Neidio i'r prif gynnwy

2. Gwirio a yw cyngor lleol yn codi'r ardoll

Mae rhai o gynghorau lleol Cymru wedi penderfynu codi Ardoll Ymwelwyr.

Gallwch edrych i weld ym mha ardal cyngor lleol mae eich lleoliad.

Cynghorau fydd yn codi'r Ardoll Ymwelwyr

Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn dechrau'r ardoll ar 1 Ebrill 2027.

Yng Nghaerdydd, rhaid i chi ddechrau cyfrif am yr ardoll o 28 Medi 2026.

Cynghorau sy’n ystyried dechrau casglu’r ardoll

Cyngor Sir Ynys Môn

Agorodd Cyngor Sir Ynys Môn ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 18 Mai 2026. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026. 

Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.

Cyngor Sir Conwy

Agorodd Cyngor Sir Conwy ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 20 Mai 2026. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026. 

Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.

Cyngor Sir Gwynedd

Agorodd Cyngor Sir Gwynedd ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar 20 Mai 2026. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 26 Gorffennaf 2026. Bydd y cyngor yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr ar ôl 24 Medi 2026.

Gwiriwch dudalen ymgynghoriad y cyngor am ragor o fanylion ac i ymateb i’r ymgynghoriad.