Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.

Maent yn cynnwys niferau misol ar:

  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus
  • trafodiadau yn ôl math
  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
  • ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch

Sylwer:

  • diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2023.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod ar eu hanterth ym mis Mehefin 2021 a bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau ym mis Rhagfyr 2021 ac ym mis Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers mis Ebrill 2022 ychydig yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol gyda mwy o wahaniaeth i'w weld yn ystod y mis diwethaf.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir.

O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Byddwn yn cyflwyno dadansoddiad o effaith y newidiadau hyn yn ein datganiad chwarterol nesaf.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 108 KB

ODS
108 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 556 KB

ODS
556 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.