Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw tlodi incwm cymharol?

Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw ar aelwyd lle mae cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif). Mae'r holl ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o'r adroddiad Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  

Arolwg blynyddol o gartrefi a reolir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Arolwg o Adnoddau Teulu.  Mae'n cynnig sail ar gyfer setiau data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau), a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar incwm isel, gan gynnwys tlodi incwm cymharol, yn flynyddol.

Effaith pandemig y coronafeirws ar yr ystadegau yma

Bu’n rhaid i’r trefniadau gwaith maes ar gyfer arolwg y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 gael eu newid yn sydyn mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19) a chyflwyno mesurau iechyd y cyhoedd. Effeithiodd sawl ffactor ar gyfraddau ymateb a nodweddion ymatebwyr i'r arolwg, fel y disgrifir yn yr adran Ansawdd. Argymhellir na ddylid defnyddio data FYE 2021 i ddadansoddi data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw'r DU. Gan fod mwy o hyder yn nata FYE 2022, y llynedd ailddechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru gyhoeddi data islaw lefel y DU.

Fel y llynedd, mae'r pwyntiau data newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021. 

Oherwydd y flwyddyn ddata coll ac effaith y pandemig ar gyfraddau ymateb arolygon, roedd maint y sampl yn llai nag arfer yn y ddau gyfnod FYE 2021 a FYE 2022, a gyhoeddwyd llynedd. Mae hyn yn golygu bod y data ar gyfer y cyfnodau hyn yn fwy anwadal, ac mae angen dehongli newidiadau mawr yn ofalus. Mae meintiau samplau ar gyfer y pwyntiau data newydd a gyhoeddwyd eleni, ar gyfer cyfnodau yn dod i ben FYE 2023, yn gyffredinol debyg i’r lefelau cyn y pandemig yn sgil hwb i samplau Cymru yn y flwyddyn arolwg ddiweddaraf. Er mwyn helpu defnyddwyr i ddehongli'r data mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data yn FYE 2023 i'w gweld yn Adroddiad Technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu (Adran Gwaith a Phensiynau).

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 a FYE 2023, roedd 21% o'r holl bobl yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 18 mlynedd.

Ffigur 1: Canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr ychydig yn uwch nag yng Nghymru ar 22% rhwng FYE 2021 a FYE 2023. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 21% a 17% yn y drefn honno.

Plant mewn tlodi incwm cymharol

Yng Nghymru, roedd 29% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2021 i FYE 2023. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu ychydig o’r 28% yn y cyfnod diwethaf (FYE 2020 to FYE 2022). Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth gymharu newid dros y tymor byr oherwydd gall tueddiadau fod yn gyfnewidiol oherwydd meintiau sampl bach.

Ffigur 2: Canran y plant mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr yn uwch nag yng Nghymru ar 30% rhwng FYE 2021 a FYE 2023. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 24% a 23% yn y drefn honno.

Ffigur 3: Canran y bobl o bob grŵp oedran yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos mai plant yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson yng Nghymru.

Mae hynny hefyd yn wir ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Rheswm posibl am hyn yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu yn gweithio llai o oriau oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.

Oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol

  • Roedd 16% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng FYE 2021 a 2023, gostyngiad o’r 18% yn y cyfnod blaenorol (FYE 2020 i FYE 2022).
  • Yn Lloegr roedd canran y pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn 17%; yn yr Alban roedd yn 15% ac yng Ngogledd Iwerddon y ffigur oedd 14%.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol (18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn).

Mae carreg filltir wedi'i chysylltu â'r dangosydd cenedlaethol hwn: lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai hwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny, erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.

Deiliadaeth tai

Ffigur 4: Canran y bobl yn ôl deiliadaeth tai yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), FYE 2021 i FYE 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy’n dangos bod pobl a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (46%) na’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent preifat (31%) neu mewn tai i berchen-feddianwyr (13%). 

Fodd bynnag, wrth ystyried pawb yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi (670,000), roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai i berchen-feddianwyr (41%), a’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol (35%) sy’n eu dilyn.

Statws economaidd a’r math o gyflogaeth

Er y dylid bod yn ofalus gyda dehongliad oherwydd y nifer fach o aelwydydd a chafodd eu samplu, roedd plant oedd yn byw ar aelwyd ddi-waith yn parhau i fod â risg uwch o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 49%) o’i gymharu â phlant yn byw ar aelwyd a oedd yn gweithio (ar 25%) yn FYE 2021 i FYE 2023.  

Ar gyfer aelwydydd a oedd yn gweithio, roedd gwahaniaeth amlwg hefyd rhwng y tebygolrwydd o dlodi i blant ar aelwydydd lle’r oedd yr holl oedolion yn gweithio (14%) o’u cymharu ag aelwydydd lle’r oedd rhai oedolion (ond nid pob un) yn gweithio (48%, ond nodir bod y ffigur yma yn seiliedig ar sampl bach).

Ffigur 5: Y plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far wedi’i stacio 100% sy’n dangos, yn ystod y cyfnod diweddaraf, bod 75% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd a oedd yn gweithio (tua 140,000 o blant). Mae’r gyfran hon wedi cynyddu o 60% yn y cyfnod FYE 2013 i FYE 2015.

Ffigur 6: Canran yr oedolion oedran gweithio yn ôl math o gyflogaeth yr aelwyd yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2021 i FYE 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy’n dangos bod bron i hanner nifer y bobl oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwydydd heb waith yn byw mewn tlodi yn FYE 2021 i FYE 2023.

Mae byw gyda phobl sy'n gweithio yn lleihau'r tebygolrwydd o dlodi. Mae'r risg honno’n cael ei lleihau'n arbennig os bydd pob oedolyn yn gweithio'n amser llawn. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod 40,000 o oedolion oedran gweithio o hyd mewn tlodi incwm cymharol er eu bod yn byw ar aelwydydd lle'r oedd pawb yn gweithio'n amser llawn.

Nodweddion teuluol

Ffigur 7: Canran y bobl ym mhob math o deulu yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2021 i FYE 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy’n dangos, yn ystod y cyfnod FYE 2021 i FYE 2023:

  • mai aelwydydd unig rieni oedd y math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 30%) ‌
  • roedd 25% o aelwydydd yn cynnwys pensiynwyr benywaidd sengl, dynion sengl heb blant a chyplau â phlant mewn tlodi incwm cymharol

Roedd tua 40,000, neu 30% o blant a oedd yn byw mewn teuluoedd unig rieni yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod y cyfnod diweddaraf, FYE 2021 i FYE 2023.

Pa fath o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi?

Tua degawd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant. Fodd bynnag, mae'r patrwm bellach yn llai clir gyda chyfran debyg o'r rhai sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant a heb blant.

Ffigur 8: Y bobl yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl y math o deulu,  FYE 2021 i FYE 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart gylch sy’n dangos, o’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol, bod 48% mewn teuluoedd gyda phlant, 34% mewn teuluoedd heb blant a 18% mewn teuluoedd pensiynwyr. Mae teuluoedd yma'n cynnwys pobl sengl.

Roedd plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle’r oedd y plentyn ieuengaf rhwng 0 a 4 oed yn cyfrif am 54% yr holl blant a oedd mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2020 i FYE 2023.

Ffigur 9: Canran y plant yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl nifer y plant ar yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: siart linell sy’n dangos bod plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle'r oedd tri neu fwy o blant yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi incwm cymharol rhwng FYE 2021 a FYE 2023, o gymharu â'r rhai a oedd yn byw ar aelwydydd â un neu ddau o blant, tra roedd y tair cyfradd yn debyg chwe mlynedd yn ôl.

Ethnigrwydd

Roedd aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rhai sydd â phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn.

FYE 2019 i FYE 2023

  • Roedd tebygolrwydd o 50% bod pobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae hyn yn gynnydd o'r 40% yn y cyfnod FYE 2018 i FYE 2022. Fodd bynnag, ‌cymerwch ofal wrth ddehongli newid dros y tymor byr oherwydd gall tueddiadau fod yn anwadal oherwydd maint sampl bach. 
  • Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 22% i'r bobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn. 
  • Fodd bynnag, oherwydd bod gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru bennaeth aelwyd sydd o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl (93%) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o aelwydydd o’r fath.

Nid oeddem yn gallu cynhyrchu ffigurau cadarn ar gyfer plant neu bensiynwyr yn ôl grŵp ethnig pennaeth aelwyd oherwydd meintiau isel y samplau. Gweler tablau HBAI a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data’r DU yn ôl grŵp ethnig (gan gynnwys dadansoddiadau pellach yn ôl ethnigrwydd).

Anabledd

Yn ôl data'r arolwg, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd bod ganddynt unrhyw gyflwr corfforol neu feddyliol neu salwch y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed ychydig neu lawer iawn. Mae hynny’n unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb.

Ffigur 10: Canran y plant a phobl o oedran gweithio yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl anabledd yn y teulu, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy’n dangos bod pobl oedran gweithio nad ydynt yn byw gyda pherson anabl â risg is o fyw mewn tlodi incwm cymharol na’r rhai sy’n byw gyda pherson anabl.

Yn y cyfnod diweddaraf (FYE 2021 i FYE 2023) ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 25% a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 18% o'r rheini mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Nid oedd gwahaniaeth yng nghanran y plant mewn tlodi incwm cymharol o ran a oedd anabledd ar yr aelwyd (29%).

Gwybodaeth am yr ansawdd a’r fethodoleg

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mae'n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 900 o aelwydydd bob blwyddyn). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol.

I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Beth oedd y materion o ran ansawdd data ar gyfer FYE 2021 a 2022?

Ar 31 Mawrth 2022, rhyddhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ystadegau newydd mewn perthynas â'r Arolwg o Adnoddau Teulu, Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ac ystadegau cysylltiedig eraill, gan gynnwys yr ystadegau swyddogol cyntaf ar dlodi ar gyfer y cyfnod ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19), sef y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021. Cafodd gweithrediadau gwaith maes ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu FYE 2021 eu newid yn gyflym mewn ymateb i COVID-19 a'r mesurau a gyflwynwyd o ran iechyd y cyhoedd. Cafodd sawl ffactor effaith ar gyfraddau ymateb ac nodweddion ymatebwyr i'r arolwg.

Argymhellir na ddylid defnyddio data FYE 2021 i ddadansoddi data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw'r DU gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws. O ganlyniad, ni wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau cynnwys unrhyw ystadegau ar dlodi yng Nghymru yn yr ystadegau FYE 2021 ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog. 

O ganlyniad i'r materion a ddisgrifir uchod, yn 2022 ni wnaethom gyhoeddi ystod arferol o ddadansoddiadau data tlodi ychwanegol Llywodraeth Cymru. Yn hytrach, fe wnaethom gyhoeddi erthygl yn disgrifio'r materion ansawdd data. Cyflwynodd yr erthygl ffigurau cysylltiedig â thlodi Cymru gan ddefnyddio data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) FYE 2021 i sicrhau tryloywder llawn, ond gan gynghori yn erbyn defnyddio set ddata annibynadwy FYE 2021 ar gyfer Cymru.

Fodd bynnag, roedd y newidiadau i'n cyhoeddiad yn rhai dros dro ac fe gawsant eu hadolygu ar y cyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth iddynt ddatblygu set ddata FYE 2022 llynedd. Gan fod mwy o hyder yn nata FYE 2022, ailddechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi data islaw lefel y DU, er nad yw unrhyw bwyntiau data sy'n rhychwantu cyfnod FYE 2021 yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel.

Beth am ansawdd data eleni?

‌Er nad oedd trefniadau gwaith maes FRS yn union yr un fath â chyn y pandemig yn FYE 2023, dychwelwyd yn raddol trwy gydol y flwyddyn at drefniadau llawer tebycach i hynny na chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan ddefnyddiwyd cyfweliadau dros y ffôn yn unig. Ailddechreuwyd cynnal cyfweliadau'r FRS wyneb yn wyneb yn ddiofyn yn ystod FYE 2023, gyda'r ffôn yn cael ei ddefnyddio fel dewis amgen gan 28% o aelwydydd y sampl (ledled y DU).

‌Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwella hyder yn ansawdd data y sampl eleni, a oedd yn fwy cynrychioliadol nag yn ystod y pandemig, gyda phroffil yr ymatebwyr yn agosach at y rhai a ymatebodd i'r arolwg cyn FYE 2021. ‌Ceir rhagor o wybodaeth am waith maes yr FRS yn adroddiad Cefndir a Methodoleg FRS (Adran Gwaith a Phensiynau), ac mae Atodiad 5 o ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg HBAI (Adran Gwaith a Phensiynau) yn rhoi rhagor o fanylion am gyfansoddiad sampl FRS ar gyfer FYE 2023.

Fel y llynedd, mae'r pwyntiau data newydd a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau gwirioneddol a ddigwyddodd i incwm, fel y cynllun ffyrlo neu'r cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol ond yn cael eu cipio'n rhannol yn y gyfres amser.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i beidio â chyhoeddi dadansoddiadau o brif amcangyfrifon FYE 2021. Bydd y dull hwn hefyd yn cael ei fabwysiadu ar gyfer sawl cyhoeddiad arall lle gwneir defnydd o amcangyfrifon rhanbarthol HBAI i lywio eu hystadegau. Mae’r rhain yn ystadegau ardaloedd lleol Plant mewn Teuluoedd ar Incwm Isel (Adran Gwaith a Phensiynau) (CILIF), ac ystadegau ar incwm yn y gweinyddiaethau datganoledig, a gyhoeddwyd gan yr Albann ('Poverty and Income Inequality in Scotland 2019-22' (Scottish Government)), a Gogledd Iwerddon ('Family resources survey and poverty analysis' (Department for Communities)).

‌Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i gynghori defnyddwyr y dylid dehongli'r newidiadau mewn amcangyfrifon dros y blynyddoedd diwethaf gan gadw mewn cof y gwahaniaethau mewn dulliau casglu data ar draws y cyfnod a'r effaith a gafodd hyn ar gyfansoddiad y sampl. ‌Gellir dod o hyd i fanylion am hyn yn yr adroddiadau technegol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiadau ystadegol sy'n ymwneud â'r pandemig.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae’r ystadegau swyddogol hyn wedi’u hachredu fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Ystadegau Gwladol yw ystadegau swyddogol achrededig sy'n bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus. 

Cânt eu hachredu yn Ystadegau Gwladol yn dilyn adolygiad annibynnol gan gangen reoleiddio'r Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, sef y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR)

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o adroddiad Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ystadegau, ac wedi gwneud nifer o welliannau. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at adroddiad diweddaraf HBAI ar wefan gov.uk. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (Office for Statistics Regulation) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

‌Lluniwyd yr ystadegau hyn o ddata Aelwydydd islaw Incwm Cyfartalog sy'n deillio o'r Arolwg Adnoddau Teuluol, y ddau wedi'u rheoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). ‌Caiff cyhoeddiadau eu hysbysebu ymlaen llaw bedair wythnos cyn eu cyhoeddi ac yn cael eu rhyddhau ar y cyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod data ar gael i bob defnyddiwr ar yr un pryd. 

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr ac ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Ansawdd

Caiff data HBAI eu rheoli a'u prosesu gan ystadegwyr o'r Adran Gwaith a Phensiynau gydag ystadegwyr o Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn darparu gwiriadau sicrhau ansawdd ychwanegol. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn dadansoddi data Cymru yr HBAI ymhellach i ddarparu manylion ychwanegol. Cyhoeddir y canlyniadau hyn fel cyfartaledd o dair i bum mlynedd i wella cywirdeb. Ni chaiff canlyniadau sy'n seiliedig ar lai na chant o ymatebion eu cynnwys, ac mae'r rhai sydd â llai na dau gant yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ac yn cael eu nodi fel ffigurau ansawdd isel mewn tablau cysylltiedig. 

Yn gyffredinol, gellir cymharu'r ffigurau rhwng y cenhedloedd yn uniongyrchol, a'r newidiadau dros amser. Fodd bynnag, dylai cymariaethau ystyried unrhyw gafeat a nodir (e.e. effaith ffyrdd gwahanol o gasglu data yn ystod y pandemig). 

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys dilysu gofalus ac annibynnol o bob elfen o'r broses lunio a drafftio gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. 

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd y set ddata sylfaenol yn adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gwerth 

Drwy gyhoeddi'r data hyn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch tlodi, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Fel y soniwyd uchod, yn ogystal â datganiad cyntaf y data hyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, cyhoeddir dadansoddiadau pellach o ddata Cymru yr HBAI gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu nodweddion aelwydydd allweddol a nodweddion gwarchodedig pan fo meintiau samplau yn caniatáu amcangyfrifon gweddol gadarn.

Mae'r ystadegau a'r ffigurau wedi cael eu cyflwyno a'u cyhoeddi mewn fformat hygyrch yn unol â deddfwriaeth hygyrchedd. Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn hefyd ar gael ar ffurf taenlen ddogfen agored hygyrch (ODS) ac ar wefan StatsCymru

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(18) Canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o'i chymharu â chanolrif y DU: mesur ar gyfer plant, pobl oedran gweithio a'r rheini oedran pensiwn.

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y bwletin hwn, mae dangosydd 18: Tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, yn cyfateb i un garreg filltir:

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 21/2024