Adroddiad blynyddol cynllun y trydydd sector 2025 i 2026
Crynodeb o’r cymorth a roesom i’r trydydd sector a’r cydweithio a fu rhyngom ni yn ystod y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Trydydd Sector ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr ymrwymiad sy'n parhau ar ran Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector yn ystod y cyfnod hwn, a'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth gefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru. Yn ogystal â phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gref.
Mae'r trydydd sector yn ganolog i'n cymunedau, gan ddod â mewnwelediad, tosturi a chefnogaeth ymarferol i fywydau pobl, gan gyrraedd yn aml y rhai sy'n cael eu gwasanaethu leiaf gan systemau traddodiadol. Ei allu i ymateb yn hyblyg i anghenion lleol, gwella profiadau, a helpu i lywio datrysiadau effeithiol yw un o'i gryfderau mwyaf o hyd.
Rydym wedi bod yn glir ynghylch ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru, lleihau anghydraddoldeb, cryfhau cymunedau, ac atal problemau cyn iddynt waethygu. Ni allant gael eu cyflawni gennym ni fel llywodraeth yn unig. Maent yn dibynnu ar gydweithredu, ymddiriedaeth a phwrpas cyffredin. Dyna pam rydym wedi parhau i roi cymaint o bwyslais ar ein perthynas â'r trydydd sector ac ar greu'r amodau iddo ffynnu.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau y mae cyrff gwirfoddol yn eu hwynebu. Mae'r galw cynyddol, yr ansicrwydd ariannol, a'r straen sy'n parhau i fod ar staff a gwirfoddolwyr yn creu heriau gwirioneddol. Eto i gyd, er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae'r sector yn parhau i ddangos gwydnwch, arloesedd ac arweinyddiaeth. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r cryfder a'r penderfyniad ar draws y sector i addasu ac ymateb mewn amgylchiadau cynyddol gymhleth.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid i gryfhau sylfeini ein perthynas. Mae hyn yn cynnwys cyd-ddatblygu Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector, a gynlluniwyd i hyrwyddo tegwch, tryloywder a chynaliadwyedd, a pharhau i ddatblygu Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru. Mae'r rhain yn gamau ymarferol i sicrhau bod partneriaeth nid yn unig yn egwyddor, ond yn rhywbeth sy'n cael ei deimlo mewn gweithgarwch bob dydd.
Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi yn seilwaith y trydydd sector, gan gydnabod bod angen mynediad at gymorth o ansawdd ar sefydliadau cryf. O gyngor ar lywodraethiant a chyllid cynaliadwy i ddatblygu digidol a chymorth gwirfoddoli, mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod sefydliadau o bob maint wedi'u harfogi'n well i wasanaethu eu cymunedau yn effeithiol.
Wrth edrych ymlaen, os yw'r ffocws i barhau ar atal problemau, cynhwysiant a grymuso, rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd, y Llywodraeth, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector, i ddatgloi potensial ac adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cydnerth i bawb.
Rhaid llunio polisïau ochr yn ochr â chymunedau, nid dim ond ar eu cyfer, a chydnabod yr asedau a'r cryfderau sy'n bodoli ym mhob rhan o Gymru.
Er mai hwn fydd fy adroddiad blynyddol olaf i, rwy'n parhau i fod yn hyderus yn nyfodol trydydd sector Cymru. Mae'r ymrwymiad, y creadigrwydd a'r arbenigedd o fewn y sector yn anhygoel.
Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Barn y sector a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Ledled Cymru, mae gwirfoddolwyr yn parhau i lywio bywyd ein cenedl. Mae eu haelioni, eu hymrwymiad a'u tosturi yn cryfhau cymunedau, yn cefnogi gwasanaethau hanfodol ac yn dod â gobaith i bobl pan fo ei angen fwyaf. Mae'r effaith maen nhw'n ei chreu yn enfawr ac mae'n adlewyrchu'r gwerthoedd sy'n ein diffinio ni fel gwlad. Gofal am ein gilydd, ymwybyddiaeth o degwch, balchder mewn perthyn, a chred yn ein gallu ar y cyd i wella'r lleoedd rydyn ni'n eu rhannu.
Mae'r flwyddyn adrodd hon wedi bod yn un o her ac o newid. Mae llawer o sefydliadau yn profi pwysau o ran adnoddau, ac mae'r amgylchedd ehangach o ran costau byw yn effeithio ar wirfoddolwyr a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Mae gan lai o bobl amser ac mae'r galw am gymorth yn parhau i gynyddu. Mae'r rhain yn anawsterau gwirioneddol a pharhaus ac maent yn creu'r cyd-destun lle mae gwirfoddoli yn digwydd heddiw.
Hyd yn oed yn yr amgylchedd anodd hwn, mae gwirfoddolwyr yn parhau i ddangos beth sy'n bosibl. Maent yn cefnogi cymdogion, yn cyfrannu at les cymunedol, yn diogelu'r amgylchedd ac yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn gryfach. Mae'r camau a gymerant yn helpu i feithrin gwydnwch, annog cysylltiad a chreu ymdeimlad o bwrpas ym mhob rhan o Gymru. Mae eu cyfraniad yn dangos bod gwirfoddoli yn parhau i fod yn rhan o'n hunaniaeth genedlaethol ac yn rym pwerus er lles mewn bywyd cymunedol.
Mae cyhoeddi'r Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru yn rhoi cyfeiriad cyffredin a gobeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae'r Weledigaeth yn disgrifio Cymru lle mae gwirfoddoli yn ddiogel, yn gynaliadwy, ac yn cael ei gefnogi. Mae'n dychmygu gwlad lle mae pawb yn cael y cyfle i gyfrannu a lle mae gwirfoddoli yn rhywbeth haws i'w ymgorffori i fywydau pobl. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd cynhwysiant, yr angen am gyfleoedd sy'n adlewyrchu diwylliant ac iaith Cymru, a rôl hanfodol gwirfoddolwyr wrth sicrhau lles, mewn cymunedau cryf ac amgylcheddau iach.
Mae'r Weledigaeth hefyd yn galw am arweinyddiaeth benderfynol a phartneriaeth wirioneddol. Mae cynnydd yn dibynnu ar gynlluniau clir, cefnogaeth ymarferol ac ymrwymiad a rennir gan y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni greu'r amodau cywir i wirfoddolwyr ffynnu ac i sefydliadau eu croesawu a'u cefnogi'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau sy'n cyfyngu ar gyfranogiad a sicrhau bod cyfleoedd gwirfoddoli yn ystyrlon, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn hawdd dod o hyd iddynt.
Yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rydym yn gweld bob dydd sut mae gwirfoddoli yn newid bywydau. Rydym hefyd yn gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud pan fydd gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cydnabod a'u hannog. Bydd y camau a gymerwn nawr i ymgorffori'r Weledigaeth yn helpu i sicrhau bod gwirfoddoli yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac yn parhau i fod yn rhan ddiffiniol o bwy ydym fel cenedl.
Wrth inni edrych i'r dyfodol, rydym am ddiolch i bawb sy'n rhoi o'u hamser, ac rydym yn nodi ein hymrwymiad i barhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, i adeiladu dyfodol lle mae gwirfoddoli yn ffordd o fyw, lle mae cymunedau yn fwy gwydn a lle mae'r gwerthoedd rydym yn eu rhannu yn cael eu hadlewyrchu yn y camau a gymerwn gyda'n gilydd.
Dr Neil Wooding CBE, Cadeirydd CGGC
Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC
Pwrpas a chefndir Cynllun y Trydydd Sector
Beth yw’r trydydd sector?
Mae’r trydydd sector yn cwmpasu bron i bob agwedd ar fywydau pobl. Mae’n cynnwys sefydliadau cymunedol, grwpiau hunangymorth, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, sefydliadau wedi’u seilio ar ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau cydfuddiannol, a rhagor.
Mae amrywiaeth o ffurfiau sefydliadol yn y trydydd sector, gan gynnwys elusennau cofrestredig a rhai heb eu cofrestru, cwmnïau cyfyngedig drwy warant (a all fod yn elusennau cofrestredig hefyd), cwmnïau buddiannau cymunedol, cymdeithasau diwydiannol a darbodus, a chymdeithasau anghorfforedig. Mae gan bob sefydliad ei nodau, ei ddiwylliant unigryw, ei set o werthoedd a'i ffordd ei hun o wneud pethau.
Er gwaethaf yr amrywiaeth fawr hon, mae gan sefydliadau'r trydydd sector i gyd rai nodweddion pwysig yn gyffredin. Maent:
- yn gyrff anllywodraethol, annibynnol; wedi’u sefydlu’n wirfoddol gan ddinasyddion sy’n dewis trefnu
- wedi ymrwymo i ailfuddsoddi unrhyw arian dros ben i hybu eu hamcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol
- wedi'u sbarduno gan werthoedd a’u cymell gan yr awydd i hybu amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na gwneud elw yn unig
Rydym yn parhau’n argyhoeddedig y dylid ystyried y cyrff sydd â’r nodweddion hyn fel rhai sy’n perthyn i “sector” pendant.
Mae'r sector hwn yn cael ei adnabod fel y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, a defnyddir y ddau enw yn yr adroddiad hwn.
Dyma rai rhifau allweddol:
- mae 47,358 o fudiadau gwirfoddol yn weithredol ledled Cymru. (Data o hyb data CGGC)
- canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 i 2025 fod 32% o bobl 16+ oed wedi gwirfoddoli, gan ddangos cynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (o 26% yn 2019 i 2020, i 29% yn 2021 i 2022 a 30% yn 2022 i 2023). Nid oes unrhyw ffigurau ar gael eto ar gyfer 2025 i 2026. (Data o Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Cynllun y Trydydd Sector
Lluniwyd Cynllun y Trydydd Sector o dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cynllun, sy’n ddatganiad o'u bwriad i gefnogi a hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol perthnasol, wrth arfer eu dyletswyddau fel Gweinidogion Cymru.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2025 i 2026 yn dangos sut y gweithredwyd cynigion a nodwyd yng Nghynllun y Trydydd Sector yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
Dibenion Cynllun y Trydydd Sector:
- rhannu syniadau a gwybodaeth
- monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau
- diddordeb cytûn yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn cydweithio â’r trydydd sector
- cynllunio a dylunio ar y cyd
- sicrhau arian ar gyfer pob maes polisi
- themâu trawsbynciol y cynllun:
- trechu tlodi
- datblygu cynaliadwy
- cydraddoldebau
- y Gymraeg
Amcan Cynllun y Trydydd Sector yw creu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector â’r bwriad o’n helpu i ddatblygu a chefnogi prosesau a fydd, yn y pen draw, yn arwain at y canlynol:
- cymunedau gwytnach: y ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol i fywiogrwydd ac adfywiad eu cymunedau, yn darparu gofal ac yn helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd y mae’r Trydydd Sector yn eu creu ar gyfer cyflogaeth a menter yn lleol
- polisi gwell: yr wybodaeth a’r arbenigedd y mae’r Trydydd Sector yn eu cynnig drwy ei brofiad rheng flaen i helpu i lunio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau
- gwell gwasanaethau cyhoeddus: y rôl arloesol a thrawsnewidiol y gall y Trydydd Sector ei chwarae i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyrraedd mwy o bobl ac yn dod yn fwy sensitif i’w hanghenion
Mae disgwyl i holl Aelodau’r Cabinet, Dirprwy Weinidogion a swyddogion hyrwyddo buddiannau’r trydydd sector yn eu gwaith ac wrth wneud penderfyniadau. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i’r canlynol:
- cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon gyda’r trydydd sector
- cynnal trefniadau ar gyfer cynorthwyo cymunedau a gwirfoddolwyr
- cynnal trefniadau ar gyfer cefnogi strwythurau sy’n caniatáu i’r trydydd sector ffynnu
- ceisio cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (sydd wedi’i gynnwys fel atodiad i’r Cynllun)
Mae’n ymdrin â threfniadau ar gyfer ymgynghori, gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector, a chyllido hefyd.
Mae CGGC a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r trefniadau hyn.
Beth ddigwyddodd yn 2025 i 2026?
Mae'r Cynllun yn nodi'r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu ar draws 5 maes:
1. Deialog a chydweithredu
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cytuno ar drefniadau ymarferol, deialog a chyfnewid gwybodaeth. Un enghraifft dda o hyn yn gweithio'n ymarferol, ac a sicrhaodd ganlyniadau cadarnhaol i randdeiliaid yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw datblygu partneriaeth Newid:
Astudiaeth Achos: Datblygu Partneriaeth Newid yng Nghymru
Trosolwg
Sefydlwyd partneriaeth Newid i gryfhau'r gallu digidol ar draws trydydd sector Cymru, gan ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau digidol modern, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan CGGC, Cwmpas, a ProMo Cymru, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r partneriaid yn darparu cynnig cenedlaethol cydgysylltiedig o adnoddau cymorth digidol, mentora, hyfforddiant a chynllunio gwasanaethau ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Y Rhesymeg dros y Bartneriaeth
Mae'r bartneriaeth yn deillio o gydnabyddiaeth gyffredin bod angen hyder, capasiti ac offer digidol cryfach ar drydydd sector Cymru er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol, cynhwysol. Yn sgil ymchwil gan y partneriaid, nodwyd angen cynyddol am hyfforddiant digidol, cymorth wrth gynllunio gwasanaethau, a chanllawiau ymarferol i sefydliadau'r sector sy'n addasu i newidiadau technolegol cyflym.
Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus digidol a hyrwyddo safonau gwasanaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn sicrhau aliniad strategol a chyllid ar gyfer y cydweithredu.
Sut mae'r Bartneriaeth yn Gweithio
Mae partneriaeth Newid yn cyfuno cryfderau pob sefydliad:
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Arwain o ran digwyddiadau, hyfforddiant, taflenni ffeithiau ac ymgysylltu â'r sector cyfan.
Cwmpas
- Darparu hyfforddiant digidol un i un ar gyfer grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, gan eu helpu i wella o ran presenoldeb digidol, cyfathrebu, rheoli data, a defnyddio offer digidol.
- Cyd-ddarparu rhaglenni mentora sy'n cefnogi sefydliadau i foderneiddio arferion gwaith ac ymgorffori dulliau digidol.
ProMo Cymru
- Arwain o ran cyfathrebu, brandio, a datblygu adnoddau digidol ar gyfer Newid.
- Darparu hyfforddiant ymarferol o ran sgiliau digidol a chynllunio gwasanaethau, gan gynnwys cynllunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, prototeipio, ac offer codio isel / dim codio.
Llywodraeth Cymru
- Darparu cyllid rhaglenni ac alinio strategol â blaenoriaethau digidol cenedlaethol, yn enwedig safonau gwasanaethau digidol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Esblygiad ac Effaith y Rhaglen
Ers ei lansio, mae Newid wedi tyfu i fod yn rhaglen gymorth genedlaethol graidd ar gyfer trydydd sector Cymru. Mae wedi:
- Cefnogi cannoedd o sefydliadau i feithrin hyder digidol a mabwysiadu safonau gwasanaeth digidol.
- Darparu cyfleoedd mentora am ddim, wedi'u teilwra ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol, a sefydliadau cymunedol i wella effeithlonrwydd ac ymgorffori ffyrdd digidol o weithio.
- Creu hyb ar gyfer adnoddau, newyddion, astudiaethau achos a hyfforddiant i sicrhau ffynhonnell o feithrin capasiti digidol a fyddai'n parhau ar draws y sector.
Mae adborth gan unigolion a fanteisiodd ar hyn yn nodi mwy o hyder digidol, gwell sgiliau o ran cynllunio gwasanaethau, a phatrwm integreiddio dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn well i waith bob dydd.
Casgliad
Mae partneriaeth Newid yn cynrychioli model cryf, cydweithredol ac effeithiol ar gyfer trawsnewid digidol yn nhrydydd sector Cymru. Drwy alinio arweinyddiaeth o ran polisi cenedlaethol (Llywodraeth Cymru) ac arbenigedd gweithredu sy'n canolbwyntio ar y sector (CGGC, Cwmpas, ProMo Cymru), mae Newid yn parhau i ysgogi newidiadau digidol ystyrlon, gan helpu sefydliadau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
2. Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn helpu Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau trydydd sector i ddatblygu polisïau a gwasanaethau gwell.
Yn ystod y cyfnod adrodd, cadeirydd y Cyngor Partneriaeth oedd Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd. Roedd y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau trydydd sector a oedd yn gweithio ar draws 25 o feysydd gwaith y trydydd sector, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (gweler atodiad a).
Rhwng 2025 a 2026, cynhaliwyd 3 o gyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector o dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector gydag Ysgrifenyddion y Cabinet (ar 2 Gorffennaf 2025, 18 Medi 2025, 4 Mawrth 2026) a chynhaliwyd 6 chyfarfod gyda chynrychiolwyr y Cyngor Partneriaeth yn unig.
Isod mae rhai enghreifftiau o'r pynciau a drafodwyd:
- y Rhwydwaith Addysg a Hyfforddiant yn treialu'r ffordd newydd o weithio fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu newydd
- yr argyfwng costau byw
- y Cod Ymarfer newydd ar gyfer Ariannu
- ymgysylltu ynghylch y gyllideb ddrafft
- pwysigrwydd y sector fel partneriaid allweddol wrth ddarparu gwasanaethau yng nghanol toriadau mewn cyllid
- diwygio'r Senedd ac etholiadau
- Baromedr Cymru
- Polisi Cymunedau
- Adolygiad o Gynllun y Trydydd Sector
3. Cyfarfodydd Gweinidogol
Mae gan Gymru enw da haeddiannol yn rhyngwladol fel gwlad lle mae mynediad rhwydd at lunwyr polisi a Gweinidogion yn hyrwyddo llywodraethiant da. Mae’r trydydd sector yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i drafod materion sy’n berthnasol i’w portffolios.
Mae'r cyfarfodydd hyn â Gweinidogion yn ategu cysylltiadau dydd i ddydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r trydydd sector, drwy ganolbwyntio ar faterion polisi strategol sy’n effeithio ar fwy nag un rhan o’r trydydd sector.
Dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector, cynhaliwyd pedwar cyfarfod rhwng Gweinidogion Cymru a sefydliadau trydydd sector yn ystod 2025 i 2026. Dyma enghreifftiau o’r pynciau a drafodwyd:
- Y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yr Economi Sylfaenol, Cynllunio, Ynni a Natur
- Blaenoriaethau'r Rhwydwaith Addysg a Hyfforddiant a nodwyd: Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Gwaith Ieuenctid
- Buddsoddi, cyllidebau a sicrwydd cyllid
- Rhoi diwedd ar ddigartrefedd
- Cyflenwi cartrefi cymdeithasol ac addas
- Tai a gweithio ar draws llywodraeth
- Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy
- Cynllun Gweithredu Iechyd Menywod
- Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles
Hefyd, ymgysylltodd Gweinidogion Cymru â sefydliadau trydydd sector mewn nifer o ffyrdd gwahanol y tu hwnt i’r cyfarfodydd ffurfiol hyn, gan gynnwys ymweld â sefydliadau, mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau, a thrwy gyfrwng gohebu'n uniongyrchol neu gyfarfod â grwpiau neu sefydliadau unigol i glywed yn fwy penodol am faterion a oedd yn effeithio arnynt.
Ar ben hynny, mae'r Rhwydwaith Addysg a Hyfforddiant, sy'n gweithredu o dan Gynllun y Trydydd Sector, yn treialu ffordd newydd o weithio i gryfhau cydweithio, gwella deialog, a chyflawni canlyniadau realistig sy'n mynd i'r afael â heriau addysg a hyfforddiant allweddol.
Nodau'r prosiect peilot yw:
- Profi a Mireinio Mecanweithiau Ymgysylltu: Gwerthuso prosesau ymgysylltu presennol a nodi gwelliannau er mwyn meithrin rhyngweithio cynhyrchiol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector.
- Cydweithredu Gwell: Cryfhau cysylltiadau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector, gan sicrhau deialog gynnar a pharhaus ar ddatblygu polisi addysg a hyfforddiant.
- Cyflawni Canlyniadau Realistig: Alinio blaenoriaethau'r rhwydwaith â phortffolios Gweinidogol Llywodraeth Cymru, gan greu datrysiadau i hyrwyddo hygyrchedd, tegwch ac ansawdd mewn darpariaeth addysgol.
4. Ymgyngoriadau
Pam mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori
Mae ymgynghori yn ein helpu i ddeall sut y gallai pethau fel polisi neu gyfraith newydd effeithio arnoch chi. Mae deall yn well drwy glywed eich syniadau a'ch awgrymiadau yn ein helpu i wneud polisïau yn fwy effeithiol.
Mae ymgynghori yn ffordd fwy ffurfiol o gasglu barn. Mae'n ffordd i Weinidogion geisio cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ar ddull gweithredu neu bolisi arfaethedig. Rydym hefyd yn defnyddio technegau eraill i'ch cynnwys mewn penderfyniadau. Rydym eisiau deall safbwyntiau a barn wahanol am yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ac mae eich mewnbwn yn helpu i wella gwasanaethau'r llywodraeth.
Mewn rhai achosion, mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i ni ymgynghori ag unigolion, grwpiau neu bartneriaid y gellid effeithio arnynt.
Pwy rydyn ni'n ymgynghori â nhw
Ein nod yw cyrraedd cynifer o randdeiliaid â phosibl. Rydym yn targedu grwpiau a chymunedau nad ydynt fel arfer yn ymateb. Rydym eisiau eu safbwyntiau.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dweud bod yn rhaid inni gynnwys ystod amrywiol o bobl yn ein penderfyniadau.
Sut rydym yn ymgynghori
Pan fydd ymgynghoriad newydd yn cael ei lansio, rydym yn sicrhau bod y dogfennau perthnasol ar gael ar ein gwefan fel y gall pawb eu darllen a chyfrannu.
Fel arfer, rydym yn caniatáu o leiaf 12 wythnos i randdeiliaid ymateb i ymgynghoriad, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Bydd dyddiad dechrau a gorffen clir i bob ymgynghoriad.
Efallai y byddwn hefyd yn ceisio gwybodaeth ac arbenigedd drwy alw am dystiolaeth. Nid ymgynghoriad ffurfiol yw hyn. Mae galw am dystiolaeth yn digwydd yn gynharach yn y broses o ddatblygu polisi a bydd ymgynghoriad yn dilyn o bosibl.
Ymgysylltu â'r trydydd sector ar ymgyngoriadau
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn annog y trydydd sector i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau drwy hyrwyddo cyfleoedd i wneud hynny drwy rwydweithiau trydydd sector sefydledig, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Mae holl ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru, ynghyd â'u canlyniadau, yn cael eu cyhoeddi ar wefan.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, cynhaliodd Llywodraeth Cymru 93 o ymgyngoriadau. Cyfrannodd y trydydd sector ymatebion i lawer o'r rhain, naill ai fel sefydliadau unigol neu drwy gyflwyno sylwadau ar y cyd sy'n cynrychioli sawl corff trydydd sector.
Mae gwybodaeth am lefel yr ymgysylltu a'r ymatebion gan y trydydd sector ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd crynodeb cynhwysfawr o'r ymatebion hefyd ar we-dudalen yr ymgynghoriad.
5. Datblygu polisi
O dan Gynllun y Trydydd Sector, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn ystyried, yn gynnar yn y broses o'u llunio, y goblygiadau i’r trydydd sector yn sgil unrhyw bolisïau newydd neu newidiadau polisi. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn â’r sector yn allweddol i lywio gwaith datblygu polisïau ac i helpu i lunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Enghraifft bwysig o'r ymgysylltiad hwn a'r manteision all ddod yn ei sgil i sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Astudiaeth Achos: Datblygu'r Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru
Trosolwg
Yn 2025, cwblhaodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru weledigaeth genedlaethol newydd ar gyfer gwirfoddoli, sef y Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru. Mae'r dull hwn yn ymateb i batrymau o ymgysylltu â gwirfoddolwyr sy'n esblygu, a'r angen am gyfleoedd gwirfoddoli mwy hyblyg, cynhwysol a chynaliadwy ledled Cymru. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat, ac fe'i lansiwyd yn ffurfiol yn gofod3, digwyddiad cenedlaethol pwysig gan CGGC.
Pam roedd angen dull newydd
Cydnabu Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i fodelau gwirfoddoli addasu i adlewyrchu ffyrdd o fyw sy'n newid, anghenion cymunedol a phwysigrwydd cynyddol gwirfoddoli anffurfiol a gwirfoddoli a gefnogir gan gyflogwyr. Tynnodd arweinwyr sylw at heriau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr a, phwysleisiwyd yr angen i greu amodau sy'n caniatáu i wirfoddolwyr dyfu a ffynnu.
Tanlinellodd yr ymgynghoriad hefyd bwysigrwydd rhoi'r lle canolog i wirfoddoli wrth ystyried hunaniaeth a lles cymunedol Cymru, gweledigaeth gynhwysol sy'n gwerthfawrogi gwirfoddoli o bob math, ar draws pob cymuned.
Cydgynllunio a Datblygu
Cyd-grewyd y Dull Newydd drwy'r Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli, a gydlynwyd ar y cyd gan CGGC a Llywodraeth Cymru. Daeth hwn ag arweinwyr o bob rhan o'r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat at ei gilydd i gytuno ar flaenoriaethau strategol ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru.
Roedd y datblygiad yn cynnwys:
- Arolygon cenedlaethol, gweithdai a sesiynau ymgysylltu i gasglu barn gan wirfoddolwyr, sefydliadau a chymunedau.
- Profi Datganiad drafft o Weledigaeth a Fframwaith Gweithredu cyn eu cyhoeddi.
Roedd yr adborth yn pwysleisio'n gyson yr angen am fframwaith unedig, amlwg Gymreig sy'n hyrwyddo cynhwysiant, hyblygrwydd a chydweithio.
Ei lansio yn gofod3
Lansiwyd y Dull Newydd yn swyddogol yn gofod3 gan Jane Hutt AS, ochr yn ochr â ffigurau allweddol gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac arweinwyr llywodraeth leol a busnesau.
Roedd Gofod3, digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf Cymru, yn llwyfan delfrydol i rannu'r weledigaeth newydd gyda sefydliadau ledled y wlad.
Beth mae'r Dull Newydd yn ei nodi
Mae'r Dull Newydd yn sefydlu:
- Gweledigaeth unedig sy'n ymgorffori gwirfoddoli fel rhan ganolog o hunaniaeth a bywyd cymunedol Cymru.
- Model modern, hyblyg sy'n ymateb i sut mae pobl yn byw ac yn gwirfoddoli heddiw
- Ymrwymiad i wirfoddoli cynhwysol, gan sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch ar draws demograffeg, ieithoedd a chymunedau.
- Cryfhau cefnogaeth i wirfoddolwyr a sefydliadau sy'n defnyddio gwirfoddolwyr, gan gydnabod eu rôl hanfodol yng nghymdeithas Cymru.
Y camau nesaf
Ar ôl ei lansio, datblygodd y Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli gynllun gweithredu i gefnogi mabwysiadu'r dull ledled Cymru, gan gynnwys canllawiau, adnoddau a mwy o gyfleoedd i ymgysylltu. Mae'r Dull Newydd wedi'i gynllunio fel fframwaith byw a fydd yn esblygu ochr yn ochr ag anghenion cymunedau a sefydliadau.
Cyllid a Chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Trydydd Sector
Drwy roi cyllid craidd i rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sef partneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru, cefnogodd Llywodraeth Cymru Seilwaith Trydydd Sector a fu, yn ystod 2022 i 2023, yn cynrychioli, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r Trydydd Sector, ynghyd â bod yn atebol iddo, a hynny ar bob lefel.
Roedd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar 4 piler allweddol o weithgaredd: gwirfoddoli; llywodraethiant da; cyllid cynaliadwy; ac ymgysylltu â phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus a dylanwadu arnynt.
Mae Adroddiad Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn darparu data ac astudiaethau achos i ddangos effaith cymorth Llywodraeth Cymru a Cefnogi Trydydd Sector Cymru mewn cysylltiad â’r 4 piler allweddol.
Mae'r Adroddiad Effaith diweddaraf (2023 i 2024) hefyd yn dangos sut y gwnaeth seilwaith unigryw y trydydd sector yng Nghymru alluogi'r sector i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion cymunedau yn ystod y pandemig. Gwnaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru hi’n bosibl i filoedd o sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru gael mynediad at gyllid, gwybodaeth, cyfleoedd dysgu, gwirfoddolwyr a chefnogaeth ddigidol na fyddai wedi bod ar gael heb fodolaeth partneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Dyma rai o'r effeithiau lefel uchel sydd wedi cael eu cyflawni yn 2025/26 gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru:
- cefnogwyd 3,412 o sefydliadau â gwybodaeth a chyngor uniongyrchol
- treuliwyd 10,900 o oriau yn cefnogi'r sector â'r pedwar maes gweithgaredd yn ogystal â helpu i gael gafael ar gymorth arall yr oedd ei angen
- dyfarnwyd £41,209,831 o grantiau i sefydliadau drwy Cefnogi Trydydd Sector Cymru
- darparodd 616 o gyrsiau ar-lein hyfforddiant i 7,046 o unigolion
- cafodd 372 o ddigwyddiadau partneriaethau/fforymau/rhwydweithiau eu cynnal a'u hwyluso, y cymerodd 5,259 o bobl ran ynddynt
- roedd 10,407 wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli yng Nghymru erbyn 20 Chwefror 2026
- roedd 1,480 o sefydliadau wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli yng Nghymru, a 2,681 o gyfleoedd newydd i wirfoddoli wedi'u hysbysebu
- erbyn diwedd 2025, roedd 844 o gyllidwyr wedi'u rhestru ar borth Cyllido Cymru, a chyfanswm o 701 o gronfeydd wedi'u hysbysebu. Roedd 35,351 o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru
I gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w wefan.
| Cyllid | Swm |
|---|---|
| Cyllid craidd i Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | £6,081,120 |
| Cronfa Seilwaith Digidol a Newid | £314,670 |
| Cefnogaeth i ddiogelu | £294,390 |
| Data ac Ymchwil | £220,000 |
| Cymorth i wirfoddoli | £3,657,710 |
| Cyllid Cynaliadwy | £262,000 |
| Cronfa Capasiti Partneriaeth | £97,850 |
| Cyfanswm | £10,927,740 |
| Cyngor Gwirfoddol Sirol | Cyllid craidd |
|---|---|
| Conwy | £215,578 |
| Sir Ddinbych | £210,161 |
| Sir y Fflint | £208,859 |
| Gwynedd | £261,497 |
| Ynys Môn | £192,549 |
| Wrecsam | £208,162 |
| Cyfanswm Rhanbarth y Gogledd | £1,296,806 |
| Sir Gaerfyrddin | £243,532 |
| Ceredigion | £218,349 |
| Sir Benfro | £218,093 |
| Powys | £407,787 |
| Cyfanswm Rhanbarth Gorllewin Cymru a Phowys | £1,087,761 |
| Castell-nedd Port Talbot | £212,454 |
| Abertawe | £249,732 |
| Cyfanswm Rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | £462,186 |
| Caerdydd | £262,168 |
| Bro Morgannwg | £213,371 |
| Rhanbarth Caerdydd a'r Fro | £475,539 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £205,705 |
| Merthyr Tudful | £190,753 |
| Rhondda Cynon Taf | £260,448 |
| Cyfanswm Rhanbarth Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr | £656,906 |
| Gwent | £816,262 |
| Torfaen | £211,992 |
| Cyfanswm Rhanbarth Gwent | £1,028,254 |
| Is-gyfanswm Cynghorau Gwirfoddol Sirol | £5,007,452 |
| Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | £1,073,668 |
| Cyfanswm | £6,081,120 |
Cymorth Arall ar gyfer y Trydydd Sector
Nid cyllid Cefnogi Trydydd Sector Cymru oedd yr unig gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth, cyllid craidd a chyllid prosiect i lawer o sefydliadau eraill yn y Trydydd Sector.
Mewn llawer o achosion, roedd y cyllid hwn yn ymwneud â meysydd gwaith arbenigol a chytunwyd ar y cyllid gan Weinidog priodol o Lywodraeth Cymru.
Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant caffael na thaliadau anuniongyrchol a wnaed i sefydliadau’r trydydd sector lle’r oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydliad arall, er enghraifft awdurdod lleol, a allai fod wedi ariannu sefydliadau trydydd sector wedyn.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru yn gosod y fframwaith a’r egwyddorion y mae rhaid eu cymhwyso i Lywodraeth Cymru, ei chyrff a noddir, y GIG yng Nghymru, ei chomisiynwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn ac is-gyrff Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoli arian cyhoeddus Cymru.
Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (y Cod) yn rheoli sut y dylai Llywodraeth Cymru a’i hasiantau ymdrin ag ariannu’r trydydd sector.
Mae’r Cod yn egluro’r mathau o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, yr egwyddorion y dylid seilio penderfyniadau cyllido arnynt, a’r telerau a’r trefniadau ar gyfer cynnig cyllid.
Cynllun y Trydydd Sector
Ni roddwyd gwybod am unrhyw achos o dorri’r Cod yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Rhagor o wybodaeth
- Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Trydydd Sector
- Am wybodaeth am wirfoddoli ewch i'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol neu eich Canolfan Wirfoddoli leol
- Fel arall, gallwch gysylltu ag Uned y Trydydd Sector yn thirdsectorqueries@llyw.cymru
- I gael gwybodaeth am raglenni grant eraill, cysylltwch â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 0300 1110124
- I gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w gwefan
Atodiad a: tabl o Feysydd Diddordeb Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac arweinwyr rhwydweithiau
- Cyngor ac eiriolaeth, Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol
- Lles anifeiliaid, Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru
- Y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, Bywydau Creadigol
- Ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru
- Plant a theuluoedd, Plant yng Nghymru
- Cymuned, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
- Cyfiawnder Cymunedol, Cyfiawnder Cymunedol Cymru
- Anabledd, Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru
- Addysg a hyfforddiant, Addysg Oedolion Cymru
- Cyflogaeth, Siawns Teg
- Yr amgylchedd, Cyswllt Amgylchedd Cymru
- Lleiafrifoedd ethnig, Cyngor Hil Cymru
- Lleiafrifoedd ethnig, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
- Rhywedd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
- Tai, Homes for All Cymru
- Cymorth lleol a rhanbarthol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru
- Rhyngwladol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
- Pobl hŷn, Cynghrair Henoed Cymru
- Crefydd, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
- Rhywioldeb, Neb yn cynrychioli ar hyn o bryd
- Menter gymdeithasol, Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol
- Chwaraeon a hamdden, Cymdeithas Chwaraeon Cymru
- Gwirfoddoli, Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru
- Y Gymraeg, Mentrau Iaith Cymru
- Ieuenctid, Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru
- Prif Weithredwr CGGC, Cynrychiolydd CGGC
