Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar yr Ardoll Ymwelwyr os ydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos yng Nghymru. Y cynharaf y gall cyngor lleol gyflwyno'r Ardoll Ymwelwyr yw 1 Ebrill 2027.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg 

O 1 Ebrill 2027, gellir cyflwyno ardoll ymwelwyr mewn rhannau o Gymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar gyfer Llywodraeth Cymru.   

Mae’r ardoll yn:  

  • berthnasol i ardaloedd lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno yn unig
  • perthnasol os ydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos 
  • perthnasol i ymwelwyr o unrhyw le yn y byd, gan gynnwys Cymru a'r DU 
  • cael ei thalu i Awdurdod Cyllid Cymru  

Cofrestru eich llety ymwelwyr  

Hyd yn oed os nad yw'ch cyngor lleol yn cyflwyno'r Ardoll Ymwelwyr, rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr yn ôl y gyfraith o hydref 2026 ymlaen.

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr Ardoll Ymwelwyr.  

Sut y bydd cynghorau’n defnyddio'r arian   

Bydd yr arian a godir o'r Ardoll Ymwelwyr yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau twristiaeth lleol, gan gynnwys:   

  • trafnidiaeth gyhoeddus 
  • traethau, strydoedd a mannau gwyrdd 
  • canolfannau ymwelwyr a safleoedd treftadaeth 
  • atyniadau naturiol a diwylliannol 
  • llwybrau troed a thoiledau cyhoeddus 
  • hyrwyddo'r Gymraeg  

Pwy sy’n gorfod talu'r Ardoll Ymwelwyr 

O 1 Ebrill 2027, rhaid i chi dalu'r ardoll os:  

  • yw eich llety mewn ardal lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno 
  • yw unrhyw un o'r archebion rydych chi'n eu derbyn ar gyfer 31 noson neu lai 
  • rydych yn derbyn archebion am arhosiad dros nos mewn llety, megis: 
    • llety hunanarlwyo a mewn cartrefi (gan gynnwys Airbnb neu debyg) 
    • gwestai, tai llety neu wely a brecwast 
    • safleoedd neu leiniau gwersylla 
    • hosteli neu dai bync 
    • carafannau, chalets, cabanau, cytiau bugail, safleoedd glampio neu debyg 
    • llety dros dro ar gyfer digwyddiadau, fel gwyliau

Cyn i'r ardoll ddechrau, bydd eich cyngor lleol yn:  

  • cynnal ymgynghoriad ynglŷn â'i chyflwyno yn yr ardal honno 
  • cyhoeddi adroddiad am eu cynigion 
  • cyhoeddi’r dyddiad y bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr Ardoll Ymwelwyr.   

Pwy sydd ddim yn gorfod talu'r Ardoll Ymwelwyr 

Bydd ond angen i chi dalu’r ardoll ond ydych chi mewn ardal lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno.  

Nid oes rhaid i chi dalu'r ardoll os yw'r arhosiad dros nos ar gyfer rhywun sydd:  

  • dan 18 oed ac yn aros ar safle gwersylla neu mewn ystafell a rennir (fel hostel) 
  • aros mwy na 31 noson o fewn un archeb 
  • aros mewn llety brys neu dros dro a drefnir gan y cyngor lleol

Darperir mwy o ganllawiau ar pryd nad yw'r ardoll yn berthnasol yn nes ymlaen.   

Faint y byddwch yn ei dalu 

Dyma faint y byddwch yn ei dalu i Awdurdod Cyllid Cymru:   

  • 75 ceiniog y pen y noson ar gyfer lleiniau gwersylla neu ystafelloedd a rennir (fel hosteli) 
  • £1.30 y pen y noson ar gyfer pob math arall o lety ymwelwyr  

Sut i dalu'r Ardoll Ymwelwyr 

O 2027 ymlaen, bydd y darparwr llety ymwelwyr yn:     

  • gyfrifol am dalu'r ardoll 
  • gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru i ffeilio ffurflenni a thalu'r ardoll

Ym mha ffordd y mae’r Ardoll Ymwelwyr, cofrestru a thrwyddedu yn wahanol i’w gilydd

Cofrestru llety ymwelwyr:  

  • yn dechrau hydref 2026 
  • yn berthnasol i lety ymwelwyr yng Nghymru, hyd yn oed os nad oes angen iddynt dalu'r ardoll   

Darganfyddwch fwy am gofrestru eich llety ymwelwyr.

Bydd yr Ardoll Ymwelwyr: 

  • ond yn berthnasol i ardaloedd lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno
  • yn dechrau o 1 Ebrill 2027 ar y cynharaf

Mae trwyddedu llety ymwelwyr:   

  • yn ffordd o ddangos bod llety yn bodloni safonau penodol 
  • yn cael ei gynllunio

Nid oes angen trwyddedu llety ymwelwyr ar hyn o bryd.  

Darganfyddwch fwy am gynlluniau ar gyfer trwyddedu llety ymwelwyr. 

Cysylltwch â ni 

I gael cymorth gyda'r Ardoll Ymwelwyr, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.