Digwyddiadau i ddod
Haf 2026: Digwyddiad ar y cyd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a fydd yn canolbwyntio ar gryfhau cydymffurfedd â gofynion o ran cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) ar draws y sector amwynderau.
Digwyddiadau blaenorol
Digwyddiad Hyfforddi ar Reoli Chwyn mewn modd Integredig: Mawrth 2026
Digwyddiad Arferion Gorau ar gyfer Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs): Tachwedd 2025
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion diogelu planhigion (PPPs):
e-bost: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru
Trwy danysgrifio, byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- newidiadau i'n tudalennau gwe plaladdwyr
- digwyddiadau i ddod
- canllawiau newydd
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich barn, neu i helpu i lunio ein digwyddiadau a'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd.
Gallwch ddatdanysgrifio o'n rhestr bostio ar unrhyw adeg.
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am y modd yr rydym yn trin eich data.
