Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o'r gweithgarwch gofal wedi’i drefnu a gyflawnwyd gan y GIG yng Nghymru. Mae'r ystadegau a gyflwynir yn y datganiad yn cynnwys: rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, gweithgarwch cleifion mewnol, atgyfeiriadau a gweithgarwch cleifion allanol, arosiadau diagnosteg a therapi, gwelyau’r GIG ac amseroedd aros gwasanaethau canser yng Nghymru. Darperir data hanesyddol mor bell yn ôl ag y maent ar gael ac eglurir newidiadau allweddol sy'n effeithio ar gymaroldeb dros amser.

Mae gofal wedi'i drefnu yn cwmpasu'r gwasanaethau a gynigir gan y GIG ar gyfer cyflyrau/anhwylderau lle darperir gofal yn yr ysbyty, a hynny gan amlaf ar ôl atgyfeiriad gan weithiwr iechyd sylfaenol neu weithiwr iechyd proffesiynol cymunedol.

Mae targedau perfformiad sy'n gysylltiedig â gofal wedi’i drefnu yn cael eu monitro yn y crynodeb misol o weithgarwch a pherfformiad y GIG ac nid ydynt yn cael eu hadrodd yma. Mae'r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar dueddiadau tymor hwy. Mae adroddiad tebyg ar ofal brys ac argyfwng  – galwadau ambiwlans ac amseroedd ymateb a gweithgarwch a pherfformiad yr adrannau brys  –  wed’i gynhyrchu hefyd ac mae'n cael ei gyhoeddi ar wahân.

Mae data ar gyfer pob maes hefyd ar gael yn fanylach ar ein gwefan StatsCymru.

Terminoleg a nodiadau cyffredinol

Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl 'llwybrau cleifion'. Mae llwybrau yn uwch na'r nifer cyfatebol o gleifion unigol oherwydd bod gan rai cleifion nifer o lwybrau agored. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ym mlog y Prif Ystadegydd.

Pan fydd data yn cael eu dadansoddi yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, mae hyn yn cynrychioli'r bwrdd iechyd lleol lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, nid o reidrwydd lle mae cleifion yn byw. Mae hyn yn effeithio'n arbennig ar Bowys, lle mae gwahaniaethau arwyddocaol yn nifer y gwasanaethau a'r math o wasanaethau a ddarperir o'i gymharu â byrddau iechyd lleol eraill.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r bwrdd iechyd a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Bae Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gweler y Datganiad Ysgrifenedig: Newid ffiniau byrddau iechyd: Pen-y-bont ar Ogwr (25 Chwefror 2019).

Prif bwyntiau

  • Yn ystod y degawd cyn y pandemig gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y llwybrau a oedd yn aros ar restrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Yn ystod y pandemig achosodd y gostyngiad mewn gweithgarwch gofal a gynlluniwyd gynnydd arwyddocaol yn nifer y llwybrau sy'n aros, o tua 450,000 i tua 750,000. Gwelwyd cynnydd arwyddocaol hefyd yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn a mwy na dwy flynedd, ar ôl bod yn agos at sero cyn y pandemig.
  • Cynyddodd canolrif yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaaeth yn ystod y pandemig i oddeutu 29 wythnos ar ôl cyfnod hir o sefydlogrwydd cymharol, sef rhwng 9 ac 11 wythnos fel arfer. Wedi hynny fe wnaethant adfer i tua 20 wythnos erbyn mis Mawrth 2023.
  • Roedd y llwybrau a oedd yn aros am ddiagnosteg a therapïau yn newidiol cyn 2020, heb dueddiadau hirdymor amlwg. Yn dilyn pandemig COVID-19 fe wnaethant gyrraedd y lefelau uchaf ar gofnod erbyn diwedd 2022-23.
  • Mae atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol newydd wedi cynyddu dros y degawd diwethaf ac wedi cyrraedd y lefel uchaf ar gofnod yn 2022-23, yn dilyn gostyngiad arwyddocaol yn ystod y pandemig.
  • Bu gostyngiad parhaus yn nifer y gwelyau sydd ar gael a’r gwelyau a ddefnyddir yn y GIG ers 1990, gan adlewyrchu'r newidiadau polisi sydd â’r bwriad o drin mwy o gleifion mewn lleoliadau heblaw ysbytai a datblygiadau technolegol sydd wedi arwain at gyfnodau aros  byrrach.
  • Yn ystod y degawd diwethaf gwelwyd twf cyson mewn gweithgarwch ar y llwybr lle’r amheuir canser, a bu cynnydd yn y cleifion sy’n cael gwybod nad oes ganddynt ganser a chleifion sy’n dechrau triniaeth ddiffiniol.

Rhwng atgyfeirio a thriniaeth (rhestrau aros)

Mae ystadegau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar amseroedd aros ar gyfer llwybrau cleifion yn dilyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i'r ysbyty i gael triniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw'r rhai sy'n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau caeedig yw'r rhai a dynnir oddi ar y rhestr aros.

Ffigur 1: Llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, Ebrill 2012 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos tuedd gynyddol fach mewn llwybrau a oedd yn aros cyn y pandemig. Arweiniodd y pandemig at gynnydd arwyddocaol yn y nifer sy’n aros. Cynyddodd nifer y cleifion sy’n aros yn hirach na blwyddyn a dwy flynedd yn sydyn, ond roeddent yn gostwng tua diwedd 2022-23.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeirio at driniaeth: StatsCymru

Roedd yr uchafbwynt yn y llwybrau a oedd yn aros i ddechrau triniaeth ym mis Medi 2022 (755,000 o lwybrau) bron ddwywaith nifer y llwybrau a oedd yn aros ym mis Ionawr 2013 (383,000), y nifer isaf yn y gyfres a gofnodwyd. Rhwng 2012 a 2020 cynyddodd nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn o tua mil i chwe mil, cyn cyrraedd uchafbwynt o dros 183,000 ym mis Awst 2022. Fel arfer roedd rhwng cant a dau gant o lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd tan 2020, cyn codi i dros 70,000 erbyn Mawrth 2022. Mae'r niferoedd sy'n aros mwy na blwyddyn a mwy na dwy flynedd wedi troi tuag at i lawr oddi ar hynny.

Ffigur 2: Llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ôl darparwr bwrdd iechyd lleol, Ebrill 2012 i Fawrth 2023, [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siartiau llinell sy'n dangos cynnydd mewn llwybrau fesul 100 mil o'r boblogaeth sy'n aros ar draws holl fyrddau iechyd lleol Cymru yn dilyn y pandemig. Ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol, cododd nifer y cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn a mwy na dwy flynedd yn sydyn yn ystod y pandemig, ond yn y rhan fwyaf o achosion maent wedi troi tuag i lawr ers hynny.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Mae’r lefelau isel ym Mhowys yn adlewyrchu'r ffaith fod gwahaniaethau arwyddocaol yn y nifer a’r math o wasanaethau a ddarperir ym Mhowys o'i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill.

[Nodyn 2]: Yn 2019 arweiniodd newidiadau i ffiniau Byrddau Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf at greu Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg.

Cyn y pandemig roedd y nifer uchaf o lwybrau aros, wedi’u haddasu yn ôl poblogaeth, yng Nghaerdydd a'r Fro. Fodd bynnag, er i bob bwrdd iechyd weld cynnydd arwyddocaol iawn yn ystod y pandemig, Cwm Taf Morgannwg a gafodd y cynnydd mwyaf sydyn, gan gyrraedd uchafbwynt uchaf yr holl fyrddau iechyd, sef dros 27 mil fesul 100 mil o'r boblogaeth. Ym mis Mawrth 2023 roedd rhestrau aros cyffredinol yn dal i godi ym Myrddau Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro, tra bod y rhestr gyffredinol wedi gostwng yng Nghwm Taf Morgannwg a’r arosiadau hiraf wedi gostwng yn sylweddol.

Ffigur 3: Llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl cam y llwybr, Ebrill 2012 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos bod y niferoedd sy'n aros ar bedwar cam y llwybrau cleifion i gyd wedi cynyddu'n arwyddocaol yn ystod neu ar ôl y pandemig. Y llwybrau a oedd yn aros am apwyntiad cleifion allanol newydd a welodd y cynnydd mwyaf sydyn i ddechrau, ond dechreuodd y rhain ostwng ar ôl Awst 2022, yn wahanol i'r camau eraill a arhosodd yn gymharol wastad.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cyn pandemig COVID-19, roedd y llwybrau a oedd yn aros am apwyntiad cleifion allanol newydd yn dangos tuedd fach ar i fyny, tra bod y llwybrau ar bob cam arall yn gymharol sefydlog. O gymharu’r lefelau isaf i'r uchaf dros y cyfnod, y llwybrau yn y cam 'aros am apwyntiad dilynol i gleifion allanol neu benderfyniad neu gam anhysbys' a welodd y cynnydd mwyaf, ac roedd y pwynt uchaf bedair gwaith yn fwy na'r pwynt isaf.

Ffigur 4: Amser aros canolrifol mewn wythnosau, Ebrill 2012 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos cynnydd arwyddocaol mewn amseroedd aros canolrifol ar ddechrau'r pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yn y blynyddoedd cyn 2020 roedd yr amseroedd aros canolrifol ar gyfer llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gymharol sefydlog, sef rhwng 9 ac 11 wythnos fel arfer. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020 fe wnaeth arosiadau canolrifol fwy na dyblu i dros 29 wythnos, cyn gostwng yn sydyn hyd at fis Mehefin 2021. Erbyn diwedd 2022-23 roedd yr arosiadau ymhell uwchlaw'r canolrif cyn y pandemig, er ei bod yn ymddangos bod y duedd yn gostwng.

Roedd yr arosiadau canolrifol rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gymharol sefydlog yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn y blynyddoedd cyn 2020. Ar ôl y cynnydd a welwyd yn 2020, gostyngodd yr arosiadau canolrifol ym mhob bwrdd iechyd ond roeddent yn dal yn hirach na'u lefelau cyn y pandemig. Erbyn mis Mawrth 2023, roedd yr arosiadau canolrifol ym Mhowys wedi gostwng yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig ac roedd pob bwrdd iechyd arall yn gweld tueddiadau yn gostwng. Dros y cyfnod hwn, gwelwyd yr amser aros hiraf ar gyfartaledd ym Mae Abertawe lle cyrhaeddodd amseroedd aros canolrifol 33.3 wythnos ym mis Hydref 2020. Dyna’r mis lle gwelodd y rhan fwyaf o fyrddau iechyd eu hamseroedd aros hiraf ar gyfartaledd. Mae data ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol ar gael ar StatsCymru.

Ffigur 5: Llwybrau cleifion a gaewyd, Ebrill 2012 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy'n dangos tuedd sy'n cynyddu'n gyffredinol yn nifer y llwybrau a gaewyd, gyda chwymp arwyddocaol ar ddechrau pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae llwybrau cleifion yn cau pan fydd cleifion yn cael eu tynnu oddi ar restrau aros, a hynny gan amlaf oherwydd eu bod yn dechrau triniaeth. O'r herwydd, i ryw raddau maent yn adlewyrchu faint o weithgarwch sy'n cael ei wneud yn y GIG yng Nghymru. Gwelwyd tuedd gynyddol mewn cau llwybrau yn 2016 a 2020, gan gyrraedd dros 100,000 y mis yn aml. Cwympodd y rhain yn arwyddocaol ar ddechrau pandemig COVID-19, gan adlewyrchu arafu mewn ymgyngoriadau a thriniaeth nad oedd yn hanfodol. Yn dilyn y lefel isaf ar gofnod ym mis Ebrill 2020, roedd tuedd ar i fyny yn weddol gyson. Erbyn diwedd y gyfres roedd nifer y llwybrau a oedd yn cael eu cau wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, gan gynnwys cyrraedd y pwynt uchaf ar gofnod, sef 121,000 ym mis Mawrth 2023.

Diagnosteg a therapïau

Mae ystadegau'r gwasanaeth diagnosteg a therapïau yn dangos data misol ar nifer y llwybrau a'r amser y mae'r llwybrau hynny wedi bod yn aros ar ddiwedd pob mis am wasanaethau penodol fel yr adroddwyd gan y Byrddau Iechyd Lleol. Mae rhestrau aros yn cynnwys pob llwybr, waeth beth yw eu hardal breswyl, sy'n aros am wasanaethau diagnosteg a therapïau a ariennir gan y GIG yng Nghymru.

Amseroedd aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Ffigur 6: Llwybrau cleifion sy'n aros am wasanaethau diagnostig a therapi 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod llwybrau diagnosteg wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2010 a bod therapïau yn gymharol sefydlog nes iddynt gynyddu ar ôl pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yn ystod y deuddeng mlynedd diwethaf bu mwy o lwybrau bob amser yn aros am ddiagnosteg nag am therapïau, er eu bod wedi bod yn agos ar adegau. Cyn 2020 roedd y niferoedd a oedd yn aros am therapïau yn gostwng ac roedd y niferoedd a oedd yn aros am ddiagnosteg yn cynyddu. Roedd effaith y pandemig yn wahanol i ddechrau, gyda diagnosteg yn cynyddu'n sydyn a therapïau'n gostwng i'r lefel isaf ar gofnod ym mis Ebrill 2020 (25,500 o lwybrau). Yn dilyn hynny, mae'r ddau wedi cynyddu'n gyffredinol ac wedi cyrraedd y lefelau uchaf ar gofnod yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffigur 7: Amseroedd aros canolrifol ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos bod amseroedd aros canolrifol ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi yn gymharol sefydlog tan y pandemig, pan wnaethant gynyddu’n arwyddocaol cyn adfer yn raddol.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cyn y pandemig, roedd yr arosiadau canolrifol am therapïau a diagnosteg wedi gostwng, ac roedd y ddau’n  adlewyrchu'n fras  y tueddiadau yn y niferoedd sy'n aros (Ffigur 7). Fe wnaethant gynyddu'n ddramatig yn ystod misoedd cyntaf y pandemig wrth i weithgarwch nad oedd yn hanfodol ddod i ben dros dro. Cyrhaeddwyd yr uchafbwyntiau uchaf ar gofnod o 14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg a 14.9 wythnos ar gyfer therapïau ym mis Mehefin 2020. Mae arosiadau therapi wedi adfer yn gyflym er bod y llwybrau cyffredinol yn cynyddu, ac er bod rhywfaint o amrywiaeth, maent wedi bod yn agos at lefelau cyn y pandemig ers dechrau 2021. Ar gyfer diagnosteg bu adferiad hefyd mewn amseroedd aros, ond mae wedi bod yn arafach nag ar gyfer therapïau ac mae’r amseroedd aros canolrifol yn dal i fod tua dwbl y lefelau cyn y pandemig.

Ffigur 8: Llwybrau cleifion sy'n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, yn ôl bwrdd iechyd lleol, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siartiau llinell sy'n dangos lefelau newidiol o lwybrau sy'n aros am wasanaethau diagnostig a therapi ar draws y Byrddau Iechyd Lleol dros y tymor hir, gyda chynnydd arwyddocaoll ers y pandemig.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Nid oedd Betsi Cadwaladr yn gallu cyflwyno data therapi ar gyfer Ebrill 2020.

Dros y tymor hir, nid yw’r tueddiadau mewn diagnosteg a therapïau wedi bod yr un fath ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol. Achosodd y pandemig gynnydd ym mhob bwrdd iechyd ond mae gwahaniaethau yn y lefelau adfer ers hynny, ac mae Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan bellach yn gweld niferoedd sy’n agos at lefelau cyn y pandemig, tra bod byrddau iechyd eraill yn parhau i weld niferoedd uwch yn aros. Mae Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi gweld cynnydd mewn diagnosteg o 2017 ymlaen, ond fe gyrhaeddodd Cwm Taf Morgannwg y lefel uchaf erbyn Mawrth 2023, gyda dros 25,000 o lwybrau yn aros.

Ffigur 9: Amser aros canolrifol am wasanaethau diagnosteg a therapïau yn ôl bwrdd iechyd lleol, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siartiau llinell sy'n dangos tueddiadau gwahanol mewn amseroedd aros canolrifol ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapïau ar draws y byrddau iechyd tan 2020, gyda chynnydd sydyn ym misoedd cychwynnol y pandemig.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Roedd arosiadau canolrifol ar gyfer diagnosteg a therapïau yn gymharol sefydlog yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn y blynyddoedd cyn 2020. Ar ôl y cynnydd a welwyd yn 2020, fe wellodd arosiadau yn y mwyafrif o fyrddau iechyd yn gymharol gyflym i lefelau yn agos at yr hyn oeddent cyn y pandemig. Cwm Taf Morgannwg sydd wedi gweld yr adferiad arafaf, gydag arosiadau diagnostig yn arbennig yn dal yn arwyddocaol hirach nag o'r blaen. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r cynnydd mewn llwybrau, sef y mwyaf arwyddocaol o blith y Byrddau Iechyd.

Ffigur 10: Llwybrau cleifion sy'n aros am ddiagnosteg radioleg, endosgopi diagnostig a chardioleg, Ebrill 2010 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy'n dangos tueddiadau amrywiol mewn llwybrau sy'n aros cyn 2020, gyda chynnydd wedi hynny.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Cafodd profion diagnosteg ychwanegol eu cynnwys yn y data cardioleg o fis Ebrill 2018 ymlaen

Y llwybrau sy'n aros am radioleg, endosgopi diagnostig a chardioleg sydd i gyfrif am oddeutu 95% o'r holl achosion diagnostig. Mae’r nifer mwyaf o lwybrau sy’n aros i’w gweld mewn radioleg, a oedd yn dangos tueddiadau newidiol rhwng 2010 a 2020 ac sydd wedi gweld cynnydd arwyddocaol ers hynny. Ym mis Mawrth 2023 roedd dros 68,000 o lwybrau radioleg yn aros, 49% yn uwch na chyn y pandemig a'r ffigur uchaf ar gofnod. Roedd llwybrau cardioleg ac endosgopi diagnostig yn gymharol wastad yn y degawd cyn y pandemig, ond gwelwyd cynnydd yn y ddau o 2020.

Ffigur 11: Llwybrau cleifion sy'n aros am niwroffisioleg, mesur ffisiolegol a diagnosteg delweddu yn ôl arbenigedd, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy'n dangos tueddiadau amrywiol mewn llwybrau sy'n aros cyn 2020, gyda thueddiadau gwahanol yn dod i'r amlwg ers hynny.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae llwybrau sy'n aros am ddelweddu, niwroffisioleg a rheolaeth ffisiolegol i’w cyfrif am oddeutu 5% yn unig o'r holl lwybrau diagnosteg. Roedd tueddiadau yn y degawd cyn 2020 yn newidiol, ond yna gwelwyd cynnydd cymharol a oedd yn arwyddocaol mewn niwroffisioleg a mesuriadau ffisiolegol ac mae’r ffigurau diweddaraf ymhell dros y lefelau cyn y pandemig. Nid yw llwybrau delweddu wedi dangos tuedd amlwg ar unrhyw adeg yn ystod y gyfres hon.

Ffigur 12: Llwybrau cleifion sy'n aros am ffisiotherapi, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell sy'n dangos bod llwybrau sy'n aros am ffisioleg wedi bod yn newidiol ers 2010.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae ffisioleg i’w gyfrif am tua hanner yr holl lwybrau sy'n aros am therapïau. Roedd tueddiadau'n newidiol iawn rhwng 2010 a 2020, cyn cwymp sylweddol ar ddechrau'r pandemig. Yna fe wnaethant gynyddu’n gyflym i’r lefelau uchaf ar gofnod, ac ym mis Mawrth 2023 roeddent yn dal yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.

Ffigur 13: Llwybrau cleifion sy'n aros am ffisiotherapi yn ôl arbenigedd, Ebrill 2010 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell sy'n dangos bod y tueddiadau cyn ac ar ôl y pandemig mewn llwybrau sy’n aros ychydig yn wahanol ar gyfer y gwahanol arbenigeddau therapi.

Ffynhonnell: Diagnosteg a Therapïau, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae chwe therapi arall yn gyfrifol am y llwybrau therapïau sy'n weddill. Roedd tueddiadau eithaf gwahanol o ran llwybrau oedd yn aros am y gwahanol arbenigeddau therapi rhwng 2010 a 2020, a gwelodd y rhan fwyaf o arbenigeddau gwymp mewn llwybrau yn aros ar ddechrau'r pandemig. Ar ôl y gostyngiad cychwynnol, gwelodd pob arbenigedd gynnydd dros y lefelau cyn y pandemig. O'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig, podiatreg ac awdioleg a welodd y cynnydd cymharol mwyaf.

Cleifion allanol

Mae apwyntiad cleifion allanol yn apwyntiad, yn aml mewn ysbyty neu glinig, lle nad oes angen i'r claf aros yn yr ysbyty dros nos.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Mae ystadegau atgyfeirio cleifion allanol yn dangos data misol ar nifer y ceisiadau atgyfeirio am apwyntiad claf allanol cyntaf a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru, waeth beth fo'r ardal breswyl. Mae'r data hyn yn cynnwys atgyfeiriadau a wneir yng Nghymru i ysbytai sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru ond nid atgyfeiriadau a wneir i ysbytai yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n byw y tu allan i Gymru.

Y dyddiad atgyfeirio yw'r dyddiad pan fydd y bwrdd iechyd lleol yn derbyn yr atgyfeiriad ac nid y dyddiad yr anfonwyd yr atgyfeiriad.

Atgyfeiriadau cleifion allanol: StatsCymru

Ffigur 14: Atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cleifion allanol cyntaf, yn ôl blwyddyn ariannol o 2012-13 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell sy'n dangos tuedd ar i fyny yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf, ac eithrio 2020-21.

Ffynhonnell: Setiau Data Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yn 2022-23 gwnaed dros 1.4 miliwn o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf yng Nghymru, y ffigur uchaf ar gofnod a 32% yn uwch nag yn 2012-13 (er bod rhywfaint o'r cynnydd hwn i'w briodoli i well ymdriniaeth, o ran data, ag atgyfeiriadau nad ydynt yn rhai gan feddygon teulu). Er y gall unigolion gael nifer o atgyfeiriadau, byddai hyn yn cyfateb i tua 45 atgyfeiriadau ar gyfer pob cant o bobl. Mae'r gostyngiad dramatig yn 2020-21 yn adlewyrchu rhoi'r gorau i weithgarwch nad oedd yn hanfodol yn ystod y pandemig, ac er bod cynnydd arwyddocaol yn 2021-22, ni chyrhaeddodd atgyfeiriadau lefelau cyn y pandemig. Mae'n debyg bod y lefel uchaf aar gofnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn adlewyrchu rhai atgyfeiriadau ar gyfer cyflyrau na chawsant eu hadrodd na'u hatgyfeirio yn ystod y pandemig, i ryw raddau o leiaf.

Gweithgarwch cleifion allanol

Dangosfwrdd gofal eilaidd: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 15: Apwyntiadau cleifion allanol yn ôl categori mynychu, Ebrill 2012 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell yn dangos bod lefel mynychu cleifion allanol yn gymharol sefydlog tan y pandemig; tra bod nifer yr apwyntiadau a ganslwyd wedi bod yn cynyddu a nifer yr apwyntiadau na fynychwyd yn gostwng.

Ffynhonnell: Gofal Cleifion a Dderbyniwyd i’r Ysbyty, Set Ddata Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Nid yw'n cynnwys canlyniadau apwyntiadau sy’n anhysbys, er bod y rhain fel arfer yn cyfrif am lai nag 1% o'r holl gofnodion.

O 2012-13 i 2019-20 roedd nifer yr apwyntiadau cleifion allanol a fynychwyd yn sefydlog ar ychydig dros dair miliwn y flwyddyn. Yn 2022-23 cafwyd y nifer uchaf ar gofnod o apwyntiadau cleifion allanol (3.34 miliwn), yn dilyn gostyngiad arwyddocaol yn ystod y pandemig. Cynyddodd apwyntiadau wedi'u canslo 40% yn y ddwy flynedd hyd at 830,000 2019-20 ac roeddent yn agos iawn at y lefel honno eto yn y flwyddyn ddiweddaraf (829,000). Ar y cyfan roedd achosion o beidio â mynychu apwyntiad yn gostwng cyn y pandemig, o 326,000 yn 2013-14, i 254,000 yn 2019-20. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ni fynychwyd tua 293,000 o apwyntiadau.

Cleifion mewnol ac achosion dydd

Apwyntiadau cleifion mewnol yw'r rhai lle mae'r claf yn aros yn yr ysbyty dros nos ac achosion dydd yw apwyntiadau lle mae cleifion yn dychwelyd adref yr un diwrnod.

Dangosfwrdd gofal eilaidd: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 16: Apwyntiadau cleifion mewnol yn ôl math o dderbyniad, Ebrill 2005 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart linell yn dangos bod apwyntiadau brys cleifion mewnol yn cynyddu cyn y pandemig yn gyffredinol, tra bod apwyntiadau cleifion mewnol dewisol yn gostwng a bod apwyntiadau mamolaeth yn newidiol.

Ffynhonnell: Gofal Cleifion a Dderbyniwyd i’r Ysbyty, Set Ddata Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Nid yw'n cynnwys canlyniadau apwyntiadau sy’n anhysbys, er bod y rhain yn cyfrif am gyfran fach o gofnodion

Roedd cyfanswm yr apwyntiadau cleifion mewnol yn amrywio rhwng 500,000 a 550,000 yn y pymtheg mlynedd cyn y pandemig a chwympodd i 384,000 yn 2020-21. Yn 2022-23 roedd tua 467,000 o apwyntiadau cleifion mewnol. Cynyddodd apwyntiadau brys 17% rhwng 2005-06 a 2019-20, ac fel arfer maent yn cyfrif am oddeutu 70% o'r holl weithgarwch cleifion mewnol. Mae apwyntiadau cleifion mewnol dewisol wedi bod yn gostwng ers peth amser ac roeddent 44% yn is yn 2022-23 nag yn 2005-06. Mae gweithgarwch cleifion mewnol mamolaeth yn newidiol, ond fel arfer mae rhwng 50,000 a 70,000 o apwyntiadau bob blwyddyn.

Ffigur 17: Derbyniadau achosion dydd dewisol, Ebrill 2005 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart linell sy'n dangos bod derbyniadau achosion dydd dewisol yn cynyddu hyd at 2019-20 a’u bod wedi cwympo’n sydyn yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell: Gofal Cleifion a Dderbyniwyd i’r Ysbyty, Set Ddata Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Nid yw'n cynnwys categorïau derbyn sy’n anhysbys neu famolaeth, er bod y rhain yn cyfrif am gyfran fach o gofnodion.

Cynyddodd derbyniadau achosion dydd dewisol 48% rhwng 2005-06 a 2019-20 gan gyrraedd uchafbwynt o 276,000. Gostyngodd y rhain i 132,000 yn 2020-21 ac ers hynny maent wedi dringo'n agos at lefelau cyn y pandemig.

Pob derbyniad i’r ysbyty

Mae'r ffigurau ar gyfer cyfanswm y derbyniadau yn cynnwys y derbyniadau cleifion mewnol ac achosion dydd a gynhwysir uchod, ond hefyd dderbyniadau sy'n rhan o ddilyniant rheolaidd wedi'i gynllunio (e.e. ar gyfer radiotherapi) a derbyniadau i fenywod sy'n defnyddio cyfleusterau esgor.

Dangosfwrdd gofal eilaidd: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 18: Derbyniadau i’r ysbyty, Ebrill 2005 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart llinell sy’n dangos bod cyfanswm y derbyniadau dewisol a mamolaeth yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd cyn y pandemig, tra bod derbyniadau brys wedi bod yn cynyddu'n gyffredinol.

Ffynhonnell: Gofal Cleifion a Dderbyniwyd i’r Ysbyty, Set Ddata Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Nid yw'n cynnwys categorïau derbyn anhysbys, er bod y rhain yn cyfrif am gyfran fach o gofnodion

Cynyddodd cyfanswm y derbyniadau o tua 788,000 yn 2005-06 i uchafbwynt o 993,000 yn 2018-19. Achosodd y pandemig ostyngiad arwyddocaol (33%) yn 2020-21, ac nid oedd derbyniadau dewisol ac achosion brys wedi dychwelyd eto i lefelau cyn y pandemig yn 2022-23.

Gwasanaethau canser

Caiff data eu dal gan y llwybr lle’r amheuir canser, sy'n mesur yr amser ar y llwybr canser o'r adeg yr amheuwyd bod gan glaf ganser (er enghraifft pan fydd meddyg teulu yn atgyfeirio).

Mae llwybr yn agor o'r pwynt cyntaf o amheuaeth. Mae'r data llwybr agored yn cynnwys yr holl lwybrau cleifion newydd sy'n mynd i mewn i'r llwybr lle’r amheuir canser, waeth beth yw  ffynhonnell yr amheuaeth. Mae llwybrau’n cael eu cau a’r amser aros yn dod i ben, pan fydd cleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf neu'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser (israddio). Mae llwybrau lle mae cleifion yn marw neu'n dewis peidio â chael triniaeth hefyd yn cael eu cau, ond nid ydynt wedi'u cynnwys yn y data am gau llwybrau oherwydd mai bwriad yr ystadegau yw dal 'gweithgarwch' y GIG.

Llwybr lle’r amheuir canser: StatsCymru

Ffigur 19: Cleifion sy'n dechrau triniaeth canser yn ôl llwybr, Hydref 2009 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart linell sy'n dangos cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dechrau triniaeth canser ers 2009.

Ffynonellau: Hydref 2020 i Tachwedd 2020: Data amseroedd aros canser, Byrddau Iechyd Lleol Cymru; Rhagfyr 2020 ymlaen: Llwybr Lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Mae modd cymharu’r data ar gyfer cyfansymiau sy'n dechrau triniaeth ar gyfer y gyfres lawn, ond o fis Rhagfyr 2020 y llwybr sengl lle’r amheuir canser oedd yr unig gasgliad data, sy'n golygu nad oedd ffigurau ar gyfer canserau brys a chanserau llai brys ar gael wedi hynny.

Mae nifer y cleifion sy'n dechrau triniaeth ar gyfer canser wedi cynyddu dros y 13 mlynedd diwethaf. Roedd cwymp sydyn mewn gweithgarwch ar ddechrau'r pandemig, ond cododd y niferoedd yn gyflym ac maent wedi cyrraedd y lefelau uchaf ar gofnod ers hynny. Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023 dechreuodd dros 21,000 o gleifion driniaeth canser, 44% yn fwy nag yn 12 mis cyntaf y gyfres hon. Mae hyn yn gynnydd llawer mwy na'r newid cyfatebol yn y boblogaeth dros yr un cyfnod (3%). Yn y degawd hyd at fis Tachwedd 2020 bu cynnydd o 63% yn nifer y cleifion sy'n dechrau triniaeth ar y llwybr canser brys lle’r amheuir canser a gostyngiad o 19% yn nifer y cleifion sy'n dechrau triniaeth ar gyfer canserau nad ydynt yn rhai brys.

Ffigur 20: Llwybrau lle’r amheuir canser a gaewyd, yn ôl y rheswm dros eu cau Ebrill 2020 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart llinell sy'n dangos tuedd gynyddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn nifer y llwybrau a gaewyd lle hysbyswyd y claf nad oedd ganddo ganser, a thuedd debyg i gleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf.

Ffynhonnell: Llwybr Lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae data ar gyfer y llwybr sengl lle’r amheuir canser ar gael o 2020 ymlaen. Yn 2022-23 dechreuodd 21,200 o gleifion eu triniaeth ddiffniol gyntaf ar gyfer canser a chafodd 158,200 o bobl wybod nad oedd ganddynt ganser. Mae’n bosibl bod peth o'r cynnydd diweddar mewn gweithgarwch yn adlewyrchu'r galw ychwanegol ar ôl gostyngiad mewn gweithgarwch yn ystod y pandemig.

Ffigur 21: Llwybrau lle’r amheuir canser a gaewyd, yn ôl y rheswm dros eu cau a’r bwrdd iechyd lleol, Ebrill 2020 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siartiau llinell sy'n dangos naill ai dueddiadau gwastad neu ar i fyny ar draws y byrddau iechyd lleol ar gyfer cleifion sy'n dechrau triniaeth a'r rhai sy'n cael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Roedd y cynnydd mwyaf mewn gweithgarwch ym Mwrdd Betsi Cadwaladr.

Ffynhonnell: Llwybr lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 22: Cau llwybrau lle hysbyswyd y cleifion nad oedd ganddynt ganser yn ôl rhyw, Ebrill 2020 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart llinell sy’n dangos y cafodd mwy o gleifion benywaidd wybod nad oedd ganddynt ganser na dynion, gyda thueddiadau tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ffigur 23: Cau llwybrau pan ddechreuodd y cleifion eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, yn ôl rhyw, Ebrill 2020 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart linell sy'n dangos cynnydd graddol mewn cleifion gwrywaidd a benywaidd yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Er bod llawer mwy o fenywod na dynion yn cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser, mae tua 10 i 15% yn fwy o ddynion yn cael eu trin am ganser. Mae hyn yn golygu bod cyfran uwch o ganserau a amheuir mewn dynion yn cael eu hadnabod fel canser yn y pen draw.

Ffigur 24: Cau llwybrau lle’r amheuir canser, yn ôl y rheswm dros eu cau a’r grŵp oedran, Ebrill 2020 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siartiau llinell sy'n dangos bod gweithgarwch ar y llwybr lle’r amheuir canser yn amrywio'n fawr yn ôl oedran.

Ffynhonnell: Llwybr lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yn gyffredinol, mae mwy o gleifion yn cael eu trin am ganser neu'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser yn y grwpiau oedran hŷn. Mae'r grwpiau oedran rhwng 50 a 79 yn gweld niferoedd tebyg o bobl yn cael gwybod nad oes ganddynt ganser, ond y grŵp 70 i 79 sydd â'r niferoedd uchaf o gleifion sy'n dechrau triniaeth. Mae maint y gweithgarwch yn y grŵp oedran 90+ yn isel, gan adlewyrchu’r boblogaeth lai o'i gymharu â'r grwpiau eraill.

Gwelyau'r GIG

Data ar gapasiti a defnydd gwelyau yn ysbytai'r GIG yng Nghymru o 1989-90.

Ffigur 25: Gwelyau sydd ar gael a gwelyau sy’n cael eu defnyddio, ar gyfartaledd, 1989-90 i 2021-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart linell sy'n dangos gostyngiadau hirdymor parhaus yn nifer y gwelyau sydd ar gael a'r nifer sy'n cael eu defnyddio ers 1989-90.

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae nifer y gwelyau sydd ar gael wedi gostwng bron hanner ers 1989-90. Er bod nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio wedi dilyn tuedd debyg, mae wedi bod ychydig yn llai amlwg (i lawr 42%), sy'n golygu bod canran y defnydd wedi cynyddu'n raddol dros nifer o flynyddoedd (Ffigur 18), o tua 77% i tua 85%. Mae'n bwysig nodi mai’r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn nes at gartref y claf drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu a lleihau'r angen am arosiadau mewn ysbytai. Mae mwy o fanylion am hyn ar gael yn 'Cymru Iachach: y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol'. Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at gyfnodau byrrach o aros a mwy o lawdriniaeth ddydd. Mae data ar hyd arhosiad ar gyfartaledd ar gael yn y data PEDW ar-lein (Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Yn ystod y pandemig, gwelwyd gostyngiad arwyddocaol yn nifer y llawdriniaethau a gynlluniwyd a’r derbyniadau nad oeddent yn rhai brys, sy'n golygu, er bod nifer mawr o gleifion COVID-19 yn defnyddio gwelyau ar rai adegau, bod gostyngiad cyffredinol yn eu defnydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer y gwelyau sydd ar gael wedi sefydlogi rhywfaint ac yn 2022/23, roedd 10,400 o welyau ar gael ar gyfartaledd ac 8,888 (85.5%) ohonynt yn cael eu defnyddio ar gyfartaledd.

Ffigur 26: Canran gwelyau'r GIG a ddefnyddir ar gyfartaledd, 1989-90 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart llinell sy'n dangos bod cyfran y gwelyau GIG a ddefnyddir wedi cynyddu’n raddol yn yr 20 mlynedd cyn y pandemig, cyn gostwng yn sydyn yn 2020-21.

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd cryno gweithgaredd a pherfformiad y GIG.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Eu hamcan yw sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gallwch ei anfon mewn e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 109/2023

Image
Ystadegau Gwladol