Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntau allweddol

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Hydref i Ragfyr 2020:

  • bu 290 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn gynnydd o 41% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019 ac o bosibl yn adlewyrchu gweithgaredd ychwanegol wrth i gyfyngiadau (COVID-19) a gyflwynwyd ym mis Mawrth barhau i gael eu codi
     
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £9.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n gynnydd 19% ers yr un cyfnod yn 2019, er bod y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn yn dal i lawr ar y flwyddyn flaenorol oherwydd gweithgaredd is yn gynharach yn y flwyddyn
     
  • efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib
     
  • roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 84% yr holl dreth yn ddyledus

Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 21 safle. Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Siart 1 yn cynnwys pwysau a threth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl chwarter

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
     
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Yn bennaf, mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
     
  • mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
     
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image
Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.


A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Pan gyfeirir at wastraff gan nodi ei fod wedi derbyn rhyddhad, mae gweithredwyr y safleoedd tirlenwi yn gofnodi’n wreiddol hyn fel gwastraff lefel is yna’i dynnu i ffwrdd mewn rhan ddilynol o’r ffurflen. Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar y gwastraff sy’n cael rhyddhad o fewn y categori rhyddhad neu ddisgownt ond nid yn rhan o’r categori cyfradd is. Hefyd, mae pwysau unrhyw wastraff y rhoddwyd disgownt mewn perthynas ag ef oherwydd disgownt dŵr wedi’i gynnwys yn y categori rhyddhad neu ddisgownt yn unig.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2020-21.

  Cyfradd safonol Cyfradd is Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi 
(ddim yn Nhablau 1a a 1b)
2018-19 £88.95 y dunnell £2.80 y dunnell £133.45 y dunnell
2019-20 £91.35 y dunnell £2.90 y dunnell £137.00 y dunnell
2020-21 £94.15 y dunnell £3.00 y dunnell £141.20 y dunnell

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Rhyddhad neu ddisgownt [3] (r) Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [4]
2018-19 382 562 484 1428
Ebr-Meh 87 147 126 360
Gor-Med 88 129 149 366
Hyd-Rhag 111 148 109 368
Ion-Maw 96 138 100 334
2019-20 142 427 392 962
Ebr-Meh 32 106 110 248
Gor-Med 23 139 116 277
Hyd-Rhag 31 95 80 206
Ion-Maw 56 87 87 230
2020-21 hyd yn hyn (p) 145 365 249 759
Ebr-Meh (r) 47 83 54 184
Gor-Med (r) 62 119 104 285
Hyd-Rhag (p) 35 163 91 290

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2]    Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.
[3]    Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
[4]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5]    Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p)    Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r)     Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Dabl 1a

Mae'n bwysig nodi bod cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) wedi’u cyflwyno ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys ar weithgaredd yn y sector gwastraff. Cafodd cyfyngiadau ar y sector gwastraff eu codi’n raddol trwy gydol 2019-20, er bod rhai cyfyngiadau yn dal i fod mewn lle.

Arweiniodd y cyfyngiadau cychwynnol at gwymp o 26% mewn gwarediadau rhwng Ebrill a Mehefin 2020, o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae'r data ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020 yn dangos adferiad yn lefelau'r gwastraff a waredwyd, gyda'r lefel 2% yn uwch nag ym mis Gorffennaf i fis Medi 2019. Gwelwyd adferiad pellach ym mis Hydref i fis Rhagfyr 2020, gyda lefel y gwastraff a waredwyd 41% yn uwch na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae'n debygol bod rhywfaint o waredu gwastraff, a fyddai wedi digwydd yn gynharach yn 2020-21 pe na bai unrhyw gyfyngiadau, wedi'i symud i ddigwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Yn benodol, roedd pwysau gwastraff cyfradd is a waredwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 71% yn uwch na blwyddyn ynghynt. Mae'r ystod lawn o resymau am hyn yn aneglur ar hyn o bryd. Gobeithiwn adrodd ar y rhesymau cyffredinol dros y duedd hon yn ein datganiad nesaf.

Mae'r tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n cynnal trafodaethau rheolaidd â gweithredwyr safleoedd tirlenwi ynglŷn ag effeithiau coronafeirws (COVID-19) ar eu busnesau. Mae’r corononafeirws wedi cael effaith sylweddol ar fusnes rhai gweithredwyr safleoedd tirlenwi eleni. Mae effaith y coronafeirws ar y sector gwastraff am y chwarter terfynol y flwyddyn 2020-21 yn parhau ansicr.

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Treth yn ddyledus (£ miliwn) [2]
  Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [3] Swm y dreth a ryddhawyd [4] (r)
2018-19 1.6 43.1 44.6 0.9
Ebr-Meh 0.4 11.2 11.7 0.2
Gor-Med 0.4 13.3 13.6 0.2
Hyd-Rhag 0.4 9.7 10.1 0.3
Ion-Maw 0.4 8.9 9.3 0.2
2019-20 1.2 35.8 37.0 0.3
Ebr-Meh 0.3 10.0 10.3 0.1
Gor-Med 0.4 10.5 10.9 ~
Hyd-Rhag 0.3 7.3 7.6 0.1
Ion-Maw 0.3 7.9 8.2 0.1
2020-21 hyd yn hyn (p) 1.1 23.5 24.6 0.4
Ebr-Meh (r) 0.2 5.1 5.4 0.1
Gor-Med (r) 0.4 9.8 10.1 0.2
Hyd-Rhag (p) 0.5 8.6 9.1 0.1

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
[3]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[4]    Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.
[5]    Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p)    Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r)     Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Tabl 1b

Fel yr amlygir yn y sylwebaeth o dan Dabl 1a, mae'r adferiad a welwyd mewn gwastraff a waredwyd yn Ngorffennaf i Fedi 2020 wedi parhau yn Hydref i Ragfyr 2020.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020 at £9.1 miliwn o dreth yn ddyledus, mae cynnydd 19% ers yr un cyfnod yn 2019. Mae hwn yn gynnydd llai na'r cynnydd o 41% a welwyd ym mhwysau gwarediadau rhwng y cyfnodau hyn. Mae hyn oherwydd bod llawer o'r cynnydd ym mhwysau’r gwastraff wedi deillio o warediadau ar y gyfradd dreth is.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl, ac mae effaith coronafeirws (COVID-19) bellach yn gymhlethdod ychwanegol yn hyn o beth.

Ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 84% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Image
Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 21 safle.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Tabl 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [1]

  Gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (£ miliwn)
2018-19 35.8
Ebr-Med [2] 12.2
Hyd-Rhag 13.5
Ion-Maw 10.1
2019-20 37.2
Ebr-Meh 9.2
Gor-Med 10.1
Hyd-Rhag 10.9
Ion-Maw 7.1
2020-21 hyd yn hyn (p) 23.9
Ebr-Meh 2.5
Gor-Med 9.9
Hyd-Rhag 11.6

[1]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.

Sylwadau ar Tabl 2

Yn Hydref i Ragfyr 2020, cawsom £11.6 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 6% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn  gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Fel rheol gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.

Nid yw'r aliniad bras hwnnw wedi bod yn wir yn y 2 chwarter diwethaf gan fod mae rhai gweithredwyr eisoes wedi cytuno ar drefniadau Amser i Dalu gydag Awdurdod Cyllid Cymru ble mae’r pandemig coronafirws wedi effeithio ar eu ffrydiau refeniw. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cytuno gyda'r gweithredwyr hyn y gellir gwasgaru talu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer gwarediadau a wnaed rhwng Ionawr a Mawrth 2020 trwy gydol blwyddyn ariannol 2020-21. Mae'r rhan fwyaf o'r refeniw sydd ynghlwm â'r cytundebau hyn wedi'i dalu erbyn diwedd yr ail chwarter ariannol yn 2020-21.

Ni wnaed unrhyw gytundebau o'r fath ar gyfer treth sy'n ddyledus ar warediadau yn hyd yn hyn yn 2020-21.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Adam Al-Nuaimi

Rhif ffôn: 03000 254 670

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Logo - Welsh Revenue Authority