y cytunir arni gan fwyafrif o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, ac yn amodol ar gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

183. Rydym yn cynnig bod darpariaeth yn cael ei chynnwys ar wyneb y bil sy’n nodi’r broses ar gyfer gwneud Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd. Bydd Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn cael eu gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru drwy offeryn statudol.

184. Credwn ei bod yn fuddiol ymgynghori’n eang ag arweinwyr barnwrol, aelodau tribiwnlysoedd, llunwyr polisi a defnyddwyr tribiwnlysoedd cyn i’r rheolau gael eu gwneud, er mwyn sicrhau rheolau gweithdrefnol cadarn, sy’n gweithio i holl ddefnyddwyr posibl y tribiwnlys a’r farnwriaeth. Felly, rydym hefyd yn cynnig y dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru gael dyletswydd i ymgynghori â phwy bynnag y mae’n ei ystyried yn briodol (gan gynnwys aelodau’r tribiwnlys, aelodau o’r farnwriaeth ehangach, ymarferwyr a defnyddwyr tribiwnlysoedd, fel yr awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith) cyn gwneud y rheolau.

185. Mae rhagor o fanylion am wneud Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd wedi’u nodi yn Nhabl 4 isod.

Cwestiwn ymgynghori 37

Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i arfer y pŵer i wneud rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd?

Safoni rheolau gweithdrefnau

186. Rydym o’r farn y bydd safoni rhai agweddau ar Reolau Gweithdrefnol Tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd datganoledig yn sicrhau bod y rheolau gweithdrefnol ar gyfer y system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn gyson ac yn hygyrch i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd ac i staff gweinyddol ac aelodau tribiwnlysoedd sydd wedi’u trawsdocynnu sy’n eistedd mewn siambrau yn y strwythur newydd. A thrwy hynny, hyrwyddo hyblygrwydd ac effeithlonrwydd yn system unedig y tribiwnlysoedd datganoledig.

187. Mae gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf a Thribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban setiau o reolau gweithdrefnol ar wahân ar gyfer pob siambr. Mae saith set o reolau gweithdrefnol yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, sy’n cynnwys yr un prif amcan a dyletswydd y partïon i gydweithredu â’r tribiwnlys. Un o’r egwyddorion arweiniol a ddilynir gan Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU yw y dylai’r Pwyllgor ymdrechu i: fabwysiadu rheolau cyffredin ar draws tribiwnlysoedd lle bynnag y bo modd, fel bod rheolau sy’n benodol i siambr neu dribiwnlys yn gweithredu dim ond lle mae angen clir ac amlwg amdanynt.

188. Rydym yn cynnig bod Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn datblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd. Ond, yn bwysig iawn, dim ond i’r graddau y mae’n briodol safoni y dylai hyn ddigwydd. Felly, ar ben hynny, rydym yn cynnig y dylai siambrau y mae awdurdodaethau’n cael eu trefnu iddynt gael rheolau pwrpasol sy’n cydnabod nodweddion ac anghenion unigryw eu hawdurdodaethau. Yn yr un modd, pan fydd Tribiwnlys Apêl Cymru yn cael ei rannu’n siambrau, dylai’r un dull fod yn berthnasol i’w Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlys.

189. Er mai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru fydd yn gyfrifol am ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith (gweler Atodiad 2, argymhelliad 30 Comisiwn y Gyfraith) ac felly rydym yn cynnig y dylai rheolau gweithdrefnol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys y materion canlynol:

  1. prif amcan
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun
  5. rheolau ar wrandawiadau o bell.

190. Mae rhagor o fanylion am ein cynigion ar y materion a gynigir, fel y nodir ym mharagraff 189 uchod, y gellid eu cynnwys yn y rheolau gweithdrefnol safonol, wedi’u nodi ym mharagraffau 192 i 209 isod.

191. Rydym hefyd yn cynnig bod gan Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru y pŵer i ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer pob siambr a’i awdurdodaeth benodol, fel y nodir yn Nhabl 4 isod.

Prif amcan a rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau

192. Mae rheolau gweithdrefnol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, Tribiwnlys Addysg Cymru, tribiwnlysoedd eiddo preswyl sy’n rhan o Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Thribiwnlys y Gymraeg yn cynnwys prif amcan. Er bod geiriad pob prif amcan yn wahanol, un peth sy’n gyffredin rhyngddynt yw’r gofyniad y dylid ymdrin ag achosion “yn deg ac yn gyfiawn” (mae enghraifft o amrywiad yn Rheol 3, OS 2008 Rhif 2705 Rheolau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, sy’n datgan prif amcan y rheolau yw galluogi’r tribiwnlys i ddelio ag achosion “yn deg, yn gyfiawn, yn effeithlon ac yn gyflym”).

193. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai rheolau gweithdrefnol safonol newydd y tribiwnlysoedd datganoledig gynnwys prif amcan (Comisiwn y Gyfraith, 2020. Papur Ymgynghori Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, Cwestiwn Ymgynghori 21, Paragraffau 5.19, tudalen 87 ac 11.21, tudalen 212) i’w gymhwyso’n gyson ar draws tribiwnlysoedd. Yn gyffredinol, mae rheolau gweithdrefnol yn darparu diffiniad nad yw’n gynhwysfawr o’r hyn y mae’n ei olygu i ddelio ag achosion “yn deg ac yn gyfiawn”. Roedd papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith yn cynnwys enghraifft o’r hyn y gallai’r prif amcan ei gynnwys, gan ddefnyddio enghreifftiau a gymerwyd o’r datganiadau o’r prif amcan sydd yn y rheolau gweithdrefnol presennol (Papur Ymgynghori Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 5.13, tudalen 86). Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai prif amcan newydd gynnwys rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau.

194. Rydym yn cynnig y dylai’r rheolau gweithdrefnol safonol newydd gynnwys datganiad o egwyddor i lywio ymarfer disgresiwn drwy gynnwys prif amcan y mae’n rhaid i’r tribiwnlysoedd datganoledig ei roi ar waith wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd neu ddehongli unrhyw reol weithdrefnol.

195. Rydym yn cynnig y gallai Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys prif amcan, er enghraifft, er mwyn galluogi’r Tribiwnlys i ddelio ag achosion yn deg ac yn gyfiawn. Mae awdurdod, hyd yn oed lle nad oes prif amcan penodol mewn set benodol o reolau tribiwnlysoedd, bod yn rhaid i dribiwnlys ymdrin â materion yn deg ac yn gyfiawn. Er y gall yr amcan hwn fod yn ymhlyg, rydym yn cynnig ei wneud yn glir. Credwn y byddai cynnwys prif amcan yn hybu cyfiawnder, yn helpu i wneud penderfyniadau barnwrol ac yn cynorthwyo defnyddwyr tribiwnlysoedd. Rydym yn cynnig y dylai’r prif amcan hefyd gynnwys rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau o’r hyn y mae’n ei olygu i ddelio ag achosion yn unol â’r amcan.

Dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys

196. Roedd adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai prif amcan gynnwys dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd a’r tribiwnlys. Mae dyletswydd o’r fath wedi’i chynnwys ar hyn o bryd ym mhrif amcan rheolau gweithdrefnol rhai o’r tribiwnlysoedd datganoledig. Yn achos Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, er nad yw wedi’i chynnwys yn ei reolau gweithdrefnol ei hun, mae rheol o’r fath wedi’i chynnwys yn rheolau gweithdrefnol y tribiwnlys cyfatebol yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Lloegr.

197. Rydym yn cynnig y dylai fod dyletswydd ar ddefnyddwyr tribiwnlysoedd i gydweithredu â’r tribiwnlys a phartïon eraill. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y dylai’r ddyletswydd annog cydweithredu yn hytrach na bod yn rhy ragnodol. Byddai’r ddyletswydd yn pwysleisio natur holgar, yn hytrach na gwrthwynebus, tribiwnlys.

Darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig

198. Mae’r rheolau gweithdrefnol ar gyflwyno dogfennau yn y tribiwnlysoedd datganoledig yn anghyson ac wedi dyddio, sy’n adlewyrchu eu datblygiad tameidiog. Nid yw’r rheolau’n mynd i’r afael ag arferion modern mewn tribiwnlysoedd ac nid ydynt yn adlewyrchu datblygiadau technolegol. Er enghraifft, dim ond yn rheolau gweithdrefnol tri o’r tribiwnlysoedd datganoledig (Troednodyn 1), y mae darpariaeth benodol sy’n caniatáu anfon dogfennau drwy e-bost,  gyda rheolau eraill fel petaent yn ymhlyg yn caniatáu i ddogfennau gael eu e-bost (Troednodyn 2) yn ystod pandemig COVID-19. Tynnwyd sylw at y broblem gan rgyfraith achosion ddiweddar (Troednodyn 3).

199. Roedd Comisiwn y Gyfraith, yn ei ymgynghoriad, yn cynnig y dylai rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd datganoledig ddarparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig.

200. Rydym yn nodi’r pryderon a godwyd gan rai ymatebwyr, gan gytuno ag egwyddor y cynnig dros dro. Er enghraifft, yn enwedig yng nghyd-destun Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, ystyriwyd y dylai’r ddarpariaeth fod yn un sy’n galluogi yn hytrach nag yn rhagnodi, er mwyn caniatáu cyfathrebu ar ffurf copi caled lle bo hynny’n briodol (Troednodyn 4). Ystyriwyd hefyd y gallai caniatáu i ddogfennau gael eu cyflwyno’n electronig rwystro pobl sydd wedi'u hallgáu’n ddigidol rhag cyfrannu.

201. Rydym yn rhannu’n benodol y pryderon ynghylch cynhwysiant digidol mewn perthynas â chyflwyno dogfennau. Drwy’r Strategaeth Ddigidol i Gymru rydym yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i ni barhau i gymhwyso egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel bod ffyrdd eraill o gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i bobl sy’n methu, neu sy’n penderfynu peidio, cymryd rhan yn ddigidol, ac y dylai’r llwybrau mynediad hyn fod cystal â’r rheini sy’n cael eu cynnig ar-lein. Cadarnhaodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 fod amcangyfrif o 180,000 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru sydd ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol ac felly nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau digidol, gan gynnwys gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thribiwnlysoedd. Ni ddylid anghofio am y dinasyddion hyn.

202. Mae’n werth nodi bod rheolau gweithdrefnol holl siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf y DU yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer cyflwyno dogfennau’n electronig. Fodd bynnag, nid oes yr un ohonynt yn rhagnodi cyflwyno dogfennau’n electronig fel yr unig ddull o gyflwyno. Rydym yn cynnig y dylai’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd wneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig, ond nad dyma’r unig ffordd o gyflwyno dogfennau. Byddai hyn yn sicrhau bod rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd datganoledig yn gyson ac yn cael eu diweddaru gydag arferion tribiwnlysoedd modern a datblygiadau technolegol, gan gydnabod hefyd bwysigrwydd rhoi amddiffyniad priodol i’r rheini a allai fod yn agored i niwed ac i’r rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, a fydd, yn ei dro, yn diogelu mynediad at gyfiawnder.

Pŵer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun

203. Gall y pŵer i adolygu penderfyniadau fod yn ddefnyddiol i dribiwnlysoedd, gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt gywiro gwallau amlwg heb fod angen apêl. Fodd bynnag, mae pŵer tribiwnlysoedd datganoledig i adolygu eu penderfyniadau yn amrywio ar draws y tribiwnlysoedd, lle mae darpariaeth o’r fath yn bodoli o gwbl.

204. Rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith bod Rheolau Gweithdrefnol y Tribiwnlysoedd yn cynnwys pŵer i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru adolygu ei benderfyniadau ei hun. Byddai’r pŵer i adolygu penderfyniadau yn galluogi Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i gywiro unrhyw wallau amlwg mewn cyfraith neu weithdrefn, ni fyddai’n ceisio newid seiliau apêl. Fel hyn, byddai Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn gyson yn ffordd synhwyrol, gymesur a chost-effeithiol o graffu ar y broses gwneud penderfyniadau mewn amgylchiadau sydd wedi’u cyfyngu i gywiro gwallau amlwg yn y gyfraith neu’r weithdrefn ac osgoi apeliadau diangen.

Rheolau ar wrandawiadau o bell

205. Yn ystod pandemig COVID-19, roedd gwrandawiadau tribiwnlys wedi newid o fod yn wrandawiadau wyneb yn wyneb i fod yn wrandawiadau o bell, boed hynny drwy gynhadledd ffôn neu gynhadledd fideo. Er bod y dull hwn o ymdrin â gwrandawiadau tribiwnlys mewn ymateb i’r pandemig, mewn rhai achosion mae’r effaith wedi bod yn fanteisiol i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd. Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020/2021 (Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021), dywedodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru bod gwrandawiadau o bell wedi bod yn llwyddiant mawr mewn perthynas â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar y pryd, a bod defnyddwyr y tribiwnlys yn ffafrio gwrandawiadau o bell, gan fod defnyddwyr tribiwnlysoedd “ar y cyfan, yn gallu cymryd rhan o’u cartrefi eu hunain ac, o ganlyniad, yn teimlo’n fwy hamddenol ac yn gallu cymryd rhan yn well” yn yr achos (Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021 tudalen 12).

206. Lle bo’n briodol, mae gwrandawiadau o bell yn dal i gael eu defnyddio heddiw, er bod cyfyngiadau pandemig COVID-19 wedi cael eu codi erbyn hyn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes gweithdrefn unffurf ar gyfer gwrandawiadau o bell ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig. Ni welodd Comisiwn y Gyfraith “unrhyw reswm egwyddorol dros anghysondeb o’r fath”  ac roedd yn ystyried bod y cynnydd sylweddol yn y defnydd o wrandawiadau o bell ers dechrau pandemig COVID-19 “wedi creu achos cryf dros ddiweddaru a safoni rheolau gweithdrefnol yn ymwneud â gwrandawiadau o bell ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig” (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 6.155, tudalen 126). Felly, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid safoni’r rheolau ar wrandawiadau o bell yn rheolau gweithdrefnol tribiwnlysoedd datganoledig. Fodd bynnag, byddai angen “digon o hyblygrwydd” i ddarparu ar gyfer gofynion pob tribiwnlys unigol wrth ddefnyddio gwrandawiadau o bell (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 6.165, tudalen 128; a gweler Atodiad 2, argymhelliad 30 Comisiwn y Gyfraith).

207. Rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith.  Bydd gwrandawiadau o bell yn parhau i fod yn nodwedd o’r system dribiwnlysoedd fodern ac mae angen safoni’r rheolau sy’n ymwneud â hwy. Felly, rydym yn argymell y dylai rheolau gweithdrefnol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys rheolau ar wrandawiadau o bell.

208. Rydym yn cydnabod manteision posibl safoni’r rheolau sy’n ymwneud â gwrandawiadau o bell. Er enghraifft, gwella hygyrchedd y tribiwnlysoedd; a sicrhau nad yw defnyddwyr tribiwnlysoedd yng Nghymru dan anfantais oherwydd y posibilrwydd o greu system ddwy haen, os nad ydym yn symud yn unol â’r symudiad tuag at ddigidoleiddio yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y pryderon a godwyd gan rai ymatebwyr i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith. Er enghraifft, pwysigrwydd gweithio gydag unigolion byddar i sicrhau bod eu hanghenion cyfathrebu’n cael eu diwallu’n briodol ar gyfer gwrandawiadau wyneb yn wyneb ac o bell (gweler sylwadau Cymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru: Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 6.162, tudalen 127); a rhoi ystyriaeth ofalus i “amgylchiadau unigryw Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a’r ffaith ei bod yn anodd iawn cael gwybod o bell beth yw cyflwr corfforol a meddyliol unigolyn” (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 6.163, tudalennau 127-128).

209. O ganlyniad, er mai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru fydd yn ystyried ac yn llunio’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd drafft, credwn y dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru ystyried yr angen am ddigon o hyblygrwydd yn ei ddull o ymdrin â’r rheol a’i chymhwyso, gan ganiatáu cyfarwyddiadau ymarfer sy’n adeiladu ar y rheol safonol ar wrandawiadau o bell er mwyn adlewyrchu materion pwnc unigryw pob un o’r tribiwnlysoedd datganoledig.

Cwestiwn ymgynghori 38

Ydych chi’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ddatblygu rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, gan gydnabod a darparu ar gyfer nodweddion unigryw pob awdurdodaeth?

Cwestiwn ymgynghori 39

Ydych chi’n cytuno â’n cynnig y dylai Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys y materion canlynol:

  1. prif amcan
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun
  5. rheolau ar wrandawiadau o bell.

Trefniadau pontio

210. Er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, rydym yn cynnig bod darpariaeth yn cael ei chynnwys ar wyneb y bil sy’n rhoi manylion y trefniadau pontio. Rydym yn cynnig y byddai darpariaeth o’r fath yn nodi, wrth greu’r system dribiwnlysoedd newydd a throsglwyddo’r tribiwnlysoedd hynny i’w hymgorffori yn y strwythur newydd o’r diwrnod cyntaf (er enghraifft Tribiwnlysoedd Cymru Adran 59), y bydd y rheolau gweithdrefnol sydd mewn grym yn union cyn y trosglwyddiad yn cael effaith fel pe baent yn Rheolau Gweithdrefn Tribiwnlysoedd y siambr benodol honno o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru hyd nes y caiff Rheolau Gweithdrefn Tribiwnlys y siambr newydd eu llunio a’u rhoi ar waith.

Y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer Cymru a’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd newydd arfaethedig

Maes:

Gweld mewn fformat bwrdd

Sefydlu

Darpariaeth statudol: Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

Sefydlu pwyllgor statudol, “Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru”.

Darpariaeth statudol: Statws

Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i'r casgliad y dylai'r weinyddiaeth ar gyfer system y tribiwnlys gael ei staffio gan weision sifil, sydd fel arfer yn statws staff a gyflogir gan NMD. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Bydd y portffolio y bydd Gweinidog Cymru yn ei gyfrif i'r Senedd, ynghyd â'r Ysgrifennydd Parhaol a'r Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd.

Pwrpas

Darpariaeth statudol: Amcan - (Gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd)

Datblygu rheolau o’r enw “Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd” sy’n rheoli’r canlynol:

  1. yr ymarfer a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru
  2. yr ymarfer a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn Nhribiwnlys Apêl Cymru.

Bydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn cael eu datblygu, eu hadolygu’n rheolaidd a’u bod yn gyfredol. 

Byddai’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn ceisio sicrhau tegwch, mynediad gwell at gyfiawnder i ddefnyddwyr, effeithlonrwydd, eglurder iaith, cysondeb, symlrwydd i staff gweinyddol a barnwyr wedi’u trawsdocynnu.

Darpariaeth statudol: Swyddogaethau

Statud i fanylu ar swyddogaethau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Aelodaeth

Darpariaeth statudol: Cadeirydd

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Mae Adran 60(1) o Ddeddf Cymru 2017 ac Atodlen 5 iddi yn darparu y caiff yr Arglwydd Brif Ustus benodi person i swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru a’r Arglwydd Ganghellor, ac os na cheir cytundeb, gellir atgyfeirio’r broses recriwtio at y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Ni fydd gan Weinidogion Cymru rôl bellach yn y gwaith o benodi Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Darpariaeth statudol: Penodi aelodau

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gyfrifol am benodi aelodau i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Nid ydym yn bwriadu rhagnodi aelodaeth Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru drwy statud. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wrth benodi aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, fod o dan ddyletswydd “i roi sylw dyladwy” i’r ffactorau/egwyddorion arweiniol cyffredinol i’w nodi mewn deddfwriaeth, gan gynnwys yr angen am y canlynol:

  1. cynrychioli buddiannau pob un o Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac, yn y man, Tribiwnlys Apêl Cymru
  2. bod gan y Pwyllgor fynediad at bobl sydd ag arbenigedd perthnasol
  3. bod y Pwyllgor yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o ymddangos gerbron y tribiwnlys neu o gynghori’r rhai sy’n gwneud hynny.

Darpariaeth statudol: Aelodau

Wedi’u penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, rydym yn rhag-weld y bydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn cynnwys aelodau craidd ac aelodau ychwanegol a benodir yn ôl y galw i ddarparu gwybodaeth sy’n benodol i awdurdodaeth. Daw aelodau o feysydd barnwrol ac anfarnwrol/ymarferwyr.

Aelodau barnwrol: Llywyddion Siambrau fel aelodau yn rhinwedd eu swydd (yn seiliedig ar ein strwythur arfaethedig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru (gweler Ffigur 1); neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru i ddewis o blith rhai aelodau barnwrol o’r gronfa o Lywyddion Siambr; neu i gylchdroi aelodaeth rhwng Llywyddion Siambr.

Aelodau anfarnwrol/ymarferwyr: Aelodau sydd â gwybodaeth arbennig am wneud penderfyniadau gweinyddol a phenderfyniadau mewn cysylltiad â thribiwnlysoedd. Dim llai na thri na mwy na chwech o bobl i sicrhau cydbwysedd barn ar sail y strwythur arfaethedig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

[Mae hyn o bosibl yn darparu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru sydd â rhwng naw a 12 aelod, ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.]

Efallai y bydd angen i gyfansoddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru amrywio yn dibynnu ar yr awdurdodaeth y mae’n gwneud Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar ei chyfer ac wrth i awdurdodaethau drosglwyddo i’r strwythur tribiwnlysoedd unedig newydd.

Darpariaeth statudol: Deiliadaeth/Tymor y penodiad (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru)

Caiff deiliadaeth ei hystyried ar gyfer aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae’r gronfa o aelodau yn debygol o fod yn fach a gellir colli arbenigedd os caiff y cyfyngiadau arferol ar ddeiliadaeth ar gyfer penodiadau cyhoeddus eu gorfodi’n llym. Felly, credwn y dylid mabwysiadu dull mwy hyblyg o ymdrin â hyd gwasanaeth ar Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Darpariaeth statudol: Ymrwymiad amser

Rydym yn cynnig y dylid ystyried nifer y cyfarfodydd pwyllgor a gynhelir bob blwyddyn, gan eu rhagnodi mewn statud i gyd-fynd â’r ddyletswydd i gyfarfod a ddisgrifir isod. Naw y flwyddyn o bosibl, yn unol â Phwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU.

Darpariaeth statudol: Taliad cydnabyddiaeth

Di-dâl, ond pŵer er mwyn i Fwrdd y corff newydd allu ad-dalu aelodau’r Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd am eu costau teithio safonol/rhesymol a’u mân dreuliau.

Mae hyn yn unol â phŵer yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â threuliau Aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU o dan baragraff 26 Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid blynyddol i Dribiwnlysoedd Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau.

Is-grwpiau

Darpariaeth statudol: Is-grwpiau

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i allu sefydlu is-grwpiau i ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol.

Pŵer i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru sefydlu is-grwpiau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt.

Trafodion

Darpariaeth statudol: Trafodion

Pŵer i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys is-grwpiau), ei ddull pleidleisio ac ati.

Dirprwyo

Darpariaeth statudol: Dirprwyo

Pŵer i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaeth i aelod, is-grŵp, cyflogai’r corff newydd (gweler Tabl 1) neu unrhyw unigolyn arall, ond peidio â gwaredu ei gyfrifoldeb dros y swyddogaeth a ddirprwyir.

Ysgrifenyddiaeth

Darpariaeth statudol: Staff

Gall Bwrdd y corff newydd (gweler Tabl 1) benodi staff fel y credir sy’n briodol er mwyn galluogi’r Pwyllgor i gyflawni ei swyddogaethau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau.

Gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd

Darpariaeth statudol: Y broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Darpariaeth i nodi’r broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd.

Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd datganoledig i’w gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ar ffurf y cytunir arni gan fwyafrif o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

DS: gallai hwn fod yn “fwyafrif cymwysedig” (hy ychydig yn fwy na 50%) neu’n fwyafrif syml o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Bydd y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn cael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth/offeryn statudol.

Bydd Gweinidogion Cymru yn atebol am gymeradwyo’r rheolau i’w gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Dyletswyddau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

Darpariaeth statudol: “Dyletswydd i ymgynghori” Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan “ddyletswydd i ymgynghori” â phwy bynnag y mae’n ystyried sy’n briodol (gan gynnwys Llywyddion Siambr (os nad ydynt yn rhai yn rhinwedd eu swydd), aelodau’r tribiwnlys, aelodau o’r farnwriaeth ehangach, ymarferwyr a defnyddwyr tribiwnlysoedd) cyn gwneud y rheolau.

Darpariaeth statudol: “Dyletswydd i gyfarfod” Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan “ddyletswydd i gyfarfod” (oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny).

(gweler paragraff 28(1)(c) Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mewn perthynas â Phwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU).

Darpariaeth statudol: Dyletswydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru “i roi sylw” i reolau gweithdrefnol llysoedd a thribiwnlysoedd eraill yn y DU

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan ddyletswydd i roi sylw i reolau gweithdrefnol tribiwnlysoedd eraill yn y DU.

Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd

Darpariaeth statudol: Bydd gan bob siambr ei set ei hun o Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd

I gynnwys elfennau cyffredin ac i gydnabod nodweddion unigol awdurdodaeth pob siambr.

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fabwysiadu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd cyffredin ar draws tribiwnlysoedd ond yn bwysig, i’r graddau mae hyn yn briodol – dylai siambrau gael eu set eu hunain o Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd pwrpasol sy’n cydnabod nodweddion unigryw’r awdurdodaethau ym mhob siambr ac yn yr un modd, pan fydd Tribiwnlys Apêl Cymru yn cael ei rannu’n siambrau.

Atebolrwydd Gweinidogion Cymru

Gweler Y broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru uchod.

Darpariaeth statudol: Cynnwys y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - Pob rheol

Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru i gynnwys:

  1. prif amcan sy’n ymwneud â thegwch a chyfiawnder, gydag enghreifftiau enghreifftiol, nad ydynt yn hollgynhwysfawr fel hybu penderfyniadau annibynnol ar sail tystiolaeth ffeithiol
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun; a rheolau ar gyfer gwrandawiadau o bell.

Y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd i fod â dyletswydd statudol i ddrafftio’r rheolau, wedi’i lywio gan egwyddorion clir wrth wneud hynny, ee sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni mewn achosion, bod y system dribiwnlysoedd yn hygyrch ac yn deg ac ati – ceir enghraifft yn adran 22(4) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

Darpariaeth statudol: Cynnwys y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - Rhestr heb fod yn hollgynhwysfawr o ddarpariaethau dewisol

Yn ogystal â’r rheolau a fydd yn berthnasol ar draws pob awdurdodaeth (fel y nodir uchod), bydd gan y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y pŵer i wneud rheolau sydd eu hangen ym mhob awdurdodaeth sy’n gallu gwneud rheolau gwahanol ar gyfer amgylchiadau gwahanol. Rydym yn cynnig y caiff wneud darpariaeth mewn perthynas â’r canlynol ond na fwriedir i’r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr a bydd y Pwyllgor yn defnyddio ei farn ynghylch y rheolau wedi’u teilwra ar gyfer pob awdurdodaeth:

  1. Dirprwyo i staff
  2. Terfynau amser
  3. I ba raddau y gellir penderfynu ar faterion heb wrandawiad ac a all gwrandawiad fod yn gyhoeddus neu’n breifat 
  4. Achosion heb rybudd ymlaen llaw
  5. Cynrychiolaeth
  6. Tystiolaeth a thystion, gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â thalu treuliau’r rhai sy’n mynychu gwrandawiadau
  7. Defnyddio gwybodaeth
  8. Costau a threuliau
  9. Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod
  10. Cywiro penderfyniadau a rhoi penderfyniadau o’r neilltu ar sail weithdrefnol

Gweler, er enghraifft, Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

Darpariaeth statudol: Trefniadau pontio

Statud i gynnwys trefniadau pontio sy’n golygu, pan gaiff y system dribiwnlysoedd newydd ei chreu ac y caiff y “tribiwnlysoedd rhestredig” (y tribiwnlysoedd hynny i’w hymgorffori yn y strwythur newydd o’r diwrnod cyntaf) eu trosglwyddo iddi, y bydd y rheolau gweithdrefnol sydd mewn grym yn union cyn y trosglwyddiad yn dod i rym fel pe baent yn Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y siambr benodol honno o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Tabl 4: Y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer Cymru a’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd newydd arfaethedig

Maes Darpariaeth Statudol Manylion Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Sefydlu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru Sefydlu pwyllgor statudol, “Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru”.  
Statws Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i'r casgliad y dylai'r weinyddiaeth ar gyfer system y tribiwnlys gael ei staffio gan weision sifil, sydd fel arfer yn statws staff a gyflogir gan NMD. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau.  
Pwrpas Amcan - (Gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd)

Datblygu rheolau o’r enw “Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd” sy’n rheoli’r canlynol:

  1. yr ymarfer a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru
  2. yr ymarfer a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn Nhribiwnlys Apêl Cymru.

Bydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn cael eu datblygu, eu hadolygu’n rheolaidd a’u bod yn gyfredol. 

Byddai’r Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn ceisio sicrhau tegwch, mynediad gwell at gyfiawnder i ddefnyddwyr, effeithlonrwydd, eglurder iaith, cysondeb, symlrwydd i staff gweinyddol a barnwyr wedi’u trawsdocynnu.

 
  Swyddogaethau Statud i fanylu ar swyddogaethau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.  
Aelodaeth Cadeirydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Mae Adran 60(1) o Ddeddf Cymru 2017 ac Atodlen 5 iddi yn darparu y caiff yr Arglwydd Brif Ustus benodi person i swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru a’r Arglwydd Ganghellor, ac os na cheir cytundeb, gellir atgyfeirio’r broses recriwtio at y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Ni fydd gan Weinidogion Cymru rôl bellach yn y gwaith o benodi Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

  Penodi Aelodau

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gyfrifol am benodi aelodau i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Nid ydym yn bwriadu rhagnodi aelodaeth Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru drwy statud. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wrth benodi aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, fod o dan ddyletswydd “i roi sylw dyladwy” i’r ffactorau/egwyddorion arweiniol cyffredinol i’w nodi mewn deddfwriaeth, gan gynnwys yr angen am y canlynol:

  1. cynrychioli buddiannau pob un o Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac, yn y man, Tribiwnlys Apêl Cymru
  2. bod gan y Pwyllgor fynediad at bobl sydd ag arbenigedd perthnasol
  3. bod y Pwyllgor yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o ymddangos gerbron y tribiwnlys neu o gynghori’r rhai sy’n gwneud hynny.
 
  Aelodau

Wedi’u penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, rydym yn rhag-weld y bydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn cynnwys aelodau craidd ac aelodau ychwanegol a benodir yn ôl y galw i ddarparu gwybodaeth sy’n benodol i awdurdodaeth. Daw aelodau o feysydd barnwrol ac anfarnwrol/ymarferwyr.

Aelodau barnwrol: Llywyddion Siambrau fel aelodau yn rhinwedd eu swydd (yn seiliedig ar ein strwythur arfaethedig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru (gweler Ffigur 1); neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru i ddewis o blith rhai aelodau barnwrol o’r gronfa o Lywyddion Siambr; neu i gylchdroi aelodaeth rhwng Llywyddion Siambr.

Aelodau anfarnwrol/ymarferwyr: Aelodau sydd â gwybodaeth arbennig am wneud penderfyniadau gweinyddol a phenderfyniadau mewn cysylltiad â thribiwnlysoedd. Dim llai na thri na mwy na chwech o bobl i sicrhau cydbwysedd barn ar sail y strwythur arfaethedig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

[Mae hyn o bosibl yn darparu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru sydd â rhwng naw a 12 aelod, ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.]

Efallai y bydd angen i gyfansoddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru amrywio yn dibynnu ar yr awdurdodaeth y mae’n gwneud Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar ei chyfer ac wrth i awdurdodaethau drosglwyddo i’r strwythur tribiwnlysoedd unedig newydd.

 
  Deiliadaeth/Tymor y penodiad (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru)

Caiff deiliadaeth ei hystyried ar gyfer aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae’r gronfa o aelodau yn debygol o fod yn fach a gellir colli arbenigedd os caiff y cyfyngiadau arferol ar ddeiliadaeth ar gyfer penodiadau cyhoeddus eu gorfodi’n llym. Felly, credwn y dylid mabwysiadu dull mwy hyblyg o ymdrin â hyd gwasanaeth ar Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

 
  Ymrwymiad amser Rydym yn cynnig y dylid ystyried nifer y cyfarfodydd pwyllgor a gynhelir bob blwyddyn, gan eu rhagnodi mewn statud i gyd-fynd â’r ddyletswydd i gyfarfod a ddisgrifir isod. Naw y flwyddyn o bosibl, yn unol â Phwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU.  
  Taliad cydnabyddiaeth

Di-dâl, ond pŵer er mwyn i Fwrdd y corff newydd allu ad-dalu aelodau’r Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd am eu costau teithio safonol/rhesymol a’u mân dreuliau.

Mae hyn yn unol â phŵer yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â threuliau Aelodau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU o dan baragraff 26 Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid blynyddol i Dribiwnlysoedd Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau.
Is-grwpiau Is-grwpiau

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i allu sefydlu is-grwpiau i ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol.

Pŵer i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru sefydlu is-grwpiau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt.

 
Trafodion Trafodion Pŵer i Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys is-grwpiau), ei ddull pleidleisio ac ati.  
Dirprwyo Dirprwyo ower for the Tribunal Procedure Committee for Wales to delegate any function to a member, subgroup, employee of the new body (see Table 1) or any other person, but not to divest itself of responsibility for the function delegated.  
Ysgrifenyddiaeth Staff Gall Bwrdd y corff newydd (gweler Tabl 1) benodi staff fel y credir sy’n briodol er mwyn galluogi’r Pwyllgor i gyflawni ei swyddogaethau. Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau.
Gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Y broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Darpariaeth i nodi’r broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd.

Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd datganoledig i’w gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ar ffurf y cytunir arni gan fwyafrif o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

DS: gallai hwn fod yn “fwyafrif cymwysedig” (hy ychydig yn fwy na 50%) neu’n fwyafrif syml o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru.

Bydd y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd yn cael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth/offeryn statudol.

Bydd Gweinidogion Cymru yn atebol am gymeradwyo’r rheolau i’w gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Dyletswyddau Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru “Dyletswydd i ymgynghori” Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan “ddyletswydd i ymgynghori” â phwy bynnag y mae’n ystyried sy’n briodol (gan gynnwys Llywyddion Siambr (os nad ydynt yn rhai yn rhinwedd eu swydd), aelodau’r tribiwnlys, aelodau o’r farnwriaeth ehangach, ymarferwyr a defnyddwyr tribiwnlysoedd) cyn gwneud y rheolau.  
  “Dyletswydd i gyfarfod” Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru

Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan “ddyletswydd i gyfarfod” (oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny).

(gweler paragraff 28(1)(c) Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mewn perthynas â Phwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y DU).

 
  Dyletswydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru “i roi sylw” i reolau gweithdrefnol llysoedd a thribiwnlysoedd eraill yn y DU Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fod o dan ddyletswydd i roi sylw i reolau gweithdrefnol tribiwnlysoedd eraill yn y DU.  
Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Bydd gan bob siambr ei set ei hun o Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd I gynnwys elfennau cyffredin ac i gydnabod nodweddion unigol awdurdodaeth pob siambr. Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru i fabwysiadu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd cyffredin ar draws tribiwnlysoedd ond yn bwysig, i’r graddau mae hyn yn briodol – dylai siambrau gael eu set eu hunain o Reolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd pwrpasol sy’n cydnabod nodweddion unigryw’r awdurdodaethau ym mhob siambr ac yn yr un modd, pan fydd Tribiwnlys Apêl Cymru yn cael ei rannu’n siambrau. Gweler Y broses ar gyfer gwneud y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru uchod.
  Cynnwys y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - Pob rheol

Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru i gynnwys:

  1. prif amcan sy’n ymwneud â thegwch a chyfiawnder, gydag enghreifftiau enghreifftiol, nad ydynt yn hollgynhwysfawr fel hybu penderfyniadau annibynnol ar sail tystiolaeth ffeithiol
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun; a rheolau ar gyfer gwrandawiadau o bell.

Y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd i fod â dyletswydd statudol i ddrafftio’r rheolau, wedi’i lywio gan egwyddorion clir wrth wneud hynny, ee sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni mewn achosion, bod y system dribiwnlysoedd yn hygyrch ac yn deg ac ati – ceir enghraifft yn adran 22(4) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

 
  Cynnwys y Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd - Rhestr heb fod yn hollgynhwysfawr o ddarpariaethau dewisol

Yn ogystal â’r rheolau a fydd yn berthnasol ar draws pob awdurdodaeth (fel y nodir uchod), bydd gan y Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y pŵer i wneud rheolau sydd eu hangen ym mhob awdurdodaeth sy’n gallu gwneud rheolau gwahanol ar gyfer amgylchiadau gwahanol. Rydym yn cynnig y caiff wneud darpariaeth mewn perthynas â’r canlynol ond na fwriedir i’r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr a bydd y Pwyllgor yn defnyddio ei farn ynghylch y rheolau wedi’u teilwra ar gyfer pob awdurdodaeth:

  1. Dirprwyo i staff
  2. Terfynau amser
  3. I ba raddau y gellir penderfynu ar faterion heb wrandawiad ac a all gwrandawiad fod yn gyhoeddus neu’n breifat 
  4. Achosion heb rybudd ymlaen llaw
  5. Cynrychiolaeth
  6. Tystiolaeth a thystion, gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â thalu treuliau’r rhai sy’n mynychu gwrandawiadau
  7. Defnyddio gwybodaeth
  8. Costau a threuliau
  9. Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod
  10. Cywiro penderfyniadau a rhoi penderfyniadau o’r neilltu ar sail weithdrefnol

Gweler, er enghraifft, Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.

 
  Trefniadau pontio Statud i gynnwys trefniadau pontio sy’n golygu, pan gaiff y system dribiwnlysoedd newydd ei chreu ac y caiff y “tribiwnlysoedd rhestredig” (y tribiwnlysoedd hynny i’w hymgorffori yn y strwythur newydd o’r diwrnod cyntaf) eu trosglwyddo iddi, y bydd y rheolau gweithdrefnol sydd mewn grym yn union cyn y trosglwyddiad yn dod i rym fel pe baent yn Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd y siambr benodol honno o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.  

Troednodiadau

1. Dim ond rheolau Tribiwnlys Addysg Cymru, Tribiwnlys Prisio Cymru a’r tribiwnlys eiddo preswyl sy’n datgan yn benodol y gellir anfon dogfennau drwy e-bost. Gweler Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru OS 2012 Rhif 322 (Cy. 53), rheoliad 79(2)(c); Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru OS 2021 Rhif 406 (Cy. 132), rheoliad 75(4); Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru OS 2010 Rhif 713 (Cy 69), rheoliad 46(5); a Rheoliadau’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) OS 2006 Rhif 1641 (Cy. 156), rheoliad 37. Yn ôl i destun.

2. Gweler Rheolau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru OS 2008 Rhif 2705 (L.17), rheol 9(1); Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) OS 2001 Rhif 2288 (Cy. 176), rheoliad 24(b); Gorchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Rheolau) OS 2007 Rhif 3105, rheol 49(b); a Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) OS 2004 Rhif 681 (Cy. 69), rheoliad 23(c)(ii). Yn ôl i destun.

3. Gweler, er enghraifft, Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Evans v Bodorgan Properties (CI) Limited ALT 06/2017; ac ystyriodd yr Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) reolau gwasanaethu Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn Adams v Jones [2021] UKUT 9 (LC); [2021] All ER (D) 65 (Jan). Yn ôl i destun.

4. Mae rheolau gweithdrefnol y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) yn rhai sy’n galluogi ac nid yn rhagnodi. Mae Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) OS 2008 Rhif 2699, rheol 13(4) yn darparu:

... pan fo’r Tribiwnlys neu barti yn anfon dogfen at barti neu’r Tribiwnlys drwy e-bost neu unrhyw ddull electronig arall o gyfathrebu, caiff y derbynnydd ofyn i’r anfonwr ddarparu copi caled o’r ddogfen i’r derbynnydd.

Yn ôl i destun.

Pennod 10: Dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru

Cyflwyniad

211. Mae’r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn hwn yn bwysig ynddynt eu hunain. Ond maent hefyd yn gamau pwysig ar daith hwy setliad datganoli Cymru tuag at fframwaith cyfansoddiadol cynaliadwy sydd â’r cyfreithlondeb democrataidd mwyaf posibl, ac sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

212. Yn benodol, drwy sefydlu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, mae potensial i allu datganoli rhannau o’r system gyfiawnder yn llwyddiannus; ac yn fwy anuniongyrchol, mae’n ddangosydd o’r dull gweithredu y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio wrth ddylunio a goruchwylio system gyfiawnder ddatganoledig.

213. Mae’r bennod hon yn edrych yn benodol ar:

  1. Sut gall system dribiwnlysoedd ddiwygiedig gefnogi datblygu system gyfiawnder gryfach, hyd yn oed cyn rhagor o ddatganoli posibl
  2. Y rhyngweithio rhwng diwygio tribiwnlysoedd ac unrhyw gam pellach o ddatganoli cyfiawnder, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid ac (yn dilyn hynny) y system gyfiawnder yn ehangach – yn anad dim, y llysoedd.

Cryfhau’r system gyfiawnder o dan y setliad cyfansoddiadol presennol

214. Bydd y diwygiadau yr ydym yn eu cynnig yn y Papur Gwyn hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru. Hyd yn oed os na fydd ein cynlluniau ar gyfer diwygio yn cael eu hehangu ymhellach y tu hwnt i’r mesurau rhesymoli cychwynnol a nodir yn y papur hwn, bydd y mesurau hynny’n rhoi rhagor o annibyniaeth, cydlyniaeth, hygyrchedd ac effeithlonrwydd iddo.

215. Fodd bynnag, mae’r diwygiadau strwythurol i’r system dribiwnlysoedd a nodir yn y papur hwn yn gamau hefyd ar daith i wella cyfiawnder yng Nghymru.

216. Rhan o’r daith wella honno fydd dod â mwy o swyddogaethau, dros amser, o fewn cwmpas y system dribiwnlysoedd newydd. O fewn ei feysydd cymhwysedd, gall y Senedd sefydlu rhagor o dribiwnlysoedd neu ddyrannu swyddogaethau newydd i’r tribiwnlysoedd datganoledig presennol. Yn union fel y bydd apeliadau gwaharddiadau o ysgolion yn dod o fewn cwmpas y Tribiwnlys Haen Gyntaf a’r Tribiwnlys Apêl newydd pan gânt eu sefydlu, bydd swyddogaethau eraill yn dilyn dros amser, lle credir y gallent elwa o’r dull gweithredu a ddefnyddir gan dribiwnlysoedd a’r nodweddion cysylltiedig (fel yr anffurfioldeb cymharol – o’i gymharu â llys, o leiaf).

217. Wrth benderfynu pa anghydfodau y dylid eu cyflwyno i’r strwythur tribiwnlysoedd newydd, bydd yn bwysig ystyried y dulliau eraill o ddatrys anghydfod a allai fod ar gael – nid dim ond llysoedd, ond hefyd ffyrdd eraill o ddatrys anghydfod fel ombwdsmyn, cyfryngu, cyflafareddu neu gymodi. Adolygodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) weithrediad y systemau cyfiawnder yng Nghymru, a gwnaeth argymhellion ynghylch y system cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru).

218. Daeth Comisiwn Thomas i’r casgliad, ymysg pethau eraill, fod:

datrys anghydfod yn gymhleth am nifer o resymau, gan gynnwys y diffyg cydlynu rhwng y llysoedd, y tribiwnlysoedd a gwahanol fathau o ddulliau amgen o ddatrys anghydfod (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, Crynodeb Gweithredol, gweler paragraff 15).

219. Roedd Comisiwn Thomas yn argymell y dylai:

Datrys anghydfodau gerbron llysoedd, tribiwnlysoedd, dulliau amgen o ddatrys anghydfod ac ombwdsmyn, yn ogystal â datrys anghydfodau mewn perthynas â chyfraith weinyddol, gael ei hyrwyddo a’i gydlynu yng Nghymru drwy gorff sy’n cael ei gadeirio gan uwch farnwr (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru argymhelliad 21, paragraff 5.55, tudalen 267).

220. Roedd adolygiad Pwyllgor Cymru y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd o dribiwnlysoedd sy’n gweithredu yng Nghymru yn awgrymu dull unedig system gyfan ar gyfer systemau tribiwnlysoedd yng Nghymru fel sail i gyfiawnder gweinyddol mwy effeithiol yng Nghymru.

221. Mae cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru fel y nodir yn y Papur Gwyn yn gam sylweddol ymlaen i system gyfiawnder eginol Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r dirwedd weinyddol sifil ac ehangach. Y tu hwnt i ddatblygu cynigion deddfwriaethol ar unwaith ar sail yr ymgynghoriad hwn, mae’n hanfodol bod gweithrediad y dirwedd ehangach yn cael ei adolygu’n gyson.

Cwestiwn ymgynghori 40

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau i adolygu gweithrediad cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru? Os felly, sut dylid gwneud hyn?

222. Ym Mhennod 5, rydym hefyd yn nodi sut, drwy sefydlu bwrdd i lywodraethu Tribiwnlysoedd Cymru a gofynion adrodd ar gyfer y bwrdd hwnnw, y gallem sicrhau bod perfformiad y system, boddhad defnyddwyr, a gwybodaeth sy’n ymwneud ag amrywiaeth yn y system yn cael ei fonitro’n dryloyw. Nid yw monitro’r wybodaeth hon yn gyson yn nod ynddo’i hun – ond bydd yn caniatáu llwyfan y gall y system adeiladu cynlluniau arno ar gyfer y dyfodol sy’n sefydlu diwylliant o welliant parhaus.

223. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau hefyd ar yr hyn y gallwn ei gyflawni i wella’r system gyfiawnder yng Nghymru o fewn cyfyngiadau’r system bresennol, lle mae’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU i raddau helaeth. Felly, mae rhagor o heriau o’n blaenau i gysoni materion sy’n ymwneud â chyfiawnder yn briodol ac yn llawn â gweithrediad gwasanaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru ac sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

Datganoli cyfiawnder

224. Roedd Comisiwn Thomas yn argymell yn unfrydol y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn yn ddeddfwriaethol. Yr argymhelliad pwysicaf yng nghyd-destun y papur hwn oedd creu system unedig o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru, ar gyfer penderfynu (ymysg pethau eraill) ar bob anghydfod cyfraith sifil a gweinyddol (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, argymhelliad 22, paragraff 5.56, tudalen 260).

225. Wrth gwrs, mae gweithrediad llysoedd a thribiwnlysoedd gan un gwasanaeth yn rhywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Lloegr, ac yn yr Alban. Argymhellwyd yng ngoleuni sylwadau ynghylch a yw'r rhaniad presennol o gyfrifoldebau rhwng llysoedd a thribiwnlysoedd yn rhesymegol ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr gwasanaethau. 

226. Mae’r ddeddfwriaeth a nodir yn y papur hwn yn nodi’n glir sut y gallem weithredu gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn y dyfodol – fel corff statudol, gyda’r sicrwydd o annibyniaeth y mae’r model hwnnw’n ei gynnig.

227. Fel y dywedasom yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, “nid un digwyddiad fydd diwygio'r system gyfiawnder yng Nghymru; yn hytrach, bydd yn broses o newid dros amser, gan flaenoriaethu'r meysydd hynny lle gallwn wella canlyniadau i bobl Cymru fwyaf”.

228. Mae’r Comisiwn ar Ddyfodol y DU (“Comisiwn Brown”) a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU wedi rhoi un ateb ynghylch sut y gallai’r broses newid honno ddechrau. Nododd Comisiwn Brown mai un o’r gwahaniaethau amlwg rhwng setliadau datganoli Cymru a’r Alban yw datganoli materion yn ymwneud â chyfiawnder a phlismona, ac nad oes unrhyw reswm o egwyddor pam y dylai datganoli o’r fath fod yn llai yng Nghymru. Yn ei adroddiad, argymhellodd Comisiwn Brown y dylai llywodraeth Lafur nesaf y DU ddechrau datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf (A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy. Gweler “Enhancing Wales’ powers of self-government” ac argymhelliad 24, tudalennau 112-113), gan ymgysylltu’n adeiladol ag argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sydd i fod i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd 2023.

229. Fel lle i ddod â’r papur hwn i ben, mae datganoli cyfiawnder ieuenctid yn cynnig esiampl wych o’r cyfleoedd posibl a gynigir gan ddiwygio tribiwnlysoedd a thrwy ddatganoli cyfiawnder. Mae’n hawdd gweld sut gallai lleoliad tribiwnlys fod yn well na llys ar gyfer materion cyfiawnder ieuenctid, gan fod tribiwnlysoedd yn ddull mwy anffurfiol o ddyfarnu ar faterion o’u cymharu â llysoedd. Mae gan dribiwnlysoedd fel Tribiwnlys Addysg Cymru brofiad hir o roi’r flaenoriaeth uchaf i lais y plentyn, o deall anghenion plant a gwneud argymhellion yn eu cylch, ac o greu amgylcheddau a ffyrdd o weithio sy’n caniatáu i blant gymryd rhan mewn achosion mewn ffordd sy’n lleihau trawma iddynt.

230. Mae rhai ynadon yn cael hyfforddiant penodol ac yn datblygu profiad ac arbenigedd sylweddol wrth weithio gyda phlant sy'n troseddu, ac ystyried eu hawliau a'u lles. Mae rhai achosion yn y Llysoedd Ynadon hefyd yn cael eu clywed gan Farnwyr Rhanbarth neu Ddirprwy Farnwyr Rhanbarth, a fydd â chymwysterau cyfreithiol proffesiynol ac a allai fod â chymwysterau penodol o ran gweithio gyda phlant a theuluoedd. Fodd bynnag, mae anghyfartalwch o hyd rhwng y sail ar gyfer recriwtio ynadon a'r rhagofynion angenrheidiol i'w penodi i'r Tribiwnlys Addysg, yn seiliedig ar y swyddogaethau gwahanol y mae'r ddwy awdurdodaeth yn eu gwasanaethu fel arfer.

231. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn elwa ar waith grŵp cynghori o dan gadeiryddiaeth Dr Jonathan Evans, sy’n ystyried cryfderau a gwendidau’r system cyfiawnder ieuenctid bresennol yng Nghymru, canlyniadau buddiol posibl datganoli, a’r mecanweithiau ar gyfer cyflawni’r manteision hynny. Fel rhan o’r broses o fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw, rydym yn cynnig ystyried y potensial ar gyfer rôl i’r system dribiwnlysoedd newydd, gan gynnwys profiad rhyngwladol o weithredu model o’r fath.

232. Ar hyn o bryd, dim ond un syniad yw hwn ymhlith llawer ynghylch sut y gellid darparu cyfiawnder ieuenctid yn wahanol gyda datganoli. Ond mae wedi’i gynnwys yma fel un enghraifft yn unig o’r creadigrwydd a fyddai’n cael ei ganiatáu drwy ddatganoli cyfiawnder – a’r cyfle y mae’n ei roi i fabwysiadu agwedd wirioneddol gyfannol at lunio polisïau am y tro cyntaf.

233. Yn y cyfamser, mae ein diwygiadau i dribiwnlysoedd yn gosod cynsail clir i’r dull y byddem yn ei ddefnyddio i reoli cyfiawnder yng Nghymru, wedi’i lywio gan yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol a’r angen i sicrhau bod gan holl bobl Cymru fynediad priodol at gyfiawnder, lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen.

Atodiad 1: Sut i ymateb

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno â’r hyn rydym wedi’i nodi fel tribiwnlysoedd datganoledig ym mharagraff 22?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer y system dribiwnlysoedd unedig i Gymru?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer aelodaeth y tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno y dylid, mewn egwyddor, trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn 6

Ydych chi’n cytuno, os na fydd awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, y dylai ddal i fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

Cwestiwn 7

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn 8

Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael ei gweinyddu gan awdurdodau derbyn am y tro?

Cwestiwn 9

Ydych chi’n cytuno y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn 10

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn 11

Ydych chi’n cytuno, fel egwyddor arweiniol, y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru?

Cwestiwn 12

A oes unrhyw fathau penodol o anghydfod o dan gyfraith ddatganoledig sydd, yn eich barn chi, yn arbennig o addas i gael eu datrys gan dribiwnlys?

Cwestiwn 13

Ydych chi’n cytuno y dylid cael Tribiwnlys Apêl i Gymru?

Cwestiwn 14

Ydych chi’n cytuno mai Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud?

Cwestiwn 15

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru dros amser ac y dylid eu trefnu’n siambrau drwy is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

Cwestiwn 16

Ydych chi’n cytuno y dylai’r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol fod yn berthnasol i bawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae hynny’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

Cwestiwn 17

Pwy, yn eich barn chi, y dylid eu cynnwys ar y rhestr o’r rhai sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

Cwestiwn 18

A oes angen i holl aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru dyngu llw neu gadarnhad o’u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol?

Cwestiwn 19

A oes gennych farn ar ffurf arfaethedig y llw neu’r cadarnhad, os caiff un ei fabwysiadu?

Cwestiwn 20

Ydych chi’n cytuno â chreu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru?

Cwestiwn 21

Ydych chi’n credu y dylai’r corff statudol arfaethedig gael ei gyfansoddi fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fel Adran Anweinidogol, neu fel rhywbeth arall? Pam?

Cwestiwn 22

Yn eich barn chi, a ddylai Cadeirydd Bwrdd y corff statudol fod yn benodiad gan Weinidogion Cymru, neu a ddylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn Gadeirydd yn rhinwedd ei swydd?

Cwestiwn 23

Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y trefniadau ar gyfer gweinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yn Nhabl 1?

Cwestiwn 24

Ydych chi’n cytuno y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny?

Cwestiwn 25

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy gyflwyno dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau statudol i’r swydd, fel y nodir yn y Papur Gwyn hwn?

Cwestiwn 26

Ydych chi’n cytuno â’n hegwyddorion arweiniol ar gyfer penodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

Cwestiwn 27

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer awdurdod penodi aelodau’r tribiwnlysoedd newydd:

  1. ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, bydd aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
  2. bydd Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Cwestiwn 28

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

Cwestiwn 29

Ydych chi’n cytuno y dylai’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer penodi i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru ganiatáu i’r pwll o ymgeiswyr sy’n gymwys i gael eu penodi fod mor eang â phosibl?

Cwestiwn 30

Ydych chi’n cytuno y dylai Gweinidogion Cymru osod telerau ac amodau penodi ar gyfer aelodau o’r gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd?

Cwestiwn 31

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau â system o drawsneilltuo ar gyfer aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol yn y system dribiwnlysoedd newydd?

Cwestiwn 32

Ydych chi’n meddwl y dylai’r prosesau penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael eu newid mewn unrhyw ffordd fel rhan o’r diwygiadau arfaethedig a nodir yn y Papur Gwyn?

Cwestiwn 33

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion a gwneud penderfyniadau disgyblu ynghylch aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

Cwestiwn 34

Ydych chi’n cytuno â’r rôl ymchwilio arfaethedig i gorff neu berson annibynnol? Pwy ddylai’r corff neu’r person fod yn eich barn chi?

Cwestiwn 35

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd?

Cwestiwn 36

Ydych chi’n cytuno y dylid creu pwyllgor statudol sy’n gyfrifol am ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, fel y nodir ym mharagraffau 173-177 ac pennod 9?

Cwestiwn 37

Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i arfer y pŵer i wneud rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd?

Cwestiwn 38

Ydych chi’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ddatblygu rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, gan gydnabod a darparu ar gyfer nodweddion unigryw pob awdurdodaeth?

Cwestiwn 39

Ydych chi’n cytuno â’n cynnig y dylai Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys y materion canlynol:

  1. prif amcan
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnly
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun
  5. rheolau ar wrandawiadau o bell.

Cwestiwn 40

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau i adolygu gweithrediad cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru? Os felly, sut dylid gwneud hyn?

Cwestiwn 41

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r diwygiadau yr ydym yn eu cynnig ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, er mwyn creu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol sy'n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, ac yn benodol:

  1. ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac
  2. ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 42

Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y diwygiadau arfaethedig er mwyn cael:

  1. effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a
  2. dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 43

ydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle hwn i'w nodi.

Wrth ymateb, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn cadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn ynteu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad, ac yn cynnwys:

  • eich enw
  • eich swydd (os yw’n berthnasol)
  • enw’r sefydliad (os yw’n berthnasol)
  • cyfeiriad (gan gynnwys cod post)
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn cyswllt

Ymateb i'r ymgynghoriad

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 2 Hydref 2023, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Yr Is-adran Polisi Cyfiawnder
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG47494

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad 2: Argymhellion Comisiwn y Gyfraith

System tribiwnlysoedd ar gyfer Cymru

Argymhelliad 1

Rydym yn argymell y dylai’r tribiwnlysoedd a restrir yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 gael eu disodli gan un Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru, y bydd modd wedyn ei isrannu’n siambrau.

Argymhelliad 2

Rydym yn argymell y dylai siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru gael eu harwain gan Lywyddion siambr, gyda chefnogaeth Dirprwy Lywyddion lle bo angen.

Argymhelliad 3

Rydym yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru gael y pŵer i isrannu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn siambrau, ac i ddyrannu gwaith i’r siambrau hynny, drwy is-ddeddfwriaeth a wneir gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 4

Rydym yn argymell y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlys Prisio Cymru i Siambr Brisio newydd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 5

Rydym yn argymell y dylid trosglwyddo apeliadau gwaharddiadau ysgolion i Siambr Addysg Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 6

Rydym yn argymell y dylai paneli apeliadau derbyn i ysgolion yng Nghymru barhau i gael eu gweinyddu gan awdurdodau derbyn.

Argymhelliad 7

Rydym yn argymell y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru barhau i weinyddu paneli apêl gofal cymdeithasol.

Argymhelliad 8

Rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i greu siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru er mwyn ffurfio Siambr Addysg i arfer awdurdodaeth Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig, Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig a Thribiwnlys Addysg Cymru.

Argymhelliad 9

Rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i greu siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru er mwyn ffurfio Siambr Eiddo Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i arfer awdurdodaeth Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru a Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.

Argymhelliad 10

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu trefniadaeth siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o greu Siambr Reoleiddio Gyffredinol, wrth i awdurdodaethau tribiwnlysoedd newydd gael eu creu.

Apelau

Argymhelliad 11

Rydym yn argymell y dylai deddfwriaeth greu Tribiwnlys Apêl i Gymru.

Argymhelliad 12

Rydym yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru gael pŵer drwy offeryn statudol i sefydlu siambrau’r Tribiwnlys Apêl ac i drosglwyddo awdurdodaeth apeliadol iddo.

Argymhelliad 13

Rydym yn argymell y dylai Tribiwnlys Apêl Cymru, yn niffyg rheswm cadarnhaol dros ddarpariaeth wahanol, fod yn ganolfan apelio ar gyfer apeliadau gan Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 14

Rydym yn argymell y dylai apeliadau o bwyllgorau asesu rhenti fod angen caniatâd.

Argymhelliad 15

Rydym yn argymell y dylid trosglwyddo apeliadau o baneli apeliadau derbyn ysgolion fod ar gael ar bwynt y gyfraith i Siambr Addysg Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 16

Rydym yn argymell y dylai apeliadau pellach o benderfyniadau’r Siambr Addysg ar apeliadau o baneli apeliadau derbyn ysgolion gael eu cyfyngu i achosion sy’n codi rhyw bwynt pwysig o egwyddor neu ymarfer, neu lle mae rheswm cryf arall dros wrando ar yr apêl.

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Argymhelliad 17

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru. Dylid gwneud darpariaeth i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru eistedd mewn rheolau trefniadol neu gyfarwyddiadau.

Argymhelliad 18

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Argymhelliad 19

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion yn unol ag adran 85(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Argymhelliad 20

Os yw Tribiwnlys Prisio Cymru yn parhau y tu allan i’r system dribiwnlysoedd unedig, dylai, serch hynny, fod yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Rheolau gweithdrefnau

Argymhelliad 21

Rydym yn argymell y dylid sefydlu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ar gyfer Cymru.

Argymhelliad 22

Rydym yn argymell y dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru allu sefydlu is-grwpiau i ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol.

Argymhelliad 23

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn gyfrifol am gadeirio Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru a phenodi ei aelodau.

Argymhelliad 24

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wrth benodi aelodau o Bwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, ystyried y ffactorau a nodir mewn deddfwriaeth, gan gynnwys yr angen i:

  1. fuddiannau pob un o Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac, yn y man, Tribiwnlys Apêl Cymru, i gael ei gynrychioli
  2. bod gan y Pwyllgor fynediad at bobl sydd ag arbenigedd perthnasol
  3. bod y Pwyllgor yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o ymddangos gerbron y tribiwnlys neu o gynghori’r rhai sy’n gwneud hynny.

Argymhelliad 25

Rydym yn argymell bod y rheolau’n cael eu gwneud gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ar ffurf y cytunir arni gan fwyafrif o’r Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, ar yr amod eu bod yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Argymhelliad 26

Rydym yn argymell y dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru ymgynghori â phwy bynnag mae’n ystyried sy’n briodol (gan gynnwys aelodau’r tribiwnlys, aelodau o’r farnwriaeth ehangach, ymarferwyr a defnyddwyr tribiwnlysoedd) cyn gwneud y rheolau.

Argymhelliad 27

Dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru fabwysiadu rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y tribiwnlysoedd i’r graddau y bo hynny’n briodol.

Argymhelliad 28

Dylid cael set o reolau gweithdrefnol ar gyfer pob un o siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac ar gyfer Tribiwnlys Apêl Cymru. Os rhennir Tribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau, dylai Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru ystyried a ddylid gwneud set o reolau ar wahân ar gyfer pob siambr.

Argymhelliad 29

Rydym yn argymell y dylai’r ddeddfwriaeth fynnu bod Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru yn ystyried pa mor ddymunol yw cysondeb o fewn rheolau gweithdrefnol y tribiwnlysoedd datganoledig a rhyngddynt hwy a rheolau llysoedd a thribiwnlysoedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

Argymhelliad 30

Dylai rheolau gweithdrefnol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys:

  1. prif amcan
  2. dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
  3. darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
  4. pŵer i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun
  5. rheolau ar wrandawiadau o bell.

Penodi

Argymhelliad 31

Rydym yn argymell y dylai aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru gael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 32

Rydym yn argymell y dylai Llywyddion ac unrhyw Ddirprwy Lywyddion Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru gael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chytundeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 33

Rydym yn argymell y dylai aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru gael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chytundeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 34

Rydym yn argymell y dylai aelodau Tribiwnlys Prisio Cymru gael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 35

Rydym yn argymell y dylai’r Llywydd ac unrhyw Ddirprwy Lywydd Siambr Brisio Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru gael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chytundeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 36

Rydym yn argymell y dylai’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol ddethol ymgeiswyr ar gyfer pob penodiad i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Argymhelliad 37

Rydym yn argymell y dylai’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol ddethol ymgeiswyr ar gyfer pob penodiad i Siambr Brisio Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Cwynion a disgyblu

Argymhelliad 38

Rydym yn argymell y dylai polisi cwynion safonol fod yn berthnasol i holl siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gan ganiatáu ar gyfer amrywiadau i siambrau unigol lle bo angen.

Argymhelliad 39

Rydym yn argymell y dylai’r polisi cwynion sy’n berthnasol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru fod ar gael ar-lein ac ar ffurf copi caled ar gais.

Argymhelliad 40

Rydym yn argymell y dylid cael gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am weinyddiaeth Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru.

Argymhelliad 41

Rydym yn argymell y dylid cael gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am ymddygiad aelodau, Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 42

Rydym yn argymell bod Llywydd y Siambr berthnasol yn ymchwilio i gwynion am ymddygiad aelodau tribiwnlysoedd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 43

Rydym yn argymell bod cwynion am ymddygiad Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cael eu hymchwilio gan y Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Barnwrol.

Argymhelliad 44

Rydym yn argymell bod cwynion am ymddygiad aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu hymchwilio gan y Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Barnwrol.

Argymhelliad 45

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael y pŵer i ddisgyblu a diswyddo aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 46

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael y pŵer i ddisgyblu a diswyddo aelodau Siambr Brisio Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Argymhelliad 47

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael y pŵer i ddisgyblu a diswyddo Llywyddion a Dirprwy Lywyddion siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Argymhelliad 48

Rydym yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael y pŵer i ddisgyblu a diswyddo Llywydd Siambr Brisio Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Argymhelliad 49

Rydym yn argymell y dylai’r Prif Weinidog gael y pŵer i ddiswyddo barnwyr Tribiwnlys Apêl Cymru. Dylai’r Prif Weinidog osod sancsiynau nad ydynt yn cynnwys diswyddo gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru..

Argymhelliad 50

Rydym yn argymell y dylai’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion ddarparu ar gyfer cwynion am ymddygiad aelodau paneli apêl derbyn i ysgolion.

Gweinyddu tribiwnlysoedd

Argymhelliad 51

Rydym yn argymell sefydlu Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru fel adran anweinidogol.

Annibyniaeth farnwrol

Argymhelliad 52

Rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru ac eraill sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd statudol i barchu annibyniaeth y tribiwnlysoedd datganoledig.

Argymhelliad 53

Rydym yn argymell y dylai fod yn ofynnol i holl aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru (gan gynnwys Llywyddion Siambr a Dirprwy Lywyddion) ac aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru dyngu llw barnwrol neu gadarnhad.

Atodiad 3: Tribiwnlysoedd Datganoledig sydd o fewn cwmpas y Prosiect Diwygio

Tribiwnlysoedd sydd o fewn cwmpas y Prosiect Diwygio Tribiwnlysoedd

Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig sy'n dod o fewn cwmpas y prosiect hwn wedi’u nodi isod:

Tribiwnlysoedd Adran 59

Y Tribiwnlysoedd Cymreig fel y'u rhestrir yn Adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017:

  1. Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
  2. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  3. Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
  4. Tribiwnlys Addysg Cymru
  5. Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig
  6. Panel Dyfarnu Cymru
  7. Tribiwnlys y Gymraeg

Tribiwnlysoedd datganoledig eraill

Nid yw'r tribiwnlysoedd canlynol yn "dribiwnlysoedd Cymru" a restrir yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017. Nid oes ganddynt unrhyw berthynas ffurfiol â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac nid ydynt yn cael eu gweinyddu gan Uned Tribiwnlysoedd Cymru.

  1. Tribiwnlys Prisio Cymru
  2. Paneli apêl annibynnol: paneli apêl derbyniadau i ysgolion; a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Sefydlwyd tribiwnlysoedd amaethyddol gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1947. Yn wreiddiol, nid oedd y Ddeddf yn darparu ar gyfer Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, gan roi’r pŵer i’r Arglwydd Ganghellor wneud gorchmynion i sefydlu tribiwnlysoedd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Roedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 yn diddymu tribiwnlysoedd tir amaethyddol ar gyfer ardaloedd yn Lloegr, gan drosglwyddo eu swyddogaethau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Roedd y Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer parhad Tribiwnlys Tir Amaethyddol i Gymru.

Mae’r tribiwnlys yn gwrando ar anghydfodau rhwng landlordiaid amaethyddol a thenantiaid ac anghydfodau draenio. Yn ystod cyfnod adrodd 2021-2022, cafodd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru gyfanswm o 20 cais. Gan fod gwaith y tribiwnlys yn dibynnu’n helaeth ar ymweliadau safle, cynhelir ei wrandawiadau mewn gwestai, neuaddau tref neu adeiladau cyngor yn ardal y tir dan sylw.

Gall Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru adolygu ei benderfyniadau ei hun, naill ai ar ei liwt ei hun neu ar gais gan barti, os bydd mwy o dystiolaeth ar gael, neu os bydd y penderfyniad yn cynnwys gwall clerigol. Gellir gwneud apêl hefyd i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) ar unrhyw bwynt cyfreithiol.

Penodir Llywydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru gan yr arglwydd Ganghellor a rhaid iddo fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr ag o leiaf saith mlynedd o brofiad. Rhaid i gadeirydd y panel fod â chymhwyster cyfreithiol a bydd aelodau panel lleyg gydag ef a fydd â gwybodaeth a phrofiad o ffermio, draenio tir a materion perchnogion tir.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru

Sefydlwyd Tribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl yn wreiddiol ar sail ranbarthol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1959. Darparwyd yn benodol ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae’n gwrando ceisiadau gan ac mewn cysylltiad â phersonau a gadwyd mewn ysbyty yng Nghymru, neu gan berson sy’n preswylio yng Nghymru sydd wedi’i ryddhau i’r gymuned o dan amodau neu’n dod o dan warcheidiaeth, o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007. Yn Lloegr, mae Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrando hawliadau cyfatebol.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru sy’n delio â’r nifer mwyaf o geisiadau o’r holl dribiwnlysoedd datganoledig a restrir yn adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017. Cafodd 1,840 o geisiadau ac atgyfeiriadau am wrandawiad Tribiwnlys yn 2021-2022. Oherwydd natur gwaith Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, cynhelir y rhan fwyaf o’i wrandawiadau mewn ysbytai seiciatrig. Mae hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o benderfyniad gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Mae Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, sef yr unig farnwr cyflogedig yn Nhribiwnlysoedd Cymru, yn gyfrifol am aelodau a phenderfyniadau’r tribiwnlys. Bydd tri aelod tribiwnlys ar bob panel gwrandawiadau: aelod cyfreithiol, aelod meddygol (seiciatrig) ac aelod lleyg. Penodir aelodau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gan yr Arglwydd Ganghellor, heblaw aelodau cyfreithiol sy’n eistedd ar y panel cleifion dan gyfyngiadau. Fe’u penodir gan yr Arglwydd Brif Ustus drwy ymgynghori â’r Arglwydd Ganghellor. Mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi dirprwyo’r swyddogaeth penodi i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

Mae Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn gwrando apeliadau sy’n ymwneud ag eiddo rhentu preifat ac eiddo lesddaliadol o dan nifer o ddeddfiadau. Mewn gwirionedd, mae Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn dribiwnlys ‘ambarél’ sy’n cynnwys tri thribiwnlys gwahanol, pob un wedi’i seilio ar wahanol ddeddfiadau: Pwyllgorau Asesu Rhenti, Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau a Thribiwnlysoedd Eiddo Preswyl. Yn Lloegr, gwrandewir hawliadau tebyg yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo).

Gellir gwneud ceisiadau am adolygiad o benderfyniad Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ar sail gyfyngedig i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Oherwydd natur llwyth gwaith Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru, cynhelir gwrandawiadau mewn neuaddau tref/pentref neu westai yn ardal yr eiddo mae anghydfod yn ei gylch. Lle bo’n briodol, gwrandewir rhai achosion yn swyddfa’r tribiwnlys, ym Mharc Cleppa yng Nghasnewydd. Rydym yn gwybod am un achos mawr a oedd yn cynnwys rhwng 30 a 40 o gyfranogwyr a gafodd ei wrando yn Llys Sirol Caerdydd. Roedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru wedi cael, ac wedi cofrestru, cyfanswm o 113 o geisiadau ar gyfer 2021-2022.

Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi cadeiryddion tribiwnlysoedd, sydd â chymwysterau cyfreithiol. Mae Gweinidogion Cymru yna’n penodi llywydd ac is-lywydd o blith y cadeiryddion hynny. Mae holl aelodau eraill y tribiwnlys yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Cynhelir gwrandawiadau tribiwnlys gan gadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol, aelod proffesiynol ac, mewn rhai achosion, aelod lleyg.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Sefydlwyd Tribiwnlys Addysg Cymru yn 2003, gan Adran 333 (1ZA) o Ddeddf Addysg 1996. Ar y pryd, fe’i gelwid yn Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac fe’i rheolir gan Ddeddfau Addysg 1996 a 2002. Newidiwyd ei enw o fis Medi 2021 ymlaen gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Mae’r tribiwnlys yn gwasanaethu Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n byw yn Lloegr, ond sy’n cael eu haddysg yng Nghymru. Tribiwnlys Addysg Cymru sy’n gyfrifol am wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ynghylch anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc, neu anghenion addysgol arbennig.  Mae Tribiwnlys Addysg Cymru hefyd yn gyfrifol am ddelio â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru o dan adran 116 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Tribiwnlys Addysg Cymru hefyd yn gwrando hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd. Yr hyn sy’n cyfateb i Dribiwnlys Addysg Cymru yn Lloegr yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd) sy’n rhan o Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae Deddf 2018 yn newid y ffordd y mae anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu diwallu mewn ysgolion a chyrff addysg eraill. Bydd yn disodli deddfwriaeth flaenorol am anghenion addysgol arbennig yn araf. Bob blwyddyn, bydd grŵp o flynyddoedd ysgol yn symud o’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Yn y flwyddyn gyntaf, cafodd plant ysgolion meithrin eu cynnwys yn y system, ac yn y drydedd flwyddyn, bydd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn cael eu cynnwys. Dim ond plant o oedran ysgol gorfodol oedd yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth AAA.

Mae adran 70 o Ddeddf 2018 yn darparu rhestr o’r holl achlysuron pryd y gall plentyn, person ifanc neu riant apelio i’r Tribiwnlys. Mae’r adran hon yn cael ei dwyn i rym fesul grŵp oedran. Mae adran 72 o Ddeddf 2018 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hawl i apelio penderfyniadau sy’n effeithio ar bersonau dan gadwad.

Cafodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 151 o geisiadau yn ystod 2021-2022. Gellir gwneud apeliadau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) ar bwynt cyfreithiol.

Yn ystod 2021-2022 cynhaliodd Tribiwnlys Addysg Cymru 69 o wrandawiadau, o’r rheini cynhaliwyd chwe gwrandawiad ar sail y papurau yn unig, cynhaliwyd 62 fel rhith wrandawiadau ac un gwrandawiad wyneb yn wyneb. Pan fo’r gwrandawiadau’n digwydd wyneb yn wyneb, maent yn cael eu cynnal mewn adeiladau cyhoeddus sydd fel arfer o fewn awr o bellter teithio o gartref y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ei arwain gan Lywydd a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor ac a fydd yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr sydd ag o leiaf saith mlynedd o brofiad. Mae paneli’n cynnwys cadeirydd, y mae’n rhaid iddo feddu ar gymhwyster cyfreithiol, ac aelodau lleyg sydd â phrofiad ym maes addysg neu bwnc cysylltiedig.

Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig

Roedd Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 (a oedd yn berthnasol i Gymru a Lloegr) yn darparu ar gyfer cofrestr o arolygwyr ysgolion. Cafodd cofrestr debyg o arolygwyr addysg feithrin ei chreu gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Roedd arolygydd a anghytunai â phenderfyniad i’w dynnu oddi ar y rhestr, neu i beidio â’i gynnwys ynddi, neu i osod amodau ar gofrestriad, yn gallu gwneud cais i dribiwnlys. Fe wnaeth Deddf Addysg 2005 ddileu’r gofyniad i gadw cofrestrau o arolygwyr ysgolion ac arolygwyr addysg feithrin yn Lloegr.

Roedd y darpariaethau sy’n ymwneud ag arolygwyr ysgolion wedi’u cadw i Gymru gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005. Mae arolygwyr meithrinfeydd yng Nghymru hefyd yn gallu parhau i wneud cais i dribiwnlys a gyfansoddwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005. Mae’r rheoliadau sy’n rheoli gweithdrefnau’r ddau dribiwnlys yn cyfeirio atynt fel dau dribiwnlys ar wahân: y Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a’r Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin.

Rydym yn deall nad yw’r tribiwnlys wedi’i gyfansoddi fel y cyfryw, ac na chafwyd ceisiadau er 2007/2008. Fodd bynnag, mae aelodau Tribiwnlys Addysg Cymru yn gymwys i ddelio ag unrhyw achosion sy’n codi yn awdurdodaeth Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a Thribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin. Gellid cymryd y byddai modd gwrando achosion Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin yn yr un lleoliadau a ddefnyddir gan Dribiwnlys Addysg Cymru, pe bai’r angen yn codi.

Mae tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005 yn gallu adolygu, rhoi o’r neilltu neu amrywio ei benderfyniadau ei hun: os gwnaed penderfyniad drwy gamgymeriad o ganlyniad i wall ar ran staff y tribiwnlys; os bydd parti’n methu ag ymddangos heb achos rhesymol; os bydd tystiolaeth newydd ar gael; neu os oes angen gwneud hynny er mwyn cyfiawnder. Nid oes apêl gan y tribiwnlys. Penodir cadeirydd y tribiwnlys gan yr Arglwydd Brif Ustus drwy ymgynghori â’r Arglwydd Ganghellor. Penodir dau aelod tribiwnlys arall gan Weinidogion Cymru.

Panel Dyfarnu Cymru

Sefydlwyd Panel Dyfarnu Cymru o dan Rhan III o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a phenodwyd ei aelodau cyntaf yn 2002.

Mae’n gyfrifol am benderfynu ar achosion honedig o dorri codau ymddygiad awdurdodau gan aelodau o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, ac awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol Cymru.

Mae gan Banel Dyfarnu Cymru ddwy swyddogaeth statudol. Y cyntaf yw ystyried atgyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliad gan yr Ombwdsmon i honiad bod aelod o awdurdod lleol wedi torri cod ymddygiad statudol. Mae’r cyfeiriadau hyn yn cael eu gwrando gan dribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim. Mae Panel Dyfarnu Cymru hefyd yn penderfynu ar apeliadau pwyllgorau safonau awdurdodau lleol, sy’n cael eu gwrando gan dribiwnlysoedd apêl. Cafodd y tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr, Panel Dyfarnu Lloegr, ei ddiddymu yn 2010.

Mae hawl i apelio o dribiwnlysoedd achos i’r Uchel Lys. Mae gan Banel Dyfarnu Cymru lwyth achosion bach ac ym mlwyddyn ariannol 2021-22 cafodd 10 cais.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn cael ei arwain gan Lywydd Tribiwnlys, sy’n aelod cyfreithiol. Mae gan y tribiwnlys Ddirprwy Lywydd hefyd. Mae panel gwrandawiad fel arfer yn cynnwys tri aelod: dau aelod lleyg a’r cadeirydd, sy’n aelod cyfreithiol. Gall mwy nag un aelod cyfreithiol eistedd ar y panel; rydym yn deall bod y dull hwn wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi, neu lle mae gwrthdaro rhwng buddiannau, neu brinder aelodau lleyg.

Tribiwnlys y Gymraeg

Sefydlwyd Tribiwnlys y Gymraeg yn 2015 o dan adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’n gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg. Nid oes tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr.

Mae tri math o apêl. (1) lle mae’r Comisiynydd yn hysbysu person am y penderfyniad nad yw’r gofyniad i gydymffurfio â Safon yn afresymol neu’n anghymesur, gall y Tribiwnlys benderfynu a yw’r gofyniad yn afresymol neu’n anghymesur neu beidio; (2) mae person sydd wedi cwyno i’r Comisiynydd bod person arall wedi methu â chydymffurfio â Safon yn gallu apelio (a) yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd nad yw’r person arall wedi methu â chydymffurfio â’r Safon; neu (b) yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio â chynnal ymchwiliad, i beidio ag ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad neu i beidio â pharhau ag ymchwiliad.

Cafodd y tribiwnlys dri cais yn 2021-2022. Gwnaed un cais o dan Adran 99(2) o’r Mesur; gwnaed un cais o dan adran 103 ac roedd un cais yn nodi adrannau 95(2) a 95(4) yn yr un cais.

Gall Tribiwnlys y Gymraeg adolygu, amrywio neu ddiddymu ei benderfyniadau ei hun. Mae hawl hefyd i apelio i’r Uchel Lys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o benderfyniad a wnaed gan Dribiwnlys y Gymraeg. Hyd yma, ni chafwyd apeliadau o Dribiwnlys y Gymraeg i’r Uchel Lys.

Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg sy’n gyfrifol am drefnu gwaith yr aelodau, ac am wneud penderfyniadau mewn perthynas ag apeliadau a chwynion. Penodir y Llywydd gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo naill ai fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr gydag o leiaf deng mlynedd o brofiad. Gwrandewir ar achosion gan aelod cyfreithiol, a dau aelod lleyg.

Tribiwnlys Prisio Cymru

Mae hanes hir i dribiwnlysoedd prisio, a gellir eu holrhain i Ddeddf Pwyllgorau Asesu Undebau 1862. Yn hanesyddol, roedd cysylltiad agos rhyngddo â llywodraeth leol, gyda thribiwnlysoedd prisio ar gyfer pob awdurdod lleol.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru wedi’i sefydlu drwy statud ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel Corff hyd braich a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Er bod yr arian i redeg y Tribiwnlys yn dod gan Lywodraeth Cymru, nid yw’r Tribiwnlys yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae'n sefyll ar ei ben ei hun fel tribiwnlys annibynnol gyda'i staff ei hun, nad ydynt yn weision sifil. Mae'r staff yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Tribiwnlys ei hun. Mae'n ymdrin ag apeliadau mewn perthynas â Phrisiadau Ardrethu Annomestig, Prisio'r Dreth Gyngor a Phrisiadau Ardrethi Draenio.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael mwy o geisiadau na thribiwnlysoedd datganoledig eraill. Yn 2021-2022 cafodd Tribiwnlys Prisio Cymru 4,808 o geisiadau a gwnaeth 1,070 o benderfyniadau tribiwnlys. 

Mae achosion yn cael eu gwrando gan aelodau sy’n wirfoddolwyr lleol di-dâl. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol er mwyn bod yn aelod. Mae'r Tribiwnlys yn ceisio penodi amrywiaeth o unigolion sydd â chefndiroedd, profiadau a chymwysterau gwahanol. Mae'n ofynnol i bob aelod ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd mewn materion tribiwnlys prisio. Yn ôl Adroddiad Blynyddol 2021-2022 Tribiwnlys Prisio Cymru, roedd 71 o aelodau. Mae tri aelod fel arfer yn gwrando ar apeliadau, gyda chlerc yn eu cynorthwyo. Mae clercod yn gyflogeion i Dribiwnlys Prisio Cymru, sydd ag arbenigedd a hyfforddiant manwl yn sylwedd gwaelodol yr apêl. Eu rôl yw rhoi cyngor ar y gyfraith a’r weithdrefn berthnasol. Mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru chwe chlerc tribiwnlysoedd a dau uwch glerc tribiwnlysoedd.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gallu adolygu ei benderfyniadau ei hun. Gwneir apeliadau pellach i’r Uchel Lys (ar bwynt cyfreithiol ar gyfer achosion y Dreth Gyngor) neu i’r Uwch Dribiwnlys (ar gyfer achosion Ardrethi Annomestig). Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwrando achosion yn lleol ledled Cymru.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cynnal ei weinyddiaeth ei hun. Mae ganddo ei Brif Weithredwr ei hun. Caiff ei reoli gan Gyngor Llywodraethu sy’n cynnwys Llywydd Tribiwnlys Prisio Cymru, tri chynrychiolydd cenedlaethol, a hyd at dri aelod a benodir gan Lywodraeth Cymru.

Paneli apêl annibynnol

Mae paneli apêl derbyniadau i ysgolion yn gwrando apeliadau a wneir o awdurdodau derbyn, sy’n penderfynu i ba ysgol y dylai plentyn fynd. Mae paneli apêl gwaharddiadau yn gwrando apeliadau a wneir o gyrff llywodraethu ysgol sydd wedi penderfynu y dylai disgybl gael ei wahardd o ysgol. Awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r ddau banel fel arfer. Yn ymarferol, mae’n gyffredin iddynt gael eu rhedeg gyda’i gilydd, dan y term cyffredinol ‘panel apêl annibynnol’.

Er bod gweinyddu’r panel yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol fel arfer, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cod statudol ar apeliadau derbyniadau (y “Cod Apêl Derbyniadau”). Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar wahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (“y Canllawiau Gwahardd”).

Dylai gwrandawiadau paneli apêl derbyn i ysgolion a gwahardd o ysgolion gael eu cynnal mewn lleoliadau niwtral, ac nid yn yr ysgol sy’n derbyn/gwahardd. Mae adeiladau awdurdodau lleol yn fannau a ganiateir, ar yr amod bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn adeilad nad yw’n gysylltiedig â’r awdurdod addysg neu dimau derbyn neu wahardd yr awdurdod lleol.

Yn dilyn mesurau dros dro a roddwyd ar waith yn ystod pandemig COVID-19 a oedd yn caniatáu i apeliadau derbyn i ysgolion gael eu gwrando o bell, nododd Llywodraeth Cymru y manteision i bob parti o gael yr opsiwn o apeliadau derbyn i ysgolion o bell ar sail barhaol. Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 wedi dod i rym yn ddiweddar, sy’n rhoi’r dewis i awdurdodau derbyn gynnal apeliadau derbyn i ysgolion o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd cyfran fawr o apeliadau derbyn i ysgolion yn cael eu cynnal o bell yn y dyfodol.

Paneli apêl derbyniadau i ysgolion

Mae adran 94(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn darparu bod awdurdodau derbyn yn gyfrifol am weinyddu paneli apêl derbyniadau. Awdurdodau lleol yw'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir (y mwyafrif o ysgolion yng Nghymru), tra mai cyrff llywodraethu yw'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yng Nghymru, ysgolion ffydd yw’r rhain yn aml, sy’n cael eu rhedeg gan yr Eglwys Gatholig neu’r Eglwys yng Nghymru.

Yn ymarferol, gall cyrff llywodraethu benderfynu gofyn i’r awdurdod lleol drefnu’r paneli apêl y mae’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt. Mae’r Cod Apêl Derbyniadau hefyd yn rhagweld y posibilrwydd o gydweithio rhwng awdurdodau lleol. O ran aelodau panel, mae’r Cod Apêl Derbyniadau yn nodi y “gall cronni adnoddau gydag awdurdodau derbyn ac awdurdodau lleol cyffiniol fod o gymorth i sicrhau nad yw’r un aelodau’n eistedd ar baneli ar gyfer ysgol dro ar ôl tro”.

Mae paneli apêl derbyniadau i ysgolion yn cynnwys hyd at dri neu bump o aelodau. Rhaid i un o’r aelodau hynny fod â phrofiad o fyd addysg, neu fod yn rhiant i ddisgybl sydd wedi ei gofrestru mewn ysgol arall. Rhaid i un arall fod yn aelod “lleyg”: rhywun “heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol”. Mae’n ofynnol i awdurdodau derbyn ailhysbysebu am aelodau lleyg bob tair blynedd.

Gall y panel apêl gyfarwyddo bod plentyn i gael lle mewn ysgol benodol. Bydd y penderfyniad hwnnw’n rhwymo’r awdurdod derbyn a chorff llywodraethu’r ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir lle mae’r paneli’n penderfynu y dylai’r plentyn gael ei leoli.

Mae apeliadau derbyniadau ysgolion yn fwy cyffredin o lawer nag apeliadau yn erbyn gwahardd.

Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

Darperir ar gyfer paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion gan Ddeddf Addysg 2002. Maent yn gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau disgyblu cyrff llywodraethu ar waharddiadau parhaol. Cânt eu trefnu gan yr awdurdod lleol. Mae cyfansoddiad y panel yn debyg i hwnnw mewn paneli apêl derbyniadau; mae panel yn cynnwys tri neu bum aelod, yn cynnwys aelodau lleyg, aelodau sy’n gweithio ym maes addysg neu reoli addysg, ac aelodau sydd neu a fu’n llywodraethwyr ysgolion a gynhelir. Mae panel yn gallu gorchymyn bod:

  1. y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau
  2. y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl, neu
  3. bod yr achos yn un eithriadol lle nad yw derbyn yn ôl yn ffordd ymarferol ymlaen, ond y byddai hynny’n gyfarwyddyd priodol fel arall.

Mae llai o apeliadau gwahardd nag o apeliadau derbyn.