Ymchwil ar ddysgu sylfaen yn y Cwricwlwm i Gymru: ymateb y llywodraeth
In hymateb i adroddiad gwerthuso.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ar 26 Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) ‘Dysgu Sylfaen yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol’, a ddatblygwyd gan gwmni ymchwil Arad a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o werthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n astudiaeth aml-flwyddyn a fydd yn rhoi darlun ansoddol a meintiol eang inni o sut y mae’r diwygiadau’n gweithio, sut y mae ymarfer yn newid a phrofiad uwch arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd o’r newidiadau hyn.
Mae crynodeb o ganfyddiadau’r astudiaeth ansoddol o Ddysgu Sylfaen wedi'i gyhoeddi. Mae'r astudiaeth yn archwilio sut y mae ysgolion yn gwireddu ymarfer ar gyfer dysgu sylfaen yng nghyd-destun Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a sut y maent yn defnyddio canllawiau a dysgu proffesiynol i gefnogi eu hymarfer. Ystyriodd yr ymchwil addysgeg ac ymarfer dysgu sylfaen cyfredol ledled Cymru.
Mae dysgu sylfaen yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru ac yn canolbwyntio ar y dulliau addysgu a dysgu addysgegol sy'n cefnogi dysgu a datblygiad pob plentyn rhwng 3 ac 8 oed, neu ddysgwyr sydd ag anghenion datblygiadol tebyg.
Gwireddu’r cwricwlwm
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o ysgolion yn cynllunio ac yn darparu cwricwla sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n briodol i ddatblygiad yn y blynyddoedd cynnar.
Roedd ysgolion yn rhoi pwyslais clir a chyson ar gynllunio cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, gan sicrhau bod y dulliau'n ymatebol i anghenion datblygiadol plant ac yn cael eu llywio gan y cyd-destun lleol, gan sicrhau bod profiadau dysgu wedi'u cysylltu'n agos â'r gymuned. Ar draws pob ysgol yn yr astudiaeth, pwysleisiwyd bod chwarae yn sylfaen i ddysgu cynnar, ac roedd llawer o ymarferwyr yn cydnabod gwerth darparu profiadau dilys ac ystyrlon o fewn addysgeg sy'n seiliedig ar chwarae, gan gynnwys y cyfleoedd gwerthfawr a gynigir drwy ddysgu yn yr awyr agored.
Ystyriwyd bod arsylwi yn nodwedd ganolog o ymarfer ar gyfer dysgu sylfaen. Roedd llawer o ysgolion hefyd yn ymgorffori egwyddorion datblygiad plant yn fwy pwrpasol yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm. Daeth hyn law yn llaw â newid amlwg yn rôl ymarferwyr fel oedolion sy'n galluogi dysgu, wrth iddynt ddod yn fwyfwy hyderus a meithrin mwy o annibyniaeth wrth i blant ddysgu.
Mae'r astudiaeth yn adleisio adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2024 i 2025 sy'n tynnu sylw at y ffaith bod gan lawer o ysgolion cynradd strategaethau clir bellach i gryfhau gwybodaeth staff am ddulliau sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Yn y lleoliadau mwyaf effeithiol, mae dysgu proffesiynol yn amlwg yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr iau, wedi'i ategu gan ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant a gwerth chwarae, arsylwi, dysgu dilys a phrofiadau awyr agored.
Heriau
Yn ogystal â'r datblygiadau cadarnhaol hyn, rydym yn cydnabod bod heriau'n parhau o ran gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol.
Mae ymarferwyr yn galw am gefnogaeth gryfach i ddangos tystiolaeth o gynnydd dysgwyr, gan dynnu sylw at yr angen am ddulliau sy'n adlewyrchu pwyslais y Cwricwlwm i Gymru ar ddysgu eang, holistaidd a dilys.
Dengys y canfyddiadau fod angen cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau addysgegol sy'n sicrhau parhad ar draws y camau cynnydd, gan helpu i gefnu ar y canfyddiadau blaenorol o bwyntiau pontio sy’n seiliedig ar gyfnodau a chamau nad ydynt yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r heriau hyn yn cael eu dwysáu gan y ffaith bod ymarferwyr yn wynebu cymhlethdod cynyddol mewn perthynas ag anghenion dysgwyr, gan gynnwys oedi gyda datblygiad cyfathrebu, iaith a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, ochr yn ochr â chyllid a chymarebau staffio.
Dywed ymarferwyr fod mynediad at adnoddau dysgu proffesiynol yn amrywio. Hefyd, mae angen mwy o enghreifftiau sy'n berthnasol i ymarfer ar gyfer dysgu sylfaen, ochr yn ochr ag astudiaethau achos byd go iawn, i gefnogi addysgeg o ansawdd uchel sy'n briodol i ddatblygiad.
Cefnogaeth i ysgolion
Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn sylfaen gref i ddarparu cefnogaeth bellach, gan gynnwys yr adrannau galluogi dysgu a Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu yn y canllawiau statudol, yn ogystal â'r trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer y rhai sy'n darparu addysg feithrin mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir..
Rydym yn parhau i gyfeirio ymarferwyr ac awdurdodau lleol at offer ar gyfer cynllunio cwricwlwm, gan gynnwys y Rhaglen Gymorth Genedlaethol ac adnoddau eraill ar Hwb. Mae'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol yn darparu llwybr penodedig ar gyfer Galluogi dysgu sy'n pwysleisio sut mae'r 3 elfen alluogi (oedolion sy’n galluogi dysgu, profiadau sy’n ennyn diddordeb ac amgylcheddau effeithiol) yn sail i gynllunio cwricwlwm effeithiol ac yn cefnogi pob dysgwr.
Mae enghreifftiau o ddysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ymarfer ar gyfer dysgu sylfaen yn cynnwys 2 gyfres o adnoddau dysgu proffesiynol sy’n ategu ei gilydd y byddwn yn parhau i'w hyrwyddo. Mae'r rhain yn cynnwys 'Deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg’, a modiwlau a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion a lleoliadau i gefnogi dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, dysgu yn yr awyr agored, datblygiad plant, arsylwi, pontio, a dysgu dilys a phwrpasol. Mae'r modiwlau hyn yn adlewyrchu addysgeg sy'n briodol i ddatblygiad.
Cefnogir y gwaith hwn gan ddulliau fel y cylch sylwi-dadansoddi-ymateb sy'n hyrwyddo asesu arsylwadol o ansawdd uchel ac yn helpu ymarferwyr i ddeall anghenion dysgwyr ac addasu eu hymarfer. Wrth wneud hynny, mae ymarferwyr yn troi’n fwriadol at y 3 elfen alluogi i greu'r amodau ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon. Mae hefyd yn sicrhau bod gwaith o gynllunio’r cwricwlwm yn seiliedig ar y pum llwybr datblygu (perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a lles) gan alluogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn ffyrdd dilys sy’n briodol i ddatblygiad y plant ac sy’n ymatebol i'w hanghenion.
Mae canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru yn nodi y dylai asesu gefnogi cynnydd unigol pob dysgwr a dylai fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth ymarferwyr o'r dysgwr. Dylai asesiadau a wneir pan fydd dysgwyr yn dechrau mewn ysgol neu leoliad ddarparu darlun holistaidd o bob plentyn, gan alluogi ymarferwyr i gynllunio darpariaeth sy'n cefnogi ac yn herio'r dysgwyr yn briodol. Atgyfnerthir yr egwyddorion hyn yn y trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, sy'n pwysleisio y dylid arsylwi plant mewn cyd-destun, cydnabod patrymau datblygiadol unigryw, a sicrhau bod anghenion dysgwyr yn parhau i fod yn ganolog i addysgeg. Mae'r canllawiau hyn, a'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, ar gael i ysgolion eu defnyddio.
Er mwyn hyrwyddo mwy o gysondeb wrth gymhwyso egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys defnydd effeithiol o'r llwybrau datblygu, byddwn yn parhau i hyrwyddo deunyddiau dysgu proffesiynol a deunyddiau enghreifftiol o ansawdd uchel. Bydd y rhain yn adeiladu ar yr adnoddau presennol gan ymgorffori asesu o fewn addysgeg sy'n briodol i ddatblygiad a helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ac yn adeiladol gydag ymarferwyr a phartneriaid awdurdodau lleol i adnabod a rhannu arferion effeithiol gan sicrhau bod dulliau cydlynol yn cael eu defnyddio.
Rydym yn annog ysgolion i ddefnyddio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i lywio datblygiad eu cwricwlwm eu hunain, a byddwn yn parhau i dynnu sylw at hyn fel opsiwn. Rydym wedi nodi'r gefnogaeth hon yn y canllawiau addysg feithrin sydd wedi'u hadnewyddu ar gyfer awdurdodau lleol sydd i'w gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth 2026.
Fel rhan o gylch parhaus o adolygu a mireinio’r Cwricwlwm i Gymru, byddwn yn ystyried pa mor glir y mae’r gofynion o ran cwricwlwm ac asesu wedi'u mynegi yn Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a'r ffordd orau o sicrhau dealltwriaeth gyffredin ar draws y system er mwyn mynd i'r afael ag amrywioldeb.
Rydym yn falch bod addysgeg yn gynyddol fwriadol, gan adeiladu ar ymarfer blaenorol a rhoi dysgu seiliedig ar chwarae a dysgu drwy brofiad wrth wraidd arfer dysgu sylfaen effeithiol. Mae ymarferwyr yn dangos mwy o hyder o ran sicrhau eu bod yn oedolion sy’n galluogi dysgu, gan gefnogi annibyniaeth, dysgu dilys a datblygiad holistaidd. Mae'n amlwg y byddai disgwyliadau addysgeg ar draws y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant 3 i 16 oed yn elwa o ragor o eglurder a chefnogaeth ymarferol. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio addysgeg sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr ac yn defnyddio cymysgedd o ddulliau, gydag ymarferwyr yn gweithredu fel oedolion sy’n galluogi dysgu ac yn defnyddio amgylcheddau effeithiol i gefnogi’r dysgu.
Mae ymarferwyr ac uwch arweinwyr wedi tynnu sylw at yr angen am ganllawiau clir ac ymarferol i gefnogi hyder, parhad a chysondeb wrth gynllunio a gwireddu'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr iau a chefnogi datblygiad dysgwyr.
Mae cymorth gan awdurdodau lleol a chymorth rhanbarthol, ynghyd â chanllawiau statudol Galluogi dysgu a chymorth arall ar Hwb, yn ffynonellau gwybodaeth pwysig i ysgolion. Mae rhai ysgolion yn defnyddio’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i gefnogi eu gwaith cynllunio ac asesu, tra bod eraill yn ei chael hi'n fwy heriol ei addasu ar gyfer eu cyd-destun hwy.
Mae sawl rhaglen eisoes ar y gweill i gefnogi dysgwyr gan gynnwys y rhaglen CAL:ON yn rhoi sylfaen sy'n briodol i ddatblygiad dysgwyr 3 i 8 oed mewn iaith a llythrennedd cynnar, gan ganolbwyntio ar sgiliau sy'n sail i lwyddiant diweddarach mewn perthynas â darllen. Ochr yn ochr â hyn, bydd Fframwaith Hyfforddi Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu i Gymru yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth 2026 i gynorthwyo ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant 5 i 16 oed i nodi anghenion hyfforddi ymarferwyr a hwyluso mynediad at y cymorth angenrheidiol i wella eu sgiliau a gwella deilliannau i bob dysgwr. Rydym hefyd yn ehangu'r adnoddau gwreiddiol llwybrau datblygu cyfathrebu, a gefnogodd ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda phlant 3 i 4 oed, i ymestyn y cymorth o 5 oed i fyny, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr ymhellach o leferydd, iaith a chyfathrebu.
Rydym wedi penodi cynghorydd proffesiynol newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar i adolygu sut mae cymorth ADY yn gweithredu ledled Cymru, gan nodi amrywiadau yn ymarfer awdurdodau lleol i lywio camau yn y dyfodol i sicrhau mwy o gysondeb yn genedlaethol. Mae Estyn wedi adrodd bod Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio'n effeithiol gyda rhieni a lleoliadau i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i blant ifanc. Drwy gyllid Cwlwm, rydym yn cryfhau hyder y sector mewn ADY, gan gynnwys hyfforddiant, ac rydym wedi cyhoeddi pecyn cymorth ADY i helpu teuluoedd i ddeall y system. Datblygwyd y pecyn cymorth gyda mewnbwn gan rhieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o feysydd addysg, iechyd, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau atodol newydd i gryfhau proses gwneud penderfyniadau dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio'r prawf cyfreithiol dau gam ac egluro disgwyliadau ar gyfer cyfathrebu, anghydfodau ac apeliadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfatebiaeth gref rhwng darpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac addysg, gan hyrwyddo parhad yn natblygiad plant a’u galluogi i bontio’n fwy didrafferth ac yn fwy effeithiol i addysg. Mae'r fersiwn ddrafft Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025, yn un enghraifft ble y gwelir hyn ar waith, gan gryfhau cydlyniad ar draws y meysydd chwarae, dysgu a gofal yn y blynyddoedd cynnar. Bwriedir cyhoeddi’r trefniadau terfynol ym mis Medi 2026.
Rydym hefyd yn gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dwy oed ledled Cymru drwy ehangu’r rhaglen Dechrau'n Deg. Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen wreiddiol Siarad Gyda Fi ar gyfer plant 0 i 5 oed, rydym yn ymgynghori ar gymorth estynedig drwy Siarad Gyda Fi: Cam 2 i gefnogi plant 0 i 11 oed gyda'u sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae 'Magu Plant. Rhowch amser iddo' hefyd yn darparu gwybodaeth am fagu plant, cyngor, cefnogaeth ac awgrymiadau ar bryderon cyffredin wrth fagu plant fel ymddygiad plant, datblygiad plant, dechrau yn yr ysgol ac yn cyfeirio rhieni at ffynonellau eraill o gymorth.
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mandadol yn rhan allweddol o gefnogi lles corfforol, emosiynol a meddyliol dysgwyr. Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru hefyd yn cefnogi cyfleoedd i ddatblygu llythrennedd emosiynol, empathi, cymhelliant a sgiliau gwneud penderfyniadau - gan baratoi plant i dyfu’n unigolion iach a hyderus sydd â'r sylfeini i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg ar gyfer Ysgolion, gan nodi sut y byddwn yn cefnogi datblygiad parhaus ein gweithlu mewn ysgolion a lleoliadau. Mae Adnodd, corff hyd braich Llywodraeth Cymru, yn parhau i oruchwylio a chydlynu darpariaeth adnoddau addysgol dwyieithog i gefnogi dysgu ac addysgu. Rydym hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o wella mynediad at dechnolegau iaith.
Gan weithio gyda Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, byddwn yn darparu arlwy dysgu proffesiynol clir a chyson sy'n cefnogi ymarferwyr ar draws pob lleoliad i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Dysgu a'i bartneriaid yn datblygu ac yn hyrwyddo cyfleoedd sy'n meithrin hyder ymarferwyr, yn cryfhau barn broffesiynol ac yn ehangu mynediad at gymorth o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n dyfnhau dealltwriaeth o ddatblygiad plant a phobl ifanc ac yn cefnogi'r defnydd o ddulliau sy'n seiliedig ar egwyddorion addysgeg cryf sy'n briodol i ddatblygiad dysgwyr. Er enghraifft, mae Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog yn rhaglen beilot a ddatblygwyd ar y cyd gan ymarferwyr ac arbenigwyr eraill sy'n darparu technegau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n helpu ymarferwyr i feithrin hyder a hunan-effeithiolrwydd yn yr ystafell ddosbarth, cael offer ymarferol ar gyfer rheoli ymddygiad a lles, a dyfnhau eu dealltwriaeth o ddatblygiad plant, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl, yn ogystal â chefnogi lles staff.
Caiff dysgu proffesiynol a ddarperir gan Dysgu eu hategu gan ganllawiau gwella ysgolion wedi'u diweddaru sy'n egluro’r disgwyliadau ac yn helpu awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu i ddeall y diwylliant, yr ymddygiadau a'r arferion y mae angen i ysgolion eu mabwysiadu er mwyn dod yn sefydliadau dysgu effeithiol a chydweithio’n bwrpasol. Gan adeiladu ar hyn, bydd Dysgu hefyd yn ehangu cyfleoedd i ymarferwyr ymgysylltu mewn gweithgarwch myfyriol a chydweithredol sy'n cefnogi’r gwaith o wella ysgolion.
Gyda'i gilydd, mae’r astudiaeth ansoddol Dysgu Sylfaen a chanfyddiadau Estyn yn dangos bod cynnydd cyson a pharhaus wedi’i wneud o ran defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru yn y blynyddoedd cynnar ac maent yn nodi blaenoriaethau clir ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol. Bydd ein camau nesaf yn rhoi blaenoriaeth i eglurder, darparu enghreifftiau, a dysgu proffesiynol cydlynol gyda phwyslais cryf ar asesu fel rhan o addysgeg, a gwella ysgolion ar y cyd, fel y gall ymarferwyr wireddu’r Cwricwlwm i Gymru yn hyderus ac fel y gall pob dysgwr ffynnu.
