Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dadansoddiad mwy manwl o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16eg Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 73.4% yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, i fyny 0.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.4%, i fyny 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn ym Mlaenau Gwent (i fyny 7.7 pwynt canran i 74.6%), Rhondda Cynon Taf (i fyny 6.3 pwynt canran i 74.9%) a Merthyr Tydfil (i fyny 5.9 pwynt canran i 71.7%).

Image
Gwelwyd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru a'r DU yn gostwng i'r pwynt isaf yn y ddwy gyfres yn ystod y dirwasgiad. Ers hynny, gwelwyd y gyfradd gyflogaeth yn cynyddu i’w bwynt uchaf yn y ddwy gyfres yn 2020, cyn effaith y pandemig coronafeirws.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

74.8% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i fyny 0.9 pwynt canran; 73.0% oedd y gyfradd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 0.4 pwynt canran a’r gyfradd yn y De-ddwyrain oedd 73.1%, i fyny 0.7 pwynt canran.  Y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Image
Mae Siart 2 yn dangos Cymru, De-ddwyrain Cymru, Gogledd Cymru, a Chanolbarth a De-orllewin Cymru gyda chyfradd gyflogaeth yn cynyddu’n gyson dros y flwyddyn ddiwethaf. Bu gostyngiad yn y gyfradd gyflogaeth yn 2020 yn y gogledd ac yn ne-ddwyrain Cymru.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Y duedd gyffredinol oedd i’r gyfradd gyflogaeth gynyddu’n gyson yng Nghymru ac yn y tri rhanbarth economaidd yng Nghymru dros y pedair blynedd diwethaf, hynny tan bandemig y coronafeirws (COVID_19), gyda’r gyfradd yn y Gogledd yn gyson uwch na’r gyfradd yng Nghymru a’r rhanbarthau economaidd eraill.  Yn dilyn cyfnod pan welwyd cyfraddau cyflogaeth yn gostwng o’r flwyddyn yn diweddu Mehefin 2020, mae’r cyfraddau cyflogaeth ym mhob un o’r rhanbarthau economaidd yng Nghymru wedi cynyddu, yn gyffredinol, ers y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2021.

Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth y DU a Chymru wedi cau yn raddol i 2.0 pwynt canran.

Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.

Diweithdra

Yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.2%, i lawr 0.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.6%, i lawr 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn. Y cyfraddau diweithdra yng Nghymru ac yn y DU ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Medi 2002 oedd yr isaf ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996.

Nodwch fod data ar gyfer 11 o’r 22 awdurdod lleol wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol hyn yw: Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Sir y Fflint.

Yn yr awdurdodau lleol oedd â sampl o ddigon o faint, gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y cyfraddau diweithdra dros y flwyddyn yn Nhor-faen (i lawr 2.6 pwynt canran i 3.8%), Sir Benfro (i lawr 1.8 pwynt canran i 3.5%) a Chaerdydd (i lawr 1.4 pwynt canran i 2.4%). Caerffili welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra o 1.4 pwynt canran i 4.3%.

Image
Cynyddodd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd i'r pwynt uchaf yn ystod y dirwasgiad yng Nghymru a'r DU ond ers hynny gostyngodd i'r lefel isaf yn 2020, cyn effaith pandemig y coronafeirws.

Data diweithdra ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

4.1% oedd y gyfradd diweithdra yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i lawr 0.5 pwynt canran; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 2.7%, i lawr 1.4 bwynt canran ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 3.1%, i lawr 0.5 pwynt canran (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)

Image
Mae Siart 4 yn dangos Cymru, De-ddwyrain Cymru, Gogledd Cymru a Chanolbarth a De-orllewin Cymru gyda chyfradd ddiweithdra yn gostwng ar y cyfan dros y pedair blynedd diwethaf.

Data diweithdra ar StatsCymru

Y duedd gyffredinol oedd i’r gyfradd ddiweithdra ostwng yng Nghymru ac yn y tri rhanbarth economaidd yng Nghymru dros y pedair blynedd diwethaf, cyn pandemig y coronafeirws (COVID_19), gyda’r gyfradd yn gyson uwch yn y De-ddwyrain ac yn gyson is yn y Gogledd o’u cymharu â rhanbarthau eraill. Ers 2020, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd wedi gwahanu, gyda’r gyfradd uchaf yn y Canolbarth a De-orllewin o 2021 ymlaen.

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Pobl economaidd anweithgar yw’r bobl hynny sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos ddiwethaf a/neu pobl nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y bythefnos nesaf.  Yn yr adran hon, nid ydym wedi cynnwys myfyrwyr yn y gyfradd anweithgarwch economaidd, gan nad yw myfyrwyr ar gael i weithio tra’n astudio a byddant yn debygol o ddod yn economaidd weithgar ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.2%, sydd heb newid o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Y gyfradd yn y DU oedd 17.8%, i fyny 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf oedd Bro Morgannwg (14.0%), Powys (15.2%) a Sir y Fflint (16.4%).

Image
Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi bod yn gostwng yn raddol ers dechrau'r gyfres yng Nghymru a'r DU. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, er i’r bwlch leihau tan 2020 cyn effaith y pandemig coronafeirws.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Rhanbarthau economaidd

20.5% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 0.9 pwynt canran, yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 20.3%, i lawr 0.2 pwynt canran ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 19.4 %, i lawr 0.8 pwynt canran (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru a Chanolbarth a De-orllewin Cymru wedi gostwng yn gyffredinol dros y pedair blynedd diwethaf, tra bod cynnydd wedi bod yng Ngogledd Cymru a De Ddwyrain Cymru.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, y Gogledd fu â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyson o’r tri rhanbarth economaidd tan y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2021 pan gododd y gyfradd yn uwch na chyfradd y De-ddwyrain am nifer o gyfnodau. Y Canolbarth a’r De-orllewin fu â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn ambell gyfnod. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r Canolbarth a’r De-orllewin unwaith eto oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022. Y Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.

Rhesymau am anweithgarwch economaidd

Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl am eu hanweithgarwch economaidd. Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.

Yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a gynyddodd 6.0 pwynt canran dros y flwyddyn i 39.9% o’r holl wrywod economaidd anweithgar.  Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 27.7% o’r holl wrywod economaidd anweithgar, i lawr 3.9 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Image
Mae Siart 7 yn dangos y rhesymau dros anweithgarwch economaidd i ddynion yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf fel siart bar pentwrog a'r gyfradd anweithgarwch economaidd i ddynion dros yr un cyfnod â siart llinell.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020, cwympodd y gyfran hon yn sydyn ond mae wedi dechrau codi eto, hynny efallai oherwydd pandemig coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’.

Yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 29.6% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 3.5 pwynt canran yn y flwyddyn.  Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir yn uwch nawr nag y bu erioed. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi gostwng 0.9 pwynt canran, gan gyfrif am 23.4% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.

Image
Mae Siart 8 yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd i fenywod yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf fel siart bar pentwrog a'r gyfradd anweithgarwch economaidd i fenywod dros yr un cyfnod â siart llinell.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru 

Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)

Cyflogaeth

Y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu medi 2022 oedd 54.5%, i fyny 4.8 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.6%, i fyny 3.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru wedi cynyddu 4.2 pwynt canran yng Nghymru o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol i 53.9%.

Gwelodd menywod ifanc yng Nghymru gynnydd o 5.4 pwynt canran yn eu cyfradd gyflogaeth dros y flwyddyn i 55.1%.

Image
Mae'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol fe’i gwelwyd yn gostwng yn y dirwasgiad a chynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y mae'r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod ac eithrio yn nechrau 2020 lle gwelwyd gostynngiad sylweddol ymhlith dynion.

Data cyflogaeth ar StatsCymru

Diweithdra

8.4% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, i lawr 4.0 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 10.4%, i lawr 2.9 pwynt canran.  Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022 oedd yr isaf erioed ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996.

Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith  menywod yng Nghymru, sef 11.2% a 5.3% yn y drefn honno. Dyma’r gyfradd ddiweithdra isaf ymhlith menywod ifanc yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996, gostyngiad o 5.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Y gwahaniaeth yng nghyfradd ddiweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng y rhywiau oedd 5.9 pwynt canran yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae hyn yn cymharu â 2.9 pwynt canran yn 2001. Y bwlch yn y DU oedd 2.8 pwynt canran, i lawr o 3.1 pwynt canran yn 2001.

Image
Mae'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw ond yn gyffredinol mae wedi gostwng ers y dirwasgiad. Mae'r bwlch rhwng cyfradd dynion a menywod hefyd wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf.

Data diweithdra ar StatsCymru

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 18.5%, i lawr 5.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 18.5%, i fyny 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022 oedd 16.3%, i lawr 6.6 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 21.2% pwynt canran, i lawr 5.1 pwynt canran. Mae’r gyfres hon yn gallu bod yn anwadal a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr.

Image
Yn gyffredinol, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer menywod 16 i 24 oed yng Nghymru wedi gostwng drwy gydol y gyfres. Er hynny, mae'r gyfradd ar gyfer dynion wedi cynyddu'n gyffredinol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019, gostyngodd y gyfradd menywod yn is na'r gyfradd dynion am y tro cyntaf yn y gyfres, ond ers hynny mae wedi cynyddu'n llawer uwch na'r gyfradd ar gyfer dynion.

Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru

Diweithdra hirdymor

Yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, mae’r APS yn amcangyfrif bod 14,600 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith tymor hir (12 mis neu fwy), i lawr 32.5% dros y flwyddyn.

Dyna 30.2% o’r holl bobl fu’n ddi-waith yn y flwyddyn, i lawr 4.2 pwynt canran yn yr un cyfnod. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 26.4%, i lawr 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

Roedd 34.0% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 4.7% pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 30.5% yn y DU.

Roedd 24.8% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 4.3% pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 21.7% yn y DU.

Image
Mae Siart 12 yn dangos bod gan Gymru a'r DU gyfradd ddiweithdra tymor hir cynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel rheol, mae gan Gymru gyfradd ddiweithdra tymor hir uwch na'r DU.

Data diweithdra ar StatsCymru

Statws anabl

48.7% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2022, i fyny 1.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 82.1% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn.

6.4% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i fyny 2.1 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 2.6% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i lawr 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.

Ethnigrwydd

67.2% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, i lawr 1.1 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 73.8%, i fyny 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.

8.7% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, i fyny 1.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 2.9%, y gyfradd isaf ers dechrau cadw cofnodion APS cymharol ym 1998 a gostyngiad o 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS).  Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Yr LFS yw prif ffynhonnell prif ddangosyddion y farchnad lafur o hyd ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis.  Cyhoeddir data diweddara’r LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru.  Yn ogystal, mae’r SYG yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur (Swyddfa Ystadegau Gwladol) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi  trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Mae’r datganiad hwn yn dod â phrif ystadegau’r APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.

Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn ei chymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd  Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru. 

Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r farchnad economaidd a llafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.

Cywirdeb

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae ‘amrywioldeb y samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu amrywioldeb y sampl yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru. 

Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl mwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur. 

Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd ONS set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.

Geirfa

Cyflogaeth

Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflog neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.

Cyfrifir y prif gyfradd gyflogaeth trwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Diweithdra

Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU trwy Arolwg y Gweithlu (LFS) gan ddilyn y diffiniad y cytunwyd arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos ddiwethaf ac ar gael i ddechrau gweithio yn y bythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond ei bod yn aros am gael ei dechrau yn y bythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra trwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.

Anweithgarwch economaidd

Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos ddiwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y bythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra trwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
  • Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
  • Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
  • Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:

  • (21) canran y bobl mewn cyflogaeth

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 14/2023