Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:

  • nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
  • dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
  • rhyddhadau treth
  • ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
  • arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.

Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu yn ystod y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Rhagfyr 2020), fe ymddengys mai dim ond effaith fach a gafodd y rhain ar nifer y trafodiadau a'r adferiad y cyfeiriwyd ato yn y datganiad ystadegol.

Roedd newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Sylwch y bydd rhai trafodiadau cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl a ddangosir ym mis Rhagfyr 2020 wedi cael eu codi ar y cyfraddau a fodolai cyn 22 Rhagfyr, a rhai ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr. Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a 10 o drafodiadau amhreswyl ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr.

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

  • Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
  • Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Mawrth 2021 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 629 KB

XLSX
629 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 829 KB

XLSX
829 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Adam Al-Nuaimi

Rhif ffôn: 03000 254 670

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.