Neidio i'r prif gynnwy
Y Gwir Anrh Vaughan Gething AS

Cyfrifoldebau'r Prif Weinidog Cymru

Cyfrifoldebau

  • Arfer swyddogaethau gan Lywodraeth Cymru
  • Datblygu a chydlynu polisïau
  • Cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys y Cytundeb Cydweithio
  • Cysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Cysylltiadau Rhyngwladol gan gynnwys rhwydwaith tramor a Chymru ac Affrica
  • Cymru ac Ewrop
  • Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
  • Cod y Gweinidogion
  • Llywodraeth Agored a rheoli gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
  • Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru ag Archwilio Cymru
  • Argyfyngau Sifil Posibl a Chadeirio Fforwm Cymru Gydnerth
  • Diogelwch gwladol gan gynnwys gwrthderfysgaeth a seiberddiogelwch
  • Cyrff Hyd Braich
  • Penodiadau Cyhoeddus
  • Cyfathrebu Strategol

Bywgraffiad

Ganwyd Vaughan Gething yn Zambia a cafodd ei fagu yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac mae ganddo un mab gyda'i wraig, Michelle. Mae wedi bod yn gricedwr brwd, er ei fod wedi rhoi’r gorau iddi i raddau helaeth erbyn hyn, ac mae’n gefnogwr rygbi a phêl-droed.

Bu Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gynbartner yn Thompsons ac yn 2008 cafodd ei ethol fel Llywydd ieuengaf erioed TUC Cymru. Yn y gorffennol, mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir, llywodraethwr ysgol a gwirfoddolwr ar gyfer gwasanaeth cymunedol - gan gefnogi a gofalu am fyfyriwr gyda pharlys yr ymennydd. Mae Vaughan hefyd yn gyn-lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru ac arweiniodd yr ymgyrch 'Students Say Yes' cyn y refferendwm a sefydlodd ddatganoli yng Nghymru ym 1997.

Rhwng 1999 a 2003, bu Vaughan yn gweithio fel ymchwilydd i'r cyn Aelodau Cynulliad Val Feld a Lorraine Barrett. Vaughan hefyd oedd cadeirydd Hawl i bleidleisio, sef prosiect trawsbleidiol i annog mwy o bobl o gymunedau du ac ethnig leiafrifol i gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae hefyd yn aelod cyfredol o'r Blaid Gydweithredol.

Mae Vaughan wedi cyflawni’r rolau canlynol yn y llywodraeth, cyn dechrau ar ei rôl bresennol fel Prif Weinidog Cymru ym mis Mawrth 2024:

  • Gweinidog yr Economi rhwng mis Mai 2021 a mis Mawrth 2024
  • Ysgrifennydd y Cabinet/Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng mis Mai 2016 a mis Mai 2021
  • Y Dirprwy Weinidog Iechyd rhwng mis Medi 2014 a mis Mai 2016
  • Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi rhwng mis Mehefin 2013 a mis Medi 2014

Ysgrifennu at Vaughan Gething