Edrych nôl ar ein gwaith dros 2025 i 2026
Trosolwg
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu llawer o bethau i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg.
Dyma ein blaenoriaethau:
- technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
- sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
- gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)
Dyma grynodeb o’n gwaith ni ar gyfer 2025 i 2026.
Mae’r diweddaraf ar gael ar Technoleg Cymraeg a deallusrwydd artiffisial (AI): diweddariadau.
Mae crynodeb o beth wnaethon ni gyflawni’r llynedd ar gael ar Technoleg Cymraeg a deallusrwydd artiffisial (AI): crynhoi 2024 i 2025.
Lleisiau synthetig Cymraeg Geraint a Gwyneth bellach ar gael drwy Hwb
Rydyn ni am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg. Rhan bwysig o hyn yw technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol.
Drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), gall dysgwyr ac athrawon nawr lawrlwytho lleisiau synthetig Geraint a Gwyneth yn uniongyrchol drwy Hwb a’u defnyddio gyda thechnoleg gynorthwyol addas.
Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, datblygodd yr RNIB y lleisiau hyn gyda'r cwmni meddalwedd IVONA. Mae'r lleisiau yn rhad ac am ddim i unigolion a sefydliadau i’w defnyddio at ddibenion anfasnachol. Gallwch nawr eu lawrlwytho ar ddyfeisiau ysgol neu gartref a’u defnyddio gydag unrhyw becyn cynorthwyol Windows, gan gynnwys JAWS, NVDA, Supernova, Zoomtext, Read and Write, Clicker 8 a Tobii Dynavox.
Mae’r gwaith yma nid yn unig fel bod modd i bobl allu defnyddio mwy o’u Cymraeg ond hefyd er mwyn iddyn nhw allu ei defnyddio yn hawdd, heb achosi heriau ychwanegol iddyn nhw.
Partneriaeth Microsoft
Ers i ni weithio gyda Microsoft i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Teams, ac ers i Microsoft gyhoeddi eu bod nawr yn cefnogi’r Gymraeg a’r Gatalaneg yn Copilot, mae gan Microsoft Teams yn gallu trawsgrifio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un pryd bellach. Rydyn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Microsoft i gynorthwyo gweithio dwyieithog yma yng Nghymru a thu hwnt.
Cymraeg mewn Clic
Fe gyhoeddon ni 'Cymraeg mewn clic', ap un clic ar ein rhwydwaith corfforaethol sy'n lleihau "ffrithiant" (methodoleg newid ymddygiad) o ran defnyddio'r Gymraeg mewn technoleg; yn y bôn, mae Cymraeg mewn Clic yn ei gwneud hi'n haws i fwy o'n staff gael profiad llawn o'r Gymraeg ar eu gliniaduron gwaith.
Grantiau technoleg
Parhaodd y grantiau technoleg i helpu i wneud mwy o Gymraeg ar gael mewn mwy o leoedd. O fodelau AI ac adnoddau ymchwil newydd, i filoedd o erthyglau Wicipedia a data daearyddol Cymraeg sy'n cael eu defnyddio bob dydd, mae'r prosiectau wedi helpu i adeiladu'r seilwaith digidol sydd ei angen ar y Gymraeg i ffynnu yn yr oes ddigidol. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi creu cynnwys newydd, rhannu data agored, datblygu offer defnyddiol a rhoi'r Gymraeg wrth galon technoleg newydd. Mae'r gwaith hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein blaenoriaethau technoleg ac AI Cymraeg, gan gryfhau'r adnoddau, y data a'r gallu ymchwil sydd eu hangen i ddatblygu technoleg Gymraeg y dyfodol.
Dyma rhai uchafbwyntiau:
Iriaith (Prifysgol Bangor)
- Casglodd y prosiect bron i hanner miliwn o frawddegau Cymraeg-Saesneg newydd ar gyfer ymchwil a datblygu technoleg Cymraeg. Mae'r data agored hwn bellach yn helpu i hyfforddi modelau AI a chyfieithu Cymraeg (Set ddata Llyw Cymru).
- Datblygodd y tîm fodelau AI Cymraeg newydd, gan gynnwys modelau cyfieithu peirianyddol a modelau iaith mawr sy'n gallu ymateb yn Gymraeg (Model Llama Cymraeg).
- Gwnaeth y prosiect wella technolegau lleferydd Cymraeg, gan ddatblygu modelau trawsgrifio mwy cywir a lleisiau synthetig newydd sy'n swnio'n fwy naturiol (Trawsgrifiwr a TTS).
- Datblygwyd gwasanaethau defnyddiol fel Macsen a Trawsgrifiwr sy'n rhoi'r ymchwil hwnnw ar waith ac yn helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd a gwaith bob dydd (Macsen).
Am wybod mwy am waith yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor? Dyma ddolen at y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Mapio Cymru (Data Orchard)
Mae data daearyddol Cymraeg yn helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy yn y byd digidol. Mae Mapio Cymru wedi ehangu'r data hwnnw ac wedi sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio gan fwy o sefydliadau, gwasanaethau a defnyddwyr ledled Cymru.
- Cynyddodd y prosiect faint o ddata daearyddol Cymraeg sydd ar gael yn agored, gan ychwanegu dros 30,000 o eitemau newydd at OpenStreetMap.
- Cyrhaeddodd gwefan y prosiect dros filiwn o ymweliadau unigryw yn ystod y flwyddyn, gan ddod ag enwau lleoedd Cymraeg at gynulleidfaoedd newydd (OpenStreetMap Cymru).
- Defnyddiwyd data'r prosiect gan sefydliadau mawr fel y Senedd ac Estyn, gan helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy mewn gwasanaethau digidol bob dydd.
Wici-Fflics (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae cynnwys Cymraeg ar-lein yn un o'r adnoddau pwysicaf sydd gennym i gefnogi defnydd o'r Gymraeg heddiw a datblygu technolegau Cymraeg yfory. Helpodd Wici-Fflics i ehangu'r cynnwys hwnnw ar raddfa sylweddol drwy gyfuno data agored, AI a golygu dynol.
- Creodd y prosiect dros 1,000 o erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd am bobl ym maes ffilm a theledu (Prosiect Wici-Fflics).
- Ychwanegwyd dros 7,000 o bobl, lleoedd a sefydliadau at gronfeydd data dwyieithog agored, gan gryfhau'r adnoddau sydd ar gael i'r cyhoedd a datblygwyr (Cronfa SNARC).
- Defnyddiodd y prosiect AI mewn ffordd gyfrifol i helpu i gynyddu faint o wybodaeth Gymraeg sydd ar gael ar-lein, tra'n cadw goruchwyliaeth ddynol dros y cynnwys.
- Mae’r cyhoedd wedi bod yn gweithio ac arbrofi gyda’r data yma hefyd mewn Hacathon Hanes. Dyma’r blog am y digwyddiad.
Dadansoddwr CEFR (Prifysgol Caerdydd)
Helpodd y prosiect hwn i adeiladu'r adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith CEFR yn y dyfodol.
- Datblygodd y prosiect set ddata CEFR-Cymraeg newydd i helpu technoleg i ddeall a mesur lefelau hyfedredd Cymraeg.
- Archwiliodd sut gall modelau AI modern gefnogi asesu a dysgu Cymraeg yn fwy effeithiol.
- Paratowyd modelau i’w rhannu'n agored gyda'r gymuned ymchwil (Casgliad modelau CEFR Cymraeg).
Ymchwiliad “Cymraeg i Bawb?”
Ymddangosodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y pryd gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar 16 Gorffennaf 2025. Roedd technoleg a’r Gymraeg yn rhan o’r drafodaeth “Cymraeg i bawb?”. Mae'r papur tystiolaeth sy’n dangos y drafodaeth yn llawn yn ogystal â fideo o’r sesiwn ar gael.
