Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r arolwg yn caniatáu ar gyfer dadansoddiad o dueddiadau allweddol mewn canlyniadau iechyd, ymddygiad, a'r cyd-destun cymdeithasol ar lefel genedlaethol.

Caiff y canfyddiadau eu cyflwyno o dan y penawdau canlynol:

  • ymddygiadau iechyd
  • canlyniadau iechyd
  • ymddygiadau risg
  • cyd-destun cymdeithasol.

Mae Cymru wedi bod yn rhan o’r astudiaeth ryngwladol hon am 30 mlynedd, ac mae ei hamcanion yn cynnwys:

  • darparu dealltwriaeth drylwyr o iechyd a lles pobl ifanc, gan gynnwys penderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • llywio polisïau ac arferion i wella bywydau pobl ifanc
  • rhannu’r canfyddiadau â grwpiau amrywiol, er enghraifft gweithwyr Llywodraeth Cymru sy’n llunio polisïau, llywodraeth leol, y GIG, athrawon, rhieni, pobl ifanc ac ymchwilwyr
  • i ddechrau a chynnal ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ar ymddygiadau iechyd a chyd-destun cymdeithasol iechyd ymhlith pobl ifanc.

Yn 2013/14 bu tua 9,000 o bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru (blynyddoedd ysgol 7-11) yn cymryd rhan yn yr astudiaeth. Yn ogystal â chyflwyno’r data diweddaraf ar gyfer 2013/14, caiff tueddiadau hanesyddol hefyd eu darparu ar gyfer nifer o ddangosyddion, yn dyddio nôl i 1985/86 mewn nifer o achosion. Disgwylir y bydd mwy o gyhoeddiadau yn dilyn.

Adroddiadau

Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol 2013/14: canfyddiadau allweddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.