Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Daeth y peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru i rym o 1 Gorffennaf 2022 (gweler cefndir a chyd-destun). Mae'r data hyn yn diweddaru’r datganiad a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2024, ac mae'n adlewyrchu data sydd gennym ynghylch y derbynyddion pan ddaeth y cynllun peilot i ben yn ffurfiol ar 30 Mehefin 2025, yn ogystal â'r rhai a dynnodd yn ôl o'r peilot yn gynnar.

Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 644 o bobl wedi derbyn incwm sylfaenol fel rhan o'r peilot hwn. Ar 30 Mehefin 2025, roedd saith derbynnydd yn parhau i gael taliadau. Roedd hyn gan fod rhai unigolion wedi ymuno â’r cynllun peilot yn hwyrach na’r disgwyl, felly byddant yn hefyd yn gadael yn hwyrach er mwyn sicrhau tegwch.
  • ‌Roedd wyth o bobl ifanc wedi dewis tynnu'n ôl neu wedi cael eu tynnu'n ôl o'r peilot. ‌Mae eu gwybodaeth ddemograffig yn cael ei chadw yn y set ddata gyfun hon gan eu bod wedi derbyn o leiaf un taliad incwm sylfaenol.
  • Cadarnhaodd un ar ddeg o bobl ifanc gymwys eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan yn y cynllun peilot, gan gwblhau'r ffurflenni i nodi nad ydynt am gymryd rhan. Rydym yn ymwybodol o eraill a gadarnhaodd ar lafar wrth awdurdodau lleol nad oeddent am gymryd rhan, ond heb gyflwyno ffurflenni yn nodi nad ydynt am gymryd rhan (naw arall). Nid oes unrhyw ddata pellach wedi ei gofnodi ar gyfer pobl nad ydynt yn cymryd rhan.
  • Gan ystyried y wybodaeth uchod, y gyfradd fanteisio ar gyfer y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru oedd 97%.
  • Roedd 365 o’r derbynyddion gweithredol (57%) yn cael eu taliad yn fisol, a’r 273 (43%) oedd yn weddill wedi dewis cael taliadau ddwywaith y mis.
  • Roedd 135 o’r derbynyddion gweithredol (21%) wedi dewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid.

Gwybodaeth ddemograffig

  • Wrth gofrestru, fe wnaeth 340 o'r derbynyddion (53%) nodi eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig. Nodir hunaniaeth genedlaethol unigolion eraill yn y tabl isod.
Derbynyddion cymorth cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru, yn ôl hunaniaeth genedlaethol
Hunaniaeth genedlaethol [Nodyn 1]Nifer sy'n derbyn cymorthCanran sy'n derbyn cymorth
Cymreig (gan gwmpasu hunaniaeth Gymreig a hunaniaeth arall)34053%
Prydeinig (gan gwmpasu hunaniaeth Brydeinig a hunaniaeth arall)12720%
Seisnig (gan gwmpasu hunaniaeth Seisnig a hunaniaeth arall)6610%
Y Dwyrain Canol325%
Affricanaidd193%
Asiaidd173%
Ewropeaidd142%
Amhenodol/Dim ymateb/Hunaniaeth arall295%

[Nodyn 1] Mae'r hunaniaethau cenedlaethol a ddefnyddir uchod wedi'u grwpio gan addasu categorïau Cyfrifiad 2021 (Gwasanaeth Data'r DU).

Wrth gofrestru:

  • fe wnaeth 508 o’r derbynyddion (79%) nodi eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’, dywedodd 24 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig cymysg, dywedodd 26 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig Asiaidd, dywedodd 17 ohonynt (3%) eu bod o grŵp ethnig Ddu, dywedodd 48 ohonynt (7%) eu bod o grŵp Ethnig Lleiafrifol arall, ac ni chafwyd ymateb gan 21 ohonynt (3%)
  • roedd ychydig dros hanner y derbynyddion (331; 51%) yn ddynion, 281 (44%) yn fenywod, ac ni chafwyd ymateb gan 32 (5%)
  • dywedodd 582 (90%) o’r derbynyddion fod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, nododd 18 (3%) nad oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, ac fe wnaeth 44 (7%) naill ai beidio ag ateb neu nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud
  • fe wnaeth 449 (70%) o’r derbynyddion nodi eu bod yn ‘heterorywiol neu syth’, nododd 26 (4%) eu bod yn ‘ddeurywiol’, a nododd 16 (2%) eu bod yn ‘hoyw neu lesbiaidd’. Fe wnaeth yr 153 (24%) sy’n weddill naill ai beidio ag ateb, dweud nad oeddent yn gwybod neu nodi cyfeiriadedd rhywiol arall
  • dywedodd 415 (64%) o’r derbynyddion nad oes ganddynt gred grefyddol. O’r 229 (36%) arall, roedd 52 (8%) yn Gristnogion (pob enwad) ac roedd 55 (9%) yn Fwslimiaid. Roedd 122 (19%) naill ai yn perthyn i grefyddau eraill neu heb roi ateb, yn nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud neu'n nodi nad oeddent yn gwybod

Pobl anabl

  • Wrth gofrestru, darparwyd y diffiniad o'r model cymdeithasol o anabledd i bawb sy'n derbyn cymorth, ynghyd â'r diffiniad a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Yn dilyn hyn, datganodd 89 o'r derbynyddion (14%) eu bod yn bobl anabl yn ôl y naill ddiffiniad neu'r llall, nid oedd 526 (82%) yn ystyried eu hunain yn anabl ac ni ymatebodd 29 (5%).

Statws iechyd a hunangofnodwyd

Wrth gofrestru:

  • nododd 146 (23%) o’r derbynyddion bod ganddynt gyflwr hirdymor y mae disgwyl iddo bara am 12 mis neu fwy, nododd 443 (69%) nad oes ganddynt gyflwr o’r fath, ac roedd 55 (9%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb
  • nododd 541 (84%) o’r derbynyddion bod eu hiechyd naill ai’n ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’, nododd 71 (11%) bod eu hiechyd yn ‘weddol’, nododd 8 (1%) bod eu hiechyd yn ‘wael’ neu'n 'wael iawn', ac roedd 24 (4%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb

Lle byw

  • Wrth gofrestru, roedd 146 o'r derbynyddion (23%) yn byw mewn tai â chymorth, ac roedd o leiaf 93 (14%) o unigolion yn byw mewn lleoliad "Pan fyddaf yn barod".
  • Yn ôl yr wybodaeth a oedd ar gael ar 30 Mehefin 2025, roedd 9 (1%) o’r derbynyddion yn ddigartref neu heb gartref sefydlog.
  • Roedd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn caniatáu i'r rhai oedd yn byw y tu allan i Gymru gymryd rhan cyhyd â'u bod yn parhau i fod yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd yr holl dderbynyddion yn preswylio yn y Deyrnas Unedig wrth gofrestru, ac roedd gan bob un ohonynt gyfrif banc yn y DU i gael eu hincwm sylfaenol drwy gydol y cynllun peilot.
  • O ran gwlad breswyl bresennol, yn ôl yr wybodaeth a oedd ar gael ar 30 Mehefin 2025 roedd 573 (89%) o’r derbynyddion yn byw yng Nghymru, a 66 (10%) arall yn byw yn Lloegr. Roedd pedwar person arall yn byw mewn mannau eraill.

Amgylchiadau penodol eraill

  • Gofynnwyd am ddatganiadau o amgylchiadau penodol eraill wrth gofrestru er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn cael ei deilwra i anghenion penodol ac i sicrhau ei bod mor hwylus â phosibl i gymryd rhan. Cododd amgylchiadau eraill, megis materion cyfiawnder troseddol, yn ystod y cynllun peilot.
  • Fel yr oedd pethau ar 30 Mehefin 2025, roedd gan 16 (2%) o’r derbynyddion unigolyn a benodwyd / dirprwy sy'n gweithredu ar eu rhan.
  • Fel yr oedd pethau ar 30 Mehefin 2025, yn ystod cyfnod y peilot roedd 25 unigolyn wedi cael eu hatal dros dro am o leiaf un mis calendr neu wedi methu â chymryd rhan oherwydd cysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.
  • Roedd rhai a arferai fod yn blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches, a oedd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol ar gyfer y peilot (sef unigolyn 'Categori 3' sy'n gadael gofal sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru) wedi gallu cymryd rhan yn y peilot. Fel yr oedd pethau ar 30 Mehefin 2025, roedd 74 (11%) o'r holl rai sy'n derbyn cymorth yn (neu arfer bod yn) blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches ar adeg cofrestru.
  • Daeth cyfanswm o 70 cais hwyr i law a’u derbyn yn ystod y cynllun peilot.

Cefndir a chyd-destun

Roedd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn rhoi cyfle i garfan o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal ac yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o hyd at 24 mis. Nod y cyllid hwn oedd eu galluogi i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau ac i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn. I ddarllen ymhellach, mae casgliad o dudalennau ar y we am y cynllun peilot ar gael.

Ffynhonnell y data

Cymerir y ffigurau o’r wybodaeth reoli weithredol am y cynllun peilot, nad yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol. Gwahoddwyd pobl ifanc cymwys i lenwi ffurflen gofrestru os oeddent yn bwriadu ymuno â’r Cynllun, a gofynnwyd i’r rhai a ddewisodd beidio â manteisio ar y cyfle lenwi ffurflen peidio â chymryd rhan. Roedd awdurdodau lleol yn cyflwyno’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn gofrestru er mwyn sicrhau bod pobl ifanc wedi cofrestru ar y rhaglen i gael eu talu. Diweddarwyd yr wybodaeth a gofnodwyd os oedd unrhyw newid i’r amgylchiadau, ee newid cyfeiriad. Mae'r data a gyflwynir yma wedi'i grynhoi ar gyfer Cymru gyfan ac yn seiliedig ar y wybodaeth reoli weithredol a oedd ar gael ar 30 Mehefin 2025.

Nodyn am ddehongli

Mae'r holl ganrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Dechreuodd derbynyddion bontio o'r cynllun peilot o fis Gorffennaf 2024. Felly mae'r data a adroddir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu data pob unigolyn wrth ymadael, neu unrhyw ddiweddariadau dilynol a dderbyniwyd. Efallai na fydd yr wybodaeth yn adlewyrchu amgylchiadau presennol pob unigolyn ar ôl iddynt adael y cynllun peilot. Dylid cymryd gofal arbennig wrth edrych ar y data ar ddigartrefedd a phreswyliad, gan y gallai'r manylion hyn fod wedi newid ar ôl y cynllun peilot. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar gyn-dderbynyddion i ddiweddaru eu manylion ar ôl y cynllun peilot.

Mae'r wybodaeth am y derbynyddion fel ag yr oedd ar 30 Mehefin 2025. Gadawodd pob un ond saith unigolyn y cynllun peilot erbyn y dyddiad hwn. Roedd yr wybodaeth reoli yn cynnwys y rhai y cafodd eu cyfranogiad ei atal wrth iddynt adael yn ffurfiol.

Mae'r gyfradd fanteisio yn seiliedig ar gyfanswm nifer y derbynyddion fel cyfran o gyfanswm nifer y derbynyddion ynghyd â'r rhai hysbys oedd yn gymwys ond nad oeddent yn cymryd rhan fel ar 30 Mehefin 2025. Roedd pobl hysbys oedd yn gymwys ond nad oeddent yn cymryd rhan yn gyfuniad o'r rhai oedd wedi cwblhau ffurflenni nad oeddent yn cymryd rhan, ac eraill a gadarnhaodd ar lafar wrth awdurdodau lleol nad oeddent am gymryd rhan, ond heb gyflwyno ffurflenni yn nodi nad oeddent am gymryd rhan.

Mae'r set ddata hon yn adlewyrchu'r wybodaeth a gofnodwyd ar gyfer yr holl dderbynyddion fel yr oedd ar gael ar 30 Mehefin 2025. Casglwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth wrth gofrestru (er enghraifft gwybodaeth ddemograffig, statws iechyd) ac mae data eraill wedi’u diweddaru yn ystod y cynllun peilot (er enghraifft, newidiadau yn lle maen nhw'n byw, pa mor aml maen nhw'n cael eu taliadau a dewis taliadau uniongyrchol i’r landlord). Er mai hwn fydd y datganiad data terfynol i’w gyhoeddi, gellid diweddaru’r data ar gyfer y saith unigolyn sy'n parhau i dderbyn incwm sylfaenol, pe bai eu hamgylchiadau unigol yn newid. Ar ben hynny, gellid diweddaru manylion cyfeiriad a phreswyliad pob unigolyn pe bai unigolion angen gohebiaeth yn y dyfodol, er enghraifft mewn perthynas â'u taliadau a'u treth. Mae rhagor o wybodaeth am daliadau incwm sylfaenol a threth ar gael.

Roedd y derbynyddion yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Cynllun ar unrhyw adeg cyn mis eu pen-blwydd yn 18 oed ac yn ystod y mis hwnnw, a dechrau cael y taliad incwm sylfaenol y mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Y mis cofrestru cyntaf oedd mis Gorffennaf 2022 a’r mis talu cyntaf oedd mis Awst 2022. Roedd y rhai a oedd yn troi’n 18 oed ym mis Awst 2022 yn gymwys i gael eu taliad cyntaf o fis Medi 2022 ymlaen, ac yn y blaen. Dechreuodd unigolion adael y cynllun peilot yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2024. Ymunodd rhai unigolion â’r cynllun peilot yn hwyrach na'r bwriad ac felly byddant yn gadael yn hwyrach na'r amserlen.

At ddibenion monitro data, cofnodir y mis talu cyntaf fel y mis y mae unigolyn ifanc yn ymuno â’r Cynllun. Roedd hyn yn caniatáu inni ystyried unrhyw geisiadau hwyr.

Roedd unrhyw ymgeiswyr hwyr (a ddiffinnir fel y rhai sy'n ymuno yn hwyrach na'r mis ar ôl iddynt droi'n 18 oed) yn cael caniatâd i ymuno â'r peilot ar ôl ystyried eu hachos yn unigol i sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael manteisio ar y cynllun, a'u bod yn cael eu trin yn deg pan fo'r rhesymau dros beidio â gallu cofrestru oherwydd materion y tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae 'Pan fyddaf yn barod' yn galluogi pobl ifanc mewn gofal maeth i barhau i fyw gyda'u gofalwyr maeth ar ôl troi'n 18 oed. Mae'n caniatáu iddynt aros mewn amgylchedd teuluol sefydlog sy'n eu meithrin hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os ydynt yn cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni. Ni chofnodwyd gwybodaeth am y ‘Pan fyddaf yn barod’ cyn mis Ionawr 2023, felly mae'n bosibl bod mwy o unigolion yn byw yn y math hwn o leoliad wrth gofrestru na’r nifer a gofnodwyd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Nia Jones (ymholiadau am y data)
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099