Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn y datganiad chwarterol hwn, am y tro cyntaf rydym wedi cyhoeddi data yn ystod y flwyddyn ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru, hynny yw awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol ac etholaethau’r Senedd. Mae’r data a gyflwynir yn ymwneud â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, a byddwn yn diweddaru’r data hwn mewn datganiadau chwarterol yn y dyfodol. Yn flaenorol, dim ond yn ein datganiadau ystadegol blynyddol y cyhoeddwyd data ar gyfer ardaloedd yng Nghymru. Yn sgil y datblygiad hwn, rydym yn ystyried a ddylid rydym yn angen cyhoeddi datganiadau ystadegol blynyddol yn y dyfodol. Rydym yn croesawu eich sylwadau ar y newidiadau hyn i data@acc.llyw.cymru.

Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys gwybodaeth fanylach.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021

Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Trafodiadau preswyl

  • Yn Hydref i Ragfyr 2023, roedd trafodiadau preswyl i lawr 21% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 22%.
  • Roedd trafodiadau cyfraddau uwch i lawr 18% o gymharu â'r un chwarter flwyddyn ynghynt.
  • Ym mhob mis yn 2023, mae nifer y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn is na'r un mis flwyddyn ynghynt. Roedd y tueddiadau hyn yn debygol o fod wedi eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.
  • Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Yn yr un modd, mae cyfraniad y trafodiadau hyn i’r dreth sy'n ddyledus wedi codi'n gyffredinol. Er enghraifft, cyfrannodd gwerthiannau eiddo preswyl dros £750,000 4% o’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 18% yn Hydref i Ragfyr 2023.

Trafodiadau amrheswyl

  • Yn Hydref i Ragfyr 2023, roedd trafodiadau amhreswyl yn debyg i’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 51%
  • Yn Ebrill i Ragfyr 2022, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na'r cyfartaledd misol (a gyfrifwyd ers Ebrill 2018) y rhan fwyaf o'r amser. O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023.
  • Yn Hydref i Ragfyr 2023, cyfrannwyd 64% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn. Fodd bynnag, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am ddim ond 7% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn. Yn y cyfamser, cyfrannodd y 27% o drafodiadau oedd ag elfen rhent 14% o'r dreth oedd yn ddyledus.

Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2023)

Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 16% yn Nhorfaen a Sir y Fflint i 34% yn Ynys Môn. 

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:

  • Wrecsam (cynnydd o 4 pwynt canran)
  • Gwynedd, Conwy a Thor-faen (y tri â gostyngiad o 3 pwynt canran)
  • Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin (y dau â chynnydd o 3 pwynt canran)

Yn ngyffredinol, bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol. Gallai’r rhesymau posibl am hyn gynnwys effaith amodau economaidd ehangach ar drafodiadau neu bolisïau ail gartrefi sy’n effeithio ar drafodiadau.

Mae’r tueddiadau hyn yn parhau â’r rhai a welwyd pan wnaethom gyhoeddi’r data hwn ym mis Gorffennaf 2023 (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023). Y prif eithriad yw Ynys Môn lle mae canran y trafodiadau preswyl ar y cyfraddau uwch wedi cynyddu dros y flwyddyn flaenorol.

Er bod y rhesymau am hyn yn parhau i fod yn aneglur, gallwn weld bod y duedd ddiweddar hon yn Ynys Môn oherwydd bod gweithgarwch cyfraddau uwch yn yr ardal yn parhau’n gymharol wastad er gwaethaf y gostyngiad mwy cyffredinol mewn trafodiadau preswyl sydd wedi effeithio ar bob ardal o Gymru. Nid yw hyn oherwydd cynnydd cyffredinol mewn trafodiadau cyfradd uwch yno.

Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn:

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol ym mhob chwarter yn 2023 yn is na phob un o’r saith chwarter blaenorol, er yn gyffredinol yn dal i fod yn uwch nag yn ystod y tair blynedd cyn hynny. Roedd y refeniw is yn 2023 yn adlewyrchu niferoedd is o drafodiadau, yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.

“Yn Hydref i Ragfyr, roedd y refeniw chwarterol o drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r chwarter blaenorol neu yn is nag ym mhob un o’r un ar ddeg chwarter cyn hynny. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u llywio’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, ac rydym wedi gweld llai o’r rhain yn ddiweddar.

“Rydym yn falch o ddechrau cyhoeddi data ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru yn ein datganiadau chwarterol, yn hytrach nag aros am ein cyhoeddiad diwedd blwyddyn, blynyddol. Er nad yw’r neges yn y data lleol wedi newid yn sylweddol ers i ni gyhoeddi’r data hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2023, rydym yn gweld hwn yn ddatblygiad pwysig, fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr olrhain y data lleol mewn modd mwy amserol yn y dyfodol.”

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad ar y lefel Cymru

Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo sy’n ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Er eingraifft, yn ystod Ebrill 2022 i Fawrth 2023, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 15 Ionawr 2024, oni nodir yn wahanol.

Tabl 1: Trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023, yn ôl math o drafodiad, a’r newid o ran % o’r un cyfnod blwyddyn ynghynt
Math o drafodiadHydref i Ragfyr 2023 [dros dro]Newid o ran % (o gymharu â Hydref i Ragfyr 2022) [nodyn 2] 
Trafodiadau [nifer]   
Preswyl 11,670-21%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl2,590-18%
Amhreswyl 1,5100%
Pob trafodiadau13,180-19%
Treth yn ddyledus [£ miliwn]   
Preswyl 62.8-22%
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] 21.5-17%
Amhreswyl 15.0-18%
Pob trafodiadau77.8-21%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch. 

[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022 a wnaed yn Ionawr 2023.

Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Hydref i Ragfyr 2023 gyda Hydref i Ragfyr 2022 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 19% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 21%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 21% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 22% 
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 18%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 17%
  • bu trafodiadau yn fflat. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 18%

Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ionawr 2024.

Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’7-Hyd’ yn 2023-24 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 7 i 13 Hydref 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 6 i 12 Hydref 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (15 Ionawr 2023 yn y datganiad hwn).

Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl o Ebrill i Ragfyr 2023 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, er bod y bwlch yn llai ar gyfer mis Mehefin. Ers mis Ebrill 2023, roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio, gyda chynnydd mawr ym mis Mawrth 2023 ers y mis blaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Rhagfyr 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Medi i Dachwedd 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 44% y trafodiadau (yn dod i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Ers Ebrill 2023, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn is na’r flwyddyn flaenorol, er bod y gwahaniaeth yn llai ar gyfer mis Mehefin, sy’n debygol o fod oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Mehefin 2023.

Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2023, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir. 

Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos, ers Ebrill 2023, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol. Yn Ebrill i Ragfyr 2022, roedd y dreth fisol oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r cyfartaledd misol (a gyfrifwyd ers mis Ebrill 2018) y rhan fwyaf o’r amser. O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.8 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch. 

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Rhagfyr 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Tachwedd 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Medi i Dachwedd 2023 wedi’I ddiwygio hefyd.

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau. 

Gostyngodd refeniw o drafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ionawr 2023 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae'n debygol bod tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo yn dylanwadu ar hyn ac amodau economaidd ehangach yn dechrau effeithio ar drafodiadau. Yn y misoedd dilynol, arhosodd y refeniw yn is na'r refeniw a welwyd yn yr un misoedd y flwyddyn flaenorol.

Roedd y refeniw amhreswyl misol yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi 2022. Roedd yn eu hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny.

Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.

Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Felly mae unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch sydd â gwerth hyd at £180,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a mae trafodiadau cyfraddau uwch gyda gwerth rhwng £180,001 a £400,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘uwchben y trothwy cyfradd sero, hyd at a chan gynnwys £400,000’.

Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau, y trothwy cyfradd sero oedd:

  • £180,000 o 1 Ebrill 2018 i 26 Gorffennaf 2020 ac o 1 Gorffennaf 2021 i 9 Hydref 2022
  • £250,000 o 27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 (oherwydd y cyfnod gostyngiad treth dros dro)
  • £225,000 o 10 Hydref 2022 ymlaen (oherwydd newid parhaol yn y prif gyfraddau a bandiau preswyl)

Yn y cyfnodau amser pan oedd y trothwy cyfradd sero ar gyfer y prif gyfraddau’n uwch (27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 ac ers 20 Hydref 2022), dylanwadodd hyn ar nifer y trafodiadau yn y ddau gategori ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ ac ‘uwch na’r trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’.

Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £400,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd symiau’r dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 ac Ebrill i Fehefin 2022 yn y drefn honno, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn y chwarteri dilynol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 4, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.

Ar gyfer bandiau ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’, a ‘dros £750,000’ a ddangosir yn Ffigur 1.5, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ngorffennaf i Fedi 2023 oedd y gwerth uchaf a welwyd hyd yma, gyda gwerthoedd is i'w gweld ers hynny. Yn yr un modd, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y band £400,001 i £750,000 ar ei huchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 a Hydref i Ragfyr 2022 gyda gwerthoedd is i’w gweld yn fwy diweddar. Mae’r cynyddau blaenorol hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw. 

Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Hydref i Ragfyr 2023 [nodyn 1] [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos, yn Hydref i Ragfyr 2023, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am bron tair rhan o bump o’r holl drafodiadau a thua un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 18% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Dengys Ffigur 6 fod 59% o drafodiadau preswyl yn Hydref i Ragfyr 2023, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Hydref i Ragfyr 2023, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 10% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y pum mlynedd yn y cyfamser.

Yn Hydref i Ragfyr 2023, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 18% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach, tra ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).

Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 9% yn Hydref i Ragfyr 2023. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 37% yn Hydref i Ragfyr 2023.

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth 

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y ddair flynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch yn y chwe chwarteri o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r pumup chwarteri ers neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Hydref i Ragfyr 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Hydref i Ragfyr 2023, bron hanner y trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu llai nag 1% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 7% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn bron i ddwy ran o dair o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd dros y chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 14% o’r dreth amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad o fewn Cymru

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2023 (a echdynnwyd yn Ionawr 2024) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2022 (a echdynnwyd yn Ionawr 2023). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol ac etholaethau’r Senedd ar gael ar StatsCymru.

Ar StatsCymru, rydym bellach yn cyhoeddi data ardal leol ar gyfer y blynyddoedd sy’n dod i ben ym Mehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth. Yn natganiadau chwarterol y dyfodol, byddwn yn ychwanegu data ar gyfer y cyfnod amser newydd ac yn adnewyddu data ar gyfer yr holl gyfnodau amser sy’n bod eisoes.

Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig. 

Ffigur 10: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Ionawr i Ragfyr 2023 ac Ionawr i Ragfyr 2022

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Yn y flwyddyn sy’n dod i ben Ragfyr 2023, bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir wedi gofyn y cwestiwn yn blaenorol). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru’ yn datganiadau blynyddol blaenorol bod ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â ein datganiad blynyddol blaenorol.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Ynys Môn (34%), Gwynedd (31%) a Merthyr Tudful (29%).

Gwelwyd y canrannau isaf yn Thor-faen (14%) a Sir y Fflint (15%).

Ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2023, mae trefn y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn y siart hon yn aros tebyg i flwyddyn flaenorol (data wedi’i echdynnu yn Ionawr 2023). Fodd bynnag, Ynys Môn sydd â'r ganran uchaf erbyn hyn, er mai Gwynedd oedd â’r ganran uchaf yn y cyfnodau blaenorol. Er bod y rhesymau dros y cynnydd yng nghanran Ynys Môn yn parhau i fod yn aneglur, gallwn weld bod y duedd ddiweddar hon oherwydd bod gweithgarwch cyfraddau uwch yn yr ardal yn parhau’n gymharol wastad er gwaethaf y gostyngiad mwy cyffredinol mewn trafodiadau preswyl sydd wedi effeithio ar bob ardal o Gymru. Nid yw hyn oherwydd cynnydd cyffredinol mewn trafodiadau cyfradd uwch yno.

O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:

  • Wrecsam (cynnydd o 4 pwynt canran)
  • Gwynedd, Conwy a Thor-faen (y tri â gostyngiad o 3 pwynt canran)
  • Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin (y dau â chynnydd o 3 pwynt canran)

Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:

  • Arfordir Sir Benfro: 49% i 46%, gostyngiad o 2 pwynt canran
  • Eryri: 39% i 35%, gostyngiad o 3 phwynt canran
  • Bannau Brycheiniog: 20% i 22%, gostyngiad o 2 bwynt canran

Er nad yw’n bosibl nodi pa drafodiadau cyfraddau uwch oedd yn ail gartrefi ar hyn o bryd, gallai’r gostyngiadau a ddangosir uchod ar gyfer rhai awdurdodau lleol yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru awgrymu arafu yn y cyfraddau prynu ar gyfer ail gartrefi newydd neu bresennol.

Nôl i dop y dudalen

Data pellach ar gael

Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.

Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig

Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
  • Nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol.

Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad. 

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • I sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • Neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Treth a dalwyd

Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig

Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn

Nôl i dop y dudalen

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
National statistics