Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntau allweddol

Ar y cyfan nid yw'r argyfwng coronafirws (COVID-19) cyfredol wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yma. Maent yn ymwneud â chyfnod cyfrifyddu a oedd bron â dod i ben cyn i'r cyfyngiadau gael eu gosod.

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill 2019 i Fawrth 2020:

  • Bu 962 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn gwymp o bron i un ran o dri o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae llawer o'r cwymp yn ganlyniad i ostyngiad mewn gwarediadau sydd wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt.
     
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £37.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n lleihad oddeutu 17% ers y flwyddyn flaenorol.

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ionawr i Fawrth 2020:

  • Bu 231 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn gwymp o bron i un ran o dri o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae llawer o'r cwymp yn ganlyniad i ostyngiad mewn gwarediadau sydd wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt.
     
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £8.3 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n lleihad oddeutu 11% ers yr un cyfnod yn 2019.
     
  • Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib.
     
  • Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 86% yr holl dreth yn ddyledus.

Siart 1  yn cynnwys pwysau a threth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl chwarter.

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
     
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Yn bennaf, mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
     
  • Mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • Mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
     
  • Mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag ACC. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol.

Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Pan gyfeirir at wastraff gan nodi ei fod wedi derbyn rhyddhad, mae gweithredwyr y safleoedd tirlenwi yn gofnodi’n wreiddol hyn fel gwastraff lefel is yna’i dynnu i ffwrdd mewn rhan ddilynol o’r ffurflen. Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar y gwastraff sy’n cael rhyddhad o fewn y categori rhyddhad neu ddisgownt ond nid yn rhan o’r categori cyfradd is. Hefyd, mae pwysau unrhyw wastraff y rhoddwyd disgownt mewn perthynas ag ef oherwydd disgownt dŵr wedi’i gynnwys yn y categori rhyddhad neu ddisgownt yn unig.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2020-21.

 

Cyfradd safonol

Cyfradd is

Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi
(ddim yn Nhablau 1a a 1b)

2018-19

£88.95 y dunnell

£2.80 y dunnell

£133.45 y dunnell

2019-20

£91.35 y dunnell

£2.90 y dunnell

£137.00 y dunnell

2020-21

£94.15 y dunnell

£3.00 y dunnell

£141.20 y dunnell

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Rhyddhad neu ddisgownt [3] (r) Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [4]
2018-19 383 562 483 1428
Ebr-Meh 88 147 125 360
Gor-Med 88 129 149 366
Hyd-Rhag 111 148 109 368
Ion-Maw 96 138 100 334
2019-20 (p) 141 428 394 962
Ebr-Meh 32 106 110 248
Gor-Med 23 139 116 277
Hyd-Rhag (r) 31 95 80 206
Ion-Maw (p) 55 88 88 231

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2]    Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.
[3]    Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
[4]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5]    Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p)    Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r)     Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Yn Ionawr i Fawrth 2020, roedd 231 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn gwymp o bron un ran o dri o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, roedd 962 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Hefyd, mae hyn yn gwymp o bron un ran o dri o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd hyn oherwydd lefelau is o wastraff yn y cyfnodau diweddaraf ar gyfer pob un o'r tri chategori yn y tabl, yn enwedig gwastraff wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt.

Mae’r tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro gwarediadau sydd wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt yn fanwl. Gall lefelau gweithgaredd sy’n derbyn rhyddhad amrywio'n fawr dros amser ac maent yn dibynnu ar amryw o ffactorau, megis y tywydd. Gallai'r ffigurau hyn gynyddu o'r lefelau is hyn yn y dyfodol.

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Treth yn ddyledus (£ miliwn) [2]
  Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [3] Swm y dreth a ryddhawyd [4] (r)
2018-19 1.6 43.0 44.6 0.9
Ebr-Meh 0.4 11.2 11.6 0.2
Gor-Med 0.4 13.3 13.6 0.2
Hyd-Rhag 0.4 9.7 10.1 0.3
Ion-Maw 0.4 8.9 9.3 0.2
2019-20 (p) 1.2 35.9 37.1 0.3
Ebr-Meh 0.3 10.0 10.3 0.1
Gor-Med 0.4 10.5 10.9 ~
Hyd-Rhag (r) 0.3 7.3 7.6 0.1
Ion-Maw (p) 0.3 8.0 8.3 0.1

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
[3]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[4]    Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.
[5]    Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p)  Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r)   Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 at £8.3 miliwn o dreth yn ddyledus lleihad oddeutu 11% ers yr un cyfnod yn 2019. Y prif reswm am hyn oedd lleihad mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 at £37.1 miliwn o dreth yn ddyledus lleihad oddeutu 17% ers y flwyddyn flaenorol.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl.

Yn Ionawr i Fawrth 2020, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 86% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Tabl 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [1]

  Value of LDT payments (£ millions)
2018-19 35.8
Apr-Sep [2] 12.2
Oct-Dec 13.5
Jan-Mar 10.1
2019-20 37.2
Apr-Jun 9.2
Jul-Sep 10.1
Oct-Dec 10.9
Jan-Mar 7.1

[1]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
[2]    Mae’r ffigurau o fis Ebrill i fis Mehefin 2018 wedi cael eu cyfuno i ffigurau mis Gorffennaf i fis Medi 2018. Mae oherwydd nifer fechan y darparwyr a oedd eisoes wedi cyflwyno ffurflenni ac wedi talu cyn diwedd mis Mehefin (cyflwynodd a thalodd y rhan fwyaf ohonynt ym mis Gorffennaf).

Yn Ionawr i Fawrth 2020, cawsom £7.1 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 30% yn is na'r un cyfnod yn 2019.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn  gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Mae hyn yn debygol o gael effaith fwy mewn datganiadau yn y dyfodol. Mae rhai gweithredwyr eisoes wedi cytuno ar drefniadau Amser i Dalu gydag ACC ble mae’r pandemig coronafirws wedi effeithio ar eu ffrydiau refeniw.

Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, cawsom £37.2 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Nid yw'n briodol cymharu'r ffigur hwn ag Ebrill 2018 i Fawrth 2019 am y rheswm a nodwyd uchod.

Dadansoddiad posib o’r categori ‘wedi derbyn rhyddhad a disgownt’

Yn ein datganiad blynyddol cyntaf ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019), gwnaethom nodi nad oedd yn bosibl bryd hynny cyhoeddi dadansoddiad o’r categori ‘wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt’. Dywedasom y byddem yn ystyried hyn eto yn ein hail ddatganiad blynyddol yn haf 2020 (y datganiad hwn).

Rydym wedi ystyried eto a allwn gyhoeddi dadansoddiad o ddata’n ddisgowntiau dŵr a'r pedwar rhyddhad unigol. Er bod pump neu fwy o weithredwyr yn rhai o'r categorïau hyn, mae un neu ddau weithredwr yn arbennig o amlwg yn y data. Byddai cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad yn arwain at berygl o ddatgelu data ar ddamwain ar gyfer trethdalwyr unigol.

Rydym wedi dod i'r casgliad nad yw’r mater o amlygrwydd gweithredwyr yn y data yn debygol o newid yn y dyfodol. Byddwn yn adolygu hyn eto ymhen dwy neu dair blynedd er mwyn gweld a allwn gyhoeddi dadansoddiad o’r data hyn yn ddiogel.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Logo Awdurdod Cyllid Cymru