Neidio i'r prif gynnwys

1. Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr

Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn dreth sy’n cael ei hunanasesu yng Nghymru. 

Caiff ei dalu gan ddarparwyr llety ymwelwyr. 

O fis Hydref 2026, rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr.

Rhaid i chi gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027. Hyd yn oed os nad yw'ch cyngor lleol yn codi Ardoll Ymwelwyr.

Dechrau’r ardoll

Mae cynghorau lleol yn dewis a ydyn nhw am gyflwyno’r ardoll neu beidio. 

Gallant wneud hyn ar 1 Ebrill neu 1 Hydref bob blwyddyn.

Rhaid i gynghorau lleol:

  • ymgynghori â phobl a busnesau lleol
  • cyhoeddi'r ardoll flwyddyn ymlaen llaw

Gallwch edrych i weld pa gynghorau sy'n codi'r ardoll.

Casglu'r ardoll

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu'r ardoll ar ran cynghorau lleol.

Defnyddio arian yr ardoll

Gall cynghorau ddefnyddio'r ardoll i wneud y canlynol: 

  • gwella twristiaeth leol 
  • gwarchod natur a thirnodau 
  • hyrwyddo'r Gymraeg