Ymchwil ar degwch a chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i astudiaeth y gwerthusiad ar degwch a chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ar 17 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a chwmni ymchwil Arad, 'Tegwch a chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol'. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o werthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru, astudiaeth aml-flwyddyn a fydd yn rhoi darlun ansoddol a meintiol eang i ni o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu profi gan uwch arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd.
Mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad wedi'i gyhoeddi. Roedd yr astudiaeth yn ceisio deall sut mae tegwch a chynwysoldeb yn y cwricwlwm yn cael ei wireddu yn ymarferol, yn ogystal â sut mae ymarferwyr yn cael eu cefnogi gyda hyn.
Er bod cyfyngiadau i'r astudiaeth (gan gynnwys bod y sampl o ysgolion dan sylw yn fach ac yn hunan-ddewisol ac felly nid oes modd cyffredinoli ar sail y canfyddiadau), mae'r adroddiad yn cynnig mewnwelediadau helaeth i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu cymorth i ymarferwyr a dysgwyr wrth barhau i wireddu y Cwricwlwm i Gymru.
Gwireddu'r cwricwlwm
Rydym yn falch bod y rhan fwyaf o ysgolion yn yr astudiaeth wedi adrodd bod y Cwricwlwm i Gymru wedi arwain at fwy o ffocws ar degwch a chynwysoldeb ar gyfer bob dysgwr.
Mae'n amlwg bod ysgolion a lleoliadau'n croesawi’r galluogedd y mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei ddarparu, i addasu eu harfer a chefnogi mwy o degwch a chynwysoldeb er mwyn diwallu anghenion dysgwyr unigol.
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn dibynnu ar wybodaeth a phrofiad ymarferwyr i nodi ffyrdd o ddarparu mynediad priodol i'r cwricwlwm i bob dysgwr. Mae'n gadarnhaol gweld ysgolion yn defnyddio ymarfer sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr i gynllunio cymorth priodol ac mae'r dulliau hyn yn cael eu hystyried yn fuddiol wrth gefnogi tegwch a chynwysoldeb.
Rydym yn croesawu'r gwerth a roddir gan ymarferwyr ar lais y dysgwr ac, trwy hyn, eu bod yn cynnig profiadau dysgu amrywiol, lleol, sy'n berthnasol i'w dysgwyr ac wedi'u llywio ganddynt. Rydym yn falch bod rhai ymarferwyr yn gweld gwell ymgysylltiad gan ddysgwyr pan fydd eu cwricwlwm wedi'i gynllunio i adlewyrchu diddordebau dysgwyr a chymunedau lleol.
Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion parhaus ymarferwyr i ymgysylltu â theuluoedd i ddarparu'r gefnogaeth iawn i ddysgwyr a chyfrannu at brofiadau mwy teg. Rydym hefyd yn croesawu'r sylw ar fanteision gweithio gyda chlwstwr, yr ydym yn cydnabod fel allwedd i gydweithio effeithiol.
Heriau
Rydym yn cydnabod pryderon y gallai argaeledd adnoddau amrywiol neu anghyson gartref, yn yr ysgol, neu yn y gymuned, yn ogystal â gwahanol ddulliau gweithredu yn yr ysgol, arwain at brofiadau anghyfartal i ddysgwyr.
Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau sylweddol sydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol ac yn cydnabod bod angen cynllunio a chydweithrediad sylweddol er mwyn gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus.
Rydym hefyd yn cydnabod bod angen gwelliannau i raglenni addysg gychwynnol athrawon i gryfhau dealltwriaeth darpar athrawon i gefnogi tegwch a chynwysoldeb a diwallu anghenion pob dysgwr.
Cymorth i ysgolion
Nododd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn yr astudiaeth heriau mewn perthynas â'r amser sydd ar gael ar gyfer cynllunio ac ymateb i anghenion dysgwyr unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amser a'r ymdrech y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn buddsoddi mewn gwireddu'r cwricwlwm.
Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno diwrnod hyfforddi ychwanegol i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn wedi'i ddarparu am y chwe blynedd diwethaf, ac rydym wedi cyhoeddi ein bwriad i barhau i ddarparu’r diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Yn ystod tymor yr haf a'r hydref, byddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o hyfforddiant mewn swydd (HMS), gan gynnwys trafodaethau gyda dysgwyr ac ymarferwyr, i ddeall yn well effaith HMS ar addysg ein dysgwyr ac wrth ddarparu amodau cefnogol i'n hymarferwyr. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein Cynllun Gweithlu Addysg Strategol tymor hwy.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am well cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd i gefnogi cysondeb a dilyniant mewn perthynas â thegwch a chynwysoldeb. Yn dilyn adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg a chyflwyno trefniadau gwella ysgolion, a thrwy drafodaethau gwella ysgolion parhaus gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, mae'n amlwg y bydd cydweithio pwrpasol ar bob lefel yn hanfodol wrth symud ymlaen. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion diwygiedig yn ddiweddarach eleni i helpu i roi eglurder ar hyn. Mae hyn yn adeiladu ar ofynion ynghylch cynllunio pontio a'n disgwyliadau i ysgolion meithrin cyd-ddealltwriaeth o gynnydd ar draws ysgolion.
Rydym hefyd yn rhoi pwyslais arbennig ar yr adeg bontio allweddol hon yn ein rhaglenni cymorth cenedlaethol. Er enghraifft, ar gyfer rhifedd, mae ein project 'Primed for success' wedi'i anelu at arweinwyr mathemateg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr ym Mlwyddyn 6 a 7 mewn ysgolion, gan gefnogi gwaith clwstwr ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo i gefnogi cyfnod pontio rhwydd ac effeithiol. Mewn llythrennedd, mae'r gwahoddiad grant ar gyfer Mehefin 2025 yn cynnwys ffocws ar ddatblygu offer ar gyfer gwerthuso sgiliau ac anghenion iaith a darllen mewn cyfnodau pontio allweddol, i gefnogi gweithwyr proffesiynol gyda hyn.
Tynnodd yr adroddiad sylw at bryderon uwch arweinwyr ac ymarferwyr ynghylch amrywioldeb wrth wireddu’r Cwricwlwm I Gymru ac effeithiau posibl hyn ar degwch a chynwysoldeb i ddysgwyr ledled Cymru. Mae dysgu proffesiynol yn hanfodol i fynd i'r afael â materion posibl ynghylch amrywioldeb. Mae ein rhaglen gymorth genedlaethol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud ac ar gefnogaeth effeithiol sy'n bodoli eisoes yn y system. Mae hyn wedi cynnwys dod â chanllawiau a deunyddiau ategol ynghyd mewn un lle hylaw, gyda chefnogaeth cyflwynwyr arbenigol a hyfforddiant un i un ar gyfer arweinwyr ysgolion. Maes o law bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i'r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd yr ydym yn ei sefydlu i ddarparu dysgu proffesiynol cenedlaethol cyson i gefnogi ymarferwyr ar hyd llwybrau eu gyrfaoedd.
Mae eglurder cefnogaeth yn hanfodol yma ac rydym hefyd wedi cyhoeddi offer a thempledi i fodelu prosesau ar gyfer cynllunio cwricwlwm ar lefel ysgol, gan gynnwys manylion ychwanegol ar gynnydd ac asesu a sut mae hyn yn edrych ar lawr y dosbarth.
Mewn llythrennedd a rhifedd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ddarparu mwy o fanylion i gefnogi dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o flociau adeiladu hanfodol cynnydd yn yr agweddau hyn, bydd yn rhoi mwy o eglurder ynghylch disgwyliadau. I ddechrau bydd hyn ar gael fel dysgu proffesiynol a bydd yn llywio canllawiau pellach maes o law. Yn fwy eang, rydym yn ystyried sut y gall manylion ychwanegol helpu i ddarparu mwy o eglurder am wybodaeth a sgiliau hanfodol i gefnogi cynllunio cwricwlwm a chynnydd, yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adroddiad yn nodi Addysg Gychwynnol Athrawon fel maes ffocws, gan alw am fwy o ffocws ar degwch a chynwysoldeb o fewn Addysg Gychwynnol. Mae gwelliannau i'n rhaglen yn cael eu hadnabod trwy ein prosesau monitro ac arolygu. Rydym wedi adnewyddu'r Meini Prawf ar gyfer Achredu rhaglenni ar gyfer rhaglenni sy'n dechrau ar ôl Medi 2024. Mae'r Meini Prawf bellach yn cynnwys gofynion penodol sy'n mynd i'r afael â thegwch a chynwysoldeb. Dylai darpar athrawon ddatblygu gwerthoedd, gwybodaeth, sgiliau ac agweddau i ddiwallu anghenion pob dysgwr mewn perthynas â llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, cynhwysiant cymdeithasol, mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, a thegwch yn ehangach.
Mae'n ofynnol i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon gwmpasu astudiaethau proffesiynol ac addysgeg graidd a fydd yn canolbwyntio'n benodol ar ystod o ddamcaniaethau, ymchwil, ac adnoddau eraill i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth darpar athrawon o’r pethau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- natur amrywiol a newidiol y boblogaeth ysgol yng Nghymru a pherthnasedd hyn i ddysgu ac addysgu
- deall a rheoli'r rhwystrau amrywiol y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn yr ysgol sy'n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol ac yn effeithio ar gydraddoldeb
- diwallu anghenion dysgwyr o gefndiroedd diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol amrywiol
- diwallu anghenion dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol amrywiol
- diwallu anghenion dysgwyr gydag ADY
- ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person, yn unol â'r cod ADY, i sicrhau:
- bod barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn a rhiant y plentyn, neu'r person ifanc, wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau i nodi eu hanghenion a'r gefnogaeth i ddiwallu'r anghenion hynny a
- hawliau dysgwyr yn yr ysgol yng Nghymru, gan gynnwys eu hawl i lais mewn materion sy'n ymwneud â'u bywydau
- diogelu pob dysgwr
Un maes i'w ystyried a nodwyd yn yr adroddiad yw canllawiau mwy penodol ar sut y gall dulliau gweithredu’r cwricwlwm helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY, dysgwyr mwy galluog a thalentog, dysgwyr sy'n profi tlodi, a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae gan egwyddorion Galluogi dysgu rôl hanfodol wrth gefnogi ystod eang o ddysgwyr ag anghenion gwahanol i gael mynediad i'r cwricwlwm ac mae'n rhan o'r rhaglen gymorth genedlaethol sydd ar gael ar hyn o bryd i ysgolion a lleoliadau. Mae datblygiad plant wrth wraidd 'Galluogi Dysgu' ac mae’n hanfodol i ddeall a chefnogi pob dysgwr yn effeithiol wrth iddynt symud ymlaen ar eu teithiau dysgu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag ymarferwyr, uwch arweinwyr, sefydliadau addysg uwch a phartneriaid haen ganol i gryfhau canllawiau Galluogi dysgu ac ystyried pa gymorth pellach, gan gynnwys enghreifftiau, a allai fod ei angen i gefnogi ymarferwyr ym mhob cyd-destun gyda phlant o bob oedran, ac i lywio adolygu a mireinio canllawiau'r cwricwlwm yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau amgylcheddau effeithiol i gefnogi eu dysgwyr, rydym wedi ymrwymo cyllid ychwanegol i wella cyfleusterau i ddysgwyr ag ADY. Rydym wedi buddsoddi £20 miliwn mewn ysgolion a lleoliadau i greu amgylcheddau dysgu mwy hygyrch a chynhwysol fel ardaloedd tawel neu synhwyraidd, i uwchraddio cyfleusterau i wella hygyrchedd, a phrynu offer newydd. Mae'r fframwaith deddfwriaethol ADY hefyd wedi'i adolygu er eglurder a hygyrchedd. Y ffocws yw gwella cysondeb dealltwriaeth a chyflwyno'r system ADY ledled Cymru.
Y tu hwnt i ddiwygio'r cwricwlwm ac asesu, mae cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru ar y gweill i ddarparu mwy o gefnogaeth i grwpiau amrywiol o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o aelwydydd incwm isel. Ein huchelgais yw i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Bro, gan ymateb i anghenion eu cymuned ac adeiladu partneriaethau cryf gyda theuluoedd. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn chwarae rhan bwysig o fewn ysgolion ac y flwyddyn ariannol hon rydym yn buddsoddi £9.5m i gynyddu nifer a gyflogir gan ysgolion. Mae cyllid o tua £128m wedi'i ddyrannu i'r Grant Datblygu Disgyblion y flwyddyn ariannol hon i godi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel. Ochr yn ochr â hyn, mae'r Grant Hanfodion Ysgolion yn cefnogi llawer o deuluoedd gydag incwm is ledled Cymru.
Mae ymchwil bellach ar rôl y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer gwella tegwch a chynwysoldeb yn faes i'w ystyried a gyflwynir yn yr adroddiad. Wrth i'r gwerthusiad ffurfiannol barhau, byddwn yn parhau i archwilio sut mae'r cwricwlwm yn cael ei weithredu, a sut mae'n cael ei brofi gan ddysgwyr, a’u rhieni a gofalwyr, trwy lens tegwch a chynwysoldeb. Bydd hyn yn cynnwys cynnal gwaith maes ansoddol manwl gyda dysgwyr, a’u rhieni a gofalwyr, a dadansoddi data ein harolwg i ddeall tueddiadau a phatrymau mewn perthynas â gwahanol ffactorau demograffig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag ymarferwyr a phartneriaid eraill i ddarparu'r addysg orau bosibl i bob plentyn yng Nghymru.
