Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 73.6% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2023, i lawr 0.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.5%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn yn Wrecsam (i fyny 6.2 pwynt canran i 77.9%), ar Ynys Môn (i fyny 6.0 pwynt canran i 77.4%) ac yn Nhorfaen (i fyny 5.3 pwynt canran i 74.8%).

Ffigur 1: Y gyfradd gyflogaeth, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2011, yng Nghymru a’r DU. Dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws) mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y ddwy ardal. Mae cyfradd y DU wedi parhau’n uwch na chyfradd Cymru ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007, er bod y ddwy wedi dangos tueddiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

76.4% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i fyny 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn; 73.4% oedd y gyfradd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 0.7 pwynt canran, a’r gyfradd yn y De-ddwyrain oedd 72.5%, i lawr 1.3 pwynt canran. Y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Ffigur 2: Y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart linell yn dangos bod Cymru, a phob un o ranbarthau economaidd Cymru wedi gweld eu cyfradd gyflogaeth yn cynyddu’n gyffredinol dros y degawd diwethaf.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Ers 2011, y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd bandemig y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf gostyngiadau mewn blynyddoedd diweddar, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r gyfradd yng Nghymru a’r rhanbarthau economaidd eraill. Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020, mae newidiadau wedi amrywio ar draws pob un o’r rhanbarthau economaidd a Chymru’n gyffredinol. Rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 a Mehefin 2023, gostyngodd cyfradd gyflogaeth Cymru, fel y gwnaeth y cyfraddau yn y De-ddwyrain, ond yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De-orllewin.

Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 1.9 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, er bod y ffigur hwn wedi cynyddu 0.3 pwynt canran o gymharu â’r bwlch y flwyddyn flaenorol.

Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.

Diweithdra

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.4%, i lawr 0.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.7%, i lawr 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Nodwch fod data ar gyfer 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol hyn yw: Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir y Fflint, Torfaen a Wrecsam.

Yn yr awdurdodau lleol oedd â sampl o ddigon o faint, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn y cyfraddau diweithdra dros y flwyddyn yn Abertawe (i lawr 1.7 pwynt canran i 4.6%), Torfaen (i lawr 1.4 pwynt canran i 3.3%) a Chasnewydd (i lawr 0.4 pwynt canran i 5.5%). Caerffili a Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdodau lleol (â sampl digon mawr) a welodd y cynnydd mwyaf yn ystod y flwyddyn, lle cododd y gyfradd ddiweithdra’r ddau awdurdod lleol 0.4 pwynt canran i 3.9% a 3.1% yn y drefn honno.

Ffigur 3: Y gyfradd ddiweithdra, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU. Cynyddodd y gyfradd i’r pwynt uchaf ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2010 i fis Mehefin 2013, yng Nghymru a’r DU, ond ei bod ers hynny wedi gostwng ymhell islaw’r gyfradd yn 2007. Mae’r gyfradd ddiweithdra wedi bod ychydig yn fwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae cyfradd Cymru wedi bod o dan gyfradd y DU ers diwedd Mehefin 2019.

Data diweithdra ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

3.8% oedd y gyfradd ddiweithdra yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i lawr 0.5 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 3.7%, i fyny 0.5 pwynt canran, ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 2.3%, i lawr 1.2 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)

Ffigur 4: Y gyfradd ddiweithdra, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 4: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru, y De-ddwyrain, y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin i gyd wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.

Data diweithdra ar StatsCymru

Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2013, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn nhri rhanbarth economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol, ac roedd y gostyngiad yn fwy serth nes pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau diweithdra rhanbarthau economaidd Cymru wedi amrywio. Yn y Canolbarth a’r De-orllewin mae’r gyfradd uchaf, ac yn y Gogledd mae’r gyfradd isaf yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023.

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Pobl economaidd anweithgar yw’r bobl hynny sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu bobl nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf. Yn yr adran hon, nid ydym wedi cynnwys unigolion a nododd mai eu rheswm dros anweithgarwch economaidd oedd eu bod yn fyfyrwyr, gan ei bod yn debygol y bydd myfyrwyr nad ydynt ar gael i weithio tra byddant yn astudio’n dod yn economaidd weithgar ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.8%, i fyny 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd yn y DU oedd 17.7%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Wrecsam (16.7%), Ynys Môn (17.0%) ac Abertawe (17.3%).

Ffigur 5: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 5: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi bod yn gostwng yn gyson ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 yng Nghymru a'r DU. Serch hynny, dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws), mae’r gyfradd wedi cynyddu ar gyfer y ddwy ardal. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, ac mae maint y bwlch yn amrywio dros amser.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

21.4% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y De-ddwyrain, i fyny 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y Canolbarth a’r De-orllewin, y gyfradd oedd 21.2%, i fyny 0.9 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 18.7%, i fyny 0.1 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Ffigur 6: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 6: Siart linell yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru (ac eithrio myfyrwyr) wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, a bod cyfraddau’r tri rhanbarth economaidd yn amrywio o amgylch cyfradd Cymru.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Y Gogledd oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd tan y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020, pan gododd y gyfradd yn uwch na chyfradd y rhanbarthau eraill, ond mae bellach wedi gostwng yn is na nhw. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r De-ddwyrain oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023. Y Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.

Rhesymau am anweithgarwch economaidd

Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl am eu hanweithgarwch economaidd. Mae’r cyfrannau a’r cyfraddau yn yr adran hon yn cynnwys myfyrwyr er mwyn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o’r rhesymau hyn.

Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a gynyddodd 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn i 39.1% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 27.1% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, i lawr 1.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 7: Anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2018 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 7: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith dynion oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 yn Ffigwr 7 oherwydd bod y niferoedd mor fach.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020-21, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’. Ers 2020-21, mae cyfran y menywod economaidd anweithgar sy’n gofalu am deulu/cartref wedi dechrau cynyddu eto.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 29.6% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 0.9 pwynt canran yn y flwyddyn. Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir nawr ar ei huchaf ers dechrau cadw cofnodion APS. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi cynyddu 0.5 pwynt canran, gan gyfrif am 25.2% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.

Ffigur 8: Anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2018 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 8: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith menywod oedd salwch hirdymor, ac yna gofalu am y teulu/cartref. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer pob mis Mehefin ar gyfer menywod yn Ffigwr 8 oherwydd bod y niferoedd mor fach.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 oedd 56.2%, i fyny 2.5 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.3%, i lawr 0.4 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

54.2% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru, i fyny 0.5 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Bu cynnydd o 5.6 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith menywod ifanc yng Nghymru i 58.3%.

Ffigur 9: Y gyfradd gyflogaeth pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 9: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond ei bod wedi cynyddu’n gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y bu’r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod hyd at 2019, pan wnaeth cyfraddau cyflogaeth ymhlith dynion ifanc ostwng yn gyflymach yn ystod y pandemig nag ymhlith menywod.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Diweithdra

9.4% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, i lawr 0.4 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 11.2%, i lawr 1.0 pwynt canran.

Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 11.4% a 7.3% yn y drefn honno. Gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc 0.7 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chododd y gyfradd ymhlith menywod ifanc 0.1 pwynt canran dros yr un cyfnod.

Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng dynion a menywod oedd 4.0 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, i lawr o 4.8 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol. Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc rhwng dynion a menywod yn y DU oedd 4.2 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, o gymharu â 2.8 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021.

Ffigur 10: Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 10: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol ei bod wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, gan gofnodi lefelau isel yn y cyfnod diweddar.

Data diweithdra ar StatsCymru

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 oedd 22.8%, i fyny 1.5 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 19.1%, i fyny 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 oedd 21.8%, i fyny 5.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 23.8%, i lawr 3.4 pwynt canran. Oherwydd anwadalrwydd y gyfres hon, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach lle bo modd.

Ffigur 11: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 11: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer menywod 16 i 24 oed yng Nghymru wedi gostwng yn gyffredinol drwy gydol y gyfres. Mae'r gyfradd ar gyfer dynion wedi cynyddu'n gyffredinol. Dros y cyfnod diweddar, gwelwyd mwy o anwadalrwydd yn y cyfraddau ar gyfer dynion a menywod.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Diweithdra hirdymor

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, mae’r APS yn amcangyfrif bod 10,700 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy), i lawr 43.6% dros y flwyddyn. Serch hynny, sylwch fod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor pan fo’n bosibl.

Dyna 20.9% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, i lawr 14.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 22.2%, i lawr 6.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

Roedd 22.8% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 14.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 22.2% yn y DU.

Roedd 17.8% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 14.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 19.0% yn y DU.

Ffigur 12: Cyfraddau diweithdra hirdymor ILO (y ganran o’r holl bobl ddi-waith), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 12: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru a'r DU yn gostwng yn gyffredinol rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2013 a Mehefin 2020. Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020, mae’r anwadalrwydd wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU. Roedd cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru yn uwch yn gyffredinol nag yn y DU. Dylid ystyried newidiadau yn y gyfradd ddiweithdra ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach, lle bo modd, oherwydd anwadalrwydd y gyfres yn ddiweddar.

Data diweithdra ar StatsCymru

Statws anabledd

49.6% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023. Mae hyn i fyny 0.3 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 82.6% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

6.3% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i lawr 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 2.7% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.

Ethnigrwydd

Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.

68.1% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, i fyny 1.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 73.8%, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.

6.9% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed ac yn hŷn yng Nghymru, i lawr 2.5 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 3.2%, i lawr 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur (SYG) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (SYG).

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud ei bod yn fwyfwy heriol cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr LFS, a bod ffigurau pennawd a thueddiadau ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill mewn perthynas â’r farchnad lafar. Argymhellir y rhoddir rhagor o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS. Yn ogystal â blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y pwnc hwn, gweler hefyd ddiweddariad diwethaf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar gyfer data am y farchnad lafar yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau allweddol diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.

Ar 18 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yna broblem gyda pheth data galwedigaethol. Ar 26 Medi 2022, rhoddwyd gwybod i ddefnyddwyr ynghylch effaith y camgymeriad codio (SYG). Mae ymarfer ailgodio wedi’i gynnal er mwyn cywiro’r camgymeriad, ac wedi diwygio amcangyfrifon perthnasol yr Arolwg o’r Llafurlu yn natganiad Gorffennaf 2023 ynghylch y farchnad lafur. Mae erthygl a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2023 yn rhoi rhagor o fanylion am y fethodoleg newydd a’i heffaith (SYG). Caiff amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth eu diweddaru a’u cyhoeddi ar Nomis ochr yn ochr â datganiad Awst 2023 ynghylch y farchnad lafur.

Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.

Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu’ch adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

Cywirdeb

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru. 

Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur. 

Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd ONS set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.

Geirfa

Cyflogaeth

Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.

Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Diweithdra

Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy’r LFS gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.

Anweithgarwch economaidd

Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
  • Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
  • Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
  • Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:

  • (21) canran y bobl mewn cyflogaeth

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 80/2023