Edrych nôl ar ein gwaith dros 2024 i 2025.
Trosolwg
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu llawer o bethau i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg.
Dyma ein blaenoriaethau:
- technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
- sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
- gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)
Dyma grynodeb o’n gwaith ni ar gyfer 2024 i 2025.
Mae’r diweddaraf ar gael ar Technoleg Cymraeg a deallusrwydd artiffisial (AI): diweddariadau.
Mae adroddiad o beth rydyn ni wedi cyflawni hyd yma ar gael ar Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol.
Blaenoriaethau newydd
Wrth gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, ein nod oedd creu datblygiadau technolegol fyddai’n galluogi ni i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd yr adroddiad terfynol ar y Cynllun hwn, gan edrych yn ôl ar ein cynnydd, gan gynnwys ym maes deallusrwydd artiffisial (AI).
Yna, fe wnaethon ni lansio galwad am wybodaeth yn gofyn am farn a syniadau ar y camau nesaf ar gyfer technoleg Cymraeg. Daeth yr alwad hon am wybodaeth i ben ar 01 Hydref 2024, ac mae crynodeb o ymatebion ar gael yma. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddanfonodd eu syniadau i mewn!
Ar 07 Ionawr 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y pryd, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu 3 blaenoriaeth newydd ar gyfer ein gwaith ym maes technoleg Cymraeg:
- technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
- sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
- gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)
Drwy adeiladu’r seilwaith ar gyfer technoleg iaith Gymraeg fel hyn, rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg, sy’n ein helpu i gyrraedd ein nod ar gyfer Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi Strategaeth Ddigidol Cymru drwy ddatblygu offer a thechnolegau digidol sy’n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus gwell yn Gymraeg.
Partneriaethau
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI ym mis Mehefin 2024 i wella sut mae technolegau AI yn gweithio yn Gymraeg. Yn ystod y bartneriaeth, fe wnaethon ni rannu nifer o adnoddau a chydrannau rydyn ni fel Llywodraeth Cymru wedi eu hariannu, ac rydyn ni’n parhau i ryddhau’r dechnoleg rydyn ni’n ei hariannu yn rhad ac am ddim. A hwn ar gael i unrhyw un ddefnyddio, gan gynnwys OpenAI.
Fel rhan o’r bartneriaeth, ac fel prosiect ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, defnyddiodd OpenAI dechnolegau AI i drawsgrifio llawysgrifen Cymraeg. Mae’r canlyniadau ar gael.
Mae Microsoft wedi cyhoeddi eu bod nawr yn cefnogi’r Gymraeg a’r Gatalaneg yn Copilot. Mae hwn yn meddwl gallwch chi nawr ddefnyddio promptiau a chwestiynau Cymraeg a bod Copilot yn dysgu sut i ymateb yn Gymraeg. Fel rhan o’n partneriaeth gyda Microsoft, rydyn ni’n barod wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Teams, ac mae ein canllawiau ar gael. Mae’r gwaith gyda Microsoft yn parhau i ddatblygu hwn ymhellach, a byddwn ni nawr hefyd yn gweithio gyda nhw i wella sut mae Copilot yn prosesu’r iaith Gymraeg.
Technoleg ar gyfer anghenion penodol
Rhan bwysig o’n camau nesaf ni mewn technoleg iaith Gymraeg fydd technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol, amhariad gwybyddol neu gorfforol.
Er enghraifft, gall siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd rhesymau meddygol fel clefyd Motor Niwron neu ganser y gwddf barhau i gyfathrebu yn Gymraeg, diolch i wasanaeth Lleisiwr. Mae’r gwasanaeth wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg ac wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Bangor.
Enghraifft arall yw partneriaeth Llywodraeth Cymru â Tobii Dynavox, cwmni blaenllaw technoleg AAC (cyfathrebu amgen a chynyddol), sydd wedi arwain at TD Snap Express Cymraeg. Mae TD Snap Express wedi’i chynllunio i fod yn syml ac yn hawdd ei defnyddio, gan ganolbwyntio ar fwriad cyfathrebu yn hytrach nac ar ramadeg, i gefnogi plant ac oedolion i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac iaith.
Mae’r gwaith yma nid yn unig fel bod modd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg ond hefyd er mwyn iddyn nhw allu ei defnyddio yn hawdd, heb achosi heriau ychwanegol iddyn nhw.
Grantiau technoleg
Roedd grantiau technoleg 2024 i 2025 yn helpu i adeiladu'r seilwaith, y data a'r adnoddau sydd eu hangen ar y Gymraeg yn yr oes ddigidol. O fapio enwau lleoedd ac ehangu cynnwys Cymraeg ar-lein, i ddatblygu modelau AI, technoleg lleferydd ac adnoddau data agored newydd, bu'r prosiectau'n cryfhau'r ecosystem dechnoleg Gymraeg mewn ffyrdd ymarferol. Er nad oedd blaenoriaethau technoleg ac AI wedi'u cyhoeddi pan ddyfarnwyd y grantiau hyn, mae llawer o'r gwaith a gyflawnwyd yn cefnogi'r un cyfeiriad strategol.
Dyma rhai uchafbwyntiau:
Iriaith (Prifysgol Bangor)
Trwy greu data agored, datblygu modelau newydd ac adeiladu offer y gall pobl eu defnyddio bob dydd, mae Iriaith wedi cryfhau nifer o'r seiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer technoleg ac AI Cymraeg.
- Casglodd a chyhoeddodd dros 440,000 o segmentau Cymraeg-Saesneg cyfochrog o dan drwydded agored i gefnogi ymchwil a datblygu technoleg Cymraeg (Data OGL Cymru).
- Creodd fersiwn Gymraeg o fodel AI Llama 3, gan helpu i adeiladu gallu AI Cymraeg agored (Llama 3 Cymraeg).
- Gwnaeth gynnydd sylweddol ym maes adnabod lleferydd a thrawsgrifio Cymraeg (Trawsgrifiwr).
- Datblygodd offer ymarferol fel Macsen a gwasanaethau testun-i-leferydd newydd sy'n helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd a gwaith bob dydd (Macsen, TTS, Trosleisiwr).
Am wybod mwy am waith yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor? Dyma ddolen at y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Mapio Cymru (Data Orchard)
Mae Mapio Cymru yn helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy yn y byd digidol drwy sicrhau bod enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio ar fapiau a gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bobl bob dydd. Mae'r gwaith hefyd yn dangos sut gall data agored gryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein.
- Helpodd y prosiect i gynyddu nifer yr enwau Cymraeg sydd ar OpenStreetMap i dros 30,000.
- Parhaodd i gefnogi'r haen Gymraeg ar fap swyddogol Llywodraeth Cymru (Map Data Cymru).
- Datblygodd a hyrwyddodd wasanaethau mapio Cymraeg newydd ar gyfer y cyhoedd (OpenStreetMap Cymru, Mapio Cymru).
- Bu'n gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i annog mwy o bobl i gyfrannu data Cymraeg agored.
Wici, AI ac Enwau Lleoedd (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae'r prosiect hwn wedi dangos sut gall data agored, Wici a deallusrwydd artiffisial weithio gyda'i gilydd i gynyddu faint o wybodaeth Gymraeg sydd ar gael ar-lein. Mae hefyd wedi cryfhau'r cysylltiadau rhwng cronfeydd data Cymraeg pwysig a'r sefydliadau sy'n eu defnyddio.
- Ychwanegwyd labeli Cymraeg at 11,264 o eitemau a'u cyhoeddi drwy Wikidata a SNARC (Cronfa SNARC).
- Datblygwyd a phrofwyd dulliau newydd o ddefnyddio AI ac adnabod endidau i ganfod enwau lleoedd Cymraeg mewn testunau digidol (Adroddiad NER Cymraeg).
- Cefnogodd y gwaith ddatblygiad gwefan Enwau Lleoedd Safonol Comisiynydd y Gymraeg a chydweithio gyda Mapio Cymru a rhanddeiliaid eraill.
- Cynhaliwyd Hacathon Hanes Cymru a digwyddiadau golygu i ehangu cynnwys a data Cymraeg ar-lein (Hacathon Hanes 2025).
Peilot model bach ar gyfer profi dadansoddi sentiment yn Gymraeg (Prifysgol Caerdydd)
Mae'r prosiect hwn wedi mynd i'r afael â bwlch pwysig yn seilwaith deallusrwydd artiffisial Cymraeg drwy greu'r adnoddau cyntaf i gefnogi dadansoddi sentiment yn y Gymraeg.
- Crëwyd SENTimental i gasglu a labelu data Cymraeg ar gyfer hyfforddi modelau AI.
- Adolygwyd dros 109,000 o eiriau Cymraeg a chasglwyd dros 4,500 o ymatebion i greu data hyfforddi newydd.
- Dangosodd y model tua 80% o gytundeb â marciau dynol o fewn un lefel sgorio.
- Rhyddhawyd yr adnodd fel meddalwedd agored er mwyn i ymchwilwyr eraill adeiladu ar y gwaith (SENTimental GitHub).
