Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw tlodi incwm cymharol?

Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw ar aelwyd lle mae cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif). Mae'r holl ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o'r adroddiad Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  

Arolwg blynyddol o gartrefi a reolir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Arolwg o Adnoddau Teulu.  Mae'n cynnig sail ar gyfer setiau data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau), a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar incwm isel, gan gynnwys tlodi incwm cymharol, yn flynyddol.

Effaith pandemig y coronafeirws ar yr ystadegau yma

Y llynedd ni wnaethom gyhoeddi ystod arferol o ddadansoddiadau data tlodi ychwanegol Llywodraeth Cymru oherwydd materion yn ymwneud ag ansawdd data y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), fel y disgrifir yn yr adran Ansawdd. Ar gyfer FYE 2022, mae rhywfaint o ogwydd gweddilliol o hyd yn y sampl FRS sy’n deillio o'r newid yn y modd arolygu o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffôn. Ond rydym o’r farn bod ansawdd data FYE 2022 yn gadarn felly rydym yn cyhoeddi'r ystod arferol o ddadansoddiadau ychwanegol.

Mae'r ddau bwynt data newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu, ar gyfer y ddau bwynt data newydd, bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021. Sylwch fod y pwyntiau data diweddaraf a adroddwyd arnynt isod yn rhychwantu cyfnodau cyn ac ar ôl dechrau'r pandemig, er enghraifft o Ebrill 2019 i fis Mawrth 2022, felly dim ond yn rhannol y byddant yn dal unrhyw effaith y gallai'r pandemig fod wedi'i gael ar dlodi cymharol.

Oherwydd y flwyddyn ddata coll ac effaith barhaus y pandemig ar gyfraddau ymateb arolygon, mae maint y sampl wedi gostwng yn y ddau gyfnod diwethaf. Mae hyn yn golygu bod y data yn fwy anwadal, ac mae angen dehongli newidiadau mawr yn ofalus. Er mwyn helpu defnyddwyr i ddehongli'r data mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data yn FYE 2022 i'w gweld yn Adroddiad Technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu (Adran Gwaith a Phensiynau).

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2020 a FYE 2022, roedd 21% o'r holl bobl yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 17 mlynedd.
  • Er i gyfraddau pobl a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru ostwng yn y cyfnod diweddaraf ar draws y grwpiau oedran, nid oedd y newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffigur 1: Canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr ychydig yn uwch nag yng Nghymru ar 22% rhwng FYE 2020 a FYE 2022. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 21% a 16% yn y drefn honno.

Plant mewn tlodi incwm cymharol

Yng Nghymru, roedd 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2020 i FYE 2022. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng o’r 31% yn y cyfnod diwethaf (FYE 2019 to FYE 2021). Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth gymharu newid dros y tymor byr oherwydd gall tueddiadau fod yn gyfnewidiol oherwydd meintiau sampl bach.

Ffigur 2: Canran y plant mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr yn uwch nag yng Nghymru ar 31% rhwng FYE 2020 a FYE 2022. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 24% a 22% yn y drefn honno.

Ffigur 3: Canran y bobl o bob grŵp oedran yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos mai plant yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson yng Nghymru.

Mae hynny hefyd yn wir ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Rheswm posibl am hyn yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu yn gweithio llai o oriau oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.

Oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol

Mae tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion oedran gweithio yng Nghymru wedi gostwng i 21% ar gyfer y cyfnod FYE 2020 i FYE 2022, o’i gymharu â 23% yn y cyfnod diwethaf (FYE 2019 to FYE 2021).

Mae hyn yn dal i fod yn uwch na’r hyn a welwyd yn Lloegr (20%) a Gogledd Iwerddon (15%) ond mae'r un peth â'r Alban (21%) ar gyfer y cyfnod diwethaf.

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol

Roedd 18% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng FYE 2020 a 2022.

Mae’r ffigur yma wedi parhau i fod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diweddaraf.

Yn Lloegr roedd canran y pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol hefyd yn 18%; yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 15%.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol (18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn).

Mae carreg filltir wedi'i chysylltu â'r dangosydd cenedlaethol hwn: lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai hwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny, erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.

Deiliadaeth tai

Ffigur 4: Canran y bobl yn ôl deiliadaeth tai yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), FYE 2020 i FYE 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy’n dangos bod pobl a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (47%) na’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent preifat (34%) neu mewn tai i berchen-feddianwyr (13%).

Fodd bynnag, wrth ystyried pawb yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi (670,000), roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai i berchen-feddianwyr (41%), a’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol (32%) sy’n eu dilyn.

Statws economaidd a’r math o gyflogaeth

Er y dylid bod yn ofalus gyda dehongliad oherwydd y nifer fach o aelwydydd a chafodd eu samplu, roedd plant oedd yn byw ar aelwyd ddi-waith yn parhau i fod â risg uwch o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 43%) o’i gymharu â phlant yn byw ar aelwyd a oedd yn gweithio (ar 26%) yn FYE 2020 i FYE 2022.  

Ar gyfer aelwydydd a oedd yn gweithio, roedd gwahaniaeth amlwg hefyd rhwng y tebygolrwydd o dlodi i blant ar aelwydydd lle’r oedd yr holl oedolion yn gweithio (13%) o’u cymharu ag aelwydydd lle’r oedd rhai oedolion (ond nid pob un) yn gweithio (50%, ond nodir bod y ffigur yma yn seiliedig ar sampl bach).

Ffigur 5: Y plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far wedi’i stacio 100% sy’n dangos, yn ystod y cyfnod diweddaraf, bod 81% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd a oedd yn gweithio (tua 140,000 o blant). Mae’r gyfran hon wedi cynyddu o 60% yn y cyfnod FYE 2013 i FYE 2015.

Ffigur 6: Canran yr oedolion oedran gweithio yn ôl math o gyflogaeth yr aelwyd yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2020 i FYE 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy’n dangos bod tua hanner nifer y bobl oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwydydd heb waith yn byw mewn tlodi yn FYE 2020 i FYE 2022. 

Mae byw gyda phobl sy'n gweithio yn lleihau'r tebygolrwydd o dlodi. Mae'r risg honno’n cael ei lleihau'n arbennig os bydd pob oedolyn yn gweithio'n amser llawn. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod 40,000 o oedolion oedran gweithio o hyd mewn tlodi incwm cymharol er eu bod yn byw ar aelwydydd lle'r oedd pawb yn gweithio'n amser llawn.

Nodweddion teuluol

Ffigur 7: Canran y bobl ym mhob math o deulu yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2020 i FYE 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy’n dangos, yn ystod y cyfnod FYE 2020 i FYE 2022:

  • mai aelwydydd unig rieni oedd y math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 38%)
  • roedd 31% o aelwydydd pensiynwr dynion sengl a 29% o aelwydydd pensiynwr menywod sengl mewn tlodi incwm cymharol

Roedd tua 80,000, neu 38% o blant a oedd yn byw mewn teuluoedd unig rieni yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod y cyfnod diweddaraf, FYE 2020 i FYE 2022.

Pa fath o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi?

Tua degawd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant. Fodd bynnag, mae'r patrwm bellach yn llai clir gyda chyfran debyg o'r rhai sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant a heb blant.

Ffigur 8: Y bobl yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl y math o deulu,  FYE 2020 i FYE 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart gylch sy’n dangos, o’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol, bod 47% mewn teuluoedd heb blant, 35% mewn teuluoedd gyda phlant a 18% mewn teuluoedd pensiynwyr.

Roedd plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle’r oedd y plentyn ieuengaf rhwng 0 a 4 oed yn cyfrif am 54% yr holl blant a oedd mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2019 i FYE 2022.

Ffigur 9: Canran y plant yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl nifer y plant ar yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: siart linell sy’n dangos bod plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle'r oedd tri neu fwy o blant yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi incwm cymharol rhwng FYE 2020 a FYE 2022, o gymharu â'r rhai a oedd yn byw ar aelwydydd â un neu ddau o blant, tra roedd y tair cyfradd yn debyg pum mlynedd yn ôl.

Ethnigrwydd

Roedd aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rhai sydd â phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn.

Ar gyfer y cyfnod FYE 2018 i FYE 2022 roedd tebygolrwydd o 40% bod pobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 22% i'r bobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn. Fodd bynnag, oherwydd bod gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru bennaeth aelwyd sydd o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl (96%) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o aelwydydd o’r fath.

Nid oeddem yn gallu cynhyrchu ffigurau cadarn ar gyfer plant neu bensiynwyr yn ôl grŵp ethnig pennaeth aelwyd oherwydd meintiau isel y samplau. Gweler tablau HBAI a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data’r DU yn ôl grŵp ethnig (gan gynnwys dadansoddiadau pellach yn ôl ethnigrwydd).

Anabledd

Yn ôl data'r arolwg, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd bod ganddynt unrhyw gyflwr corfforol neu feddyliol neu salwch y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed ychydig neu lawer iawn. Mae hynny’n unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb.

Ffigur 10: Canran y plant a phobl o oedran gweithio yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl anabledd yn y teulu, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy’n dangos bod plant a phobl oedran gweithio sy’n byw gyda pherson ag anabledd gyda risg uwch o fyw mewn tlodi incwm cymharol.

Yn y cyfnod diweddaraf (FYE 2020 i FYE 2022) roedd 31% o blant oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o'r rhai mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 28% a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 16% o'r rheini mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Gwybodaeth am yr ansawdd a’r fethodoleg

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mae'n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 900 o aelwydydd bob blwyddyn). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol.

I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Beth oedd y materion o ran ansawdd data'r llynedd?

Ar 31 Mawrth 2022, rhyddhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ystadegau newydd mewn perthynas â'r Arolwg o Adnoddau Teulu, Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ac ystadegau cysylltiedig eraill, gan gynnwys yr ystadegau swyddogol cyntaf ar dlodi ar gyfer y cyfnod ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19), sef y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021. Cafodd gweithrediadau gwaith maes ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu FYE 2021 eu newid yn gyflym mewn ymateb i COVID-19 a'r mesurau a gyflwynwyd o ran iechyd y cyhoedd. Cafodd sawl ffactor effaith ar gyfraddau ymateb ac nodweddion ymatebwyr i'r arolwg.

Argymhellir na ddylid defnyddio data FYE 2021 i ddadansoddi data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw'r DU gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws. O ganlyniad, ni wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau cynnwys unrhyw ystadegau ar dlodi yng Nghymru yn yr ystadegau FYE 2021 ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog a rhyddhawyd y llynedd. 

O ganlyniad i'r materion a ddisgrifir uchod, ni wnaethom gyhoeddi ystod arferol o ddadansoddiadau data tlodi ychwanegol Llywodraeth Cymru y llynedd. Yn hytrach, fe wnaethom gyhoeddi erthygl yn disgrifio'r materion ansawdd data. Cyflwynodd yr erthygl ffigurau cysylltiedig â thlodi Cymru gan ddefnyddio data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) FYE 2021 i sicrhau tryloywder llawn, ond gan gynghori yn erbyn defnyddio set ddata annibynadwy FYE 2021 ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, roedd y newidiadau i'n cyhoeddiad yn rhai dros dro ac maent bellach wedi'u hadolygu ar y cyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth iddynt ddatblygu set ddata FYE 2022.

Beth am ansawdd data eleni?

Fel yn achos FYE 2021, effeithiwyd ar gasgliad o ddata Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS) FYE 2022 gan pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd cyfyngiadau'r llywodraeth a gyflwynwyd mewn ymateb i'r pandemig eu llacio'n sylweddol dros gyfnod blwyddyn yr arolwg. Er hyn parhaodd y newid i’r dull arolygu mewn ymateb i'r pandemig, sef newid o’r cyfweliadau wyneb yn wyneb arferol i gyfweliadau ffôn, dros gyfnod blwyddyn yr arolwg, 2021 i 2022.

Ar gyfer FYE 2022, yn dilyn dadansoddi helaeth, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn fodlon bod lefelau’r gogwydd yn y data sy'n deillio o'r newid dull yn is nag ar gyfer FYE 2021 ac yn cael llai o ddylanwad ar yr ystadegau. Rydym o’r farn bod ansawdd data HBAI FYE 2022 yn gadarn ac rydym yn cyhoeddi'r ystod arferol o ddadansoddiadau ychwanegol.

Mae'r ddau bwynt data newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu, ar gyfer y ddau bwynt data newydd, bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau gwirioneddol a ddigwyddodd i incwm, fel y cynllun ffyrlo neu'r cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol ond yn cael eu cipio'n rhannol yn y gyfres amser.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i beidio â chyhoeddi dadansoddiadau o brif amcangyfrifon FYE 2021. Bydd y dull hwn hefyd yn cael ei fabwysiadu ar gyfer sawl cyhoeddiad arall lle gwneir defnydd o amcangyfrifon rhanbarthol HBAI i lywio eu hystadegau. Mae’r rhain yn ystadegau ardaloedd lleol Plant mewn Teuluoedd ar Incwm Isel (CILIF) (Adran Gwaith a Phensiynau), ac ystadegau ar incwm yn y gweinyddiaethau datganoledig, a gyhoeddwyd gan yr Alban (Ystadegau tlodi ac anghydraddoldeb incwm) (Llywodraeth yr Alban), a Gogledd Iwerddon (Arolwg adnoddau teuluol a dadansoddi tlodi) (Adran Cymunedau).

Oherwydd y materion a ddisgrifir uchod mae meysydd o hyd lle cynghorir cymryd pwyll wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol ac wrth ddehongli newidiadau mwy o faint. Er mwyn helpu defnyddwyr i ddehongli'r data mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data yn FYE 2022 i'w gweld yn Adroddiad Technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sydd hefyd yn golygu eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran hygrededd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o adroddiad Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ystadegau, ac wedi gwneud nifer o welliannau. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at adroddiad diweddaraf HBAI ar wefan gov.uk.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(18) Canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o'i chymharu â chanolrif y DU: mesur ar gyfer plant, pobl oedran gweithio a'r rheini oedran pensiwn.

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y bwletin hwn, mae dangosydd 18: Tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, yn cyfateb i un garreg filltir:

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 28/2023