Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o’r gweithgarwch gofal heb ei drefnu a gyflawnir gan y GIG yng Nghymru. Mae'r ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cynnwys galwadau a wnaed i'r gwasanaeth 111, gweithgarwch y gwasanaeth ambiwlans a phresenoldeb mewn adrannau argyfwng. Mae gofal heb ei drefnu yn cwmpasu'r gwasanaethau a gynigir ar gyfer cyflyrau/anhwylderau na ellir eu rhagweld ac na ellir cynllunio ar eu cyfer yn rhesymol. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael 24 awr y dydd.

Mae targedau perfformiad sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael eu monitro yn y crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG ac nid ydynt yn cael eu hadrodd yma. Mae'r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar dueddiadau tymor hwy. Mae adroddiad tebyg ar ofal a gynlluniwyd - rhestrau aros y GIG, gweithgarwch cleifion mewnol, atgyfeiriadau a gweithgarwch cleifion allanol, rhestrau aros diagnostig a therapi, gwelyau'r GIG a gwasanaethau canser - hefyd wedi cael ei lunio ac mae wedi'i gyhoeddi ar wahân.

Mae'r ffynonellau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn yn ymdrin â chyfnodau amser gwahanol ac ym mhob achos defnyddiwyd y gyfres amser lawn sydd ar gael.

Mae data ar gyfer pob maes hefyd ar gael yn fanylach ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

  • Dros y tymor hir, mae gweithgarwch ambiwlans ac adrannau argyfwng wedi cynyddu'n sylweddol ac ar raddfa llawer mwy na'r cynnydd cyfatebol ym mhoblogaeth Cymru.
  • Roedd galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans wedi mwy na dyblu rhwng 1991/92 a 2017/18 ac ers hynny maent wedi codi a gostwng. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gwelwyd y nifer uchaf erioed ac yna'r isaf ers 2013-14.
  • Mae nifer y galwadau 'coch' brys wedi mwy na dyblu yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf gan adlewyrchu'n rhannol y newidiadau yn y ffordd y caiff rhai galwadau eu categoreiddio a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod y gaeaf diwethaf.
  • Mae perthynas glir rhwng nifer y galwadau coch a'r amseroedd ymateb, gyda'r ddau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  • Ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol, gwelwyd y nifer uchaf o alwadau coch am bob 10,000 o'r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ym myrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg, ac yn gyffredinol mae'r amseroedd ymateb canolrifol hiraf ym Myrddau Iechyd Powys a Hywel Dda.
  • Mae'r oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2022-23, collwyd bron i 300,000 o oriau o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo mewn adrannau argyfwng.
  • Roedd dros filiwn o bresenoldebau mewn adrannau argyfwng yn y flwyddyn ddiwethaf, mwy na phum gwaith cymaint ag yn 1951. Mae presenoldeb wedi arafu rhywfaint yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ar ôl cynnydd cyson dros y 50 mlynedd cyn hynny.
  • Mae mwy o bobl yn mynd i adrannau argyfwng yn yr haf nag yn y gaeaf, gyda mwy yn mynd yno ar ddydd Llun nag ar unrhyw ddiwrnod arall o'r wythnos. Mae llawer mwy o bobl yn mynd i adrannau argyfwng yn ystod y dydd nag yn ystod y nos, er bod yr amseroedd aros yn fyrrach yn ystod y dydd.
  • Mae amseroedd aros canolrifol mewn adrannau argyfwng wedi cynyddu'n araf dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyrraedd y lefel uchaf erioed yn dilyn pandemig COVID-19 maent wedi cwympo ers hynny yn ôl tuag at lefelau cyn y pandemig.
  • Cleifion dros 85 oed yw'r rhai mwyaf tebygol o fynd i adrannau argyfwng a'r bobl hynny hefyd sy'n profi'r amseroedd aros hiraf ar gyfartaledd.

Galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans

Yn hanesyddol, bu gwahanol ddosbarthiadau o alwadau i'r gwasanaethau brys. Mae ffigur 2 yn seiliedig ar y canlynol:

  • Galwadau brys a theithiau brys meddyg teulu rhwng 1991-92 a 1998-99
  • Categori A, Categori B a theithiau brys meddyg teulu rhwng 1999-2000 a mis Tachwedd 2011
  • Categori A, Categori C a Chategori C (HCP) rhwng mis Rhagfyr 2011 a mis Medi 2015
  • Galwadau coch, oren a gwyrdd o fis Hydref 2015 hyd y presennol

Ffigur 1: Galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans, 1991-92 ymlaen

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell yn dangos nifer y galwadau a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans rhwng 1991-92 a 2022-23. Roedd tuedd gyson ar i fyny tan tua 2017-18. Ers hynny mae wedi amrywio ond yn gyson yn gyffredinol.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Mae'r data yn Ffigur 2 wedi'u cyfuno i gyflwyno cyfres amser ar sail mor gymharol â phosibl.

Cynyddodd nifer y galwadau a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans dros y tymor hir i'r lefel uchaf erioed o 481,000 yn 2021-22, mwy na dwywaith y nifer galwadau a wnaed yn 1991-92. Roedd y duedd yn fwy sefydlog o 2017-18 a bu cwymp sylweddol yn 2020-21 yn ystod anterth pandemig COVID-19. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gwelwyd y nifer uchaf erioed (481,000) ac yna'r nifer isaf ers 2013-14 (432,000).

Ffigur 2: Galwadau ambiwlans dyddiol ar gyfartaledd, yn ôl y math o alwad a'r mis, Ebrill 2016 ymlaen, [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod nifer y galwadau brys coch wedi dyblu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer y galwadau gwyrdd wedi haneru. Galwadau oren yw'r mwyafrif o'r holl alwadau ac maent wedi bod yn gymharol sefydlog.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Yn dilyn diweddariad i ymdrin â galwadau ym mis Mai 2019 bu newid i nifer y digwyddiadau coch. Ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein hadroddiad ansawdd.

Ers 2015 mae galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans wedi'u categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), oren (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu wyrdd (nad yw'n frys).

Mae nifer y galwadau coch wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod galwadau oren wedi amrywio. Mae galwadau gwyrdd wedi gostwng o dros 400 y dydd yn 2016-17 i lai na 200 yn ddiweddar.

Galwadau coch oedd cyfran gynyddol o'r holl alwadau dros y blynyddoedd diwethaf – 11.3% yn y flwyddyn ddiweddaraf o'i gymharu â 4.5% yn 2016-17. Mae'r cynnydd, o leiaf yn rhannol, yn adlewyrchu dau beth: newidiadau yn y ffordd y mae rhai galwadau'n cael eu trin, gan fod rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel rhai oren bellach yn cael eu categoreiddio fel rhai coch; a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod y gaeaf diwethaf. Gall poblogaeth sy'n heneiddio hefyd fod yn gysylltiedig â'r cynnydd hirdymor yn y galw am ofal brys.

Ffigur 3: Cyfartaledd y galwadau coch bob dydd ac amseroedd ymateb canolrifol y galwadau coch, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos tueddiadau tebyg yn nifer y galwadau brys coch a gafwyd a'r amseroedd ymateb canolrifol. Gwelwyd cynnydd yn y ddau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.           

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Mae nifer cyfartalog y galwadau coch bob dydd a'r amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch wedi cynyddu ers 2016-17, gyda pherthynas glir rhwng nifer y galwadau a'r amseroedd ymateb. Ym mis Rhagfyr 2022 roedd nifer cyfartalog y galwadau coch bob dydd (192) a'r amser aros canolrifol ar gyfer galwadau coch (10 munud) ar eu huchaf erioed. Yn y flwyddyn ddiwethaf cafwyd 134 o alwadau coch y dydd ar gyfartaledd, sy'n gynnydd o 139% ers 2017-18 (56 y dydd).

Yn y flwyddyn ddiwethaf, yr amser ymateb canolrifol cyffredinol ar gyfer galwadau coch oedd 8 munud a 9 eiliad, cynnydd o 66.2% ers 2016-17 (4 munud a 54 eiliad).

Ffigur 4: Oriau coll ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn hysbysiad i drosglwyddo mewn adrannau argyfwng, 2017-18 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos nifer yr oriau coll i'r gwasanaeth ambiwlans yn dilyn hysbysiad i drosglwyddo mewn adrannau argyfwng. Mae'r siart yn dangos cynnydd yn y duedd am oriau coll yn dilyn y pandemig, pan oedden nhw wedi gostwng i'w lefel isaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1] Dim ond arosiadau hirach na 15 munud sy'n cael eu cyfrif o fewn yr oriau a gollwyd.

Heblaw am y cynnydd yn y galw, gall yr oedi wrth drosglwyddo mewn ysbytai effeithio ar ymateb ambiwlansys hefyd, pan nad yw criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i alwadau newydd gan eu bod yn aros i drosglwyddo cleifion i adrannau argyfwng.

Bu cynnydd sylweddol yn yr oedi wrth drosglwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phum gwaith cymaint o oriau wedi'u colli yn 2022-23 o'i gymharu â 2016-17. Gellir dod o hyd i ragor o ddata ar oedi wrth drosglwyddo ar ddangosfwrdd Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC).

Yn 2022-23, collwyd bron i 300,000 o oriau gan y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn hysbysiad i drosglwyddo mewn adrannau argyfwng, yr uchaf a gofnodwyd erioed mewn blwyddyn.

Ym mis Rhagfyr 2022-23 y collwyd y mwyaf o oriau mewn mis (32,000), ac ym mis Mai 2020 y collwyd y nifer lleiaf (1,900).

Ffigur 5: Galwadau oren cyfartalog y dydd ac amseroedd ymateb canolrifol y galwadau oren, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell sy'n dangos nifer cyfartalog y galwadau brys oren (difrifol ond nad yw bywyd yn y fantol) a dderbyniwyd gan y gwasanaethau ambiwlans bob dydd a'r amser ymateb canolrifol. Mae'r siart yn dangos tuedd gynyddol ar gyfer amseroedd aros canolrifol y galwadau oren ond tuedd ostyngol ar gyfer nifer cyfartalog y galwadau oren bob dydd.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ym mis Rhagfyr 2022 cyrhaeddodd amseroedd aros canolrifol y galwadau oren y lefel uchaf erioed, sef 3 awr a 29 munud, er na fu cynnydd mawr yn nifer y galwadau oren. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod y galwadau coch wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, a chan eu bod yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer ymateb ambiwlans, roedd hyn yn lleihau'r adnoddau a oedd ar gael i ymateb i alwadau oren. Ym mis Ionawr 2023 gostyngodd nifer cyfartalog y galwadau oren bob dydd i'r lefel isaf a gofnodwyd erioed (713 o alwadau) a gostyngodd yr amser aros canolrifol hefyd i 53 munud a 28 eiliad, sef yr isaf ers mis Mai 2021.

Ffigur 6: Galwadau coch fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: siartiau llinell sy'n dangos cynnydd blynyddol mewn galwadau coch am bob 10,000 o'r boblogaeth mewn byrddau iechyd lleol ers 2016-17, ac eithrio 2020-21.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Bu newid sylweddol rhwng 2021-22 a 2022-23, gyda'r niferoedd uchaf erioed o alwadau coch am bob 10,000 o'r boblogaeth ar draws pob bwrdd iechyd yn 2022-23. Ar lefel Cymru gyfan, roedd hyn yn golygu fod 196 o alwadau i bob 10,000 o'r boblogaeth, bron i deirgwaith cymaint â 2016-17 (65.9). Fel y disgrifir uchod, mae hyn yn adlewyrchu'n rhannol, o leiaf, y newidiadau o ran sut mae galwadau'n cael eu trin, gyda rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel rhai oren bellach wedi'u categoreiddio'n goch. Mae'r cyfraddau uchaf o alwadau coch am bob 10,000 o'r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod ym myrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg. Mae'n hysbys bod gan y rhain lefelau amddifadedd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, ac mae'n hysbys bod amddifadedd yn gysylltiedig ag iechyd yn gyffredinol a'r tebygolrwydd o fod angen gofal mewn argyfwng. Yn y flwyddyn ddiweddaraf Bae Abertawe oedd â'r nifer uchaf o alwadau coch am bob 10,000 o'r boblogaeth (210.4) a Phowys oedd â'r lleiaf (169.7).

Ar gyfer galwadau oren, cafwyd y niferoedd uchaf erioed am bob 10,000 o'r boblogaeth ar draws y mwyafrif o fyrddau iechyd yn 2022-23. Roedd 1,233 o alwadau am bob 10,000 o'r boblogaeth ledled Cymru, 25% yn uwch nag yn 2016-17. Betsi Cadwaladr oedd â'r nifer uchaf o alwadau oren am bob 10,000 o'r boblogaeth gyda 1,434 o alwadau a Chwm Taf Morgannwg oedd â'r lleiaf gyda 1,095.

Mae galwadau ambiwlans sydd wedi'u categoreiddio fel galwadau gwyrdd yn cael eu hasesu fel rhai nad ydynt yn rhai brys. Yng Nghymru gyfan, cafwyd y nifer lleiaf o alwadau gwyrdd am bob 10,000 o'r boblogaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 295 o alwadau, 38.1% yn is nag yn 2016-17. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd â'r nifer uchaf o alwadau gwyrdd am bob 10,000 o'r boblogaeth (362 galwad) yn 2022-23 a Chwm Taf Morgannwg oedd â'r nifer lleiaf, sef 233 o alwadau.

Ffigur 7: Amser ymateb canolrifol i alwadau coch yn ôl bwrdd iechyd lleol, 2016-17 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: siartiau llinell sy'n dangos tueddiadau cynyddol mewn amseroedd aros canolrifol ar gyfer galwadau coch ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ac ymatebion ambiwlans brys, yn ôl bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Yng Nghymru gyfan, cafwyd yr amser aros canolrifol hiraf ym mis Rhagfyr 2022, sef 10 munud. Roedd hyn 5 munud a 45 eiliad yn hirach na'r amser aros canolrifol byrraf ym mis Mai 2017. Ar lefel bwrdd iechyd, yn gyffredinol, gwelwyd yr arosiadau canolrifol hiraf yn y blynyddoedd diwethaf ym myrddau iechyd Powys a Hywel Dda, a'r byrraf ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan.

Adrannau argyfwng

Ffigur 8: Presenoldeb mewn adrannau argyfwng, 1959 ymlaen [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart llinell sy'n dangos tuedd gynyddol o ran presenoldeb mewn adrannau brys yng Nghymru rhwng 1959 a 2022-23. Bu gostyngiad sydyn yn 2020-21, sy'n cyd-fynd â phandemig COVID-19. Mae'r duedd wedi sefydlogi ychydig ers 2005-06, gan ddringo ar gyfradd arafach nag yn y degawdau blaenorol.

Ffynhonnell: QueSt 1 (QS1) a Set Data Adrannau Argyfwng (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Presenoldeb yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

[Nodyn 1] mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar wahanol ffynonellau data o 1959 i 2009-10 a 2007-08 i 2022-23. Pan fyddant yn gorgyffwrdd, mae'r ffigurau'n agos, sy'n golygu bod modd cymharu'r data yn fras. Rhwng 1959 a 1983 casglwyd y data yn ôl blwyddyn galendr, ac o 1983-84 roeddent ar sail blynyddoedd ariannol.

Yn 2022-23 roedd dros filiwn o bresenoldebau mewn adrannau argyfwng ledled Cymru. Roedd hyn 3% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a phum gwaith yn uwch na'r lefel a welwyd yn 1959. Fodd bynnag, roedd presenoldeb yn 2022-23 1% yn is na'r uchafbwynt yn 2018-19.

Ffigur 9: Derbyniadau i adrannau argyfwng am bob 10,000 o'r boblogaeth yn ôl bwrdd iechyd a mis, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: mae'r siartiau llinell sy'n dangos presenoldeb blynyddol mewn adrannau argyfwng wedi bod yn gymharol sefydlog dros y degawd diwethaf yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

Yn 2022-23 gosodwyd y lefel uchaf o bresenoldebau, gyda 3,353 am bob 10,000 o'r boblogaeth ar gyfer Cymru gyfan. Gwelodd y rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru eu lefel uchaf neu'n agos at eu lefel uchaf o bresenoldebau yn 2022-23. Gwelwyd y presenoldeb uchaf am bob 10,000 o'r boblogaeth ym mwrdd iechyd Hywel Dda (4,301) yn 2022-23 a'r isaf ym Mhowys (1,047).

Ffigur 10: Derbyniadau mewn adrannau argyfwng yn ôl y math o adran, 2006 ymlaen [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart llinell sy'n dangos presenoldeb mewn adrannau argyfwng mawr ac adrannau argyfwng eraill o fis Mehefin 2006. Mae'r data'n dangos amrywiad tymhorol cryf, gyda phresenoldeb uwch yn ystod misoedd yr haf a llai yn ystod misoedd y gaeaf, er nad oes tueddiad hirdymor amlwg.

Ffynhonnell: Adroddiadau sefyllfaol (SITREPS), Set Ddata Adrannau Argyfwng (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Rhwng mis Mehefin 2006 a mis Mawrth 2010 casglwyd data adrannau argyfwng trwy gyflwyniadau SITREPS wythnosol. Rhwng mis Ebrill 2010 a mis Mawrth 2012, cyflwynodd adrannau argyfwng mawr ddata misol i'r EDDS, tra bod data adrannau argyfwng bychan yn parhau i ddod o SITREPS. O fis Ebrill 2012, daw'r holl ddata o'r EDDS.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i adrannau argyfwng mawr. Dros y tymor hir, ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n mynychu adrannau argyfwng mawr neu adrannau argyfwng eraill. Mae'r presenoldeb uwch yn yr haf o'i gymharu â'r gaeaf yn adlewyrchu'r ffaith bod pobl yn gyffredinol yn fwy egnïol yn ystod misoedd goleuach, cynhesach y flwyddyn, ac yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol.

Ffigur 11: Derbyniadau misol i adrannau argyfwng ac amser aros canolrifol i dderbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion, Ebrill 2012 ymlaen

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: siart llinell sy'n dangos bod presenoldeb mewn adrannau argyfwng wedi bod yn gymharol sefydlog dros y tymor hir, er gydag amrywiad tymhorol, gyda mwy yn ystod misoedd yr haf a llai yn ystod misoedd y gaeaf. Yn gyffredinol, mae amseroedd aros canolrifol wedi cynyddu.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

Cyn pandemig COVID-19, roedd tuedd gynyddol yn yr amser aros canolrifol i gleifion gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae'r berthynas rhwng nifer y presenoldebau ac amseroedd aros wedi dod yn llai sefydlog ers 2020-21, gydag amseroedd aros canolrifol yn cynyddu i'r hiraf a gofnodwyd er nad yw presenoldeb wedi cyrraedd lefelau cyn y pandemig eto. Ym mis Mawrth 2022, cafwyd yr amser aros canolrifol hiraf erioed sef 3 awr ac 8 munud.

Ffigur 12: Cyfraddau presenoldeb mewn adrannau argyfwng yn ôl oedran, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: siart bar yn dangos bod cyfraddau presenoldeb mewn adrannau argyfwng ar eu huchaf ar gyfer y grŵp oedran 85+, sef dros 6,400 am bob 10,000 o'r boblogaeth yn 2022-23.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

Roedd y gyfradd isaf o bresenoldebau am bob 10,000 o'r boblogaeth ar gyfer y grŵp 25-74 (2,844). Nid oes fawr o wahaniaeth o ran cyfraddau presenoldeb rhwng y rhywiau. Mae data ar gael ar StatsCymru (Nifer y derbyniadau mewn adrannau achosion brys yn y GIG yng Nghymru yn ôl band oedran, rhyw a safle).

Ffigur 13: Amser aros canolrifol i dderbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion yn ôl grŵp oedran 85+ a phob oedran, Ebrill 2012 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: siart llinell sy'n dangos presenoldeb ac amseroedd aros canolrifol i dderbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion yn ôl grŵp oedran 85+ a phob oedran. Mae'r cyfnodau aros yn hirach na chyfartaledd cyffredinol Cymru yn y grŵp oedran 85+.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

Noder: Caiff oedrannau annilys eu heithrio

Gwelir yr amseroedd aros canolrifol hiraf ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion wedi iddynt gyrraedd adrannau argyfwng yn y grŵp oedran 85+. Mae hyn wedi bod yn gyson dros y degawd diwethaf ond mae wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cyrhaeddodd y lefel uchaf erioed ym mis Chwefror 2022, sef 8 awr a 21 munud. Mae tueddiadau tymor hir wedi bod yn debyg ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran gyda chynnydd graddol mewn amseroedd aros canolrifol, er bod yr amseroedd aros yn y grŵp oedran 5 i 17 yn gymharol sefydlog.

Ffigur 14: Derbyniadau mewn adrannau argyfwng am bob 10,000 o'r boblogaeth yn ôl yr amser o'r dydd a'r band oedran, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: siart llinell sy'n dangos bod cyfraddau presenoldeb yn cyrraedd uchafbwynt tua hanner dydd ar gyfer y rhai dros 18 oed, a rhwng hanner dydd a 10pm ar gyfer y grŵp oedran 0-17. Mae presenoldeb yn uwch yn ystod yr wythnos nag ar benwythnosau ar gyfer pob grŵp oedran. Mae presenoldeb ar ei uchaf ar ddydd Llun, gan syrthio'n raddol yn ystod yr wythnos.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Derbyniadau yn adrannau argyfwng GIG Cymru, ar StatsCymru

Mae presenoldeb uwch ar ddydd Llun yn adlewyrchu'r ffaith bod cleifion angen gofal am faterion a ddigwyddodd neu a waethygodd dros y penwythnos. Yn y grŵp oedran iau (o dan 18 oed), mae presenoldeb yn cyrraedd brig llai amlwg yn ystod y dydd, ond mae ar ei anterth fin nos yn ystod yr wythnos.

Ffigur 15: Map gwres o bresenoldebau mewn adrannau argyfwng yn ôl diwrnod ac amser cyrraedd, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: map gwres sy'n dangos bod y rhan fwyaf o bresenoldebau mewn adrannau argyfwng yn ystod y dydd, gyda llawer llai o weithgarwch gyda'r nos. Yr amser mwyaf cyffredin i gleifion gyrraedd yw bore Llun rhwng 9am a hanner dydd. Mae'r presenoldeb uwch yn ystod y dydd yn adlewyrchu'r ffaith bod pobl yn gyffredinol yn fwy egnïol ac mewn perygl o gael anaf pan fyddant yn effro ac yn mynd o gwmpas eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 16: Map gwres o arosiadau canolrifol mewn adrannau argyfwng yn ystod y dydd ac amser cyrraedd, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: map gwres sy'n dangos bod yr amseroedd canolrifol a dreulir mewn adrannau argyfwng ar eu byrraf yn ystod y dydd, er y nifer uwch o bresenoldebau, a'r cyfnodau aros hiraf yn ystod oriau mân y bore.

Ffynhonnell: Set Ddata Adrannau Argyfwng, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae'r ffaith bod arosiadau yn ystod y dydd yn fyrrach nag yn ystod y nos yn debygol o adlewyrchu lefelau staffio trwy gydol y dydd. Gwelwyd yr amseroedd aros byrraf oll yn ystod yr wythnos rhwng 8am a 10am, lle roedd yr amser aros canolrifol yn llai nag 1 awr a 55 munud. Roedd amseroedd aros ar gyfer cleifion a gyrhaeddodd rhwng 3am a 4am ar rai dyddiau dros 5 awr a 59 munud.

Galwadau i wasanaeth GIG 111 Cymru

Cyn pandemig COVID-19 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar alwadau i Galw Iechyd Cymru (StatsCymru). Dros gyfnod o flynyddoedd mae Galw Iechyd Cymru wedi cael ei ddiddymu'n raddol ar draws y byrddau iechyd a'i ddisodli gan wasanaeth GIG 111 Cymru.

O ganol mis Mawrth 2022, roedd yr holl fyrddau iechyd wedi gweithredu'r system 111 a chyhoeddwyd data am y tro cyntaf o fis Ebrill 2022.

Ffigur 17: Galwadau a wnaed i wasanaeth GIG 111 Cymru, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart llinell yn dangos nifer y galwadau a wnaed i wasanaeth GIG 111 Cymru rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Mae'r duedd wedi bod yn gymharol sefydlog, ac eithrio ym mis Rhagfyr 22 lle roedd brig sylweddol.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau sy'n cael eu cynnig, eu hateb a'u gadael ar gyfer gwasanaeth GIG 111 Cymru ar StatsCymru

Roedd galwadau i wasanaeth GIG 111 Cymru yn weddol sefydlog yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, ac eithrio ym mis Rhagfyr 2022 pan wnaethpwyd 138,000 o alwadau. O ganlyniad i'r lefel uchel hon o alw, fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddatgan 'digwyddiad parhad busnes' ar draws y gwasanaethau 999 ac 111. Cafodd y nifer lleiaf o alwadau eu gwneud ym mis Chwefror 2023 (68,000 o alwadau).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd cryno gweithgaredd a pherfformiad y GIG.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Maent yn anelu at greu Cymru sy'n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sy'n cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gallwch ei anfon mewn e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 108/2023

Image
Ystadegau Gwladol