Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mesur o dlodi a'i effeithiau yw amddifadedd materol. Ceir manylion y dulliau cyfrifo a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar y dudalen termau a diffiniadau.

Yn 2021-22, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cwestiynau ynghylch amddifadedd materol ymysg oedolion a phensiynwyr yn ogystal â chwestiynau ynghylch tlodi bwyd a thaliadau credyd cynhwysol.

Mae rhai canlyniadau o flynyddoedd blaenorol wedi'u cynnwys i roi cyd-destun.   Er hynny, oherwydd newid yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg (dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb yn 2020) a newid gwirioneddol posibl yn sgil pandemig COVID-19 (y coronafeirws), dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol. Mae'r canlyniadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu'r flwyddyn rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, cyfnod cyn dechrau'r 'argyfwng costau byw' presennol.

Fel gyda phob dadansoddiad o'r math hwn, er ein bod yn trafod cysylltiadau rhwng ffactorau, ni allwn briodoli achos ac effaith i'r cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau sydd heb eu mesur yn yr arolwg. Mae gan bob un o’r gwahanol ddadansoddiadau a amlygir yn yr adroddiad hwn gysylltiad annibynnol ag amddifadedd materol neu dlodi bwyd hyd yn oed ar ôl ystyried ystod o ffactorau eraill. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd.

Prif bwyntiau

  • Roedd 11% o bob oedolyn mewn amddifadedd materol.
  • Roedd 4% o bensiynwyr mewn amddifadedd materol.
  • Roedd 2% o bobl yn dweud bod eu haelwyd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn y 12 mis diwethaf.
  • Mae 13% o bobl yn dweud eu bod yn cael Credyd Cynhwysol.

Amddifadedd materol

11%

o oedolion mewn amddifadedd materol

Mae canran y bobl mewn amddifadedd materol wedi gostwng ers yr adroddiad diwethaf yn 2019-20 pan oedd 13% o oedolion mewn amddifadedd materol. Mae angen rhagor o ymchwil i benderfynu a yw hyn yn newid go iawn ynteu a yw'n gysylltiedig â'r newid yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg.

Mae cysylltiad agos rhwng diweithdra a pha un a yw person mewn amddifadedd materol. Roedd 44% o'r rhai a oedd yn ddi-waith mewn amddifadedd materol, o gymharu â 9% o bobl a oedd yn cael eu cyflogi. Mae cymhwyster addysgol uchaf yn ffactor arall: roedd gan 58% o bobl sy'n profi amddifadedd materol gymwysterau lefel 2 neu is o gymharu â 37% o bobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Ffigur 1: Canran y bobl mewn amddifadedd materol yn ôl oedran a rhyw, Ebrill 2021 i Fawrth 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart bar sy'n cymharu canrannau pobl mewn amddifadedd materol yn dibynnu a yw’r ymatebwr yn wryw ynteu'n fenyw, ac ar draws pum grŵp oedran.

Mae amddifadedd materol yn fwy cyffredin mewn grwpiau oedran iau nag mewn pobl sy'n 65 oed a hŷn (Ffigur 1). Ar y cyfan, y bobl rhwng 25 i 44 oed oedd y rhai a oedd yn wynebu’r amddifadedd materol mwyaf (15%). Ar draws pob grŵp oedran, roedd merched yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na dynion, gyda 13% o fenywod mewn amddifadedd materol o gymharu â 9% o ddynion.

Mae maint a chyfansoddiad aelwyd hefyd yn gysylltiedig â pha un a yw pobl yn debygol o fod mewn amddifadedd materol. Mae oedolion o oedran gweithio sy'n sengl neu'n byw ar eu pen eu hunain yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd na'r rhai ar aelwyd sy'n cynnwys mwy nag un oedolyn. Aelwydydd un rhiant gyda phlant o dan 16 oed sydd â'r gyfradd uchaf o amddifadedd materol, gyda 49% o rieni sengl yn cael eu hystyried yn bobl mewn amddifadedd materol. Mae hyn yr un gyfran ag yn 2017-18.

Mae pobl sy'n dweud eu bod mewn iechyd da yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na'r rhai mewn iechyd gwael. Yn yr un modd, mae 19% o bobl sydd â salwch neu gyflwr cyfyngus hirdymor mewn amddifadedd materol o gymharu â 7% o bobl heb gyflwr o'r fath.

Mae lefelau llesiant goddrychol hefyd yn gysylltiedig ag amddifadedd materol.  Mae gan bobl mewn amddifadedd materol lefelau is o foddhad â bywyd na'r rhai nad ydynt mewn amddifadedd (Ffigur 2).

Ffigur 2: Boddhad â bywyd yn ôl amddifadedd materol, Ebrill 2021 i Fawrth 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart colofn wedi'i stacio 100%. Dwy golofn, pobl mewn amddifadedd materol a phobl nad ydynt mewn amddifadedd, gan ddangos lefelau bodlonrwydd â bywyd. Mae gan 85% o bobl sydd nad ydynt mewn amddifadedd materol foddhad uchel â bywyd o gymharu â 52% o bobl mewn amddifadedd materol.

Mae unigrwydd yn ffactor arall cysylltiedig. Dywedodd 35% o bobl sydd mewn amddifadedd materol eu bod yn unig o gymharu â 10% o'r rhai nad ydynt mewn amddifadedd materol. Mae'r rhain yn debyg i ganlyniadau'r arolwg yn 2017-18. Yn yr un modd â phob dadansoddiad o'r math hwn, ni allwn ddweud a yw bod mewn amddifadedd materol yn cael effaith ar les meddyliol; ynteu a yw iechyd corfforol neu feddyliol gwael yn golygu bod unigolyn yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol.

Mae 40% o bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol mewn amddifadedd materol, o gymharu â 22% o’r bobl mewn llety rhent preifat ac 5% o’r rhai sy’n berchen ar eu tai eu hunain. Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi sydd mewn amddifadedd materol yn llai tebygol o gael mynediad at gar neu fan at ddefnydd personol: 70% o gymharu â 91% o’r bobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Nid yw'n syndod bod dros hanner y bobl sy'n profi amddifadedd materol yn y cartref hefyd yn byw yn yr ardaloedd daearyddol sydd ymysg yr 40% mwyaf difreintiedig, yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Ar y llaw arall, mae 9% o bobl mewn amddifadedd materol yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Ffigur 3).

Ffigur 3: Canran y bobl sy'n byw ym mhob cwintel WIMD, yn ôl pa un a ydynt mewn amddifadedd materol ai peidio, Ebrill 2021 i Fawrth 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart bar gyda dwy golofn (pobl mewn amddifadedd materol a phobl nad ydynt mewn amddifadedd) ar gyfer pob un o'r pum dosbarthiad WIMD. Mae 32% o bobl mewn amddifadedd materol yn byw yn yr ardaloedd daearyddol sydd ymysg yr 20% mwyaf difreintiedig.

Dangosodd dadansoddiad manwl o ganlyniadau arolwg 2017 i 2018 ar amddifadedd materol fod cyfraddau uwch o ysmygu'n gysylltiedig ag amddifadedd materol a hefyd bod pobl mewn amddifadedd materol yn llai tebygol o fwyta pum cyfran o ffrwythau a llysiau y diwrnod. Nid oeddem yn gallu defnyddio'r ffactorau hyn sy’n ymwneud â ffordd o fyw ym mhrif fodel dadansoddi 2021-22, gan na ofynnwyd y cwestiynau yn ymwneud â ffordd o fyw i'r sampl llawn o’r arolwg. Fodd bynnag, mae traws-ddadansoddi syml yn parhau i ddangos yr un patrwm o gysylltiad.

Roedd cysylltiad arall a amlygwyd yn 2017-18 yn parhau i fod yn arwyddocaol yn 2021-22: mae pobl sydd mewn amddifadedd materol yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon rheolaidd. Roedd 19% o bobl sydd mewn amddifadedd materol yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos, o gymharu â 35% o'r rhai nad ydynt mewn amddifadedd materol.

Amddifadedd materol ymysg pensiynwyr

Credir bod pobl hŷn weithiau yn tanddatgan eu hamddifadedd materol pan fyddant yn defnyddio'r cwestiynau safonol, felly gofynnir cyfres arall o gwestiynau i bobl hŷn na'r oedran ymddeol gwladol i fesur eu lefelau o amddifadedd; mae'r cwestiynau hyn yn ymwneud yn fwy â’r unigolyn nag angenrheidiau cartref.

Yn 2021-22, roedd 4% o bensiynwyr mewn amddifadedd materol - yr un fath ag yn 2019-20 ond yn is nag yn 2016-17 (7%). Mae canlyniadau'r pensiynwyr yn cael eu cyfuno â'r amcangyfrifon ar gyfer yr oedolion nad ydynt yn bensiynwr i ddarparu'r amcangyfrif 'pob oedolyn' o 11% a drafodir uchod.

Tlodi bwyd

2%

o bobl bod eu haelwyd wedi defnyddio banc bwyd yn y 12 diwethaf

Dywedodd 1% yn rhagor o bobl eu bod nhw wedi bod eisiau defnyddio banc bwyd. O'r rhai a oedd wedi defnyddio banc bwyd, roedd 71% wedi eu defnyddio rhwng 1 a 5 gwaith, 12% rhwng 6 a 10 gwaith, a 17% fwy na 10 gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ystyr tlodi bwyd yw anallu unigolion ac aelwydydd i sicrhau deiet digonol a maethlon. Gall effeithio ar y rhai sy'n byw ar incwm isel, weithiau gyda mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth. Mae’r ffactorau sy’n achosi tlodi bwyd neu 'ansicrwydd bwyd' yn gymhleth. Er hyn, gwelsom yn ein dadansoddiad fod llawer o'r ffactorau sy'n gysylltiedig ag amddifadedd materol yn gysylltiedig â thlodi bwyd hefyd.

Roedd oedran yn un ffactor, gyda phobl 65 oed a hŷn yn llai tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o ddefnyddio banciau bwyd. Roedd pobl sy’n berchen ar eu tai eu hunain yn llai tebygol o ddefnyddio banc bwyd (llai na 1%) na'r rhai sy'n rhentu'n breifat (4%) neu'n byw mewn tai cymdeithasol (10%). Yn yr un modd, mae'r rheini sy'n meddu ar gymwysterau lefel 3 a lefel 4 yn llai tebygol o ddefnyddio banc bwyd (1%) o gymharu â phobl â chymwysterau is (4%). Roedd 4% o bobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn defnyddio banc bwyd o gymharu â 1% o'r rhai heb gyflwr o'r fath.

Nid yw'n syndod bod y bobl a ddywedodd eu bod wedi mynd heb brydau bwyd neu wedi mynd o leiaf un diwrnod yn y pythefnos blaenorol heb unrhyw bryd bwyd sylweddol (oherwydd costau) yn fwy tebygol o ddefnyddio banc bwyd. Hefyd, mae pobl sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau a chynnal ymrwymiadau credyd yn fwy tebygol o ddefnyddio banc bwyd o gymharu â'r rhai sydd heb drafferthion ariannol.

Gofynnwyd sawl cwestiwn i bobl am eu harferion bwyta. Roedd 8% o bobl wedi mynd heb brydau bwyd neu wedi cael prydau llai o faint yn y pythefnos blaenorol, canlyniad tebyg i pan ofynnwyd y cwestiwn hwn ddiwethaf yn 2020-21. Dywedodd 22% o'r rhai a oedd yn mynd heb brydau bwyd mai'r rheswm am hynny oedd nad oeddent yn gallu eu fforddio.

Roedd 4% o bobl wedi cael o leiaf un diwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf lle na chawsant bryd bwyd sylweddol, a dywedodd 35% o'r grŵp hwn nad oeddent wedi cael pryd bwyd sylweddol am nad oeddent yn gallu fforddio hynny.

Credyd cynhwysol

13%

o oedolion o oedran gweithio daliadau Credyd Cynhwysol yn y 3 mis blaenorol.

Roedd 1% yn rhagor o bobl dan oed pensiwn gwladol wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn y 3 mis blaenorol. Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal ar gyfer pobl ar incwm isel neu bobl ddi-waith. Caiff ei roi yn lle budd-daliadau fel y Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant a'r Budd-dal Tai.

Mae statws economaidd a math o ddeiliadaeth yn gysylltiedig â hawlio Credyd Cynhwysol. Mae Ffigur 4 yn dangos bod 50% o bobl sy'n ddi-waith ac 42% o bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn cael Credyd Cynhwysol.

O'r bobl sy'n cael Credyd Cynhwysol ac sy'n rhentu'n breifat neu'n byw mewn tai cymdeithasol, mae 80% yn cael help â’u costau tai fel rhan o'u hawliad Credyd Cynhwysol. Mae 9% o'r rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol ar ei hôl hi gyda'u rhent o gymharu â 3% o'r rhai nad ydynt yn cael Credyd Cynhwysol.

Ffigur 4: Canran y bobl sy'n cael Credyd Cynhwysol, yn ôl statws economaidd ac yn ôl math o ddeiliadaeth, Ebrill 2021 i Fawrth 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 4: Dwy siart far i lawr yr echelin ar yr ochr. Mae'r siart uchaf yn dangos y math o ddeiliadaeth a bod pobl sy'n byw mewn eiddo rhent yn fwy tebygol o fod yn cael Credyd Cynhwysol na pherchen-feddianwyr. Statws economaidd yw’r ail siart sy'n dangos mai pobl mewn cyflogaeth yw'r lleiaf tebygol o fod yn cael Credyd Cynhwysol.

Cysylltir oedran â hawlio Credyd Cynhwysol: mae 13% o bobl ifanc 16 i 24 oed, 16% o bobl 25 i 44 oed, a 9% o bobl 45 i 66 oed yn cael y budd-dal. Mae 19% o bobl sydd â phlentyn dibynnol ar yr aelwyd yn cael Credyd Cynhwysol o gymharu â 9% o bobl heb blant ar yr aelwyd.

Mae cael salwch cyfyngus hirdymor yn gysylltiedig â chael Credyd Cynhwysol. Mae 23% o bobl sydd â salwch cyfyngus yn cael Credyd Cynhwysol, o gymharu â 9% o bobl heb gyflwr o'r fath.

Cymharu â ffynonellau eraill

Gellir gweld ystadegau eraill Llywodraeth Cymru ynglŷn â thlodi ac amddifadedd ar y dudalen ystadegau cysylltiedig â thlodi. Mae'r cwestiynau sy’n ymwneud ag amddifadedd materol a ofynnir yn yr Arolwg Cenedlaethol yn seiliedig ar y rhai yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu, a gynhelir ledled y DU. Fodd bynnag, mae'r Arolwg Cenedlaethol yn wahanol i'r Arolwg o Adnoddau Teulu o ran y ffordd y caiff ei gynnal ac o ran y pynciau eraill y mae'n ymdrin â hwy. Mae'r fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo’r dangosydd amddifadedd materol hefyd yn amrywio rhwng y ddau arolwg. Mae hyn yn golygu nad yw’r cyfrannau cyffredinol o oedolion a phensiynwyr sydd mewn amddifadedd materol yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol yn gymeradwy â'r cyfrannau cyffredinol a ddarperir gan yr Arolwg o Adnoddau Teulu.

Ers mis Ebrill 2019, mae'r Arolwg o Adnoddau Teulu wedi gofyn cwestiynau ynghylch diogeledd bwyd yr aelwyd ac ers mis Ebrill 2021, mae hefyd wedi gofyn cwestiynau am ddefnydd banciau bwyd. Mae'n debygol y bydd y canlyniadau diweddaraf ar gyfer 2021-22 yn cael eu cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023.

Dylid ystyried amcangyfrifon yr arolwg a gyhoeddwyd yn y bwletin hwn ochr yn ochr â datganiadau ystadegol eraill Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud ag amddifadedd ac incwm isel sy'n defnyddio'r Arolwg o Adnoddau Teulu a'r gyfres gyfansoddol Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog fel ffynonellau data. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn darparu mesur cymharol o amddifadedd yn ôl ardal ddaearyddol ac yn ychwanegu cyd-destun pellach i ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg hapsampl, graddfa fawr, parhaus dros y ffôn sy'n cwmpasu pobl ledled Cymru. Mae cyfeiriadau'n cael eu dewis ar hap, a gwahoddiadau yn cael eu hanfon drwy'r post, yn gofyn bod rhif ffôn yn cael ei ddarparu ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn, neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os nad oes rhif ffôn yn cael ei ddarparu, gallai cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn. 

Mae Ffiguriau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am fethodoleg a chasglu data gweler ein tudalennau adroddiad ansawdd, adroddiad technegol ac adroddiad atchweliad.

Mae traws-ddadansoddi yn awgrymu y gallai ffactorau amrywiol fod yn gysylltiedig â'r ymatebion a roddwyd i bob cwestiwn a ofynnwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol. Er hynny, mae'r ffactorau hyn yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd (er enghraifft, gall pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor fod yn hŷn hefyd). Er mwyn deall effaith pob ffactor unigol yn well, rydym wedi defnyddio dulliau ystadegol i wahanu effaith unigol pob ffactor. Bydd y dulliau hyn yn caniatáu inni edrych ar effaith un ffactor gan gadw'r ffactorau eraill yn gyson – “sef rheoli ar gyfer ffactorau eraill”. Nodwyd bod pob dadansoddiad a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn yn ffactor unigol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a gan ddangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol i ystadegau ar ôl asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi yn Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, er enghraifft trwy:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • parhau i gynnal dadansoddiad atchweliad fel rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 dangosydd. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno'r canlyniadau ar gyfer dangosydd 19; y ganran o’r bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 6/2023