Neidio i'r prif gynnwy

Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru

Paratowch ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd

Bydd Cyngor Caerdydd yn cyflwyno Ardoll Ymwelwyr o 1 Ebrill 2027. 

Os ydych chi'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, mae angen i chi weithredu cyn 28 Medi 2026. 

Darllenwch y canllaw cyflym i baratoi ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd.

Beth yw Ardoll Ymwelwyr?

Mae Ardoll Ymwelwyr yn dâl ychwanegol ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru. Gall cynghorau benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno ardoll - ond dim ond ar ôl ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol. 

Gallwch wirio pa gynghorau sy'n codi'r ardoll neu'n ymgynghori ar ei chyflwyno

Gall cynghorau ddefnyddio'r ardoll ar gyfer:

  • gwella twristiaeth leol
  • gwarchod natur a thirnodau
  • hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Os yw cyngor yn penderfynu codi'r ardoll, rhaid iddyn nhw greu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr gyda sefydliadau twristiaeth lleol. Mae'r fforwm hwn yn cynghori'r cyngor ar sut i ddefnyddio arian yr ardoll. Dysgwch fwy am sut y gall cynghorau ddefnyddio’r Ardoll Ymwelwyr

Pwy sy'n talu'r ardoll?

Darparwyr llety ymwelwyr sy’n gyfrifol am dalu’r Ardoll Ymwelwyr. Byddan nhw’n talu'r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.

Gall darparwyr:

  • ddewis amsugno costau’r ardoll 
  • trosglwyddo costau'r ardoll i ymwelwyr

Dyma pam y byddwch efallai’n gweld yr ardoll yn cael ei hychwanegu at eich bil llety.

Darllenwch fwy o ganllawiau am yr Ardoll Ymwelwyr os ydych chi'n ddarparwr llety yng Nghymru.

Faint yw'r ardoll?

Cyfradd is o 75 ceiniog

Telir 75 ceiniog y pen y noson am:

  • ystafelloedd i’w rhannu mewn hosteli, tai bync, bothies neu ystafelloedd cysgu
  • lleiniau ar gyfer pebyll (gan gynnwys y rhai dros dro ar gyfer digwyddiadau a gwyliau)

Nid yw'r gyfradd hon yn berthnasol i blant o dan 18 oed.

Cyfradd uwch o £1.30

Telir £1.30 y pen y noson ar gyfer pob math arall o lety.

A yw ymwelwyr yn gallu cael ad-daliadau?

Gall ymwelwyr wneud cais am ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru ar ôl eu harhosiad os, ar adeg eu harhosiad roedden nhw’n:

  • aros fel gofalwr sy'n gofalu am berson anabl
  • digartref dros dro yn ystod cyfnod yr arhosiad
  • ffoi rhag niwed neu drais domestig

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau am ad-daliadau ymwelwyr cyn Ebrill 2027. 

Rhagor o wybodaeth

Dewch o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru.