Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”) yn nodi gweledigaeth newydd ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ac yn creu stiward cenedlaethol newydd ar gyfer addysg ôl-16 er mwyn ehangu dysgu gydol oes, canolbwyntio ar les dysgwyr a chefnogi ein colegau a'n prifysgolion. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd (“y Comisiwn”), sef y corff rheoleiddio a fydd yn gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ac a fydd yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae sefydlu'r Comisiwn yn dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach, darpariaeth chweched dosbarth, prentisiaethau a gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle.

Bwriedir i'r broses o roi'r Comisiwn ar waith fynd yn ei blaen ar y sail y bydd y Comisiwn yn weithredol ym mis Awst 2024 pan gaiff CCAUC ei ddiddymu.  Er y daw'r Comisiwn yn weithredol yn 2024, cafodd ei sefydlu fis Medi 2023. Mae Cadeirydd ac Is-gadeirydd bwrdd y Comisiwn, aelodau allweddol o’r bwrdd, a’r Prif Swyddog Gweithredol eisoes wedi'u penodi.

Goruchwyliaeth o’r comisiwn

Bydd gan y Comisiwn Fwrdd a Phwyllgor Gweithredol. Bydd ganddo hyd at 17 o aelodau a fydd yn cynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd (a fydd yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi hefyd), y Prif Weithredwr a hyd at 14 o aelodau ychwanegol.

Bydd gan aelodau'r Bwrdd sgiliau a phrofiad a fydd yn rhychwantu holl swyddogaethau arfaethedig y Comisiwn. Bydd y broses recriwtio yn defnyddio'r meini prawf hanfodol a dymunol sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod gan y Bwrdd yn gyffredinol y cymysgedd cywir. Daw'r aelodau o ddiwydiant, cyflogwyr, undebau llafur, y sector addysg ôl-16, y sector dysgu oedolion, prentisiaethau, y trydydd sector a'r sector ymchwil ac arloesi.

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer o leiaf dau gynrychiolydd o'r gweithlu ar y Bwrdd, er nad yw hyn yn derfyn ac y gall mwy na dau gynrychiolydd o'r gweithlu gael eu penodi gan Weinidogion Cymru. 

Bydd cynnwys aelodau cyswllt, a ddaw o blith dysgwyr, undebau llafur aelodau o staff ac undebau llafur y gweithlu addysg drydyddol ehangach, yn galluogi'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y penderfyniad i sefydlu'r Comisiwn, i gael cyfle i ddylanwadu ar y Bwrdd a rhoi cyngor iddo

Penodwyd saith aelod o’r bwrdd ar gyfer sefydliad y Comisiwn fis Medi 2023 yn dilyn ymarfer penodiadau cyhoeddus agored. Cyflawnwyd y penodiadau yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Bydd y Comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru am y rhan fwyaf o'i swyddogaethau. Caiff cydberthynas y Comisiwn â Llywodraeth Cymru ei rheoli drwy drefniadau partneriaeth, gyda thîm yn cael ei sefydlu yn Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth. Y tîm partneriaeth hwn fydd y prif bwynt cyswllt rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru.

Dyletswyddau strategol

Mae'r Ddeddf yn nodi 11 o ddyletswyddau strategol y mae'n ofynnol i'r Comisiwn arfer ei swyddogaethau oddi tanynt, y bwriedir iddynt lywio cyfeiriad a ffocws strategol y Comisiwn a helpu i gyflawni ei swyddogaethau, gan roi eglurder ynghylch ei ddiben a'i gylch gwaith cyffredinol. Y dyletswyddau strategol hyn yw:

  • hybu dysgu gydol oes
  • hybu cyfle cyfartal
  • annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol
  • hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol
  • hybu gwaith ymchwil ac arloesi
  • hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil
  • cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol
  • hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
  • hybu cenhadaeth ddinesig
  • hybu golwg fyd-eang
  • hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur

Bydd y dyletswyddau hyn, ar y cyd â datganiad o flaenoriaethau Gweinidogion Cymru, yn nodi'r materion craidd y bydd yn rhaid i'r Comisiwn eu hystyried wrth arfer ei swyddogaethau.

Bwriedir i'r datganiad o flaenoriaethau nodi'r cyfeiriad polisi cyffredinol hirdymor ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Rhagwelir y bydd hyn yn seiliedig fel arfer ar raglen lywodraethu pum mlynedd, gan adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid i batrwm cynllunio busnes dros dymor y Llywodraeth; er y gellid disgwyl i'r datganiad cyntaf fod yn fwy trosiannol ei natur ac, felly, gael ei adolygu yn gynharach.

Ar ôl cyhoeddi'r datganiad o flaenoriaethau, bydd gan y Comisiwn gyfnod o amser i lunio cynllun strategol, ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, a fydd yn nodi sut y bydd yn cyflawni'r blaenoriaethau hyn a'i ddyletswyddau strategol. Rhaid i'r Comisiwn gymryd pob cam rhesymol i roi'r cynllun strategol ar waith.

Disgwylir i'r datganiad o flaenoriaethau gael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl i'r Comisiwn gael ei sefydlu.

Dyletswyddau rheoleiddio

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer dwy system o oruchwyliaeth reoleiddiol, sef:

  • telerau ac amodau cyllido
  • amodau cofrestru

Gyda'i gilydd, bydd y ddwy system hyn yn sicrhau bod gan y Comisiwn y pwerau sydd eu hangen i oruchwylio darparwyr addysg drydyddol a ariennir ganddo a'r rhai y mae eu cyrsiau wedi'u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol. Yn y lle cyntaf, y gofrestr fydd y drefn gyfreithiol a ddefnyddir gan y Comisiwn i gymhwyso goruchwyliaeth reoleiddiol at ddarparwyr addysg uwch y bydd angen iddynt gofrestru â'r Comisiwn er mwyn sicrhau bod eu cyrsiau AU perthnasol yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Comisiwn yn nodi'r gofynion y bydd yn rhaid eu bodloni er mwyn iddo fodloni ei hun ynglŷn â threfniadau'r darparwr ar gyfer yr amodau cofrestru cychwynnol ac mae dyletswydd arno hefyd i fonitro cydymffurfiaeth darparwyr cofrestredig ag amodau cofrestru parhaus. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr cofrestredig ar amodau cofrestru parhaus.

Bydd y Comisiwn yn gallu ymyrryd mewn perthynas â chydymffurfiaeth darparwyr ag amodau cofrestru parhaus, yn amrywio o ymyriadau cefnogol megis rhoi cyngor a chymorth a chynnal adolygiadau i osod amodau cofrestru penodol, rhoi cyfarwyddiadau ac, os bydd angen, ddadgofrestru darparwr.

Y bwriad yw y caiff darparwyr addysg bellach a hyfforddiant a phrentisiaethau eu rheoleiddio'n bennaf drwy delerau ac amodau a osodir ar gyllid grant neu gyllid contract a geir gan y Comisiwn. Gwnaed gwelliannau i'r Ddeddf yn ystod y broses graffu er mwyn helpu i sicrhau cysondeb rhwng y trefniadau ar gyfer darparwyr cofrestredig a darparwyr anghofrestredig. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn, wrth benderfynu ar y telerau ac amodau a osodir mewn perthynas ag adnoddau ariannol sy'n ymwneud ag addysg bellach neu hyfforddiant, prentisiaethau, neu gyrsiau AU a bennir mewn rheoliadau, ar ddarparwyr anghofrestredig, ystyried a ddylid gosod telerau ac amodau sy'n ymwneud â llawer o'r amodau cofrestru sy'n gymwys i ddarparwyr cofrestredig.

Sicrhau ansawdd

Bydd yn ddyletswydd ar y Comisiwn fonitro ansawdd addysg drydyddol mewn darparwyr cofrestredig a/neu ddarparwyr a ariennir a hybu gwelliant mewn addysg drydyddol. Bydd ganddo'r pŵer i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau a gwybodaeth am feini prawf a phrosesau ar gyfer asesu ansawdd, rolau a chyfrifoldebau aseswyr a darparwyr a datblygiad proffesiynol y gweithlu.

Bydd Estyn yn parhau i fod yn gyfrifol am arolygu addysg bellach a hyfforddiant. Bydd yn llunio cynllun blynyddol a fydd yn nodi'r gwariant amcangyfrifedig sydd ei angen i gynnal arolygiadau. Bydd y Comisiwn yn darparu cyllid er mwyn i Estyn allu cyflawni ei swyddogaethau ôl-16.

Y Comisiwn fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff asesiadau o ansawdd eu cynnal ar bob darparwr addysg uwch cofrestredig.

Llais y dysgwr

Bydd y Comisiwn yn llunio Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, yn ymgynghori arno ac yn ei gyhoeddi. Bwriedir i'r Cod hwn sicrhau y caiff buddiannau dysgwyr eu cynrychioli a bod dysgwyr yn cael cyfle i roi eu barn i ddarparwyr ar ansawdd yr addysg a gânt a chymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir gan y darparwyr hynny. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr, a'r rhai a ariennir gan y Comisiwn (yn ogystal â chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol), gydymffurfio â'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.Rhaid i'r Comisiwn fonitro cydymffurfiaeth â'r cod hwn.

Mae hyn yn golygu y gall dysgwyr gymryd rhan yn yr holl benderfyniadau sy'n ymwneud â'u cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau dysgu sy'n darparu addysg uwch neu addysg drydyddol bellach a phrentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir yn y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

At hynny, bydd gan Fwrdd y Comisiwn aelodau cyswllt yn cynrychioli dysgwyr a'r gweithlu addysg, a fydd yn galluogi dysgwyr i gael cyfle i ddylanwadu ar y Bwrdd a rhoi cyngor iddo.

Drwy gyflwyno'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, drwy gynnwys cynrychiolwyr dysgwyr ar y Comisiwn ei hun a thrwy atgyfnerthu trefniadau partneriaeth a chydweithio ar draws pob darparwr addysg drydyddol a hyfforddiant; bydd dull gweithredu cyfannol, cynaliadwy a chydlynol sy'n rhoi lle canolog i anghenion a llesiant dysgwyr.

Drwy weithio gyda Gweinidogion Cymru ac asiantaethau eraill, bydd y Comisiwn hefyd yn gallu dylanwadu ar y ffordd y darperir gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyson, diduedd ac amserol er mwyn helpu dysgwyr i bontio a llywio llwybrau gyrfa.

Dyraniad Cyllid

Mater i'r Comisiwn fydd penderfynu ar ddyraniadau cyllid. Bydd angen i'r Comisiwn ystyried ei ddyletswyddau i sicrhau cyfleusterau priodol a rhesymol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant. Bydd hefyd angen iddo roi sylw i gyflawni amcanion yn ei gynllun strategol cymeradwy a chydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu gosod ar eu cyllid i'r Comisiwn.

Rhaid i'r Comisiwn ymgynghori ynghylch y ffordd y mae'n bwriadu arfer ei bwerau cyllido, gan ystyried yr egwyddor y dylai penderfyniadau ynghylch cyllid gael eu gwneud mewn ffordd dryloyw ac yna gyhoeddi datganiad o'i bolisi ar sut mae'n bwriadu arfer y pwerau hynny.

Bydd angen gwneud nifer o benderfyniadau ynghylch y system cyllid a chyllido y bydd y Comisiwn yn ei gweithredu pan gaiff ei sefydlu. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiynau posibl a bydd yn trafod y dull gweithredu a ffefrir â rhanddeiliaid maes o law.

Bydd y ddyletswydd newydd i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer darpariaeth addysg bellach a hyfforddiant benodol i oedolion yn sefydlu gofyniad cyfreithiol mwy cadarn i gyllido dysgu gydol oes. Nod y ddyletswydd newydd i ddechrau yw sicrhau y caiff dysgu oedolion ei ddiogelu a'i flaenoriaethu ar sail fwy cyfartal ag addysg bellach i bobl ifanc, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y ddarpariaeth ac, yn y tymor hwy, ddarparu sail ar gyfer ehangu mynediad i ddarpariaeth dysgu oedolion.

Mae'r polisi ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth sy'n nodi cwmpas y ddyletswydd yn dal i gael ei ddatblygu. Caiff y rheoliadau eu hunain eu cyhoeddi ochr yn ochr ag ymgynghoriad ffurfiol.

Trefniadaeth chweched dosbarth

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i gyflwyno eu cynigion eu hunain ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. Nid yw hyn wedi newid nac ychwaith y ddyletswydd sydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar delerau'r Cod.

Mae gan y Comisiwn rôl i'w chwarae o ran helpu i drefnu darpariaeth chweched dosbarth a phŵer, o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, i gyfarwyddo awdurdodau lleol i lunio cynlluniau ar gyfer ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth, yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Mae rôl y Comisiwn o ran cyflwyno cynigion yn gyfyngedig a bydd yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol ar y Cod.

Bydd gofyn i'r Comisiwn ffurfio cynnig o ran cwricwlwm lleol a bod yn rhan o'r gwaith o gynllunio a monitro darpariaeth ôl-16 ar draws addysg bellach a hyfforddiant gan gynnwys chweched dosbarth ysgolion.

Nod y diwygiadau ôl-16 yw adeiladu ar egwyddorion ehangach a dibenion allweddol y Cwricwlwm i Gymru, a chefnogi uniondeb y system ysgolion ehangach. Bydd gan y Comisiwn hefyd rôl wrth ddarparu dull di-dor a gwybodus ar gyfer pontio a llwybrau gyrfa i ddysgwyr sy'n dechrau addysg a hyfforddiant ôl-16.

Yn yr un modd â’r diwygiadau i'r cwricwlwm ysgolion, bydd y sector yn cael cefnogaeth i helpu dysgwyr i dyfu fel dinasyddion gweithgar a mentrus, gan gyfrannu at ffyniant a llesiant unigol a chenedlaethol.