Ymchwil ynghylch y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru - Cydnabyddiaethau
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Roedd hwn yn brosiect ymchwil gymdeithasol cydweithredol. Cyflwynodd tîm o gydgynhyrchwyr yr ymchwil gan gynnwys Cadeiryddion gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru. Cyfunai’r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a chan y Llywodraeth).
Ni fuasai'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn yn bosibl heb yr amser a neilltuwyd a'r cyfraniadau helaeth a chraff a wnaed gan y cydgynhyrchwyr yn ystod pob cam o'r ymchwil, o bennu cwmpas y prosiect i gyhoeddi'r adroddiad hwn.
Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn arbennig i aelodau'r tîm cydgynhyrchu o’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl am rannu eu hasedau personol a sefydliadol, gan gynnwys profiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau, eu brwdfrydedd a'u huchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, eu sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau rhyngbersonol, ac am ddefnyddio’u harbenigedd a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol a hanesyddol ar gyfer pobl anabl, a defnyddio eu rhwydweithiau eu hunain.
Roedd aelodau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys:
- Rhian Davies, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
- Damian Joseph Bridgeman – ymgyrchydd anabledd, entrepreneur cymdeithasol, Cynghorydd Cymuned Sain Tathan, a Chadeirydd Gweithgor Tai Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Debbie Foster, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Cadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm a Chyd-Gadeirydd Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
- Dr Natasha Hirst, Cadeirydd Gweithgor Mynediad at Wasanaethau Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
- Willow C Holloway, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Iechyd Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
- Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Chadeirydd Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
