Ymgynghoriad ar newidiadau y bwriedir eu gwneud i ddisgowntiau’r Dreth Gyngor, personau a ddiystyrir ac eithriadau
Hoffem gael eich barn ar y newidiadau rydym am eu gwneud i rai o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau'r Dreth Gyngor.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud y Dreth Gyngor yng Nghymru yn decach ac yn fwy cynyddraddol, ac rydym wedi gwneud sawl gwelliant dros y degawdau ers creu system y Dreth Gyngor yn 1993. Rydym wedi ymgynghori ar ddiwygiadau i'r Dreth Gyngor yn y dyfodol, gan gynnwys ailbrisio ac ailddylunio'r bandiau treth eiddo yn 2028, er mwyn sicrhau eu bod yn decach i bobl lai cyfoethog. Cafodd y cynllun hwn ei gymeradwy o gan y Senedd drwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024.
Wrth i ni baratoi ar gyfer y newidiadau sylweddol hynny, rydym yn gweithio i wella'r amrywiaeth o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau sy'n gweithredu o fewn system y Dreth Gyngor. Mae'r ymgynghoriad hwn yn deillio o adolygiad o bob categori ac yn gofyn eich barn ar newidiadau arfaethedig. Mae hefyd yn cadarnhau'r ffordd ymlaen ar gyfer rhai o'r newidiadau y gwnaethom ymgynghori yn eu cylch yn yr ymgynghoriad Cyngor Treth Decach: cam 2.
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn cau ar 15 Awst 2025.
Dim ond i Gymru y mae'r ymgynghoriad yn berthnasol.
Cefndir
Mae darparu disgowntiau ac eithriadau rhag y Dreth Gyngor yn bwysig wrth helpu i roi cymorth ariannol i aelwydydd penodol, mynd i'r afael â thlodi mewn cymunedau a sicrhau bod y broses o gasglu treth yn fwy effeithlon. Mae'r rhan fwyaf o'r trefniadau hyn wedi bod ar waith ers creu'r Dreth Gyngor yn 1993, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac yn deg.
Ein nod, wrth adolygu'r disgowntiau, y diystyriadau a'r eithriadau yw gwella a moderneiddio'r system er mwyn gwneud y Dreth Gyngor yn decach. Gallai hyn gynnwys gwneud y system yn fwy hygyrch, annog pobl i hawlio pan fyddant yn gymwys i wneud hynny, dileu'r stigma a all fod yn gysylltiedig â rhai mathau o gymorth a thargedu cymorth yn fwy effeithiol.
Disgowntiau
Mae'r Dreth Gyngor yn cynnwys elfen eiddo ac elfen person. Mae'r Dreth Gyngor yn seiliedig ar y dybiaeth gyffredinol bod o leiaf ddau oedolyn atebol yn byw mewn eiddo ac y gallant gyfrannu at dalu bil y Dreth Gyngor. Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw yno, rhoddir disgownt o 25% ar y Dreth Gyngor i'r eiddo (y cyfeirir ato'n aml fel y disgownt person sengl). Os nad oes unrhyw breswylwyr atebol, rhoddir disgownt o 50% i'r eiddo.
Nid yw'r disgowntiau hyn bob amser yn golygu mai dim ond un oedolyn sydd yn yr aelwyd na bod yr eiddo'n wag, oherwydd ni chaiff rhai unigolion eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor (“personau a ddiystyrir”). Gall hyn wneud system y Dreth Gyngor yn gymhleth i drethdalwyr ei deall.
Gostyngiad band anabl
Caiff eiddo ei osod yn un o naw band Treth Gyngor: A, B, C, D, E, F, G, H neu I. Gall eiddo sydd wedi'i addasu i'w ddefnyddio gan breswylwyr anabl gael gostyngiad band Treth Gyngor, lle caiff y bil ei leihau yn ôl un band. Er enghraifft, codir tâl ar eiddo Band B sydd wedi'i addasu i breswylwyr anabl fel petai'n eiddo Band A. Rhaid i'r addasiadau i'r eiddo fodloni meini prawf penodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gostyngiad band.
Personau a ddiystyrir (rhywun nad yw'n cyfrif tuag at y Dreth Gyngor)
Wrth gyfrifo faint o bobl sy'n byw mewn eiddo at ddibenion y Dreth Gyngor, ni chaiff rhai pobl eu cyfrif (cânt eu diystyru). Mae enghreifftiau yn cynnwys pobl ag amhariad meddyliol difrifol, myfyrwyr a phobl ifanc sy'n gadael gofal. Os oes dau oedolyn mewn eiddo a bod un yn cael ei ddiystyru, bydd disgownt o 25% yn gymwys. Os caiff pob oedolyn ei ddiystyru, bydd disgownt o 50% yn gymwys.
Eithriadau
Caiff rhai mathau o eiddo eu heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor. Mae rhai eithriadau am gyfnod dros dro, fel 6 mis, ond gall eraill fod am gyfnod amhenodol. Mae enghreifftiau o eiddo a gaiff eu heithrio yn cynnwys y rhai hynny a feddiennir gan fyfyrwyr yn unig neu'r rhai hynny sydd wedi'u hailfeddiannu gan fenthyciwr morgais.
Premiymau
Gellir hefyd godi swm ychwanegol o'r Dreth Gyngor ar eiddo (‘premiwm’) os yw wedi bod yn wag ers dros flwyddyn neu os nad yw'n unig breswylfa nac yn brif breswylfa person (y cyfeirir ato'n aml fel ail gartref). Mae pob cyngor yn penderfynu a ddylid cymhwyso premiwm yn ei ardaloedd ac yn pennu ar ba lefel y dylid ei gymhwyso. Gan fod newidiadau wedi cael eu gwneud yn gymharol ddiweddar i'r meini prawf ar gyfer premiymau yn 2023, mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad nad oes angen unrhyw newidiadau pellach ar hyn o bryd.
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Eithriadau) 2026
Mae'r rheolau ar gyfer disgowntiau, diystyriadau ac eithriadau'r Dreth Gyngor yn dod o amrywiaeth o gyfreithiau, gan gynnwys Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Roedd yr adborth mewn ymateb i'n hymgynghoriad Cyngor Treth Decach: cam 1 yn 2022 o blaid rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru newid y rheolau hyn drwy bwerau deddfwriaethol newydd. Wedyn deddfodd y Senedd Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 er mwyn darparu'r pwerau hynny.
Rydym bellach yn bwriadu symleiddio a chydgrynhoi rhannau o'r ddeddfwriaeth i roi eglurder a hyblygrwydd ac i sicrhau bod modd deall rheolau'r Dreth Gyngor yn y dyfodol. Gan ddefnyddio pwerau o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, byddwn yn datblygu rheoliadau newydd wedi'u cydgrynhoi ar gyfer yr holl ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau. Bydd y rheoliadau hyn yn cyfuno'r rhan fwyaf o'r cyfreithiau presennol mewn un man gan wella tryloywder a hygyrchedd, a byddant yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Cwblhau'r adolygiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau adolygiad o bob categori o ddisgownt, person a ddiystyrir ac eithriad sy'n gysylltiedig â'r Dreth Gyngor er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn dal i fod yn berthnasol i'n huchelgeisiau polisi a helpu i greu system decach.
Nod adolygu'r amrywiaeth o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau oedd gwella a moderneiddio'r system er mwyn sicrhau ei bod yn cyfrannu at gyflawni ein nod o wneud y Dreth Gyngor yn decach. Mae hyn yn cynnwys gwneud y system yn fwy hygyrch i drethdalwyr, annog pobl i fanteisio ar y cymorth y maent yn gymwys i'w hawlio, dileu'r stigma a all fod yn gysylltiedig â rhai mathau o gymorth a thargedu cymorth yn fwy effeithiol.
Gan ystyried y safbwyntiau eang eu cwmpas a gyflwynwyd mewn ymateb i ymgyngoriadau blaenorol (yn 2022 a 2023), rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, sefydliadau lleol a rhwydweithiau sy'n cynrychioli pobl Cymru er mwyn ystyried ac adolygu pob categori. Yn ogystal ag amrywiaeth o drafodaethau, mae hyn wedi cynnwys gweithgor â ffocws penodol yn cynnwys ymarferwyr o gynghorau.
Mae Atodiad A yn crynhoi canlyniad yr adolygiad ar gyfer pob categori ac yn rhoi awgrym o'r amserlenni ar gyfer y newidiadau arfaethedig.
Y disgownt un oedolyn (25%)
Os mai dim ond un oedolyn atebol sy'n byw yn yr eiddo, caiff bil y Dreth Gyngor ei leihau 25%. Er y cyfeirir at y disgownt hwn fel ‘disgownt person sengl’ yn aml, mae'n gymwys nid yn unig pan fo un oedolyn yn byw mewn eiddo ond hefyd mewn llawer o achosion pan fydd mwy nag un oedolyn a bod pawb heblaw un yn cael eu ‘diystyru’ (heb eu cyfrif) at ddibenion y Dreth Gyngor. Golyga hyn, er enghraifft, fod aelwydydd un rhiant yn gymwys i gael y disgownt o 25%, ond hefyd fod llawer o aelwydydd yn gymwys lle mae dau oedolyn ac mae un ohonynt yn cael ei ddiystyru am ryw reswm (e.e., am ei fod yn weithiwr gofal, am fod ganddo amhariad meddyliol difrifol, neu am ei fod yn berson ifanc sydd wedi gadael gofal). Gall hyn fod yn eithaf cymhleth i'w ddeall, ac mae'n arwain at gamsyniadau ynglŷn â'r disgownt un oedolyn.
Yn 2025, amcangyfrifir bod dros 536,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, naill ai gan mai dim ond un oedolyn atebol sy'n byw yn yr aelwyd neu gan fod pob un ond un o'r oedolion yn cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Mae hyn yn cyfrif am gyfran fawr o'r cyfanswm o 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru sy'n atebol am dalu'r Dreth Gyngor, sy'n golygu mai dyma'r disgownt mwyaf ac un o'r rhai pwysicaf.
Rydym wedi nodi'n glir nad oes unrhyw fwriad i ddileu'r disgownt hwn fel rhan o'n hadolygiad. Ar hyn o bryd, mae'n darparu cymorth ariannol hanfodol i nifer mawr o aelwydydd, ac rydym o'r farn y gellir cyfiawnhau'r cysyniad o hyd mewn perthynas â'r gallu i dalu. Byddai dileu neu leihau'r disgownt yn rhoi mwy o bwysau ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, ac er bod nifer yr unigolion sy'n manteisio ar y mathau eraill hyn o gymorth yn amrywio, mae'r disgownt o 25% hefyd yn rhoi o leiaf rywfaint o gymorth cyffredinol wrth i aelwydydd symud i mewn ac allan o waith. Rydym yn cydnabod safbwyntiau rhai rhanddeiliaid bod y disgownt o bosibl yn annog achosion o dan-feddiannu cartrefi mwy, ond ar ôl pwyso a mesur, credwn ei fod yn rhy bwysig i'w ddileu ar hyn o bryd. Felly bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaethau yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Eithriadau) 2026 ar gyfer disgownt o:
- 25% ar gyfer eiddo ag un oedolyn atebol.
- 25% ar gyfer eiddo â mwy nag un oedolyn atebol, lle mae pob un ond un ohonynt wedi'i ddiystyru.
- 50% ar gyfer eiddo lle caiff pob oedolyn ei ddiystyru.
Disgownt eiddo gwag (50%)
Pan gyflwynwyd y Dreth Gyngor, roedd disgownt o 50% yn gymwys i'r rhan fwyaf o eiddo gwag. Fodd bynnag, yn 2004, deddfodd Llywodraeth Cymru i ganiatáu i gynghorau lleol ddileu neu leihau'r disgownt o 50% mewn achosion penodol. Mae pob cyngor lleol yng Nghymru wedi defnyddio'r pwerau hyn i roi'r gorau i gymhwyso disgownt o 50% i eiddo heb breswylwyr. Deddfodd Llywodraeth Cymru hefyd i atal achosion o ddileu'r disgownt o 50% mewn nifer bach o achosion.
O ganlyniad, erys nifer bach o fathau o eiddo heb breswylwyr sy'n parhau i gael disgownt o 50%. Maent yn cynnwys y canlynol:
- llain a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiannir gan gwch
- eiddo gwag lle mae'r cyn-feddiannydd wedi marw ac os mai'r person atebol yw ei gynrychiolydd personol, ac nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi
- eiddo a adawyd yn wag am fod person yn byw mewn eiddo gwahanol sy'n gysylltiedig â swydd a ddarparwyd iddo at ddibenion gwneud ei waith
Mae ymgynghoriad cam 2 yn nodi ein bwriad i ddileu'r disgownt statudol o 50% ar gyfer eiddo heb unrhyw breswylydd atebol o'r ddeddfwriaeth gan nad oes unrhyw gynghorau yng Nghymru yn ei gymhwyso mwyach, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a restrir uchod. Hefyd, nid yw disgownt ar gyfer eiddo gwag yn gydnaws mwyach â'n dull gweithredu mewn perthynas â phremiymau ar eiddo gwag hirdymor, a'n ffocws ar sicrhau bod y cartrefi hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n ymwneud ag Eithriad F lle mae'r cyn-feddiannydd wedi marw, ac nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto. Ni fyddwn yn ailddatgan y disgownt o 50% ond byddwn yn ehangu'r cyfnod eithrio ar ôl rhoi profiant (gweler Eithriad F).
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaethau yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Eithriadau) 2026 er mwyn rhoi disgownt o:
- 50% ar gyfer llain a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiannir gan gwch
- 50% ar gyfer eiddo a adawyd yn wag am fod person yn byw mewn eiddo gwahanol sy'n gysylltiedig â swydd a ddarparwyd iddo at ddibenion gwneud ei waith
Eithriad F: eiddo heb ei feddiannu pan nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto
Mae Eithriad F ar waith ar hyn o bryd ar gyfer eiddo nad yw wedi cael ei feddiannu ers marwolaeth ei gyn-breswylydd os mai'r unig berson sy'n atebol am dalu'r Dreth Gyngor fyddai cynrychiolydd personol yr ymadawedig, ac nad oes unrhyw brofiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi.
Ar hyn o bryd, mae'r eithriad yn gymwys am bob diwrnod y mae'r ysgutor neu'r gweinyddwr yn atebol ac mae'n parhau hyd at chwe mis ar ôl i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael ei roi neu eu rhoi. Yn ymarferol, cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu, nid oes unrhyw derfyn amser isaf ar barhad yr eithriad a gall hyn arwain at sefyllfa lle bydd eiddo wedi'i eithrio am gyfnodau hir. Canfu ein hadolygiad achosion lle roedd eiddo gwag wedi bod yn destun eithriad F am fwy nag 20 mlynedd, nad yw'n gydnaws mwyach â'n hymdrechion yn rhannau eraill o system y Dreth Gyngor i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Gofynnodd ymgynghoriad Cam 2 am farn ymatebwyr ynghylch p'un a ddylid rhoi terfyn amser ar Eithriad F a chyfnod rhesymol ar gyfer cael profiant neu lythyrau gweinyddu. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion o blaid y cynnig i gyflwyno terfyn amser, gan awgrymu y byddai dwy flynedd ar ôl marwolaeth y person ymadawedig yn gyfnod rhesymol ar gyfer rhoi profiant neu lythyrau gweinyddu cyn y dylid talu'r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, nododd sawl ymateb ysgrifenedig nad yw'r cyfnod eithrio o chwe mis rhag talu'r Dreth Gyngor ar ôl rhoi profiant yn rhoi digon o amser i gynrychiolwyr yr ymadawedig gwblhau'r broses o glirio a gwerthu'r eiddo.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Eithriadau) (Cymru) 2026 i ddiwygio Eithriad F er mwyn iddo fod yn gymwys ar gyfer hyd at ddwy flynedd o ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig neu hyd nes y caiff profiant neu lythyrau gweinyddu ei roi neu eu rhoi, pa un bynnag ddaw gyntaf. Bydd y rheoliadau hefyd yn darparu y bydd eithriad pellach o 12 mis rhag y Dreth Gyngor yn gymwys ar ôl rhoi profiant neu lythyrau gweinyddu, p'un a fydd hynny'n digwydd o fewn y cyfnod eithrio cychwynnol o ddwy flynedd neu'r tu allan iddo. Mae hyn yn disodli'r cyfnod presennol o chwe mis. Ni fydd unrhyw eithriad na disgownt ar gael wedi hynny, ac os caiff yr eiddo ei feddiannu o fewn y cyfnod o 12 mis ar ôl rhoi profiant, yna bydd y deiliad newydd yn talu'r Dreth Gyngor. Dylid nodi hefyd os caiff yr eiddo ei adael yn wag ar ôl y cyfnod o 12 mis ar ôl rhoi profiant, y gellir codi premiwm y Dreth Gyngor ar yr eiddo os bydd y cyngor wedi penderfynu codi premiymau ar eiddo gwag hirdymor.
Ni chaiff y cyfnod cyn i'r rheoliadau ddod i rym ei ystyried wrth bennu priodoldeb cymhwyso'r eithriad ac ystyrir mai'r dyddiad dod i rym fydd dyddiad marwolaeth yr ymadawedig. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n symlach i gynghorau lleol weithredu'r newid arfaethedig yn y rheolau, a hynny o ddyddiad dechrau cyson. Pan fydd yr eithriad yn gymwys i eiddo pan ddaw'r rheoliadau i rym, bydd y cyfrifiad ar gyfer yr eithriad ac unrhyw gyfnod pellach ar ôl rhoi profiant neu lythyrau gweinyddu yn dechrau ar y dyddiad dod i rym.
Eithriad U a Diystyriad: pobl ag amhariad meddyliol difrifol
Ar hyn o bryd, caiff eiddo ei eithrio rhag y Dreth Gyngor os mai dim ond person ag amhariad meddyliol difrifol sy'n ei feddiannu. Os yw'n byw gydag oedolyn arall nad yw wedi'i eithrio, caiff yr unigolyn hwnnw ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor sy'n golygu y bydd yr aelwyd yn cael disgownt o 25%. Os caiff dau neu fwy o oedolion eu diystyru, rhoddir disgownt o 50%.
Cynigiodd ymgynghoriad cam 2 y dylid newid y teitl i ‘amhariad ymenyddol arwyddocaol’ neu ‘gyflwr ymenyddol arwyddocaol’ a ddiffinnir fel ‘cyflwr neu newid meddyliol arwyddocaol (a pharhaol) sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu’. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ymatebwyr ar y meini prawf cymhwyso.
Roedd nifer sylweddol o ymatebion ysgrifenedig mewn perthynas â'r cynigion hyn gan rai rhanddeiliaid ag arbenigedd penodol yn y maes hwn, fel cynghorau lleol, ymarferwyr meddygol a chynrychiolwyr o'r trydydd sector, a wnaeth gynnig safbwyntiau ac awgrymiadau amgen i'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r sylwadau ac wedi ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ymarferwyr cynghorau lleol a phartneriaid o'r trydydd sector, sydd o'r farn bod y sylwadau yn ddigon pwysig i ailystyried y cynigion gwreiddiol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaethau yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Eithriadau) (Cymru) 2026 i ddisodli'r term ‘amhariad meddyliol difrifol’ ag ‘amhariad gwybyddol arwyddocaol’ a ddiffinnir fel ‘cyflwr meddyliol neu newid niwrolegol difrifol a pharhaol sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu ac sy'n cael effaith arwyddocaol ar fywyd beunyddiol unigolyn’. Penderfynwyd mai'r teitl hwn a'r diffiniad hwn oedd yn cyflawni'r cydbwysedd gorau o ystyried y gwahanol safbwyntiau ac maent yn cydymffurfio â'r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Ni fydd unrhyw newid i'r meini prawf cymhwyso ac eithrio i ddileu'r cyfeiriadau amherthnasol at fudd-daliadau penodol na chânt eu rhoi mwyach, ac i ddiweddaru cyfeiriadau at fudd-daliadau eraill sy'n rhan o'r meini prawf cymhwyso presennol.
Gostyngiad Band Anabl
Y sefyllfa bresennol
Mae gostyngiad yn gymwys i fand Treth Gyngor eiddo er mwyn cydnabod bod angen i rai pobl ag anableddau fyw mewn cartrefi wedi'u haddasu. Yn 2025-26, amcangyfrifir bod 14,015 o eiddo yng Nghymru yn cael gostyngiad band anabl. Caiff yr eiddo ei symud i lawr un band Treth Gyngor, er enghraifft, o Fand D i Fand C, neu o Fand B i Fand A, gan dalu Treth Gyngor is. Fodd bynnag, gan fod y gostyngiad yn gymwys i fand yr eiddo (yn hytrach na gostyngiad canrannol i'r bil), gall hyn fod yn anraddoledig am ei fod yn darparu gostyngiadau mwy ar gyfer eiddo sy'n werth mwy.
Wrth ystyried y ffordd y mae'r gostyngiad hwn yn gweithio, nodwyd gennym fod y broses asesu yn cymhlethu'r trefniadau gweinyddol, gan fod yn rhaid i'r preswylydd gael ystafell ychwanegol a ddynodwyd yn benodol ar gyfer anghenion y person anabl. Ceir achosion lle na ellir ystyried addasiadau, fel troi ystafell ymolchi yn ystafell wlyb, gan nad ydynt yn creu ystafell ychwanegol. Mewn eiddo hŷn, yn aml bydd angen lledu drysau fel rhan o addasiadau er mwyn rhoi digon o le i gadair olwyn. Fodd bynnag, fel arfer bydd gan adeiladau mwy newydd ddrysau lletach fel mater o drefn, gan ddileu'r angen am addasiadau o'r fath. Er ei bod hi'n bosibl gwneud addasiadau sylweddol mewn eiddo mwy o faint, mae llai o botensial ar gyfer newidiadau o'r fath mewn eiddo llai.
Yn dilyn y gwaith ymgysylltu a wnaed fel rhan o'r adolygiad, nid ydym wedi gwneud penderfyniad clir o ran a ddylid newid y Gostyngiad Band Anabl ar gyfer y Dreth Gyngor. Rydym wedi dod i'r casgliad fod heriau sylweddol yn gysylltiedig â'r broses asesu ar gyfer gostyngiadau, yn enwedig wrth sicrhau y caiff anghenion preswylwyr anabl eu diwallu'n ddigonol. Mae'n hanfodol ystyried y ffactorau hyn er mwyn creu system deg ac effeithiol sy'n diwallu anghenion pob preswylydd.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud unrhyw newid i'r gostyngiad band anabl ar hyn o bryd, ond hoffem gael gwybod eich barn a chasglu tystiolaeth bellach o ran sut y gellid gwella'r broses. Rydym yn croesawu eich barn ar y ffordd y caiff y meini prawf presennol eu gweithredu, a hefyd o ran a ddylai'r gostyngiad weithio mewn ffordd wahanol, er enghraifft, ar ffurf disgownt canrannol ar fil y Dreth Gyngor.
Gofalwyr a phrentisiaid
Y sefyllfa bresennol
Mae dau gategori o ofalwyr y gellir eu diystyru (peidio â'u cyfrif) at ddibenion talu'r Dreth Gyngor.
Gofalwyr o Elusen neu Gyngor Lleol
Mae hyn yn berthnasol i ofalwyr a gyflogir gan elusen neu gyngor lleol.
Rhaid iddynt weithio o leiaf 24 awr yr wythnos, heb ennill mwy na £44 yr wythnos, a rhaid iddynt fyw mewn annedd a ddarperir gan y sefydliad neu ar ran y sefydliad.
Ni chaiff y categori hwn ei ddeall cystal, ac mae tarddiad y termau ‘a gyflogir gan’ a lefel y tâl, sy'n isel yn yr oes sydd ohoni, yn anhysbys.
Prif Ofalwyr
Mae hyn yn berthnasol i ofalwyr sy'n darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos.
Rhaid bod gan y person sy'n cael gofal yr hawl i un o'r canlynol:
- Cyfradd uwch pensiwn anabledd
- Cyfradd ganol neu uwch elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
- Cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol
- Unrhyw gyfradd o'r Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Cyfradd uwch Lwfans Gweini Cyson
Nid oes angen i'r gofalwr hawlio Lwfans Gofalwr i fod yn gymwys ar gyfer y disgownt hwn, ac ni fydd ei incwm na'i gynilion yn effeithio ar gymhwysedd.
Os bydd mwy nag un gofalwr yn yr eiddo, gellir diystyru'r ddau ohonynt at ddibenion y Dreth Gyngor os byddant yn bodloni'r amodau.
Yr achos dros newid
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid yr amodau ar gyfer categori 2 Prif Ofalwyr.
Ar gyfer y categori cyntaf, Gofalwyr o Elusen neu Gyngor Lleol, nid yw'r uchafswm cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer gofalwyr a gyflogir gan elusen neu gyngor lleol wedi cael ei gynyddu ers 2007, pan gafodd y lefel ei huwchraddio o £36 i £44 yr wythnos yn unol â chwyddiant.
Ni nododd ein hadolygiad unrhyw dystiolaeth o ofalwyr a gyflogir gan elusen neu gyngor lleol sy'n bodloni'r meini prawf penodol hyn sy'n cael eu diystyru ar hyn o bryd at ddibenion y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, rydym am sicrhau ein bod wedi cadarnhau ein dealltwriaeth o hyn fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.
Cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid dileu'r categori cyntaf o ofalwyr ar y sail nad yw'r senario lle byddai unigolyn wedi'i gyflogi fel gofalwr yn gweithio am o leiaf 24 awr yr wythnos heb fod yn cael tâl o fwy na £44 yn bodoli mwyach.
Hoffem ofyn eich barn ar y cynnig i ddileu'r diystyriad ar gyfer gofalwyr o elusen neu gyngor lleol sy'n bodloni'r meini prawf penodol hyn. Hoffem glywed yn arbennig gan unrhyw elusennau sy'n cyflogi gofalwyr o dan yr amodau hyn ac sy'n cael eu diystyru ar hyn o bryd at ddibenion y Dreth Gyngor.
Prentisiaid
Y sefyllfa bresennol
Gellir diystyru (peidio â chyfrif) prentisiaid sy'n ennill llai na £195 yr wythnos wrth iddynt ymgymryd â rhaglen hyfforddiant sy'n arwain at gymhwyster at ddibenion y Dreth Gyngor. Caiff y meini prawf cymhwyso eu pennu gan Orchymyn Treth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992.
Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod 64 o brentisiaid yng Nghymru yn cael budd o'r diystyriad hwn, sy'n isel o gymharu â chyfanswm nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru.
Yr achos dros newid
Nid yw'r trothwy enillion i brentisiaid fod yn gymwys i gael diystyriad rhag y Dreth Gyngor wedi cael ei ddiweddaru ers 2007, pan gafodd ei gynyddu o £160 yr wythnos i £195 yr wythnos, yn unol â'r cynnydd chwyddiannol.
O fis Ebrill 2025, yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid yw £7.55 yr awr. O ganlyniad, bydd prentisiaid sy'n gweithio mwy na 25 awr yr wythnos yn mynd y tu hwnt i'r trothwy presennol ac ni fyddant yn gymwys i gael diystyriad rhag y Dreth Gyngor.
Cynnig
Er mwyn parhau i gefnogi prentisiaid, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid addasu'r trothwy enillion ar gyfer diystyriad rhag y Dreth Gyngor.
Cynigir y caiff prentisiaid rhwng 16 a 18 oed, a'r rhai hynny sy'n 19 oed neu drosodd yn ystod eu blwyddyn gyntaf, sy'n ennill yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid, eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Bydd yr addasiad hwn yn sicrhau y caiff unrhyw gynnydd yn y dyfodol i'r gyfradd i brentisiaid ei gymhwyso'n awtomatig heb fod angen unrhyw newidiadau deddfwriaethol pellach.
Eithriadau A, C, E a H
Eithriad A: eiddo anghyfaneddol sy'n destun newidiadau strwythurol
Y sefyllfa bresennol
Gall eiddo y mae angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol/strwythurol neu sy'n destun gwaith o'r fath neu sy'n destun gwaith addasu strwythurol gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod o hyd at flwyddyn. Rhaid i'r eiddo hefyd barhau'n wag ac i raddau helaeth, heb ddodrefn, yn ystod y cyfnod hwn. Yn 2025 i 2026, amcangyfrifir bod 3,598 o eiddo yng Nghymru yn cael yr eithriad hwn.
Mae'r eithriad yn berthnasol i'r eiddo a dim ond unwaith y gellir ei gymhwyso, sy'n golygu na fydd perchennog newydd eiddo y mae angen gwaith sylweddol arno o hyd yn gymwys os cafodd yr eithriad o 12 mis ei gymhwyso eisoes at y perchennog blaenorol.
Yr achos dros newid
Tynnwyd sylw at y posibilrwydd y gallai'r ffaith mai dim ond unwaith y gellir cymhwyso'r eithriad at yr eiddo, heb ystyried newidiadau o ran perchnogaeth, atal ymdrechion i sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Bu achosion lle cafodd eiddo anghyfaneddol ei brynu gan unigolion â'r bwriad o'i adnewyddu er mwyn gallu ei feddiannu'n barhaol. Fodd bynnag, maent yn aml yn wynebu'r her o dalu Treth Gyngor lawn, ac mewn sawl achos, premiwm, unwaith y daw'r cyfnod eithrio i ben ac y caiff yr eiddo ei ystyried yn eiddo gwag hirdymor.
Cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio Eithriad A er mwyn iddo fod yn gymwys ar gyfer cyfnod newydd o 12 mis pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo. Rydym yn cynnig y dylid gallu dangos tystiolaeth bod yr eiddo wedi'i werthu drwy fanylion cofrestru â Chofrestrfa Tir y DU. Rydym am annog perchenogion newydd eiddo i fuddsoddi er mwyn adnewyddu'r eiddo a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn ar y cynnig i newid Eithriad A.
Eithriad C: eiddo gwag a heb ddodrefn am hyd at chwe mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag
Yn yr un modd ag Eithriad A, mae categori Eithriad C yn berthnasol i'r eiddo sy'n golygu na fydd perchennog newydd eiddo yn gymwys os oedd y perchennog blaenorol eisoes wedi cael yr eithriad o chwe mis. Yn 2025 i 2026, amcangyfrifir bod 14,640 o eiddo yng Nghymru yn cael yr eithriad hwn.
Cynnig
Er mwyn bod yn gyson â'r cynnig ar gyfer Eithriad A, rydym yn cynnig y dylid cymhwyso'r un meini prawf ar gyfer Eithriad C er mwyn iddo fod yn gymwys ar gyfer cyfnod newydd o chwe mis pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo, er mwyn rhoi amser i berchenogion newydd feddiannu'r eiddo. Rydym yn cynnig y dylid gallu dangos tystiolaeth bod yr eiddo wedi'i werthu drwy fanylion cofrestru â Chofrestrfa Tir y DU. Rydym am ofyn eich barn ar y cynigion i newid Eithriad C.
Eithriad E: eiddo gwag lle mae person yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal
Y sefyllfa bresennol
Caiff eiddo gwag ei eithrio rhag y Dreth Gyngor pan fydd cartref parhaol y person a fyddai'n meddiannu'r eiddo fel arall mewn ysbyty neu gartref gofal preswyl. Gall yr eiddo gwag fod wedi'i ddodrefnu neu fod heb ddodrefn. Yn 2025 i 2026, amcangyfrifir bod 3,294 o eiddo yng Nghymru yn cael yr eithriad hwn.
Yr achos dros newid
Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid yr eithriad i unigolion sy'n gadael eu heiddo'n wag er mwyn symud i gartref gofal preswyl fel eu cartref parhaol. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb yn y dystiolaeth sy'n gysylltiedig â chyfnodau yn yr ysbyty, oherwydd pan fydd claf yn yr ysbyty, y nod yw sicrhau na fydd yn aros yno am fwy na'r cyfnod gwella angenrheidiol.
Mae cleifion sy'n cael eu trin mewn ysbytai yn parhau'n atebol am filiau a threuliau cartref eraill yn ystod y cyfnod hwn, fel taliadau rhent neu forgais, a chyfleustodau. Hoffem gael gwybod eich barn o ran a ddylent barhau i fod yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor.
Cynnig
Er mwyn cefnogi'r uchelgais i sicrhau na fydd cleifion yn aros yn yr ysbyty am fwy na'r cyfnod angenrheidiol, rydym yn cynnig na ddylid ystyried ysbyty fel cartref parhaol person at ddibenion y Dreth Gyngor. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid diwygio Eithriad E i ddileu cyfnodau yn yr ysbyty fel cartref parhaol person.
Eithriad H: eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol
Y sefyllfa bresennol
Caiff eithriad Dosbarth H rhag y Dreth Gyngor ei ddarparu ar hyn o bryd ar gyfer eiddo sy'n wag ond sy'n cael ei ddal at ddefnydd gweinidog o unrhyw enwad crefyddol fel preswylfa yn y dyfodol lle gall gyflawni ei ddyletswyddau crefyddol. Ar hyn o bryd, nid oes isafswm cyfnod ar gyfer yr eithriad. O ganlyniad, gall rhai eiddo aros yn wag ac wedi'u heithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnodau hir iawn.
Yr achos dros newid
Wrth adolygu'r eithriad hwn, nodwyd gennym yn 2025 i 2026 yr amcangyfrifir bod 148 o eiddo wedi'u gadael yn wag ac wedi'u heithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol. Er bod y nifer hwn yn gymharol isel, nid yw eiddo sy'n cael ei adael yn wag am gyfnodau hir o amser yn cael ei ddefnyddio fel cartref sydd ei angen yn ddirfawr ar deulu, neu nid oes unrhyw gymhelliant i addasu'r eiddo at ddefnydd gwahanol fel menter fasnachol neu gymunedol. Gall rhai ddirywio, gallant achosi risgiau i ddiogelwch y gymuned a diogelwch personol, a gallant ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol megis fandaliaeth, llosgi bwriadol neu sgwatio, a all hefyd leihau gwerth cartrefi cymdogion. O ystyried yr argyfwng tai yng Nghymru, ac yn arbennig yr angen am dai fforddiadwy, rydym o'r farn y dylem ddefnyddio'r holl opsiynau polisi sydd ar gael i annog perchenogion i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, naill ai drwy ei werthu neu ar gyfer y farchnad rentu. Gellid cynnig eiddo o'r fath fel cartref i aelodau o'r gymuned neu ei gyflwyno at ddibenion gwahanol at ddefnydd masnachol neu fentrau cymunedol. Dewis amgen yw ei gwneud yn ofynnol i'r perchenogion dalu treth gyngor ar yr eiddo gwag ac, o bosibl, bremiwm, gan gyfrannu at gost gwasanaethau lleol yn yr ardal.
Cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cyflwyno terfyn amser newydd ar yr eithriad rhag y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo heb ei feddiannu a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol. Cynigir, unwaith y bydd y terfyn amser uchaf wedi mynd heibio, y byddai atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor ar yr eiddo. Nod cyflwyno terfyn amser yw helpu i atal eiddo rhag cael ei adael yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol. Byddem yn cynnig y dylid gwneud y newid hwn o 1 Ebrill 2026. Rydym am ofyn eich barn ar y cynnig i newid Eithriad H.
Cynigion ar gyfer categorïau newydd
Llety lloches i oroeswyr cam-drin domestig
Mae llochesi yn cynnig noddfa ddiogel mewn argyfwng i unigolion sy'n dianc o amgylcheddau lle cânt eu cam-drin. Gall achosion o gam-drin domestig fod ar ffurf gorfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol, ac mae goroeswyr yn aml yn wynebu perygl yn y fan a'r lle. Mae llochesi yn cynnig man diogel lle gall goroeswyr ddod o hyd i ddiogelwch ac amddiffyniad rhag y sawl sy'n eu cam-drin. Mae llochesi yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau hanfodol er mwyn helpu goroeswyr i ailadeiladu eu bywyd, gwella ar ôl trawma a meithrin annibyniaeth.
Y sefyllfa bresennol
Fel arfer, mae llety i oroeswyr cam-drin domestig sy'n ceisio lloches yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor, dylid ei ystyried fel eiddo domestig at ddibenion trethu a phrisio lleol ac mae'n rhan o system y Dreth Gyngor. Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n sicrhau mai darparwyr llety lloches cymunedol sy'n gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor, nid deiliaid y llety.
Dros y blynyddoedd, mae gwasanaethau lloches wedi dargyfeirio i ddefnyddio amrywiaeth ehangach o fathau o eiddo. Yn ogystal â'r math o lety cymunedol traddodiadol, mae rhai darparwyr gwasanaethau bellach yn cynnig fflatiau hunangynhwysol neu fathau o eiddo y cyfeirir ato fel 'llety gwasgaru'. Defnyddir yr opsiwn hwn pan na fydd cyfleusterau a rennir yn addas, er enghraifft i fenywod â phlant gwrywaidd sy'n oedolion, teuluoedd ag anghenion cymhleth neu ofynion penodol o ran lleoliad, a dynion sy'n oroeswyr cam-drin. Mewn achosion o'r fath, daw'r deiliaid yn atebol am dalu'r Dreth Gyngor gan nad yw'r fframwaith cyfreithiol wedi cael ei ddiweddaru'n unol â'r newidiadau yn y gwasanaethau a ddarperir.
Ar hyn o bryd, mae 127 o lochesi ledled Cymru, wedi'u lleoli mewn amrywiaeth o fathau o eiddo.
Yr achos dros newid
Mae llety lloches dros dro yn darparu gwasanaeth hanfodol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ar adeg arbennig o anodd yn eu bywyd. Mae'r rhan fwyaf o lochesi yn dibynnu ar gyllid gan y sector cyhoeddus i allu gweithredu a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny mewn amgylcheddau heriol. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi anelu at wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi gwasanaethau lloches yng Nghymru. Gall fod yn heriol darparu digon o gyllid i dalu costau gweithredu llochesi, gan gynnwys cyfleustodau, gwaith cynnal a chadw a chyflogau staff ar gyfer gwasanaethau lle nad yw llawer o'r darparwyr yn gweithredu er elw. Mae llawer o oroeswyr cam-drin domestig ar incwm isel neu'n dioddef cam-drin economaidd, sy'n golygu bod eu sefyllfa ariannol yn ansefydlog ac na allant gyfrannu at gost eu llety. Gall yr ansefydlogrwydd ariannol hwn roi mwy o straen ar adnoddau llochesi.
Ers cyflwyno llety gwasgaru yn y sector, cafwyd anghysondeb yn y ffordd y caiff goroeswyr cam-drin domestig eu trin wrth geisio lloches o dan system y Dreth Gyngor. Mae llawer o oroeswyr cam-drin domestig yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Gallai cost bosibl y Dreth Gyngor ar lety dros dro atal goroeswyr trais domestig sydd am adael eu sefyllfa bresennol rhag gwneud hynny.
Cynnig
Er mwyn sicrhau bod goroeswyr cam-drin domestig yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyson, rydym o'r farn ei bod hi'n bwysig gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gwasanaethau lloches yng Nghymru. Byddai eithrio llochesi gwasgaru a llochesi cymunedol rhag y Dreth Gyngor yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau hanfodol hyn yn y dyfodol ac i leihau'r baich ariannol ar oroeswyr. Byddai'r newid hwn hefyd yn helpu i greu system decach, gan alluogi goroeswyr i geisio lloches heb y straen ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ansefydlogrwydd ariannol. Yn ogystal, byddai'r cynnig hwn yn galluogi gwasanaethau lloches i ddyrannu mwy o adnoddau tuag at gefnogi goroeswyr ac ehangu eu gwasanaethau, gan feithrin amgylchedd mwy diogel a mwy chefnogol i'r rhai hynny mewn angen.
Er mwyn sicrhau bod system y Dreth Gyngor yn parhau'n sefydlog ac yn effeithiol, cynigir mai dim ond eiddo sy'n gweithredu fel lloches i ddarparu llety dros dro mewn argyfwng a gomisiynwyd gan gyngor lleol yng Nghymru fydd yn gymwys i gael eu heithrio rhag y Dreth Gyngor. Gallai hyn gynnwys llety hunangynhwysol, llety gwasgaru neu lety cymunedol, ond mae'n sicrhau y gellir diffinio'r eithriad rhag y Dreth Gyngor yn hawdd yn gyfreithiol ac y gall cynghorau lleol ei gymhwyso'n hawdd. Rydym yn cynnig y byddai'r eithriad newydd rhag y Dreth Gyngor yn dechrau o 1 Ebrill 2026.
Cwestiynau ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Nodwch a ydych yn ymateb fel aelod o'r cyhoedd neu ar ran sefydliad.
Dewiswch un opsiwn.
- Aelod o'r cyhoedd
- Cyngor lleol
- Asiantaeth o'r sector cynghori
- Elusen
- Corff proffesiynol neu gynrychioliadol
- Sefydliad arbenigol academaidd
- Arall
Cwestiwn 2
I'n helpu i ddeall eich barn, dywedwch wrthym a yw eich aelwyd yn cael disgownt, eithriad neu ostyngiad o unrhyw fath ar y Dreth Gyngor ar hyn o bryd?
Dewiswch un opsiwn.
- Nac ydw, nid wyf yn cael unrhyw ddisgowntiau, eithriadau na gostyngiadau
- Ydw, rwy'n cael disgownt, eithriad neu ostyngiad
- Ddim yn gwybod / ddim yn berthnasol
- Gwell gennyf beidio â dweud
Cwestiwn 3
Mae gostyngiad yn gymwys i fand Treth Gyngor eiddo er mwyn cydnabod bod angen i rai pobl ag anableddau fyw mewn cartrefi wedi'u haddasu. A oes gennych unrhyw farn o ran sut y gellir gwella'r Gostyngiad Band Anabl i eiddo wedi'i addasu?
Cwestiwn 4
Mae dau gategori o ofalwyr y gellir eu diystyru (peidio â'u cyfrif) at ddibenion talu'r Dreth Gyngor. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i ddiweddaru'r diystyriad i ofalwyr a dileu'r darpariaethau nad ydynt yn bellach yn berthnasol?
Cwestiwn 5
Rydym o'r farn nad yw categori gofalwr presennol yn gymwys mwyach i unrhyw un yng Nghymru ac nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw gofnodion sy'n dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio. Ydych chi'n gwybod am unrhyw bobl, neu ydych chi'n berson, sydd: yn ofalwr a gyflogir gan elusen neu gyngor lleol sy'n gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, heb ennill mwy na £44 yr wythnos, ac yn byw mewn annedd a ddarperir gan y sefydliad neu ar ran y sefydliad?
Cwestiwn 6
Ydych chi'n elusen neu'n gyngor lleol sy'n cyflogi gofalwyr sy'n gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, ond nad ydynt yn ennill mwy na £44 yr wythnos, ac yn darparu annedd y mae'n ofynnol i'r gofalwr fyw ynddo?
Cwestiwn 7
Caiff prentisiaid eu diystyru (ni chânt eu cyfrif) wrth gyfrifo'r Dreth Gyngor ar gyfer aelwyd, ond mae angen diweddaru'r meini prawf cymhwyso. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i addasu'r trothwy enillion ar gyfer prentisiaid yn unol â'r isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid?
Cwestiwn 8
Eithriad A, gall eiddo y mae angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol/strwythurol neu sy'n destun gwaith o'r fath, neu sy'n destun gwaith addasu strwythurol, gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod o hyd at flwyddyn, ond dim ond unwaith y gellir cymhwyso'r eithriad hwn. Ydych chi'n cytuno y dylid diwygio Eithriad A i ddarparu eithriad 12 mis pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo?
Cwestiwn 9
Eithriad C, gall eiddo sy'n wag a heb ddodrefn gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor am hyd at chwe mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag, ond dim ond unwaith y gellir cymhwyso'r eithriad hwn. Ydych chi'n cytuno y dylid diwygio Eithriad C i ddarparu eithriad chwe mis newydd pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo?
Cwestiwn 10
Ydych chi o'r farn bod cofrestriad â Chofrestrfa Tir EF yn cynnig tystiolaeth ddigonol fod eiddo wedi'i werthu ar gyfer Eithriad A ac Eithriad C? A oes unrhyw dystiolaeth arall y dylid ei darparu?
Cwestiwn 11
Caiff eiddo gwag ei eithrio rhag y Dreth Gyngor pan fydd cartref parhaol y person a fyddai'n meddiannu'r eiddo fel arall mewn ysbyty neu gartref gofal preswyl. Ydych chi'n cytuno na ddylid ystyried ysbyty fel cartref hirdymor neu barhaol i rywun?
Cwestiwn 12
A oes unrhyw amgylchiadau lle y gellid ystyried ysbyty fel cartref hirdymor neu barhaol i rywun?
Cwestiwn 13
Mae Eithriad H yn eithriad rhag y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol lle byddant yn cyflawni eu dyletswyddau crefyddol. Ydych chi'n cytuno y dylai fod terfyn amser newydd ar Eithriad H i annog y rhai sy'n gyfrifol i beidio â gadael eiddo yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol?
Cwestiwn 14
Yn eich barn chi, am ba gyfnod rhesymol y gellid gadael eiddo a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol yn wag cyn iddo ddod yn atebol am dalu'r Dreth Gyngor?
Dewiswch un opsiwn
- 1 flwyddyn
- 2 flynedd
- 3 blynedd
- Arall
Cwestiwn 15
A oes amgylchiadau lle na fyddai eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol yn gallu bod yn gartref addas?
Cwestiwn 16
Mae llochesi yn cynnig llety dros dro mewn argyfwng i oroeswyr cam-drin domestig. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i eithrio llochesi yng Nghymru rhag talu'r Dreth Gyngor?
Cwestiwn 17
Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
Cwestiwn 18
Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
Y camau nesaf
Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos hyd at 15 Awst 2025. Mae ymatebion i ymgyngoriadau yn helpu Llywodraeth Cymru i egluro cynigion polisi ac i lywio diwygiadau i'r fframwaith cyfreithiol.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 15 Awst 2025, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost: CTaNDR.ymgyngoriadau@llyw.cymru
lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i phostio i:
Polisi'r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld.
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae'n debyg y bydd ymatebion i gynhelir yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i'ch ymateb aros yn ddienw, plis dywedwch wrthym.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif WG: WG52240
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
Atodiad A: Crynodeb o'r newidiadau a gynigir
Disgowntiau Statudol
- Disgownt un oedolyn atebol (y cyfeirir ato fel disgownt ‘person sengl’). Cadw: cadwyd y disgownt statudol yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Caiff ei ailddatgan ar 25% yn y rheoliadau.
- Disgownt dim oedolyn atebol (y cyfeirir ato fel disgownt ‘eiddo gwag’). Dileu: dilëwyd y disgownt statudol ar gyfer eiddo gwag yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Caiff eithriadau eu hailddatgan ar 50% yn y rheoliadau. Caiff y disgownt dim oedolyn atebol ei ailddatgan ar 50% yn y rheoliadau.
- Gostyngiad Band Anabl. Ni chynigir unrhyw newid. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn ar welliannau.
Personau a ddiystyrir
- Myfyrwyr. Ni chynigir unrhyw newid.
- Pobl ifanc dan hyfforddiant. Dileu.
- Prentisiaid. Cynigir diwygiad.
- Pobl ifanc o dan 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol/coleg. Ni chynigir unrhyw newid.
- Gwŷr neu wragedd, partneriaid sifil a dibynyddion myfyrwyr nad ydynt yn Ddinasyddion Prydeinig na chaniateir iddynt weithio na hawlio budd-daliadau. Ni chynigir unrhyw newid.
- Unigolion 24 oed neu'n iau sy'n gadael gofal. Ni chynigir unrhyw newid.
- Pobl ag amhariad meddyliol difrifol. Diwygio: ymgynghorwyd ar gynigion yn 2023.
- Gofalwyr. Cynigir diwygiad.
- Cleifion mewn cartrefi gofal neu hosteli sy'n darparu gofal. Ni chynigir unrhyw newid.
- Plant: 17 oed neu'n iau, neu rywun sy'n dal i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant. Ni chynigir unrhyw newid.
- Cleifion hirdymor mewn ysbyty. Cynigir diwygiad.
- Unigolion sy'n byw mewn hosteli a llochesi nos. Ni chynigir unrhyw newid.
- Carcharorion, pobl yn y ddalfa o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl a phobl yn y ddalfa sy'n aros i gael eu hallgludo. Ni chynigir unrhyw newid.
- Pobl mewn Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn. Ni chynigir unrhyw newid.
- Aelodau cymunedau crefyddol sy'n dibynnu ar y gymuned i ddiwallu eu hanghenion materol. Ni chynigir unrhyw newid.
- Aelodau lluoedd arfog sy'n ymweld a'u dibynyddion. Ni chynigir unrhyw newid.
- Diplomyddion. Ni chynigir unrhyw newid.
Eithriadau
- A: Eiddo anghyfaneddol ac eiddo gwag sy'n destun gwaith addasu strwythurol neu waith atgyweirio. Cynigir diwygiad.
- B: Eiddo heb ei feddiannu sy'n perthyn i elusen. Ni chynigir unrhyw newid.
- C: Eiddo gwag a heb ddodrefn am hyd at chwe mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag. Cynigir diwygiad.
- D: Eiddo heb ei feddiannu am fod yr unigolyn a fyddai fel arall yn ei feddiannu dan gadwad o dan ddeddfiadau penodol. Ni chynigir unrhyw newid.
- E: Eiddo heb ei feddiannu am fod yr unigolyn a fyddai fel arall yn ei feddiannu yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal. Cynigir diwygiad.
- F: Eiddo heb ei feddiannu pan nad yw profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u rhoi eto, ac am hyd at chwe mis ar ôl i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael ei roi/eu rhoi. Diwygio: ymgynghorwyd ar gynigion yn 2023.
- G: Eiddo heb ei feddiannu y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith. Ni chynigir unrhyw newid.
- H: Eiddo heb ei feddiannu a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl lle maent yn cyflawni eu dyletswyddau. Cynigir diwygiad.
- I: Eiddo heb ei feddiannu am fod unig breswylfa neu brif breswylfa'r unigolyn atebol rywle arall er mwyn iddo gael gofal. Ni chynigir unrhyw newid.
- J: Eiddo heb ei feddiannu am fod unig breswylfa neu brif breswylfa'r unigolyn atebol rywle arall er mwyn iddo ddarparu gofal. Ni chynigir unrhyw newid.
- K: Eiddo heb ei feddiannu pan fo'r unigolyn atebol yn fyfyriwr ac mae wedi bod yn fyfyriwr ers y tro diwethaf iddo feddiannu'r eiddo. Ni chynigir unrhyw newid.
- L: Eiddo heb ei feddiannu sydd wedi'i ailfeddu. Ni chynigir unrhyw newid.
- M: Neuadd breswyl a ddarperir yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr. Ni chynigir unrhyw newid.
- N: Eiddo a feddiennir gan fyfyrwyr, gwŷr neu wragedd tramor myfyrwyr neu unigolion sy'n gadael yr ysgol neu goleg yn unig. Ni chynigir unrhyw newid.
- O: Llety'r lluoedd arfog. Ni chynigir unrhyw newid.
- P: Llety lluoedd arfog sy'n ymweld. Ni chynigir unrhyw newid.
- Q: Eiddo heb ei feddiannu a adawyd yn wag gan fethdalwr. Ni chynigir unrhyw newid.
- R: Llain carafán neu angorfa cwch nas defnyddir. Ni chynigir unrhyw newid.
- S: Eiddo a feddiennir gan bobl o dan 18 oed yn unig. Ni chynigir unrhyw newid.
- T: Eiddo heb ei feddiannu sy'n rhan o un eiddo sy'n cynnwys eiddo arall ac na ellir ei osod ar wahân i'r eiddo aralll heb dorri rheolau cynllunio. Ni chynigir unrhyw newid.
- U: Eiddo a feddiennir gan bobl ag amhariad meddyliol difrifol yn unig. Diwygio: ymgynghorwyd ar gynigion yn 2023.
- V: Eiddo lle mae o leiaf un unigolyn a fyddai fel arall yn atebol yn ddiplomydd. Ni chynigir unrhyw newid.
- W: Eiddo sy'n rhan o eiddo unigol, gan gynnwys o leiaf un eiddo arall, ac sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa i berthynas dibynnol unigolyn sy'n byw yn yr eiddo arall (e.e. anecs) . Ni chynigir unrhyw newid.
- X: Eiddo a feddiennir gan unigolyn neu unigolion sy'n gadael gofal o dan 25 oed yn unig. Ni chynigir unrhyw newid.
Premiymau
- Eiddo gwag hirdymor. Ni chynigir unrhyw newid.
- Eiddo a feddiennir o bryd i'w gilydd (ail gartrefi). Ni chynigir unrhyw newid.
Eithriadau rhag talu premiymau
- Eiddo sy'n cael ei farchnata i'w werthu (am gyfnod penodedig o flwyddyn). Ni chynigir unrhyw newid.
- Eiddo sy'n cael ei farchnata i'w osod (am gyfnod penodedig o flwyddyn). Ni chynigir unrhyw newid.
- Anecs sy'n cael ei drin fel rhan o'r prif eiddo. Ni chynigir unrhyw newid.
- Preswylydd yn llety'r lluoedd arfog rywle arall. Ni chynigir unrhyw newid.
- Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiennir. Ni chynigir unrhyw newid.
- Cartrefi tymhorol lle y gwaherddir byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn, llety gwyliau neu eiddo sy'n cael ei atal rhag bod yn unig breswylfa neu'n brif breswylfa person. Ni chynigir unrhyw newid.
- Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi. Ni chynigir unrhyw newid.