Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben yn 2022, data ar bobl mewn tlodi parhaus, a ddiffinnir fel eu bod mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o’r 4 blynedd yn olynol.

Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n seiliedig ar set ddata arolwg hydredol Deall Cymdeithas. Yn eu hadroddiad Dynameg Incwm (Adran Gwaith a Phensiynau) maent yn diffinio person i fod mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o 4 blynedd yn olynol.

Mae'r ffigurau isod yn amodol ar ddiwygiadau yn y dyfodol i wella ansawdd data. Gellir casglu gwybodaeth newydd gan ymatebwyr sy'n effeithio ar eu data mewn blynyddoedd cynharach. Am y rheswm hwn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adroddiad diweddaraf Dynameg Incwm yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data ar gyfnodau blaenorol.

Prif bwyntiau

  • Ar ôl talu costau tai roedd gan unigolyn yng Nghymru debygolrwydd o 12% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2018 a 2022 (ar ôl talu costau tai).
  • Mae’r tebygolrwydd o fod mewn tlodi parhaus yn amrywio yn ôl rhanbarth/gwlad. Yn Lloegr, y ffigur oedd 12%, yn yr Alban 10%, ac yng Ngogledd Iwerddon 10% (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd gan blentyn yng Nghymru debygolrwydd o 18% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2018 a 2022 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch nag ar gyfer Lloegr (17%), yr Alban (14%) a Gogledd Iwerddon (13%).
  • Roedd gan oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru debygolrwydd o 11% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2018 a 2022 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yr un fath ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd y ffigwr ar gyfer yr Alban yn is (9%).
  • Roedd gan bensiynwr a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2018 a 2022 debygolrwydd o 12% o fod mewn tlodi parhaus (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch na'r tebygolrwydd yn Lloegr (10%), yr Alban (9%), ac Gogledd Iwerddon (5%).

Adroddiadau

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.